Yr Arth

Cue-sheet for Lwca

 
(1, 0) 5 Thâl hyn ddim o gwbwl, mistras.
(1, 0) 6 'R ydych chi'n lladd eich hun.
(1, 0) 7 Mae'r forwyn a'r cwc wedi mynd i hel mefus, a phawb yn siriol, hyd yn oed y gath, mi ŵyr hi be di be; dacw hi'n rhodio yn y buarth yn dal adar, a chithe yn eiste' yn y tŷ o fore tan nos, fel taech chi mewn |confent|!
(1, 0) 8 Wedi colli blas ar y byd a bywyd!
(1, 0) 9 Wel, wir, pan gysidra i, fuoch chi ddim allan o'r tŷ ers blwyddyn agos iawn.
(Popofa) 'Ta i byth allan ohono fo, be di'r iws?
 
(Popofa) 'R ydan ni wedi marw ein dau, y naill fel y llall.
(1, 0) 14 Rŵan, rŵan, mi fyddai'n well gin i beidio clywed geiriau fel'na.
(1, 0) 15 Mae Nicolai Michaelofits wedi marw, debyg iawn, dyna ewyllys yr Arglwydd, nefoedd i'w enaid o!
(1, 0) 16 'R ydych chithau wedi galaru ar ei ôl, wrth gwrs; ond cofiwch yr hen air "Nid da rhy o ddim".
(1, 0) 17 Ddylai neb grio a gwisgo du yn dragywydd.
(1, 0) 18 Mi gladdais innau'r hen ddynas yn fy nydd, hefyd.
(1, 0) 19 Ond beth am hynny?
(1, 0) 20 Mi fuom i'n crio am fìs cyfa' a dyna ddigon iddi hi.
(1, 0) 21 'Tawn i'n dal i swnian hyd fy medd, be fyddai'r iws?
(1, 0) 22 'D oedd yr hen gryduras ddim yn werth hynny.
 
(1, 0) 24 Dyna chi wedi anghofio'ch cymdogion i gyd.
(1, 0) 25 'Fyddwch chi byth yn mynd allan, a cheith neb ddŵad i'r tŷ.
(1, 0) 26 Ac mae'r lle'n llawn dop dyn o fyddigions.
(1, 0) 27 Dyna'r |regiment| yn Rublofa, a'r |officers|, rel nobs, mae'n iechyd calon edrach arnyn nhw.
(1, 0) 28 A |ball| yn y camp bob dydd Gwener, a'r |bands| yn canu bob dydd dros ein pennau ni.
(1, 0) 29 O mistras bach, 'r ydych chi'n ifanc ac yn glws fel pictiwr, mae'n hen bryd i chi ddechrau byw a chael tipyn o hwyl.
(1, 0) 30 'D ydi pryd a gwedd ddim yn para am byth.
(1, 0) 31 Ymhen deng mlynedd mi fydd arnoch chithau isio sgwario o flaen yr |officers|, ond mi fydd yn rhy hwyr.
(Popofa) {Yn benderfynol}
 
(Popofa) Er ei fod tu draw i'r bedd mi geith weld y medra i garu fel yr o'n yn ei garu cyn iddo farw.
(1, 0) 39 Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau.
(Popofa) Ow, ow!
 
(Popofa) Ow, ow!
(1, 0) 43 Mistras bach, be sy'n bod?
(1, 0) 44 Nefoedd fawr!
(Popofa) 'R oedd o mor ffond o Tobi!
 
(Popofa) Rhowch ffiolad o geirch dros ben iddo heddiw.
(1, 0) 51 O'r gora, mym.
(Popofa) {Yn neidio'n gyffrous.}
 
(Popofa) Deudwch na fedra i weld neb!
(1, 0) 56 Gna, mym.
 
(1, 0) 64 Mistras, mae'na rywun yna isio'ch gweld chi.
(Popofa) Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr?
 
(Popofa) Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr?
(1, 0) 66 Do, mi ddeudais hynny, ond chymith o mo'i apad.
(1, 0) 67 Mae o'n deud fod gynno fo neges bwysig!
(Popofa) Cheith neb fy |ngweld i|!
 
