Y Sosban

Cue-sheet for Inspector

(Robin) Ac yn fwy na hynny mae'r achos hwn yn garreg filltir yn hanes brwydr yr unigolyn.
 
(Siopwraig) Yn eisiau, llanc cryf, gweithgar sy'n medru reidio beic a darllen.
(1, 0) 422 Yn eisiau, gofalwr tai bach yng nghyfleusterau cyhoeddus y dre'.
(1, 0) 423 Rhaid iddo fod yn gyfarwydd a glanhau, newid papur a delio ag unrhyw fandaliaeth.
(1, 0) 424 Ni fydd cyflog ond dylai'r gofalwr wneud ceiniog go lew o gael tips gan ymwelwyr.
(1, 0) 425 Yn eisiau, gofalwr tai bach...
(Sami) {Sydd wedi symud ati hi erbyn hyn.}
 
(Sami) Tybad fedrwch chi ddeud wrtha i...
(1, 0) 428 Helo, ymgeisydd ar gyfer y swydd ia?
(Sami) Ia, dyna chi.
 
(Sami) Ia, dyna chi.
(1, 0) 430 Enw?
(Sami) {Yn eiddgar.}
 
(Sami) Samuel Jones.
(1, 0) 433 Profiad blaenorol?
(Sami) E?
 
(Sami) E?
(1, 0) 435 Fuest ti'n g'neud y math yma o waith o'r blaen?
(Sami) Fi oedd yn carthu cwt y ci adra...
 
(Sami) Fi oedd yn carthu cwt y ci adra...
(1, 0) 437 Paid ti a meiddio a chymharu ein tai bach ni a chwt dy gi di adra 'ngwas i.
(1, 0) 438 Wyt ti'n sylweddoli bod rhain yn rhai cyhoeddus ─ yn adlewyrchiad o gymeriad y dre?
(1, 0) 439 Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn lan ac yn foethus ─ meddal nid papur sglein sydd ynddyn nhw.
(1, 0) 440 Wyt ti'n debol i le fel'na, 'ddyliet ti?
(Sami) Dwi ddim yn gwbod...
 
(Sami) Dwi ddim yn gwbod...
(1, 0) 442 Fedri di ddelio efo fandaliaeth?
(Sami) {Gan droi i ffwrdd.}
 
(Sami) Dwn 'im.
(1, 0) 446 Fedri di ddarllen y sgwennu ar y wal?
(Sami) Na fedra.
 
(Sami) Na fedra.
(1, 0) 448 Fedri di son am y gwahaniaeth rhwng papur meddal a phapur sglein?
(Sami) Na fedra.
 
(Sami) Na fedra.
(1, 0) 450 Fedri di...
(Sami) Na fedra!
 
(1, 0) 455 Pam na wnei di ymuno â'r armi 'ngwas i?
(1, 0) 456 Mi fydd pawb yn gorfod g'neud hynny toc, felly waeth dy fod ti ym mlaen y ciw ddim.