| (Rachel) Wyt ti wedi cael tê, Esther? | |
| (Sam) Hylo! | |
| (1, 0) 178 | Cewch eich dodi yn eich lle heno! |
| (1, 0) 179 | Côr Dwynant yn gallu canu'n wir! |
| (Llais) {O'r tu allan.} | |
| (1, 0) 186 | Arhoswch nes i Bentwyn ganu. |
| (1, 0) 187 | |Tenors| goreu y frô, a |bass| heb eu hail. |
| (1, 0) 189 | le, ac nid perthynas i chi yw'r beirniad heno. |
| (1, 0) 191 | O, 'rwyt ti yma, Sam? |
| (1, 0) 199 | Wel, Esther fach, mae hi—fel hyn— |
| (Sam) Dwed ar unwaith dy fod am gael gwlêdd, wrth glywed ni'n canu |Comrades in Arms|. | |
| (Sam) Dwed ar unwaith dy fod am gael gwlêdd, wrth glywed ni'n canu |Comrades in Arms|. | |
| (1, 0) 201 | Gwlêdd? |
| (1, 0) 202 | Ha, ha! |
| (1, 0) 203 | Dyna'r tro cyntaf i mi glywed canu fflat yn cael ei alw'n wlêdd. |
| (Esther) Gwell i ti ymolch unwaith, John. | |
| (1, 0) 209 | Does gen i ddim amser at hynny. |
| (1, 0) 210 | Ychydig o fwyd... |
| (Esther) Beth? | |
| (Sam) Wyt ti am i mi aros i ti? | |
| (1, 0) 217 | Fel y mynnot. |
| (1, 0) 219 | Os amser genti? |
| (Sam) {Yn edrych ar ei oriawr.} | |
| (Sam) Oes, oes: mae chwarter awr eto. | |
| (1, 0) 222 | Gwêll i ti fynd, mae'n siwr fod angen practis ar dy gôr. |
| (1, 0) 223 | Dyna'r si, beth bynnag. |
| (Sam) Yr un hên drics. | |
| (1, 0) 227 | Gwrando arnoch chi'n wir. |
| (1, 0) 228 | Ateb un peth, Sam. |
| (1, 0) 229 | Ydi Wil Profundo yn canu yn eich côr heno? |
| (Sam) {Yn ansicr.} | |
| (Sam) Nac ydi. | |
| (1, 0) 232 | Wyddost ti pam? |
| (Sam) Y—y—mae anwyd trwm arno fe. | |
| (Sam) Y—y—mae anwyd trwm arno fe. | |
| (1, 0) 234 | Ha, ha! |
| (1, 0) 235 | Oes, oes; ond sut cafodd yr anwyd? |
| (Sam) Sut y gwn i? | |
| (Sam) Cael gwlychfa falle. | |
| (1, 0) 238 | Ie, bwceded o ddŵr ar ei ben. |
| (Sam) Bwceded o ddŵr ar ei ben? | |
| (Sam) Bwceded o ddŵr ar ei ben? | |
| (1, 0) 240 | Ie, o'r ffenestr uwchben lle 'roedd efe'n gwrando, wythnos yn ôl. |
| (1, 0) 241 | O, ie, |Niagara Falls|! |
| (Sam) Anwiredd pob gair! | |
| (Sam) Does gyda chi ddim |points| gwerth eu dwyn. | |
| (1, 0) 244 | Beth am y |double forte| yn y mudiad olaf? |
| (Sam) Cyn y dewch o fewn i led cae i ni, bydd eisieu |double eighty| arnoch chi. | |
| (1, 0) 249 | Ydi'n wir fod arweinydd Côr Dowlais i fyny yma neithiwr yn rhoi tipyn o bolish i chi? |
| (1, 0) 250 | Ha, ha! |
| (Sam) {Yn cynhyrfu ac yn gwaeddi ar ei ol.} | |
| (1, 0) 263 | Pwff! |
| (1, 0) 264 | Gwybodaeth yn wir! |
