| (Malachi) Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych! | |
| (Mari) Ma 'na ddwsan o lassis duon yn nror y ford. | |
| (1, 0) 38 | Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno? |
| (1, 0) 39 | Dewch, ma-hi'n mhell wedi'r amsar yn barod. |
| (Mari) Dewch miwn, Jacob, dewch miwn, fe fydd Malachi yn barod nawr miwn hannar munad, | |
| (1, 0) 51 | Oti, fe 'llwch fentro; fe gelswn-i fynd heb scitsha cyn y plygsa Sarah o mlan i felna. |
| (Mari) Ma Malachi wastod ar ol, cwympo i gysgu lwchi ar ol cal bwyd, yn lle mynd i wmolch ar unwaith, a dyma fi a'r hen gecin yn sang-di-fang, hen dwbin brwnt ar yr aelwyd. | |
| (Mari) Ma Malachi wastod ar ol, cwympo i gysgu lwchi ar ol cal bwyd, yn lle mynd i wmolch ar unwaith, a dyma fi a'r hen gecin yn sang-di-fang, hen dwbin brwnt ar yr aelwyd. | |
| (1, 0) 53 | Pitwch a wilia yn fach am y twbin, Mari; llestar o barch yw hwnna cofiwch. |
| (1, 0) 54 | Ma 'na lawar i hen goliar yn wara'r delyn yn fendigetic yng ngogoniant heno, olchws 'i grôn du filodd o witha miwn twbin fel hwnna. |
| (Mari) {Yn gorffen clymu yr esgid.} | |
| (1, 0) 71 | Ma'n well i ni fynd. |
| (Mari) Dewch nawr, Malachi, {yn dal i fyny ei got a'i wasgod iddo gyda'i gilydd} mwstrwch, 'r ych-chi'n symud fel anglodd. | |
| (Malachi) Jacob, glwsoch-chi a'n mynd? | |
| (1, 0) 76 | Clwad beth? |
| (Mari) Beth sy'n bod nawr? | |
| (Mari) Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall. | |
| (1, 0) 84 | Pwy isha bwtwn arall sy? |
| (1, 0) 85 | Dewch fel 'r ych-chi nawr. |
| (1, 0) 86 | Fe naiff un bwtwn y tro am heno. |
| (Malachi) Gnaiff a! | |
| (Malachi) Os collwch chi un bwtwn ma'r un man i chi golli dou. | |
| (1, 0) 93 | Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i. |
| (Malachi) Iefa? | |
| (Malachi) Ma gita chi ffydd fawr yn Rhagluniath. | |
| (1, 0) 96 | Gwetwch chi beth fynnwch-chi, par o galasis pert yn-nhw. |
| (Mari) {Yn gwnio'r botwm.} | |
| (Malachi) Wfft shwt bresant weta-i. | |
| (1, 0) 100 | Falla nag ych-chi ddim wedi dod i ddeall y wheels bach 'na eto. |
| (1, 0) 101 | Synnwn i damad nawr nad rai felna ma proffeswrs y coleg yn wishgo. |
| (Matthew) Shwt ych-chi 'ma heno? | |
| (Mari) O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd. | |
| (1, 0) 116 | Pitwch chi gofitio dim am y twbin, Mari, fe ddota-i bobpath yn daclus i chi. |
| (1, 0) 117 | Obadiah, cymerwch afal yn hwn gita fi. |
| (1, 0) 119 | Matthew, dewch chitha a'r ffetan a'r box sepon 'na mas. |
| (1, 0) 120 | (MATTHEW yn ufuddhau ac yn canlyn.) |
| (Mari) {Dan chwerthin.} | |
| (Matthew) Fe fyddwn ni yn itha cysurus man hyn. | |
| (1, 0) 129 | Wel byddwn, yn enw pob synnwyr. |
