a1

Buchedd Garmon (1937)

Saunders Lewis

Ⓗ 1937 Saunders Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1

Y RHAN GYNTAF




AUXERRE, 429 A.D.

Illtud
Sursum corda, fy mrawd Paulinus.

Paulinus
Habeo ad Dominum. Nid fy nghalon sy'n drom,
Ond er pan lusgodd Adda ei ddeudroed oediog drwy borth Eden,
Ni bu gan bechadur draed trymach.

Illtud
Dyma ninnau drwy borth Auxerre,
A'r teithio blinderus dros fôr a thros diroedd ar ben.

Paulinus
I Dduw y bo'r diolch;
Mae'r cyrn yn gori ar fy nhraed.

Illtud
Ai gardd yw pob dinas yng Ngâl?
Edrych y llannau hyn, a'r gwinwydd yn dringo'r llethrau
O'r afon hyd at fur y fynachlog,
Dirion gyfannedd Duw.

Paulinus
Nid oes neb ar yr heol, a gweigion yw'r gwinllannoedd.
Ai cysgu mae ciwdod Auxerre dan haul canol dydd?
Neu a oes heddiw ŵyl, neu angladd tywysog,
Neu wledd, a dynnodd y trefwyr i neuadd neu eglwys?

Illtud
Arhoswn. Wele lidiart y clas.

Paulinus
A drws y fynachlog.
Penliniwn. Cusanwn y trothwy a droedia'r saint.

Y Ddau
(pob eilwers)
Ymgrymaf tua'th deml santaidd,
A chlodforaf dy enw.
Arglwydd, hoffais lendid dy drigfan,
A phreswylfa dy ogoniant.

Paulinus
Enaid, dyma derfyn y daith:
Pan glywom y barrau'n symud ar y drws draw,
Bydd tynged gwlad y Brythoniaid yn ein haros ni yma.

Illtud
Ond pam y mae'r llwch yn llonydd a'r heolydd yn ddistaw?
'Rwy'n ofni'r distawrwydd.

Paulinus
Gwrando.


Tair gwaith yn olynol, a phob tro yn uwch na'r tro o'i flaen, clywir llais clir yn canu o bellter: AD MULTOS ANNOS.

Paulinus
Fy mrawd, ar frys: dyro sbonc ar y drws.


ILLTUD yn curo'r drws deirgwaith.

Paulinus
A adweini di'r llais?

Illtud
Clywais gân esgob, sy newydd ei dywys i'w orsedd,
Dair gwaith ar ei ddeulin ger uchel allor Crist
Yn cyfarch y gwŷr a'i cysegrodd.

Paulinus
A'r funud hon rhoir iddo gusan tangnefedd
A'i arwain â halelwia o'r gangell i'r clas.
Bydd yno esgobion Gâl a llond ffair o offeiriaid;
Trefnwyd awr dda inni ddyfod.

Illtud
Mihangel, y santaidd archangel, sy â'i gleddyf tros Gymru.
Dacw sŵn traed yn dyfod at y drws;
Mae'r bar mawr yn symud o'i fodrwy;
Mae'r ddôr yn agor.


Daw Porthor i agor y drws a'i dynnu wedyn ar ei ôl.

Porthor
Dominus vobiscum.

Y Ddau
Et cum spiritu tuo.

Porthor
Croeso i chwi, eneidiau. Pwy ydych chwi?

Paulinus
Dinasyddion Rhufain a chaethion ein Harglwydd Crist.

Porthor
Bendigedig yw'r neb sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd.
O ba wlad y daethoch, wŷr da?

Paulinus
Tros fôr a thiroedd o eithaf yr ymerodraeth,
Cenhadon o wlad y Brythoniaid.

Porthor
Undod yw gwledydd cred.
Cyd-ddinasyddion yw gwerin Crist.
Derbyniwch gusan tangnefedd.

Y Tri
(dan ymgofleidio)
Pax tecum.

Illtud
Gynnau, pan safem yma yn heol amddifad y ddinas,
Clywsom o allor yr eglwys gân un newydd eneiniog
Yn deisyf am hir flynyddoedd i abadau Crist.

