| (Awdur) Pwy ar y ddaear...? | |
| (1, 0) 367 | Mae'n ddrwg gen' i mod i'n hwyr. |
| (1, 0) 368 | Taith go bell, a bu bron i mi a cholli'r ffordd. |
| (Awdur) Beth ydy'ch neges chi? | |
| (1, 0) 372 | Neges? |
| (Awdur) Wel 'rwy'n cymryd yn ganiataol mai i'm gweld i y daethoch chi yma. | |
| (Awdur) Oddi wrth y cyhoeddwyr efallai? | |
| (1, 0) 376 | Dim o gwbwl. |
| (Awdur) Ond 'rydych yma i ryw bwrpas. | |
| (Awdur) Beth ydy' o? | |
| (1, 0) 380 | "Llwyn Bedw"! 'Run fath o hyd. |
| (1, 0) 381 | 'Dydy' o wedi newid dim. |
| (Awdur) Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi! | |
| (Awdur) Peidiwch â dweud mai un ohonyn' nhw 'rydych chi! | |
| (1, 0) 383 | Mae'n well i chi ofyn hynna i Seth. |
| (Awdur) {Wrth SETH.} | |
| (Awdur) 'Doeddwn i ddim yn bwriadu datblygu ei chymeriad. | |
| (1, 0) 394 | Ond datblygu wnes i heb yn wybod i chi. |
| (1, 0) 395 | Os hauwch chi hedyn peidiwch â synnu ei weld o'n tyfu. |
| (Abram) Croeso i chi yma, merch i. | |
| (Ann) Mae'n siŵr eich bod wedi blino. | |
| (1, 0) 402 | Ydw' braidd... |
| (1, 0) 403 | Diolch i chi. |
| (Ann) Mae hi'n aros yma. | |
| (1, 0) 409 | Wel, Sioned. |
| (Sioned) Mabli! Dyma chi wedi cyrraedd. | |
| (Morus) 'Wyddwn i ddim─ | |
| (1, 0) 423 | Popeth yn iawn, Doctor. |
| (1, 0) 424 | 'Rwy'n deall. |
| (1, 0) 425 | Peth digon naturiol ydy' celu sgandal mewn teulu—y sgerbwd yn y cwpwrdd chwedl y Sais. |
| (1, 0) 426 | Ond mae'r sgerbwd yn mynnu dwad allan weithia'. |
| (1, 0) 427 | 'Hoffech chi wybod yr helynt? |
| (Seth) 'Does a wnelo Dr. Morus ddim â fo, Mabli. | |
| (Seth) Gad iddo. | |
| (1, 0) 430 | 'Does gen'i ddim achos i deimlo cywilydd, Seth. |
| (1, 0) 431 | A pheth arall, fe dâl ei atgoffa fo {cyfeirio af yr AWDUR} o'i gyfrifoldeb am y trybini. |
| (Awdur) 'Does dim rhaid i chi. | |
| (Awdur) Roedd eich sefyllfa'n un digon cyffredin— | |
| (1, 0) 434 | Rhy gyffredin efallai. |
| (1, 0) 435 | Pâr ifanc yn cyfarfod yn ystod y rhyfel; carwriaeth wyllt ynghanol y tryblith; priodi a byw o ddydd i ddydd heb hidio am yfory. |
| (1, 0) 436 | Yna corn heddwch yn eu deffro o freuddwyd rhamant i wynebu ffeithia'. |
| (1, 0) 437 | A hwythau, wrth gwrs, yn methu. |
| (1, 0) 438 | Yr hen, hen stori! |
| (Seth) 'Dydy' o ddim mor syml â hynna. | |
| (Awdur) Nid chi'ch dau oedd y prif gymeriadau. | |
| (1, 0) 445 | 'Roeddwn i, wrth gwrs, i fod i farw mewn damwain ar y ffordd. |
| (1, 0) 446 | Hwylus dros ben! |
| (1, 0) 447 | Er bod Seth, efallai, yn cytuno â chi yn hynna o beth. |
| (Seth) Paid! | |
| (1, 0) 450 | Wel, 'dderbynia' i mo'r fath ddiwedd ystrydebol. |
| (1, 0) 451 | 'Rwy'n mynnu byw. |
| (1, 0) 452 | 'Fynna'i ddim marw i siwtio plot dramodydd anghelfydd! |
| (Awdur) O, pa ddiben dadla'! | |
| (Ann) {Rhoi gwydr iddi.} | |
| (1, 0) 552 | Diolch. Dyma'r tro cyntaf ers 'wn i ddim pa bryd. |
| (Morus) Gora' oll. | |
| (Ann) 'Chwaneg o win, Mabli? | |
| (1, 0) 577 | Na, dim diolch. |
| (1, 0) 578 | Rhaid i minna' feddwl am fynd. |
| (Ann) Mor fuan? | |
| (Ann) Mor fuan? | |
| (1, 0) 580 | Wel, does dim diben aros yma rwan. |
| (Ann) Ond! | |
| (Ann) Ond! | |
| (1, 0) 582 | Peidiwch â phryderu. |
| (1, 0) 583 | Mi fydda' i'n iawn... |
| (1, 0) 584 | Seth, mi hoffwn i gael gair efo ti cyn i mi fynd. |
| (Seth) I beth? | |
| (Seth) I beth? | |
| (1, 0) 586 | Fe wyddost yn iawn i beth. |
| (Seth) Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan? | |
| (Seth) Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan? | |
| (1, 0) 588 | Nac oes, ond i ti fod yn rhesymol. |
| (Seth) 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno. | |
| (Seth) 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno. | |
| (1, 0) 590 | Dyna dd'wedi di fory a'r flwyddyn nesa'. |
| (1, 0) 591 | Dyma fy unig gyfle. |
| (1, 0) 592 | Mae gan ryddid ystyr ychwanegol i mi fel y gwyddost. |
| (Seth) O, o'r gora' os wyt ti'n mynnu. | |
| (1, 0) 596 | Mae'n debyg bod hyn yn ffarwel... |
| (Ann) Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto? | |
| (Ann) Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto? | |
| (1, 0) 598 | Pwy a ŵyr? |
| (1, 0) 599 | 'Rwy'n gobeithio y gwnawn ni... |
| (1, 0) 600 | Tan hynny, pob dymuniad da i chi... |
| (1, 0) 601 | Brysiwch wella, Lewis. |