a1
Ⓗ 1937 Ieuan Griffiths
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Prynhawn tua dechrau'r haf yw hi. Y mae MARI wrthi yn glanhau esgidiau. Benyw ganol oed yw, wedi gweld llawer tro ar fyd a'i gwallt wedi gwynnu. Er hynny, y mae'n eithaf heini, ac nid yw wedi rhoi i fyny'r ysbryd. Eistedd ar stôl isel rhwng y bwrdd a'r lle tân. O'i hamgylch y mae dau neu dri phâr o esgidiau. Ar ôl ennyd, egyr y drws, a gesyd IFAN er ben i mewn. Dyn canol oed yw yntau hefyd, ond nid yw'r byd a'i ofidiau wedi menu cymaint arno ef ag ar MARI. Dyn o gymeriad gwan yw ef. Gwêl MARI, ac y mae yn diflannu pan gyfyd hi ei phen i'w weld ef. Sieryd MARI ar unwaith.

Mari

Hei! (Daw pen IFAN i'r golwg unwaith eto.) Mae dy eisiau arnaf i. Ble diflannaist ti ar ôl cinio?

Ifan

Dim ond lawr i'r sgwâr (Yn dod ymlaen ychydig.)

Mari

I'r sgwâr! Beth wnait ti heb y sgwâr annuwiol yna? 'Rwyt wedi bod yn sefyll yno am dair neu bedair awr bob dydd ers pum mlynedd. Ac fel pe na bait wedi gweld popeth sydd yno i'w weld gannoedd miloedd o weithiau, rhaid i ti redeg yno bob tro y cei di fy nghefn i o hyd.

Ifan

Ble arall y gallaf i fynd? Wyt ti'n meddwl yr awn i yno petai gen i rywle arall i fynd iddo? (Yn dod at y bwrdd.)

Mari

Beth petawn i yn dechrau mynd i helpu dal i fyny cornelau'r sgwâr? Beth petai gwragedd y dynion yna sy'n sefyll y rhan orau o'u hoes yno yn penderfynu cael sgwâr iddynt eu hunain i wastraffu'u hamser ynddi?

Ifan

O gad hi, Mari! Gad hi nawr! (Yn taflu ei het ar y bwrdd.) 'Chei di ddim gwaith i fi wrth ddefnyddio dy dafod ac edliw hen bethau fel hyn drosodd a throsodd; nid arna i mae'r bai fy mod i allan o waith. (Yn cydio mewn papur newydd a'i agor.)

Mari

Nac arna innau chwaith! Ond fe allaf ffeindio gwell gwaith i ti na sefyllian ar yr hewl fawr. Mae 'nhad yn yr ardd yn ceisio priddo'r tato. 'Oes dim cywilydd arnat ti ei weld e wrthi, a thithau'n rhy ddiog i roi hyd yn oed help llaw iddo?

Ifan

Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely.

Mari

'Does fawr o berygl yr ei di'n ddiflas wrth weld gwaith yn cael ei orffen. Na minnau chwaith! (Cyfyd.) Hwre, gorffen y sgidiau yma. Mae eisiau mynd i orffen y llofft arnaf fi.

Ifan

Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma.

Mari

Fe fydd yn ddigon clau i ti weld Wat p'nawn fory, a phetait ti heb ei weld e am chwe mis, 'fyddai hynny ddim colled i ti. Hwre, sgidiau chi'r dynion ydyn nhw─sgidiau 'nhad i fynd i'r seiat nos yfory, dy sgidiau di wedi bod yn y rasis neithiwr, a sgidiau Gwilym─Duw a ŵyr ble buodd e! Ond 'does dim pâr i mi yma─'dydw i ddim yn debyg o lychwino pâr wrth fynd i unman; hyd yn oed petai gen i bâr digon da i fynd.

Ifan

A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna?

