|
|
|
(Hlin) Y RHAN GYNTAF |
|
|
|
(Garmon) Llefared fy arglwydd Lupus. |
(1, 0) 110 |
Fy nhirion dad, |
(1, 0) 111 |
Diogel yw gennyf i mai Ceidwad y Teulu Santaidd |
(1, 0) 112 |
A ddug y cenhadon hyn tros gors ac afon a diffaith |
(1, 0) 113 |
A thrwy enbydrwydd fforestydd a'r di-feudwy fôr, |
(1, 0) 114 |
A'u glanio yma'n brydlon yng nghanol preladiaid Gâl! |
(1, 0) 115 |
Er mwyn eu gollwng hwy heddiw mewn hedd o'u duwiol ddiofryd |
(1, 0) 116 |
A pheri gogoniant i'w anwylyd, Alban sant. |
(1, 0) 117 |
Atolwg, felly, oedwn ychydig ein bwyd a'n diod, |
(1, 0) 118 |
A gwrando'n gyntaf mewn cariad ar y gwroniaid hyn. |