|  | 
|---|
 
  | 
        Fflat mewn dinas. Soffa, bwrdd coffi, laptop, teledu ac ati.  
    Ar y wal gefn, tafluniad mawr o gynnwys sgrin y laptop: dogfen newydd, wag ar brosesydd geiriau.  
    Nodir: Mae testun mewn ffont 'Courier' yn dynodi geiriau sydd yn ymddangos ar y sgrin pan mae ALUN yn teipio.  
    Mae ALUN yn eistedd mewn tawelwch, yn syllu ar sgrin y laptop. Jîns, crys-t, trainers.  Dyma'r olygfa sydd yn croesawu'r gynulleidfa wrth iddynt gyrraedd ac ymgartrefu yn eu seddau.  
    DAEARGRYN.  
    Diffoddir y goleuadau nes bod dim ar ôl ond yr hyn sydd yn dod o sgrin y laptop.  
    Saib hir.  
    O'r diwedd, mae ALUN yn dechrau teipio.  
 
  |