Mari

Na, wna i ddim dal fy nhafod. 'Rydw i wedi cael digon ar fy mherfedd ar geisio cadw tŷ i dri dyn─un yn rhy hen i weithio, un yn methu â chael gwaith─meddai fe...

Ifan

(Yn taflu'r esgid a oedd yn ei law i lawr.) Fe wyddost cystal â minnau nad oes dim gwaith i'w gael yn y lle yma. Mae yma gannoedd yr un peth â mi─'rydw i'n cael y dôl, ond ydw i?

Mari

Wyt. Ti sy'n ei gael fwyaf─ti a'r cŵn!

Ifan

Nawr, Mari. 'Dwyt ti ddim i fod i ddechrau ar fusnes y cŵn yna eto. Mae hawl gan ddyn i gael tipyn o bleser yn ei fywyd, ac os ydw i'n ei gael wrth roi ambell swllt ar y cŵn... Oni enillais i goron yr wythnos cyn y diwetha?

Mari

A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha?

Ifan

Fe gaf rheini'n ôl i gyd nos yfory. Dyna pam yr wyf am weld Wat. (Yn cydio yu yr esgid eto.)

Mari

Petait ti'n gweld tipyn yn llai o Wat, fe fyddai'n bywyd ni yma gryn dipyn yn frasach.

Ifan

(Yn taflu'r esgid a chodi'n wyllt.) O, 'rydw i'n mynd 'nôl i'r sgwâr, allan o'r cintach tragwyddol yma... (Yn cydio yn ei het.)

Mari

(Yn dod 'nôl at y bwrdd.) le, cerdd, i ganol y rheps yna! Dyna lle mae dy galon di nawr. Beth ddwedai dy dad pe gwelai ei fab yn cymysgu â'r set sy'n byw ar rasis milgwn a rasis ceffylau─fe, fu'n eistedd yn sêt fawr y Tabernacl am ddeugain mlynedd!

Ifan

Beth gwell wyt ti o daflu hynny i'm hwyneb i o hyd? Petai gwaith yn dod i'r Cwm yma eto, fe wellai pethau ar unwaith...

Mari

Ac fe roddit heibio'r milgwn a mynd 'nôl i'r Tabernacl unwaith eto? Gwyn fyd na ddigwyddai'r wyrth honno! Wel, 'rwy'n mynd i'r llofft, 'chaf fi ddim dôl i 'nghadw i fynd nes digwydd y wyrth, ac os wyt ti am sgidiau glân, paid â mynd 'nôl i'r sgwâr cyn eu glanhau.



Allan i'r dde. Daw IFAN ymlaen yn araf at y bwrdd; gwisg y ffedog; eistedd a dechrau i lanhau'r esgidiau. Erys. Tynn ei bib o'i logell, gwthia'r tipyn lludw sydd ynddi i mewn â'i fawd, a cheisia ei chynnau. Cnoc ar y ffenestr; pen WAT i'w weled yno. Amneidia IFAN arno i ddod i mewn trwy'r cefn. Â ymlaen â'r glanhau sgidiau wedi i WAT ddod i mewn. Dyn canol oed yw WAT; bu unwaith yn weithiwr caled, ond ar filgwn a betio y mae ei fryd yn awr. Arbenigion ei wisg yw cap ar ochr ei ben, a mwffler gwyn, mwy neu lai.

Ifan

Paid â siarad yn uchel. Mae Mari ar y llofft─yn un o'i hwyliau. Efallai y byddai'n well i ti fynd; fe ddof i lawr i'r sgwâr cyn gynted ag y gallaf heb i Mari fy ngweld.

Wat

'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri. Ble mae Gwilym?

Ifan

'Wn i ddim; mae e'n arfer dod i mewn tua phedwar i gael ei de.

Wat

'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus?

Ifan

Mae'n bosib ei fod yn yr offis fach yna sy' gan Hopkins yn y Billiard Hall, ond 'elli di byth a bod yn siŵr ble bydd e. I beth wyt ti am ei weld e?