Porthor
I Dduw y bo'r clod: heddiw'r bore
Cysegrwyd Lupus offeiriad yn esgob Troyes.
Garmon ein tad a'i cysegrodd.
Daeth yma breladiaid Gâl yn gôr gorseddog,
A'r awron eisteddant i ginio ar lawnt y clas.
Chwithau, westeion, a roddaf i yno i eistedd
Ar ddeheulaw Esgob Auxerre,
Deuwch i'r byrddau. Mae'r cwmni ar hir gythlwng.
Nid oes ond croesi'r hiniog i ymuno â hwy ar y lawnt.


Teifl y drws yn agored. Clywir cwmni mawr yn gorffen gofyn bendith ac ym ymgroesi ynghyd:

ln nomine Patris, et Filii, et Spiritus Sancti.
Amen.

Porthor
Gosteg.



Cenir cloch. Tawelir ar unwaith.

Porthor
Fy arglwydd esgob, f'arglwyddi a'm tadau oll,
Dygaf i chwi westeion o gyrrau pella'r Gristnogaeth,
Myneich o wlad y Brythoniaid a gurodd yn awr ar ein porth.

Garmon
Yr Arglwydd a fo gyda chwi.

Paulinus ac Illtud
A chyda'th ysbryd dithau.

Y Cwmni Oll
Pax vobiscum.

Garmon
Frodyr a phellenigion, mawr yw eich croeso;
Daethoch o wlad nad yw ddieithr nac anenwog
Yng nghronig saint a merthyron. Chwithau, yn wir,
Ar awr o orfoledd y trawsoch; tadau y Ffydd yng Ngâl
Sydd yma i'ch derbyn, a rhoi i chwi ran o'u gwynfyd
A chyfran o'u gwledd. Cans heddiw codasom i'w orsedd
Esgob newydd i'r Ffrainc, tywysog i eglwys Troyes.
Deuwch, eisteddwch gan hynny rhwng f'arglwydd Lupus a minnau,
Bwytewch gyda ni ac yfwch. Ac yna, pan weloch yn dda,
Holaf eich neges a'ch helynt, ac ymddiddanwn dro.

Paulinus
Fy arglwydd a'm tad, taled Duw iti'r pwyth;
Iawn yw i ninnau roi iti hynaws ufudd-dod,
Ond yn y peth hwn a erchaist, erfyniaf faddeuant.

Garmon
Ai dan adduned yr ydych, fy mrodyr?

Paulinus
Llw a dyngasom ar sgrin yng Nghaerlleon ar Ŵysg,
Ar feddrod Alban ferthyr, ein seren fore.

Garmon
Bendigedig fo Duw yn ei ferthyron:
A ellir gwybod y llw?

Paulinus
Llw na phrofem saig na thorri ympryd
Ond unwaith y dydd, ar fara a dŵr, cyn noswylio,
Oni thraddodem i esgobion Gâl
Druenus gri ffyddloniaid Crist yng Nghymru.

Garmon
Llefared fy arglwydd Lupus.

Lupus
Fy nhirion dad,
Diogel yw gennyf i mai Ceidwad y Teulu Santaidd
A ddug y cenhadon hyn tros gors ac afon a diffaith
A thrwy enbydrwydd fforestydd a'r di-feudwy fôr,
A'u glanio yma'n brydlon yng nghanol preladiaid Gâl!
Er mwyn eu gollwng hwy heddiw mewn hedd o'u duwiol ddiofryd
A pheri gogoniant i'w anwylyd, Alban sant.
Atolwg, felly, oedwn ychydig ein bwyd a'n diod,
A gwrando'n gyntaf mewn cariad ar y gwroniaid hyn.

Garmon
Brawdol a duwiol y dywaid esgob Troyes;
Ac ef piau'r wledd; ymgrymwn felly i'w air.
Fy mrodyr, yn enw'r Drindod fendigaid, traethwch eich neges.

