Estron

Cue-sheet for Leia

(Alun) %1Dyn.
 
(0, 2) 43 Mae'r byd – y ddaear – yn bodoli o fewn cysawd yr haul – un o biliynau o systemau solar sydd yn bodoli yng ngalaeth y Milky Way – sydd yn un o biliynau o galaxies sydd yn bodoli o fewn ein bydysawd.
(0, 2) 44 ~
(0, 2) 45 Mae'r tebygolrwydd o fywyd yn y bydysawd hwn yn finiscwl.
(0, 2) 46 ~
(0, 2) 47 Ni ddylai bywyd fodoli.
(0, 2) 48 ~
(0, 2) 49 Er bod bron dim siawns ystadegol o unrhyw fywyd yma o gwbl, mae'r bydysawd yn llawn bywyd.
(0, 2) 50 Bywyd yn ffynnu ar ddaear y solar system hon, ac ar blanedau eraill ar hyd y biliynau o solar systems o fewn y biliynau o galaxies yn ein bydysawd.
(0, 2) 51 ~
(0, 2) 52 Mae'r bydysawd yn fyw, a phob un darn o fywyd yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth.
(0, 2) 53 ~
(0, 2) 54 Pob un bod dynol.
(Alun) {Yn siarad i'r tun o 'Quality Street'.}
 
(0, 7) 829 Datganiad...
(0, 7) 830 ~
(0, 7) 831 Ar y blaned hon, mae'r tebygolrwydd o fywyd dynol yn agos at ddim.
(0, 7) 832 ~
(0, 7) 833 Mae'r tebygolrwydd bod dyn a menyw yn cwrdd, yn teimlo atyniad, yn aros gyda'i gilydd ac yn penderfynu ceisio am blentyn yn un mewn pedwar deg miliwn.
(0, 7) 834 ~
(0, 7) 835 O ganlyniad, mae'r tebygolrwydd bod un o wyau'r fenyw yn dod i gysylltiad gydag un o sbermau'r dyn yn un mewn pedwar can cwadriliwn.
(0, 7) 836 ~
(0, 7) 837 Mae tebygolrwydd bywyd y dyn a'r fenyw yn dibynnu ar bob un o'r cenedlaethau cynt yn atgenhedlu ac yn cael plentyn hefyd – can pum deg mil o genedlaethau o'u blaenau, ac un wy yn dod i gysylltiad gydag un sberm bob tro nes iddyn nhw greu ein menyw a'n dyn ni.
(0, 7) 838 ~
(0, 7) 839 Mae'r tebygolrwydd o fodolaeth, felly, i bob person ar y ddaear heddiw yn un mewn deg i'r pŵer o ddwy filiwn, chwe chant ac wythdeg pum mil.
(0, 7) 840 ~
(0, 7) 841 Sydd, mewn termau cyffredinol, yn zero.
(0, 7) 842 ~
(0, 7) 843 A dyw hynny'n ddim o'i gymharu â thebygolrwydd y blaned ei hun o gynnal bywyd yn y lle cyntaf dros bedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl.
(Alun) %1Ni ddylai bywyd fodoli.
 
(Alun) %1Ni ddylai bywyd fodoli.
(0, 7) 845 Mae bywyd yn wyrthiol.
(0, 7) 846 ~
(0, 7) 847 Yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth.
(Alun) Mae'r posibilrwydd o fywyd yn eithafol o fach.
 
(Alun) Wyt ti yna, Leia?
(0, 9) 1124 Rydw i yma, Alun.
(Alun) Mae gen ti farc arnot ti.
 
(Alun) Dent bach.
(0, 10) 1133 Ymhle?
(Alun) Fan hyn.
 
(Alun) Fan hyn.
(0, 10) 1135 O ganlyniad i'r ergyd.
(Alun) Ie?
 
(Alun) Ie?
(0, 10) 1137 Yr ergyd wrth lanio.
(Alun) Wyt ti'n ei deimlo?
 
(Alun) Wyt ti'n ei deimlo?
(0, 10) 1139 Nid yw pod fel hyn yn trosglwyddo teimladau ffisegol.
(Alun) Rwy'n gweld.
 