Wat

(Yn edrych o'i gwmpas.) 'Elli di gadw secret? Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof.

Ifan

Beth sy'n bod?

Wat

Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y Silver Cup yn Nhreharri nos yfory? (Yn eistedd wrth y bwrdd.)

Ifan

Gwyddwn. 'Rown i'n meddwl gofyn i ti a allwn i fentro rhoi swllt arno.

Wat

Swllt! Os galla i gael pethau fel rwy' am, fe elli fentro rhoi dy grys arno. Dyna paham yr wyf am dy help di.

Ifan

Beth alla i wneud?

Wat

Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff. Nawr, dim ond y ci cythrel yna sydd gan Hopkins sydd arna i ofn. Rhaid i Gwilym wneud yn siŵr na fydd hwnnw ar ei orau. Fe ŵyr sut. Ac yna fe elli di a minnau, a Gwilym o ran hynny, wneud ffortiwn yn olreit.

Ifan

(Yn codi.) Ond 'wnaiff Gwilym ddim o hynny.

Wat

Pam lai? Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo.

Ifan

Rhaid i ti ei weld dy hunan. Efallai y gwnaiff e hyn os gofynni di iddo; (yn cerdded i'r chwith) fentra i ddim... (Try yn-ôl.) Ti wyddost dy fod yn torri'r gyfraith?

Wat

Torri'r gyfraith i gythrel! Nid dyma'r tro cynta i ti na minnau wneud arian wrth wneud hyn. Faint o arian sy' gen ti wrth law?

Ifan

Does gen i 'run geiniog nawr─'does gen i ddim digon i gael dybaco heddiw. Dere â blewyn os oes peth gen ti? Fentra i ddim gofyn i Mari pan fydd yn ei hwyliau. (War yn estyn ei focs dybaco.) Efallai y gallaf gael gafael ar hanner coron erbyn fory.

Wat

Hanner coron! Dyma dy gyfle di, fachgen─cyfle na weli di mo'i debyg eto─fe gei 6 to 1 yn erbyn fy nghi i hyd nes y daw'r hanes allan nad yw ci Harri yn treio. A mae Harri wedi addo cadw'r peth yn ddistaw. Mae yntau hefyd am wneud ceiniog. Fe ddylit roi pum punt o leiaf.

Ifan

Pum punt! Ble ar y ddaear hon wyt ti'n feddwl y gallaf ì gael gafael ar bunt, heb sôn am bum punt?

Wat

Dy fusnes di yw hynny. Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed.

Ifan

Ust! Paid â chodi dy lais! Fe glyw Mari.

Wat

'Rwy'n mynd. Cofia, 'rwy'n dibynnu arnat ti i setlo Gwilym. Dyna dy siâr di o'r fargen.

Ifan

Ond beth os na wnaiff e?

Wat

Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian. Paid â bod mor ddwl─mae e wedi bod yn glerc i Hopkins am ddigon o amser i ddysgu'r gêm i gyd. (Yn codi.) Mae e'n wahanol i ti. Y peth sy'n rhyfedd amdanat ti yw bod dy wreiddiau di yn y capel o hyd─yn methu anghofio dy fod wedi dy fagu yn y Band of Hope a'r seiat─a ffat lot o les mae nhw wedi bod i ti. 'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl?

Ifan

'Dydw i ddim yn hoffi dy glywed di'n siarad fel yna, Wat. Wedi'r cwbl...

Wat

Nagwyt, mi wn. Wel, os yw'n well gen ti, gwaria dy arian ar gadw pregethwyr a ffeiradon neu'r bobl yna sydd ar hyd y lle yma yn ceisio gwneud beth mae nhw'n alw'n Social Service. Social Service, myn uffern i! 'Dyw'r bobl yna ddim yn gwybod beth yw bod yn social. Mae'n well gen i gadw milgi.



Daw MARI i mewn, ac y mae IFAN yn ailgydio yn yr esgidiau.

