Drama un-act

Yr Arth (1964)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
cyf. Thomas Hudson-Williams

Ⓗ 1964 Thomas Hudson-Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



GOLYGFA: Y parlwr gorau yn nhŷ Popofa yn y wlad.

Pan gyfyd y llen gwelir POPOFA wedi ei gwisgo mewn du, a'i llygad yn wastad ar ddarlun. Hefyd Lwca yn ymyl.

Lwca

Thâl hyn ddim o gwbwl, mistras. 'R ydych chi'n lladd eich hun. Mae'r forwyn a'r cwc wedi mynd i hel mefus, a phawb yn siriol, hyd yn oed y gath, mi ŵyr hi be di be; dacw hi'n rhodio yn y buarth yn dal adar, a chithe yn eiste' yn y tŷ o fore tan nos, fel taech chi mewn confent! Wedi colli blas ar y byd a bywyd! Wel, wir, pan gysidra i, fuoch chi ddim allan o'r tŷ ers blwyddyn agos iawn.

Popofa

'Ta i byth allan ohono fo, be di'r iws? Mae 'mywyd i wedi darfod. Mae o yn y bedd, a finnau wedi nghladdu rhwng muriau'r tŷ ma. 'R ydan ni wedi marw ein dau, y naill fel y llall.

Lwca

Rŵan, rŵan, mi fyddai'n well gin i beidio clywed geiriau fel'na. Mae Nicolai Michaelofits wedi marw, debyg iawn, dyna ewyllys yr Arglwydd, nefoedd i'w enaid o! 'R ydych chithau wedi galaru ar ei ôl, wrth gwrs; ond cofiwch yr hen air "Nid da rhy o ddim". Ddylai neb grio a gwisgo du yn dragywydd. Mi gladdais innau'r hen ddynas yn fy nydd, hefyd. Ond beth am hynny? Mi fuom i'n crio am fìs cyfa' a dyna ddigon iddi hi. 'Tawn i'n dal i swnian hyd fy medd, be fyddai'r iws? 'D oedd yr hen gryduras ddim yn werth hynny. (Yn ochneidio.) Dyna chi wedi anghofio'ch cymdogion i gyd. 'Fyddwch chi byth yn mynd allan, a cheith neb ddŵad i'r tŷ. Ac mae'r lle'n llawn dop dyn o fyddigions. Dyna'r regiment yn Rublofa, a'r officers, rel nobs, mae'n iechyd calon edrach arnyn nhw. A ball yn y camp bob dydd Gwener, a'r bands yn canu bob dydd dros ein pennau ni. O mistras bach, 'r ydych chi'n ifanc ac yn glws fel pictiwr, mae'n hen bryd i chi ddechrau byw a chael tipyn o hwyl. 'D ydi pryd a gwedd ddim yn para am byth. Ymhen deng mlynedd mi fydd arnoch chithau isio sgwario o flaen yr officers, ond mi fydd yn rhy hwyr.

Popofa

(Yn benderfynol) Peidiwch byth â gadael imi glywed geiriau fel yna eto. Mae bywyd wedi colli ei holl werth imi wedi imi golli Nicolai Michaelofìts; 'r wy'n edrych fel pe tawn i'n fyw, ond tydw i ddim, dim o'r fath beth! 'R w i wedi cymyd fy llw i wisgo du hyd fy medd ac i beidio byth â mynd allan i'r byd eto, glywch chi? Bydded i'w gysgod yn y byd arall weld fel 'r ydw i yn ei garu o. Wrth gwrs, mi wn i'n ddigon da, ac mi wyddoch chithau hefyd, fydda fo ddim yn fy nhrin i'n deg bob amser, chwaith, ac mi fyddai weithiau'n ddigon ciaidd hefyd, ac yn anffyddlon imi o dro i dro; ond mi fydda i yn ffyddlon iddo fo hyd fy medd, iddo gael gweld sut y medra i garu. Er ei fod tu draw i'r bedd mi geith weld y medra i garu fel yr o'n yn ei garu cyn iddo farw.

Lwca

Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau.

Popofa

Ow, ow! (Yn wylo.) Ow, ow!

Lwca

Mistras bach, be sy'n bod? Nefoedd fawr!

Popofa

'R oedd o mor ffond o Tobi! Hefo fo y byddai fo yn mynd i weld y Cortsiagins a'r Flasoffs. Ac mi fyddai'n dreifio mor ddel, a'i law yn dal y reins fel angel o'r nefoedd! Ydach chi'n cofio? Tobi annwyl! Rhowch ffiolad o geirch dros ben iddo heddiw.

Lwca

O'r gora, mym.



(Sŵn y gloch yn canu.)

Popofa

(Yn neidio'n gyffrous.) Pwy sy' na? Deudwch na fedra i weld neb!