(Alun) Rwy'n gweld.
(0, 10) 1141 Mae'n ymddangos nad yw'r anaf wedi effeithio ar weithrediad y pod.
(0, 10) 1142 Rydw i'n ddiolchgar i ti am sylwi.
(Alun) Beth am deimladau emosiynol?
 
(Alun) Beth am deimladau emosiynol?
(0, 10) 1144 Ym mha gyd-destun?
(Alun) O ran trosglwyddo teimladau.
 
(Alun) Wyt ti'n gallu teimlo emosiwn?
(0, 10) 1148 Ydw.
(Alun) Pob emosiwn?
 
(Alun) Pob emosiwn?
(0, 10) 1150 O'r chwe emosiwn sylfaenol, rydw i'n medru teimlo pob un ohonynt.
(Alun) Chwech?
 
(Alun) Chwech?
(0, 10) 1152 Mae gan fodau datblygedig y gallu i deimlo emosiynau sydd yn dod dan chwe changen sylfaenol.
(0, 10) 1153 Gellir dosbarthu pob emosiwn posib i'r chwe chategori hyn.
(Alun) Am ffordd o symleiddio teimladau!
 
(Alun) Am ffordd o symleiddio teimladau!
(0, 10) 1155 Ond mae'r canghennau sydd yn deillio o'r chwe emosiwn sylfaenol yn gymhleth tu hwnt.
(0, 10) 1156 Yn ddiddiwedd.
(Alun) Felly sut wyt ti'n gallu teimlo?
 
(Alun) Felly sut wyt ti'n gallu teimlo?
(0, 10) 1158 Sut wyt ti'n gallu teimlo?
(Alun) Mae'n digwydd yn naturiol.
 
(Alun) Mae'n digwydd yn naturiol.
(0, 10) 1160 Dyna yn union sut yr wyf i'n teimlo hefyd, er mai geiriau yw fy unig ffordd i o fynegiant.
(0, 10) 1161 Mae geiriau yn wyddonol, rhesymegol, ffeithiol.
(Alun) Beth am chwerthin?
 
(Alun) Llefen?
(0, 10) 1164 Nid yw gweithredoedd ffisegol yn rhan o'n hunaniaeth.
(Alun) Cwtsh.
 
(Alun) Allwch chi ddim cwtsho?
(0, 10) 1167 Mae fy nghronfa ddata yn egluro mai coflaid yw cwtsh.
(0, 10) 1168 Nid yw cofleidio yn rhan o'n hunaniaeth.
(Alun) Mae cwtsh yn fwy na coflaid.
 
(Alun) Mae'n... mae'n anodd egluro.
(0, 10) 1172 Rydw i eisiau profi cwtsh.
(Alun) Wyt ti?
 
(Alun) Wyt ti?
(0, 10) 1174 Hoffwn deimlo cwtsh os gweli di'n dda.
(Alun) Iawn...
 
(Alun) Iawn...
(0, 10) 1179 Na.
(Alun) Na?
 
(Alun) Na?
(0, 10) 1181 Ni allaf deimlo un o'r emosiynau y soniaist amdanynt.
(Alun) Dim byd?
 
(Alun) Dim byd?
(0, 10) 1183 Mae fy synwyryddion allanol yn darllen gwasgedd a gwres uchel.
(Alun) Sori.
 
(Alun) Sori.
(0, 10) 1185 Pam wyt ti'n ymddiheuro?
(Alun) Roeddwn i eisiau i ti deimlo cwtsh.
 
(Alun) Roeddwn i eisiau i ti deimlo cwtsh.
(0, 10) 1187 Nid yw fy iaith raglenni yn galluogi hynny.
(Alun) Roeddwn i eisiau i ti deimlo'r hyn sydd yn digwydd rhwng dau berson.
 
(Alun) Rhwng pobl ar y blaned yma...
(0, 10) 1190 Rwyt ti eisiau cwtsh gan dy fam.
 
