Drama un-act

Y Pwyllgor (1924)

David Thomas Davies

Ⓗ 1924 D T Davies
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Cymer y ddrama le yng nghegin MALACHI WILLIAMS. Gwelir lle tân ar y dde, a thwb yn hanner llawn o ddwr brwnt ar yr aelwyd. Ffetan ar y llawr o flaen y twb, rhyngddo a'r tân, a box sebon yn y golwg gerllaw; drws yn arwain i'r scullery tu cefn ar y dde, ffenestr yn y cefn, a drws-y-bach i'r chwith iddi; drws yn arwain i'r "rwm-genol" yn y pared chwith.

Eistedd MALACHI, gwr dros drigain oed, garw a blewog, mewn llodrau "dwetydd" a chrys gwlanen, ar sciw yn y cefn, gan blygu i glymu careiau ei esgidiau. Uniona yn sydyn gan rwbio ei gefn.

Malachi

Mari, sychsoch chi ddim o nghefan-i yn hannar sych!

Mari

(Yn y "rwm-genol".) Chi a'ch hen gefan! Dewch, mwstrwch-hi, ne ewch chi ddim i'r pwyllgor heno.

Malachi

(Yn tynnu yn rhy egniol gan dorri y garai.) Go, darro!

Mari

Nawr, Malachi, beth wetsoch-chi!

Malachi

(Yn syllu yn ofidus ar y darn yn ei law.) Beth wetas-i, yn wir!

Mari

Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chi, dyn o'ch oetran chi, i reci felna.

Malachi

Fe ddylsa fod cwiddyl arno-chitha i ddod â shwd Iassis a hyn i'r ty. (Yn gwneud cwlwm âr y garai.) Welas-i shwt beth ariod, os bydd ast arno-i i fynd i rwla, wy-i mor wirad o dorri lassan ne golli bwtwn, a mod i'n ddyn.

Mari

Otych, otych, 'r'ych-chi mor wyllt. Torri lassis a cholli bwtwna wy-i yn ych cofio chi. Wn-i ar y ddaear ble ma'ch front chi.

Malachi

Front! Pwy isha front sy heno? Dewch â'r grafat goch 'na yma.

Mari

Na chewch—crafat goch yn wir—a phob dyn decha arall yn gwishgo colar gwyn. Ble dotsoch-chi'r front 'na nos Sul?

Malachi

Dyna wyr. Ma rhyw hen wynt rhyfadd wedi mynd yndo chi oddiar ath Lisa Jane i'r college. Beth fydd raid i fi nithir nesa wn-i gwishgo cuffs i fynd i'r seiat falla? (Yn torri carai eto.) Wel, tawn i'n trico! Mari, os dim lassan letar yn y ty 'ma rwla?

Mari

Lassan letar yn ych sgitsha dwetydd, ys clwas-i shwt gownt! Tasa chi'n cal ych ffordd, fe wishgsach fel navvy. Ma 'na ddwsan o lassis duon yn nror y ford.



JACOB EVANS, gwr tua'r un oed a MALACHI, yn agor "drws-y-back" ac yn gwthio ei ben i mewn.

Jacob

Malachi, machgan annwl-i, 'dych-chi ddim yn meddwl dod i'r pwyllgor heno? Dewch, ma-hi'n mhell wedi'r amsar yn barod.

Mari

Dewch miwn, Jacob, dewch miwn, fe fydd Malachi yn barod nawr miwn hannar munad, (yn wawdlyd) ar ol i fi lasso 'i scitsha fa.



Daw JACOB i mewn dan chwerthin.

Malachi

(Yn syllu ar esgidiau JACOB.) Mari, lassis lletar sy gita Jacob.



Daw MARI â'r golwg gan gario cot, gwasgod, front a het MALACHI.

Mari

D'ôs gen-i ddim lassan letar yn y ty nawr. Cerwch o'r ffordd.



MARI yn gosod ei ddillad ar gadair, gan ei wthio o'r neilltu, ac yna yn chwilio yn nror y ford; MALACHI yn eistedd ar y sciw; MARI yn dod o hyd i garai ddu ac yn plygu o flaen MALACHI gan blethu y garai yn ei esgid.)

Mari

Jacob, oti'ch gwraig chi yn gorffod lasso'ch scitsha chi fel hyn?

Jacob

(Yn eistedd mewn cadair freichiau wrth y tân.) Oti, fe 'llwch fentro; fe gelswn-i fynd heb scitsha cyn y plygsa Sarah o mlan i felna.

Mari

Ma Malachi wastod ar ol, cwympo i gysgu lwchi ar ol cal bwyd, yn lle mynd i wmolch ar unwaith, a dyma fi a'r hen gecin yn sang-di-fang, hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.

Jacob

Pitwch a wilia yn fach am y twbin, Mari; llestar o barch yw hwnna cofiwch. Ma 'na lawar i hen goliar yn wara'r delyn yn fendigetic yng ngogoniant heno, olchws 'i grôn du filodd o witha miwn twbin fel hwnna.

Mari

(Yn gorffen clymu yr esgid.) Dyna. (Yn codi.) Nawr, y front, nesa.



MARI yn cydio yn y front. MALACHI yn griddfan ac yn edrych ar JACOB.

Malachi

Mwfflar sy am wddwg Jacob!

Mari

Ma brest Jacob yn wan. (Yn ymgymeryd â gosod y front am wddf MALACHI; yntau yn crondagu.) Sefwch yn llonydd, y dyn; beth sy arno-chi!

Malachi

O'r arswd, ddaw hi ddim, ma-hi lawar rhy fach!

Mari

Rhy fach, dyma'r front fwya ôdd yn y shop—17½. Well i chi gal colar ceffyl. Dyna (wedi llwyddo ar ol tipyn o drafferth i osod y front), 'r ych chi'n dishgwl rwpath yn depyg i Gristion nawr.

Malachi

Fe fysa'n well gen i ddishgwl yn depyg i rwpath arall, wath felny wy'i'n teimlo.

Jacob

(Yn codi.) Ma'n well i ni fynd.

Mari

Dewch nawr, Malachi, (yn dal i fyny ei got a'i wasgod iddo gyda'i gilydd) mwstrwch, 'r ych-chi'n symud fel anglodd.