Lwca

Gna, mym. (Â allan.)

Popofa

(Ar ei phen eì hun, yn edrych ar y llun.) 'R wyt ti'n gweld, Nicolai, fel y galla'i garu a maddau. (Yn chwerthin trwy ei dagrau.) Ond amdanat ti, oes arnat ti ddim cwilydd, fy mhwt clws i? Fy nhwyllo i, cadw reiat yn y tŷ, a'm gadael i ar ben fy hun am wythnosau!

Lwca

(Yn dyfod i mewn yn ffwdanus.) Mistras, mae'na rywun yna isio'ch gweld chi.

Popofa

Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr?

Lwca

Do, mi ddeudais hynny, ond chymith o mo'i apad. Mae o'n deud fod gynno fo neges bwysig!

Popofa

Cheith neb fy ngweld i!

Lwca

Dyna ddeudais i, ond mae o fel y coblyn ei hun... yn rhegi fel cath ac yn gwthio ei hun i mewn ar draws popeth, mae o yn y dining-room.

Popofa

(Yn bigog.) O'r gorau, o'r gorau, gadwch iddo ddŵad yma... y creadur difanars! (Â Lwca allan.) Ond tydi pobol yn ddiflas?

Smirnoff

(Ar y ffordd i mewn, wrth Lwca.) Y lob! 'R wyt ti'n dafod i gyd! Y llo dwl! (Yn gweld POPOFA, yn llawn rhodres.) Madam, mae'n anrhydedd gennyf fy nghyflwyno fy hun i chi: y tirfeddiannwr Grigori Stepanofits Smirnoff, gynt yn lieutenant yn yr artileri! Mae'n rhaid imi aflonyddu arnoch â neges bwysig iawn.

Popofa

(Heb estyn eì llaw iddo.) Be fynnwch chi?

Smirnoff

Aeth eich diweddar ŵr... yr oedd yn anrhydedd gennyf ei adnabod... o'r byd yma, heb dalu ei ddyled imi, chwech igian o bunnoedd. Rhaid imi dalu llog i'r banc yfory, ac felly, Madam, rhaid imi gael yr arian gynnoch chi heddiw.

Popofa

Chwech igian! Ond sut y gallai 'ngŵr i fod mewn cymint o ddyled i chi?

Smirnoff

Mi werthais i geirch iddo fo.

Popofa

(Wrth Lwca.) Lwca, peidiwch ag anghofio rhoi mwy o geirch nag arfer i Tobi! (Â Lwca allan.) Os oedd ar Nicolai Michaelofits arian i chi, mi cewch nhw, wrth gwrs. Ond maddeuwch imi, 'd oes gin i ddim arian parod heddiw. Mi ddaw fy stiward yn ôl o'r dre, drennydd. Mi ddeuda i wrtho fo am dalu'r hyn sydd ddyledus, ond hyd hynny, fedra i neud dim ichi. A pheth arall i chi, bu fy ngŵr farw saith mis i heddiw ac yr wyf i wedi cynhyrfu cymint, 'd ydw i ddim mewn tymer i drin arian heddiw.

Smirnoff

'D ydw innau ddim mewn tymer i aros, ac os na thala i'r llog yfory, mi fydd raid imi saethu fy hun, a dyna ben ar bopeth. Mi werthir fy holl eiddo hefyd.

Popofa

Mi gewch eich arian drennydd.

Smirnoff

Rhaid imi eu cael nhw heddiw, nid drennydd.

Popofa

Mae'n ddrwg gin i, ond fedra i ddim talu i chi heddiw.

Smirnoff

Fedra innau ddim aros tan drennydd.

Popofa

Ond 'd oes dim help amdani, 'd oes gin i mo'r arian.

Smirnoff

Thalwch chi ddim felly?

Popofa

Fedra i ddim.

Smirnoff

M...m...m! A dyna'ch gair ola' chi?

Popofa

Ie, 'ngair ola' i.

Smirnoff

Y gair ola' mewn difri?

Popofa

Mewn difri.

Smirnoff

Diolch yn fawr i chi. Mi roi'r peth ar bapur. (Cyfyd ei ysgwyddau.) A phobol yn disgwyl i mi beidio colli 'nhymer! Mi welais i ddyn-y-trethi ar fy ffordd yma a dyma a ddeudodd o: "Pam 'r ydych chi bob amser wedi gwylltio, Grigori Stepanofits?" Ond sut medra i beidio gwylltio os gwelwch chi'n dda? Mae arna i eisiau arian yn ofnadwy. Ond 'd ydych chi ddim mewn tymer! Sut y medra i beidio gwylltio?

Popofa

Mi rois i ateb ddigon plaen i chi; pan ddaw'r stiward yn ôl o'r dre, mi gewch yr arian.

