Drama un-act
Ⓗ 1981 Ifan Gruffydd
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.



Golygfa: Cegin tipyn yn hen ffasiwn mewn fferm fynyddig... Marged yn dod i'r gegin a bwced glo ac yn gweld llygoden fach. Mae'n rhoi sgrech a mynd i ben stôl a gweiddi:

Marged

Tom! Tom! dewch lawr 'ma, ddyn. Tom bachan, dewch gloi.

Tom

(Yn dod lawr yn ei long johns.) Beth gythrel sydd yn bod, fenyw?

Marged

O, Tom, fi newydd weld llygoden. Mae hi newydd fynd dan y cwpwrdd 'na, a gwisgwch ych trowser, ma' gas ych gweld chi.

Tom

Wel, o'n i yn mynd i wisgo pan sgrechoch chi, a gredes i fod rhywun yn ych myrdro chi, fenyw. A dere lawr o fanna, fenyw, ti'n edrych fel rhyw foniwment yn fanna.

Marged

(Dod lawr.) Chi'n gwbod cymaint fi'n ofan llygod, Tom. Wedes i pwy ddiwrnod wrthoch chi bod llygod yn y tŷ 'ma. Ce'wch i edrych dan y cwpwrdd 'na, fanna ath hi.

Tom

O, fe edrycha i fory.

Marged

Tom, heno ma'r llygoden 'na, fydd hi wedi mynd fory, achos chi wastad yn bostan mor ddewr o'ch chi yn dala llygod pan o chi'n was ffarm.

Tom

Hy. Smo fi ofan rhyw damed o lygoden. Rwy i'n cofio amser rhyfel, fe gydies i mewn llygoden ffyrnig yn...

Marged

O, dewch mlân. Ce'wch i whilo honna nawr, ne' fydd hi wedi dianc eto.

Tom

Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi?

Marged

Ie, ie, drychwch gloi cyn af i off fy mhen.

Tom

Reit, reit.

Marged

Odych chi yn gweld rhywbeth?

Tom

Paswch y 'torch' i fi.

Marged

Odych chi yn gweld rhywbeth nawr?

Tom

Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr.

Marged

Reit, trap nawr strêt, fe fydda i yn cal 'nervous breakdown' os gwela i lygoden eto.



Marged yn mofyn trap o'r cwpwrdd, a chaws oddi ar y ford.

Tom

O, fe rho i e i lawr fory.

Marged

Tom, heno, ne' fydd e heb ei roi o gwbl os rydwi yn ych nabod chi. Nawr setwch e a watshwch ych bysedd.

Tom

Weles i eriod shwt ffys am lygoden.



Tom yn mynd i roi y trap dan y cwpwrdd. Yn sydyn daw Wil y cymydog i mewn.

Wil

Hel... Helo. Beth ti'n neud yn fanna, Twm? Dala llygod?



Wil yn rhoi pwt iddo fe â'r ffon a'r trap yn cau am fysedd Tom ac yntau'n bwrw'i ben o dan y cwpwrdd.

Tom

Aw, aw...

Marged

Beth sydd yn bod ddyn?

Tom

Mae'r trap cythrel yma wedi cau am 'yn llaw i! (Dod mas â'r trap ac yn dawnsio.) Tynnwch e yn rhydd gloi!

Wil

Nawr, paid gwylltu, bachan. Dere 'ma i fi gal e bant. Hei, Twm, dyma'r llygoden fwya ma'r trap 'ma wedi'i ddala eriôd, siŵr o fod.

Marged

Tom bach, chi mor lletwith â whilber. Nawr triwch roi e'n iawn y tro hyn.

Wil

Os dim cath gyda chi, 'te?

Marged

Os, os, mae cath i gal yma, ond 'dyw e'n dda i ddim, ddim ond i orwedd o fore hyd nos.



Mae'n pwyntio at gwshin ar lawr.