(0, 10) 1192 Mae'r blaned hon yn teimlo ac yn mynegi cariad mewn ffordd arbennig.
(0, 10) 1193 Gwahanol.
(0, 10) 1194 Mae'n brydferth.
(Alun) Wyt ti wedi teimlo cariad?
 
(Alun) Wyt ti wedi teimlo cariad?
(0, 10) 1196 Nid ar lefel ddynol.
(Alun) Mae'n unigryw, felly?
 
(Alun) Mae'n unigryw, felly?
(0, 10) 1198 Ydy.
(0, 10) 1199 Mae'r cariad ar draws y ddaear hon yn eithriadol.
(0, 10) 1200 Y cysylltiad rhwng bodau dynol.
(0, 10) 1201 Perthyn.
(0, 10) 1202 Perthynas.
(0, 10) 1203 Deuthum i'r blaned er mwyn gweld.
(0, 10) 1204 Er mwyn deall beth sydd yma.
(Alun) Ar dy ben dy hun?
 
(Alun) Ar dy ben dy hun?
(0, 10) 1206 Ar ôl colli.
(0, 10) 1207 Er mwyn gwella mewn byd iach.
(Alun) Dyw'r ddaear ddim yn iach.
 
(Alun) Dyw'r ddaear ddim yn iach.
(0, 10) 1209 Mae'n llawn lliw.
(0, 10) 1210 Yn llythrennol ac yn emosiynol.
(0, 10) 1211 Mae'n fyd lle mae emosiwn yn gyrru popeth.
(0, 10) 1212 Mae hi'n fyd sydd yn wirioneddol fyw.
(Alun) Ond mae emosiwn yn gyrru pethau negatif hefyd.
 
(Alun) Dros y boen rydym yn ei deimlo mewn colled.
(0, 10) 1216 Mae'n rhaid dysgu i fyw gyda'r boen.
(0, 10) 1217 Fydd e byth yn diflannu.
(Alun) Sut, Leia?
 
(Alun) Helpa i fi ddeall.
(0, 10) 1220 Does dim i ddeall.
(Alun) Plîs.
 
(Alun) Plîs.
(0, 10) 1222 Mae'n rhan o fywyd.
(0, 10) 1223 Yn y diwedd, mi fyddi di'n gweld... 'Per ardua ad astra'.
(Alun) Lladin?
 
(Alun) Sut mae rhyw hen eiriau mewn Lladin i fod i helpu?
(0, 10) 1226 Cyfieithiad... "Through adversity to the stars."
(Alun) %1'Daeargryn'
 
(0, 15) 1463 O eni'r blaned pedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl, rwyt ti wedi bod yno.
(0, 15) 1464 O'r dechrau.
(0, 15) 1465 Rwyt ti yma.
(0, 15) 1466 Rwyt ti wedi byw'r daith ac wedi goroesi.
(0, 15) 1467 ~
(0, 15) 1468 Rwyt ti wedi dysgu i siarad.
(0, 15) 1469 I ymladd.
(0, 15) 1470 I garu.
(0, 15) 1471 Galaru.
(0, 15) 1472 ~
(0, 15) 1473 Rwyt ti wedi newid.
(0, 15) 1474 Rwyt ti wedi esblygu.
(0, 15) 1475 Fyddi di'n berson gwahanol ar ôl hwn, ac mae hynny'n iawn.
(0, 15) 1476 Mae'n naturiol.
(0, 15) 1477 Rhaid derbyn y newid a symud ymlaen.
(0, 15) 1478 Derbyn y person yr wyt ti nawr gan gofio'r person oedd yno ddoe.
(0, 15) 1479 Peidio anghofio.
(0, 15) 1480 Paid byth ag anghofio.
(0, 15) 1481 Bydd hynny'n aros gyda ti am oes.
(0, 15) 1482 ~
(0, 15) 1483 Y profiadau hyn sydd wedi ein llunio dros miloedd ar filoedd ar filiynau ar biliynau o flynyddoedd.
(0, 15) 1484 Y profiadau hyn fydd yn parhau i dy lunio di yfory...
 
(0, 15) 1486 Ac yfory...
 
(0, 15) 1488 Ac ymlaen i'r sêr.