| (1, 0) 131 | A pheth arall, 'dyw dyn ddim yn licio poeri yn y rwm genol. |
| (Mari) Allwch-chi ddim bod yn y gecin, ne fydd gen i ddim un lle i fynd. | |
| (Mari) Ble 'r af fi? | |
| (1, 0) 134 | 'D ôs dim isha i chi fynd i unman. |
| (1, 0) 135 | 'Rwy-i yn dymuno cynnyg yn ffurfiol fod Mrs. Williams yn aelod o'r pwyllgor yma i bartoi program ar gyfar eisteddfod fawreddog capal Pisgah. |
| (Obadiah) Clywch, clywch; 'r wy'n dymuno eilio'r cynyciad. | |
| (Malachi) Os yn-ni yn mynd i aros yn y gecin, a Mari yn yn plith ni, 'd ôs dim isha i chi chynnyg hi yn aelod o'r pwyllgor,—dyna fi yn roi rypudd teg i chi nawr. | |
| (1, 0) 140 | Wedi gynnyg a'i eilio, pob un sy dros y cynyciad? |
| (Obadiah) R wy'n dymuno cynnyg Jacob Evans. | |
| (1, 0) 144 | Ma gen-i welliant: 'r wy-i yn cynnyg fod gwr-y-ty, Malachi Williams, yn cymeryd y gatar. |
| (Matthew) 'R wy'n eilio'r cynyciad. | |
| (Matthew) 'R wy'n eilio'r cynyciad. | |
| (1, 0) 146 | Pob un o'r un farn?— |
| (1, 0) 148 | Nawr dyma'r man gora i chi ishta. |
| (1, 0) 150 | Fe af finna man hyn. |
| (Malachi) {Yn rhyw hanner sisial.} | |
| (Malachi) Os raid i fi wed rwpath nawr? | |
| (1, 0) 159 | Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith. |
| (Malachi) Hannar munad ta! | |
| (Matthew) Ordor Mrs. Williams! | |
| (1, 0) 169 | Ordor Mari! |
| (Malachi) {Yn troi ati.} | |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (1, 0) 197 | Ordor, Mari. |
| (Malachi) {Yn gadael MARI yn ddisylw.} | |
| (Malachi) Ond... ond, i fynd ymlan... ia... a... i fynd ymlan... ia... {yn troi yn sydyn at JACOB}, Jacob Evans, 'r ych chi'n gwpod beth i wêd yn well na fi, a chitha'n cyoeddi bob Sul─dewch nawr, gair bach yn fyr. | |
| (1, 0) 205 | Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd. |
| (1, 0) 206 | Fel ych chi gyd yn gwpod, fe benderfynws eclws Pisgah, fishodd ynol, i gynnal 'steddfod dydd Calan nesa. |
| (Mari) Naddo, phenderfynws yr eclws ddim shwt beth. | |
| (Malachi) Beth ych-chi'n gofyn i fi! | |
| (1, 0) 212 | Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall— |
| (Obadiah) Parchus yn wir! | |
| (Malachi) Ordor, Mari. | |
| (1, 0) 216 | Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni. |
| (Mari) Dyna gelwdd. | |
| (1, 0) 221 | Malachi... |
| (1, 0) 222 | Mr. Cadeirydd, glwsoch-chi? |
| (1, 0) 223 | Os nag yw Mari yn tynnu 'i gira nol ar unwaith dyma fi yn ymddiswyddo o'r pwyllgor, a mwy na hynny, fe af fi a'i hachos hi o flaen y seiat,—ma gen i ddicon o witneson. |
| (Malachi) {Yn codi.} | |
| (1, 0) 234 | Do, fe benderfynson fynd yn grôs i ni, fe benderfynson gynnal 'steddfod yn Salam ar yr un dwarnod a ninna. |
| (Obadiah a Matthew) C'wilydd, c'wilydd! | |
| (Malachi) Ia, c'wilydd mawr hefyd. | |