MALACHI, ar ol gosod ei fraich chwith yn y llawes yn aros yn sydyn â'i freichiau ar led, fel bwgan brain.

Malachi

(Yn ofidus.) Jacob, glwsoch-chi a'n mynd?

Jacob

Clwad beth?

Mari

Beth sy'n bod nawr? Y nefoedd annwl, bwtwn arall eto!

Malachi

(Yn alarus, ar ol gosod ei law dde tu cefn, ac yn dangos bwtwm ar gledr ei law.) Jacob Evans, 'r wy-i 'n gallu godda profedigitha mawr bywyd yn weddol iawn, ond ma rwpath fel hyn yn strain ofnadw ar y ticyn crefydd sy gen i.

Mari

O'r mowradd, ôn-i 'n son am golar ceffyl, fe ddylsach wishgo arnas cyfan, a nid shwt o ddillad.

Malachi

Dewch a'm strapan i 'ma.

Mari

Na chewch; fydda-i ddim wincad yn gwinio bwtwn arall.

Jacob

Pwy isha bwtwn arall sy? Dewch fel 'r ych-chi nawr. Fe naiff un bwtwn y tro am heno.

Malachi

Gnaiff a! Dyna i gyd ych-chi'n wpod. (Yn tynnu ei fraich o'r llawes, ac yn troi ei gefn ar JACOB.) 'D ych-chi ddim wedi gweld y galasis ffashiwn newydd 'ma? O bobpath dwl welas i ariod, sylwch ar y wheel fach yna, ma-hi fel sheave ingin windo. Os collwch chi un bwtwn ma'r un man i chi golli dou.

Jacob

Wel, dotwch y ddwy ddolan ar yr un bwtwn, dyna beth nelswn i.

Malachi

Iefa? Ma gita chi ffydd fawr yn Rhagluniath.

Jacob

Gwetwch chi beth fynnwch-chi, par o galasis pert yn-nhw.

Mari

(Yn gwnio'r botwm.) Presant pen-blwydd helws Lisa Jane iddo-fa o Aberystwyth.

Malachi

Wfft shwt bresant weta-i.

Jacob

Falla nag ych-chi ddim wedi dod i ddeall y wheels bach 'na eto. Synnwn i damad nawr nad rai felna ma proffeswrs y coleg yn wishgo.



Ergyd ar "ddrws-y-back." Ymddengys MATTHEW BIFAN, gwr o'r pump a deugain i'r hanner cant, cymharol drwsiadus, masnachwr llwyddiannus.

Matthew

Shwt ych-chi 'ma heno?

Mari

(Yn gŵnio yn brysur.) Dewch miwn, Matthew, fydd Malachi ddim hannar munad cyn dod.



MATTHEW ym dod mewn. Obadiah yn ei ddilyn.

Mari

O, 'r ych-chi Obadiah 'na hefyd. Dewch miwn, dewch miwn.



Un o "Bohemians"—anghydffurfiaeth ydyw OBADIAH, o dan ddeugain oed; am gyfrif ei hun yn "Llenor"; ei wallt braidd yn hir, a'i ddillad hytrach yn afler.

Matthew

'D yw Mrs. Evans, Ty-capal, ddim wedi cynnu tamad o dân yn y vestry, na gola chwaith, ag on ni'n meddwl, os nag os gwaniath gita chi, y celsa-ni gynnal y pwyllgor yma.

Malachi

Itha right, cymerwch gatar. Ishteddwch Obadiah, dewch ymlan.

Mari

O ble galla-nhw ddod ymlan, a'r hen dwbin brwnt ar yr aelwyd.

Jacob

Pitwch chi gofitio dim am y twbin, Mari, fe ddota-i bobpath yn daclus i chi. Obadiah, cymerwch afal yn hwn gita fi. (JACOB ac OBADIAH yn dwyn allan y twb ar y dde.) Matthew, dewch chitha a'r ffetan a'r box sepon 'na mas. (MATTHEW yn ufuddhau ac yn canlyn.)

Mari

(Dan chwerthin.) Llaw futur yw Jacob, ontefa? Dyna, os collwch chi'r bwtwn yna eto, fe'i gwinia fa â chordyn y tro nesa.



Y tri yn dod i mewn o'r "scullery."

Mari

Ishteddwch lawr am funad, fe gynna-i dân yn y rwm genol nawr.

Malachi

Ia, ia, fe fyddwn yn fwy cysurus manny.

Matthew

Pwy ishai chi gynnu tân yn y rwm genol sy? Fe fyddwn ni yn itha cysurus man hyn.

Jacob

Wel byddwn, yn enw pob synnwyr. (Ym tanio ei bibell.) A pheth arall, 'dyw dyn ddim yn licio poeri yn y rwm genol.

Mari

Allwch-chi ddim bod yn y gecin, ne fydd gen i ddim un lle i fynd. Ble 'r af fi?

Jacob

'D ôs dim isha i chi fynd i unman. 'Rwy-i yn dymuno cynnyg yn ffurfiol fod Mrs. Williams yn aelod o'r pwyllgor yma i bartoi program ar gyfar eisteddfod fawreddog capal Pisgah.

Obadiah

Clywch, clywch; 'r wy'n dymuno eilio'r cynyciad. Quite right (yn troi at MATTHEW), quite in order, co-opted member, chi'n gweld Mr. Bifan.

Malachi

Os yn-ni yn mynd i aros yn y gecin, a Mari yn yn plith ni, 'd ôs dim isha i chi chynnyg hi yn aelod o'r pwyllgor,—dyna fi yn roi rypudd teg i chi nawr.

Jacob

Wedi gynnyg a'i eilio, pob un sy dros y cynyciad? (Codi dwylaw unfrydol.)

Obadiah

Y peth nesa sy gita ni i nithir yw dewish cadeirydd. R wy'n dymuno cynnyg Jacob Evans.

Jacob

Ma gen-i welliant: 'r wy-i yn cynnyg fod gwr-y-ty, Malachi Williams, yn cymeryd y gatar.

Matthew

'R wy'n eilio'r cynyciad.

