|
|
|
|
(1, 1) 9 |
"Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf? |
(1, 1) 10 |
Aros, gad i mi afael ynot!... |
(1, 1) 11 |
Ond methais dy ddal, ac eto rwy'n dy weld o hyd. |
(1, 1) 12 |
Hunlle farwol─a wyt ti'n bod i'r llygaid yn unig, ac ni ellir dy deimlo? |
(1, 1) 13 |
Ai dagr y dychymyg wyt, rhyw ffug-wrthrych, yn tarddu o'r ymennydd claf? |
(1, 1) 14 |
'Rwy'n dy weld eto, mor eglur dy ffurf â'r ddagr hon a dynnaf o fy wain... |
(1, 1) 15 |
Nid oes beth o'r fath! |
(1, 1) 16 |
Y gorchwyl gwaedlyd sy'n ymrithio hyn o flaen fy ngolwg..." |
|
(Lisa) Wyt ti'n teimlo'n iawn dwad? |
|
|
(1, 1) 23 |
O helo, Mam, wyddwn i ddim eich bod chi yna. |
|
(Lisa) Na wyddet yn amlwg! |
|
|
|
(Lisa) Wyt ti'n dechra colli arnat dy hun? |
(1, 1) 27 |
Na, mynd drwy fy mhart yn y ddrama roeddwn i. |
|
(Lisa) {Mynd ar bwys ei ffon ac eistedd mewn cadair freichiau.} |
|
|
|
(Lisa) Pa ddrama? |
(1, 1) 31 |
Wel honno ma' cwmni'r pentra'n mynd i berfformio nesa. |
(1, 1) 32 |
Roeddwn i'n meddwl eich bod yn gwybod. |
|
(Lisa) Nac oeddwn i. |
|
|
|
(Lisa) Rhy brysur i ddweud dim wrth neb. |
(1, 1) 37 |
Twt, dim o'r fath beth─ |
|
(Lisa) Mae o'n wir bob gair, ond ei fod o'n wir hyll i ddeud. |
|
|
|
(Lisa) Manteisio arna i am mod i'n ddiniwed bach yn y gongol yma |
(1, 1) 40 |
Y! |
|
(Lisa) {Codi ei ffon.} |
|
|
|
(Lisa) Mi ydw inna'n rhywun hefyd. |
(1, 1) 44 |
Dyn annwyl, Mam, am be rydach chi'n siarad, deudwch? |
|
(Lisa) Taw am funud. |
|
|
(1, 1) 50 |
Ar fengoch i! |
|
(Lisa) Be ddwedaist ti? |
|
|
|
(Lisa) Be ddwedaist ti? |
(1, 1) 52 |
Dim ond─ |
|
(Lisa) Hidia befo. |
|
|
|
(Lisa) Ac os na fydd yna altrad mawr yn y lle yma mi fydda i'n mynd at Wmffra dy frawd i aros. |
(1, 1) 57 |
Na─o ddifri? |
|
(Lisa) Dydw i ddim wedi penderfynu eto. |
|
|
|
(Lisa) Y ddrama yna sydd gen ti─be' ydi ei henw hi? |
(1, 1) 62 |
Macbeth. |
|
(Lisa) Y? |
|
|
|
(Lisa) Y? |
(1, 1) 64 |
Macbeth─wyddoch chi─ |
|
(Lisa) Chlywais i erioed amdani. |
|
|
|
(Lisa) Chlywais i erioed amdani. |
(1, 1) 66 |
Un o ddramâu mawr y byd, 'rhen wraig! |
|
(Lisa) Oes yna bregethwr ynddi hi? |
|
|
|
(Lisa) Oes yna bregethwr ynddi hi? |
(1, 1) 68 |
Pregethwr? |
(1, 1) 69 |
Nac oes debyg iawn─ |
|
(Lisa) Dydi hi'n dda i ddim felly. |
|
|
|
(Lisa) A digon o le i grio. |
(1, 1) 74 |
'Rydach chi'n hen ffasiwn, Mam. |
(1, 1) 75 |
Mae'r cymeriadau yna ar lwyfannau Cymru ers oes y coga'. |
(1, 1) 76 |
Ac wedi colli pob ystyr bellach. |
(1, 1) 77 |
Pypedau yn dawnsio ar ben llinyn heb rithyn o fywyd─ |
|
(Lisa) Paid â siarad drwy dy het. |
|
|
|
(Lisa) Paid â siarad drwy dy het. |
(1, 1) 79 |
Ond 'dydach chi ddim yn sylweddoli. |
(1, 1) 80 |