Smirnoff

Ond atoch chi y dois i, nid at y stiward. Be gebyst, maddeuwch imi am arfer y fath air, be gebyst sydd a nelof i â'ch stiward chi?

Popofa

Esgusodwch fi, syr, 'd ydw i ddim yn arfer clywed y fath iaith, a'r fath dôn. Wna i ddim gwrando arnoch chi chwaith.



 allan yn gyflym. Ceir Smirnoff yn siarad â'i hunan).

Smirnoff

Glywoch chi rytsiwn beth erioed? "Ddim mewn tymer", os gwelwch chi'n dda! Y gŵr wedi marw saith mis yn ôl! Oes rhaid i mi dalu'r llog ai peidio?... 'R wy'n gofyn i chi, oes rhaid i mi dalu'r llog ai peidio? Mae'ch gŵr wedi marw, O, ydi, debyg iawn, a chithau heb fod mewn tymer, a'ch hen stumiau a'ch hen gastiau o bob math, a'ch stiward wedi mynd rywle, a'i gipio fo. Ond be 'dach chi'n ddisgwyl i mi wneud? Hen frechdan o ddyn ydw i, hen ffwlcyn, ie, hen, hen, wreigan hanner pen! 'R wy wedi bod yn rhy neis tuag at fy nyledwyr... Aros yn wir! 'Dwaenoch chi monofi. A'ch cipio chi... chewch chi ddim hel lol hefo fi. Mi rhosa i yma nes talith hi. R-r-r-r! Mi ydw i'n ddig heddiw, yn crynu bob mymryn, ac yn methu cael fy ngwynt, ac yn teimlo'n bur sâl. (Yn bloeddio.) Hei, rhywun!

Lwca

Be sy'n bod?

Smirnoff

Llymad o ddŵr neu ddiod fain? (Â Lwca allan.) 'D oes dim synnwyr mewn peth fel hyn. Dyn yn torri ar ei draws isio arian, ar fin crogi ei hun a hithau yn gwrthod talu, am nad ydi hi mewn tymer, welwch chi, i drin arian heddiw. Dyna i chi synnwyr y bais! Dyna pam na fûm i erioed yn caru merch, a fynna i ddim siarad â'r un ohonyn nhw chwaith. Mi fuasai'n well gin i iste' ar gasgiad o bowdwr-gwn na siarad â merch. R-r-r-r! Mae ngwaed i wedi fferu ar ôl clywed yr hen fadam na'n bwrw drwyddi. Rhaid i mi ddim ond cael cip olwg yn y pellter ar ryw anwylyd barddonol fel honna, a dyma bob gefyn yn fy nghorff i'n gryndod i gyd, a minnau bron yn gweiddi "Help, help!"



(Daw Lwca â dŵr i mewn.)

Lwca

Mae mistras yn wael, fedr hi weld neb.

Smirnoff

Dos i ffwrdd!



(Â Lwca allan.)

Smirnoff

Yn wael! Fedr hi weld neb! Peidied hi ta. Mi rhosa i yma, mi stedda i yma nes y daw hi â'r arian imi. Os byddi di'n wael am wythnos, mi stedda innau yma am wythnos; os byddi di'n wael am flwyddyn, mi stedda innau am flwyddyn. Mi fydda i yn drech na ch'di, 'r hen chwaer. Ddali di monof fi â'th ffrog ddu a'r pantiau bach ar dy wyneb di; mi 'dwy'n rhy gyfarwydd â phantiau bach neis. (Yn bloeddio irwy'r ffenestr.) Simon, tyn y ceffylau o'r cerbyd, 'd awn ni ddim i ffwrdd am dipyn. Cofia ddeud wrthyn' nhw yn y stabal am roi ceirch i'r ceffylau. Dyna ti eto, y mynci mul, wedi gadael i'r ceffyl ôl faglu yn y rens. (Yn dynwared y gwas.) "Popeth yn iawn, syr", wir! Mi ro i "bopeth yn iawn" i ti. (Â oddi wrth y ffenestr.) Ych, ffiadd, gwres annioddefol, neb am dalu, noson ddrwg neithiwr, a'r hen ffrog ddu na heb fod mewn tymer... Mae cur yn fy mhen i. Beth am dropyn o frandi? Eitha' peth yn wir. (Yn bloeddio.) Hei!

Lwca

(Yn dyfod i mewn) Wel?

Smirnoff

Glasiad o frandi i mi!



(Â Lwca allan.)

