| (Emyn) 732 (Caneuon Ffydd) | |
| (Emyn) [Elfed] | |
| (1, 6) 162 | Mam? | 
| (Kitty) Ie? | |
| (1, 6) 165 | Fyn'na y'ch chi. | 
| (Kitty) Ble wyt ti'n disgwyl i fi fod? | |
| (Kitty) Ddô'i mewn 'wan. | |
| (1, 6) 169 | Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag. | 
| (Kitty) Beth! | |
| (Kitty) Allu di ddim mynd heb fwyd. | |
| (1, 6) 172 | Dwi wedi b'yta. | 
| (Kitty) Rhaid i ti f'yta. | |
| (Kitty) Rhaid i ti f'yta. | |
| (1, 6) 174 | Dwi wedi, Mam. | 
| (Kitty) Labro drw'r dydd. | |
| (Kitty) Sdim mynd heb fwyd i fod. | |
| (1, 6) 177 | Mam – er mwyn popeth – dwi wedi b'yta. | 
| (1, 6) 178 | Iawn? | 
| (Kitty) Pryd? | |
| (Kitty) Pryd? | |
| (1, 6) 180 | Gynne. | 
| (1, 6) 181 | Oedd popeth ar y ford 'fo chi. | 
| (Kitty) O. | |
| (Kitty) A fe f'ytes di heb aros amdana'i. | |
| (1, 6) 184 | Ma' hast arna'i, Mam. | 
| (1, 6) 185 | Wedes i wrthoch chi bore 'ma. | 
| (Kitty) Ie-ie. | |
| (Kitty) Paid adel i fi fod yn fwy o rwystr i ti. | |
| (1, 6) 191 | Mam, chi'n gw'bod fel ma'r plas 'na. | 
| (1, 6) 192 | Dim ond heno s'da hi tan duw-a-ŵyr pryd. | 
| (Kitty) Ie. | |
| (Kitty) Fel wyt ti'n gw'bod yn iawn. | |
| (1, 6) 196 | Fi'n gw'bod, fi'n gw'bod. | 
| (1, 6) 197 | Ond... | 
| (Kitty) O, cer er mwyn popeth. | |
| (Kitty) Bydd raid i fi unwaith briodi di'r lodes 'na. | |
| (1, 6) 203 | Sdim sôn am briodi, Mam. | 
| (Kitty) Ifan-John bach, sdim ise dim 'sôn' oes-e? | |
| (Kitty) Pan fydd raid, bydd raid. | |
| (1, 6) 206 | S'o Mati'r fath hynny o ferch. | 
| (Kitty) Nagyw. | |
| (Kitty) Wrth gwrs nag yw hi. | |
| (1, 6) 209 | Dyw hi ddim! | 
| (Kitty) Na. – | |
| (Kitty) A ti? | |
| (1, 6) 212 | Mam? | 
| (1, 6) 213 | Be' sy'n bod heno nawr? | 
| (Kitty) Dim. | |
| (Kitty) Gofynnes di hanes y Gerlan wedyn? | |
| (1, 6) 218 | Naddo. | 
| (Kitty) Ifan-John! | |
| (Kitty) Ifan-John! | |
| (1, 6) 220 | Ges i ddim cyfle, Mam. | 
| (1, 6) 221 | 'Sbyth cyfle. | 
| (Kitty) Nagoes. | |
| (Kitty) Wyt ti am sefyll yn was bach i Mister Hollbwysig Morris am weddill dy oes? | |
| (1, 6) 228 | Dwi'n was mawr, Mam. | 
| (1, 6) 229 | Ddim gwas bach. | 
| (Kitty) Gwas mawr, gwas bach. | |
| (Kitty) Gwas yw gwas a mistir yw mistir. | |
| (1, 6) 233 | Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas. | 
| (Kitty) Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag. | |
| (Kitty) Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag. | |
| (1, 6) 235 | Dim os fedra'i osgoi. | 
| (Kitty) Ie. | |
