|
|
|
(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd) |
|
|
|
(Ifan-John) Mam? |
(1, 6) 163 |
Ie? |
|
(Ifan-John) {Yn chwilio eto amdani cyn ei gweld.} |
|
|
|
(Ifan-John) Fyn'na y'ch chi. |
(1, 6) 166 |
Ble wyt ti'n disgwyl i fi fod? |
(1, 6) 167 |
Ma' swper yn barod. |
(1, 6) 168 |
Ddô'i mewn 'wan. |
|
(Ifan-John) Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag. |
|
|
|
(Ifan-John) Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag. |
(1, 6) 170 |
Beth! |
(1, 6) 171 |
Allu di ddim mynd heb fwyd. |
|
(Ifan-John) Dwi wedi b'yta. |
|
|
|
(Ifan-John) Dwi wedi b'yta. |
(1, 6) 173 |
Rhaid i ti f'yta. |
|
(Ifan-John) Dwi wedi, Mam. |
|
|
|
(Ifan-John) Dwi wedi, Mam. |
(1, 6) 175 |
Labro drw'r dydd. |
(1, 6) 176 |
Sdim mynd heb fwyd i fod. |
|
(Ifan-John) Mam – er mwyn popeth – dwi wedi b'yta. |
|
|
|
(Ifan-John) Iawn? |
(1, 6) 179 |
Pryd? |
|
(Ifan-John) Gynne. |
|
|
|
(Ifan-John) Oedd popeth ar y ford 'fo chi. |
(1, 6) 182 |
O. |
(1, 6) 183 |
A fe f'ytes di heb aros amdana'i. |
|
(Ifan-John) Ma' hast arna'i, Mam. |
|
|
|
(Ifan-John) Wedes i wrthoch chi bore 'ma. |
(1, 6) 186 |
Ie-ie. |
(1, 6) 187 |
I gwrdd â'r lodes 'na. |
|
|
(1, 6) 189 |
Wel, ffwrdd â thi, te. |
(1, 6) 190 |
Paid adel i fi fod yn fwy o rwystr i ti. |
|
(Ifan-John) Mam, chi'n gw'bod fel ma'r plas 'na. |
|
|
|
(Ifan-John) Dim ond heno s'da hi tan duw-a-ŵyr pryd. |
(1, 6) 193 |
Ie. |
(1, 6) 194 |
A dim ond heno s'da fi i gael y lle hwn yn lân 'fyd. |
(1, 6) 195 |
Fel wyt ti'n gw'bod yn iawn. |
|
(Ifan-John) Fi'n gw'bod, fi'n gw'bod. |
|
|
|
(Ifan-John) Ond... |
(1, 6) 198 |
O, cer er mwyn popeth. |
(1, 6) 199 |
Ddô'i ben ben y'n hunan. |
(1, 6) 200 |
Dwi wedi 'neud digon o'r blaen a mi wna'i ddigon eto, siŵr o fod. |
(1, 6) 201 |
Hy! |
(1, 6) 202 |
Bydd raid i fi unwaith briodi di'r lodes 'na. |
|
(Ifan-John) Sdim sôn am briodi, Mam. |
|
|
|
(Ifan-John) Sdim sôn am briodi, Mam. |
(1, 6) 204 |
Ifan-John bach, sdim ise dim 'sôn' oes-e? |
(1, 6) 205 |
Pan fydd raid, bydd raid. |
|
(Ifan-John) S'o Mati'r fath hynny o ferch. |
|
|
|
(Ifan-John) S'o Mati'r fath hynny o ferch. |
(1, 6) 207 |
Nagyw. |
(1, 6) 208 |
Wrth gwrs nag yw hi. |
|
(Ifan-John) Dyw hi ddim! |
|
|
|
(Ifan-John) Dyw hi ddim! |
(1, 6) 210 |
Na. – |
(1, 6) 211 |
A ti? |
|
(Ifan-John) Mam? |
|
|
|
(Ifan-John) Be' sy'n bod heno nawr? |
(1, 6) 214 |
Dim. |
(1, 6) 215 |
Dim byd. |
|
|
(1, 6) 217 |
Gofynnes di hanes y Gerlan wedyn? |
|
(Ifan-John) Naddo. |
|
|
|
(Ifan-John) Naddo. |
(1, 6) 219 |
Ifan-John! |
|
(Ifan-John) Ges i ddim cyfle, Mam. |
|
|
|
(Ifan-John) 'Sbyth cyfle. |
(1, 6) 222 |
Nagoes. |
(1, 6) 223 |