Yr anfarwol William Shakespeare 'sgrifennodd hon! |
(1, 1) 81 |
Y dramodydd mwya' welodd y byd erioed. |
(1, 1) 82 |
Mi dreiddiodd yn ddyfnach i mewn i'r natur ddynol na neb o'i flaen nac ar ei ôl. |
|
|
(1, 1) 84 |
Roedd calon ac enaid dyn fel llyfr agored o'i flaen. |
(1, 1) 85 |
Gwelodd y drygioni a'r pechod sy'n gymysg â'r rhinweddau ym mhob un ohonom. |
(1, 1) 86 |
Ac yr oedd barddoniaeth yn byrlymu ohono fel ffynnon ddihysbydd. |
(1, 1) 87 |
Mi ydw i'n dweud wrthych chi, Mam, mae'r cymeriadau sydd yn ei waith yn gig a gwaed fel chi a finna. |
|
(Lisa) Dim gwahaniaeth; os nad oes yna bregethwr yn eu canol nhw, rown i ddim ceiniog a dima am ei gweld hi. |
|
|
|
(Lisa) Dim gwahaniaeth; os nad oes yna bregethwr yn eu canol nhw, rown i ddim ceiniog a dima am ei gweld hi. |
(1, 1) 89 |
Dyna'r hen ragfarn sy' wedi bod fel mwgwd am ein llygaid ni, Mam. |
(1, 1) 90 |
Mae'n hen bryd ei daflu o i ffwrdd. |
(1, 1) 91 |
Dyna pam 'rydw i am fentro rhoi Macbeth ar y llwyfan─yn Gymraeg deallwch chi. |
(1, 1) 92 |
A doed a ddelo, mi ddalia i ati efo 'nghwmni bach. |
|
(Lisa) Ia, rhyw syniada mawr fuo gen ti 'rioed... |
|
|
|
(Lisa) Ond dim yn dwad ohonyn nhw, byth! |
(1, 1) 95 |
Mi gewch chi weld peth arall! |
|
(Lisa) Pam na actiwch chi'r "Ferch o Gefn Brith"? |
|
|
|
(Lisa) A dau bregethwr, a 'dwn i ddim faint o flaenoriaid. |
(1, 1) 99 |
Mam bach, does yna ddim symud arnoch chi! |
|
(Lisa) Mi ydw i wedi'i gweld hi'n cael ei hactio ddeg o weithiau. |
|
|
|
(Margiad) A fedra i ddim bod mewn dau le ar unwaith. |
(1, 1) 105 |
Be sy'n bod, Margiad? |
|
(Margiad) Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn? |
|
|
|
(Margiad) Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn? |
(1, 1) 107 |
Naddo 'neno'r tad! |
|
(Lisa) Fuasa fo ddim yn clywed holl glychau Aberdyfi pan mae o'n mynd drwy 'i betha. |
|
|
|
(Margiad) Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf. |
(1, 1) 110 |
Diogi? |
(1, 1) 111 |
Ha! |
(1, 1) 112 |
Mi ydw i wedi chwysu mwy dros y ddrama yma nag a wnes i 'rioed. |
(1, 1) 113 |
Cofia 'mod i wedi ei chyfieithu hi hefyd─ |
|
(Margiad) Twt, chdi a dy ddrama! |
|
|
|
(Margiad) Mi fydd yr hwch drwyddi gyda hyn. |
(1, 1) 122 |
Yli, Margiad, paid â thafodi gymaint da chdi. |
(1, 1) 123 |
'Rwyt ti'n gwastraffu dy egni wrth siarad. |
(1, 1) 124 |
Dim ond dau air sydd eisio, "Jonah─siop." a dyna'r cwbwl drosodd. |
(1, 1) 125 |
Wn i ddim pam mae eisio gwneud consart o bob mymrun lleia. |
|
(Lisa) 'Rwyt ti'n gwneud drama o bob dim, lanc! |
|
|
|
(Lisa) 'Rwyt ti'n gwneud drama o bob dim, lanc! |
(1, 1) 127 |
Twt, dydach chi ddim yn fy neall i. |
(1, 1) 128 |