| (1, 0) 265 | Pasiodd yr un |exam|, erioed. |
| (Sam) Y dyn! | |
| (1, 0) 270 | Paid â mynd heno, Sam: fe fydd yn galed i ti weld ein bechgyn ni yn cipio'r cwpan. |
| (1, 0) 271 | Ac fe arbedi y swllt am fynd i mewn. |
| (1, 0) 296 | A siarad am arweinwyr, fe wnaeth William Phillips |stroke| anfarwol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. |
| (1, 0) 297 | Mi wn, fel ffaith, fod y beirniaid mewn |hysterics| am ei fod yn curo |six-eight time| o'r dechreu i'r diwed yn lle |three-four|. |
| (Esther) Ydi'r sebon yn y dŵr genti, John? | |
| (Esther) Ydi'r sebon yn y dŵr genti, John? | |
| (1, 0) 299 | Y—na—hynny yw—wn i ddim... |
| (Esther) {Yn mynd.} | |
| (Sam) Ŵn i am ddim sy'n siarad yn fwy bychanus am ddyn na'i fod yn ceisio arwain côr â chopi hên nodiant, ac hwnnw yn |upside-down|. | |
| (1, 0) 304 | Gwell hynny na gweld arweinydd yn arwain yn ffyrnig am bedwar |bar| cyfan heb wybod fod y côr wedi gorffen canu. |
| (Sam) John, paid a dweyd... | |
| (Esther) dy gôt a'th wasgod oreu, John. | |
| (1, 0) 310 | O'r goreu. |
| (1, 0) 312 | Os yw'r bwyd yn barod, Esther, mi gym'raf lond pen. |
| (1, 0) 313 | Nid wyf am golli un côr yn canu. |
| (Sam) Ond fe gollwch y cwpan, mae hynny'n sicr. | |
| (Esther) Rhaid i John gael ychydig o fwyd a newid 'i esgidiau cyn... | |
| (1, 0) 317 | Newid fy esgidiau! |
| (1, 0) 318 | Pwy ar y ddaear lâs sy'n mynd i sylwi ar fy nhraed? |
| (Sam) Ti fyddi'n fwy esmwyth ynddynt, fachgen; ac fe fyddi'n sioncach yn dy 'sgidiau goreu i redeg adre' â'r newyddion fod ein côr wedi ennill y cwpan. | |
| (Sam) Ti fyddi'n fwy esmwyth ynddynt, fachgen; ac fe fyddi'n sioncach yn dy 'sgidiau goreu i redeg adre' â'r newyddion fod ein côr wedi ennill y cwpan. | |
| (1, 0) 320 | Yr unig gwpan a gewch chi fechgyn heno yw cwpan wermod. |
| (Esther) Rhaid sychu'r 'sgidiau gwaith hyn ar gyfer yfory, John. | |
| (Sam) Mae'n ddigon posibl mae'n tro ni fydd y cyntaf. | |
| (1, 0) 327 | Eitha'da. |
| (1, 0) 328 | A thi wyddost y gair, "A'r cyntaf a fydd olaf." |
| (Sam) Paid ag anghofio sut y trech'som ni chi ar |Hail, Bright Abode|. | |
| (Sam) Paid ag anghofio sut y trech'som ni chi ar |Hail, Bright Abode|. | |
| (1, 0) 330 | Do, ond |fluke| oedd y cyfan. |
| (1, 0) 331 | A 'doedd hi ddim yn hir cyn y maeddom chi yn yfflon racs ar |Hallelujah Chorus|. |
| (1, 0) 332 | Fe roisom |Amen| i chi. |
| (Esther) Chi fyddwch yn ddiweddar, Sam. | |
| (Esther) Chi fyddwch yn ddiweddar, Sam. | |