Wrth gwrs does byth gyfle. |
(1, 6) 224 |
Mae raid i ti wneud cyfle, 'chan. |
(1, 6) 225 |
Beth dwi wedi bod yn gweud a gweud 'thot ti. |
(1, 6) 226 |
Wyt ti byth yn mynd i gael dy le dy hunan fel hyn. |
(1, 6) 227 |
Wyt ti am sefyll yn was bach i Mister Hollbwysig Morris am weddill dy oes? |
|
(Ifan-John) Dwi'n was mawr, Mam. |
|
|
|
(Ifan-John) Ddim gwas bach. |
(1, 6) 230 |
Gwas mawr, gwas bach. |
(1, 6) 231 |
Beth yw'r gwa'niaeth. |
(1, 6) 232 |
Gwas yw gwas a mistir yw mistir. |
|
(Ifan-John) Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas. |
|
|
|
(Ifan-John) Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas. |
(1, 6) 234 |
Wyt ti'n gwneud 'ny 'wan, beth bynnag. |
|
(Ifan-John) Dim os fedra'i osgoi. |
|
|
|
(Ifan-John) Dim os fedra'i osgoi. |
(1, 6) 236 |
Ie. |
(1, 6) 237 |
Ow'n i wedi clywed. |
(1, 6) 238 |
Bachan mawr – tu ôl 'i gefen! |
|
(Ifan-John) Dwi'n mynd. |
|
|
|
(Ifan-John) Dwi'n mynd. |
(1, 6) 240 |
Ie. |
(1, 6) 241 |
Cer. |
(1, 6) 242 |
Gwylia di nag yw un o'i gynffonwyr yn gweud wrtho, 'na'i gyd. |
|
|
(1, 6) 245 |
Fydd hi ar ben arnat ti'n cael lle dy hunan wedyn, 'machgen i, on-fydd-hi! |
|
(Canwr) 'I Blas Gogerddan heb dy dad! |
|
|
(1, 13) 653 |
Ie? |
|
(Mati) 'Wedodd e mai fan hyn fyddech chi, fwy na thebyg. |
|
|
(1, 13) 656 |
Mati! |
|
(Mati) Popeth yn iawn. |
|
|
|
(Mati) Popeth yn iawn. |
(1, 13) 658 |
Wyt ti wedi gweld Ifan-John yn 'weddar? |
(1, 13) 659 |
Dyw e'n gweud dim. |
(1, 13) 660 |
Llai nag erioed nawr, wrth gwrs. |
|
(Mati) Weles i e neithiwr – ryw awr fach. |
|
|
|
(Mati) Weles i e neithiwr – ryw awr fach. |
(1, 13) 662 |
O. |
(1, 13) 663 |
Wyt ti'n gw'bod te. |
|
|
(1, 13) 665 |
O. |
(1, 13) 666 |
Wrth gwrs. |
(1, 13) 667 |
Yn gw'bod ers sbel. |
(1, 13) 668 |
Ers meityn. |
(1, 13) 669 |
'Mhell cyn ow'n i'n gw'bod, siŵr o fod. |
(1, 13) 670 |
Faint, sgwn i? |
(1, 13) 671 |
O, be' 'di'r ots. |
(1, 13) 672 |
Mae e'n benderfynol o fynd. |
|
(Mati) Odi. |
|
|
|
(Mati) Odi. |
(1, 13) 674 |
Ond 'sdim rhaid iddo. |
(1, 13) 675 |
'Na beth dw-i ddim yn deall. |
(1, 13) 676 |
Odi e'n teimlo'n gryf am y rhyfel 'ma? |
(1, 13) 677 |
Beth mae e'n gweud? |
(1, 13) 678 |
Dyw e'n gweud dim wrtho'i. |
(1, 13) 679 |
Dwi heb glywed e'n siarad am y peth o gwbwl. |
(1, 13) 680 |
Darllen yr un papur na dim. |
(1, 13) 681 |
Dwi ddim yn deall. |
|
(Mati) Na. |
|
|
|
(Mati) Mae e'n gw'bod hynny. |
(1, 13) 684 |
Pam na wedith e wrtho'i te. |
(1, 13) 685 |
Siarad. |
(1, 13) 686 |
Gweud beth sydd ar ei feddwl. |
|
(Mati) Ma' sôn wedi bod bod Elgan yn dod gatre. |
|
|
|
(Mati) Odi e wedi gweud 'ny wrthoch chi? |
