| (Martha) {Hanner lleisio mewn temper.} | |
| (Martha) Odd cyment o fai arnoch chi. | |
| (1, 0) 7 | A shwt wyt ti yn gallu gweud hynny? |
| (1, 0) 8 | Ti odd yn dreifo. |
| (1, 0) 9 | Dim ond rhoi y comands o'n i yn 'neud. |
| (1, 0) 10 | Rarswyd, gês i ergyd ar'yn nhrwyn. |
| (1, 0) 11 | Faint o waed sydd arna i? |
| (Martha) O, peidwch â ffysan. | |
| (1, 0) 16 | Beth ti yn feddwl, fenyw? |
| (Martha) Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'. | |
| (1, 0) 20 | Wel i'r "Right" o'n i yn feddwl achos p'un bynnag 'dodd unman i gael i droi i'r whith, fenyw dwp. |
| (Martha) Pidwch chi gweiddi arna i. | |
| (Martha) Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde", | |
| (1, 0) 23 | O, ca' dy geg, fenyw, wyt ti'n sylweddoli bod ni mewn trwbwl hyd yn llyged. |
| (1, 0) 24 | I ddechre, fuoch chi bron lladd Huws y Siop, wedyn bwrw postyn ffôn a dianc ar ôl y cwbwl. |
| (1, 0) 25 | O, Martha, Martha, ni mewn trwbwl hyd 'yn llyged. |
| (Martha) Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout. | |
| (Martha) Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John. | |
| (1, 0) 30 | Ma' mwy o hawl gyda Huws fod mas ar yr hewl, na sydd gyda chi i ddreifo fel maniac i dreio'i ladd e, a ma gyda nhw hawl i roi postys ffôn y lle mynna nhw. |
| (1, 0) 31 | O'n i wedi bod yn dreifo am bum mlynedd ar hugain heb un scrap a 'no claim bonus' trwy'r blynydde. |
| (Martha) O, peidwch siarad fel bapa, ddyn. | |
| (Martha) Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor. | |
| (1, 0) 34 | Wel, gobitho bod digon o geir gyda nhw. |
| (1, 0) 35 | Chi'n sylweddoli bod bobl yn cael jâl am bethe llai na hyn. |
| (Martha) Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth. | |
| (Martha) {Martha yn dechre llefen yn uchel.} | |
| (1, 0) 38 | O, Martha fach, paid dechre llefen nawr. |
| (Martha) {Llefen yn uchel.} | |
| (Martha) O'n i ddim yn meddwl 'i neud e. | |
| (1, 0) 41 | O, rwy'n gwbod hynny, Martha fach. |
| (1, 0) 42 | O, pam na fyddet ti wedi brêco. |
| (Martha) Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc. | |
| (Martha) Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc. | |
| (1, 0) 44 | Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd. |
| (1, 0) 47 | O, Mari Mosus, odd rhaid i hwnna ddod heddi. |
| (1, 0) 48 | Sycha dy wep, gloi. |
| (Harri) Shwt mae heddi? | |
| (Harri) Rarswyd mawr, chi yn edrych fel 'sech chi newydd ddod adre o angladd. | |
| (1, 0) 52 | O shwt wyt ti. |
| (1, 0) 53 | Newydd gael newydd drwg, bachan. |
| (Harri) Beth sydd, bachan? | |
| (1, 0) 56 | Newydd cael ffôn o Lunden. |
| (1, 0) 57 | Ma' c'nither i Martha wedi cael 'heart attack' ar 'i chalon bore 'ma. |
| (Harri) O, ma'n ddrwg gen i glywed, Martha. | |
| (Harri) Odi hi yn serious? | |
| (1, 0) 60 | Wrth gwrs bod hi'n serious. |
| (1, 0) 61 | Ma pawb sydd yn cael 'heart attack' ar 'i galon yn serious. |
| (1, 0) 62 | Ma hi wedi cael 'i rwsho mewn i'r Infestive Care. |
| (Harri) Wel, dim ond un llythyr i chi heddi. | |
| (Harri) Ysgrifen Mari weden i, Martha. | |
| (1, 0) 65 | Wel, wyt ti wedi clywed rhyw newydd ar dy drafels heddi? |
| (Harri) O, ma hi bant lawr y dre 'na heddi. | |
| (Harri) Ma Huws y Siop mewn stâd ofnadŵ, yn crynu fel jeli. | |
| (1, 0) 74 | Bachan, paid gweud. |