Jacob

Pob un o'r un farn?— (Codi dwylaw unfrydol.) Nawr dyma'r man gora i chi ishta. (Yn gosod cadair freichiau iddo tua chanol y barth.) Fe af finna man hyn.



Cymer pob aelod o'r Pwyllgor ei le yn awr, rhywbeth tebyg i hyn. Eistedd MALACHI yn y canol, MARI ar ei law chwith, ac OBADIAH ar ei dde. Myga JACOB yn egniol ger y tân, tra 'yr erys MATTHEW ar yr ochr chwith, nid ymhell oddiwrth MARI. Wedi i MALACHI gymeryd y gadair, teyrnasa distawrwydd llethol am beth amser. Y mae y cadeirydd yn edrych ac yn teimlo yn anghysurus iawn. Try o'r diwedd at JACOB.

Malachi

(Yn rhyw hanner sisial.) Os raid i fi wed rwpath nawr?

Jacob

Wel, os, gair bach yn fyr fel rhagarweiniad i'r gwaith.

Malachi

Hannar munad ta! (Yn diosg y front, i'w fawr ollyngdod, ac yn ei thaflu dan y ford; yna, ar ol cryn betruster, yn codi.) Frotyr a chwiorydd,...

Mari

(Yn crechwen.) Ma Malachi yn mynd i gynnal gwasanath.

Malachi

(Yn ddigofus.) Os ych-chi, Mari, yn mynd i wherthin ar ym mhen i, weta-i ddim gair arall.

Matthew

Galwch hi i gownt, Malachi, galwch hi i gownt; chi yw'r cadeirydd. Ordor Mrs. Williams!

Jacob

Ordor Mari!

Malachi

(Yn troi ati.) Dyna fe! glywsoch chi! Ma'n raid i chi acto'n weddus miwn pwyllgor.

Mari

Gadewch ych hen foddar, da chi, a cherwch mlaen â'r gwaith.

Malachi

'R yn-ni wedi cwrdd... 'r yn-ni wedi cwrdd yma heno... ond yn-ni?

Mari

Otyn, otyn.



MALACHI yn eistedd yn ei gadair yn ffromllyd, gan edrych oddiamgylch yn erfyniol am gydymdeimlad.

Malachi

Jacob, Matthew, dyna ddangos i chi faint o wara teg wy-i 'n gal yn y ty ma.

Mari

Malachi, ngariad annwl-i, ôn-i'n meddwl dim drwg, trio'ch helpu chi ôn i.

Matthew

Ia, ia, Malachi, trio'ch helpu chi ôdd hi. Dewch nawr, pitwch a pwti. Dyw Mrs. Williams ddim wedi arfadd bod mewn pwyllgor, ond ar ol iddi ddod yn fwy cyfarwydd, fe all fod o help mawr i ni. (Yn troi at MARI). Chi'n gweld, Mrs. Williams, os byddwch chi yn cydweld â'r hyn ma'r sharatwr yn wêd, raid i chi waeddu "Clywch, clywch"—ma hynny yn g'londid mawr iddo-fa.

Mari

(Yn ddiniwed iawn.) O, 'r wy'n gweld.

Matthew

Dewch mlan, Malachi, dechreuwch eto.

Malachi

(Yn codi.) Wel, 'r ych chi gyd yn gwpod nag wy-i ddim llawar o sharatwr.

Mari

Clywch, clywch!

Malachi

Dyna chi 'to!

Matthew

Ond ych helpu chi ma-hi; cerwch mlan, wr.

Malachi

Fel gwetas i, 'wy-i ddim llawar o sharatwr, ond ma ngalon-i yn y gwaith. 'R wy wedi bod gita chrefydd nawr ers dros ddeugain mlynadd...

Mari

Pwyllgor 'steddfod ne seiat-brofiad sy 'ma, gwetwch?

Obadiah

Chair, chair.

Matthew

Ordor, ordor.

Jacob

Ordor, Mari.

Malachi

(Yn gadael MARI yn ddisylw.) A... a... 'rwy wedi talu'r shop yn gyson pob pythewnos drw'r blynydda... a... a... a os pariff y tywydd fel hyn, fe ddylsan gal steddfod hyfryd.

Y Gwyr

Clywch, clywch. (Curo dwylaw.)

Malachi

Ond... ond, i fynd ymlan... ia... a... i fynd ymlan... ia... (yn troi yn sydyn at JACOB), Jacob Evans, 'r ych chi'n gwpod beth i wêd yn well na fi, a chitha'n cyoeddi bob Sul─dewch nawr, gair bach yn fyr.



MALACHI yn eistedd. JACOB yn codi yn araf a phwysig.

Jacob

Gyfeillion, ar ol sylwata tarawiadol y cadeirydd 'dos gen i fawr i wêd. Fel ych chi gyd yn gwpod, fe benderfynws eclws Pisgah, fishodd ynol, i gynnal 'steddfod dydd Calan nesa.

Mari

Naddo, phenderfynws yr eclws ddim shwt beth.

Matthew

Wel, os na phenderfynws yr eclws, fe fuws sharad ymhlith y brotyr.

Mari

Do, dair wthnos i bora Sul dwetha yn y cwrdd brotyr buws son gynta am 'steddfod, ontefa Malachi?

Malachi

(Yn anghysurus.) Beth ych-chi'n gofyn i fi!

Jacob

Ta pun, wedi i gapal Salam, perthynol i enwad parchus arall—

Obadiah

Parchus yn wir!

Mari

Ma nhw lawn mor barchus a ni.

Malachi

Ordor, Mari.

Jacob

Wedi i gapal Salam glwad beth ôn-ni'n feddwl nithir, am ryw reswm ne gilydd, fe benderfynson fynd yn grôs i ni.

Mari

Dyna gelwdd.

Obadiah

Chair, chair.

Matthew

Ordor, ordor.

Jacob

(Yn gynhyrfus.) Malachi... Mr. Cadeirydd, glwsoch-chi? Os nag yw Mari yn tynnu 'i gira nol ar unwaith dyma fi yn ymddiswyddo o'r pwyllgor, a mwy na hynny, fe af fi a'i hachos hi o flaen y seiat,—ma gen i ddicon o witneson.