Smirnoff

Ych! (yn eistedd ac yn edrych o'i gwmpas.) Mae golwg neis arna i, rhaid i mi ddeud, yn llwch i gyd, fy sgidia'n faw i gyd, heb 'molchi, heb gribo 'ngwallt, a gwellt ar fy ngwasgod i... Mae arna' i ofn fod y ledi yn fy ngweld yn debyg i leidr pen ffordd. Wir, ddylai neb ymddangos fel hyn mewn drawing-room, ond waeth befo, cheis i mo ngwadd yma, gall y sawl fo'n hel dyledion wisgo fel y myn; creditor ydw i, a 'd oes na ddim regulation dress i greditor.

Lwca

(Yn dyfod â brandi i mewn) Yr ydych yn mentro yn arw, syr.

Smirnoff

Be? (Yn ddig ei lais.)

Lwca

Dim byd... d o'n i ddim ond yn...

Smirnoff

Wrth bwy 'r wyt ti'n siarad? Taw!

Lwca

(Yn ddistaw) Y gŵr drwg ei hun ddoth â hwn yma i'n poeni. (Â Lwca allan.)

Smirnoff

O, mi 'dw i'n ddig, mi leiciwn falu'r byd i gyd yn bowdwr mân.



(Daw Popofa i mewn heb godi eì golwg.)

Popofa

Syr, yn f'unigrwydd nid wyf wedi arfer clywed llais neb, a fedra i ddim diodde clywed neb yn gweiddi. 'R wyf yn erfyn arnoch adael llonydd i mi.

Smirnoff

Talwch i mi, mi af innau i ffwrdd.

Popofa

Mi ddeudais i heb flew ar fy nhafod nad oes gin i ddim arian parod rŵan, ond cewch nhw drennydd.

Smirnoff

Mi gefais innau yr anrhydedd o ddeud wrthoch chithau heb flew ar fy nhafod fod arna' i isio arian heddiw, nid drennydd. Os na thalwch i mi heddiw, mi groga i fy hun yfory.

Popofa

Ond be fedra i wneud, os nad oes gin i arian? Rhyfedd, yntê?

Smirnoff

Thalwch chi ddim heddiw felly?

Popofa

Fedra i ddim.

Smirnoff

Felly, mi rhosa i yma nes y caf yr arian. (Yn eistedd.) Drennydd, ai e? Campus. Mi rhosa innau tan drennydd. Mi stedda i yma fel hyn. (Yn neidio i fyny.) Dyma fi'n gofyn i chi, oes rhaid i mi dalu'r llog yfory ai peidio? Ydach chi yn meddwl mai smalio yr ydw i?

Popofa

Syr, peidiwch â gweiddi. Nid stabal ydi'r tŷ ma.

Smirnoff

Nid am stabal 'r ydw i'n sôn ond gofyn a oes rhaid imi dalu'r llog yfory ai peidio.

Popofa

Wyddoch chi ddim sut i ymddwyn o flaen merched.

Smirnoff

Celwydd. Mi wn i'r dim sut i ymddwyn o flaen merched.

Popofa

Na, wyddoch chi ddim. Dyn coman ydach chi, chawsoch chi ddim addysg, wyddoch chi ddim be di be. Fydd neb neis yn siarad fel yna o flaen merched.

Smirnoff

Dyma beth rhyfedd. Sut ydach chi'n disgwyl imi siarad? Siarad Ffrens mae'n debyg. (Yn gwylltio, â cheg fain.) Madam, siy fw pri, mor dda gin i na fedrwch chi ddim talu'r arian i mi, 'r ydach yn fy ngwneud i mor hapus trwy beidio. O, pardon, am eich blino chi, yn tydi hi'n ddiwrnod oI praf heddiw? Mae dillad duon yn dygymod â chi.

Popofa

'D ydach chi ddim yn ddigri o gwbwl, ond yn bur anfoesgar.

Smirnoff

(Yn e dynwared) Ddim yn ddigri ond yn bur anfoesgar! A 'd wn i ddim sut i ymddwyn o flaen merched! Madam, 'r ydw i wedi gweld mwy o ferched nag a welsoch chi erioed o adar to. Mi fûm i mewn duel deirgwaith o achos merched, mi drois i ddwsin o ferched heibio, ac mi gefais ffernol fy hun gan naw. Do, mym, bu adeg pan fedrwn i swancio a sgwario, 'd oedd mêl ar fy nhafod, ac mi fedrwn wneud stumiau hefo fy nghoesau cystal ag unrhyw sgogyn yn y byd. Ond erbyn heddiw, dim perig wir! Mi wn i amgenach pethau. Thwyllwch chi monof i heddiw, 'r ydw i wedi cael digon. Llygaid duon, llygaid nwydus, gwefusau cochion, pantiau bychain clysion yn y foch a'r ên, lloer yn codi, gruddiau'n gwrido, bronnau'n crynu, rown i ddim ceiniog a dimai amdanyn nhw i gyd heddiw, mym. 'D w i'n deud dim am y neb sydd yma, wrth gwrs, ond y mae holl ferched y byd o'r fenga i'r hyna yn stumiau i gyd, yn uwd o glwyddau, yn ffals hyd fodia eu traed, yn hel straeon ac yn poeri gwenwyn o fore tan nos. Mae'n nhw'n fusneslyd, yn fisi, yn ddidosturi, heb fewarth o synnwyr, ac am y fan hon (â'i fys ar ei dalcen) gall deryn y to roi deg o boints i unrhyw athronydd fo'n gwisgo pais... Fel y mae gwaetha'r modd gwraig ydach chithau, ac felly 'r ydych yn deall natur gwraig i'r dim. Deudwch i mi â'ch llaw ar eich calon: a welsoch chi erioed wraig ddidwyll a ffyddlon? Naddo erioed, mi'ch heria chi. 'D oes yr un ohonyn nhw yn ddidwyll a ffyddlon ond hen wragedd hurt a di-lun; cynt y gwelir cath â chyrn neu fran wen na gwraig ddidwyll a ffyddlon.

