| (Sara) Yr argod fawr, Rolant, be sy'n bod? | |
| (1, 0) 520 | O... esgusodwch fi, Mr. Huw, 'wyddwn i ddim fod yma neb dieithr, a mi ddois i mewn heb gnocio fel arfer. |
| (Rolant) {Yn cyflwyno Janet.} | |
| (Jac) {Yn ymgrymu'n foesgar.} | |
| (1, 0) 532 | Yn dda iawn diolch, Mr.... Mr. Williams, yntê? |
| (Jac) Ie siŵr. | |
| (Rolant) Y... ie... Mr. Williams. | |
| (1, 0) 538 | Wel, gwell fyddai i mi fynd, 'r wy'n meddwl. |
| (1, 0) 539 | Galw i weld Mrs. Huw wnes i, ond gan nad yw yma... |
| (Rolant) {Yn gweld mymryn o obaith.} | |
| (1, 0) 550 | Hen lanc ydych chwi, mae'n amlwg, Mr. Williams. |
| (Jac) Hen lanc? | |
| (Jac) Mi fedrwn i nyddu pwt o englyn am "Janet"... | |
| (1, 0) 560 | 'R ydych chwi'n fardd felly, Mr. Williams? |
| (Jac) Rhyw dalcen slip hwyrach. | |
| (Rolant) Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn... | |
| (1, 0) 570 | O, wyddwn i ddim eich bod yn disgwyl ymwelydd, Mr. Huw. |
| (Rolant) Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê? | |
| (Jac) A dod yma ar garlam gwyllt. | |
| (1, 0) 575 | Rhyw |flying visit|, fel pe tae... |
| (Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.} | |
| (Jac) |Flying visit|! | |
| (1, 0) 580 | Mae'n amlwg nad ydych yn gadael i'r hen ryfel 'ma effeithio rhyw lawer arnoch, Mr. Williams. |
| (1, 0) 581 | Gwneud y gorau o'r gwaethaf? |
| (Jac) Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi. | |
| (Jac) Wel ie, fe allai fod yn waeth arnaf, coeliwch fi. | |
| (1, 0) 583 | Gallai yn siŵr. |
| (1, 0) 584 | Mae hi'n amser cyfyng arnom. |
| (1, 0) 585 | Byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau a oes rhaid i ddynion ryfela? |
| (Jac) Eithaf cwestiwn. | |
| (Rolant) Wel do... am wn i... wir. | |
| (1, 0) 589 | Mae un Cymro o leiaf yn datgan yn gryf mai peth ffôl a phechadurus yw rhyfela. |
| (Jac) O? | |
| (Jac) A phwy ydi'r creadur hwnnw, tybed? | |
| (1, 0) 592 | Jac Glan-y-Gors. |
| (Y Ddau) P... p... |PWY|? | |
| (1, 0) 597 | Jac Glan-y-Gors. |
| (1, 0) 598 | Mi glywsoch sôn amdano yn siŵr, Mr. Williams? |
| (Jac) O do, coeliwch fi! | |
| (Jac) Gryn dipyn! | |
| (1, 0) 601 | Ac yr ydych fel finnau wedi darllen ei |Seren ian Gwmwl|? |
| (Jac) O do... lawer gwaith. | |
| (Jac) O do... lawer gwaith. | |
| (1, 0) 603 | Llyfr eithaf diddorol, wrth gwrs, er nad oes rhyw lawer o |polish| yn perthyn iddo. |
| (Jac) {Braidd yn siomedig.} | |
| (Jac) |Polish|? | |
| (1, 0) 606 | Ie, ond beth a ellir ei ddisgwyl oddi wrth ddyn cymharol anwybodus? |
| (Jac) Y... y... anwybodus? | |
| (Jac) Y... y... anwybodus? | |
| (1, 0) 608 | Heb gael manteision bore oes wyddoch, ond yn gwneud yn rhyfedd er hynny. |
| (Jac) Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur! | |
| (Jac) Ie'n wir, chwarae teg i'r creadur! | |
| (1, 0) 610 | Ond cofiwch, ar y cyfan 'r wy'n cyd-weld â syniadau'r awdur. |
| (Jac) {Yn llawen unwaith eto.} | |
| (Jac) Mi allaf finnau ddweud cymaint â hynny. | |
| (1, 0) 614 | Ond fel dyn diwylliedig, Mr. Williams, byddwch yn cyd-weld â mi fod ei wybodaeth o fywyd yn bur arwynebol. |