| (1, 0) 334 | Ond chware têg, chi gafodd y wobr 'Steddfod Maesglo, Sam. |
| (Sam) {Yn ansicr.} | |
| (Sam) Beth am hynny? | |
| (1, 0) 337 | A chi oedd y côr gwaethaf yn y gystadleuaeth. |
| (Sam) Y dyn! | |
| (Sam) Dim ond ni oedd cystadlu! | |
| (1, 0) 341 | Ha, ha, dyna fe! |
| (1, 0) 342 | Dyna'ch unig obaith am ennill. |
| (Esther) Y mae'n amheus gen i a yw'r holl siarad 'ma yn beth da i'ch llais hefyd, Sam. | |
| (Esther) Y mae'n amheus gen i a yw'r holl siarad 'ma yn beth da i'ch llais hefyd, Sam. | |
| (1, 0) 344 | Os ellir ei alw yn llais! |
| (Sam) Pan mae dyn yn eiddigeddus wrthyf, edrychaf ar y cyfan fel |compliment| i mi. | |
| (Sam) Rwyt ti |yn| dod, John? | |
| (1, 0) 347 | Collwn i ddim o'r gystadleuaeth heno am gan' punt; na, ddim ar un cyfrif. |
| (Esther) Wyt ti'n barod am dy fwyd, John? | |
| (Esther) Wyt ti'n barod am dy fwyd, John? | |
| (1, 0) 349 | Ydw. |
| (1, 0) 350 | Dim ond fy 'sgidiau 'nawr. |
| (1, 0) 351 | B'le mae nhw? |
| (Esther) Cymer dy fwyd yn gyntaf. | |
| (Sam) Fe fydd yn ddigon i wneud y cyfansoddwr droi yn ei fedd. | |
| (1, 0) 364 | Gan ddychryn? |
| (Sam) {Yn fawreddog.} | |
| (Esther) Beth oedd y sŵn 'na 'nawr, John? | |
| (1, 0) 371 | Ha, ha! |
| (1, 0) 372 | Rhoddodd rhywun gic i gi tuallan i'r drws! |
| (Sam) {Yn dod yn ol ychydig.} | |
| (Sam) Mi rown gic i'ch côr chi heno nac anghofiwch mohono byth. | |
| (1, 0) 375 | Wyddost ti beth, Sam, buaset wedi cael fy lle i yn ein côr ni oni bae un peth. |
| (Sam) Pwy sydd yn awyddus am uno â'ch côr |second rate| chi? | |
| (Sam) Pwy sydd yn awyddus am uno â'ch côr |second rate| chi? | |
| (1, 0) 377 | Ie, dim ond un peth; ie, un peth. |
| (Sam) {Yn ddrwg-dybus.} | |
| (Sam) A beth yw'r un peth yna, os câf ofyn? | |
| (1, 0) 381 | Llais. |
| (Esther) John! | |
| (Sam) Beth bynnag, 'rwy'n agor fy nghêg wrth ganu i'r llais ddod allan. | |
| (1, 0) 386 | Ha, ha! |
| (1, 0) 387 | Diar annwyl! |
| (1, 0) 388 | Wyt, wyt! |
| (1, 0) 389 | Dim ond yr wythnos ddiwethaf 'roedd Rachel yn dweyd fod yna ddrafft ofnadwy yn y tŷ pan oeddet yn agor dy gêg i bractiso ychydig, |
| (Esther) Peidiwch a sylwi arno, Sam. | |
| (Esther) Peidiwch a sylwi ar John, 'rwy'n dweyd. | |
| (1, 0) 393 | 'Rwyt ti'n gweld, Sam, fod Esther yn ameu dim. |
| (Sam) Mae'r menywod 'ma yn dweyd pethau ofnadwy tu ol i'n cefnau ni. | |
| (Sam) Mae'r menywod 'ma yn dweyd pethau ofnadwy tu ol i'n cefnau ni. | |