(Popofa) Cheith neb fy |ngweld i|!
(1, 0) 69 Dyna ddeudais i, ond mae o fel y coblyn ei hun... yn rhegi fel cath ac yn gwthio ei hun i mewn ar draws popeth, mae o yn y dining-room.
(Popofa) {Yn bigog.}
 
(Smirnoff) Hei, rhywun!
(1, 0) 143 Be sy'n bod?
(Smirnoff) Llymad o ddŵr neu ddiod fain?
 
(Smirnoff) Rhaid i mi ddim ond cael cip olwg yn y pellter ar ryw anwylyd barddonol fel honna, a dyma bob gefyn yn fy nghorff i'n gryndod i gyd, a minnau bron yn gweiddi "Help, help!"
(1, 0) 155 Mae mistras yn wael, fedr hi weld neb.
(Smirnoff) Dos i ffwrdd!
 
(1, 0) 180 Wel?
(Smirnoff) Glasiad o frandi i mi!
 
(1, 0) 189 Yr ydych yn mentro yn arw, syr.
(Smirnoff) Be?
 
(Smirnoff) {Yn ddig ei lais.}
(1, 0) 192 Dim byd... d o'n i ddim ond yn...
(Smirnoff) Wrth bwy 'r wyt ti'n siarad?
 
(1, 0) 196 Y gŵr drwg ei hun ddoth â hwn yma i'n poeni.
 
(1, 0) 312 Syr, byddwch cystal â mynd allan, gan eu bod nhw'n gofyn i chi.
(1, 0) 313 Waeth i chi heb ag aros yma i...
(Smirnoff) {Yn neidio î fyny.}
 
(1, 0) 319 Seintiau glân wrth yr orsedd fry!
 
(1, 0) 321 O, 'r ydw i'n sâl!
(1, 0) 322 Fedra i ddim cael fy ngwynt.
(Popofa) Lle mae Dasia?
 
(Popofa) {Yn canu'r gloch.}
(1, 0) 327 Och, mae nhw i gyd wedi mynd i hel mefus!...
(1, 0) 328 Neb yn y tŷ!...
(1, 0) 329 'R ydw i mor sâl!...
(1, 0) 330 Dŵr!
(Popofa) Byddwch cystal â mynd i ffwrdd.
 
(Smirnoff) Hy! Dyma fi'n rhoi sialens i chi.
(1, 0) 345 Seintiau glân wrth yr orsedd fry!
(1, 0) 346 Dŵr!
(Smirnoff) Ie, i saethu'n gilydd.
 
(Smirnoff) Nid rhyw gorgi meddal ydw i; i mi 'd oes mo'r fath beth â merched gweiniaid.
(1, 0) 369 Annwyl barchedig syr!
 
(1, 0) 371 Byddwch drugarog, byddwch dosturiol wrth hen ŵr fel fi.
(1, 0) 372 Ewch i ffwrdd.
(1, 0) 373 Wedi fy nychryn hyd angau, dyma chi rŵan yn mynd i saethu.
(Smirnoff) {Heb wrando arno}
 
(Smirnoff) Ar fy ngwir, weles i rioed y fath wraig o'r blaen.
(1, 0) 384 Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd; cewch ran yn fy ngweddïau tra byddwyf byw.
(Smirnoff) Dyna chi wraig wrth fodd fy nghalon i, gwraig go iawn, dim lol o'i chwmpas hi, dim o'ch llymru merchetaidd chi.
 
(1, 0) 390 Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd!
(Smirnoff) 'R wy'n dechrau licio hon, ydw, tawn i'n marw.
 
(Popofa) Fu 'na rioed bistol yn fy llaw i.
(1, 0) 399 Arglwydd annwyl, gwared ni a bydd drugarog!
(1, 0) 400 Mi â i nôl y gardner a'r coitsman.
(1, 0) 401 Beth yn y byd mawr ddaeth â'r fath bla ar ein pennau ni?
 
(1, 0) 517 Seintiau glân!