(1, 13) 690 |
Elgan yn dod gatre – i beth? |
|
(Mati) I weithio ar y ffarm, ma' nhw'n gweud. |
|
|
|
(Mati) Bydd raid i un o'r gweision fynd wedyn a ma' Ifan-John yn meddwl ma... |
(1, 13) 693 |
Ie-ie, Ifan-John yn meddwl. |
(1, 13) 694 |
Mae Ifan-John yn meddwl beth sy'n siwto Ifan-John i feddwl. |
(1, 13) 695 |
Man-a-man i ti ddysgu gymaint â hynny nawr, 'merch i. |
(1, 13) 696 |
Beth bynnag, pam bydde Elgan Morris o bawb yn dod gatre. |
(1, 13) 697 |
'Sdim elfen ffarmwr ynddo o gwbwl. |
|
(Mati) Nagoes. |
|
|
|
(Mati) Fyddan nhw'n saff wedyn, on-fyddan-nhw. |
(1, 13) 702 |
Mor saff â mae hi ar Ifan-John nawr. |
(1, 13) 703 |
A phan fydd y whare-plant yma drosodd, fydd y Gerlan yn rhydd – yn disgwyl amdano. |
|
(Mati) Y Gerlan? |
|
|
|
(Mati) Y Gerlan? |
(1, 13) 705 |
Mae e wedi sôn wrthot ti, siŵr o fod. |
(1, 13) 706 |
Ffarm fach net i chi gael dechreuad arni. |
(1, 13) 707 |
Gael y'ch tra'd 'danoch. |
(1, 13) 708 |
Wyt ti'n dod mlaen yn iawn yn y Plas, ond-wyt-ti – dod mlaen â hi a fe'n iawn? |
|
(Mati) Odw. |
|
|
|
(Mati) Odw – ar y cyfan. |
(1, 13) 711 |
Da iawn. |
(1, 13) 712 |
Fydd hynny'n help. |
(1, 13) 713 |
Un peth ma' rhaid gweud am 'rhen Pryse, Gogerddan – mae e'n dewis ei denantiaid yn dda. |
(1, 13) 714 |
Yn deg hefyd. |
(1, 13) 715 |
'Sda fi ddim lot arall i 'weud amdano – dim un ohonyn nhw, o ran hynny. |
(1, 13) 716 |
A nawr ma'hwn – Ifan-John... |
(1, 13) 717 |
O, beth yw'r pwynt pregethu ragor. |
(1, 13) 718 |
Oni bai bod 'da ti ddylanwad arno. |
|
(Mati) Na. |
|
|
|
(Mati) Dim dylanwad. |
(1, 13) 721 |
Mwy nag wyt ti'n feddwl, siŵr o fod. |
|
(Mati) Na. |
|
|
|
(Mati) Ddim ar y foment, beth bynnag. |
(1, 13) 726 |
A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd. |
|
(Mati) Mae'n debyg. |
|
|
|
(Mati) Mae'n debyg. |
(1, 13) 728 |
Sôn am y byd yn wallgo. |
|
(Mati) Dwi'n gw'bod. |
|
|
|
(Mati) Fyddan nhw'n gwmni i'w gilydd. |
(1, 13) 733 |
A mae hynny i fod yn gysur, Mati? |
|
(Llais) (Salm 24) |
|
|
|
(Emyn) [ap Hefin] |
(2, 4) 1101 |
Whilo rhein, syr - Mr. Jones? |
|
(Mr Jones) O – ie. |
|
|
|
(Mr Jones) Eu hangen nhw arna'i. |
(2, 4) 1106 |
Cyn dydd Sul? |
|
(Mr Jones) Ia. |
|
|
|
(Mr Jones) Ddim yn siŵr a fyddai yma ddydd Sul, a deud y gwir. |
(2, 4) 1109 |
O. |
(2, 4) 1110 |
Mynd bant? |
|
(Mr Jones) Ydw. |
|
|
|
(Mr Jones) Nes bydd yr holl... yr holl beth yma ar ben. |
(2, 4) 1116 |
Ry' chi'n ddyn lwcus, Mr. Jones. |
(2, 4) 1117 |
Y Bardd yn troi i edrych arni... |
(2, 4) 1118 |
Os oes 'da chi rywle i ddianc iddo. |
(2, 4) 1119 |
Lwcus. |
|
(Mr Jones) Mrs. Jones, mae'n ddrwg gin' i. |
|
|
|
(Mr Jones) Mae'n ddrwg gin' i. |