Mari

Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yma? Gellid meddwl bod yma ddechrau diwygiad wrth glywed yr holl bregethu.

Wat

Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes.

Mari

Rhyw sgêm newydd neu'i gilydd sut i wneud arian! Neu'n i tebyg sut i gael ffyliaid i golli arian, ac Ifan i fod yn un o'r ffyliaid.

Wat

Os dilynith e fy nghyngor i...

Mari

Os difynith e dy gyngor di, fe fydd arian y dôl i gyd ym moliau'r milgwn cyn i mi weld yr un ddimai ohonynt. War (Yn ceisio bod yn ddifyrrus.) Nawr, nawr, Mrs. Hughes, fel pob menyw arall, 'dydych chi ddim yn gwybod beth yw sport. Fe wn beth yw sport dy siort di'yn iawn.



Daw GWILYM i mewn yn frysiog o'r dde. Tua dwy neu dair-ar-hugain yw ei oed, ac y mae yn fachgen digon lluniaidd ei olwg a'i osgo; eithr arwynebol yw ei wybodaeth am bopeth ar wahân i bleser a gamblo. Gesyd bapurau o'i law ar y dreser.)

Mari

Gwilym, beth wyt ti'n wneud adre nawr?

Gwilym

Dim ond newid. Rwy'n mynd i lawr i Lanmorfa. O, 'oes crys glân i mi ar y llofft, mam?

Mari

Oes, yn y dodrefnyn. Beth sy'n mynd â thi i Lanmorfa?

Gwilym

Dim ond dreifio Mrs, Hopkins i lawr...

Wat

Y clerc yn actio fel chauffeur, ai e? Ond cyn i ti fynd i newid, Gwilym, dere lawr yr hewl gen ì am funud. 'Rwy'n gorfod dal y bus tri, a rwy' am dy weld di.

Gwilym

'Does gen i ddim amser nawr, Wat. Bory 'fory.! 'Ydych chi wedi glanhau'n sgidiau i, 'nhad?

Mari

Fe'u glanhaf i nhw. Cerdd o'r ffordd, Ifan. (Yn gwthio IFAN o'r stôl ac ail-ddechrau ar yr esgidiau.)

Wat

Mae'n rhaid i mi dy weld nawr, Gwilym. 'Wnaiff hi ddim o'r tro bore 'fory. 'Fyddi di ddim munud, a 'fyddi di ddim ar dy golled. Fe all dy feistres aros munud i ti.



Cydia yn ei ysgwydd, a thywys ef at y drws de. Ânt allan, a MARI yn edrych ar eu hôl.

Mari

Pa sgêm o waith yr hen fachgen sydd gan Wat heddiw?

Ifan

'Wn i ddim.

Mari

'Ddwedi di ddim, wyt ti'n feddwl! Os ydw i'n nabod rhywbeth o'r dyn yna, y mae'n mynd ar ei ben i drwbwl, ac os gallaf fi help, 'chaiff e ddim mynd â thi a Gwilym gydag e.

Ifan

Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari...

Mari

Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw.

Ifan

'Dydy e'n gwneud dim...

Mari

Mae e'n gallu dy dwyllo di, a llawer eraill hefyd, fel y myn. Pesgi ar wendidau pobl sydd allan o waith! Fe a'i sort─a Hopkins hefyd, o ran hynny.

Ifan

Paid â dweud dim am Hopkins...

Mari

O, fe wn bod Gwilym yn lwcus i gael job gydag e, a gwaith mor anioddefol o brin. A dim ond Gwilym sy'n dod ag arian i'r tŷ...

Ifan

Beth am fy nôl i?

Mari

le, a phensiwn tadcu! Fe fyddwn lot yn frasach o'r ddau swm anferth yna, oni fuaswn?─yn ceisio cadw digon o fwyd i lanw boliau'r tri ohonoch a chael peth yn sbâr i minnau! Ond petawn i'n gallu cael job gwell i Gwilym, fe gâi ymadael â Hopkins yfory. I ddweud y gwir wrthyt, 'dydw i'n hoffi dim o'r ffordd y mae Mrs. Hopkins yn mynnu cael cwmni Gwilym ar unrhyw esgus. 'Dydy e ddim yn iawn i fenyw briod i redeg o amgylch gyda chrwt ifanc.