Paulinus
Fy arglwydd a'm tadau,
Yr wyf i, Paulinus, yn hen, yn hanner cant oed,
 phan edrychaf o'm blaen, nid i'r byd hwn yr edrychaf,
Byr fydd fy nyddiau yma,
Digon im' yma mwy yw ufuddhau ac aros.
A phan edrychaf yn ôl, yn ofer y llafuriais,
Blin fu fy nyddiau yma,
Ac nid oes a garaf oddieithr atgofion mebyd:
Pedair oed oeddwn i ar fraich fy nhad yng Nghaerlleon
Yn gwylio byddinoedd Macsen Wledig ac Elen, ymerodres Arfon,
Yn rhodio allan o'm dinas,
Allan dan lygaid y ddinas,
Allan ar gerrig Sarn Elen o glyw y ddinas,
A dywedodd fy nhad, dyma'r byd a wyddom yn darfod,
Darfod hir hwyl yr haul,
Darfod sefydlogrwydd,
Darfod y naddu meini i'r tai parhaol,
Darfod di-ddarfod ganrifoedd Rhufain a'i heddwch;
Ac wylodd fy nhad.
Ond atebodd fy mam:
Pan ddarffo heddwch Rhufain fe saif tangnefedd ein Harglwydd;
Offrwm beunyddiol offeiriaid Crist yw meini saernïaeth ein dinas,
A chredo ddisyflyd yr Eglwys balmanta undod gwareiddiad.
Gwir fu ei gair. Canys wedyn,
Wedi cilio o'r canwriaid a'r llengoedd a baneri'r eryr,
A'n gado'n weiniaid i gadw'r ffin,
A'r barbariaid yn tynnu'n nes dros y tir,
A'r Sgotiaid yn hyach o hyd dros y môr,
Wele, er hynny, y pryd y blagurodd dysg a dwyfoldeb
Fel gwanwyn hwyr yn ein gwlad.
Atom yn gyson, i Ddyfed a Gwent a Morgannwg,
Y ffoes ac y ffy athrawon gramadeg a dysgodron y gyfraith
O barthau'r goresgynwyr ac o'r dinasoedd llosg,
Ac megis blodau'r pren ceirios yw'n llannau a'n hysgolion,
A brwd y croesewir gan Emrys, Gwledig Caerlleon a'r Deau,
Etifeddion huodledd Quintilianus a Fferyll
A duwiol ddilynwyr Sierôm o Fethlehem.

Garmon
Bendigedig fo Duw yn ei feudwyaid a'i saint.

Y Cwmni Oll
(ar siant)
Laudate Dominum, omnes gentes,
Laudate eum, omnes populi.

Paulinus
Wylwch, fy nhadau, wylwch.
Troes ein golau yn dwyll.
Un ohonom ni, mynach o'r clas ym Mangor,
Thuser dysgeidiaeth,
Y tafod aur,
Treisiwr y nefoedd
A'i ympryd a'i einioes yn un,
Hwnnw, Pelagius y Brython, a beryglodd undod cred.

Garmon
Adwaenwn ef, Paulinus,
Meistr y gloyw ymadrodd.
Na thybiwch, fy mrodyr, i'r enaid crwca erioed
Lithio'r ffyddloniaid. Gwŷr mawr,
Heuliau'n pelydru grym, a greodd yr heresïau;
Rhyfeddwn ddwyfoldeb athrylith, a gweddïwn dros yr enaid.

Paulinus
Gweddiwch hefyd, fy arglwydd, dros gyfyngder fy ngwlad.
Tra na bo ond rhuthr y barbariaid o barthau'r rhew a'r dwyrain
Yn cau arnom ni a chwithau a'r Rhufeiniaid oll,
Gallwn, â chalon ddur, amddiffyn ein hetifeddiaeth;
Canys Crist yw ein Rhufain mwy, ac Ef biau dysg y Groegiaid,
Ac undod yr Ysbryd Glân yn ei Eglwys fydd sail dinasyddiaeth cred.
Ond pallodd ein dewredd a'n pwyll;
Daeth atom ddysgawdwr,
Glân ei fuchedd a nerthol o air,
Disgybl Pelagius, Agricola,
A denodd, o'n myneich ac o deulu'r Ffydd, dorf ar ei ôl.
Pa gwrs a gymerem, fy mrodyr?
Nid rhydd yw i ni ddadwreiddio'r efrau o'r cae.
A rwygwn ni unwe'r Eglwys yng ngŵydd y paganiaid,
Neu ddatod rhwyd y Pysgotwr cyn cyrraedd glan?
Na ato Duw;
Ymbil mewn amynedd sy'n gweddu'n well.
Ond unpeth, nis medrwn chwaith─
Gweld nodd y Winwydden,
Y Wir Winwydden sy â'i cheinciau drwy wledydd cred,
A'r nodd sy'n undod ei cheinciau,
Y nodd sy'n sug y grawnsypiau,
Ei weld yn diffygio, a diffrwytho cainc y Brythoniaid,
A gwywo o gainc y Brythoniaid,
A'r gangen yn pydru o'r pren.