| (1, 0) 237 | Nawr, 'dwy-i ddim am wêd dim byd yn gas, "Parhaed brawdgarwch" weta i. |
| (Y Brodyr) Ia, ia. | |
| (Y Brodyr) Ia, ia. | |
| (1, 0) 239 | Ond 'r'yn-ni gyd yn gwpod shwt dacla sy yn eclws Salam. |
| (Y Brodyr) Clywch, clywch! | |
| (Mari) 'D yn-nhw damad gwath na thacla eclws Pisgah, ond falla 'u bod nhw dicyn yn fwy |cute|. | |
| (1, 0) 242 | 'D yn-ni ddim yn mynd i ffraeo â aelota Salam. |
| (Y Brodyr) Nagyn, nagyn. | |
| (Y Brodyr) Nagyn, nagyn. | |
| (1, 0) 244 | Ma'n well i ni gymryd popath yn dawal, miwn ysbryd cariad. |
| (Y Brodyr) Oti, oti; itha right. | |
| (Y Brodyr) Oti, oti; itha right. | |
| (1, 0) 246 | Ond 'r un pryd, 'dos dim isha i ni ildo iddyn nhw! |
| (Y Brodyr) Nagos. | |
| (Y Brodyr) Nagos. | |
| (1, 0) 248 | 'Dos dim isha i ni fynd o dan 'u trad nhw! |
| (Y Brodyr) Nagos, nagos. | |
| (Y Brodyr) Nagos, nagos. | |
| (1, 0) 250 | C'uwch cwd a ffetan, myn brain-i! |
| (Y Brodyr) Clywch, clywch. | |
| (Y Brodyr) Clywch, clywch. | |
| (1, 0) 252 | 'Ryn-ni wedi cwrdd ma heno i nithir program. |
| (1, 0) 253 | Fe gaiff y program fynd at y printar fory, fe fydd yn barod idd 'i ddosbarthu dydd Sul, ac os bydd aelota Salam o'r wynab i gynnal 'steddfod 'r un dwarnod a ni, ar ol i ni ddod a'n program mas o'u blan nhw, wel—'dwy-i ddim am weld un o honyn nhw byth, yn y byd yma na'r byd a ddaw. |
| (Y Brodyr) Clywch, clywch! | |
| (Malachi) Obadiah, 'r ych-chi gwpod nag os dim llawar o Sisnag gen-i; gobitho nag ych-chi ddim yn trio'n shimplo-i. | |
| (1, 0) 261 | Nagyw, nagyw, |point of ordor| bachan, |point of ordo|r—wastod miwn pwyllgor, |
| (Malachi) {Yn fawreddog.} | |
| (Obadiah) Dyna beth sy gen i: pwy isha i ni gal 'steddfod sy, pwy les ma'r hen 'steddfota bach ma'n nithir? | |
| (1, 0) 268 | 'Steddfod fach! |
| (Obadiah) Ia, 'steddfod fach. | |
| (Matthew) 'R wy-i'n cynnyg yn bod ni'n cal consart. | |
| (1, 0) 276 | Consart! talu arian mawr i ferched hannar nôth i ganu yn nhy Dduw! |
| (Malachi) 'D os dim drama na chonsart i fod. | |
| (Mari) Wel, ma Jacob Evans wedi gwêd fod aelota Salam wedi mynd yn grôs i ni yn Pisgah. | |
| (1, 0) 287 | Pwy isha i chi 'mhela â'r hen grachan yna nawr sy? |
| (1, 0) 288 | Fel gwetas-i, "Parhaed brawdgarwch." |
| (Mari) Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd. | |
| (Mari) On-i yn shop y Coparetif, fish i nos Satwn dwetha, a fe glwas Ifan Twm Shon yn gwêd wrth Shân Ty-Cornal fod y brotyr yn eclws Salam yn meddwl cal 'steddfod dydd Calan nesa, a wetyn, o ble gallwch chi wêd 'u bod nhw wedi mynd yn grôs i chi? | |
| (1, 0) 310 | Falla 'u bod nhw wedi meddwl, ond ôn-nhw ddim wedi penderfynu dim. |
| (1, 0) 311 | Os gita chi ddim hawl i wêd yn bod ni wei mynd yn grôs iddyn nhw. |