Malachi

(Yn codi.) Nawr, Mari, tynnwch ych geira nol, gwnewch apology ar unwaith.

Mari

O'n wir, a phwy ych-chi'n wilia, Malachi? Pology a finna'n gwpod gwell!

Obadiah

Ond chi'n gweld, Mrs. Williams, hyd yn nod os byddwch chi'n gwpod nag yw dyn ddim yn gwêd y gwir, ôs gita chi ddim hawl i wêd, pan fyddwch chi miwn pwyllgor, i fod a'n gwêd celwdd.

Mari

O─h wel, dyna waniath nawr. Wyddwn i ddim o hynny. O'r gora, er mwyn mynd ymlan, 'r wy'n folon tynnu'r gair 'celwdd' yn ol, ond... ôdd Jacob ddim yn gwêd y gwir.

Matthew

Cerwch mlan Jacob.

Jacob

(Yn ffyrnig.) Do, fe benderfynson fynd yn grôs i ni, fe benderfynson gynnal 'steddfod yn Salam ar yr un dwarnod a ninna.

Obadiah a Matthew

C'wilydd, c'wilydd!

Malachi

Ia, c'wilydd mawr hefyd.

Jacob

Nawr, 'dwy-i ddim am wêd dim byd yn gas, "Parhaed brawdgarwch" weta i.

Y Brodyr

Ia, ia.

Jacob

Ond 'r'yn-ni gyd yn gwpod shwt dacla sy yn eclws Salam.

Y Brodyr

Clywch, clywch!

Mari

'D yn-nhw damad gwath na thacla eclws Pisgah, ond falla 'u bod nhw dicyn yn fwy cute.

Jacob

'D yn-ni ddim yn mynd i ffraeo â aelota Salam.

Y Brodyr

Nagyn, nagyn.

Jacob

Ma'n well i ni gymryd popath yn dawal, miwn ysbryd cariad.

Y Brodyr

Oti, oti; itha right.

Jacob

Ond 'r un pryd, 'dos dim isha i ni ildo iddyn nhw!

Y Brodyr

Nagos.

Jacob

'Dos dim isha i ni fynd o dan 'u trad nhw!

Y Brodyr

Nagos, nagos.

Jacob

C'uwch cwd a ffetan, myn brain-i!

Y Brodyr

Clywch, clywch.

Jacob

'Ryn-ni wedi cwrdd ma heno i nithir program. Fe gaiff y program fynd at y printar fory, fe fydd yn barod idd 'i ddosbarthu dydd Sul, ac os bydd aelota Salam o'r wynab i gynnal 'steddfod 'r un dwarnod a ni, ar ol i ni ddod a'n program mas o'u blan nhw, wel—'dwy-i ddim am weld un o honyn nhw byth, yn y byd yma na'r byd a ddaw.

Y Brodyr

Clywch, clywch! (Curo dwylaw.)

Obadiah

Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n cwnnu ar boint of ordor.

Malachi

(Yn hurt.) Ah?

Obadiah

'R wy'n cwnnu ar boint of ordor.

Malachi

Obadiah, 'r ych-chi gwpod nag os dim llawar o Sisnag gen-i; gobitho nag ych-chi ddim yn trio'n shimplo-i.

Jacob

Nagyw, nagyw, point of ordor bachan, point of ordor—wastod miwn pwyllgor,

Malachi

(Yn fawreddog.) 'R wy-i wedi bod ar gannodd o bwyllgora—

Mari

O—h!

Malachi

Wel, fe alla wêd ma nid dyma'r tro cynta i fi fod ar bwyllgor, ond chlywas i ariod son am boint of ordor miwn pwyllgor Cwmrag o'r blan. Ond cerwch ymlan i ni gal clwad beth sy gita chi.

Obadiah

Dyna beth sy gen i: pwy isha i ni gal 'steddfod sy, pwy les ma'r hen 'steddfota bach ma'n nithir?

Jacob

'Steddfod fach!

Obadiah

Ia, 'steddfod fach. Ma'r 'steddfod yn mynd mas o'r ffashwn nawr. 'R wy-i 'n cynnyg yn bod ni yn cal drama.

Malachi

Beth! Wara hen blai yn y capal!

Matthew

Ma gen-i welliant. 'R wy-i'n cynnyg yn bod ni'n cal consart.

Jacob

Consart! talu arian mawr i ferched hannar nôth i ganu yn nhy Dduw!

Malachi

'D os dim drama na chonsart i fod. Fi yw'r cadeirydd, a wetyn, tewch son. Heblaw hynny, ma cwrdd y brotyr wedi penderfynu cal 'steddfod. Os na chynaliwn ni 'steddfod nawr fe fydd aelota Salam yn meddwl 'u bod nhw wedi cal y gora arno-ni.

Mari

(Yn annerch y gadair yn ffurfiol iawn.) Mr. Cadeirydd, point of ordor.

Malachi

O, beth wyddoch chi am beth felny?

Mari

Ma gen-i gystal hawl a neb arall i wêd gair, nagos-a?

Jacob, Matthew, Obadiah

Os, ôs.

Mari

Wel, ma Jacob Evans wedi gwêd fod aelota Salam wedi mynd yn grôs i ni yn Pisgah.

Jacob

Pwy isha i chi 'mhela â'r hen grachan yna nawr sy? Fel gwetas-i, "Parhaed brawdgarwch."

Mari

Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch," dim ond i chi gal ych ffordd.

Malachi

Dyna i gyd sy gita-chi i wed?

Mari

Nace, dyma beth sy gen i: os ôs un wedi croesi'r nall, ni yn Pisgah sy wedi mynd yn grôs i aelota Salam.

Y Brodyr

(Yn codi fel un.) Beth!

Mari

(Yn hamddenol.) 'Dos dim isha i chi waeddi, 'dos dim tamad o'ch hofan chi arno-i, dim un o chi. Y gwir yn erbyn y byd, myn brain-i, Jacob.



JACOB, MATTHEW ac OBADIAH yn eistedd.