| (Kitty) Bachan mawr – tu ôl 'i gefen! | |
| (1, 6) 239 | Dwi'n mynd. | 
| (Kitty) Ie. | |
| (Bachgen 3) 'Wel' 'wedodd e. | |
| (1, 9) 343 | Wel? | 
| (Bachgen 4) Wel, Ifan-John, Tŷ Capel... | |
| (Bachgen 1) Pryd? – Te? | |
| (1, 9) 377 | Cyn bo hir. | 
| (Bachgen 4) Cyn bo hir! | |
| (Y Pedwar) Yr eiliad hon? | |
| (1, 9) 384 | Cyn bo hir, wedes i. | 
| (Bachgen 1) Cyn bo hir! | |
| (Bachgen 1) Gw'bod yn iawn. | |
| (1, 9) 406 | Falch clywed. | 
| (Bachgen 2) Gwed te... | |
| (Bachgen 4) Sy'n... | |
| (1, 9) 411 | Y'n nala i 'nôl? | 
| (Y Pedwar) Ie! | |
| (Dafydd) Ifan-John! | |
| (1, 10) 418 | Dafydd. | 
| (Dafydd) Dyw hi ddim yn dod. | |
| (Dafydd) Swper a... | |
| (1, 10) 423 | Boi recriwtio? | 
| (Dafydd) O, ie-ie. | |
| (Dafydd) Wedes i weden i wrthot ti. | |
| (1, 10) 428 | O'dd hi ddim yn hapus, debyg. | 
| (Dafydd) Na. | |
| (Dafydd) Ond wedyn... | |
| (1, 10) 431 | Ie. | 
| (1, 10) 432 | Wi'n gwbod. | 
| (Dafydd) Ryw neges i fynd 'nôl? | |
| (Dafydd) Ryw neges i fynd 'nôl? | |
| (1, 10) 435 | Na. | 
| (1, 10) 436 | Dim. | 
| (1, 10) 437 | Ti'n mynd 'nôl 'wan? | 
| (Dafydd) Na. | |
| (Dafydd) Beth amdanat ti? Be'ti'n mynd i 'neud 'wan? | |
| (1, 10) 444 | Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam. | 
| (Dafydd) O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella? | |
| (Dafydd) O, ie. Siwt mae dy fam? Gwella? | |
| (1, 10) 446 | Gwella? | 
| (Dafydd) Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi? | |
| (Dafydd) Oedd hi ddim yn rhy dda wythnos ddiwetha', oedd-hi? | |
| (1, 10) 448 | Nagoedd-hi? | 
| (Dafydd) O – wel, falle mai galw ar ryw neges ambiti'r capel wna'th Dad te. | |
| (Dafydd) Anghywir, fel arfer. | |
| (1, 10) 452 | Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny. | 
| (1, 10) 454 | Ymddiheuro drwy'r amser. | 
| (1, 10) 455 | Am ddim rheswm. | 
| (1, 10) 456 | Dim fel arfer. | 
| (Dafydd) Ie, wel. | |
| (Dafydd) Ti yw'r cynta' i w'bod, ti'n gw'bod. | |
| (1, 10) 460 | Gw'bod beth, Dafydd? | 
| (Dafydd) Dwi'n mynd i fynd. | |
| (Dafydd) Dwi'n mynd i fynd. | |
| (1, 10) 462 | Mynd? | 
| (Dafydd) Ti'n gw'bod ble. | |
| (Dafydd) Ti'n gw'bod ble. | |
| (1, 10) 464 | Dafydd! | 
| (1, 10) 465 | Ti! | 
| (Dafydd) Ie. | |
| (Dafydd) Mister Gwerth-dim-byd-i-neb. | |
| (1, 10) 469 | Mister Gwerth-dim-byd-i... | 
| (1, 10) 470 | Wyt ti'n sgolor, 'chan. | 
| (1, 10) 471 | Yn y coleg. | 
| (1, 10) 472 | Mynd yn athro. | 
| (1, 10) 473 | Prifathro, siŵr o fod. | 
| (1, 10) 474 | 'Sdim ise i ti fynd. | 