| (1, 0) 75 | Wel, os rhyw syniad gyda nhw pwy o'n nhw? |
| (Harri) Wel, 'na'r unig beth wedodd Dai Nymbar 2 wrtha i odd bod car glas Escort gyda nhw ac odd e yn meddwl mai menyw odd yn dreifo. | |
| (1, 0) 78 | Ond odd e ddim yn siŵr wedes di. |
| (Harri) O na, odd e ddim yn siŵr ond greda i mai menyw odd yn dreifo. | |
| (PC) Mr a Mrs. Huws, yntefe? | |
| (1, 0) 102 | O, ie. |
| (1, 0) 103 | Bore da. |
| (1, 0) 104 | Dewch ymlaen. |
| (PC) Yn gynta am 'dangerous driving', ac yn waeth na hynny, dianc ar ôl cyflawni y drosedd, ac o'ch chi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd i Huws y Siop. | |
| (1, 0) 130 | O na. |
| (1, 0) 131 | O'n ni'n gwbod bod e'n olreit achos fe edryches i nôl trŵ y ffenest ôl a weles i e yn carlampo mewn i'r siop. |
| (Martha) A weda i beth arall wrtho chi. | |
| (Harri) Nawr, Jack, rho di Mrs. Wilkins ar 'i blat, a chlywi di ddim rhagor am y trwbwl yma heddi. | |
| (1, 0) 172 | Bachan, bachan, ti ddim yn gweud wrtho fi am 'i flacmeilo fe. |
| (1, 0) 173 | Alla i gael jâl am hyn'na. |
| (Harri) Dim blacmel yw e, bachan. | |
| (Harri) {Harri'n mynd trwy ddrws y cefn.} | |
| (1, 0) 183 | Ie, ond, Martha, 'do's gyda fi ddim i'w golli nawr. |
| (Martha) O, John, pidwch. | |
| (Martha) Meddyliwch beth all y canlyniade fod. | |
| (1, 0) 186 | Ma fe yn dod nôl, Martha, cer i'r cefn o'r golwg. |
| (1, 0) 187 | Gad ti hyn rhyngto fi ag e. |
| (1, 0) 191 | Eisteddwch, PC, a dyma gwshin i chi. |
| (1, 0) 192 | Ma' fforms mowr gyda chi. |
| (PC) Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws. | |
| (PC) Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws. | |
| (1, 0) 195 | Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi. |
| (PC) O, mae hi yn iawn diolch. | |
| (PC) Fydda i moyn gweld ych yswiriant chi hefyd. | |
| (1, 0) 198 | Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie. |
| (PC) Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe. | |
| (PC) Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe. | |
| (1, 0) 200 | Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe. |
| (PC) Chi'n gweld, odd hi yn cael 'i phenblwydd echdo ac o'n i yn gwybod bod hi am gael handbag. | |
| (PC) Wel, fe brynes i handbag ─ un du ─ iddi, ond pan roddes i e iddi aeth hi yn hlics, chi'n gweld, odd hi eisie un glas a ma' hi wedi bod mewn temper ofnadŵ ers hynny. | |
| (1, 0) 203 | O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel. |
| (PC) Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast? | |
| (PC) Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast? | |
| (1, 0) 205 | Dim syniad, PC bach. |
| (PC) Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i. | |
| (PC) Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i. | |
| (1, 0) 207 | Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi? |
| (PC) Beth sydd yn bod arna i. | |
| (PC) Dylwn i ddim fod yn gweud y pethe hyn wrthoch chi. | |
| (1, 0) 210 | O ma fe yn help mowr. |
| (1, 0) 211 | A gyda llaw gobeitho na ddaw hi byth i wybod bod chi'n dringad 'sgolion yn ystod y nos. |
| (PC) Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn? | |
| (PC) Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn? | |
| (1, 0) 213 | O, dewch nawr, PC. |
