|
|
|
(Merch Fach) Cont yn gwlitho. 'I freuddwyd e. |
|
|
|
(Mary) A tequila sunrise trw straws bobo bore, i roi hwfrad dda i realiti'r dydd cyn dechre dim. |
(1, 4) 407 |
Ddim er y mwyn i Mami, |
(1, 4) 408 |
Gormod o ffafre wy di ga'l, gormod o help. |
(1, 4) 409 |
Hol fi o Lunden. Helpu fi gico'r arfer. |
(1, 4) 410 |
Fydden'n i'n farw nawr, onibai... |
(1, 4) 411 |
Yn freichie i'n fyw o dwlle. |
(1, 4) 412 |
Rhai diweddar, yn whysu gwa'd tene, |
(1, 4) 413 |
Rhai hen. Dan grofen frwnt o greithie. |
(1, 4) 414 |
Hôl fi wrtho fe. |
(1, 4) 415 |
Dim gwythienne glân ar ôl dan i gron e. |
(1, 4) 416 |
Erbyn chi ddod odd e'n injecto gwyn i lyged. |
(1, 4) 417 |
Rhacsan y bedsit, rhacsan i gorff, rhacsan i ben. |
(1, 4) 418 |
Se'r heroin ddim di'n lladd i, mi fydde fe. |
(1, 4) 419 |
A peth o'r amser o'n i'n edrych mlân at 'ny. |
(1, 4) 420 |
Pidwch breuddwydo Mam. Dim am y dyfodol. |
(1, 4) 421 |
Dim da fi yndo fe. Fydda i ddim ma. |
(1, 4) 422 |
Newch be chi'n neud, breuddwydwch am be chi moyn |
(1, 4) 423 |
Er mwyn rhywbeth a rhywun arall. |
(1, 4) 424 |
Mae'n rhy hwyr i fi nawr, Mami. |
(1, 4) 425 |
Rhy hwyr ers pan es i bant, yn fourteen. |
(1, 4) 426 |
Peder blynedd a bywyd cyfan yn ôl. |
(1, 4) 427 |
A rwbryd pry'ny, âth pob dyfodol ar goll. |
|
(Mary) Pam... pam... dere mlân... |
|
|
|
(Mary) A tithe'r hen fwnc. |
(2, 1) 1047 |
Sai'n meddwl wela i byth mo'r haul yn codi 'to. |
(2, 1) 1048 |
Sai'n meddwl goda i o fan hyn byth 'to. |
(2, 1) 1049 |
Dan y nghefen i'n o'r da whys. |
(2, 1) 1050 |
Trw'r nos fel clwtyn yn ca'l i wasgu'n glwme bach, |
(2, 1) 1051 |
Ma pob ffycin gwely yn ffycin bedd. |
(2, 1) 1052 |
Liverpool yn gwitho ar Hope Street, Llunden yn gwitho ar Brewer Street. |
(2, 1) 1053 |
Wastod yn gwitho ar, byth yn byw yn.... |
(2, 1) 1054 |
Tynnu'r spync mas o'u prics nhw fel ca'l puss i sithu mas o bolleth. Ca'l gwagad. |
(2, 1) 1055 |
Dim pleser. Felse dod yn boendod. Hen ysfa tu fiwn 'u penne a'u coce nhw. |
(2, 1) 1056 |
Tuchan fel ffycin anifeilied. |
(2, 1) 1057 |
Baglu miwn i ddillad, edrych yn grac, yn wyllt, ond byth i fyw yn llygad i. |
(2, 1) 1058 |
A nôl mas i deimlo'n grac wrth y byd, i simro a ffrwtian nes i'r bolleth godi 'to. |
(2, 1) 1059 |
Nes iddyn nhw yfed digon o hen gwrw brwnt i ddod a gwasgu 'u drewdod yn drwn. |
(2, 1) 1060 |
Dros rhyw ferch arall a tasgu stribedi o hen ddolur llidus miwn i gorff menyw ddiarth. |
(2, 1) 1061 |
Hope Street, Lime Street, Brewer Street, Poland Street, Eversholt Street, Berwick Street. |
(2, 1) 1062 |
A popeth wy'n gofio am bob un yn gwmws run ffycin peth. |
(2, 1) 1063 |
Pob un â pafin hir yn arwen at ffau yr anifel gwyllt. |
|
(Scoot) Gyfeillion – diwedd blwyddyn ond dechre'r dyfodol. |
|
|
|
(Mary) Fel hyn Sammy... Fel hyn? |
(2, 2) 1975 |
A ma'r farwolaeth nawr |
(2, 2) 1976 |
Tu fiwn i fi, gwitho'i ffordd trwyddo i, |
(2, 2) 1977 |
O's rhaid i fi weud Mam? |
(2, 2) 1978 |
Yn agosach, wedi gafel nawr, |
(2, 2) 1979 |
Ddim trw goce'r diawled ond trw'r nodwydde. |
(2, 2) 1980 |
Chi yn gwybod Mam, chi yn, |
(2, 2) 1981 |
Yr hunlle chi di bod yn arswydo |
(2, 2) 1982 |
Wedi dod gatre, i llofft Debs fach i glwydo... |
(2, 2) 1983 |
Ma nhw wedi'n lladd i Mami! |