| (Mari) 'D wy-i ddim am wed shwt beth. | |
| (Malachi) Nag-yn, a nawr, gan 'i bod hi wedi mynd yn waetha waetha, 'd wy-i ddim yn gweld fod isha i ni bito cal 'steddfod. | |
| (1, 0) 318 | Nagw inna chwaith. |
| (Mari) O'r gora, a dyma finna yn roi rypudd i chi. | |
| (Matthew) 'R yn-ni yn fwy tebyg o nithir ffwliad o aelota Salam o beth dychrynllyd. | |
| (1, 0) 322 | Mlan â'r program, mlan â'r program. |
| (Malachi) Ia, ia; dyma ni wedi bod bron hannar awr man hyn, a 'd yn-ni ddim tamad nes mlan, dim ond o'ch hachos chi, Mari. | |
| (Malachi) Os yma ryw gynyciad? | |
| (1, 0) 344 | 'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program. |
| (Malachi) Beth yw hwnnw? | |
| (Malachi) Beth yw hwnnw? | |
| (1, 0) 346 | "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." |
| (Mari) Chi ithoch â'r gair oddiar flan y nhafod-i Jacob. | |
| (Mari) Chi'n cofio côr Panteg yn cystadlu? | |
| (1, 0) 350 | Cofio, wel am otw. |
| (Mari) Fe geson-ni lawar i rali fach prynny, ondofa Jacob? | |
| (Mari) Deryn doniol och-chi'n arfadd bod yn grotyn. | |
| (1, 0) 353 | A thwisan ofnatw och chitha, Mari. |
| (Matthew) Ordor, ordor. | |
| (Malachi) Ho'n wir, dyma hanas blasus i ddoti o mlan i, ontefa? | |
| (1, 0) 358 | Malachi bach, plant ôn-ni. |
| (Mari) {Yn chwerthin.} | |
| (1, 0) 364 | A finna'n sychu'ch gwynab chi â nishad bocad! |
| (Obadiah) Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanes caru Jacob Evans? | |
| (Mari) 'R wy-i'n dymuno cynnyg y dernyn yna. | |
| (1, 0) 370 | 'R wy inna yn 'i eilio fa. |
| (1, 0) 371 | Fe ddaw'r hen amsar'n ol mor felys. |
| (Malachi) Daw-a'n wir! | |
| (Malachi) Ishteddwch lawr, Obadiah, a dysgwch wrando'n barchus pan bodyn o wybotath yn gwêd gair. | |
| (1, 0) 387 | Shwt ddernyn yw dernyn—beth och-chi yn 'i alw fa, Matthew? |
| (Matthew) |Classical|, dernyn |classical|. | |
| (Matthew) |Classical|, dernyn |classical|. | |
| (1, 0) 389 | Ia, dyna fe, shwt beth yw-a? |
| (Obadiah) Dyna pam ôn-i'n cwnnu. | |
| (Mari) Ma na lawar ffordd o ladd ci heblaw i groci-fa, ond ôs a, Matthew. | |
| (1, 0) 398 | Allwch chi ddim roi engraifft i ni, pwy ddernyn ôdd ar ych meddwl chi? |
| (Matthew) Wel, dyna'r dernyn ôdd ar ym meddwl i, "Worthy is the Lamb." | |
| (Malachi) Dyna-fe lwchi, Cwmrag yw iaith crefydd, ontefa? | |
| (1, 0) 407 | Ia,ia,—ia. |
| (1, 0) 421 | Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanas caru Malachi Williams? |
| (Malachi) Dyna chi, Mari, arnoch chi ma'r bai, chi ddechreuws, cofiwch—ond fe licswn i gal "Y don o flan y gwyntodd " yn 'stedfod Pisgah. | |
| (Malachi) Daw-a, daw; Matthew, ma'r "Don o flan y gwyntodd " yn |glassical|, on'd yw hi? | |