| (1, 0) 214 | Mrs. Wilkins, 'chi'n gwbod, ei gŵr hi yn |night watchman| yn y ffatri bylbs 'na, a PC Thomas yn watcho ar ôl 'i wraig gyda'i dorch. |
| (1, 0) 215 | Dewch 'mlân, ni'n gwbod ych hanes chi. |
| (PC) {Yn codi ar 'i draed a cymryd cam yn ôl.} | |
| (PC) Cofiwch chi fod y frenhines y tu ôl i fi. | |
| (1, 0) 219 | Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi. |
| (PC) Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i. | |
| (PC) Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i. | |
| (1, 0) 221 | Bachan, dim awgrymu odw i, ond gweud wrthoch chi. |
| (1, 0) 222 | Ma' digon wedi'ch gweld chi ac os ych chi am i MrsThomas beidio dod i wybod, chi'n gwbod beth 'yf fi am i chi 'neud. |
| (1, 0) 223 | Fel oedd Harri Post yn gweud gynne fach, cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gân dy Nain i chithe, fel 'na ni'n gwitho ffordd hyn. |
| (PC) {Yn mynd ar 'i benlinie o flaen John.} | |
| (PC) O Mr. Huws, fe wna i unrhyw beth i Patsi fach beidio dod i wybod am hyn. | |
| (1, 0) 226 | Ie, wel, anghofiwch chi bopeth am yr hen drwbwl yma bore 'ma, a weda inne ddim un gair wrth neb. |
| (PC) {Yn dechre llefen ar 'i benlinie, a cydio yng nghoes John.} | |
| (1, 0) 241 | Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina. |
| (Martha) O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na. | |
| (Martha) Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto. | |
| (1, 0) 246 | Paid ti dechre cadw'i bart e. |
| (1, 0) 247 | Ti'n gwbod pam o'n i'n 'i 'neud e. |
| (1, 0) 248 | Er mwyn achub dy groen di yn fwy na dim, ac eitha gwaith iddo fe, yr hen fwldog dau wynebog. |
| (Jên) O, shwt ych chi heddi? | |
| (Jên) Wel, ych chi'n clywed cyment am hen bethe od yn digwydd yntefe. | |
| (1, 0) 254 | O na, ishe gweld fi ynglŷn â leisens y gwn o'dd e. |
| (Jên) Ond 'do's dim gwn i gael gyda chi, os e? | |
| (Jên) Ond 'do's dim gwn i gael gyda chi, os e? | |
| (1, 0) 256 | Na, ond rwy'n meddwl cael un. |
| (Jên) Ych a fi, i beth ych chi ishe gwn, ddyn? | |
| (Jên) Ych a fi, i beth ych chi ishe gwn, ddyn? | |
| (1, 0) 258 | Wel, dwn i ddim, yn meddwl mynd mas i bysgota ag e odw i. |
| (Jên) Wel, mae hi bant yn tŷ ni heddi. | |
| (Jên) Mae hi yn sôn am y bachan golygus yma yn cwrdd â'r ferch yma ar wylie a ma'n nhw yn cwmpo dros eu pennau a'u clustie mewn cariad, a ma'n nhw yn rhedeg bant a phriodi ganol nos. | |
| (1, 0) 273 | Gyda rhyw offeirad sy'n ffaelu cysgu, siŵr o fod. |
| (1, 0) 274 | Ha ha. |
| (Jên) Ie, ie, siŵr o fod, ha, ha. | |
| (Jên) Wel, ta beth, 'dyw hi ddim wedi gweud wrtho fe'i bod hi yn briod yn barod a dyw e ddim wedi gweud wrthi hi 'fod e yn briod, ac wrth gwrs, dyw 'i gŵr hi ddim yn gwbod bod hi wedi priodi a hwn, a dyw 'i wraig e ddim yn gwbod 'fod e wedi priodi â hi, y fenyw, chi'n gwbod. | |
| (1, 0) 277 | Esgusodwch fi funud, ond beth sydd gyda hyn i neud â cefen Dai yn mynd o'i le, Jen. |
| (Jên) Wel nawr, chi'n gweld, pan 'benes i'r bedwaredd bennod, 'wedes i wrth Dai, galle fe switcho bant... y gole rwy'n feddwl... | |
| (Martha) {Martha'n mynd i moyn y llaeth.} | |
| (1, 0) 286 | Dim un newydd arall gyda chi 'te, Jên. |
| (Jên) Na, dim byd. | |
| (Jên) O, ie, rwy'i wedi clywed bod gwraig Jack y Siop 'Ffish an Chips' wedi rhedeg bant gyda rhyw ddyn tân o Gaerfyrddin. | |
