|
|
|
|
(1, 0) 4 |
Tom! |
(1, 0) 5 |
Tom! dewch lawr 'ma, ddyn. |
(1, 0) 6 |
Tom bachan, dewch gloi. |
|
(Tom) {Yn dod lawr yn ei long johns.} |
|
|
|
(Tom) Beth gythrel sydd yn bod, fenyw? |
(1, 0) 9 |
O, Tom, fi newydd weld llygoden. |
(1, 0) 10 |
Mae hi newydd fynd dan y cwpwrdd 'na, a gwisgwch ych trowser, ma' gas ych gweld chi. |
|
(Tom) Wel, o'n i yn mynd i wisgo pan sgrechoch chi, a gredes i fod rhywun yn ych myrdro chi, fenyw. |
|
|
(1, 0) 14 |
Chi'n gwbod cymaint fi'n ofan llygod, Tom. |
(1, 0) 15 |
Wedes i pwy ddiwrnod wrthoch chi bod llygod yn y tŷ 'ma. |
(1, 0) 16 |
Ce'wch i edrych dan y cwpwrdd 'na, fanna ath hi. |
|
(Tom) O, fe edrycha i fory. |
|
|
|
(Tom) O, fe edrycha i fory. |
(1, 0) 18 |
Tom, heno ma'r llygoden 'na, fydd hi wedi mynd fory, achos chi wastad yn bostan mor ddewr o'ch chi yn dala llygod pan o chi'n was ffarm. |
|
(Tom) Hy. |
|
|
|
(Tom) Rwy i'n cofio amser rhyfel, fe gydies i mewn llygoden ffyrnig yn... |
(1, 0) 22 |
O, dewch mlân. |
(1, 0) 23 |
Ce'wch i whilo honna nawr, ne' fydd hi wedi dianc eto. |
|
(Tom) Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi? |
|
|
|
(Tom) Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi? |
(1, 0) 25 |
Ie, ie, drychwch gloi cyn af i off fy mhen. |
|
(Tom) Reit, reit. |
|
|
|
(Tom) Reit, reit. |
(1, 0) 27 |
Odych chi yn gweld rhywbeth? |
|
(Tom) Paswch y 'torch' i fi. |
|
|
|
(Tom) Paswch y 'torch' i fi. |
(1, 0) 29 |
Odych chi yn gweld rhywbeth nawr? |
|
(Tom) Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr. |
|
|
|
(Tom) Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr. |
(1, 0) 31 |
Reit, trap nawr strêt, fe fydda i yn cal 'nervous breakdown' os gwela i lygoden eto. |
|
(Tom) O, fe rho i e i lawr fory. |
|
|
|
(Tom) O, fe rho i e i lawr fory. |
(1, 0) 34 |
Tom, heno, ne' fydd e heb ei roi o gwbl os rydwi yn ych nabod chi. |
(1, 0) 35 |
Nawr setwch e a watshwch ych bysedd. |
|
(Tom) Weles i eriod shwt ffys am lygoden. |
|
|
|
(Tom) Aw, aw... |
(1, 0) 44 |
Beth sydd yn bod ddyn? |
|
(Tom) Mae'r trap cythrel yma wedi cau am 'yn llaw i! |
|
|
|
(Wil) Hei, Twm, dyma'r llygoden fwya ma'r trap 'ma wedi'i ddala eriôd, siŵr o fod. |
(1, 0) 51 |
Tom bach, chi mor lletwith â whilber. |
(1, 0) 52 |
Nawr triwch roi e'n iawn y tro hyn. |
|
(Wil) Os dim cath gyda chi, 'te? |
|
|
|
(Wil) Os dim cath gyda chi, 'te? |
(1, 0) 54 |
Os, os, mae cath i gal yma, ond 'dyw e'n dda i ddim, ddim ond i orwedd o fore hyd nos. |
|
(Tom) {Yn codi ar ei draed.} |
|
|
(1, 0) 70 |
'Dyw Tom ni ddim yn gweld pellach na'i drwyn. |
(1, 0) 71 |