(2, 4) 1123 |
'Sdim ise. |
(2, 4) 1124 |
O gwbwl. |
|
(Mr Jones) Ryw air wythnos hon? |
|
|
|
(Mr Jones) Ryw air wythnos hon? |
(2, 4) 1127 |
Y llythyr arferol. |
|
(Mr Jones) A, sut... |
|
|
(2, 4) 1130 |
Mae'n iach – hyd yn hyn, diolch yn fawr i chi. |
|
(Mr Jones) Da iawn. Da iawn. |
|
|
|
(Mr Jones) Adra. |
(2, 4) 1138 |
Mr. Jones... |
|
(Mr Jones) Diar-diar. |
|
|
|
(Mr Jones) Wela'i chi ddydd Sul, 'fallai. |
(2, 4) 1144 |
Debyg iawn. |
|
|
(2, 4) 1146 |
Mr. Jones... |
|
(Mr Jones) Ia? |
|
|
|
(Mr Jones) Ia? |
(2, 4) 1148 |
Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau... |
|
(Mr Jones) 'Da chi 'di darllen y'n nodiadau? |
|
|
|
(Mr Jones) 'Da chi 'di darllen y'n nodiadau? |
(2, 4) 1150 |
Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd. |
|
(Mr Jones) Ddrwg gin'i. Pa gerdd? |
|
|
|
(Mr Jones) Ddrwg gin'i. Pa gerdd? |
(2, 4) 1152 |
Yr un am y dail yn murmur a'r... a'r deuddeg abad a'r tawelwch a'r... |
|
(Mr Jones) {Ar ei thraws, braidd.} |
|
|
|
(Mr Jones) Ystrad Fflur. |
(2, 4) 1155 |
Ystrad Fflur. |
(2, 4) 1156 |
Ie. |
(2, 4) 1157 |
Y'ch chi... chi'n mynd i'w cyhoeddi? |
|
(Mr Jones) Na. |
|
|
|
(Mr Jones) Na. |
(2, 4) 1161 |
Pam? |
|
(Mr Jones) Am ei bod yn gelwydd. |
|
|
|
(Mati) Ymhell, mor bell o gartre sydd gyda'r llu. |
(2, 7) 1201 |
O! |
(2, 7) 1202 |
Ti'n gynt nag arfer 'wythnos hon. |
|
(Mati) Lady Pryce yn Nanteos. |
|
|
|
(Mati) Soirée, fel ma' nhw'n gweud. |
(2, 7) 1205 |
Odi Peggy'n gw'bod bo' ti wedi mynd yn gynnar? |
|
(Mati) Hi 'wedodd wrtho'i. |
|
|
|
(Mati) Hi 'wedodd wrtho'i. |
(2, 7) 1207 |
A des ti fan hyn. |
(2, 7) 1208 |
At Kitty, druan bach â hi. |
|
(Mati) Os nagych chi ise 'nghwmni i... |
|
|
|
(Mati) Os nagych chi ise 'nghwmni i... |
(2, 7) 1210 |
O, paid bod mor groen-denau, lodes. |
|
(Mati) Dwi ddim yn credu mai fi sy'n groen-denau. |
|
|
|
(Mati) Dwi ddim yn credu mai fi sy'n groen-denau. |
(2, 7) 1212 |
Nag wyt ynta. |
|
|
(2, 7) 1214 |
Ma' cwpwl bach o dato'n berwi. |
(2, 7) 1215 |
Fyddan nhw ddim yn hir 'wan. |
|
(Mati) O! |
|
|
|
(Mati) Cigach. |
(2, 7) 1220 |
Peggy roiodd e i ti? |
|
(Mati) Nage. |
|
|
|
(Mati) Briwsion casgles i pnawn 'ma tra'r oedd Peggy'n cael napyn bach. |
(2, 7) 1224 |
Wyt ti'n gweud y gwir, gobeithio. |
(2, 7) 1225 |
Dwi ddim angen unrhyw gardod oddi wrth Peggy na'r plas, ti'n gw'bod. |
|
(Mati) Fydden i ddim ise chwaith. |
|
|
|
(Mati) Fydden i ddim ise chwaith. |
(2, 7) 1227 |
Na fyddet. |
(2, 7) 1228 |
Dwi'n amau dim. |
|
|
(2, 7) 1230 |
Ond ma' dwyn oddi wrthyn nhw'n iawn, odi-hi? |
|
(Mati) Dwyn? |
|
|
(2, 7) 1235 |
Gormod o frasder! |
(2, 7) 1236 |