| (Jac) O, yn wir? | |
| (Jac) O, yn wir? | |
| (1, 0) 616 | Yn hynod felly. |
| (1, 0) 617 | Dweud llawer peth digon chwerw ac annheg, yn enwedig am yr offeiriaid. |
| (Jac) Wel ydi, efallai. | |
| (Jac) Mae'n hen bryd i rywun ymosod ar y tacle! | |
| (1, 0) 621 | Ond y mae hi ar ben arno, druan. |
| (Jac) Pam? | |
| (Jac) Pam? | |
| (1, 0) 623 | Clywais yn y pentref heno iddo orfod dianc yn ddi-seremoni o Lundain, a chyrraedd Cymru. |
| (1, 0) 624 | Mae cryn gyffro yma ynghylch y peth. |
| (Jac) O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch. | |
| (Jac) O wel, fe ŵyr Jac sut i edrych ar ei ôl ei hun, wyddoch. | |
| (1, 0) 626 | Gobeithio'n wir. |
| (1, 0) 627 | Hei lwc na chaiff yr un offeiriad afael ynddo. |
| (Jac) {Yn chwerthin yn galonnog.} | |
| (1, 0) 633 | Felly'n wir! |
| (Jac) Ydi. | |
| (Jac) Efallai eich bod yn ei 'nabod yn well na mi. | |
| (1, 0) 636 | Wel, synnwn i ddim, wyddoch. |
| (Jac) 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw... | |
| (Jac) 'Sgerbwd o ddyn ydi o, yn ôl Rolant Huw... | |
| (1, 0) 638 | Trueni fyddai i Jac Glan-y-Gors fynd i afael dyn felly, onid e? |
| (1, 0) 640 | Mae'n rhaid imi fynd adre'n ôl, wyddoch. |
| (1, 0) 641 | Esgusodwch fi, Mr. Huw, ydi'r pecyn yr addawodd Mrs. Huw ei adael imi wrth law? |
| (1, 0) 642 | Dillad, 'r wy'n credu. |
| (Rolant) Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti... | |
| (Rolant) Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti... | |
| (1, 0) 644 | Na, nid hwnnw, ar gyfer rhywun arall. |
| (Rolant) Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan. | |
| (1, 0) 648 | Wel, Mr. Williams, 'r wy'n falch imi gael sgwrs â chwi, er nad ydym yn cyd-weld yn hollol ynglŷn â'r gwalch Jac Glan-y-Gors yna. |
| (Jac) O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster. | |
| (Jac) O peidiwch â gadael i'r cradur hwnnw boeni gormod arnoch, Miss Foster. | |
| (1, 0) 650 | Efallai na welaf mohonoch eto. |
| (1, 0) 651 | Byddwch yn ein gadael yn lled fuan, mae'n siŵr. |
| (Jac) {Yn edrych braidd yn hurt arni.} | |
| (Jac) Gadael? | |
| (1, 0) 654 | |Flying visit| i ryw bentref arall efallai, pwy a ŵyr? |
| (Rolant) Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman... | |
| (1, 0) 658 | O? |
| (1, 0) 659 | Dyna beth od. |
| (1, 0) 660 | Efallai iddi ei adael yn y llofft, Mr. Huw. |
| (1, 0) 661 | A fyddai'n ormod gennych fynd i chwilio yno? |
| (1, 0) 662 | Os gwelwch yn dda. |
| (Rolant) Ar bob cyfrif, Janet. | |
| (Rolant) 'Fyddai'r un dau funud. | |
| (1, 0) 667 | Wel... JAC GLAN-Y-GORS! |
| (Jac) {Yn ffugio syndod.} | |
| (1, 0) 673 | O'r dechrau cyntaf. |
| (1, 0) 674 | 'R wy'n cofio eich gweld un tro yn rhywle. |
| (1, 0) 675 | Nid ydych yn ddyn hawdd ei anghofio... |
| (1, 0) 678 | Gwrandewch! |
| (1, 0) 679 | 'D oes dim moment i'w golli... 'r ydych mewn perygl dybryd. |
| (1, 0) 680 | Ewch ar unwaith! |
| (1, 0) 681 | Er mwyn Rolant Huw a'i wraig... ac er eich mwyn chwithau. |
