a1, g1

Llwyn Brain (1956)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1956 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


GOLYGFA 1─Cegin

Pan godir y Llen nid oes neb ar y llwyfan. Yna gwelir y drws yn agor yn araf, a daw JONAH DEFIS i mewn yn ddistaw. Mae'n edrych o gwmpas am eiliad, yna daw i mewn a chau'r drws ar ei ôl. Mae ei lygaid yn disgleirio, a golwg gythryblus arno. Daw yn araf at ymyl y llwyfan dan edrych yn syfrdan ar rywbeth o'i flaen. Yna mae'n dechrau llefaru'n ddramatig gyda'r symudiadau priodol.

Jonah

"Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf? Aros, gad i mi afael ynot!... Ond methais dy ddal, ac eto rwy'n dy weld o hyd. Hunlle farwol─a wyt ti'n bod i'r llygaid yn unig, ac ni ellir dy deimlo? Ai dagr y dychymyg wyt, rhyw ffug-wrthrych, yn tarddu o'r ymennydd claf? 'Rwy'n dy weld eto, mor eglur dy ffurf â'r ddagr hon a dynnaf o fy wain... Nid oes beth o'r fath! Y gorchwyl gwaedlyd sy'n ymrithio hyn o flaen fy ngolwg..."



Tra bo JONAH DEFIS wrthi'n llefaru, daw LUSA i mewn yn ddistaw a sefyll i syllu arno'n syn wrth ymyl y drws. "... Ac yn awr dros hanner y byd mae Natur fel petai'n farw, a breuddwydion aflan yn poeni'r cwsg rhwng llenni; daw'r gwrachod hen ynghyd i ddathlu gŵyl, a'r llofrudd llwyd... a'r llofrudd llwyd..." JONAH yn amlwg wedi anghofio'i linellau.

Lisa

Wyt ti'n teimlo'n iawn dwad?

Jonah

(Troi'n sydyn.) O helo, Mam, wyddwn i ddim eich bod chi yna.

Lisa

Na wyddet yn amlwg! Dyna pam roeddet ti'n mynd drwy dy stumia fel mwnci ar ben pric. Wyt ti'n dechra colli arnat dy hun?

Jonah

Na, mynd drwy fy mhart yn y ddrama roeddwn i.

Lisa

(Mynd ar bwys ei ffon ac eistedd mewn cadair freichiau.) Drama? Pa ddrama?

Jonah

Wel honno ma' cwmni'r pentra'n mynd i berfformio nesa. Roeddwn i'n meddwl eich bod yn gwybod.

Lisa

Nac oeddwn i. 'Dydach chi'n dweud dim wrtha i be sy'n mynd ymlaen yma. Pawb yn mynd a dwad â'i wynt yn ei ddwrn fel cath i gythraul. Rhy brysur i ddweud dim wrth neb.

Jonah

Twt, dim o'r fath beth─

Lisa

Mae o'n wir bob gair, ond ei fod o'n wir hyll i ddeud. Manteisio arna i am mod i'n ddiniwed bach yn y gongol yma

Jonah

Y!

Lisa

(Codi ei ffon.) Ond 'dydw i ddim am ei ddiodde fo, wyt ti'n deall? Mi ydw inna'n rhywun hefyd.

Jonah

Dyn annwyl, Mam, am be rydach chi'n siarad, deudwch?

Lisa

Taw am funud. Gad i rywun arall gael gair i mewn weithia. Mi ydw i wedi bod yn rhy wirion o lawer. Tawn i wedi rhoi fy nhroed i lawr dipyn mi fuaswn yn cael mwy o barch.

Jonah

(Wrtho'i hun.) Ar fengoch i!

Lisa

Be ddwedaist ti?

Jonah

Dim ond─

Lisa

Hidia befo. Dim o bwys reit siwr. Mi fedra inna fod yn indipendant hefyd yn siwr i ti. Ac os na fydd yna altrad mawr yn y lle yma mi fydda i'n mynd at Wmffra dy frawd i aros.

Jonah

Na─o ddifri?

Lisa

Dydw i ddim wedi penderfynu eto. Mi gawn ni weld sut y bydd petha'n siapio. (JONAH yn dangos siomiant.) Y ddrama yna sydd gen ti─be' ydi ei henw hi?

