Ei Seren Tan Gwmwl

Cue-sheet for Jac

(Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod?
 
(1, 0) 425 Duwcs mawr, Rolant Huw, 'rois i fraw ichi, deudwch?
(Rolant) Sh!
 
(Rolant) Paid â bloeddio!
(1, 0) 428 Pam?
(1, 0) 429 'D oes yma neb i mewn heblaw chi.
(1, 0) 430 Mi fum i'n gwylio'r tŷ 'ma ers meityn am gyfle i lithro i mewn.
(1, 0) 431 A phan weles i Mrs. Huw...
(Rolant) Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith?
 
(Rolant) Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith?
(1, 0) 433 Ie, gorfod gadael Llundain ar |short notice|, fel pe tae.
(1, 0) 434 Ond mi ges i'r blaen ar y tacle, Rolant Huw!
 
(1, 0) 436 Bras-gamu allan o'r tŷ drwy ddrws y bac fel cr'adur o'i go' ulw las, heb ddim ond côt ucha' a'r pecyn 'ma.
(Rolant) A dod yr holl ffordd o Lundain?
 
(Rolant) A dod yr holl ffordd o Lundain?
(1, 0) 438 Ie.
(1, 0) 439 Cymryd f'amser, wrth gwrs, a thrafeilio |strictly incognito|, fel y brenin a'r byddigions 'ma...
 
(1, 0) 441 'Neno'r dyn, Rolant Huw, be' ydi rhyw d'wllwch fel hyn?
(Rolant) O, ofn i rywun dy weld, Jac.
 
(Rolant) O, ofn i rywun dy weld, Jac.
(1, 0) 444 Dyna welliant!
 
(1, 0) 446 'R argod fawr, ydech chi wedi dychryn, deudwch?
(Rolant) Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac.
 
(1, 0) 449 Pam, yn duwcs?
(1, 0) 450 'D oes dim angen gofidio, Rolant Huw.
(1, 0) 451 'R ydw i'n dechre mwynhau crwydro fel rhyw dramp o le i le.
(1, 0) 452 'Styrio tipyn ar yr hen gorffyn 'ma ar ôl byw yn ddyn |respectable| yn Llundain!
(Rolant) {Yn lled ddifrifol.}
 
(Rolant) Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn.
(1, 0) 455 O wel, rhyw greadur aflonydd 'fum i erioed wyddoch.
(1, 0) 456 Dyna pam 'r ydw i'n dal yn hen lanc, efallai.
(Rolant) 'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno.
 
(Rolant) |Seren tan Gwmwl|?
(1, 0) 460 Ie.
(1, 0) 461 Y Llywodraeth a minne'n methu cyd-weld ynghylch cynnwys y llyfr.
(1, 0) 462 A 'd oes dim syndod!
(1, 0) 463 Mi ddeudis i bethe reit gas amdanyn' nhw.
(Rolant) 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod.
 
(Rolant) 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod.
(1, 0) 465 Ond gwrandewch!
(1, 0) 466 Meddwl na feder yr un wan jac o'r cnafon ddarllen na deall gair o'r |Seren|.
(1, 0) 467 Dim un!
(1, 0) 468 Mae'n rhaid fod rhyw Ddic-Siôn-Dafydd wedi prepian arna' i.
(Rolant) Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd.
 
(Rolant) Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr!
(1, 0) 471 Wel, 'ddarfu imi ddim aros yn Llundain i ddadlau f'achos.
(1, 0) 472 A dyma fi bellach yn ddigon dig'wilydd i ofyn am loches.
(1, 0) 473 Noswaith o leia'.
(Rolant) Â chroeso, Jac.
 
(1, 0) 477 Na, fel arall yn hollol!
(1, 0) 478 'Wyddwn i ddim o'r blaen 'mod i mor boblogaidd yng Nghymru 'ma.
(Rolant) {Gydag edmygedd.}
 
(Rolant) Mae'r werin yn dy hanner addoli.
(1, 0) 481 Ydi.
(1, 0) 482 Gwneud ffys dychrynllyd ohono'i lle bynnag 'r o'wn i'n dangos fy wyneb.
(1, 0) 483 Digon o fwyd hefyd...
 