Yn fab, fy mrodyr, mi wylais fod Rhufain fy nhadau
Yn bradwyo, a'i braich yn byrhau;
Ond Rhufain newydd, ysbrydol, Dinas ein Duw,
Etifedd ei thegwch a'i dysg,
A welais yn llamu o'i llwch;
Ac iddi gwrogodd fy ngwlad,
Ynddi mae iechyd fy ngwlad,
Yn undod un ffydd, un bedydd, un offrwm, un Arglwydd.
A welaf i yn fy mhenwynni ein deol o hon?

Y Cwmni Oll
Na ato Duw.

Paulinus
Am hynny, fy nhadau,
Yn eisteddfod abadau fy ngwlad,
'Nôl ympryd a phenyd ac offeren a chymuno ynghyd
Dewiswyd Illtud a minnau i erchi i grefyddwyr Gâl:
Deuwch drosodd i'n cymorth,
Gyrrwch inni esgob i gyhoeddi i'n gwerin y ffydd a ddaliasom erioed,
Fel na bo na sect nac ymraniad yng ngwlad y Brythoniaid,
Eithr pawb o'r ffordd hon,
Yn cerdded wrth yr un rheol, yn synio'r un peth.
Wele, traddodais i chwi apêl fy mhobl;
A'r awron, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd,
Yn ôl dy air.

Illtud
I Dduw y bo'r diolch.

Pawb
Amen.

Garmon
O Paulinus,
Dduwiol weinidog y ffydd a ffyddlon wlatgarwr,
Llosgai'n calonnau ynom tra lleferaist.
Nid ofer y teithiasoch, fy mrodyr, yma.
A lanwodd y newynog â phethau da,
Cennad ei wlad a'i eglwys ni ad yn waglaw.
Teulu yw gwledydd y ffydd,
Dinas a gydgysylltiwyd ynddi ei hun,
Ac er eich mwyn, fy nghyfeillion, dywedaf yn awr,
Heddwch a fyddo i chwi,
Ac er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, ceisiaf i chwi ddaioni.
Ond y mae yma'r awron
Yn gwrando'ch llith
Un na chrwydrodd ei galon
Erioed o'ch plith:
Padrig, garcharor Iwerddon,
Rho groeso i'th gyd-Frython.

Padrig
Fy arglwydd a'm tad,
Gwir yw y gair ac nis gwadaf─
Yn alltud a digysylltiad
Yr af ar y ddaear hon
Nes dychwelyd i dud fy nghaethglud
A'm hurddo yn rhwymau Iwerddon.
A heddiw llaw angel a welaf
Yn tywys y rhain dy westeion
I'n clas ac i'n côr:
A thithau a Lupus y bugail
Yn gryf o'r cysegru hwn
A ddenir i wlad y Brythoniaid
I'w gwisgo â tharian y ffydd ac â chleddyf yr Ysbryd
Ac i amgylchwregysu ei lwynau hi â gwirionedd
Fel y safo yn y dydd drwg,
Yn nydd y di-ffydd a diffoddwyr gwareiddiad.
Minnau, fy arglwydd, a ddof yn was gweini i chwi,
Ac wedi heddychu fy ngwlad,
Yna, yn Nyfed fwyn, yr olaf tro,
Ffarwelio â'r pridd a garaf
A'th fendith dithau a gaf
l'm bwrw eto i'r môr,
I gyrchu tir fy nghaethiwed
A marw yng ngwlad fy mabwysiad,
Fel mai rhwym y bydd f'enw fyth wrth ynys Iwerddon,
A hithau a Chymru am byth yn rhwym wrth Grist.
Illtud, Paulinus, ymunwch â mi ar ein gliniau:
Doed Garmon i wlad y Brythoniaid.

Paulinus ac Illtud
Garmon i wlad y Brythoniaid.

Pawb
Garmon i wlad y Brythoniaid,
A Chymru i Grist.


Terfyn y Rhan Gyntaf

a1