| (1, 0) 289 | Wel, allwn ni weud bod honna wedi mynd o'r ffreipan i'r tân, Jen. |
| (1, 0) 290 | Ha, ha. |
| (Jên) Ha, ha. | |
| (Jên) Gyda llaw, beth ych chi wedi gael ar ych trwyn 'te, John? | |
| (1, 0) 298 | O, dim byd, dim ond cered mewn i ddrws wnes i. |
| (Jên) {Yn mynd.} | |
| (Martha) Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd. | |
| (1, 0) 305 | Ond falle eith e i waedu, Martha. |
| (Martha) Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre. | |
| (1, 0) 309 | Hei, ma'fe yn rhy sownd, Martha, ma' fe'n pinsho. |
| (Martha) Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych. | |
| (Martha) {Martha yn rhoi plwc sydyn i'r plastar.} | |
| (1, 0) 313 | Aw, aw. |
| (1, 0) 314 | O, fenyw gythrel, chi wedi tynnu croen 'y nhrwyn i bant. |
| (1, 0) 315 | Dodd dim ise bod mor ryff â 'na, odd e? |
| (Martha) Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off. | |
| (Martha) Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off. | |
| (1, 0) 317 | Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw. |
| (Martha) Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen. | |
| (Martha) Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen. | |
| (1, 0) 319 | O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr. |
| (Martha) Helo. | |
| (Martha) Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John. | |
| (1, 0) 365 | O'n i'n meddwl bod e yn swno bach yn dywyll. |
| (1, 0) 366 | Ha, ha. |
| (1, 0) 367 | Neis cwrdd â chi. |
| (Martha) A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger. | |
| (1, 0) 370 | Y... y... PC Thomas yn wncwl i chi. |
| (Martha) Odi, odi, wncwl iddo fe, John. | |
| (Martha) Odi, odi, wncwl iddo fe, John. | |
| (1, 0) 372 | Bachgen, bachgen, a fe yn wncwl i chi. |
| (1, 0) 373 | Chi'n eitha siŵr? |
| (Roger) O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn. | |
| (Roger) Mae teulu fi yn od iawn a gweud y gwir. | |
| (1, 0) 378 | Rwy'n deall hynny. |
| (Roger) Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England. | |
| (Roger) Mae gyda fi un tadcu odd wedi dod o Scotland a un mamgu yn dod o Ireland, tad o Gymru a mam o England. | |
| (1, 0) 380 | Bachan, ddyle nhw fod wedi ych galw chi yn United Nations. |
| (1, 0) 381 | Ha, ha, ha. |
| (1, 0) 382 | United Nations, chi'n 'i chael hi? |
| (Martha) Byddwch dawel, bachan. | |
| (Roger) Achos wyt ti wedi dod i 'funny age' nawr, cofia. | |
| (1, 0) 388 | O fi yn cered digon bob dydd, achan. |
| (Roger) A, Mr. Huws, dyw cered ddim digon. | |
| (Roger) Dyle ti neud ecserseisus sydd yn hela calon ti i mynd yn ffast bob dydd achos pam bod calon ti yn mynd yn ffast mae gwaed ti yn cael i cadw yn thin. | |
| (1, 0) 391 | Weda i un peth sydd yn hela nghalon i fynd yn ffast. |
| (1, 0) 392 | Mynd gyda Martha ni yn y car. |
| (Roger) Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby. | |
| (Martha) O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi. | |
| (1, 0) 395 | Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi? |
| (Martha) O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'. | |
| (Martha) O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'. | |
| (1, 0) 397 | Beth wyt ti'n feddwl odw i, cangarŵ? |
| (1, 0) 398 | Os arna i ddim ofan gweud mod i mor ffit nawr a fues i eriod. |