| (1, 0) 682 | Peidiwch oedi... 'r wy'n crefu arnoch... |
| (Jac) Ond Miss Foster, pam yr ydych... | |
| (Jac) Ond Miss Foster, pam yr ydych... | |
| (1, 0) 684 | Mae gennyf ormod o feddwl ohonoch... fel dyngarwr... i'ch gweld yn mynd i'r ddalfa... yma o bob man... |
| (1, 0) 685 | Daw Mr. Huw yn ôl toc heb ei becyn. |
| (1, 0) 686 | Rhaid oedd cael gwared ohono er mwyn eich rhybuddio. |
| (1, 0) 687 | Ond ewch ar unwaith! |
| (1, 0) 688 | Mae gennyf ofn amdanoch... ofn. |
| (Rolant) Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da... | |
| (1, 0) 692 | Peidiwch â thrafferthu, Mr. Huw. |
| (1, 0) 693 | Gallaf alw eto, efallai. |
| (1, 0) 694 | Diolch yn fawr. |
| (1, 0) 696 | Wel, noson dda, eich dau. |
| (1, 0) 697 | Efallai na chewch amser i alw acw, Mr. Williams. |
| (1, 0) 698 | Gresyn! |
| (1, 0) 699 | Byddai fy nhad yn falch o'ch cael dan ei do. |
| (1, 0) 700 | Ond os ydych am alw, cofiwch yr address... |
| (1, 0) 701 | Y Vicarage! |
| (1, 0) 901 | Y fi sydd i benderfynu hynny. |
| (1, 0) 902 | Deuthum i wybod fod rhywbeth ar droed yma. |
| (1, 0) 903 | Beth ydyw? |
| (Foster) Gwaith y Brenin. | |
| (Foster) Gwaith y Brenin. | |
| (1, 0) 905 | Pa waith? |
| (Jac) A pha frenin? | |
| (Foster) Ewch yn ôl, Janet, os gwelwch yn dda. | |
| (1, 0) 908 | Ni symudaf gam nes cael gwybod beth sy'n digwydd yma. |
| (Ifor) {Yn ymffrostgar eto.} | |
| (Ifor) Anffyddiwr! | |
| (1, 0) 914 | Ac yr ydych am ei daflu i garchar? |
| (Foster) Dyna'm dyletswydd. | |
| (Foster) Dyna'm dyletswydd. | |
| (1, 0) 916 | Y mae rhywun wedi ei fradychu. |
| (1, 0) 917 | Pwy? |
| (Foster) Nid bradychu, Janet, ond gwneud ei ran dros ei wlad a'i Dduw. | |
| (1, 0) 921 | Ifor? |
| (Rolant) Ie... fy mab i fy hun... | |
| (1, 0) 927 | O Ifor, Ifor, yn bradychu ffrind eich tad... a'ch teulu... |
| (Ifor) Dyna fy nyletswydd, yn ôl Mr. Foster! | |
| (Ifor) Er eich mwyn chi y gwnes i hyn... | |
| (1, 0) 932 | Er fy mwyn i, Ifor? |
| (1, 0) 933 | Bradychu... |
| (Ifor) I'ch plesio chi, Janet... a Mr. Foster. | |
| (1, 0) 951 | Arhoswch! |
| (Foster) {Yn ddi-amynedd.} | |
| (Foster) Wel... beth sy'n bod? | |
| (1, 0) 954 | Rhywbeth y mae'n rhaid imi ei ddweud wrthych. |
| (Foster) Ewch ymlaen. | |
| (Foster) Ewch ymlaen. | |
| (1, 0) 956 | Ond nid o flaen Capten Rogers. |
| (Foster) Pam hynny? | |
| (Foster) Pam hynny? | |
| (1, 0) 958 | Yr wyf o ddifrif. |
| (1, 0) 959 | Capten Rogers, a fyddwch chwi cystal â mynd allan am funud neu ddau? |
| (Foster) O'r gorau, Janet. | |
| (1, 0) 965 | Dim ond hyn. |
| (1, 0) 966 | Os ewch â'r dyn hwn i garchar, rhaid i chwi f'anfon innau hefyd. |
| (Foster) Nid ydych o ddifrif... | |
| (Foster) Nid ydych o ddifrif... | |
| (1, 0) 968 | Ni fum erioed mor sicr. |
| (Foster) {Gyda braw.} | |
| (Foster) Yn enw rheswm, pam? | |
| (1, 0) 971 | Am fy mod o'i blaid, yn coleddu yr un syniadau am ryddid a chyfiawnder... |
| (Foster) {Wedi ei syfrdanu.} | |
| (Foster) Bradychu eich |teulu|! | |
| (1, 0) 976 | Efallai yn wir. |