Siwt wyt ti'n dal dy dafod yn y fath le, dwn i ddim. |
|
(Mati) Peidiwch chi a dweud dim – 'rholl siarsio i chi wedi gwneud ar Ifan-John i gadw'i gapan yn strêt efo Morris Penrallt a'r Plas! |
|
|
|
(Mati) Peidiwch chi a dweud dim – 'rholl siarsio i chi wedi gwneud ar Ifan-John i gadw'i gapan yn strêt efo Morris Penrallt a'r Plas! |
(2, 7) 1238 |
Ma' 'na bwrpas i hynny. |
|
(Mati) Oes. |
|
|
|
(Mati) Gwneud yn siŵr fod cenhedlaeth y'ch mab a finne yr un mor daeog a'ch cenhedlaeth chi. |
(2, 7) 1241 |
A be' sy'n bod ar fod yn daeog os mae'n golygu ffarm fach dda i chi'ch dau – dechreuad da. |
(2, 7) 1242 |
Dechreuad. |
(2, 7) 1243 |
Cael siawns go lew i wneud y gore ohoni. |
|
|
(2, 7) 1245 |
A wedyn – hwn. |
(2, 7) 1246 |
Yr holl ddwli 'ma. |
(2, 7) 1247 |
Difetha'r cwbwl. |
|
(Mati) Y rhyfel, chi'n feddwl. |
|
|
|
(Mati) Y rhyfel, chi'n feddwl. |
(2, 7) 1249 |
Wrth gwrs. |
(2, 7) 1250 |
Beth arall? |
(2, 7) 1251 |
Erbyn iddo ddod nôl fydd tenantiaeth Y Gerlan wedi mynd. |
(2, 7) 1252 |
Wedi hen fynd. |
|
(Mati) A fi, Mrs. Jones. |
|
|
|
(Mati) A fi, Mrs. Jones. |
(2, 7) 1255 |
Beth? |
|
(Mati) Dwi'n mynd. |
|
|
|
(Mati) 'Madael. |
(2, 7) 1258 |
Mati? |
|
(Mati) Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond... |
|
|
|
(Mati) Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond... |
(2, 7) 1261 |
I le ti'n mynd? |
(2, 7) 1262 |
Le allu di fynd? |
(2, 7) 1263 |
Beth am dy dad? |
(2, 7) 1264 |
Beth am y plas? |
(2, 7) 1265 |
'Sdim unman gen' ti i fynd. |
|
(Mati) Oes. |
|
|
|
(Mati) Oes. |
(2, 7) 1267 |
Nagoes. |
(2, 7) 1268 |
Wyt ti heb gael diwrnod mwy o ysgol na ges i. |
(2, 7) 1269 |
Wyt ti wedi 'neud yn dda i gael lle yn y Plas. |
(2, 7) 1270 |
Yn dda iawn. |
(2, 7) 1271 |
'Sdim unman arall i fynd, heblaw... |
|
|
(2, 7) 1276 |
Ble wyt ti'n mynd? |
|
(Mati) Birmingham. |
|
|
|
(Mati) Birmingham. |
(2, 7) 1278 |
Ble! |
(2, 7) 1279 |
I weithio yn un o'r ffatrïoedd 'ny? |
|
|
(2, 7) 1281 |
Helpu'n hannwyl Lloyd George? |
|
(Mati) Na. |
|
|
(2, 7) 1284 |
Ble te? |
(2, 7) 1285 |
Gwed, ferch. |
|
(Mati) Ysbyty. |
|
|
|
(Mati) Ble ma' nhw'n dod a'r milwyr. |
(2, 7) 1291 |
Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John. |
|
(Mati) Os bydd e'n lwcus. |
|
|
|
(Mati) Os bydd e'n lwcus. |
(2, 7) 1294 |
Fydd e ddim. |
|
(Mati) Mrs. Jones... |
|
|
(2, 7) 1297 |
Be' ti'n mynd i 'wneud 'na? |
(2, 7) 1298 |
Glanhau lloriau? |
(2, 7) 1299 |
Cario bwcedi? |
|
(Mati) I ddechrau – siŵr o fod. |
|
|
|
(Mati) Ond, wel... |
(2, 7) 1302 |
'Ond, wel' beth? |
|
(Mati) Dwi ise bod yn nyrs – yn y pen draw. |
|
|
|
(Mati) Dwi ise bod yn nyrs – yn y pen draw. |