| (1, 0) 395 | A'r gwaethaf yw eu bod yn dweyd y gwir, Sam bach. |
| (Esther) Yn wir, John! | |
| (Sam) Y maent yn wahanol iawn i ni yn hynny. | |
| (1, 0) 399 | O, sut hynny? |
| (Sam) Pan mae dyn yn clywed rhywbeth, aiff y peth i mewn drwy un glust ac allan trwy'r llall, ond am fenyw—hei! | |
| (Esther) |Too bad|, yn wir. | |
| (1, 0) 406 | Go dda, Sam, am unwaith. |
| (1, 0) 407 | Trueni na fuasai dy ganu gystal. |
| (Sam) Ti elli adael y canu i mi—a'r agor fy nghêg i ganu hefyd. | |
| (Sam) John, machgen i, ar dy waethaf, mi ganaf heno fel yr eos. | |
| (1, 0) 415 | Glywaist ti 'nawr, Esther? |
| (1, 0) 416 | Mae Sam yn meddwl canu heno fel yr eryr! |
| (Esther) Yr annwyl, annwyl! | |
| (1, 0) 436 | Sam! |
| (Sam) {O'r tuallan.} | |
| (Sam) Beth 'nawr? | |
| (1, 0) 439 | Gwendid eich côr chi yw—yw... |
| (Sam) Yw beth? | |
| (Sam) Yw beth? | |
| (1, 0) 441 | Nad oes gyda chi ddim |tenors| na |bass| gwerth yr enw. |
| (Sam) Twt, twt! | |
| (Esther) Yr ydych eich dau fel plant bach. | |
| (1, 0) 446 | Mae plant bach yn dweyd y gwir, fel rheol. |
| (1, 0) 448 | Yr annwyl fach, mae'n hanner awr wedi saith. |
| (1, 0) 456 | Ond—mm—ww... |
| (Esther) Beth? | |
| (1, 0) 459 | Byddaf—yn—ddiweddar. |
| (Esther) Mae dy fryd ar fynd heno? | |
| (1, 0) 462 | Cymerwn i ddim yn y byd—am fod—yn absennol heno. |
| (Esther) {Ar ol seibiant.} | |
| (1, 0) 466 | Wn—mm—mm—ss... |
| (Esther) 'Rwy't ti'n siwr o dagu os na fyddi yn ofalus. | |
| (Esther) 'Rwy't ti'n siwr o dagu os na fyddi yn ofalus. | |
| (1, 0) 468 | 'Rwyf am—weld Dwynant—a Phentwyn yn setlo'r pwnc—unwaith am byth. |
| (1, 0) 469 | A mae beirniad da 'na heno. |
| (Esther) {Yn ymroddi.} | |
| (Esther) O'n wir. | |
| (1, 0) 472 | Mae'n bechgyn ni yn—yn—wel, nid oes eu trechu ar |Comrades in Arms|. |
| (Esther) Fynni di ychydig o dê? | |
| (1, 0) 475 | A—mm—ww—oo. |
| (Esther) Beth? | |
| (Esther) Beth? | |
| (1, 0) 477 | Reit—i olchi hwn i lawr. |
| (1, 0) 479 | Esther! |
| (Esther) {O'r gegin fach.} | |
| (Esther) Ie! | |
| (1, 0) 482 | Mae'n |tenors|—ni—yn—wel, daw neb—yn agos atyn' nhw. |
| (1, 0) 483 | Na! |
| (Esther) Llond cwpan? | |
| (Esther) Llond cwpan? | |
| (1, 0) 485 | Ie—a digon o laeth i'w oeri. |
| (Esther) {Yn ymddangos.} | |
| (Esther) John bach, paid a stwffo dy hunan felna; ti fyddi yn wael ar ol hyn. | |
| (1, 0) 488 | Mm—mm—ss—ww... |
| (Esther) Paid a siarad a bwyta yr un pryd. | |