Does yna neb yn fy neall i. |
(1, 1) 129 |
Dyna drasiedi pob llenor ac artist erioed─cael ei fygu gan bethau dibwys, materol. |
|
|
(1, 1) 131 |
O wel, dyna'r drefn! |
(1, 1) 132 |
Rhaid mynd at y cwsmar. |
|
(Margiad) Dim eisio i ti fynd rwan. |
|
|
|
(Margiad) Mi ydw i wedi gofalu amdano fo. |
(1, 1) 135 |
O wel, dyna fo felly... |
(1, 1) 136 |
Pwy oedd o? |
|
(Margiad) Tomos Morgan, Ocsiwniar. |
|
|
|
(Margiad) Mi fuaset yn dy golled o werthu crys gwlanan. |
(1, 1) 140 |
Margiad bach, be ydi crys gwlanan wrth ochor Macbeth? |
|
(Lisa) Crys gwlanan ydi crys gwlanan lle bynnag y mae o. |
|
|
|
(Lisa) Hwnnw sy'n dwad â bara menyn i ti, nid Bacmeth, ne beth bynnag wyt ti'n ei alw fo. |
(1, 1) 143 |
Ia, ond "nid ar fara'n unig"─ac yn y blaen, cofiwch chi, Mam! |
|
(Lisa) Paid â rhagrithio mor ryfygus! |
|
|
|
(Lisa) Mae gen ti galon o garreg os medri di ddal ati mor ddihitio. |
(1, 1) 150 |
Ond hanner munud, Mam─ |
|
(Lisa) Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd. |
|
|
|
(Lisa) Diolcha nad ydi o ddim gwaeth. |
(1, 1) 166 |
Debyg iawn. |
(1, 1) 167 |
Mae o'n beth hollol naturiol! |
(1, 1) 168 |
Run fath â chael dannedd. |
(1, 1) 169 |
Rhan o'i dyfiant o. |
|
(Margiad) Dydio ddim yn beth naturiol iddo fo golli ei lais yn llwyr. |
|
|
|
(Margiad) Does gen ti ddim mymryn o ddiddordeb ond yn dy betha dy hun. |
(1, 1) 176 |
Yli, Margiad, dydi hynna ddim yn wir. |
(1, 1) 177 |
Chymera' i ddim pob cyhuddiad ar draws fy nannedd chwaith. |
(1, 1) 178 |
Y ddrama ydi fy myd i, 'rwyn cyfadda. |
(1, 1) 179 |
A does gen i ddim cywilydd o hynny chwaith. |
(1, 1) 180 |
Ma' hi wedi mynd os na chaiff dyn ymddiddori mewn llenyddiaeth ar ei gora, heb gael ei gyhuddo o fod yn ddihiryn calon galed. |
|
(Lisa) Beth am y siop yna, machgen i? |
|
|
|
(Margiad) Fydd yna ddim cerpyn ar y silff i werthu gyda hyn. |
(1, 1) 185 |
O paid â rwdlian yn wirion da chdi! |
(1, 1) 186 |
Mae busnas yn mynd yn llai bob blwyddyn yr amser yma. |
(1, 1) 187 |
Dim ond cyfnod rhwng dau dymor ydi o. |
(1, 1) 188 |
Mi fyddwn yn dechra pigo i fyny eto gyda hyn. |
(1, 1) 189 |
Aros i'r hen Ddoctor Parry ddwad i mewn i brynu trôns hir. |
(1, 1) 190 |
Hwnnw ydi'r arwydd bod y Gaea wedi landio. |
(1, 1) 191 |
Mi fyddwn yn gwerthu fel slecs wedyn. |
|
(Margiad) Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma! |
|
|
|
(Margiad) Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma! |
(1, 1) 193 |
O, dyna hi eto! |
(1, 1) 194 |
Ffaith amdani, Margiad, 'dwyt ti ddim yn hapus os nad oes gen ti wyneb hir. |
(1, 1) 195 |
Os nad ydio'r peth yma mae o'r peth arall. |
(1, 1) 196 |
Mae yna rai pobol felly─fedra' nhw yn eu byw beidio cwyno. |