Beth o'n i'n weud, Wil, odd hyn: gan fod Mari wedi priodi, odd e'n biti fod y llofft yn wag, a ma' lot o fisitors yn paso ffordd hyn yn yr haf, a mae lot o arian i'w neud o'r busnes 'Bed and Brecwast' yma. |
|
(Wil) Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor. |
|
|
|
(Tom) Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw. |
(1, 0) 74 |
P'idwch gweud celwydd, Tom, fe gawsoch chi frecwast yn gwely gyda fi am wythnos Nadolig llynedd. |
|
(Tom) Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e. |
|
|
|
(Wil) Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te? |
(1, 0) 77 |
Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan. |
|
(Wil) Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci... |
|
|
|
(Wil) Odd e'n y papurau ddoe, odd 'na wr a gwraig lawr ar bwys San Clêr yn byw mewn fferm fach fynyddig fel hyn ac yn cadw'r Bed a Brecwast yma, ac un nosweth fe ddaeth cnoc ar y drws tua unarddeg y nos, ac fe alwodd dou o'r beth chi'n galw nhw, yr... yr... ym... o... ym... yr Haleliwia Angels yma. |
(1, 0) 83 |
Hells Angels, ti'n meddwl bachan. |
|
(Wil) Ie, na ti, Hells Angels ar gefen moto beics ac o'n nhw ishe Bed a Brecwast yno, ac felny buodd hi ond yn y bore beth ti'n meddwl ddigwyddodd? |
|
|
|
(Tom) Chroge rheiny ddim o ti 'ta beth. |
(1, 0) 94 |
O, byddwch dawel, ddyn. |
(1, 0) 95 |
A pheth arall, ma' pob llo ych chi'n ei fagu yn trigo bron cyn cyrraedd adref o'r Mart. |
(1, 0) 96 |
Ac mae'r pethe yma ti Wil yn ddarllen yn y papure, os dim gair o wir yn 'u hanner nhw. |
(1, 0) 97 |
| |
|
(Wil) O na, na odd e'n eitha gwir, odd | enw'r ffarm a'r bobl, ac echdo' | ddigwyddodd e a mae nhw heb eu dal o hyd. |
|
|
|
(Tom) Marged, fydd rhaid bod yn ofalus wrth ateb y drws yn enwedig yn y | nos. |
(1, 0) 107 |
O, byddwch dawel, Tom bach, mae'n ddigon hawdd nabod Hells Angels, os dim rhaid agor y drws iddyn nhw. |
(1, 0) 108 |
| |
|
(Tom) Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl. |
|
|
|
(Tom) Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl. |
(1, 0) 110 |
O, byddwch dawel o hyd, ma' digon hawdd nabod pobl wrth 'u golwg. |
|
(Wil) O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn. |
|
|
|
(Tom) Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma... |
(1, 0) 113 |
Fyddwch chi'n lico'r arian cystal â neb. |
|
(John) {Yn chwythu ac atal arno.} |
|
|
|
(Tom) Wyt ti ishe help? |
(1, 0) 128 |
Pwy help sydd ishe arnyn nhw? |
(1, 0) 129 |
Wel, fe gawson ni wared ar Wil yn sydyn. |
(1, 0) 130 |
Garw byth se buwch yn dod â llo bob tro daw e yma. |
|
(Tom) Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma. |
|
|
|
(Tom) Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma. |
(1, 0) 132 |
O, chi ddim yn meddwl am hynny o hyd. |
(1, 0) 133 |
