Beddau'r Proffwydi

Cue-sheet for Mali

(Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
 
(Robert) Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
(1, 0) 24 Hitia befo.
(1, 0) 25 Rydw i'n hen gynhefin â bod yn unig, weldi; a mi fedra i weld llawn cymint yn y twllwch, am wn i wir,—a mwy.
(Robert) Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg.
 
(Robert) Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch.
(1, 0) 33 Wyth o'r gloch! Wyth o'r gloch!
(Robert) Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre.
 
(Elin) Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain?
(1, 0) 41 Mae'r golau'n rhy gry i mi bob amser, weldi.
(1, 0) 42 Rydw i jest a darfod hefog o.
(Elin) Peidiwch a chyboli wir, nain bach.
 
(Elin) Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,—a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,—a chitha ddim blewyn gwaeth.
(1, 0) 46 Amal gnoc, y ngeneth i, dyrr yr hen garreg...
(1, 0) 47 Mae Emrys yn ymdroi'n hir iawn yn rhywle.
(Elin) Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau.
 
(Robert) Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn.
(1, 0) 53 Taw, Robert bach.
(1, 0) 54 Yr ydyn ni i gyd wedi bod yn cysgu'n rhy hir,—mae Elin yn iawn...
(1, 0) 55 Yr hên a ŵyr, a mi leiciwn i cyn marw weld Emrys bach yn rhoi tro yng nghynffon y bobol yma sy'n yn cadw ni i lawr.
(Robert) Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol?
 
(1, 0) 74 ~
(1, 0) 75 "Un clefyd mewn dwy galon
(1, 0) 76 Yrrodd lawer tŷ yn yfflon."
 
(1, 0) 78 Mae Ann yn rhy ddistaw i wneud morwyn dda, Elin.
(1, 0) 79 Mae hi cyn ddyfned a'r Llyn Du.
(1, 0) 80 Wyddost ti ar y ddaear beth sydd ar waelod y llyn,—faint o esgyrn pobl wedi boddi...
(1, 0) 81 Mae Emrys yn hir iawn yn rhywle.
(Elin) Tewch wir, nain; rydech chi'n 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o.
 
(Elin) Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch?
(1, 0) 89 Gweld petha rhyfedd yn y tân yma.
(1, 0) 90 'Dwyt ti ddim yn meddwl y bydd yr hen Vaughan yn fodlon i Emrys gael Agnes, wyt ti?
(Elin) Waeth gen i o gwbwl—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi.
 
(Robert) Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân?
(1, 0) 122 Wyt ti'n gweld y ddwy fflam groes yna yn y tân, Ann?
(1, 0) 123 Dyna nhw, weldi.
(Ann.) Ydw, nain.
 
(Agnes) Mi fyddwn ni fel teulu bron a mynd i'r Eglwys weithia: os ydi'r personiaid yn pregethu'n sal, mae nhw'n wŷr bonheddig, beth bynnag.
(1, 0) 178 "Gorchest benna gŵr bonheddig
(1, 0) 179 Gwneud y tlawd yn llwm ag unig."
(Agnes) Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen?
 
(Agnes) Ydech chi ddim yn meddwl peth fel yna, Mali Owen?
(1, 0) 181 'Dydw i'n meddwl dim byd, rwan.... Ydi hi'n dywyll o hyd?
(Robert) Ydi fel bol—, fel |y tu fewn| i fuwch, Miss Vaughan.
 
(Agnes) —buan iawn y basa fo yn dwad yn ol.
(1, 0) 196 Ydech chi'n grefyddol, Miss Vaughan?
(Agnes) Ydw, rwy'n gobeithio.
 
(1, 0) 199 Ydi'ch tad yn grefyddol?
(Agnes) Ydi—o ydi—rwy'n ddigon siwr ohono.
 
(1, 0) 203 Mi fydda 'nhad a f'ewyrth yn dwad adre o'r farchnad o'r dre yn feddw gorn bob nos Sadwrn—
 
(1, 0) 205 —a hen bobol go lew oedd yr hen bobol.
(1, 0) 206 Mae petha wedi newid tipin er hynny, pechoda newydd wedi dwad, a'r hen bechoda ystalwm,—gwenwyn a llid a chelwydd—wedi mynd fa betha i'w canmol.
(Elin) {Yn ei chysuro.}
 
(Elin) Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth.
(1, 0) 212 Lle mae Emrys, tybed?
(1, 0) 213 Oes gen ti damad go flasus yn swper iddo, Elin?
(Robert) Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr.
 
(1, 0) 223 Dyna ti, wir.
(1, 0) 224 Tyrd i fewn, y machgen i, ac eistedd yn y fan yma wrth ochor dynain.
(1, 0) 225 Mi wnai lei ti.
(Emrys) O'r gore, nain—ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi.
 
(Elin) Lle cest ti rheina?
(1, 0) 237 Beth sy gen ti, machgen i?
(Agnes) |Brace of pheasants!|
 
(Emrys) Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan, mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia.
(1, 0) 263 Pwy sydd yna?
(1, 0) 264 Clywch!
(Robert) Neb.
 
(Robert) Neb.
(1, 0) 266 Mae'r ci yma'n anesmwyth iawn.
(Robert) {Wrth y ci.}
 
(Emrys) Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors.
(1, 0) 271 Mae yna rywbeth yn dwad y tu allan yna.
(Robert ac Elin) Meddwl yr ydech chi.
 
(Agnes) |It's getting so very late|.
(1, 0) 279 O!
(Robert) Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed?
 
(1, 0) 409 Emrys bach!
(Robert) {Yn ceisio gwthio rhywbeth i law'r Plisman.}
 
(1, 0) 417 Emrys bach!