|
(Lisa) Paid â bod mor goeglyd. |
|
|
|
(Margiad) Mae gen i gywilydd mynd allan bron. |
(1, 1) 203 |
Yli, dos i nôl dillad i chdi dy hun o dy gorun i dy sowdwl. |
(1, 1) 204 |
A dos i gyrlio dy wallt hefyd i'r fargan. |
(1, 1) 205 |
Gwna fel fyd a fynnot ti ond da chdi, tria sirioli dipyn! |
(1, 1) 206 |
Ma' hi fel cynhebrwng parhaus yma. |
|
(Margiad) Pwy sy'n mynd i dalu? |
|
|
|
(Margiad) Pwy sy'n mynd i dalu? |
(1, 1) 208 |
Wel fi, debyg iawn. |
|
(Margiad) Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti. |
|
|
|
(Margiad) Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti. |
(1, 1) 210 |
Nefoedd fawr─hanner cant? |
|
(Margiad) Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti. |
|
|
|
(Margiad) Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti. |
(1, 1) 212 |
O'r gora, dyna fo! |
(1, 1) 213 |
Os oes rhaid eu cael nhw 'does yma ddim diben mewn dadla. |
|
(Margiad) Wel? |
|
|
|
(Margiad) Wel? |
(1, 1) 215 |
Wel be? |
|
(Margiad) Lle mae'r arian? |
|
|
|
(Margiad) Lle mae'r arian? |
(1, 1) 217 |
Dos i ordro be sydd arnat ti eisio. |
(1, 1) 218 |
Dwad wrth Lloyd am ei roi o i lawr ar fy nghownt i. |
|
(Margiad) Be! |
|
|
|
(Lisa) Wyt ti'n drysu, dwad? |
(1, 1) 223 |
Wel be aflwydd sydd o'i le ynddo fo? |
(1, 1) 224 |
Dyn busnas ydi Lloyd fel finna. |
(1, 1) 225 |
Mi fydd o'n siwr o'i arian cyn diwedd y flwyddyn. |
|
(Margiad) Wyt ti'n meddwl am funud y buaswn i'n mynd at Lloyd o bawb heb arian parod? |
|
|
|
(Margiad) Mi fuasa' sôn amdana i drwy'r sir cyn pen wythnos. |
(1, 1) 230 |
Wel tawn i'n glem! |
|
|
(1, 1) 255 |
Wyddost ti be', Margiad, 'rwyt ti'n swnio fel 'tae ti'n wraig weddw wedi brwydro'i hunan bach dros ei phlant! |
(1, 1) 256 |
Ple 'rydw i'n dwad i mewn? |
(1, 1) 257 |
Paid â chymryd y clod i gyd da chdi! |
|
(Margiad) Fuost ti erioed â dy ddau droed ar y ddaear, Jonah. |
|
|
(1, 1) 262 |
Myn diain, dyna'r ora eto! |
(1, 1) 263 |
Gan bwy gafodd Dilys ei dychymyg byw, a'i chariad at lenyddiaeth a diddordebau'r meddwl? |
|
(Lisa) Dim cwestiwn o hynny, ma' hi'n byw mewn breuddwyd fel titha! |
|
|
|
(Lisa) Dim cwestiwn o hynny, ma' hi'n byw mewn breuddwyd fel titha! |
(1, 1) 265 |
'Does dim rhaid iddi fod cywilydd o hynny. |
(1, 1) 266 |
O freuddwydion mae petha' gora'r byd yma wedi tarddu. |
|
|
(1, 1) 268 |
Mae'n rhaid i ddyn godi ei olwg i'r bryniau a'r cymylau. |
(1, 1) 269 |
Yno mae'r gwir brydferthwch, nid yn y llwch sydd odan ei draed. |
(1, 1) 270 |
Rhaid ymestyn allan tuag at y sêr, ac ymysgwyd yn rhydd oddi wrth faglau'r byd a'i bethau. |
(1, 1) 271 |
Y sêr, ia! |
(1, 1) 272 |
Fedar dyn byth ymaflyd ynddyn nhw─ma' nhw bob amser y tu hwnt i'w gyrraedd. |