Jonah

Macbeth.

Lisa

Y?

Jonah

Macbeth─wyddoch chi─

Lisa

Chlywais i erioed amdani.

Jonah

Un o ddramâu mawr y byd, 'rhen wraig!

Lisa

Oes yna bregethwr ynddi hi?

Jonah

Pregethwr? Nac oes debyg iawn─

Lisa

Dydi hi'n dda i ddim felly. Does yna ddim llawer o raen ar ddrama heb bregethwr a blaenor neu ddau. Dyfnder sydd arnat ti eisio mewn drama, machgen i, dyfnder. A digon o le i grio.

Jonah

'Rydach chi'n hen ffasiwn, Mam. Mae'r cymeriadau yna ar lwyfannau Cymru ers oes y coga'. Ac wedi colli pob ystyr bellach. Pypedau yn dawnsio ar ben llinyn heb rithyn o fywyd─

Lisa

Paid â siarad drwy dy het.

Jonah

Ond 'dydach chi ddim yn sylweddoli. Yr anfarwol William Shakespeare 'sgrifennodd hon! Y dramodydd mwya' welodd y byd erioed. Mi dreiddiodd yn ddyfnach i mewn i'r natur ddynol na neb o'i flaen nac ar ei ôl. (Mynd i hwyl.) Roedd calon ac enaid dyn fel llyfr agored o'i flaen. Gwelodd y drygioni a'r pechod sy'n gymysg â'r rhinweddau ym mhob un ohonom. Ac yr oedd barddoniaeth yn byrlymu ohono fel ffynnon ddihysbydd. Mi ydw i'n dweud wrthych chi, Mam, mae'r cymeriadau sydd yn ei waith yn gig a gwaed fel chi a finna.

Lisa

Dim gwahaniaeth; os nad oes yna bregethwr yn eu canol nhw, rown i ddim ceiniog a dima am ei gweld hi.

Jonah

Dyna'r hen ragfarn sy' wedi bod fel mwgwd am ein llygaid ni, Mam. Mae'n hen bryd ei daflu o i ffwrdd. Dyna pam 'rydw i am fentro rhoi Macbeth ar y llwyfan─yn Gymraeg deallwch chi. A doed a ddelo, mi ddalia i ati efo 'nghwmni bach.

Lisa

Ia, rhyw syniada mawr fuo gen ti 'rioed... Ond dim yn dwad ohonyn nhw, byth!

Jonah

Mi gewch chi weld peth arall!

Lisa

Pam na actiwch chi'r "Ferch o Gefn Brith"? Dyna i ti ddrama os leci di! A dau bregethwr, a 'dwn i ddim faint o flaenoriaid.

Jonah

Mam bach, does yna ddim symud arnoch chi!

Lisa

Mi ydw i wedi'i gweld hi'n cael ei hactio ddeg o weithiau. A chrio lond fy mol yn braf bob tro.



Margiad i mewn yn brysur.

Margiad

Yli, Jonah, does gen i ddim ond dwy law. A fedra i ddim bod mewn dau le ar unwaith.

Jonah

Be sy'n bod, Margiad?

Margiad

Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn?

Jonah

Naddo 'neno'r tad!

Lisa

Fuasa fo ddim yn clywed holl glychau Aberdyfi pan mae o'n mynd drwy 'i betha.

Margiad

Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf.

Jonah

Diogi? Ha! Mi ydw i wedi chwysu mwy dros y ddrama yma nag a wnes i 'rioed. Cofia 'mod i wedi ei chyfieithu hi hefyd─

Margiad

Twt, chdi a dy ddrama! Dwyt ti'n meddwl am ddim arall. Dy ben yn y gwynt, a rhywun arall yn gorfod gwneud y gwaith i gyd.

Lisa

Gwir bob gair! Byw mewn breuddwyd.

Margiad

A'r busnas yn mynd yn llai bob dydd. Siop wir! Mi fydd yr hwch drwyddi gyda hyn.

Jonah

Yli, Margiad, paid â thafodi gymaint da chdi. 'Rwyt ti'n gwastraffu dy egni wrth siarad. Dim ond dau air sydd eisio, "Jonah─siop." a dyna'r cwbwl drosodd. Wn i ddim pam mae eisio gwneud consart o bob mymrun lleia.