Tom

(Yn codi ar ei draed.) Pwy ryfedd? Ti'n gwbod, Wil, ma' Marged yn bwydo fe trw'r dydd ar y Go Cat 'na fel nad oes 'na ddim mwy o go na donkey ynddo fe. 'Sen i yn cael 'yn ffordd, fe gethe fe ddŵr, fe fydde fe yn Gone Cat wedyn. Wel, ishte Wil. Os rhyw newydd gyda ti?

Wil

Jiw, alla i ddim aros yn hir achos 'ma Matilda yn paratoi i ddod â llo.

Tom

Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno.

Wil

O, hen was da yw John, ond 'ma fe yn panico strêt pan fydd buwch yn dod â llo. Pan gath 'i wraig e fabi llynedd, gorfod iddo fe gal 'kiss of life' yn yr ysbyty. Wel, beth yw'r arwydd 'na weles i ar ben y lôn 'na: 'Bed and Brecwast'.

Tom

O, ma' Marged yma yn credu gall hi neud rhyw ffortiwn wrth gadw fisitors. Sen i'n cael 'yn ffordd, chawse dim un cythrel wely na brecwast yma.

Marged

(Dod nôl.) 'Dyw Tom ni ddim yn gweld pellach na'i drwyn. Beth o'n i'n weud, Wil, odd hyn: gan fod Mari wedi priodi, odd e'n biti fod y llofft yn wag, a ma' lot o fisitors yn paso ffordd hyn yn yr haf, a mae lot o arian i'w neud o'r busnes 'Bed and Brecwast' yma.

Wil

Weda i un peth, Marged, fi'n methu gweld Tom yn cario Corn Flakes lan llofft bob bore i'r fisitor.

Tom

Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw.

Marged

P'idwch gweud celwydd, Tom, fe gawsoch chi frecwast yn gwely gyda fi am wythnos Nadolig llynedd.

Tom

Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e.

Wil

Wel, os rhywun wedi dod yma eto 'te?

Marged

Na, ddim ond ddoe rhoion ni'r arwydd lan.

Wil

Cofiwch, fi ddim ishe hela ofan arnoch chi, ond ma' hi'n fusnes risci...

Tom

Beth ti'n foddran bod hi'n risci? Beth sy'n risci amboiti hi?

Wil

Wel, ti ddim yn gwybod pwy yw pwy heddi, wyt ti? Odd e'n y papurau ddoe, odd 'na wr a gwraig lawr ar bwys San Clêr yn byw mewn fferm fach fynyddig fel hyn ac yn cadw'r Bed a Brecwast yma, ac un nosweth fe ddaeth cnoc ar y drws tua unarddeg y nos, ac fe alwodd dou o'r beth chi'n galw nhw, yr... yr... ym... o... ym... yr Haleliwia Angels yma.

Marged

Hells Angels, ti'n meddwl bachan.

Wil

Ie, na ti, Hells Angels ar gefen moto beics ac o'n nhw ishe Bed a Brecwast yno, ac felny buodd hi ond yn y bore beth ti'n meddwl ddigwyddodd?

Tom

(Yn sobr.) Ew, na dim syniad ─ beth?

Wil

O'n nhw wedi mynd... wedi mynd...

Tom

A 'dôn nhw ddim wedi talu siŵr o fod. Marged, os daw rhywun yma fydda i yn moyn 'yn nhalu cyn bod nhw'n mynd i'r gwely.

Wil

Twm bach, gad i fi orffen y stori, odd e'n waeth na hynny, o nhw wedi CROGI y ddou a dwgyd y cwbl odd yn y ty.

Tom

Crogi y ddou! 'Na fe, Marged, wedes i ddigon wrtho ti y byse hi'n llawer gwell i ti fagu llo neu ddou i gael ceiniog ecstra... Chroge rheiny ddim o ti 'ta beth.