(1, 1) 273 |
Ond mi fedar ymestyn─mae'n rhaid iddo fo ymestyn ne wywo fel deilen grin. |
(1, 1) 274 |
Ac yn yr ymdrech yna y mae antur bywyd─dyna sydd yn gwneud bywyd yn werth ei fyw! |
|
(Lisa) {Pwniad i JONAH gyda'i ffon.} |
|
|
|
(Lisa) Hei! |
(1, 1) 277 |
Wel! |
|
(Lisa) 'Tyrd i lawr o'r sêr am funud, wnei di? |
|
|
|
(Lisa) Beth wyt ti'n ei breglach, dwad? |
(1, 1) 280 |
Am fyd y dychymyg, Mam. |
(1, 1) 281 |
Hwyrach nad ydach chi ddim yn fy neall i. |
(1, 1) 282 |
Ond mae Dilys yn deall, o ydi! |
(1, 1) 283 |
Ac i mi ma' hi i ddiolch am hynny. |
(1, 1) 284 |
Gyda phob parchedig barch, Margiad annwyl, does gen ti ddim mwy o ddychymyg na chwningan! |
|
(Margiad) O! |
|
|
|
(Margiad) O! |
(1, 1) 286 |
Mae o'n wir, Margiad. |
(1, 1) 287 |
Paid â meddwl mod i'n gweld bai arnat ti. |
(1, 1) 288 |
Does gen ti ddim help. |
(1, 1) 289 |
Mae'n rhaid cael pobol 'run fath â chdi, hefyd, i fynd â'r byd yn ei flaen. |
(1, 1) 290 |
Pobol sy'n gofalu am betha bach bob dydd. |
(1, 1) 291 |
A ma' rheiny'n anrhaethol bwysig wrth gwrs. |
(1, 1) 292 |
Ond da chdi, paid â hawlio'r clod i gyd. |
|
(Margiad) Wel sôn amdanaf fi'n tafodi! |
|
|
|
(Lisa) Tyrd yn ôl at y pwnc, machgan i. |
(1, 1) 298 |
Y! |
(1, 1) 299 |
Am be 'rydach chi'n sôn? |
|
(Lisa) 'Roeddet ti'n dweud y medret ti dalu hanner can punt i Lloyd ddiwedd y flwyddyn. |
|
|
|
(Lisa) 'Roeddet ti'n dweud y medret ti dalu hanner can punt i Lloyd ddiwedd y flwyddyn. |
(1, 1) 301 |
Wel? |
|
(Lisa) Ple 'rwyt ti'n mynd i gael yr arian? |
|
|
|
(Lisa) Ple 'rwyt ti'n mynd i gael yr arian? |
(1, 1) 303 |
Mi fydd gen i glec bach reit ddel erbyn hynny, rhen wraig, peidiwch â phoeni. |
|
|
(1, 1) 305 |
Ia, Margiad, 'rwyt ti'n edrach yn syn! |
(1, 1) 306 |
A newydd ddweud nad ydi fy nau droed i byth ar y ddaear! |
|
(Margiad) Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly? |
|
|
|
(Margiad) Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly? |
(1, 1) 308 |
Hidia di befo, 'rhen chwaer. |
(1, 1) 309 |
Mi gei di weld gyda hyn. |
(1, 1) 310 |
Dydi'r ffaith bod dyn yn ymddiddori mewn drama ddim yn ei nadu o gadw'i lygaid ar y geiniog. |
(1, 1) 311 |
'Roedd William Shakespeare yn ddyn busnas llwyddiannus a 'run pryd y bardd mwya' welodd y byd erioed. |
|
(Lisa) Ddaw o ddim i 'sgidia Twm o'r Nant! |
|
|
|
(Margiad) Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud. |
(1, 1) 314 |
Yn f'amser fy hun, Margiad bach, dim cynt. |
(1, 1) 315 |
Ond mi fydd hi'n reit daclus arno ni cyn bo hir, mi fedra i dy sicrhau di o hynny. |
(1, 1) 316 |
A fydd gen ti ddim achos cwyno am brinder dillad chwaith! |
|
(Margiad) John Defi! |