Lisa

'Rwyt ti'n gwneud drama o bob dim, lanc!

Jonah

Twt, dydach chi ddim yn fy neall i. Does yna neb yn fy neall i. Dyna drasiedi pob llenor ac artist erioed─cael ei fygu gan bethau dibwys, materol. (Mynd at y drws.) O wel, dyna'r drefn! Rhaid mynd at y cwsmar.

Margiad

Dim eisio i ti fynd rwan. Mi ydw i wedi gofalu amdano fo.

Jonah

O wel, dyna fo felly... Pwy oedd o?

Margiad

Tomos Morgan, Ocsiwniar. Mi wyddost mor groen-dena ydi o. Mi fuaset yn dy golled o werthu crys gwlanan.

Jonah

Margiad bach, be ydi crys gwlanan wrth ochor Macbeth?

Lisa

Crys gwlanan ydi crys gwlanan lle bynnag y mae o. Hwnnw sy'n dwad â bara menyn i ti, nid Bacmeth, ne beth bynnag wyt ti'n ei alw fo.

Jonah

Ia, ond "nid ar fara'n unig"─ac yn y blaen, cofiwch chi, Mam!

Lisa

Paid â rhagrithio mor ryfygus! Oes gen ti ddim cywilydd o gwbwl, dwad? Dy ben yn y niwl a'r cwsmeriad yn mynd yn llai bob dydd. A dy wraig yn gweithio'i bysedd i'r esgyrn. Dydi hi ddim wedi cael het newydd ers ugain mlynedd bron─heb sôn am wsnos o holide. Mae gen ti galon o garreg os medri di ddal ati mor ddihitio.

Jonah

Ond hanner munud, Mam─

Lisa

Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd. Rho gyfle i rywun arall ddweud gair weithia. Nid mewn drama 'rwyt ti rwan cofia. Mae'n hen bryd i ti ddeffro a mynd o gwmpas dy betha, machgen i, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Margiad

Digon gwir. Mi ydw i wedi dal heb gwyno'n rhy hir, fel roeddwn i wiriona. Ond mae yna derfyn ar amynedd y gora. A ma' hi wedi dwad i'r pen. (Deigryn yn ei llais.) Bob dim ar draws ei gilydd─busnas yn mynd i lawr a John Defi efo'r frech goch. Sut mae modd i neb ddal?

Lisa

Paid â dechra llempian yn fan'ma rwan. Fedra i ddim diodda neb yn snwffian o gwmpas y lle. Be ydi tipyn o frech goch, dwad? Diolcha nad ydi o ddim gwaeth.

Jonah

Debyg iawn. Mae o'n beth hollol naturiol! Run fath â chael dannedd. Rhan o'i dyfiant o.

Margiad

Dydio ddim yn beth naturiol iddo fo golli ei lais yn llwyr. A dyna'r Steddfod Genedlaethol ymhen pythefnos. Cam cyntaf ei yrfa fo. 'Roedd o mor saff o'r wobr gynta ar yr unawd soprano â mod in' sefyll yn fan'ma. Ond dyna fo, be ydi'r iws siarad? Does gen ti ddim mymryn o ddiddordeb ond yn dy betha dy hun.

Jonah

Yli, Margiad, dydi hynna ddim yn wir. Chymera' i ddim pob cyhuddiad ar draws fy nannedd chwaith. Y ddrama ydi fy myd i, 'rwyn cyfadda. A does gen i ddim cywilydd o hynny chwaith. Ma' hi wedi mynd os na chaiff dyn ymddiddori mewn llenyddiaeth ar ei gora, heb gael ei gyhuddo o fod yn ddihiryn calon galed.

Lisa

Beth am y siop yna, machgen i? Yn fan'ma mae dy ddyletswydd gynta di.

Margiad

Digon gwir. Fydd yna ddim cerpyn ar y silff i werthu gyda hyn.

Jonah

O paid â rwdlian yn wirion da chdi! Mae busnas yn mynd yn llai bob blwyddyn yr amser yma. Dim ond cyfnod rhwng dau dymor ydi o. Mi fyddwn yn dechra pigo i fyny eto gyda hyn. Aros i'r hen Ddoctor Parry ddwad i mewn i brynu trôns hir. Hwnnw ydi'r arwydd bod y Gaea wedi landio. Mi fyddwn yn gwerthu fel slecs wedyn.