Malachi

(Yn annerch y tri gwr.) Dyna chi! arno-chi ma'r bai. Fe roias i rypudd teg i chi; fe wyddwn-i o'r gora y gnelsa Mari gawl o'r cwbwl.

Mari

Otw; 'r wy-i'n mynd i nithir cawl, a ma raid i chi ifad-a, bob un o chi. Fe naiff les i chi lyncu tipyn o wirionadd. (Yn bendant.) Fuws dim son am 'steddfod yng nghapal Pisgah cyn tair wthnos i bora dydd Sul dwetha—all un o chi watu hynna? (Neb yn yngan gair.) Wel, ôdd capal Salam wedi penderfynu dros bump wthnos yn ol.

Matthew

O ble 'r ych-chi yn gallu gwêd 'na?

Mari

'D yw-a ddim ond peth glwas-i â'm clusta 'm hunan, Matthew. On-i yn shop y Coparetif, fish i nos Satwn dwetha, a fe glwas Ifan Twm Shon yn gwêd wrth Shân Ty-Cornal fod y brotyr yn eclws Salam yn meddwl cal 'steddfod dydd Calan nesa, a wetyn, o ble gallwch chi wêd 'u bod nhw wedi mynd yn grôs i chi?

Jacob

Falla 'u bod nhw wedi meddwl, ond ôn-nhw ddim wedi penderfynu dim. Os gita chi ddim hawl i wêd yn bod ni wei mynd yn grôs iddyn nhw.

Mari

'D wy-i ddim am wed shwt beth. Falla ma wedi dicwdd yn lletwith ma petha, falla nace-fa hefyd. (Gan edrych yn gul tuagat JACOB.) Ta pun, dyna'r gwirionadd.

Matthew

'D yn-ni ariod wedi cal unrhyw gymwynas oddiwrth aelota Salam.

Malachi

Nag-yn, a nawr, gan 'i bod hi wedi mynd yn waetha waetha, 'd wy-i ddim yn gweld fod isha i ni bito cal 'steddfod.

Jacob

Nagw inna chwaith.

Mari

O'r gora, a dyma finna yn roi rypudd i chi. Cerwch chi mlan â'r program, ond os gnewch chi ffwliad o chi 'ch hunen, arno-chi bydd y bai.

Matthew

'R yn-ni yn fwy tebyg o nithir ffwliad o aelota Salam o beth dychrynllyd.

Jacob

Mlan â'r program, mlan â'r program.

Malachi

Ia, ia; dyma ni wedi bod bron hannar awr man hyn, a 'd yn-ni ddim tamad nes mlan, dim ond o'ch hachos chi, Mari. Dos dim isha mynd i'r shop arno-chi, ne rwpath?

Mari

Nagos, 'r wy-i'n itha cysurus man hyn. A fel gwetws Matthew, falla galla-i fod o help mawr i chi.

Malachi

Wel, beth gymerwn ni gynta? Y prif-ddarn? Dewch Matthew, chi yw'r dechreuwr canu, beth yw'ch barn chi?

Obadiah

Mr. Cadeirydd, r'wy-i'n cwnnu lan ar boint of ordor.

Malachi

Wel 'tawn i'n marw, rhyw gratur penstiff ych chi Obadiah! Beth sy'n bod nawr?

Obadiah

Pwy isha sy i ni roi'r lle blaena i'r hen ganu 'ma?

Matthew

(Yn codi yn gynhyrfus.) Ho! 'r hen ganu, iefa? 'R ych chi, Obadiah, wedi mynd yn getyn o slebyn oddiar enillsoch chi'r wobor 'na yn y Penny Readings.

Obadiah

(Gyda gwên ddirmyg.) Jelosi, Matthew, jelosi. 'R wy-i'n cynnyg yn bod ni yn dechra gita'r ochr lenyddol.

Mari

(Yn ddireidus.) 'R wy inna yn eilio'r cynyciad.

Malachi

Na, na, fe gymerwn y prif-ddarn gynta. Os yma ryw gynyciad?

Jacob

'D wy-i ddim llawar o gerddor, ond ma na ddernyn bach pert iawn a geira bendigetic iddo-fa y licswn i weld ar y program.

Malachi

Beth yw hwnnw?

Jacob

"Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."

Mari

Chi ithoch â'r gair oddiar flan y nhafod-i Jacob. 'R wy-i'n dwli 'n lân ar y pishin bach yna. Chi'n cofio côr Panteg yn cystadlu?

Jacob

Cofio, wel am otw.

Mari

Fe geson-ni lawar i rali fach prynny, ondofa Jacob? Deryn doniol och-chi'n arfadd bod yn grotyn.

Jacob

A thwisan ofnatw och chitha, Mari.

Matthew

Ordor, ordor.

Mari

Der, der, fel ma'r hen fyd 'ma; ôn-i'n meddwl dim am gysgod Malachi prynny. Chi'n cofio'r noswaith 'ny ithoch chi a fi—

Malachi

Ho'n wir, dyma hanas blasus i ddoti o mlan i, ontefa?

Jacob

Malachi bach, plant ôn-ni.

Mari

(Yn chwerthin.) Plant ia, beth ôn-ni? Rhyw un ar bymtheg ôn-i, a 'd och-chitha, Jacob, ddim yn ddeunaw. A chi'n cofio'r tro arall 'ny, y noswaith lyb 'ny ar y ffordd 'n ol o 'steddfod Merthyr ôch chi a fi yn cysgoti o dan y dderwen?

Jacob

(Yn mwynhau'r atgof.) A finna'n sychu'ch gwynab chi â nishad bocad!

Obadiah

Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanes caru Jacob Evans?

Malachi

Mari, chi ddechreuws yr hen ddwli-ma.

Mari

Ond plant ôn-ni, Malachi bach, plant ôn-ni. O gadewch i ni gal "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd." 'R wy-i'n dymuno cynnyg y dernyn yna.

Jacob

'R wy inna yn 'i eilio fa. Fe ddaw'r hen amsar'n ol mor felys.

Malachi

Daw-a'n wir! Cymerwch chi bwyll Jacob. Llai o'r hen amsar melys 'na, os gwelwch chi'n dda. Matthew, chi yw'r dyn yn y dryswch 'ma. Dewch nawr.