Marged

O, byddwch dawel, ddyn. A pheth arall, ma' pob llo ych chi'n ei fagu yn trigo bron cyn cyrraedd adref o'r Mart. Ac mae'r pethe yma ti Wil yn ddarllen yn y papure, os dim gair o wir yn 'u hanner nhw. |

Wil

O na, na odd e'n eitha gwir, odd enw'r ffarm a'r bobl, ac echdo' ddigwyddodd e a mae nhw heb eu dal o hyd. A chi ishe gwybod peth arall, faint ych chi'n feddwl o'n nhw wedi'i ddwgyd?

Tom

Ugen mil efallai? |

Wil

Ti a dy ugen mil ─ dim ond pym theg punt. Ie, o'n nhw wedi crogi y ddou am ddim ond pymtheg punt. |

Tom

Bachgen, bachgen, fi ddim yn credu y galla i gysgu'r haf yma rhagor. Marged, fydd rhaid bod yn ofalus wrth ateb y drws yn enwedig yn y | nos.

Marged

O, byddwch dawel, Tom bach, mae'n ddigon hawdd nabod Hells Angels, os dim rhaid agor y drws iddyn nhw. |

Tom

Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl.

Marged

O, byddwch dawel o hyd, ma' digon hawdd nabod pobl wrth 'u golwg.

Wil

O, fi ddim yn gweud llai, ond byddwch chi yn fwy gofalus na chodyn.

Tom

Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma...

Marged

Fyddwch chi'n lico'r arian cystal â neb.



Sŵn yn y bac. John y gwas yn rhedeg i mewn ar golli ei wynt.

John

(Yn chwythu ac atal arno.) B... b... boss.... boss,... d... d... dewch g... g... gloi. M... m... mae...

Wil

(Yn wyllt.) Beth sy'n bod, bachan?

John

Ma... ma... ma... Matilda... wedi... wedi... bwrw un llo a ma un arall ar y ffordd a dim ond 'i gwt e'n y golwg. Dewch gloi.

Wil

(Yn mynd gan faglu yn y ford.) O danco, delen i ddim fod wedi aros mor hir. Dere mlan bachan.



Y ddau'n mynd mas ar ras.

Tom

Wyt ti ishe help?

Marged

Pwy help sydd ishe arnyn nhw? Wel, fe gawson ni wared ar Wil yn sydyn. Garw byth se buwch yn dod â llo bob tro daw e yma.

Tom

Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma.

Marged

O, chi ddim yn meddwl am hynny o hyd. Ma' Wil yn darllen pob sothach yn y papure 'ma, a dim ond cynffon stori sydd gyda fe wastad, run peth â sydd gyda'r fuwch yna.



Yn sydyn daw cnoc ar y drws. Tom yn neidio ar ei draed.

Tom

Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma!

Marged

Pwy sydd yma, ddyn?

Tom

Haleliwia Angels, Marged. Ble mae'r gwn?



Cnoc arall.

Marged

Tynnwch ych hunan at ych gilydd a ce'wch i'r drws.

Tom

Na, cer di a safa i fan hyn a'r bastwn yn barod, ac os treieth e dy grogi di, gwaedda.

Marged

(Yn mynd at y drws.) Byddwch yn gall, ddyn.



Tom yn aros a chlustfeinio, a'r bastwn yn barod i ymosod. Marged yn siarad â'r fisitors o'r golwg.

Tom

Os moto beics gyda nhw, Marged?

Marged

Wel, come in, rhowch hwnna gadw, ddyn. This is my husband Tom. Tom, dyma Mr. a Mrs. Jeremy Bull. Ma nhw am sefyll am heno gyda ni. (Siglo llaw.)

Mrs. Bull

Helo, Tomo, lovely to meet you, lovely place you have here.

Tom

Yes, well nice to see you.

Mrs. Bull

And this is my husband Jeremy.

Tom

O, nice to meet you, Mr. Bull. Hei, Marged, ma hwn yn debyg i Hereford. Ha ha.

