Glyndwr, Tywysog Cymru

Cue-sheet for Iolo

(Oll) {Yn canu.}
 
(Llywelyn) Mae tir Caio'n ddigon gwael, ond mae'n well na hwn o gryn dipyn.
(1, 1) 35 Gwir bob gair!
(1, 1) 36 Chydig o ffrwyth welais i arno, nac o hono erioed, ond anghydfod.
(1, 1) 37 Ac o hwnnw cawn ddigon─a mwy.
(Rhys) Taw ditha, Iolo.
 
(Rhys) Welis i 'run twrnai 'rioed na fynnai dynnu pres o groen dyn cyn methu.
(1, 1) 41 Na!
(1, 1) 42 Choeliai fawr!
(1, 1) 43 Mi faswn i'n llwgu fel twrna─mi rydw i'n rhy onast, wyddost!
(Gruffydd) Mi 'rwyt wedi pesgu rywle a rhywsut fodd bynnag!
 
(Gruffydd) Mi 'rwyt wedi pesgu rywle a rhywsut fodd bynnag!
(1, 1) 45 Ydw'n tad!
(1, 1) 46 Ond ar y delyn, ac ar fwyd da, bwrdd yr Arglwyddes, dy fam, wel di.
(1, 1) 47 Does le fel Sycharth na gwraig fel dy fam i ofalu am angen corff prydydd.
(1, 1) 48 ~
(1, 1) 49 Amla lle nid er ymliw
(1, 1) 50 Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
(1, 1) 51 A'i dri bwrdd, a'i adar byw
(1, 1) 52 Paunod, cryhyrod hoewryw.
(Rhys) Taw da'ch ditha a'th brydyddu.
 
(Gruffydd) Nid gwerth y tir, f'ewyrth, ond yr egwyddor odditan y cweryl sy bwysig.
(1, 1) 60 Be sy'n iawn sy o bwys i ni!
(Glyndwr) Cofia dithau hynny, Gruff.
 
(Glyndwr) Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto.
(1, 1) 64 Twt! lol wirion!
(1, 1) 65 Llosgodd Grey ei fysedd y tro dweutha.
(1, 1) 66 Fe losgir ei esgyrn os daw eto.
(1, 1) 67 ~
(1, 1) 68 Pwy a ostwng Powysdir
(1, 1) 69 Tra bo cyfraith a gwaith gwir!
(Glyndwr) Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir.
 
(Glyndwr) Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes.
(1, 1) 72 Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey?
(1, 1) 73 Neu mi ddylit fod, a thithau wedi cynnal ei freichiau mewn gwledydd pell.
(1, 1) 74 Mi clywais i o yn dy frolio am yr hyn a wnest yn y twrnameint trosto yn Calais a Thunis, a'r brwydro ar lannau'r Baltic yn erbyn y Germaniaid, ac ar y Danaw fawr yng ngwlad y Twrc.
(1, 1) 75 A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl!
(Glyndwr) Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach!
 
(1, 1) 158 Cyfra'n gywir y ffwl!
(1, 1) 159 Mae yma ugain, gan fod un Cymro yn werth deg Sais, a dwrn Cymro'n well nag arf estron!
 
(Glyndwr) A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna.
(1, 1) 188 Da iawn, Glyndwr.
(1, 1) 189 Ond un peth a anghofiaist.
(Glyndwr) Pa beth yw hynny?
 
(Glyndwr) Pa beth yw hynny?
(1, 1) 191 Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch?
(1, 1) 192 Anrhydedd yw i Sais gael cyfarch y Ddraig!
(Syr Rhys a'r Cymry Oll) Gwir! Gwir!
 
(1, 2) 237 Nid Iorwerth Llwyd ond Iolo Goch, os gwel eich Gras yn dda.
(1, 2) 238 Llwyd oeddwn i tra'n byw yn Lloegr.
(1, 2) 239 Yn Sycharth daethum i yn goch!
(Tywysog) {Yn chwerthin.}
 
(Tywysog) Ond pa beth a ddywedi di, pa un bynnag ai fel cyfreithiwr ai fel bardd, am dlodi'r Cymro hwn wrth ochr cyfoeth Llunden?
(1, 2) 244 Ni thal i mi, eich Gras, ddweyd dim am wychder Llunden, ond am Sycharth gallaf ddweyd:
(1, 2) 245 ~
(1, 2) 246 Anfynych iawn fu yno
(1, 2) 247 Weled na chlicied na chlo;
(1, 2) 248 Na gwall, na newyn, na gwarth,
(1, 2) 249 Na syched fyth yn Sycharth!
(Tywysog) {Yn chwerthin.}
 
(Dafydd Gam) Paham nad edrychi i ble 'rwyt ti'n mynd, y Cymro trwsgl diddysg!
(1, 2) 259 Llabwst, a thrwsgl, a diddysg dy hun!
(1, 2) 260 Ac os Cymro wyf, 'rwy'n well Cymro, a gwell gwr, ac o ran hynny yn well Sais hefyd, tae raid, na'ch di a'th lygad cam, a'th dafod sy'n barotach na'th gledd!
(Dafydd Gam) Cei brofi llymder fy nghledd bryd y mynni, a'm tafod pan y mynnaf fi!
 
(Dafydd Gam) Cei brofi llymder fy nghledd bryd y mynni, a'm tafod pan y mynnaf fi!
(1, 2) 262 Oes amser gwell na rwan, dwêd?
 
(1, 2) 273 Ie!
(1, 2) 274 Mae'n siwtio'n well lle mae o, 'rwy'n coelio.
(1, 2) 275 Ond caf gyfle eto ar Ddafydd Gam!
 
(Yr Arglwyddi) Clywch!
(1, 2) 371 Ie, dyna gyfraith dda ond rheswm gwael!
(Barnwr) Gwir iawn, Syr Edmund Mortimer.
 
(1, 2) 415 Caiff fwy o groesau nag a ga o dir, os wyf yn adnabod Glyndwr ac ysbryd Cymru!