| (Martha) Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi. | |
| (1, 0) 402 | O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na. |
| (Martha) Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed. | |
| (Martha) Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud. | |
| (1, 0) 410 | Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim. |
| (Roger) Nawr te, Mr. Huws, coese a pen ôl yn stret. | |
| (1, 0) 417 | Wel, rwy i wedi mynd lawr yn iawn ta beth. |
| (Martha) Nawr te, lan â ti. | |
| (1, 0) 431 | Na fi'n eitha reit, 'sen i'n cael llonydd. |
| (Martha) O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac... | |
| (1, 0) 448 | Ha ha ha ha. |
| (1, 0) 449 | Ew, ych chi Jên yn gymeriad. |
| (1, 0) 450 | Shwt mae Dai gyda chi erbyn hyn? |
| (Jên) O jyst yr un peth yn 'i ddwbwl o hyd, a fuodd Dr. Jenkins acw gynne fach ac mae fe am iddo fe fynd i gael X-Ray fory achos ma fe yn credu mai slipping discus sydd arno fe. | |
| (Jên) Ie, a ych chi siŵr o fod yn ffaelu deall beth fi neud â'r basn yma. | |
| (1, 0) 469 | Chi wedi mynd yn brin o reis, Jên. |
| (Jên) Na, dyw hi ddim mor ddrwg â hynny chwaith, 'os dim sultanas gyda fi a mae Dai ni'n dwli ar sultanas, chi'n gweld. | |
| (Jên) | | |
| (1, 0) 483 | M m... odi, neis iawn. |
| (Jên) Rwy'n nabod eich Auntie Patsy chi yn iawn, ma' hi yn y W.I. gyda ni. | |
| (Jên) Wel, hwyl nawr te. | |
| (1, 0) 493 | Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi. |
| (Martha) O, ti wedi dod 'te. | |
| (Martha) O, wel, fi ddim yn gwbod. | |
| (1, 0) 505 | Na, na, mae'n well i chi fynd lawr i'w gweld nhw... odi... |
| (1, 0) 506 | Cewch chi lawr i'w gweld nhw, achos fi ddim yn credu fydden nhw ishe dod lan yma. |
| (Mari) {Yn bwdlyd.} | |
| (1, 0) 511 | Achos, wel fi'n gwbod, a p'un bynnag fydda'i yn gorfod mynd mas cyn bo hir. |
| (Martha) Mas i ble, bachan? | |
| (Martha) Mas i ble, bachan? | |
| (1, 0) 513 | Wel... wel... mas, fenyw. |
| (Mari) Wel mae e yn bell i gered lawr yr holl ffordd i'r Police Station. | |
| (Mari) Wel mae e yn bell i gered lawr yr holl ffordd i'r Police Station. | |
| (1, 0) 515 | O, gewch chi fenthyg y car gyda fi nawr. |
| (Mari) Ych chi'n teimlo yn reit, Dadi? | |
| (Mari) Ych chi'n teimlo yn reit, Dadi? | |
| (1, 0) 517 | Wrth gwrs 'mod i, groten, cerwch â'r car, cerwch ag e nawr. |
| (Mari) O'n i byth yn arfer cael edrych arno fe. | |
| (Martha) O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl. | |
| (1, 0) 525 | Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl. |
| (1, 0) 527 | O, Martha, 'roedd hynna'n agos. |
| (1, 0) 528 | Weles i eriod shwd ddydd â heddi. |
| (1, 0) 529 | Weles i eriod shwd gawl. |
| (Martha) O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd. | |
| (Harri) Wel, ollyngodd e'i charges gwed? | |
| (1, 0) 538 | O, do, a fe ollyngodd 'i hunan, bachgen. |
| (1, 0) 539 | Weles i eriod shwd beth. |
| (1, 0) 540 | Fuodd e ar hyd llawr ffor hyn ag yn llefen dros y lle a begian i fi bido gweud. |
| (1, 0) 541 | Weles ti eriod shwd beth. |
| (Harri) Na fe, wedes i wrthot ti. | |
| (Harri) Wel, wyt ti'n ddyn rhydd nawr te. | |
| (1, 0) 546 | Cofia, fydden ni ddim wedi neud shwd beth onibai i ti weud bod ti wedi ei weld e a llyged dy hunan. |