Margiad

Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma!

Jonah

O, dyna hi eto! Ffaith amdani, Margiad, 'dwyt ti ddim yn hapus os nad oes gen ti wyneb hir. Os nad ydio'r peth yma mae o'r peth arall. Mae yna rai pobol felly─fedra' nhw yn eu byw beidio cwyno.

Lisa

Paid â bod mor goeglyd. Mae ganddi hi le i gwyno goelia i.

Margiad

Tawn i wedi swnian dipyn mwy mi fuaswn yn fwy fy mharch. Dydi o ddim yn sylweddoli bod yn rhaid i wraig siopwr fyw i fyny i'w safle. Mi ydw i'n teimlo fy hun yn flerach na neb yn y lle yma. Mae gen i gywilydd mynd allan bron.

Jonah

Yli, dos i nôl dillad i chdi dy hun o dy gorun i dy sowdwl. A dos i gyrlio dy wallt hefyd i'r fargan. Gwna fel fyd a fynnot ti ond da chdi, tria sirioli dipyn! Ma' hi fel cynhebrwng parhaus yma.

Margiad

Pwy sy'n mynd i dalu?

Jonah

Wel fi, debyg iawn.

Margiad

Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti.

Jonah

Nefoedd fawr─hanner cant?

Margiad

Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti.

Jonah

O'r gora, dyna fo! Os oes rhaid eu cael nhw 'does yma ddim diben mewn dadla.

Margiad

Wel?

Jonah

Wel be?

Margiad

Lle mae'r arian?

Jonah

Dos i ordro be sydd arnat ti eisio. Dwad wrth Lloyd am ei roi o i lawr ar fy nghownt i.

Margiad

Be! Dim o gwbwl. Dydw i ddim am brynu dillad ar lab yn siwr i ti!

Lisa

Wyt ti'n drysu, dwad?

Jonah

Wel be aflwydd sydd o'i le ynddo fo? Dyn busnas ydi Lloyd fel finna. Mi fydd o'n siwr o'i arian cyn diwedd y flwyddyn.

Margiad

Wyt ti'n meddwl am funud y buaswn i'n mynd at Lloyd o bawb heb arian parod? Yr hen siswrn mwya' crintachlyd yn yn y lle yma! A'i wraig o sy' gymaint o ledi fawr! Mi fuasa' sôn amdana i drwy'r sir cyn pen wythnos.

Jonah

Wel tawn i'n glem! (Troi ei gefn a gafael mewn llyfr.)

Margiad

Mi fuasa'n well gen i fynd o gwmpas mewn barclod brâs a chlocsia na gofyn am hances-boced am ddim ganddyn nhw! (Sŵn deigryn eto.) Sut y medri di feddwl am y fath beth? Oes gen ti ddim teimlad o gwbwl, dwad?

Lisa

Wyt ti'n mynd i ddechra llempian eto? 'Rwyt ti'n rhy barod dy ddagra o lawer, merch i.

Margiad

Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i.

Lisa

O, paid â siarad mor ynfyd, da chdi! Mi ydw i'n gwybod sut i' drin o'n well na chdi'n amlwg. (Curo draw) Oedd yna rywun yn cnocio, dwad?

Margiad

John Defi reit siwr. (Cychwyn at y drws.) Beth sydd arno fo eisio sgwn i?

Lisa

O gad iddo fo am funud. Wnaiff o ddim drwg iddo fo ddisgwyl dipyn. Mae o'n mynd yn ormod o fabi-mam o lawer.

Margiad

Edrychwch yma, Lusa Defis, mi ydw i'n gwybod sut i fagu fy mhlant heb gyngor neb, diolch yn fawr! Mi ydw i wedi llwyddo'n o lew hyd yn hyn rydw i'n meddwl. Mae Dilys wedi cychwyn ar ei gyrfa. A fydda i ddim yn fodlon nes y bydd John Defi hefyd â'i ddyfodol yn ddiogel.

Lisa

Hy!