Marged

Byddwch dawel, ddyn.

Mrs. Bull

What was that about Hereford?

Marged

Tom was asking, are you coming from Hereford?

Mrs. Bull

O, no, we come from Manchester.

Mr. Bull

Yes, Manchester. Have you ever been there, Tomos?

Tom

No, never, but I've got a cousin living there. His name is Dai. He is a butcher. You must have seen him, he is a big fat fellow, he is an expert for making faggots.

Marged

O, byddwch dawel o hyd. Wel, come and sit down. I will make you a cup of tea because you are the first guest we have had.

Tom

And before we forget, it's £10.

Mrs. Bull

What is £10?

Tom

The bed and the breakfast, you know.

Mr. Bull

Oh, yes, of course, I nearly forgot. Ten pounds, you said.

Marged

Tom, pidwch bod yn cheeky. O, you can pay tomoro when leaving.

Mr. Bull

Oh, no, I might as well pay now.

Tom

Yes, you might as well, in case.



Tom yn cydio yn yr arian a Marged yn mynd â nhw o law Tom.

Marged

I won't be a minute with the tea now.



Pawb yn eistedd, ac yn edrych ar ei gilydd.

Mrs. Bull

(Yn anghysurus ar y stôl bren.) Excuse me, Mr. Jones, but could I have a cushion. This is very hard.

Tom

A cushon, o, yes, here you are, that's it. You've got a delicate behind, have you? They say that a hard stool is much better for us than these soft chairs you know.

Mrs. Bull

Well, I haven't heard anybody say that.

Mr. Bull

(Torri mewn.) Tell me, Tomos, what happens around here in the nights?

Tom

Well, it gets very dark here in winter and...

Mr. Bull

Ha ha, gets very dark, ha ha, did you hear that, Patsy? Tom here has a very good sense of humour. Very good. No, what I meant was, what do you do here in the evenings to pass the time?

Tom

O, I see what you mean. Well, I read a lot, and listen to the wireless, yes.

Mr. Bull

Tell me, Tom, why have you not a television here?

Tom

O, Marged and me we don't like it. There's too many myrdyrs on the television, yes, and on Sunday of course we go to church three times.

Mrs. Bull

How fascinating. You know, me and Jeremy, we are atheists.

Tom

O, are you? Well, Marged and me are Methodists.



Marged yn dod â phedwar mwg te i'r ford a rock cakes.

Marged

Well, come on, come and have some tea.

Tom

Yes, come on, come and have some tea and cakes and bring your cushion with you.

Mr. Bull

(Ar ei ffordd.) Oh you shouldn't have, no, really.

Marged

O, no, it's very plain, and help yourself to sugar and milk. Well excuse me for asking, but have you any children?

Mrs. Bull

O, yes, we have one son called Humphrey. He is studying Law now at Oxford College.

Marged

O well, he must be very clever then.

Mr. Bull

Oh yes, I must admit Humphrey is very clever, very clever.

Tom

O yes, wel, you must have a big head before you can go to Oxford.



Marged yn pwtan Tom.

Mrs. Bull

Have you any children?

Marged

Yes, one daughter, she married a farmer last month.

Mrs. Bull

Oh how very nice.

Tom

(Tom yn cydio yn plât cacene a dweud.) Have a cac.

Mrs. Bull wedi cydio mewn cacen.

Marged yn mynd i'r back.

Mrs. Bull

I'm sorry, but these cakes are very hard, I can't eat them.

Tom

Well, they are supposed to be hard, that's why they are called 'rock cakes'.

Mrs. Bull

Please excuse me, but I think I'll go upstairs to powder my nose.

Tom

O you don't have to go upstairs, you can put powder in your nose down here.

Mrs. Bull

Well, I've got to go upstairs to do it.

Tom

Why have you got to go upstairs to do it?