| (1, 0) 491 | Mae côr Sam—yn colli—yn y |down bass|. |
| (Esther) {Heb ddiddordeb.} | |
| (Esther) O! | |
| (1, 0) 494 | Ac y mae eu |second tenors| nhw—yn wallus —yn yr |intonation|. |
| (Esther) Rhagor o laeth? | |
| (1, 0) 497 | Mae hwn yn rhy boeth. |
| (1, 0) 498 | Diferyn bach. |
| (1, 0) 500 | Ac Esther! |
| (Esther) {O'r gegin fach.} | |
| (Esther) Beth 'nawr? | |
| (1, 0) 503 | Mae—mm—ss—ww... |
| (Esther) Dyna ti eto. | |
| (Esther) Dyna ti eto. | |
| (1, 0) 505 | 'Does dim |attack| gyda nhw. |
| (Esther) Fe gei di |attack| yn'u lle nhw os na chymeri fwy o amser. | |
| (1, 0) 511 | Esther! |
| (1, 0) 512 | 'Rwyt ti'n dod i'r eisteddfod wedi'r cyfan? |
| (1, 0) 517 | Wel, pam wyt ti wedi gwisgo fel hyn heno? |
| (Esther) {Yn ansicr.} | |
| (Esther) Meddyliais—yn... | |
| (1, 0) 520 | Wyt ti'n mynd lawr i'r dre? |
| (Esther) Nac ydw. | |
| (Esther) Nac ydw. | |
| (1, 0) 522 | I ble 'rwyt ti'n mynd, ynte? |
| (Esther) Nid wyf yn mynd allan o'r tŷ. | |
| (1, 0) 525 | Pam 'rwyt ti wedi gwisgo fel'na? |
| (1, 0) 526 | Wyt ti'n disgwyl rhywun yma? |
| (Esther) Nac ydw. | |
| (1, 0) 530 | Yn wir, Esther fach, tyrd gen i i'r eisteddfod. |
| (1, 0) 531 | Fe fydd fel yr hen amserau i glywed y corau wrthi am y cwpan. |
| (Esther) Na, ddim heno, John. | |
| (Esther) Na, ddim heno, John. | |
| (1, 0) 533 | Wel, dyna ôd wyt ti heno. |
| (1, 0) 535 | Ond fel 'roeddwn yn dweyd, |attack| sy'n cyfrif. |
| (1, 0) 537 | A—ww—mm—s... |
| (Esther) A ydwyt yn dweyd rhywbeth? | |
| (Esther) A ydwyt yn dweyd rhywbeth? | |
| (1, 0) 539 | Wel, rwy'n treio, beth bynnag. |
| (1, 0) 540 | Mae'r bechgyn fel un llais yn {yn canu} |Love for our dear —. |
| (1, 0) 545 | Aeth—ychydig i lawr—y ffordd wrong; ond y mae'r bechgyn—fel un yn dod i mewn—yn y fan yna. |
| (1, 0) 547 | Mae llaw Cantwr Bach yn symud yn chwim fel hyn... |
| (Esther) Wel, rwy'n dechreu gwan-galonni. | |
| (1, 0) 553 | Paid a becso, Esther fach. |
| (1, 0) 554 | Daw'r côr â'r cwpan arall yn ei le heno. |
| (Esther) Mae'r amser yn hedeg. | |
| (1, 0) 558 | Ac Esther! |
| (Esther) {O'r gegin fach.} | |
| (Esther) Ie, beth 'nawr? | |
| (1, 0) 561 | Mae Williams, y |Manager|, wedi sibrwd yng nghlustiau'r pwyllgor fod 'na wlêdd i fod ar ei gost ef os enillant heno! |
| (Esther) O, yn wir! | |
| (Esther) Rhaid ennill yng nghyntaf, onid oes? | |
| (1, 0) 568 | Ennill? |
| (1, 0) 569 | Nid oes colli i fod. |
| (1, 0) 570 | Wm—mm—ss... |