(1, 0) 485 ... a llawer ohonyn' nhw'n hanner lwgu, y cre'duried.
(Rolant) Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac.
 
(Rolant) Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond |un|...
(1, 0) 489 O?
(1, 0) 490 A phwy ydi hwnnw, felly?
(Rolant) Person y plwy.
 
(1, 0) 493 Naturiol iawn, wir!
(1, 0) 494 Sut greadur ydi hwnnw?
(1, 0) 495 Yr hen deip, mi'wn.
(Rolant) Ie, efallai.
 
(1, 0) 502 Dyna'r teip... i'r blewyn!
(Rolant) Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin.
 
(Rolant) Mae o'n ddyn i'w |ofni|.
(1, 0) 505 Ofni?
(1, 0) 506 'D oes yr un person plwy dan haul nad ydw i'n deall sut i'w drin.
(1, 0) 507 Ydech chi'n cofio hwnnw yng Ngherrig-y-Drudion ers talwm?
(1, 0) 508 'Des i ddim i'w afael |o| beth bynnag.
(1, 0) 509 Druan ohono!
 
(1, 0) 511 Person dd'udsoch chi, Rolant Huw?
(1, 0) 512 Mi ro' i berson iddyn' nhw!
(Janet) {Wrth y drws.}
 
(1, 0) 530 Sut yr ydech chi, Miss Foster?
 
(Janet) Yn dda iawn diolch, Mr.... Mr. Williams, yntê?
(1, 0) 533 Ie siŵr.
(1, 0) 534 Mr. Williams.
(1, 0) 535 Yntê, Rolant Huw?
(Rolant) {Yn lled ffwndrus o hyd.}
 
(1, 0) 543 Mynd, ddywed'soch chi, Miss Foster, a chwithau newydd gyrraedd?
(1, 0) 544 Dim o'r fath beth!
(1, 0) 545 'R ydw i'n synnu atoch, Rolant Huw.
(1, 0) 546 Nid fel hyn y mae ymddwyn at |young ladies| yr ardal, yn siŵr i chi.
(1, 0) 547 Swil?
(1, 0) 548 A chwithe'n ŵr priod?
(Janet) {Yn gwenu.}
 
(Janet) Hen lanc ydych chwi, mae'n amlwg, Mr. Williams.
(1, 0) 551 Hen lanc?
(1, 0) 552 Wel... ie.
(1, 0) 553 Ond 'd ydw i ddim mor hen â hynny, 'chwaith, nag ydw, Rolant Huw?...
 
(Rolant) Wel... y... eisteddwch am funud, Janet.
(1, 0) 557 Janet?
(1, 0) 558 Enw swynol dros ben.
(1, 0) 559 Mi fedrwn i nyddu pwt o englyn am "Janet"...
(Janet) 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams?
 
(Janet) 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams?
(1, 0) 561 Rhyw dalcen slip hwyrach.
(1, 0) 562 Ond cofiwch, pe cawn i destun teilwng i'm symbylu...
(Rolant) {Yn newid y stori ar unwaith.}
 
(Rolant) {Yn troi at Jac.}
(1, 0) 573 Ie, mi synnech pa mor sydyn, Miss Foster.
(1, 0) 574 A dod yma ar garlam gwyllt.
(Janet) Rhyw |flying visit|, fel pe tae...
 
(1, 0) 577 Go dda!
(1, 0) 578 Dyna daro'r hoel ar ei phen!
(1, 0) 579 |Flying visit|!
(Janet) Mae'n amlwg nad ydych yn gadael i'r hen ryfel 'ma effeithio rhyw lawer arnoch, Mr. Williams.
 
(Janet) Gwneud y gorau o'r gwaethaf?
(1, 0) 582 Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi.
(Janet) Gallai yn siŵr.
 