Jonah

(Codi ei ben o'i lyfr.) Wyddost ti be', Margiad, 'rwyt ti'n swnio fel 'tae ti'n wraig weddw wedi brwydro'i hunan bach dros ei phlant! Ple 'rydw i'n dwad i mewn? Paid â chymryd y clod i gyd da chdi!

Margiad

Fuost ti erioed â dy ddau droed ar y ddaear, Jonah. 'Rwyt ti'n llawn o ryw blania mawr niwlog bob amser. Ond fi sydd wedi edrych ar ffeithia wyneb yn wyneb, a rhoi nod i'r plant y medran' nhw gyrraedd ato fo.

Jonah

(Cau ei lyfr.) Myn diain, dyna'r ora eto! Gan bwy gafodd Dilys ei dychymyg byw, a'i chariad at lenyddiaeth a diddordebau'r meddwl?

Lisa

Dim cwestiwn o hynny, ma' hi'n byw mewn breuddwyd fel titha!

Jonah

'Does dim rhaid iddi fod cywilydd o hynny. O freuddwydion mae petha' gora'r byd yma wedi tarddu. (Codi ar ei draed. Mynd i hwyl.) Mae'n rhaid i ddyn godi ei olwg i'r bryniau a'r cymylau. Yno mae'r gwir brydferthwch, nid yn y llwch sydd odan ei draed. Rhaid ymestyn allan tuag at y sêr, ac ymysgwyd yn rhydd oddi wrth faglau'r byd a'i bethau. Y sêr, ia! Fedar dyn byth ymaflyd ynddyn nhw─ma' nhw bob amser y tu hwnt i'w gyrraedd. Ond mi fedar ymestyn─mae'n rhaid iddo fo ymestyn ne wywo fel deilen grin. Ac yn yr ymdrech yna y mae antur bywyd─dyna sydd yn gwneud bywyd yn werth ei fyw!

Lisa

(Pwniad i JONAH gyda'i ffon.) Hei!

Jonah

Wel!

Lisa

'Tyrd i lawr o'r sêr am funud, wnei di? Beth wyt ti'n ei breglach, dwad?

Jonah

Am fyd y dychymyg, Mam. Hwyrach nad ydach chi ddim yn fy neall i. Ond mae Dilys yn deall, o ydi! Ac i mi ma' hi i ddiolch am hynny. Gyda phob parchedig barch, Margiad annwyl, does gen ti ddim mwy o ddychymyg na chwningan!

Margiad

O!

Jonah

Mae o'n wir, Margiad. Paid â meddwl mod i'n gweld bai arnat ti. Does gen ti ddim help. Mae'n rhaid cael pobol 'run fath â chdi, hefyd, i fynd â'r byd yn ei flaen. Pobol sy'n gofalu am betha bach bob dydd. A ma' rheiny'n anrhaethol bwysig wrth gwrs. Ond da chdi, paid â hawlio'r clod i gyd.

Margiad

Wel sôn amdanaf fi'n tafodi!

Lisa

Aros am funud. 'Rydach chi'ch dau cyn waethed â'ch gilydd. (Pwniad arall i JONAH.) Tyrd yn ôl at y pwnc, machgan i.

Jonah

Y! Am be 'rydach chi'n sôn?

Lisa

'Roeddet ti'n dweud y medret ti dalu hanner can punt i Lloyd ddiwedd y flwyddyn.

Jonah

Wel?

Lisa

Ple 'rwyt ti'n mynd i gael yr arian?

Jonah

Mi fydd gen i glec bach reit ddel erbyn hynny, rhen wraig, peidiwch â phoeni. (Margiad yn edrych yn syn.) Ia, Margiad, 'rwyt ti'n edrach yn syn! A newydd ddweud nad ydi fy nau droed i byth ar y ddaear!

Margiad

Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly?

Jonah

Hidia di befo, 'rhen chwaer. Mi gei di weld gyda hyn. Dydi'r ffaith bod dyn yn ymddiddori mewn drama ddim yn ei nadu o gadw'i lygaid ar y geiniog. 'Roedd William Shakespeare yn ddyn busnas llwyddiannus a 'run pryd y bardd mwya' welodd y byd erioed.

Lisa

Ddaw o ddim i 'sgidia Twm o'r Nant!

Margiad

Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud.