Popofa

A ga i ofyn i chi yn ostyngedig: pwy yn eich barn chi sydd yn ddidwyll ac yn ffyddlon mewn cariad, nid y dynion ai e?

Smirnoff

Ie'r dynion, mym.

Popofa

(dan chwerthin yn goeslyd) Y dynion yn ddidwyll a ffyddlon mewn cariad! Wel, dyma beth newydd! (Yn wresog.) A pha hawl sydd gynnoch chi i ddeud hynna? Dynion yn ddidwyll a ffyddlon, wir! Gan i chi sôn am y peth, mi ddeuda i hyn wrthoch chi, o bawb a welais i erioed, fy ngŵr i oedd y gore o ddigon. 'R oeddwn yn ei garu yn wyllt â'm holl galon, â'm holl einioes, fel na all neb ond geneth ifanc, ysbrydol garu. Rhoddais iddo fy holl ieuenctid, fy nedwyddwch, fy holl eiddo, fo oedd anadl fy einioes; 'r oeddwn yn ei addoli ar fy ngliniau fel pagan ger bron ei eilun, ac yntau yn fy nhwyllo bob munud awr; ie fo, y gorau o bawb yn y byd yn fy nhwyllo yn y modd mwyaf digwilydd. Wedi iddo farw mi eis i'w ddesg a chefais lond bocs o lythyrau serch. A phan oedd o'n fyw mi fyddai'n fy ngadael am wythnosau, yn canlyn merched eraill dan fy nhrwyn, yn fy mradychu i, yn sgwandro fy arian i, ac yn chwerthin am ben fy nheimladau i, Eto, serch hynny, 'r oeddwn yn ei garu ac yn para'n ffyddlon iddo; ac er ei fod wedi marw, 'r wy'n dal byth yn ffyddlon iddo. 'R wyf wedi claddu fy hun rhwng muriau'r tŷ yma ac mi wisgaf ddillad galar hyd fy medd.

Smirnoff

(Gan chwerthin yn wawdlyd) Galar, wir! Pwy ydach chi'n feddwl ydw i? Ydach chi yn tybied na wn i amcan y ffrog ddu a'r cast o gladdu'ch hun rhwng muriau'r tŷ? Mi wn i'r dim. Bod yn gyfrin a barddonol, dyna'ch gêm chi, yntê? A phan ddaw rhyw gyw blwydd o offisar neu brentis bardd heibio i'ch tŷ chi, mi fydd yn edrych ar eich ffenast ac yn synfyfyrio: "Yma y trig y weddw ifanc gyfrin, y wraig ffyddlon hyd angau, a gloddiodd iddi fedd rhwng muriau ei thŷ". Hen gast go denau, os gofynnwch i mi!

Popofa

(Yn ferw gwyllt.) Be? Sut y medrwch chi ddeud peth fel'na wrtha i?

Smirnoff

Claddu ei hun yn fyw, ond ddaru hi ddim anghofio rhoi powdwr ar ei gwymad!

Popofa

Sut y medrwch siarad fel yna wrtha i?

Smirnoff

Peidiwch â gweiddi, os gwelwch yn dda, nid eich stiward chi ydw i. Gadewch imi alw pethau wrth eu henwau iawn. Nid rhyw fodan ydw i, ac mi fydda i yn deud fy marn yn groyw pob gair o'r frest. Byddwch cystal â pheidio gweiddi.

Popofa

Nid fi sy'n gweiddi; chi sy'n arthio. Gadwch lonydd i mi.

Smirnoff

Talwch chi'r arian, mi â inna i ffwrdd.

Popofa

Thala i mo'r arian.

Smirnoff

O, gnewch, mi wnewch, mym.