| (Esther) Dyna ti'n dechreu eto. | |
| (Esther) Dyna ti'n dechreu eto. | |
| (1, 0) 572 | Mae'r |accelerando| ar y mudiad olaf yn odidog. |
| (1, 0) 573 | Wyddost ti, Esther, ar ol y consart nos Fawrth, aeth hanner dwsin o fechgyn ieuenc oedd yn y dorf i listo gyda'r |Welsh Guards|. |
| (Esther) Bydd popeth ar ben cyn ei di allan o'r tŷ. | |
| (Esther) Bydd popeth ar ben cyn ei di allan o'r tŷ. | |
| (1, 0) 575 | 'Rwyf bron a gorffen. |
| (1, 0) 577 | Nid yn rhy gryf ar y cychwyn, yna yn dod allan â'r holl |reserve| yn y diwedd. |
| (1, 0) 579 | le, |reserve|, dyna'r gair. |
| (Esther) Os nad oes |reserved seat| genti heno, bydd hi ar ben arnat i fynd i fewn i'r hall. | |
| (Esther) A choler a tie hefyd. | |
| (1, 0) 590 | Dim coler a tie heno, Esther. |
| (1, 0) 591 | Af â'r mwffler wen. |
| (1, 0) 592 | Bl'e mae hi? |
| (Esther) Beth ddywed pobl wrth dy weld? | |
| (Esther) Beth ddywed pobl wrth dy weld? | |
| (1, 0) 594 | Mynd i glywed y |male voice| bydd y dorf, nid i astudio ffashiwnau. |
| (1, 0) 596 | 'Rwy'n dotio ar |Comrades in Arms|. |
| (1, 0) 597 | Mae 'na ddigon o fynd ynddo. |
| (Esther) Mae mwy o fynd yn y cloc. | |
| (1, 0) 601 | Fydda'i ddim pum' munud o'r tŷ i'r hall. |
| (1, 0) 603 | |Love for our dear country we cherish|. |
| (Esther) O'r annwyl! | |
| (1, 0) 614 | Amynedd, fy merch i; amynedd. |
| (1, 0) 616 | Yn wir, Esther, gall'swn feddwl dy fod yn awyddus iawn i mi fynd allan heno. |
| (Esther) {Yn frysiog.} | |
| (Esther) Na, na, dim ond sicrhau dy fod mewn pryd i glywed y corau yw fy mwriad. | |
| (1, 0) 619 | Dere gyda fi heno, Esther. |
| (1, 0) 620 | Yn wir, 'nawr. |
| (Esther) Na, diolch; gwell gennyf aros gartref. | |
| (Esther) Na, diolch; gwell gennyf aros gartref. | |
| (1, 0) 622 | Yr wyt tu hwnt i mi heno. |
| (1, 0) 623 | Wyddost di beth, Esther, byddai'n well gen i wrthod can' punt na cholli'r gystadleuaeth 'ma. |
| (1, 0) 624 | 'Does yr un gallu a'm ceidw yn y tŷ heno, a finnau'n gwybod fod y bechgyn wrthi am eu bywyd i lawr 'na. |
| (Esther) O'r gore, John. | |
| (1, 0) 630 | Wel, wel, y menywod 'ma! |
| (1, 0) 633 | Daro shwd beth! |
| (1, 0) 634 | Esther! |
| (Esther) Beth 'nawr? | |
| (Esther) Beth 'nawr? | |
| (1, 0) 637 | B'le câf i lasen newydd? |
| (1, 0) 638 | 'Roedd yn rhaid i hon dorri 'nawr. |
| (Esther) Yn nror y ford. | |
| (1, 0) 641 | Reit. |
| (Esther) Gefaist di un? | |
| (1, 0) 644 | Hanner munud. |
| (1, 0) 646 | O, dyma hi! |