Y Glöyn Byw

Cue-sheet for Marged

(Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.
 
(Miss Jones) Ac wedi mynd allan y mae Mrs. Owen felly?
(1, 0) 162 le, ma'm.
(1, 0) 163 Mi aeth allan yn gynarach nag arfer heddyw, ac mi ddywedodd wrthyf y byddai yn ei hol yn union deg.
(1, 0) 164 Fydd hi ddim yn arfer mynd allan mor gynnar.
(Miss Jones) O.
 
(Miss Jones) Ac i ba le yr aeth Mr. Owen, ynteu?
(1, 0) 167 Yr ydw i yn credu mai allan yr aeth yntau hefyd.
(1, 0) 168 Ni ddywedodd o ddim wrthyf i ble'r oedd o yn mynd, dim ond peri i mi, os doe yma ryw wr bonheddig i holi amdano, ofyn i hwnnw fod mor garedig a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes y doe o yn ei ôl.
(Miss Jones) Wel, ni welais i erioed beth rhyfeddach na bod y ddau wedi mynd allan fel hyn, a minnau wedi gyrru i ddywedyd fy mod yn dyfod.
 
(Miss Jones) A fyddech chwi cystal a gwneud cwnaned o de i mi?
(1, 0) 173 Ar unwaith, ma'm, wrth gwrs.
 
(1, 0) 183 Dyna'r te, ma'm, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 184 Miss Joues
 
(1, 0) 186 : O, diolch i chwi!
 
(1, 0) 188 Dacw'r gloch, os bydd arnoch eisiau rhywbeth arall, ma'm.
(Miss Jones) O, diolch i chwi!
 
(Miss Jones) Yr wyf yn credu fy mod wedi eich gweled pan oeddwn i yma ryw ddeufis yn ol?
(1, 0) 193 Do, ma'm.
(1, 0) 194 Rydw i hefo Mrs. Owen er pan ddaethon nhw i fyw i'r ty yma gyntaf.
(Miss Jones) O, da iawn.
 
(Miss Jones) Y mae'n anodd cael merched i aros yn hir yn yr un lle yn awr.
(1, 0) 198 O, ydw, ma'm, yn ddigon bodlon ar fy lle.
(1, 0) 199 Mae Mrs. Owen yn garedig dros ben, yn gadael i mi fynd allan pan fynnwyf.
(1, 0) 200 Ac y mae Mr. Owen mor garedig, mor ddigri a llawen bob amser─ni chefais i erioed air croes ganddo.
(1, 0) 201 Wyddwn i ddim cyn dwad yma fod pobl 'run fath a nhw i'w cael.
(Miss Jones) Y mae'n dda gennyf glywed hynny.
 
(Miss Jones) Y mae Mr. Owen yn gweithio yn galed onid yw?
(1, 0) 204 Yn galed iawn ma'm.
(1, 0) 205 Mae ganddo le i weithio, yn nhop y ty, stiwdio y mae o yn i alw.
(1, 0) 206 Welsoch chi 'rioed y fath le─yn llawn o bob math o bethau.
(1, 0) 207 Mae yno sgerbwd dyn─digon i roi braw i chi!─a lluniau o bob math; hen gleddyfau a dillad a llestri─fedra i ddim deyd wrthych, ma'm, gymaint o bethau sydd yno.
(1, 0) 208 A dyna lle bydd o drwy'r dydd.
(1, 0) 209 Mae o wedi paentio cannoedd o luniau o Mrs. Owen, mi gymraf fy llw, mewn pob math o ddillad, ac heb ddillad o gwbl, weithiau a'i gwallt i lawr, fel aur o'i chwmpas hi.
(1, 0) 210 O! mae hi'n glws hefyd!
(1, 0) 211 Ac y mae o wedi paentio fy llun innau yn fy nillad gwaith─'dydw i ddim yn deyd bod hwnnw yn glws, ond mae o yr un ffunud, welsoch chi 'rioed beth mor fyw ydi o─mi fasech yn disgwyl iddo siarad a chi.
(1, 0) 212 Mae Mr. Owen yn deyd y ca i hunnw pan fydda i yn mynd i 'mhriodi, a'i fod o am wneud un arall i mi yn fy nillad goreu hefyd, ma'm.
(1, 0) 213 Yn wir, mae o wedi dechreu eisoes, mi fyddaf yn gorfod eistedd iddo fo.
(Miss Jones) Felly yn wir.
 
(1, 0) 217 Deyd y bydd o, ma'm, y base'n llawer gwell iddo fod yn labrwr nag yn baentiwr.
(1, 0) 218 Nid yw pobl yn leicio 'i baent o, medde fo─ond ni welais i ddim byd clysach erioed.
(Miss Jones) O, pam, tybed, nad ydynt yn leicio 'i baent o?
 