Popofa

Chewch chi'r un ddimai goch, tae hynny ddim ond i'ch sbeitio chi. Waeth i chi adael llonydd i mi.

Smirnoff

'D oes gin i mo'r hyfrydwch o fod yn ŵr i chi nac yn ddarpar-ŵr ichi ychwaith; felly, peidiwch â chodi'ch cloch a chadw reiat, os gwelwch chi'n dda. (Yn eistedd.) Dda gin i mo hynny.

Popofa

(Yn tuchan ac yn chwythu yn ei llid.) Ydach chi'n eiste'?

Smirnoff

Ydwyf, yn eiste' i lawr.

Popofa

'R wy'n gofyn i chi fynd.

Smirnoff

Rhowch yr arian i mi, 'ta. (Yn ddistaw.) O, 'r ydw i'n ddig.

Popofa

Fynna i ddim siarad â phobol mor ddigwilydd. Byddwch cystal â mynd o'r tŷ ma. (Distawrwydd.) Ydach chi ddim am fynd?

Smirnoff

Nag ydw i.

Popofa

Nag ydach?

Smirnoff

Nag ydw i.

Popofa

O'r gora^ta. (Yn canw'r gloch.) (Daw Lwca i fewn.) Lwca, ewch â'r gŵr bonheddig yma allan.

Lwca

(Yn mynd af SMiRNOFF) Syr, byddwch cystal â mynd allan, gan eu bod nhw'n gofyn i chi. Waeth i chi heb ag aros yma i...

Smirnoff

(Yn neidio î fyny.) Taw y lembo! Wrth bwy 'r wyt ti'n siarad? Taw, cyn i mi dy racsio di!

Lwca

(Ei law ar eì galon) Seintiau glân wrth yr orsedd fry! (Syrth yn llipa ar y gadair freichiau.) O, 'r ydw i'n sâl! Fedra i ddim cael fy ngwynt.

Popofa

Lle mae Dasia? (Yn bloeddio.) Dasia! Dasia! Pelagea! Dasia! (Yn canu'r gloch.)

Lwca

Och, mae nhw i gyd wedi mynd i hel mefus!... Neb yn y tŷ!... 'R ydw i mor sâl!... Dŵr!

Popofa

Byddwch cystal â mynd i ffwrdd.

Smirnoff

Rhaid i chi ofyn yn neisiach na hynny.

Popofa

(Yn cau eì dyrnau ac yn taro'r llawr a'i throed.) Y llabwst gwladaidd! Yr hen arth i chi! Yr anghenfil brwnt!

Smirnoff

Sut? Be ddeudsoch chi?

Popofa

Deud mai arth ac anghenfil ydach chi.

Smirnoff

Sut y meiddiwch f'insyltio i fel'na, os gwelwch yn dda?

Popofa

Os ydw i yn eich insyltio chi, beth am hynny? Ydach chi'n meddwl fod arna' i eich ofn chi?

Smirnoff

Ydach chi'n meddwl y gallwch insyltio pobol heb i neb daro'n ôl am eich bod yn freuddwyd y bardd? Hy! Dyma fi'n rhoi sialens i chi.

Lwca

Seintiau glân wrth yr orsedd fry! Dŵr!

Smirnoff

Ie, i saethu'n gilydd.

Popofa

Os oes gynnoch chi ddwrn fel haearn a gwddw fel tarw, peidiwch â meddwl fod arna' i eich ofn chi. Yr hen fwli!

Smirnoff

Dyna i chi sialens ta. Waeth gin i os ydach chi'n ferch eiddil, cheith neb fy insyltio i fel'na.

Popofa

(Yn ceisio rhoi taw arno trwy weiddi'n uwch) le, arthiwch... yr hen arth, arth, arth!

Smirnoff

Mae'n bryd i mi fwrw heibio hen ofergoelion gwirion, megis y dyb mai dyn yn unig a ddylai dalu am insyltio ei gymydog. Mae digon o sôn am gydraddoldeb y fenyw y dyddiau hyn. O'r gorau, cydraddoldeb piau hi. "I'r maes â ni".

Popofa

O, duel, felly wir. Lediwch y ffordd, 'ta.

Smirnoff

Y munud ma.

Popofa

Y munud ma. 'R oedd gan fy ngŵr ddau bistol; mi â i nhôl nhw rŵan. (Yn mynd allan ar frys ac yn dychwelyd.) Mi fydd yn nefoedd i mi rhoi bwled yn eich talcen pres chi. A'ch cipio chi! (Â allan.)

Smirnoff

Mi saetha i hi fel cyw petrisan. Nid rhyw gorgi meddal ydw i; i mi 'd oes mo'r fath beth â merched gweiniaid.