Ma' Wil yn darllen pob sothach yn y papure 'ma, a dim ond cynffon stori sydd gyda fe wastad, run peth â sydd gyda'r fuwch yna. |
|
(Tom) Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma! |
|
|
|
(Tom) Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma! |
(1, 0) 137 |
Pwy sydd yma, ddyn? |
|
(Tom) Haleliwia Angels, Marged. |
|
|
|
(Tom) Ble mae'r gwn? |
(1, 0) 141 |
Tynnwch ych hunan at ych gilydd a ce'wch i'r drws. |
|
(Tom) Na, cer di a safa i fan hyn a'r bastwn yn barod, ac os treieth e dy grogi di, gwaedda. |
|
|
(1, 0) 144 |
Byddwch yn gall, ddyn. |
|
(Tom) Os moto beics gyda nhw, Marged? |
|
|
|
(Tom) Os moto beics gyda nhw, Marged? |
(1, 0) 148 |
Wel, come in, rhowch hwnna gadw, ddyn. |
(1, 0) 149 |
This is my husband Tom. |
(1, 0) 150 |
Tom, dyma Mr. a Mrs. Jeremy Bull. |
(1, 0) 151 |
Ma nhw am sefyll am heno gyda ni. |
|
|
|
(Tom) Ha ha. |
(1, 0) 159 |
Byddwch dawel, ddyn. |
|
(Mrs. Bull) What was that about Hereford? |
|
|
|
(Mrs. Bull) What was that about Hereford? |
(1, 0) 161 |
Tom was asking, are you coming from Hereford? |
|
(Mrs. Bull) O, no, we come from Manchester. |
|
|
|
(Tom) You must have seen him, he is a big fat fellow, he is an expert for making faggots. |
(1, 0) 169 |
O, byddwch dawel o hyd. |
(1, 0) 170 |
Wel, come and sit down. |
(1, 0) 171 |
I will make you a cup of tea because you are the first guest we have had. |
|
(Tom) And before we forget, it's £10. |
|
|
|
(Mr. Bull) Ten pounds, you said. |
(1, 0) 177 |
Tom, pidwch bod yn cheeky. |
(1, 0) 178 |
O, you can pay tomoro when leaving. |
|
(Mr. Bull) Oh, no, I might as well pay now. |
|
|
|
(Tom) Yes, you might as well, in case. |
(1, 0) 182 |
I won't be a minute with the tea now. |
|
(Mrs. Bull) {Yn anghysurus ar y stôl bren.} |
|
|
|
(Tom) Well, Marged and me are Methodists. |
(1, 0) 208 |
Well, come on, come and have some tea. |
|
(Tom) Yes, come on, come and have some tea and cakes and bring your cushion with you. |
|
|
|
(Mr. Bull) Oh you shouldn't have, no, really. |
(1, 0) 212 |
O, no, it's very plain, and help yourself to sugar and milk. |
(1, 0) 213 |
Well excuse me for asking, but have you any children? |
|
(Mrs. Bull) O, yes, we have one son called Humphrey. |
|
|
|
(Mrs. Bull) He is studying Law now at Oxford College. |
(1, 0) 216 |
O well, he must be very clever then. |
|
(Mr. Bull) Oh yes, I must admit Humphrey is very clever, very clever. |
|
|
|
(Mrs. Bull) Have you any children? |
(1, 0) 221 |
Yes, one daughter, she married a farmer last month. |
|
(Mrs. Bull) Oh how very nice. |
|
|
|
(Tom) Marged, dere ma. |
(1, 0) 234 |
Ie. |
|