| (1, 0) 977 | Ond nid fy nghrefydd a'm cydwybod. |
| (Foster) Cydwybod! | |
| (Foster) Disgybl i |hwn|, yn wir! | |
| (1, 0) 982 | Ie. |
| (1, 0) 983 | Ac os anfonwch ef i garchar, rhoddaf finnau fy hun i fyny i'r awdurdodau yn Rhuthun fel dilynydd Jac Glan-y-Gors. |
| (Jac) 'D oes dim rhaid i chwi wneud hynny, Miss Foster. | |
| (Foster) {Y mae'n cychwyn at y drws.} | |
| (1, 0) 989 | 'R wy'n benderfynol! |
| (1, 0) 990 | Gollyngwch ef, a 'r wy'n addo na fydd yn aros o fewn y plwy hwn. |
| (1, 0) 991 | Ond os anfonwch ef i Ruthun... |
| (Foster) Fy merch i fy hun yn fy herio! | |
| (Foster) Yn troi'n fradwr! | |
| (1, 0) 994 | Ydwyf, ond gyda chydwybod dawel... |
| (Jac) Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster. | |
| (Jac) Ni allaf ganiatâu hyn, Miss Foster. | |
| (1, 0) 996 | Nid y chwi sydd i benderfynu bellach. |
| (Foster) Ffolineb yw hyn! | |
| (1, 0) 999 | Efallai. |
| (1, 0) 1000 | Ond hefyd peth bendigedig a hyfryd. |
| (1, 0) 1002 | Ond a ellwch chwi oddef gweld eich unig ferch... cannwyll eich llygad... yn mynd i garchar? |
| (1, 0) 1003 | Yn syrthio i ddwylo Milishia Sir Ddinbych? |
| (Foster) {Wedi ei frifo.} | |
| (1, 0) 1007 | Dyna'r dewis. |
| (Foster) Fy merch i... er mwyn popeth... | |
| (Foster) Fy merch i... er mwyn popeth... | |
| (1, 0) 1009 | Ac nid oes symud arno! |
| (Foster) {Yn teimlo i'r byw, ond o dan orfod i ildio.} | |
| (Foster) Ni allaf byth eich gweld yn mynd i afael... | |
| (1, 0) 1018 | Fe geidw Mr. Jones ei ran yntau o'r telerau. |
| (Jac) Nid oes dewis i mi, druan! | |
| (Foster) Ond beth a ddywedaf wrth Capten Rogers? | |
| (1, 0) 1022 | Dywedwch a fynnwch wrtho. |
| (1, 0) 1023 | Yr ydych yn ŵr o ddylanwad ac awdurdod. |
| (1, 0) 1024 | Ond anfonwch y Milishia i ffwrdd yn ddioed. |
| (Foster) O'r gorau, Janet. | |
| (Jac) Janet... a gaf fi eich galw felly? | |
| (1, 0) 1040 | Cewch... Jac. |
| (Jac) A oedd raid i chwi wneuthur hyn? | |
| (Jac) A oedd raid i chwi wneuthur hyn? | |
| (1, 0) 1042 | Oedd. |
| (1, 0) 1043 | Y mae gennyf gymaint o feddwl o... |
| (Jac) Jac Glan-y-Gors? | |
| (Jac) Jac Glan-y-Gors? | |
| (1, 0) 1045 | Efallai'n wir! |
| (Jac) {Yn frysiog a byrbwyll, yn ei anghofio'i hun am foment.} | |
| (Jac) Na, nid oes gennyf hawl bellach i ofyn am hyn... y telerau! | |
| (1, 0) 1051 | Na, Jac. |
| (1, 0) 1052 | 'R wyf wedi addo mai fel arall y mae hi i fod. |
| (1, 0) 1053 | Yma y mae fy lle i. |
| (1, 0) 1054 | Gallaf wneud llawer... dylanwadu ar fy nhad, a cheisio dod â rhyw gymaint o heulwen i drueiniaid tlawd y pentref hwn. |
| (Jac) Gallwch, Janet. | |
| (Jac) Gallwch, Janet. | |
| (1, 0) 1056 | Ac Ifor, druan. |
| (1, 0) 1057 | Rhaid ceisio'i helpu yntau. |
| (1, 0) 1058 | Yma y mae'n rhaid imi aros. |
| (Jac) Ie. | |
| (Jac) Ie. | |
| (1, 0) 1060 | Ond daliwch i ymladd, Jac. |
| (1, 0) 1061 | Byddaf gyda chwi yn y frwydr. |
| (1, 0) 1062 | Cadwch eich golwg ar y Seren... |
| (1, 0) 1063 | Wel, dyma fi'n mynd... |
| (1, 0) 1068 | Nos da, Jac. |
| (1, 0) 1069 | Cofiwch am y |Seren|. |