Cyfyd MATTHEW yn bwyllog gan siarad yn fawreddog ac awdurdodol.

Matthew

Y peth cynta sy gita ni gofio pan yn dewish y prif-ddarn yw bod y byd-cerddorol yn symud ymlan. Pob parch i'r "Blodeuyn bach" a phetha o'r fath, ond os yn-ni am ddangos yn bod ni yn y front gita cherddoriaeth, raid i ni ddewish dernyn classical.

Obadiah

(Yn wawdlyd.) Ha, ha!

Matthew

Os ych-chi, Obadiah, yn cretu y gallwch chi guddio'ch hanwybotath wrth wherthin, 'd ych-chi'n twyllo neb. Ma isha rwpath mwy na phitchfork, cofiwch, i nithir cerddor.



OBADIAH yn codi yn wyllt.

Malachi

Dyna glatchan yn 'i lle, Matthew. Ishteddwch lawr, Obadiah, a dysgwch wrando'n barchus pan bodyn o wybotath yn gwêd gair.

Jacob

Shwt ddernyn yw dernyn—beth och-chi yn 'i alw fa, Matthew?

Matthew

Classical, dernyn classical.

Jacob

Ia, dyna fe, shwt beth yw-a?

Obadiah

Dyna pam ôn-i'n cwnnu. Fe licswn-i glwad Mr. Bifan yn esbonio'r gair classical.

Matthew

Wel, nawr ta, i fi gal sponio. Ffordd galla-i ddangos i chi nawr, dernyn classical—dernyn—na, ddaw hi ddim felna chwaith. Dernyn—miwn ffordd o wilia—dernyn—chi'n gweld, ma-hi fel hyn yn gwmws os nag ych chi'n gyfarwdd iawn â cherddoriath, yn enwetig yr hen nodiant, 'd ôs dim shwt beth a'ch doti chi i ddeall beth yw classical.

Obadiah

(Yn fuddugoliaethus.) Ha, ha!

Mari

Ma na lawar ffordd o ladd ci heblaw i groci-fa, ond ôs a, Matthew.

Jacob

Allwch chi ddim roi engraifft i ni, pwy ddernyn ôdd ar ych meddwl chi?

Matthew

Wel, dyna'r dernyn ôdd ar ym meddwl i, "Worthy is the Lamb."

Malachi

O, Sisnag, iefa?

Matthew

Ia, Sisnag yw-a. Atnod o'r Scrythur yw'r geira.

Malachi

Iefa'n wir. Shwt ma'r Ysgrythur yn canu yn Sisnag, Matthew?

Matthew

Wel, ma'n raid cyfadda, 'dyw-hi ddim 'r un peth.

Malachi

Dyna-fe lwchi, Cwmrag yw iaith crefydd, ontefa?

Jacob

Ia,ia,—ia. (Yn ddwys iawn.)

Mari

Wel, 'dwy inna ddim yn gyfarwydd iawn â cherddoriath (gan droi at MATTHEW), yn enwetig 'r hen nodiant, ond ma 'na ddernyn ar ym meddwl i, wn-i ddim os yw-a'n glassical ne bito, "Y don o flan y gwyntodd."

Malachi

(Yn nwyfus.) Mari, chi'n cofio 'steddfod Aberdar!

Mari

Cofio, ddala-i mod-i!

Malachi

(Yn annerch JACOB a MATTHEW bob yn ail.) Dyna le gwelais-i Mari gynta; yn canu gita altos Côr y Cwm. 'R wy'n 'i gweld hi nawr, ffroc lâs, shacad goch, het felan a phlufyn gwyrdd—ôdd hi fel twmplan fach, ôdd! Fuas-i fawr o dro cyn dala 'i llycad hi, a fe ddath rwpath drosto-i bob tamad, do; "Dyna ngwraig i," myntwn-i, "dyna ngwraig i."

Mari

Chi'n cofio'r dwarnod, Jacob? Gita chi yr itho-i i'r 'steddfod.

Malachi

Ia, ia, ond, ha! ha!—gita fi yr ithoch chi sha thre.

Jacob

(Yn sychlyd.) Mr. Cadeirydd, otyn-ni wedi dod yma heno i glwad hanas caru Malachi Williams?

Malachi

Dyna chi, Mari, arnoch chi ma'r bai, chi ddechreuws, cofiwch—ond fe licswn i gal "Y don o flan y gwyntodd " yn 'stedfod Pisgah.

Mari

Licswn inna hefyd, fe ddaw'r hen amsar 'nol mor felys.

Malachi

Daw-a, daw; Matthew, ma'r "Don o flan y gwyntodd " yn glassical, on'd yw hi?

Jacob

Classical, nag yw!

Malachi

Ma-hi'n ddicon mwy classical na'r "Blotyn bach." Dewch nawr, Matthew, gwetwch ych barn yn onast.

Matthew

(Yn ddifrifol.) 'D os dim cerddoriath glassical i gal yn Gwmrag.

Obadiah

Ho! dyna Gymro, dyna Gymro; son am anwybotath!

Mari

Classical ne bito, 'r wy-i am gal y dernyn yna.

Matthew

Ma'n ddrwg gen-i fynd yn ych herbyn chi, ond fel cerddor ma'n rhaid i fi fod yn gydwybotol. 'R wy-i'n cynnyg "Worthy is the Lamb."

Malachi

Os yma rywun yn eilio'r cynyciad?

Obadiah

(Yn ffyrnig.) Nagos!

Matthew

Mannars, Obadiah, mannars os gwelwch chi'n dda.

Malachi

Ryw gynyciad arall?

Matthew

(Yn codi.) Os nagw-i yn cal ym ffordd gita'r gerddoriath, dyma fi'n mynd sha thre.

Obadiah

Clywch, clywch.

Jacob

Ishteddwch i lawr, Matthew, a pitwch a bod shwt fabi. 'R wy'-i'n cynnyg "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd."

Malachi

Os yma rywun yn ddicon dwl i eilio hwnna?

Mari

Os; 'r wy-i yn 'i eilio-fa.

Malachi

Mari!