(Janet) Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau a oes rhaid i ddynion ryfela?
(1, 0) 586 Eithaf cwestiwn.
(1, 0) 587 Mi fum innau'n ei ofyn hefyd lawer tro, onido Rolant Huw?
(Rolant) Wel do... am wn i... wir.
 
(Janet) Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela.
(1, 0) 590 O?
(1, 0) 591 A phwy ydi'r creadur hwnnw, tybed?
(Janet) Jac Glan-y-Gors.
 
(Janet) Mi glywsoch sôn amdano yn siŵr, Mr. Williams?
(1, 0) 599 O do, coeliwch fi!
(1, 0) 600 Gryn dipyn!
(Janet) Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|?
 
(Janet) Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|?
(1, 0) 602 O do... lawer gwaith.
(Janet) Llyfr eithaf diddorol, wrth gwrs, er nad oes rhyw lawer o |polish| yn perthyn iddo.
 
(1, 0) 605 |Polish|?
(Janet) Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus?
 
(Janet) Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus?
(1, 0) 607 Y... y... anwybodus?
(Janet) Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny.
 
(Janet) Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny.
(1, 0) 609 Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur!
(Janet) Ond cofiwch, ar y cyfan 'r wy'n cyd-weld â syniadau'r awdur.
 
(1, 0) 612 Da iawn.
(1, 0) 613 Mi allaf finnau ddweud cymaint â hynny.
(Janet) Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol.
 
(Janet) Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol.
(1, 0) 615 O, yn wir?
(Janet) Yn hynod felly.
 
(Janet) Dweud llawer peth digon chwerw ac annheg, yn enwedig am yr offeiriaid.
(1, 0) 618 Wel ydi, efallai.
(1, 0) 619 Ond ma'r cnafon yn haeddu pob gair, Miss Foster.
(1, 0) 620 Mae'n hen bryd i rywun ymosod ar y tacle!
(Janet) Ond y mae hi ar ben arno, druan.
 
(Janet) Ond y mae hi ar ben arno, druan.
(1, 0) 622 Pam?
(Janet) Clywais yn y pentref heno iddo orfod dianc yn ddi-seremoni o Lundain, a chyrraedd Cymru.
 
(Janet) Mae cryn gyffro yma ynghylch y peth.
(1, 0) 625 O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch.
(Janet) Gobeithio'n wir.
 
(1, 0) 629 Wel ie, yntê?
(1, 0) 630 Yn enwedig os ydi o yn y cyffinie yma.
(1, 0) 631 Wyddoch chi be', Miss Foster, ma' Rolant Huw yn dweud fod person y plwy' yma yn ddyn caled gynddeiriog, heb ronyn o ras.
(Janet) {Yn swynol iawn.}
 
(Janet) Felly'n wir!
(1, 0) 634 Ydi.
(1, 0) 635 Efallai eich bod yn ei 'nabod yn well na mi.
(Janet) Wel, synnwn i ddim, wyddoch.
 
(Janet) Wel, synnwn i ddim, wyddoch.
(1, 0) 637 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw...
(Janet) Trueni fyddai i Jac Glan-y-Gors fynd i afael dyn felly, onid e?
 
(Janet) Wel, Mr. Williams, 'r wy'n falch imi gael sgwrs â chwi, er nad ydym yn cyd-weld yn hollol ynglŷn â'r gwalch Jac Glan-y-Gors yna.
(1, 0) 649 O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster.
(Janet) Efallai na welaf mohonoch eto.
 
(1, 0) 653 Gadael?
(Janet) |Flying visit| i ryw bentref arall efallai, pwy a ŵyr?
 
(1, 0) 669 Jac Glan-y-...?
 
(1, 0) 671 'R oeddech chi'n gwybod, drwy'r amser?
(Janet) {Yn dawel.}
 
(Janet) Peidiwch oedi... 'r wy'n crefu arnoch...
(1, 0) 683 Ond Miss Foster, pam yr ydych...
(Janet) Mae gennyf ormod o feddwl ohonoch... fel dyngarwr... i'ch gweld yn mynd i'r ddalfa... yma o bob man...
 
(1, 0) 704 Merch y person!
(Rolant) Ie.
 