|
|
(1, 1) 333 |
Y? |
|
(Lisa) Wyt ti'n fyddar, dwad? |
|
|
|
(Lisa) Mae yna rywun yn y siop. |
(1, 1) 336 |
O ia,reit. |
|
|
(1, 1) 338 |
"Dwbwl, dwbwl boen a thrwbwl, llosged tân i ferwi'r cwbwl." |
|
(Lisa) Wyt ti'n dechra arni eto? |
|
|
|
(Lisa) Wyt ti'n dechra arni eto? |
(1, 1) 341 |
O! helo, Dicw, chdi sydd yna? |
(1, 1) 342 |
Tyrd drwodd am funud... |
(1, 1) 343 |
Na, does yna neb yma ond rhen wraig fy mam... mae gen i eisio gair efo ti. |
|
(Dicw) Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim yn pethma? |
|
|
|
(Dicw) Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim yn pethma? |
(1, 1) 346 |
Dim o gwbwl, tyrd i mewn. |
|
(Dicw) 'Pnawn da, Mrs. Defis. |
|
|
|
(Lisa) Dim i'r sawl sy'n gweithio. |
(1, 1) 351 |
Eistedd i lawr am funud, Dicw. |
|
(Dicw) 'Dydw i ddim yn bwriadu aros yn hir, Jonah Defis. |
|
|
|
(Dicw) Ar dipyn o frys fel mae'n digwydd bod te. |
(1, 1) 354 |
Twt, mi fedri sbario eiliad ne' ddau. |
|
|
(1, 1) 356 |
Wel oes gen ti ryw newydd? |
|
(Dicw) Wel oes─hynny ydi, nac oes, fawr o bwys... |
|
|
|
(Dicw) Hynny ydi─ |
(1, 1) 363 |
Oes arnat ti eisio fy ngweld i'n brifat, Dicw? |
|
(Lisa) Ma' hynny'n amlwg i bawb. |
|
|
|
(Lisa) Mi ydw i â fy llygaid arnat ti! |
(1, 1) 375 |
Popeth yn iawn, 'rhen wraig, popeth yn iawn. |
|
(Dicw) P'nawn da, Mrs. Defis. |
|
|
|
(Lisa) {Cau'r drws ar ei hôl.} |
(1, 1) 379 |
Merchaid! |
(1, 1) 380 |
Merchaid! |
(1, 1) 381 |
Ma' nhw'n achos mwy o loes i ddyn na holl bwysa'r byd yn gyfan. |
|
(Dicw) Wel does yna ddim ond un ffordd i'w trin nhw, Jonah Defis─siarad fel hen lanc ydw i rwan─mae'n rhaid i chi roi eich traed ar eu gyddfa' nhw o'r cychwyn cynta. |
|
|
|
(Dicw) Wel does yna ddim ond un ffordd i'w trin nhw, Jonah Defis─siarad fel hen lanc ydw i rwan─mae'n rhaid i chi roi eich traed ar eu gyddfa' nhw o'r cychwyn cynta. |
(1, 1) 383 |
Dydi hynna fawr o gysur i mi rwan. |
|
(Dicw) Ma'n syn fel mae dyn yn cael ei dwyllo ganddyn nhw. |
|
|
|
(Dicw) Ond ma'n nhw'n ddiawchiaid milan yn ddeugain oed, ac yn hen wrachod gythgam yn bedwar ugain! |
(1, 1) 387 |
Ia, 'rwyt ti'n llygad dy le. |
(1, 1) 388 |
Ond tyrd, beth oedd gen ti i ddweud? |
|
(Dicw) Wel hyn, Jonah Defis─doedd arna i ddim eisio dweud o flaen rhen wraig─mae Harri Huws wedi ei daro'n wael. |
|
|
|
(Dicw) Wel hyn, Jonah Defis─doedd arna i ddim eisio dweud o flaen rhen wraig─mae Harri Huws wedi ei daro'n wael. |
(1, 1) 390 |
Be! |
(1, 1) 391 |
Ar fengoch i, un peth ar ôl y llall! |
(1, 1) 392 |
A'r ddrama wedi mynd mor bell. |
(1, 1) 393 |
Be' ar y ddaear fawr wnawn ni rwan? |
|
(Dicw) Dyna'r trwbwl efo cwmni bach ynte. |
|
|
|