Jacob

'Nawr, Mr. Cadeirydd, whara teg, lan âg ê, lan âg ê.

Malachi

(Rhwng ei ddannedd.) Pob un sy dros y "Blotyn bach," i ddod a'r hen amsar melys nol?



JACOB a MARI yn codi dwylaw.

Malachi

Pob un sy'n grôs?



MALACHI, MATTHEW, ac OBADIAH yn codi dwylaw. Gwena MALACHI yn foddhaus iawn.

Malachi

Nawr ta, Jacob, ble 'r ych-chi nawr, eh? (Yn troi at MARI.) Dewch chi, merch-i!

Mari

(Yn siriol.) Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n dymuno cynnyg "Y don o flan y gwyntodd."

Malachi

Wel, 'tawn-i heb gyffro o'r fan!

Mari

Eiliwch-a, Malachi, eiliwch-a.

Malachi

(Yn sarrug.) Eiliwch-a 'ch hunan.

Obadiah

Fe eilia-i'r cynyciad.

Malachi

(Yn troi ato.) O'n wir; ym mhwy 'steddfod buoch chi, Obadiah?

Mari

Lan âg ê, lan âg ê.

Malachi

(Yn anfoddlon.) Pob un sy dros "Y don o flan y gwyntodd"?



MARI ac OBADIAH yn codi dwylaw.

Malachi

Pob un sy'n grôs?



MATTHEW, JACOB a MALACHI yn erbyn y cynhygiad. Malachi yn gwenu.

Obadiah

O'n i'n eilio'r cynyciad er mwyn dangos y dryswch sy'n dilyn o gymeryd yr hen ganu 'ma gynta. 'R wy-i'n cretu y dylsa-ni fynd ymlan at yr ochor lenyddol.



MATTHEW ar ei draed.

Malachi

Itha right. Ishteddwch i lawr, Matthew, fe ddewn ni'n ol at y canu eto.



MATTHEW yn eistedd dan rwgnach.

Obadiah

(Yn chwyddo.) 'R wy-i'n cynnyg yn ffurfiol yn bod ni'n cymeryd at y farddoniath a'r ryddiath.

Mari

'R wy-i'n eilio'r cynyciad.

Malachi

Barddoniath a pheth?

Obadiah

Barddoniath a ryddiath.

Malachi

(Yn hurt.) Ryddiath? (Yn ddifrifol.) Fe fyddwn-ni'n cynnal y 'steddfod, Obadiah, miwn ty cysegredig. (Yn troi at JACOB.) Os gita chi ryw syniad beth ma-fa'n gisho'i wêd?

Jacob

Ryddiath, bachan, ryddiath—traethawd ne lythyr caru.

Malachi

O—h, wel, pam na wetiff y dyn 'i feddwl yn blan. O'r gora, fe ddechreuwn gita'r llythyr caru. Faint o wobor gynycwn-ni?

Mari

Otych-chi'n cofio'r llythyron caru o'ch chi'n arfadd hela ato-i, Malachi?

Matthew

Ordor, ordor.

Mari

Der, der, dyna garwr ôdd Malachi, a'r llythyron ta, 'rwy-i'n cretu y gallaswn-i atrodd rai o honyn nhw nawr air am air.

Malachi

(Yn bybyr.) Ma ryw wendid ryfadd wedi dod drosto chi yn ych henaint, nagos-a?

Mari

Os falla'n wir, nawr wy-i yn 'i gal-a, lwchi, fe'i cesoch chitha fa yn ifanc iawn.

Jacob

Dewch mlan, Malachi, ne man hyn y byddwn-ni. Barddoniath a ryddiath.

Obadiah

Cyn mynd ymlan, 'r wy-i am ddoti un amod lawr, a dyma fe: yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd.

Matthew

Ma-fa'n wilia'n gwmws fe tsa fa wedi llyncu dicshnari.

Obadiah

Dyma gyfla bendigetic i ni ddangos yn bod ni'n ddynon gwybotus a diwyllietic. Otw, 'r wy-i'n cynnyg fod yr oll o'r cyfansoddiata miwn barddoniath a ryddiath i'w hysgrifennu yn ol yr orgraff newydd.

Mari

Beth gynllwn yw orgraff?

Matthew

Orgraff—O, ffordd smala o spelian y Gwmrag.

Mari

Wel, ma'n raid gen-i ta orgraff ôdd gita Malachi yn 'i lythyron caru.

Matthew

Chair, chair.

Jacob

Ordor, ordor.

Malachi

Gadewch i bob un spelian fel ma-fa'n dewish, yn enw'r bendith, spelian fel dysgws-a yn yr Ysgol Sul, spelian 'r un ffordd a'r Beibl.

Obadiah

'Dyw orgraff y Beibl ddim hannar right.



JACOB, MATTHEW a MALACHI yn neidio i fyny.

Malachi

(Gyda dwyster.) Obadiah, ma'n flin gen-i'ch clwad chi yn wilia felna, bachan ifanc gobithol fel chi, sy â'i lycad ar y sêt fawr.

Jacob

Dyna fe, lwchi, 'dos dim daioni yn dod o ddarllan y New Theology 'na.



OBADIAH yn codi eto.

Malachi

(Yn dyner ond penderfynol.) Nawr Obadiah, ishteddwch lawr, ne dyn a wyr beth wetwch chi nesa. Os triwch chi fod yn gymedrol, fe driwn ninna anghofio'r hyn wetsoch chi. Cofiwch chi, tsa aelota Pisgah yn dod i wpod am hyn, fe fysa hi yn galed iawn arnoch-chi.



OBADIAH yn parhau ar ei draed; JACOB yn codi.

Jacob

Er mwyn mynd mlan, 'r wy i'n dymuno cynnyg gwobor o gini am y Bryddest ora.



OBADIAH yn eistedd.

Matthew

Dyna ryw synnwyr nawr.

Malachi

Ar bwy destun, Jacob?

Jacob

"Noah yn mynd miwn i'r Arch."

Malachi

Testun hyfryd.

Mari

Ma gen-i welliant at y testun yna.

Malachi

Wel?

Mari

"Noah yn dod mas o'r arch."