Jonah

Yn f'amser fy hun, Margiad bach, dim cynt. Ond mi fydd hi'n reit daclus arno ni cyn bo hir, mi fedra i dy sicrhau di o hynny. A fydd gen ti ddim achos cwyno am brinder dillad chwaith!



Clywir curo draw.

Margiad

John Defi! 'Roeddwn i wedi anghofio. A does gen y peth bach ddim llais i weiddi. (Mynd at y drws.) Mi ydw i'n poeni nes 'rydw i bron â drysu yn ei gownt o.

Lisa

Twt, rhwbia 'i gorn gwddw fo efo dipyn o saim gŵydd. Mi fydd yn iawn erbyn 'fory.

Margiad

Mi wna i'n hollol fel 'rydw i'n leicio, Lusa Defis. (Cau'r drws ar ei hôl.)

Lisa

Hy!



Gafael yn ei gweill. JONAH yn agor ei lyfr. Ymhen eiliad neu ddau clywir cloch y siop draw.

Lisa

Jonah!

Jonah

(Wedi ymgolli.) Y?

Lisa

Wyt ti'n fyddar, dwad? Mae yna rywun yn y siop.

Jonah

O ia,reit. (Mynd at y drws dan fwmian darn o'r ddrama.) "Dwbwl, dwbwl boen a thrwbwl, llosged tân i ferwi'r cwbwl."

Lisa

Wyt ti'n dechra arni eto?



JONAH yn agor y drws i weld pwy sydd yn y siop.

Jonah

O! helo, Dicw, chdi sydd yna? Tyrd drwodd am funud... Na, does yna neb yma ond rhen wraig fy mam... mae gen i eisio gair efo ti.



DICW yn ymddangos wrth y drws a'i gap yn ei law.

Dicw

Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim yn pethma?

Jonah

Dim o gwbwl, tyrd i mewn.

Dicw

'Pnawn da, Mrs. Defis.

Lisa

Hy!

Dicw

Ma' hi'n dal yn ddigon oer.

Lisa

Dim i'r sawl sy'n gweithio.

Jonah

Eistedd i lawr am funud, Dicw.

Dicw

'Dydw i ddim yn bwriadu aros yn hir, Jonah Defis. Ar dipyn o frys fel mae'n digwydd bod te.

Jonah

Twt, mi fedri sbario eiliad ne' ddau. (DICW yn eistedd yn brin ar y gadair.) Wel oes gen ti ryw newydd?

Dicw

Wel oes─hynny ydi, nac oes, fawr o bwys... (Edrych yn ofalus ar LUSA.) Ma' hi'n gyndyn o gynesu tipyn, on' 'dydi?

Lisa

'Rydach chi wedi deud hynna o'r blaen, ddyn!

Dicw

Do deudwch? Hynny ydi─

Jonah

Oes arnat ti eisio fy ngweld i'n brifat, Dicw?

Lisa

Ma' hynny'n amlwg i bawb. (Codi.) Dydi o wedi gwneud dim ond bwhwman dan ei wynt ers pan mae o yma... O'r cry'cmala felldith yma! Mae o'n fy lladd i'n lân. (Cychwyn.) Cariwch ymlaen efo'ch swgrsio. Mae o'n siwr o fod yn destun dwfn! (Pwniad i JONAH wrth basio) Bydd di'n ofalus hefyd, machgan i. Mi ydw i â fy llygaid arnat ti!

Jonah

Popeth yn iawn, 'rhen wraig, popeth yn iawn.

Dicw

P'nawn da, Mrs. Defis.

Lisa

Hy! (Cau'r drws ar ei hôl.)

Jonah

Merchaid! Merchaid! Ma' nhw'n achos mwy o loes i ddyn na holl bwysa'r byd yn gyfan.

Dicw

Wel does yna ddim ond un ffordd i'w trin nhw, Jonah Defis─siarad fel hen lanc ydw i rwan─mae'n rhaid i chi roi eich traed ar eu gyddfa' nhw o'r cychwyn cynta.

Jonah

Dydi hynna fawr o gysur i mi rwan.

Dicw

Ma'n syn fel mae dyn yn cael ei dwyllo ganddyn nhw. I fynny i ddeg oed ma'n nhw'n angylion; o ddeg i bymtheg ma'n nhw'n seintia. Ond ma'n nhw'n ddiawchiaid milan yn ddeugain oed, ac yn hen wrachod gythgam yn bedwar ugain!