| (Harri) Wel, a gweud y gwir wrthot ti, o'n i ddim wedi'i weld e 'yn hunan. | |
| (1, 0) 549 | Bachan, beth wyt ti'n feddwl, ti ddim yn gweud bod ti wedi hela fi i'w flacmeilo e heb fod yn siŵr dy hunan. |
| (Harri) Wel, Dai No. 2 wedodd wrtho i, ond odd e ddim wedi'i weld e'i hunan. | |
| (Harri) Wil Mecanic odd wedi gweud wrtho fe, a gwraig hwnnw odd wedi digwydd 'i weld e wrth ddod adre o'r W.I. | |
| (1, 0) 552 | Bachan, wedest ti bod ti wedi'i weld dy hunan, bachan. |
| (1, 0) 553 | Ma gwraig Wil Mecanic y geg gwya sydd yn y dre. |
| (1, 0) 554 | Sdim gair i gredu o honna. |
| (1, 0) 555 | Pam na fyddet ti wedi gweud y gwir wrtho i? |
| (Harri) Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn. | |
| (Harri) Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn. | |
| (1, 0) 557 | O, jiw, jiw, allen ni fod ar y ffordd i'r jâl nawr. |
| (1, 0) 558 | Ti'n sylweddoli hynny! |
| (Harri) Bachan, paid becso rhagor. | |
| (Martha) Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma. | |
| (1, 0) 568 | Ti'n gweld, wyt ti ddim yn gwbod y cwbwl. |
| (1, 0) 569 | Mae pethe wedi gwaethygu. |
| (1, 0) 570 | Ti'n gwbod y ffrind odd Mari ni yn sôn amdano. |
| (1, 0) 571 | Wel maen nhw wedi cyrraedd a mae'r idiot yma sydd gyda hi yn nai i PC Thomas. |
| (Martha) O, paid gwrando ar John i gyd. | |
| (1, 0) 578 | Ti, Harri, ddim yn cymryd pethe yn seriws o gwbwl, bachan, 'dos dim diwedd i rhywbeth fel hyn. |
| (Emrys) Mr. Jones, Mr. Jones, Mr. Jones. | |
| (Emrys) Dewch gloi, ma' damwain mowr wedi digwydd. | |
| (1, 0) 585 | Damwain, pa ddamwain? |
| (Emrys) O, mae Mari chi wedi smasho car yn yfflon yn erbyn car Mrs. Wilkins, a ma PC Thomas a chwbwl 'na, a helodd e fi i ddweud wrthoch chi. | |
| (1, 0) 588 | Smash â Mrs. Wilkins. |
| (1, 0) 603 | Brêca, fenyw. |
| (1, 0) 604 | Brêca, fenyw. |
| (Harri) Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr. | |
| (Emrys) Wel, 'sa i'n credu, o'n nhw i gyd yn gorfod mynd lawr i Swyddfa'r Heddlu nawr, ond odd y... y... Roger i'w weld yn gloff. | |
| (1, 0) 618 | O, wel, neith e ddim pres-yps am sbel 'te ─ hy... |
| (1, 0) 619 | Ma well i chi Martha fynd lawr i weld. |
| (Jên) Ie, ie, cewch chi. | |
| (Martha) Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr? | |
| (1, 0) 627 | Odw, odw, cer di ymlaen, bydd Jên gyda fi. |
| (Harri) Reit te, barod, Martha. | |
| (Emrys) Ma'n ddrwg dâ fi, Mr. Huws, 'mod i wedi hela chi i gal shwt ofan. | |
| (1, 0) 630 | O, paid â becso dim, diolch i ti am ddod. |
| (Harri) Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud. | |
| (Jên) Shwt ych chi yn teimlo nawr 'te John, gwell? | |
| (1, 0) 634 | O fe fydda' i byw, paid ti becso. |
| (1, 0) 635 | Weles i eriôd shwd beth a heddi, Jen fach, mae popeth fel 'se fe wedi 'i ribo yma heddi'r bore. |
| (Jên) Weda i wrthoch chi, ma gen i syniad da. | |
| (Jên) Dewch draw 'da fi i gael disgled gyda Dai ni. | |
| (1, 0) 639 | Wel ma rhaid gweud, dw i ddim wedi byta dim ers brecwast ac erbyn i chi weud ma' whant pwdin reis arna i. |
| (Jên) Ie, ie, dewch mlân, achos yn y diwedd rwyf i wedi gwneud gormod o lawer o bwdin. | |
| (1, 0) 642 | O peidiwch â becso dim, Jên fach, nid chi yw'r unig un i neud gormod o bwdin ffordd hyn, |
| (1, 0) 643 | heddi! |