Jacob

(Yn cynhyrfu.) Gobitho, Mari, nag ych-chi ddim yn wherthin ar ym mhen i.

Obadiah

Beth arall allwch-chi erfyn? Os cewch chi'ch ffordd, fe newch y 'steddfod yn destun sport i'r byd. Dwli pen hewl, bob tamad.

Jacob

O, felna iefa?

Obadiah

Ia, Jacob, felna. 'Dych-chi ddim yn diall ysbryd yr ôs. Ys gwetws dyn enwog ychydig bach yn ol, fe gas Cymru afal ar 'i henad yn y ddeunawfad ganrif, fe ddath o hyd idd'i meddwl yn y bedwaradd ganrif ar bymtheg, a nawr yn yr ugeinfad ganrif ma-hi'n sylweddoli fod gita-hi gorff. Gadewch i ni ddewis testun fydd yn trafod petha agosa a mwya cynefin bywyd, testun realistic. Na, 'dychchi ddim yn diall ysbryd yr ôs.

Malachi

(Mewn anobaith.) Os yma rywun yn diall Obadiah?

Matthew

'R wy-i'n cretu mod i yn 'i ddiall-a wath ma'r hen grotyn 'na sy gen i yn clepran petha tepyg amball waith. A nawr, er mwyn i ni ddangos yn bod ni yn ddynon gwybotus a diwyllietic, yn diall ysbryd yr ôs—er mwyn i ni gal testun realistic, ac er mwyn pleso Obadiah, 'rwy-i'n cynnyg gwobor o gini am yr awdl ora ar "Dwlc Mochyn."



Terfysg yn y pwyllgor. Obadiah yn codi ar ei draed yn wyllt.

Obadiah

Tsa chi'n wrboneddig, a thicyn o synnwyr cyffretin yn ych pen chi, fe ddiallsach ar unwaith mai nid dyna on-i'n feddwl.



MATTHEW yn chwerthin yn wawdlyd.

Malachi

(Yn fygythiol.) Nawr, nawr, Obadiah, ôs dim ffraeo i fod yn y ty 'ma. Ishteddwch lawr.

Jacob

Ia, ia, "Parhaed brawdgarwch."

Mari

Wel, wel, a dyma shwt beth yw pwyllgor o ddynon. Druan a chi!

Malachi

Ag ar bwy ma'r bai. Fe fysan-ni'r dynon wedi nithir gwaith onibai amdano chi.

Mari

'R un hen gân o hyd: y wraig hon a roddaist i mi.

Obadiah

(Yn parhau ar ei draed.) Mr. Cadeirydd, 'r wy-i'n gofyn i Mr. Bifan i nithir apology i fi.

Malachi

'R wy-inna yn gofyn i chitha i ishta lawr. 'Rych chi lawn cynddrwg a Mari.

Matthew

Ma fa lawar gwath.

Malachi

(Yn troi at JACOB a MATTHEW.) Odd hawl gita ni i ddewis Mari yn aelod o'r pwyllgor 'ma?



MARI yn plethu ei breichiau ac yn gwenu.

Jacob a Matthew

Odd, ôdd—ôdd.

Malachi

O'r gora, os odd hawl gita ni idd 'i nithir hi'n aelod, ma hawl gita ni idd 'i diaeloti hi.

Jacob

Ma reswm yn 'yna hefyd.

Malachi

A os ôs hawl gita ni i ddiaeloti Mari ma hawl gita ni i ddiaeloti Obadiah.

Matthew

Clywch, clywch.

Malachi

'D yw Mari a Obadiah yn ddim byd ond rhwystyr, a wetyn, ma'n well i ni idd 'i diaeloti nhw. Fyddwn ni'n tri ddim wincad yn partoi program: fe gewch chi, Matthew, ych ffordd gita'r gerddoriath, fe gaiff Jacob drefnu'r farddoniath a'r—a'r peth arall 'na, a fe ofala inna am yr amrywiath.

Mari

Pwyllgor o ddynon, wel, wel! A dyma beth sy'n dod o gal 'steddfod miwn spite yn erbyn capal arall.

Matthew

Nid 'steddfod spite fydd hi. Ma gita ni gystlad hawl a nhw i gynnal 'steddfod ar ddydd Calan.

Mari

Fuoch chi'n gofyn i aelota Salam i gynnal 'u 'steddfod ar ryw ddwarnod arall?

Malachi

Y ni yn mynd i ofyn iddyn nhw! Otyn nhw wedi dod i ofyn i ni?

Jacob

Mlan â'r program, mlan â'r program, er mwyn i ni gal 'i ddosparthu fa dydd Sul nesa; a fel gwetas-i, os bydd aelota Salam yn ddicon digwiddyl i gynnal 'steddfod wetyn, wel, wfft idd 'u crefydd nhw, weta-i.

Mari

Beth wetsa-chi nawr, tsa aelota Salam yn dod â'u program mas cyn dydd Sul?

Malachi

Dim fear, ma nhw lawar rhy gysglyd.

Mari

(Yn codi ac yn siarad yn araf a thawel.) Malachi, fe ddath papur yma i chi cyn i chi ddod nol o'r gwaith, ond fe anghofias 'i ddangos-a i chi. Ma 'r un man i chi gal i weld-a nawr. Desc (Y gwyr yn edrych ar ei gilydd yn anesmwyth. Mari yn tynnu allan raglen fawr o ddror y ford ac yn ei dadlennu o flaen eu llygaid. Gwelir yn eglur mai poster capel Salem ydyw yn cyhoeddi eisteddfod ar ddydd Calan.

CAPEL SALEM

EISTEDDFOD FAWREDDOG

DYDD CALAN

Saif y gwyr yn syfrdan am ychydig gan syllu ar y rhaglen. Dyma fe, lwchi: ac os bydd aelota Pisgah yn ddicon digwyddil i gynnal 'steddfod nawr, wel,—

Obadiah

(Yn ofidus.) Jacob!

Jacob

(Yn alarus.) Matthew!

Matthew

(Yn wylofus.) Malachi!

Malachi

(Mewn dagrau.) Obadiah!



Par Mari i ddal y papur i fyny o'u blaen gan wenu arnynt.

LLEN

Drama un-act