(1, 0) 708 Biti?
(1, 0) 709 Mae'n llawer mwy na hynny; pe bai chi ond yn gwybod.
(Rolant) {Ei dro ef yw bod yn llawen.}
 
(1, 0) 715 Yn goblyn o glyfar, Rolant Huw.
(Rolant) {Yn chwerthin.}
 
(1, 0) 719 "Janet" ddywed'soch chi oedd ei henw hi, yntê?
(Rolant) Wel ie... ond...
 
(1, 0) 722 Janet!
(1, 0) 723 ~
(1, 0) 724 "Nid adwaen, iawn yw dwedyd,
(1, 0) 725 Weithian ei bath yn y byd."
(Rolant) {Wedi ei synnu.}
 
(1, 0) 730 Efallai fy mod i, Rolant Huw... yn sâl.
 
(1, 0) 735 Rolant Huw, 'rhaid imi ffoi ar unwaith!
(Rolant) Ffoi?
 
(Rolant) Ffoi?
(1, 0) 737 'D oes dim aros i fod!
(Rolant) Ofn yr hen Foster?
 
(Rolant) Ofn yr hen Foster?
(1, 0) 739 Na.
(1, 0) 740 Mae pethau'n waeth nag a feddyliwch...
(Rolant) 'Neno'r dyn, Jac...
 
(1, 0) 743 Histeria gwallgof drwy'r wlad yn erbyn pawb sy'n sôn am heddwch... neu gondemnio rhyfel.
(1, 0) 744 Tom Paine... mi glywsoch am hwnnw?
(Rolant) Wel do... ond...
 
(1, 0) 747 Bwgan mawr y Llywodraeth!
(1, 0) 748 Mae arnyn' nhw ei ofn.
(1, 0) 749 Llosgi ei lun... hyrddio pawb i garchar sy'n darllen neu werthu ei lyfrau!
(1, 0) 750 Sbiwyr ar bob cornel stryd yn gwrando ar bobl yn siarad... |Reign of Terror|!
(1, 0) 751 Nid yn Ffrainc, ond yn y wlad hon!
(1, 0) 752 Ie, yng Nghymru!
(Rolant) Ond beth sydd a wnelo Tom Paine...
 
(Rolant) Ond beth sydd a wnelo Tom Paine...
(1, 0) 754 Y fi ydi Tom Paine Cymru!
(1, 0) 755 A ma' nhw ar fy ôl!
(1, 0) 756 'D oes dim dinas barhaus bellach i awdur |Seren tan Gwmwl|.
(Rolant) Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma...
 
(Rolant) Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma...
(1, 0) 758 Nac ydw'!
(1, 0) 759 A chofiwch hyn... cyn bo hir bydd carchar ac erlid yn aros pawb sy'n darllen neu werthu'r |Seren|, heb sôn am roi lloches i'r awdur!
(1, 0) 760 Na,mae hi ar ben...
(Sara) {Heb weld Jac eto.}
 
(Ifor) Mr. John Jones o Lan-y-Gors, yntê?
(1, 0) 773 Wel, ie siŵr.
(Ifor) Y |mae|'n dda gennyf gwrdd â chwi, Mr. Jones!
 
(1, 0) 783 Deudwch y gwir, da chi.
(1, 0) 784 Wedi gorfod dianc o Lunden ydw i, Mrs. Huw.
(Ifor) Ie, clywsom stori yn y pentref eich bod wedi cyrraedd Cymru.
 
(Ifor) 'R wy'n siŵr y gallwch aros am sbel, Mr. Jones, i gael y croeso y mae dyn fel chwi yn ei haeddu.
(1, 0) 801 Na, rhaid symud.
(1, 0) 802 Lle mae fy nghôt i, deudwch?
(1, 0) 803 A'r pac?
(1, 0) 804 'Chydig iawn o |luggage| sydd gan rhyw dramp fel fi, wyddoch!
 