(Tom) Ma'r fenyw 'ma ise mynd lan stâr i roi powdwr yn 'i thrwyn, a rwyf i wedi gweud wrthi am roi e lawr fan hyn. |
|
|
|
(Tom) Pam mae hi yn moyn mynd lan stâr, Marged? |
(1, 0) 237 |
Tom bach, mae hi ise neud rhywbeth heblaw rhoi powdwr yn 'i thrwyn. |
|
(Tom) Wel, beth mae hi ise te, Marged? |
|
|
|
(Mrs. Bull) Well, where is it then? |
(1, 0) 246 |
Tom bach, gwedwch wrthi, bachan. |
|
(Tom) Reit, fenyw, well, it's outside the green shed bottom of the garden. |
|
|
|
(Tom) I will come with you now with a torch. |
(1, 0) 254 |
Pwy mynd gyda hi, beth chi'n siarad, bachan? |
|
(Tom) Well, you better take the torch yourself. |
|
|
|
(Tom) Cer â nhw o'r golwg i rhywle, Marged. |
(1, 0) 261 |
O, yes, well, this way then. |
|
(Mr. Bull) Yes, well, goodnight, Tomos, see you in the morning. |
|
|
|
(Mari) Fi wedi madel ag e, wedes i. |
(1, 0) 287 |
Mari fach, shwt wyt ti, o'n i ddim yn disgwyl dy weld ti heno. |
(1, 0) 288 |
Shwt mae Dafydd 'te? |
|
(Tom) Marged fach, ma' hi wedi madel ag e. |
|
|
|
(Tom) Marged fach, ma' hi wedi madel ag e. |
(1, 0) 290 |
Beth? |
(1, 0) 291 |
Wel, wel, Tom bachan, a gwedwch rhywbeth. |
|
(Tom) Ma' hi wedi madel ag e, fenyw. |
|
|
|
(Tom) Ma' hi wedi madel ag e, fenyw. |
(1, 0) 293 |
O, byddwch dawel o hyd. |
(1, 0) 294 |
Wel, beth ath rhyngtoch chi 'te? |
|
(Mari) Ma' fe wedi bod yn insyltio'r bwyd rwy'n neud, wedodd e echddo' mod i wedi llosgi'r sosejes, â heddi wedodd e na alle fe fyta y pwdin reis achos bod gormod o lwmpe ynddo fe. |
|
|
|
(Tom) Ti'n sylweddoli mai dim ond mis sydd ers i ti ei briodi e? |
(1, 0) 300 |
Byddwch dawel o hyd, ddyn. |
(1, 0) 301 |
O'n i wastad yn gweud bod yr hen grwt yna wedi cal ei sboilo gyda'i famgu. |
(1, 0) 302 |
'Dyw e ddim wedi arfer shiffto, ma' fe wedi cal popeth eriôd fel odd e'n moyn. |
|
(Tom) Fi'n ofan mai chi Marged sydd wedi gwneud hynny ormod i hon. |
|
|
|
(Tom) Odd Huws y Banc yn gweud echddo wrtho fi bod e yn falch mai dim ond un groten sydd gyda fi. |
(1, 0) 307 |
Na fe, Tom, chi wedi ypseto hi nawr. |
|
(Mari) Fi'n mynd lan i'r gwely. |
|
|
|
(Mari) Fi'n mynd lan i'r gwely. |
(1, 0) 309 |
O, alli di ddim mynd i'r gwely, bach. |
|
(Mari) Pam? |
|
|
|
(Mari) Beth? |
(1, 0) 313 |
O, paid 'neud sylw o dy dad. |
(1, 0) 314 |
Wel, wedi i ti briodi, on i'n meddwl bod hi'n drueni bod y 'stafell yn wag a fe benderfynes i fynd i gadw 'Bed a Brecwast'. |
(1, 0) 315 |
A ma' pobl bach neis o Manchester wedi dod yma gynne fach a ma' nhw newydd fynd i'r gwely cyn i ti ddod. |
|
(Mari) O wel, fe gysga i ar y soffa, 'te. |
|
|
|
(Mari) O wel, fe gysga i ar y soffa, 'te. |
(1, 0) 317 |
O na, fe gei di gysgu gyda fi a geith dy dad gysgu ar y soffa. |
|
(Tom) Drychwch yma... |