(Miss Jones) O, pam, tybed, nad ydynt yn leicio 'i baent o?
(1, 0) 220 Wn i ddim, ond mi clywais o'n deyd y base fo'n gwneud yn llawer gwell 'tase fo wedi dysgu paentio â'i dafod.
(1, 0) 221 Roeddwn i wedi synnu, achos wyddwn i ddim fod neb yn medru paentio â'u tafodau, ac mi ddywedais hynny wrtho.
(1, 0) 222 "O, oes, Marged," medde fo, "mae'r paent yn fwy llyfn felly, a phobol yn ei leicio fo yn well, Ond, dda gen i ddim blas paent ar fy nhafod, dyna'r drwg,"
(1, 0) 223 Ac wedyn, dyma fo yn chwerthin, ac yn cydio am ganol Mrs. Owen, a gwneud iddi ddawnsio ar ganol y llawr yma.
(1, 0) 224 O! un digri ydi o!
(Miss Jones) Wel, feddyliwn i mai e!
 
(1, 0) 228 Wel, ma'm, y cytundeb oedd fy mod i gael y peth ofynnais i, ond, welwch chi, ma'm, o achos nad ydi pobol─y ffyliaid gwirion iddyn nhw─ddim yn leicio paent Mr. Owen, mae'n anodd iddo fo bob amser dalu yn i bryd.
(1, 0) 229 Ond waeth gen i am hynny.
(1, 0) 230 'Rydw i yn cael pob peth fel hwythe yn union, ac os bydd arnaf eisie ychydig arian i rywbeth, mi caf nhw, ac ni fydd Mrs, Owen byth yn son amdanyn nhw wedyn, nac yn eu tynnu nhw o'r cyflog pan fydda i yn cael hwnnw chwaith.
(1, 0) 231 Ac 'rydech chi'n gweld, ma'm, yr ydw inne yn leicio'r ffordd y mae nhw yn byw, a'r canu a'r dawnsio a'r chwerthin a'r pethe digri a'r pethe clws.
(1, 0) 232 Hwyrach fy mod i yn wirion, ond mi fydde'n well gen i fod yma am ddim na chael cyflog mawr mewn rhai lleoedd y gwn i amdanynt, lle na chaiff rhywun barch mwy na phe tae o gi ac na welwch chi ddim byd clws ddydd mewn blwyddyn!
(Miss Jones) Wel, wel.
 
(Miss Jones) Diolch i chwi.
(1, 0) 241 Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn.
(Miss Jones) Beth sydd?
 
(Miss Jones) Beth sydd?
(1, 0) 243 Wel, mi ddaeth rhyw ddyn dieithr at y drws, a holi am Mr. Owen.
(1, 0) 244 Dywedais innau nad oedd i mewn, a'i fod wedi peri i mi ofyn i rywun a allai alw i holi amdano fod cystal a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes doe o yn ei ôl.
(1, 0) 245 Dyma'r dyn gofyn i mi a oedd yma biano yn y ty.
(1, 0) 246 Dywedais innau fod, yn y rwm yma.
(1, 0) 247 Daeth yntau at y drws yn syth, ond caeodd ef yn sydyn drachefn.
(1, 0) 248 Ac y mae o yrwan yn sefyll yn y lobi, ac ni wn i ar y ddaear beth i'w wneud ag o, ma'm.
(Miss Jones) A oes yma ddim ystafell arall y gallech ei droi iddi i aros?
 
(Miss Jones) A oes yma ddim ystafell arall y gallech ei droi iddi i aros?
(1, 0) 250 Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm.
(Miss Jones) O, wel, os ydyw yn ddyn a golwg parchus arno, dowch ag ef i mewn yma, wrth gwrs─nid oes gennyf i ddim yn erbyn.
 
(Miss Jones) O, wel, os ydyw yn ddyn a golwg parchus arno, dowch ag ef i mewn yma, wrth gwrs─nid oes gennyf i ddim yn erbyn.
(1, 0) 252 Diolch yn fawr i chi, ma'm.
(Morgan) {Gan grymu ei ben.}
 
(Miss Jones) Dowch i mewn!
(1, 0) 346 Maddeuwch i mi ma'm.
(1, 0) 347 Mae rhyw ddynion wrth y drws yn holi am─am─am ryw Mr. Morgan─
(Miss Jones) le─
 
(Miss Jones) Marged!
(1, 0) 356 Wel, ma'm.
(Miss Jones) Dau funud!
 
(Miss Jones) Dywedwch y gwir wrthyf yn awr─raid i chwi ddim ofni, cofiwch, ond dywedwch y gwir plaen wrthyf.
(1, 0) 359 le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─
(Miss Jones) Beth yw'r helynt?
 
(Miss Jones) Dywedasoch wrthyf fod Mr. Morgan─y dyn a aeth allan yn awr─wedi gofyn i chwi a oedd yma biano yn y ty?
(1, 0) 362 Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─
(Miss Jones) Wel, pwy sydd wrth y drws yn awr?
 
(Miss Jones) Wel, pwy sydd wrth y drws yn awr?
(1, 0) 364 Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan.
(Miss Jones) Rhywbeth arall?
 
(1, 0) 367 Wel, ma'm, fel tae─mi welwch─hynny ydi, ma'm─mae'n rhaid i mi ddeyd, mae'n debyg.
(1, 0) 368 Deyd yr oedden nhw, ma'm, eu bod wedi dwad, ma'm, i nôl y piano, ma'm, os gwelwch yn dda.
(Miss Jones) O, mi welaf.
 
(Miss Jones) Gellwch fynd yn awr, ac ni raid i chwi boeni dim eich bod wedi dywedyd i gwir wrthyf i.
(1, 0) 372 Diolch i chi, ma'm.