| (1, 10) 475 | 'Sneb yn disgwyl i ti fynd. | 
| (1, 10) 476 | Ti ddim y teip i fynd. | 
| (Dafydd) Nagw. Wi'n gw'bod. | |
| (Dafydd) Nagw. Wi'n gw'bod. | |
| (1, 10) 478 | Wel pam gythrel!... | 
| (Dafydd) O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac. | |
| (Dafydd) O'n i'n gw'bod byddet ti'n grac. | |
| (1, 10) 480 | Wi ddim yn grac. | 
| (1, 10) 481 | Wi'n... | 
| (Dafydd) Wyt, Ifan-John. | |
| (Dafydd) Wyt ti'n grac. | |
| (1, 10) 484 | Ie. | 
| (1, 10) 485 | O-reit. | 
| (1, 10) 486 | Falle mod i. | 
| (1, 10) 487 | Ond... | 
| (1, 10) 488 | Beth ma' hwn ambiti? | 
| (1, 10) 489 | Achos dy dad, ife? | 
| (1, 10) 490 | Fe sy'n pwyso? | 
| (1, 10) 491 | O'n i'n meddwl bod e ddim yn pwyso. | 
| (Dafydd) Dyw e ddim. | |
| (Dafydd) Dyw e ddim. | |
| (1, 10) 495 | Wel mae'n pwyso ar bawb arall. | 
| (Dafydd) Odi. | |
| (Dafydd) Hollol. | |
| (1, 10) 501 | O. | 
| (1, 10) 502 | Mi wela' i. | 
| (1, 10) 504 | Wyt ti wedi gweud wrtho 'to? | 
| (Dafydd) Dad? | |
| (Dafydd) Dad? | |
| (1, 10) 506 | Ie. | 
| (Dafydd) Na. | |
| (Dafydd) Naddo. | |
| (1, 10) 509 | Bydd hynny'n werth ei weld. | 
| (1, 10) 510 | Gweld ei ymateb. | 
| (1, 10) 512 | Beth am dy fam? | 
| (Dafydd) Dwi heb weud wrth neb. | |
| (Dafydd) Dim ond ti. | |
| (1, 10) 515 | Gwd. | 
| (1, 10) 516 | Paid. | 
| (1, 10) 517 | Weda'i ddim gair. | 
| (1, 10) 518 | Bydd neb ddim callach. | 
| (Dafydd) Mi fydda' i. | |
| (1, 10) 521 | Dafydd, Dafydd... | 
| (Dafydd) Taw pia hi, Ifan-John. | |
| (Dafydd) Dwi wedi penderfynu. | |
| (1, 10) 527 | Wyt. | 
| (1, 10) 528 | Mi wyt ti, ond-wyt-ti. | 
| (1, 10) 530 | Pryd te? | 
| (1, 10) 531 | Pryd wyt ti'n mynd? | 
| (Dafydd) Yr... yr un pryd â thi? | |
| (Dafydd) Wyt ti wedi gweud 'tho hi 'to? | |
| (1, 10) 536 | Ddim 'to. | 
| (Dafydd) O. | |
| (Dafydd) Ow'n i'n meddwl bo' ti'n meddwl gweud 'tho hi wythnos ddiwetha'. | |
| (1, 10) 539 | Ie. | 
| (1, 10) 540 | Ow'n i wedi meddwl. | 
| (Dafydd) O. | |
| (Dafydd) Ond wnes di ddim. | |
| (1, 10) 543 | Naddo. | 
| (1, 10) 544 | Wnes i ddim. | 
| (Dafydd) Ond...wel... wyt ti'n dal... | |
| (Dafydd) Ond...wel... wyt ti'n dal... | |
| (1, 10) 547 | Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd. | 
| (1, 10) 548 | Wi wedi gweud 'ny ers y cychwyn cynta'. | 
| (1, 10) 549 | Cyn i John Cwm Bach a Meical Fallon a'r bois 'na i gyd fwrw gered. | 
| (1, 10) 550 | 'Mhell cyn 'ny. | 
| (Dafydd) Sori, Ifan-John. | |
| (Dafydd) Sori, Ifan-John. | |
| (1, 10) 552 | Mowredd y byd! | 