(2, 7) 1304 |
Mati fach! |
|
|
(2, 7) 1306 |
Wyt ti heb gael ysgol. |
|
(Mati) 'Sdim ots am bethe felna - ond bo' ni'n gallu 'neud – fodlon 'neud - popeth sydd i 'neud. |
|
|
(2, 7) 1309 |
Gwyn dy fyd di. |
|
(Mati) Mrs. Jones? |
|
|
|
(Mati) Mrs. Jones? |
(2, 7) 1311 |
Pryd wyt ti'n mynd? |
(2, 7) 1312 |
Wyt ti wedi gweud gatre 'to? |
(2, 7) 1313 |
Wrth y Plas? |
|
(Mati) Naddo. |
|
|
|
(Mati) Neb. |
(2, 7) 1316 |
Ond, mi wyt ti yn mynd. |
|
(Mati) Odw. |
|
|
|
(Mati) Dwi wedi trefnu popeth. |
(2, 7) 1319 |
A beth am Ifan-John? |
(2, 7) 1320 |
Beth mae e'n gweud? |
|
(Mati) Dim, hyd-yn-hyn. |
|
|
|
(Mati) Dyw e ddim yn gw'bod. |
(2, 7) 1325 |
Pryd wyt ti'n mynd i 'weud? |
(2, 7) 1326 |
Ma' rhaid i ti 'weud. |
(2, 7) 1327 |
Ma' hawl gydag e i w'bod. |
|
(Mati) Oes-e? |
|
|
|
(Mati) Os na ddaw rhywbeth gyda'r post fory fydd deufis wedi mynd ers ges i'r llythyr diwetha'. |
(2, 7) 1335 |
Deufis? |
|
(Mati) Deufis. |
|
|
|
(Mati) Deufis. |
(2, 7) 1338 |
Wedest ti... |
(2, 7) 1339 |
'Sdim pythefnos wedi mynd ers i ti 'weud i ti gael llythyr ganddo. |
|
(Mati) Ie, wel – doedd hynny ddim yn wir. |
|
|
|
(Mati) Ie, wel – doedd hynny ddim yn wir. |
(2, 7) 1341 |
Ond... |
|
(Mati) {Ar ei thraws / i ateb ei dryswch.} |
|
|
|
(Mati) Ddigon amlwg. |
(2, 7) 1358 |
Mati... |
|
(Mati) Ie? |
|
|
|
(Mati) Ie? |
(2, 7) 1360 |
Ddaw e nôl, ti'n meddwl? |
|
(Emyn) 167 (Caneuon ffydd) |
|
|
|
(Darllenwr) Mi a roddais fy nghalon i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn... |
(2, 9) 1419 |
... fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd. |
|
(Darllenwr) Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a ychwanega wybodaeth, a... |
|
|
|
(Darllenwr) Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a ychwanega wybodaeth, a... |
(2, 9) 1421 |
... ychwanega ofid. |
|
(Darllenwr) Y doeth sydd â'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto... |
|
|
|
(Darllenwr) Y doeth sydd â'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto... |
(2, 9) 1423 |
... mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll. |
|
(Darllenwr) Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? |
|
|
|
(Darllenwr) Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? |
(2, 9) 1425 |
... fel yr annoeth. |
|
(Ysbryd y Bardd) Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys... |
|
|
|
(Ysbryd y Bardd) Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys... |
(2, 9) 1427 |
... gwagedd... |
|
(Ysbryd y Bardd) ... a gorthrymder ysbryd... |
|
|
|
(Llais Ifan-John.) Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur. |
(2, 9) 1432 |
Ifan-John! |