a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1
Merch Fach
Cont yn gwlitho. 'I freuddwyd e.
Llwyddodd e byth i neud. Cont fach yn lleitho.
Byth i neud hynny. Ddim unwaith.
Bastard. Mochyn. Dan fysedd pwy?
Dan bawen pwy?
Dan ewinedd ellyll mewn hunlle.
Dan garn mochyn bawog.
Cont fach yn ffaelu gwlitho.


Mae'r golau yn cryfhau yn raddol...yfyd sŵn y môr.

Merch Fach
Gwddwg twrci. Crib hen dwrci a tagelle hen dwrci.
Crôn llyffant, haen o'r ddafaden wyllt.
Yn tyfu dan gledre'n nwylo i. Yn symud.
Fentra i ddim cysgu. Fentra i ddim gweud.
Fentra i ddim dihuno. Fentra i ddim pido.
Wy isie marw.



Swn gwylanod yn datblygu'n swn numatic dril...ae SCOOT yn ymosod ar ddarn o wal frics gyda'r ebill. Mae e rhywle arall yn y tŷ, lan stârs.

Scoot

Cont twll yffarn. Cer miwn. Bitsh. Cer miwn. Reit te'r ast...



Dyw'r pigyn ar y dril ddim yn tyllu'r wal yn effeithiol. Mae SCOOT, sy'n lladdar o chwys, yn oedi i roi pigyn trymach ar y dril. Mae SCOOT yn gwthio'r ebill unwaith eto fewn i'r twll ym maen y wal.

Scoot

Tria hon am seis te. Bitsh. 'Na ddangos pwy yw'r mishtir. Yntefe'r ast. Yeah. Hasta la vista baby.



Golau i lawr yn raddol wrthi SCOOT fwrw mlaen â'r drilio. Can gan Bjӧrk "Like Someone in Love". Delwedd o BETH yn paratoi ar gyfer ei noson gynta.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2