(1, 0) 806 'D oes gen' i ddim ond diolch...
(Rolant) {Mewn cyffro.}
 
(Rolant) Pwy sy' 'na, tybed?
(1, 0) 811 Rolant Huw, 'r ydw i'n adnabod y sŵn curo yna yn rhy dda!
(Sara) Y Brenin!
 
(1, 0) 816 A ma' nhw wedi cyrraedd i unwaith eto?
(1, 0) 817 'D ydw i ddim yn aros am y tacle!
(1, 0) 818 Drws bac amdani, fel arfer!
 
(1, 0) 830 Milishia?
(1, 0) 831 Wel, wel.
(1, 0) 832 Hen ffrindie!
(Rolant) Dyna Hugh Foster,
 
(Rolant) Dyna Hugh Foster,
(1, 0) 835 Wel, Rolant Huw, agorwch y drws... led y pen!
(Rolant) Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
 
(1, 0) 845 Ie, yn duwcs... pam?
(Rogers) Mae gennyf awdurdod i'ch dwyn i'r ddalfa.
 
(Foster) Dyletswydd pob un ohonom heddiw ydyw rhoi ei wlad o flaen popeth arall... hyd yn oed ei deulu...
(1, 0) 879 Ac o flaen yr efengyl!
(Foster) Dyna ddigon.
 
(1, 0) 888 Mae'n hollol ddi-euog, Mr. Foster!
(1, 0) 889 Byddai ei gosbi yn gam dybryd...
(Foster) A oes raid imi dderbyn cyngor gan fradwr ac anffyddiwr?
 
(Janet) Pa waith?
(1, 0) 906 A pha frenin?
(Foster) Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 924 Gadewch lonydd iddo.
(1, 0) 925 Gwneud ei ddyletswydd oedd y bachgen...
(Janet) {Yn fwy tosturiol na dim arall.}
 
(Janet) Ac os anfonwch ef i garchar, rhoddaf finnau fy hun i fyny i'r awdurdodau yn Rhuthun fel dilynydd Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 984 'D oes dim rhaid i chwi wneud hynny, Miss Foster.
 
(1, 0) 986 Dowch, syr, galwch ar Capten Rogers.
(Foster) Ie... wel... y...
 
(Janet) Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel...
(1, 0) 995 Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster.
(Janet) Nid y chwi sydd i benderfynu bellach.
 
(Janet) Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau.
(1, 0) 1019 Nid oes dewis i mi, druan!
(Foster) Bydded felly.
 
(Foster) Dyna'r... telerau.
(1, 0) 1031 Diolch, syr.
(1, 0) 1032 Byddaf yn siŵr o lynu wrthynt.
(Foster) O'r gorau.
 
(Foster) A gawn ni fynd, Mr. Huw?
(1, 0) 1039 Janet... a gaf fi eich galw felly?
(Janet) Cewch... Jac.
 
(Janet) Cewch... Jac.
(1, 0) 1041 A oedd raid i chwi wneuthur hyn?
(Janet) Oedd.
 
(Janet) Y mae gennyf gymaint o feddwl o...
(1, 0) 1044 Jac Glan-y-Gors?
(Janet) Efallai'n wir!
 
(1, 0) 1047 Janet, dowch gyda mi, i wynebu'r dyfodol law yn llaw!
(1, 0) 1048 'R ydych chwi'n perthyn i rengoedd Rhyddid... yno mae'ch lle...
 
(1, 0) 1050 Na, nid oes gennyf hawl bellach i ofyn am hyn... y telerau!
(Janet) Na, Jac.
 
(Janet) Gallaf wneud llawer... dylanwadu ar fy nhad, a cheisio dod â rhyw gymaint o heulwen i drueiniaid tlawd y pentref hwn.
(1, 0) 1055 Gallwch, Janet.
(Janet) Ac Ifor, druan.
 
(Janet) Yma y mae'n rhaid imi aros.
(1, 0) 1059 Ie.
(Janet) Ond daliwch i ymladd, Jac.
 
(Janet) Cofiwch am y |Seren|.
(1, 0) 1071 Ond heno, Janet, y mae fy Seren i... dan gwmwl...