Jonah

Ia, 'rwyt ti'n llygad dy le. Ond tyrd, beth oedd gen ti i ddweud?

Dicw

Wel hyn, Jonah Defis─doedd arna i ddim eisio dweud o flaen rhen wraig─mae Harri Huws wedi ei daro'n wael.

Jonah

Be! Ar fengoch i, un peth ar ôl y llall! A'r ddrama wedi mynd mor bell. Be' ar y ddaear fawr wnawn ni rwan?

Dicw

Dyna'r trwbwl efo cwmni bach ynte. Rhywun yn mynd yn sâl, a dyna'r cwbwl yn ffliwt.

Jonah

Tria fod dipyn mwy calonnog, da chdi! Beth ydi'r mater arno fo?

Dicw

Pendics.

Jonah

O wel, dydi hynny ddim mor ddrwg. Ma' nhw ar eu traed ymhen rhyw dri diwrnod ar ôl y gyllell. A does ganddo fo ddim part mawr iawn. Ond fedar neb actio'r Porthor yn Macbeth yn debyg i Harri. Na, dydi hi ddim mor ddrwg wedi'r cyfan. Ond mi roist ti andros o sioc i mi am funud─do 'tawn i'n glem!

Dicw

Ma' piwmonia arno fo hefyd, Jonah Defis.

Jonah

Yr arswyd fawr, 'rwyt ti'n waeth na chysurwyr Job! Pam na fuaset ti'n dweud y cwbwl y tro cyntaf?

Dicw

Trio torri'r newydd drwg yn ara' deg 'roeddwn i, ydach chi'n gweld ynte.

Jonah

A throi'r gyllel yn y briw bob tro! Dyna ddiwedd arni felly. Mi ydw i wedi ofni peth fel hyn ar hyd y bedlan!... Niwmonia─wyt ti'n siwr?

Dicw

Ydw, yn berffaith siwr. 'Roedd o mewn lathar o chwys neithiwr cyn mynd i'r hospital. A fedran' nhw ddim operatio arno fo, medda nhw, nes y daw ei wres o i lawr.

Jonah

Harri druan─y mwyaf eiddgar o'r cwmni bach i gyd! Ac wedi edrych ymlaen gymaint ar y perfformiad. Mi fuasa'n cropian o'r 'sbyty tae o'n medru rhywsut─i'n helpu ni. Wn i ddim beth i wneud rwan. Fedra i feddwl am neb i gymryd ei le fo. (Cnoc ar y drws.) Pwy aflwydd sydd yna rwan tybed?



Drws yn agor a daw ALUN i mewn.

Jonah

(Llais digalon.) O helo, Alun,─chdi sydd yna? Tyrd i mewn.

Alun

'Dydw i ddim yn eich styrbio chi, Mr. Defis?

Jonah

Na na, dim o gwbwl. Eistedd i lawr.

Alun

Wedi dwad â'r llyfr yma'n ôl i Dilys rydw i.

Jonah

O ia. Heb gyrraedd o'r ysgol ma' hi. Fydd hi ddim yn hir... Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd? Alun Morus, hen ffrind i Dilys yma... Dicw, saer-llwyfan y cwmni─

Alun

O ia.

Dicw

Sut ydach chi, Mr. Morus. Mi ydw i'n siwr mod i wedi'ch cyfarfod chi o'r blaen yn rhywle.

Alun

O mae'n debyg eich bod chi. Gweithio'n Swyddfa'r Cyngor Dosbarth rydw i.

Dicw

Ia, ia, dyna fo. Roeddwn i'n ama' mod i wedi'ch gweld chi o gwmpas... Ma' hi'n dal yn ddigon oer yn tydi?

Alun

Wel ydi ma' hi.

Dicw

(Wrth JONAH.) Biti na fuasa'r barrug yn dwad a gwres Harri Huws i lawr ynte? (Nid yw JONAH yn ateb... DICW'n codi.) Ia, wel, mi ydw i am fynd rwan, am wn i.

Alun

Peidiwch â gadael i mi dorri ar eich sgwrs chi.