Mrs. Bull

Well, you know.

Tom

Marged, dere ma.

Marged

Ie.

Tom

Ma'r fenyw 'ma ise mynd lan stâr i roi powdwr yn 'i thrwyn, a rwyf i wedi gweud wrthi am roi e lawr fan hyn. Pam mae hi yn moyn mynd lan stâr, Marged?

Marged

Tom bach, mae hi ise neud rhywbeth heblaw rhoi powdwr yn 'i thrwyn.

Tom

Wel, beth mae hi ise te, Marged?



Marged yn sibrwd yn clust Tom fod hi am fynd i'r toilet. Tom yn deall ac yn dweud.

Tom

O, o, I see what you mean now. Well there is no point for you to go upstairs, because there is nothingthere.

Mrs. Bull

Oh, I am very sorry, it's downstairs, is it?

Tom

Well, no, not exactly, I'm afraid it is further down than that.

Mrs. Bull

Well, where is it then?

Marged

Tom bach, gwedwch wrthi, bachan.

Tom

Reit, fenyw, well, it's outside the green shed bottom of the garden.

Mrs. Bull

(Disgusted.) Green shed bottom of the garden.

Tom

Yes.

Mrs. Bull

Well, it's dark outside now.

Tom

Yes, it is dark now. I will come with you now with a torch.

Marged

Pwy mynd gyda hi, beth chi'n siarad, bachan?

Tom

Well, you better take the torch yourself.

Mrs. Bull

Well this is disgusting, isn't it, Jeremy. You keep bed and breakfast and you haven't got modern conveniences. Come on, Jeremy, let's go to bed. Please show us to our room.

Tom

Cer â nhw o'r golwg i rhywle, Marged.

Marged

O, yes, well, this way then.

Mr. Bull

Yes, well, goodnight, Tomos, see you in the morning.

Tom

Yes, yes. Garw byth.



Pawb yn diflannu i fyny'r grisiau. TOM yn siarad a'i hunan yn y gegin, ac yn tanio'i bibell.

Tom

Fi wedi byw yn gysurus yma am ugain mlynedd, a mae rhyw shinanis fel hyn yn dod a ddim yn gysurus am hanner awr. O'n i'n gwybod mai fel hyn y bydde hi.



Sŵn rhywun yn dod i'r tŷ.

Tom

Helo, pwy sydd yna?

Mari

(Dod mewn yn sydyn â chês bach, yn isel iawn ei hysbryd.) Helo, shwt wyt ti dadi? (Eistedd ar y soffa'n benisel.)

Tom

Ew, Mari, shwt wyt ti 'te. Ble ma Dafydd gen' ti?

Mari

Dyw e ddim gyda fi.

Tom

O, ti sydd â'r cês 'ma 'te?

Mari

Pwy y'ch chi'n feddwl sydd ag e 'te?

Tom

Wel, meddwl mai... os rhywbeth yn bod? Does dim o'i le ar Dafydd, os e?

Mari

Ma' fe yn eitha reit... wel, mae yr un man i chi gael gwybod. Fi wedi madel ag e.

Tom

(Yn gollwng ei bibell.) B... b... beth wedest ti?

Mari

Fi wedi madel ag e, wedes i.



Marged yn dod lawr stâr.

Marged

Mari fach, shwt wyt ti, o'n i ddim yn disgwyl dy weld ti heno. Shwt mae Dafydd 'te?

Tom

Marged fach, ma' hi wedi madel ag e.

Marged

Beth? Wel, wel, Tom bachan, a gwedwch rhywbeth.

Tom

Ma' hi wedi madel ag e, fenyw.

Marged

O, byddwch dawel o hyd. Wel, beth ath rhyngtoch chi 'te?

Mari

Ma' fe wedi bod yn insyltio'r bwyd rwy'n neud, wedodd e echddo' mod i wedi llosgi'r sosejes, â heddi wedodd e na alle fe fyta y pwdin reis achos bod gormod o lwmpe ynddo fe.