| (1, 0) 425 | |Classical|, nag yw! |
| (Malachi) Ma-hi'n ddicon mwy |classical| na'r "Blotyn bach." | |
| (Obadiah) Clywch, clywch. | |
| (1, 0) 442 | Ishteddwch i lawr, Matthew, a pitwch a bod shwt fabi. |
| (1, 0) 443 | 'R wy'-i'n cynnyg "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." |
| (Malachi) Os yma rywun yn ddicon dwl i eilio hwnna? | |
| (Malachi) Mari! | |
| (1, 0) 447 | 'Nawr, Mr. Cadeirydd, whara teg, lan âg ê, lan âg ê. |
| (Malachi) {Rhwng ei ddannedd.} | |
| (Malachi) Os gita chi ryw syniad beth ma-fa'n gisho'i wêd? | |
| (1, 0) 490 | Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru. |
| (Malachi) O—h, wel, pam na wetiff y dyn 'i feddwl yn blan. | |
| (Mari) Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn. | |
| (1, 0) 500 | Dewch mlan, Malachi, ne man hyn y byddwn-ni. |
| (1, 0) 501 | Barddoniath a ryddiath. |
| (Obadiah) Cyn mynd ymlan, 'r wy-i am ddoti un amod lawr, a dyma fe: yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd. | |
| (Matthew) |Chair|, |chair|. | |
| (1, 0) 510 | Ordor, ordor. |
| (Malachi) Gadewch i bob un spelian fel ma-fa'n dewish, yn enw'r bendith, spelian fel dysgws-a yn yr Ysgol Sul, spelian 'r un ffordd a'r Beibl. | |
| (Malachi) Obadiah, ma'n flin gen-i'ch clwad chi yn wilia felna, bachan ifanc gobithol fel chi, sy â'i lycad ar y sêt fawr. | |
| (1, 0) 516 | Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y |New Theology| 'na. |
| (Malachi) {Yn dyner ond penderfynol.} | |
| (Malachi) Cofiwch chi, tsa aelota Pisgah yn dod i wpod am hyn, fe fysa hi yn galed iawn arnoch-chi. | |
| (1, 0) 523 | Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora. |
| (Matthew) Dyna ryw synnwyr nawr. | |
| (Malachi) Ar bwy destun, Jacob? | |
| (1, 0) 527 | "Noah yn mynd miwn i'r Arch." |
| (Malachi) Testun hyfryd. | |
| (1, 0) 533 | Gobitho, Mari, nag ych-chi ddim yn wherthin ar ym mhen i. |
| (Obadiah) Beth arall allwch-chi erfyn? | |
| (Obadiah) Dwli pen hewl, bob tamad. | |
| (1, 0) 537 | O, felna iefa? |
| (Obadiah) Ia, Jacob, felna. | |
| (Malachi) Ishteddwch lawr. | |
| (1, 0) 554 | Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch." |
| (Mari) Wel, wel, a dyma shwt beth yw pwyllgor o ddynon. | |
| (Malachi) O'r gora, os odd hawl gita ni idd 'i nithir hi'n aelod, ma hawl gita ni idd 'i diaeloti hi. | |
| (1, 0) 570 | Ma reswm yn 'yna hefyd. |
| (Malachi) A os ôs hawl gita ni i ddiaeloti Mari ma hawl gita ni i ddiaeloti Obadiah. | |
| (Malachi) Otyn |nhw| wedi dod i ofyn i |ni|? | |
| (1, 0) 582 | Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i. |
| (Mari) Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul? | |
| (1, 0) 604 | Matthew! |