Dicw

Na, 'roeddwn i ar gychwyn, wyddoch chi. Ar dipyn o frys. Oes yna rywbeth arall fedra' i wneud, Jonah Defis?

Jonah

Na, 'r wyt ti wedi gwneud yn o dda'n barod 'laswn i feddwl!

Dicw

(Mynd at y drws.) Reit─wel mi ga' i'ch gweld chi ymhellach ymlaen felly. Mae gen i ddigon i wneud i gael y llwyfan yn barod. (Agor y drws.) P'nawn da i chi'ch dau

Jonah

P'nawn da, Dicw.

Alun

P'nawn da. (Dicw'n cau'r drws ar ei ôl.) Maddeuwch i mi, Mr. Defis─mae yna olwg braidd yn ddigalon arnoch chi. Oes yna rywbeth allan o'i le?

Jonah

Fedra petha fod dim gwaeth, Alun. Newydd glywed fod Harri Huws wedi cael ei daro'n wael.

Alun

Tewch! Mae'n ddrwg gen i glywed. Oes dim posib cael neb i gymryd ei le fo?

Jonah

Go brin, mae arna i ofn. Mi ydw i'n methu dyfalu be'i wneud. A 'does ganddo ni fawr o amser.

Alun

Mi fuaswn i'n helpu tawn i'n medru. Ond fuo fi 'rioed ar lwyfan. Does gen i ddim syniad sut i actio. Ydio'n bart mawr?

Jonah

Nac ydi─ond ei fod o'n hanfodol bwysig. Y Porthor wyddost ti.

Alun

Meddwl roeddwn i, efalla' y buasech chi'n medru torri'r part allan.

Jonah

Ei dorri o allan! Dim posib. Macbeth heb y porthor? Mi fuasa'n halogiad o un o gampweithia' llenyddiaeth y byd! (Mynd i hwyl.) Dyna i ti gyffyrddiad y Meistr. Y Porthor yn baldorddi'n wamal wrth y drws, yng nghanol yr awyrgylch du, trychinebus. Cyferbyniad, wyt ti'n gweld─rhyw ias o ddoniolwch yng nghanol trasiedi, i ddwyshau'r trallod a'r galar. Na, mae'r Porthor yn rhan hanfodol o wead y Ddrama. Fedrir mo'i hepgor o byth.

Alun

Mae hi'n edrych yn o ddrwg felly, Mr. Defis.

Jonah

Ydi, Alun. Ar ôl y llafurio caled a'r brwdfrydedd i gyd. Mae o'n siomiant chwerw iawn i mi.

Alun

Beth ydi'r mater ar Harri Huws, wyddoch chi?

Jonah

Pendics a niwmonia 'rydw i'n deall.

Alun

A pha bryd mae'r perfformiad cynta'?

Jonah

Ymhen rhyw 'chydig dros dair wythnos.

Alun

Wel dydi hi ddim yn anobeithiol felly; Mr. Defis. Mae nhw'n medru gwneud gwyrthia' heddiw efo "Penicillin" ac "M and B" a'r cyffeiria' newydd yma.

Jonah

Be'─wyt ti'n meddwl?

Alun

Siwr o fod i chi. Fydd o ddim wedi mendio'n llwyr wrth gwrs. Ond mi ddylai fod yn ddigon da i gymryd ei bart am un noson.

Jonah

(Eiddgar.) Wyddost ti be, rydw i'n credu dy fod ti'n iawn! A mi wnaiff Harri ei ora i wella, mi ydw i'n gwybod hynny. 'Rwyt ti wedi rhoi gobaith newydd i mi, Alun! Goleuni yng nghanol y tywyllwch, megis. A finna wedi digalonni'n lân. Ond ar ôl ein hymdrechion i gyd, ma' hi'n anodd credu y buasa Ffawd yn gwneud tric mor sâl â hynna efo ni, yn tydi? I fyny fo'r nod felly, a phob llwyddiant, gobeithio!



Cnoc ar y drws. Hwnnw'n agor, a DICW yn rhoi ei ben i mewn.

Dicw

Esgusodwch fi, Jonah Defis. Newydd gael gair eto am Harri Huws. Mae clefyd cry'-cymala arno fo hefyd. Chaiff o ddim symud am dri mis.

Jonah

Be!



LLEN

a1, g1