Mari yn llefen wrth ddweud y llinell olaf.

Tom

Lwmpe yn y pwdin! Ti'n gweud wrtho i bod ti wedi dod adre heno achos iddo fe weud bod lwmpe yn y pwdin? Ti'n sylweddoli mai dim ond mis sydd ers i ti ei briodi e?

Marged

Byddwch dawel o hyd, ddyn. O'n i wastad yn gweud bod yr hen grwt yna wedi cal ei sboilo gyda'i famgu. 'Dyw e ddim wedi arfer shiffto, ma' fe wedi cal popeth eriôd fel odd e'n moyn.

Tom

Fi'n ofan mai chi Marged sydd wedi gwneud hynny ormod i hon. Ti'n sylweddoli bod y briodas yna wedi costio mil o bunne i fi. Odd Huws y Banc yn gweud echddo wrtho fi bod e yn falch mai dim ond un groten sydd gyda fi.



Mari yn llefen dros y lle.

Marged

Na fe, Tom, chi wedi ypseto hi nawr.

Mari

Fi'n mynd lan i'r gwely.

Marged

O, alli di ddim mynd i'r gwely, bach.

Mari

Pam?

Tom

Achos ma' dou Hereford gyda dy fam yno.

Mari

Beth?

Marged

O, paid 'neud sylw o dy dad. Wel, wedi i ti briodi, on i'n meddwl bod hi'n drueni bod y 'stafell yn wag a fe benderfynes i fynd i gadw 'Bed a Brecwast'. A ma' pobl bach neis o Manchester wedi dod yma gynne fach a ma' nhw newydd fynd i'r gwely cyn i ti ddod.

Mari

O wel, fe gysga i ar y soffa, 'te.

Marged

O na, fe gei di gysgu gyda fi a geith dy dad gysgu ar y soffa.

Tom

Drychwch yma...



Cnoc ar y drws.

Marged

(Yn torri mewn.) O pidwch dechre gwenwyno, a ce'wch i weld pwy sydd yn y drws yna.



Tom yn mynd â hwyl ddrwg arno.

Tom

O, Dafydd bachan, dere mewn, dere mewn.

Dafydd

O, y, shwt mae heno? A beth gythrel wyt ti'n treio'i neud 'te? Rwyf fi wedi bod yn gofidio a ffili deall ble o't ti wedi mynd. Odd dim ishê bwrw bant felna yn dy styrics.

Marged

Dafydd, p'idwch chi siarad felna â Mari. Mae hi'n ypset ofnadwy, chi wedi bod yn gweud pethe cas iawn wrthi hi.

Dafydd

Drychwch yma, dwyf i ddim yn gwybod beth ydw i wedi'i wneud, a pheth arall ─ dyw e ddim busnes i chi 'ta beth.

Marged

(Yn gas.) P'idwch chi siarad felna â fi, mae e yn fusnes i fi nawr gan fod hi wedi dod adre. Chi wedi bod yn insyltio'i bwyd hi. Ych trwbwl chi yw eich bod chi wedi cal ych sboelo fel hen fabi gyda'ch mamgu.



Mae Tom yn torri mewn i'r ffrae.

Tom

(Yn tarannu.) Marged, byddwch dawel, fenyw!

Marged

Beth wedoch chi, Tom?