| (1, 10) 553 | Co ti 'to. | 
| (1, 10) 554 | Ymddiheuro. | 
| (Dafydd) Odw. | |
| (Dafydd) Am dy... | |
| (1, 10) 558 | Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud. | 
| (1, 10) 559 | Amhosib. | 
| (1, 10) 560 | Bob tro dwi'n eistedd wrth y ford swper 'na. | 
| (1, 10) 561 | Bob tro. | 
| (1, 10) 562 | Meddwl: dwi'n mynd i weud heno. | 
| (1, 10) 563 | Dwi'n mynd i. | 
| (1, 10) 564 | A wedyn mae'n gweud rhywbeth. | 
| (1, 10) 565 | Rhyw stori ambiti hi'n ferch ifanc. | 
| (1, 10) 566 | Neu ryw hanner stori mae hi wedi clywed am ffarm fydd yn dod yn rhydd a bod Pryse yn whilo am fachgen ifanc, rhywun â syniadau yn ei ben – fydd yn gallu 'neud rhywbeth o'r lle. | 
| (1, 10) 567 | Rhywun 'nunion fel fi, wrth gwrs. | 
| (1, 10) 568 | Yn union fel fi! | 
| (1, 10) 569 | Mam fach! | 
| (Dafydd) Ond dim ond ti sydd gyda hi, Ifan-John. | |
| (Dafydd) Ontife. | |
| (1, 10) 573 | O ie. | 
| (1, 10) 574 | Dim ond fi! | 
| (1, 10) 578 | A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl. | 
| (Emyn) 735 (Caneuon Ffydd) | |
| (1, 12) 610 | Ie, Mam. | 
| (1, 12) 612 | Mam... | 
| (Mam) {Ar ei draws.} | |
| (Mam) Y tato 'ma sydd ar ôl. | |
| (1, 12) 617 | Mam, dewch 'ma am funud. | 
| (Mam) Fydda'i ddim yn hir nawr. | |
| (Mam) Fydda'i ddim yn hir nawr. | |
| (1, 12) 619 | Na. | 
| (1, 12) 620 | Nawr, Mam – plîs. | 
| (Mam) Be' sy'n bod arnat ti, grwt. | |
| (Mam) Ma' popeth biti bod yn barod. | |
| (1, 12) 623 | Na-na-na. | 
| (1, 12) 624 | Nawr. | 
| (Mam) Ifan-John! | |
| (1, 12) 627 | Er mwyn popeth! | 
| (1, 12) 628 | Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud! | 
| (1, 12) 631 | Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud! | 
| (Llais) Si hei lwli 'mabi, | |
| (Llais) Pwy yw Brenin y gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd. Efe yw Brenin y gogoniant. | |
| (1, 15) 769 | Mae popeth gen' i, Mam... | 
| (1, 15) 770 | Odw, dwi'n siŵr... | 
| (1, 15) 771 | Bydd inc yn y baracs... | 
| (1, 15) 772 | Oedd hi'n gweud yn y papurach ges i. | 
| (1, 15) 773 | Dangoses i chi... | 
| (1, 15) 774 | Odw, dwi'n siŵr... | 
| (1, 15) 775 | Ie, ond beth os torrith y botel – y caead yn dod yn rhydd... | 
| (1, 15) 776 | Odi ma'r ffownten pen gen i... | 
| (1, 15) 777 | Yr un ges i 'da Dad-cu... | 
| (1, 15) 778 | Yr un gore, ie... | 
| (1, 15) 779 | Gwnaf, Mam... | 
| (1, 15) 780 | Odw, dwi'n gw'bod... | 
| (1, 15) 781 | Drychwch, ma' rhaid i fi fynd. | 
| (1, 15) 782 | Ma' rhaid... |