(Dicw) Rhywun yn mynd yn sâl, a dyna'r cwbwl yn ffliwt. |
(1, 1) 396 |
Tria fod dipyn mwy calonnog, da chdi! |
(1, 1) 397 |
Beth ydi'r mater arno fo? |
|
(Dicw) Pendics. |
|
|
|
(Dicw) Pendics. |
(1, 1) 399 |
O wel, dydi hynny ddim mor ddrwg. |
(1, 1) 400 |
Ma' nhw ar eu traed ymhen rhyw dri diwrnod ar ôl y gyllell. |
(1, 1) 401 |
A does ganddo fo ddim part mawr iawn. |
(1, 1) 402 |
Ond fedar neb actio'r Porthor yn Macbeth yn debyg i Harri. |
(1, 1) 403 |
Na, dydi hi ddim mor ddrwg wedi'r cyfan. |
(1, 1) 404 |
Ond mi roist ti andros o sioc i mi am funud─do 'tawn i'n glem! |
|
(Dicw) Ma' piwmonia arno fo hefyd, Jonah Defis. |
|
|
|
(Dicw) Ma' piwmonia arno fo hefyd, Jonah Defis. |
(1, 1) 406 |
Yr arswyd fawr, 'rwyt ti'n waeth na chysurwyr Job! |
(1, 1) 407 |
Pam na fuaset ti'n dweud y cwbwl y tro cyntaf? |
|
(Dicw) Trio torri'r newydd drwg yn ara' deg 'roeddwn i, ydach chi'n gweld ynte. |
|
|
|
(Dicw) Trio torri'r newydd drwg yn ara' deg 'roeddwn i, ydach chi'n gweld ynte. |
(1, 1) 409 |
A throi'r gyllel yn y briw bob tro! |
(1, 1) 410 |
Dyna ddiwedd arni felly. |
(1, 1) 411 |
Mi ydw i wedi ofni peth fel hyn ar hyd y bedlan!... |
(1, 1) 412 |
Niwmonia─wyt ti'n siwr? |
|
(Dicw) Ydw, yn berffaith siwr. |
|
|
|
(Dicw) A fedran' nhw ddim operatio arno fo, medda nhw, nes y daw ei wres o i lawr. |
(1, 1) 416 |
Harri druan─y mwyaf eiddgar o'r cwmni bach i gyd! |
(1, 1) 417 |
Ac wedi edrych ymlaen gymaint ar y perfformiad. |
(1, 1) 418 |
Mi fuasa'n cropian o'r 'sbyty tae o'n medru rhywsut─i'n helpu ni. |
(1, 1) 419 |
Wn i ddim beth i wneud rwan. |
(1, 1) 420 |
Fedra i feddwl am neb i gymryd ei le fo. |
|
|
(1, 1) 422 |
Pwy aflwydd sydd yna rwan tybed? |
|
|
(1, 1) 425 |
O helo, Alun,─chdi sydd yna? |
(1, 1) 426 |
Tyrd i mewn. |
|
(Alun) 'Dydw i ddim yn eich styrbio chi, Mr. Defis? |
|
|
|
(Alun) 'Dydw i ddim yn eich styrbio chi, Mr. Defis? |
(1, 1) 428 |
Na na, dim o gwbwl. |
(1, 1) 429 |
Eistedd i lawr. |
|
(Alun) Wedi dwad â'r llyfr yma'n ôl i Dilys rydw i. |
|
|
|
(Alun) Wedi dwad â'r llyfr yma'n ôl i Dilys rydw i. |
(1, 1) 431 |
O ia. |
(1, 1) 432 |
Heb gyrraedd o'r ysgol ma' hi. |
(1, 1) 433 |
Fydd hi ddim yn hir... |
(1, 1) 434 |
Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd? |
(1, 1) 435 |
Alun Morus, hen ffrind i Dilys yma... |
(1, 1) 436 |
Dicw, saer-llwyfan y cwmni─ |
|
(Alun) O ia. |
|
|
|
(Dicw) Oes yna rywbeth arall fedra' i wneud, Jonah Defis? |
(1, 1) 454 |
Na, 'r wyt ti wedi gwneud yn o dda'n barod 'laswn i feddwl! |
|
(Dicw) {Mynd at y drws.} |
|
|
|
(Dicw) P'nawn da i chi'ch dau |
(1, 1) 460 |
P'nawn da, Dicw. |
|
(Alun) P'nawn da. |
|
|
|
(Alun) Oes yna rywbeth allan o'i le? |
(1, 1) 465 |