Tom

Byddwch dawel, fenyw. Chi Marged wedi gweud wrtho fi am fod yn dawel am bum mlynedd ar hugain. Nawr, gwrandwch chi arna i am unwaith. Dafydd, iste fanna. Nawr 'te, good girl, rwyf i yn credu bod ti wedi cerdded lawr i'r capel 'na fis yn ôl yn dy ffrog wen a dy fys yn dy ben heb feddwl dim ac yn credu mai rhyw fis mêl mowr odd priodi. Iste lawr i fi gael gorffen. Cyn priodi odd dim yn ddigon da i ti i'w gael yma, a heno dyma ti'n carlamu'n ôl yma gyda gwep fawr achos bod Dafydd wedi achwyn bod lwmpe yn y pwdin. Dy drwbwl di eriod yw nad wyt ti'n gwybod mor lwcus wyt ti. Wedi cael popeth yn rhwydd erioed, a nawr wedi priodi ma' tŷ pert gyda ti a car dy hunan. Trwbwl chi yr oes hon ─ rwy'n golygu y ddou ohonoch chi yn awr ─ yw bod chi'n dechre'n rhy uchel. Byse fe'n gwneud lles mawr i chi fod yn cael dechre fel gorfu i fi a Marged ddechre ─ dim ond dwy fuwch a beic a chaseg odd gyda ni, a doedd dim amser i feddwl am redeg adre ta faint o lwmpe fydde yn y pwdin.

Mari

(Yn codi.) Dafydd, dere adre, dw' i ddim yn aros dim rhagor i gal yn ypseto yma.

Dafydd

O, reit... wel... y...

Tom

(Yn torri mewn.) Nawr, cofiwch un peth. Mae croeso i chi ddod yma unrhyw amser gyda'ch gilydd, ond dim rhagor o nonsens fel heno byth eto.

Mari

Dere, Dafydd.

Dafydd

Reit, wel mae'n ddrwg iawn 'da fi am bopeth.

Tom

O, popeth yn iawn, a gobeithio y cei di well pwdin fory.

Marged

O, #Mrs. Bull, what is the matter?

Mrs. Bull

Oh, there are rats running all over the place. Jeremy, Jeremy, come on.



Jeremy yn dod lawr yn llusgo cesus ar 'i ôl wedi hanner gwisgo.

Marged

Na fe 'to, bai chi, Tom, yw hyn i gyd.

Mr. Bull

(Yn dod lawr.) This is absolutely disgusting. After we went to bed, Patsy got up to have some aspirins and when she put her foot in her slipper, there was a mouse in it.

Tom

Well pity for the mouse I say, ha ha!

Mr. Bull

What did you say? You should be reported for keeping guests in such a dump.

Tom

(Yn tarannu eto.) Look here you two fairies. I have had it up to here with you. First you complain about the food, then it was the Ty Bach, and now it's a mouse, if you're so fussy you should have stayed at home.

Mrs. Bull

Come on, Jeremy, we don't have to be insulted by these country bumpkins.

Tom

Yes, go on, hop it guick, before I turn Carlo out.



Y ddou yn mynd a Tom yn gweiddi ar eu hôl nhw.

Tom

And next time you go on holiday, go to hell.



Marged yn llefen ar ganol y llawr.

Tom

Edrych 'ma, Marged, paid ti dechre 'to.

Marged

O, Tom, fi ddim wedi gweld chi fel hyn o'r blaen.

Tom

Marged, fi ddim wedi teimlo fel hyn o'r blaen. A gan bo fi yn oeri nawr, deallwch chi un peth, os dim rhagor o'r Bed and Breakfast i fod 'ma. Mae'r arwydd 'na i ddod lawr heno, os wyt ti am gario brecwast lan stâr i rhywun, ma well i ti gario fe lan i fi. A pheth arall ─ rwy'n mynd i dynnu y trap o dan y cwpwrdd yna achos mae'r hen lygoden yna wedi dod a gwaredigaeth i'r tŷ 'ma heno. Mae'n haeddu cael byw ta beth. (Tom yn tynnu y trap ar ei benlinie.)



Wil drws nesa yn dod nôl yn sydyn a gweld Tom ar ei linie.

Wil

Rarswyd mowr, beth ych chi yn neud yma heno, chwarae cwato. Os llygoden yn y trap te?

Tom

(Yn codi.) Nagoes, maen nhw yn chwilio gwell lle yma heno na mynd i drape.