Ifan

'Rwyt ti'n mynd ormod i'r pictiwrs, Mari─dyna beth sy'n bod arnat ti. Maen' nhw'n cynhyrfu dy ddychymyg di.

Mari

Pictiwrs neu beidio, 'thrystiwn i 'mo gwraig Hopkins rownd i'r cornel, petawn i yn ei le ' fe... Ond wrth bob hanes, mae yntau yn gallu cysuro ei hunan yn burion.



Cnoc ar y drws, a daw MORFUDD i mewn. Merch ifanc brydferth wedi gwisgo'n ddeniadol.

Morfudd

A oes rhywun yma? Hylo! 'Dyw Gwilym ddim wedi dod adre eto, ydy e?

Mari

Mae e wedi mynd lawr yr hewl gyda Wat; fe ddaw 'nôl mewn munud. Peth od na welaist ti nhw.

Morfudd

Mae e adre'n gynnar heddiw.

Mari

'Dydy e ddim wedi gorffen eto. Rhaid iddo fynd i lawr i Lanmorfa─dim ond dod adre i newid wnaeth e.

Morfudd

I Lanmorfa?

Mari

Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins...

Morfudd

Ond 'roedd e wedi addo dod i chwarae tennis gen i heno. Dyna i beth yr oeddwn i'n galw nawr─i ddweud bod Jim a Nansi yn dod i gwrdd â ni am chwech.

Mari

Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl.

Morfudd

Ond 'roeddem ni wedi trefnu tennis gogyfer â heno ers diwrnodau!

Mari

Paid â meio i. Fe gei siarad ag ef dy hunan pan ddaw i mewn. Cerdd â'r sgidiau yma i'r gegin fach, Ifan, a cherdd i ddweud wrth tadcu ei bod yn well iddo roi'r gorau iddi am dipyn nawr.



Exit IFAN.

Morfudd

Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos.

Mari

Ni all Gwilym ei hosgoi yn dda iawn─rhaid iddo feddwl am ei job. 'Dydyn nhw ddim mor aml ffordd hyn nawr â mwyar duon yn yr hydref.

Morfudd

Nid am fod yn gi bach iddi hi mae e'n cael ei dalu; er mae'n ddigon posib bod Hopkins yn falch ei chadw hi'n gontented tra bo yntau'n chwilio mêl ffordd arall.



Daw Gwilym i mewn yn frysiog.

Gwilym

(Ar unwaith.) O Morfudd, mae'n ddrwg gen ni na alla'i chwarae tennis heno. 'Rown i'n meddwl anfon neges i ti nawr.

Morfudd

Er mwyn i Agnes Hopkins gael dy arwain di rownd ar y lead!

Gwilym

Alla i ddim help. Fe all mam ddweud...

Mari

Cwerylwch eich hunain; 'rwy'n gorfod gwthio fy mhig i mewn i ddigon o gwerylon heb feddwl am ymyrryd yn eich rhai chi. 'Rwy'n mynd lan i'r llofft i roi digon o le i chi. (Â allan.).

Gwilym

'Wyddwn i ddim hyd y p'nawn yma y byddai'n rhaid i mi fynd.

Morfudd

Rhaid i ti fynd!

Gwilym

Wrth gwrs bod rhaid i mi fynd. 'Rwy'n cael lot o amser yn rhydd gyda Hopkins, a'r peth lleiaf allaf wneud yw dreifio'r car i Mrs. Hopkins.

Morfudd

Mrs. Hopkins, ai e? 'Dwyt ti ddim yn ei galw'n Agnes eto.



[Rhagor o destun i'w ychwanegu]



a1