Lwca

Annwyl barchedig syr! (Yn penlinio.) Byddwch drugarog, byddwch dosturiol wrth hen ŵr fel fi. Ewch i ffwrdd. Wedi fy nychryn hyd angau, dyma chi rŵan yn mynd i saethu.

Smirnoff

(Heb wrando arno) Mynd i saethu'n gilydd! Dyna chi gydraddoldeb, dyna chi emancipation, y ddau ryw yn gyfartal o'r diwedd! Mi saetha i hì er mwyn egwyddor y peth. Y fath wraig! (Yn ei dynwared.) "A'ch cipio chi... mi ro i fwled yn eich talcen pres chi". Ei hwyneb yn wrid i gyd a'i llygaid yn dân byw! A dyna hi wedi derbyn fy sialens i. Ar fy ngwir, weles i rioed y fath wraig o'r blaen.

Lwca

Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd; cewch ran yn fy ngweddïau tra byddwyf byw.

Smirnoff

Dyna chi wraig wrth fodd fy nghalon i, gwraig go iawn, dim lol o'i chwmpas hi, dim o'ch llymru merchetaidd chi. Mae hi'n dân i gyd. Chewch chi ddim ond powdwr a fireworks gynni hi. Piti fod rhaid imi ei lladd hi.

Lwca

(Yn wylo.) Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd!

Smirnoff

'R wy'n dechrau licio hon, ydw, tawn i'n marw. Er gwaetha'r pantiau bychain clws, r wy'n ei licio hi. 'R wy hyd yn oed yn barod i faddau'r ddyled... Mae hon yn ddigon o ryfeddod.



Daw Popofa â dau bistol i fewn.

Popofa

Dyma'r ddau bistol. Ond cyn i ni fynd ati hi, dangoswch i mi sut i saethu, os gwelwch chi yn dda. Fu 'na rioed bistol yn fy llaw i.

Lwca

Arglwydd annwyl, gwared ni a bydd drugarog! Mi â i nôl y gardner a'r coitsman. Beth yn y byd mawr ddaeth â'r fath bla ar ein pennau ni? (Â allan.)

Smirnoff

(Yn edrych ar y ddau bisiol) Welwch chi, mae na fwy nag un math o bistol. Mae'na Special Mortimer Duelling Pistols; ond Revolvers Smith-Wesson sy' gynnoch chi a rhai ardderchog ydyn nhw, yn costio pum punt y pâr. Fel hyn y dylid dal ryfolfar. (Yn ddistaw bach.) Y fath lygaid! Gwna hon fi'n galon i gyd.

Popofa

Fel hyn?

Smirnoff

Ie, i'r dim... Codi'r teclyn yma... fel hyn... a 'nelu... a'ch pen dipyn yn ôl... estyn eich braich... dyna fo... rhoi'ch bys ar y peth bach ma... a dyna chi. Ond cofiwch hyn: bod yn dawel ac yn bwyllog wrth 'nelu, dyna'r peth mawr. Triwch gadw'ch llaw rhag crynu.

Popofa

O'r gorau, well inni beidio saethu yn y tŷ, awn i'r ardd.

Smirnoff

Ie, ond cofiwch mai saethu i'r awyr wna í. 'p Gwaeth fyth! 'D o'n i ddim yn disgwyl cael fy nhrin fel hyn. Pam? Am fod... am fod... ond fy musnes i ydi hynny.

Popofa

Wedi troi'n llwfrgi, ai e? Waeth i chi heb â strancio, mae'n rhy hwyr i hynny rŵan. Dewch ar fy ôl i, cha i ddim munud o dawelwch nes y bydda i wedi gyrru bwled trwy'ch hen ben atgas chi. Wedi troi'n llwfrgi, ai e?

Smirnoff

Ie, yn llwfrgi.

Popofa

Celwydd noeth! Pam na fynnwch chi gwffio?

Smirnoff

Am... am... wel, am fy mod yn eich licio chi.

Popofa

(Gan chwerthin yn goeglyd.) Yn fy licio i! Pa hawl sy' gynno fo i ddeud ei fod yn fy licio i? Y dyn ei hun! (Yn dangos y drws.) Ewch trwyddo fo. Welwch chi'r drws na?

Smirnoff

(Yn rhoi'r ryfolfar i lawr, yn codi ei gap ac yn cychwyn allan; yn sefyll wrth y drws.) (Edrych y ddau ar ei gilydd am hanner munud.) (Yna cerdda braidd yn simsan tuag ati a dweud:) Hwdiwch, ydach chi'n dal i fod yn ddig? 'R ydw i'n ddig gynddeiriog; ond, welwch chi, wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi... dyma ydi'r drwg... wyddoch chi... rywsut fel hyn y mae hi... (Yn bloeddio.) Ddim arna' i mae'r bai, ond mi 'dw i yn eich licio chi. (Yn cydio yng nghefn y gadair nes gwneud iddi wichian a hollti'n ddeilchion.) ... A'm cipio i, mae gynnoch chi ddodran brau, mi 'dw i yn eich licio chi. Ydych chi'n dallt? Mi 'dwi bron... yn eich caru chi.