Wil

O, wel, beth odd y car yna oedd yn mynd o 'ma jyst nawr.

Marged

O, o, ym, dynion dierth wedi colli ffordd yn te fe, Tom. (Yn neud llyged ar Tom.)

Tom

Ie, ma'n nhw wedi mynd ffordd reit nawr. Ddo'n nhw ddim nôl ffordd hyn rhagor.

Wil

Bachan, gynigoch chi ddim bed and breakfast iddyn nhw te?

Tom

Naddo, achan. Wel beth yw hanes Blodwen te?

Wil

O dou lo perta welest ti, un goch fenyw, a un gwryw du penwyn, a sen i wedi bod funud yn hwy fydde hi wedi bod yn rhy ddiweddar, cofia.

Tom

Ew, go lew achan. Marged! Marged!



Marged yn dod o'r cefn.

Marged

Ie, beth chi ise?

Tom

Glywoch chi? Dou lo gyda Blodwen. Un fenyw, a un gwryw.

Marged

O, neis iawn, wir. (Marged yn mynd o'r golwg.)

Tom

Beth wyt ti'n mynd i neud â nhw te?

Wil

O, gwerthu nhw, siŵr o fod, mart nesa, achos mae'n bwysicach i fi lawn bola y Bulk Tank na llanw bolie'r ddou 'na. Cofia, dwi ddim yn meddwl â'n nhw yn ddrud iawn achos mai twins y'n nhw.

Tom

Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te?

Wil

Bachan, beth sydd yn bod arno ti, dy'n nhw ddim ond wedi agor 'u llyged achan.

Tom

Wel, gwed bachan, faint ti moyn?

Wil

Wel dwi ddim wedi meddwl am y peth eto.

Tom

Wel, bachan, mae rhyw syniad gyda ti, bownd o fod. Gwed faint ti'n ddal bachan?

Wil

Wel, Twm bach, mae rhaid i fi weld nhw gynta cyn gallwn ni setlo dim.

Tom

Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i.

Wil

Bachan, newydd i rhoi e lan wyt ti.

Tom

Ie, na pam rwy i am dynnu e lawr cyn gwelith neb arall e, achos mae well i Marged a fi fagu lloi yn stabl na chadw lloi lan stâr. Marged, Marged!

Marged

Ie, beth chi ise eto, ddyn?

Tom

Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi.

Marged

Tom bach, mae'n ddeg o'r gloch. Allwch chi ddim sefyll hyd fory?

Tom

Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory?

Marged

Chi yn gweld eitha digon yn barod.

Tom

Dewch mlân nawr yn lle ymddantan o hyd. Cofia un peth, Wil, odd lloi yn eitha tsiep mart diwetha.

Wil

Ond cofia di un peth, mae buwch sbesial yn fam i'r rhain.

Tom

Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw.

Wil

Gwell byth yw hynny bachan.



Marged yn dod â cot a hat i Tom.

Tom

Beth ti'n siarad, bachan? Na, dwi ddim yn credu dim yn yr hen darw potel yna. Fi wastad yn gweud os wyt ti yn rhoi tarw i fuwch rho darw reit iddi, ti'n gwbod beth ti'n gael wedyn.

Marged

Dewch ymlaen nawr, gwisgwch ych cot yn lle siarad trwy'ch hat.

Wil

Reit, chi'n barod te.

Tom

Barod. Ew Marged, os pryna i y lloi yma gyda Wil, chi'n gwybod beth fi yn mynd i galw nhw?

Marged

O, dim syniad, Tom bach.

Tom

Jeremy a Patsy Bull.

Wil

Bachan, ble cest ti afael yn yr enw 'na?

Marged

(Yn cydio yn braich Wil.) Dere Wil, mae honna yn stori rhy hir heno.



Pawb yn mynd o'r golwg.

DIWEDD

Drama un-act