|
|
(1, 0) 321 |
O pidwch dechre gwenwyno, a ce'wch i weld pwy sydd yn y drws yna. |
|
(Tom) O, Dafydd bachan, dere mewn, dere mewn. |
|
|
|
(Dafydd) Odd dim ishê bwrw bant felna yn dy styrics. |
(1, 0) 328 |
Dafydd, p'idwch chi siarad felna â Mari. |
(1, 0) 329 |
Mae hi'n ypset ofnadwy, chi wedi bod yn gweud pethe cas iawn wrthi hi. |
|
(Dafydd) Drychwch yma, dwyf i ddim yn gwybod beth ydw i wedi'i wneud, a pheth arall ─ dyw e ddim busnes i chi 'ta beth. |
|
|
(1, 0) 332 |
P'idwch chi siarad felna â fi, mae e yn fusnes i fi nawr gan fod hi wedi dod adre. |
(1, 0) 333 |
Chi wedi bod yn insyltio'i bwyd hi. |
(1, 0) 334 |
Ych trwbwl chi yw eich bod chi wedi cal ych sboelo fel hen fabi gyda'ch mamgu. |
|
(Tom) {Yn tarannu.} |
|
|
|
(Tom) Marged, byddwch dawel, fenyw! |
(1, 0) 338 |
Beth wedoch chi, Tom? |
|
(Tom) Byddwch dawel, fenyw. |
|
|
|
(Tom) O, popeth yn iawn, a gobeithio y cei di well pwdin fory. |
(1, 0) 359 |
O, #Mrs. Bull, what is the matter? |
|
(Mrs. Bull) Oh, there are rats running all over the place. |
|
|
|
(Mrs. Bull) Jeremy, Jeremy, come on. |
(1, 0) 363 |
Na fe 'to, bai chi, Tom, yw hyn i gyd. |
|
(Mr. Bull) {Yn dod lawr.} |
|
|
|
(Tom) Edrych 'ma, Marged, paid ti dechre 'to. |
(1, 0) 380 |
O, Tom, fi ddim wedi gweld chi fel hyn o'r blaen. |
|
(Tom) Marged, fi ddim wedi teimlo fel hyn o'r blaen. |
|
|
|
(Wil) O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr. |
(1, 0) 393 |
O, o, ym, dynion dierth wedi colli ffordd yn te fe, Tom. |
|
|
|
(Tom) Marged! |
(1, 0) 405 |
Ie, beth chi ise? |
|
(Tom) Glywoch chi? |
|
|
|
(Tom) Un fenyw, a un gwryw. |
(1, 0) 409 |
O, neis iawn, wir. |
|
|
|
(Tom) Marged, Marged! |
(1, 0) 425 |
Ie, beth chi ise eto, ddyn? |
|
(Tom) Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi. |
|
|
|
(Tom) Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi. |
(1, 0) 427 |
Tom bach, mae'n ddeg o'r gloch. |
(1, 0) 428 |
Allwch chi ddim sefyll hyd fory? |
|
(Tom) Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory? |
|
|
|
(Tom) Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory? |
(1, 0) 430 |
Chi yn gweld eitha digon yn barod. |
|
(Tom) Dewch mlân nawr yn lle ymddantan o hyd. |
|
|
|
(Tom) Fi wastad yn gweud os wyt ti yn rhoi tarw i fuwch rho darw reit iddi, ti'n gwbod beth ti'n gael wedyn. |
(1, 0) 440 |
Dewch ymlaen nawr, gwisgwch ych cot yn lle siarad trwy'ch hat. |
|
(Wil) Reit, chi'n barod te. |
|
|
|
(Tom) Ew Marged, os pryna i y lloi yma gyda Wil, chi'n gwybod beth fi yn mynd i galw nhw? |
(1, 0) 444 |
O, dim syniad, Tom bach. |
|
(Tom) Jeremy a Patsy Bull. |
|
|
(1, 0) 448 |
Dere Wil, mae honna yn stori rhy hir heno. |