Popofa

Ewch i ffwrdd. Mi 'dw i eich casâu chi.

Smirnoff

Rargian fawr, y fath wraig! Welais i rioed y fath beth! Mae hi wedi darfod amdana i; dyma ben ar bopeth, wedi fy nal fel llygoden mewn trap!

Popofa

I ffwrdd â chi, neu mi saetha i.

Smirnoff

Saethwch 'ta. Byddai'n nefoedd ar y ddaear pe cawn i farw o flaen y llygaid rhyfeddol yna, o ergyd ryfolfar yn y llaw fechan, esmwyth, feddal yna. 'R w i wedi mynd o 'ngho. Rhowch ateb i mi'r funud yma. 'R ydw i yn ŵr bonheddig o deulu da, mae gin i fil o bunnoedd yn dŵad i mewn bob blwyddyn... mi fedra i roi bwled trwy ddimai yn syrthio trwy'r awyr... mae gin i geffylau ardderchog... O, wnewch chi fy mhriodi i?

Popofa

(Yn chwifio'r ryfolfar) Na, saethu. I'r maes...

Smirnoff

'R ydw i wedi gwallgofi... fedra i ddallt dim... dŵr!

Popofa

(Yn bloeddio) I'r maes!

Smirnoff

'R w i wedi gwallgofi, yn caru fel hogyn, fel llo gwirion. (Yn gwasgu ei llaw nes y pair y boen iddi weiddi.) 'R wy'n eich caru chi, fûm i erioed yn caru fel hyn o'r blaen. Mi drois i ddwsin o ferched heibio, cefais ffernol gan naw, ond cherais i'r un ohonyn nhw fel yr wyf yn eich caru chi. 'R wyf wedi mynd yn llipa ac yn feddal fel mwd, a dyma fi ar fy ngliniau o'ch blaen chi, fel llo, ac yn gofyn i chi fod yn wraig i mi. Cwilydd! Cwilydd! Dyma fi heb garu neb ers pum mlynedd ac wedi cymyd fy llw na charwn i neb byth bythol, dyma fi dros fy mhen a'm clustiau yn y ffos. A fyddwch chi'n wraig i mi? "Byddaf" ne "Na fyddaf"? Fynnwch chi ddim? Wel, 'd oes dim rhaid i chi. (Gyfyd ac â yn frysiog tua'r drws.)

Popofa

Rhoswch!

Smirnoff

(Ym aros) Y?

Popofa

O, dim. Ewch i ffwrdd... na, rhoswch!... Na, na, i ffwrdd â chi! Ewch i ffwrdd! 'R wy'n eich casâu chi. Taech chi'n gwybod mor ddig ydw i! O, mor ddig, mor ddig! (Yn taflu'r ryfolfar ar y bwrdd.) Mae mysedd i wedi cyffio ar ôl gafael yn yr hen beth na. (Rhwyga ei chadach poced yn ei llid.) Pam 'r ydych chi'n sefyll yn y fan yna? Ewch i ffwrdd!

Smirnoff

Da boch chi 'ta.

Popofa

Ie, ie, ewch i ffwrdd. (Yn bloeddio.) Lle 'dach chi'n mynd? Rhoswch!... O ran hynny, mi ellwch fynd. O, 'r ydw i'n ddig! Peidiwch â dŵad yn agos ata i.

Smirnoff

(Yn mynd ati) 'R ydw i'n ddig wrthyf fy hun. Caru'n ffôl fel hogyn o'r ysgol, ar fy ngliniau o'ch blaen. Mae rhyw ias oer yn cerdded i lawr fy nghefn i. (Yn sarrug.) 'R ydw i'n eich caru chi a minnau heb isio eich caru chi. Rhaid i mi dalu'r llog yfory, a lladd gwair hefyd, a dyma chithau... (Yn gafael yn ei chanol) .. Faddeua i byth i mi fy hun am hyn!

Popofa

Ewch i ffwrdd. Tynnwch eich breichiau. 'R ydw i'n eich casâu chi. I'r maes! (Cusanau dibaid.)



Daw Lwca i fewn â'i fwyall, y garddwr â'i gribin, gweithwyr â pholion.}

Lwca

(Yn gweld y pâr yn cusanu ei gilydd.) Seintiau glân!



(Distawrwydd.)

Popofa

(Yn edrych i lawr) Lwca, deudwch wrthan nhw yn y stabal am beidio rhoi ceirch i Tobi rŵan.



LLEN

Drama un-act