Fedra petha fod dim gwaeth, Alun. |
(1, 1) 466 |
Newydd glywed fod Harri Huws wedi cael ei daro'n wael. |
|
(Alun) Tewch! |
|
|
|
(Alun) Oes dim posib cael neb i gymryd ei le fo? |
(1, 1) 470 |
Go brin, mae arna i ofn. |
(1, 1) 471 |
Mi ydw i'n methu dyfalu be'i wneud. |
(1, 1) 472 |
A 'does ganddo ni fawr o amser. |
|
(Alun) Mi fuaswn i'n helpu tawn i'n medru. |
|
|
|
(Alun) Ydio'n bart mawr? |
(1, 1) 477 |
Nac ydi─ond ei fod o'n hanfodol bwysig. |
(1, 1) 478 |
Y Porthor wyddost ti. |
|
(Alun) Meddwl roeddwn i, efalla' y buasech chi'n medru torri'r part allan. |
|
|
|
(Alun) Meddwl roeddwn i, efalla' y buasech chi'n medru torri'r part allan. |
(1, 1) 480 |
Ei dorri o allan! |
(1, 1) 481 |
Dim posib. |
(1, 1) 482 |
Macbeth heb y porthor? |
(1, 1) 483 |
Mi fuasa'n halogiad o un o gampweithia' llenyddiaeth y byd! |
|
|
(1, 1) 485 |
Dyna i ti gyffyrddiad y Meistr. |
(1, 1) 486 |
Y Porthor yn baldorddi'n wamal wrth y drws, yng nghanol yr awyrgylch du, trychinebus. |
(1, 1) 487 |
Cyferbyniad, wyt ti'n gweld─rhyw ias o ddoniolwch yng nghanol trasiedi, i ddwyshau'r trallod a'r galar. |
(1, 1) 488 |
Na, mae'r Porthor yn rhan hanfodol o wead y Ddrama. |
(1, 1) 489 |
Fedrir mo'i hepgor o byth. |
|
(Alun) Mae hi'n edrych yn o ddrwg felly, Mr. Defis. |
|
|
|
(Alun) Mae hi'n edrych yn o ddrwg felly, Mr. Defis. |
(1, 1) 491 |
Ydi, Alun. |
(1, 1) 492 |
Ar ôl y llafurio caled a'r brwdfrydedd i gyd. |
(1, 1) 493 |
Mae o'n siomiant chwerw iawn i mi. |
|
(Alun) Beth ydi'r mater ar Harri Huws, wyddoch chi? |
|
|
|
(Alun) Beth ydi'r mater ar Harri Huws, wyddoch chi? |
(1, 1) 495 |
Pendics a niwmonia 'rydw i'n deall. |
|
(Alun) A pha bryd mae'r perfformiad cynta'? |
|
|
|
(Alun) A pha bryd mae'r perfformiad cynta'? |
(1, 1) 497 |
Ymhen rhyw 'chydig dros dair wythnos. |
|
(Alun) Wel dydi hi ddim yn anobeithiol felly; Mr. Defis. |
|
|
|
(Alun) Mae nhw'n medru gwneud gwyrthia' heddiw efo "Penicillin" ac "M and B" a'r cyffeiria' newydd yma. |
(1, 1) 500 |
Be'─wyt ti'n meddwl? |
|
(Alun) Siwr o fod i chi. |
|
|
(1, 1) 505 |
Wyddost ti be, rydw i'n credu dy fod ti'n iawn! |
(1, 1) 506 |
A mi wnaiff Harri ei ora i wella, mi ydw i'n gwybod hynny. |
(1, 1) 507 |
'Rwyt ti wedi rhoi gobaith newydd i mi, Alun! |
(1, 1) 508 |
Goleuni yng nghanol y tywyllwch, megis. |
(1, 1) 509 |
A finna wedi digalonni'n lân. |
(1, 1) 510 |
Ond ar ôl ein hymdrechion i gyd, ma' hi'n anodd credu y buasa Ffawd yn gwneud tric mor sâl â hynna efo ni, yn tydi? |
(1, 1) 511 |
I fyny fo'r nod felly, a phob llwyddiant, gobeithio! |
|
(Dicw) Esgusodwch fi, Jonah Defis. |
|
|
|
(Dicw) Chaiff o ddim symud am dri mis. |
(1, 1) 518 |
Be! |