Owain Glyndwr

Cue-sheet for Marglee

(Gruffydd) A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad,
 
(1, 1) 74 Cusanwyd gruddiau Gwenfron!
(1, 1) 75 A wyddost ti gan bwy?
(Milwr 1) Ar f'einioes i! dyna waith da!
 
(1, 1) 79 Cusanwyd gruddiau Gwenfron!
(1, 1) 80 A wyddost ti gan bwy?
(Gwenfron) Gwn. Gan un a gwisg boneddwr yn ei gylch,
 
(Gwenfron) Yn cuddio dani adyn iselradd!
(1, 1) 83 A feiddi di?
(Gwenfron) Gan un a gwisg filwrol yn ei gylch,
 
(Gwenfron) Yn cuddio dani galon llwfrddyn tlawd.
(1, 1) 86 Y fiden!
(Gwenfron) Gan un a ddwg yr hyn nas gall ei enill.
 
(Gwenfron) Gan un a ddwg yr hyn nas gall ei enill.
(1, 1) 88 Dangosaf gallaf eto ddwyn ychwaneg!
(Gwenfron) Gan un sydd ddewr i fygwth dynes egwan,
 
(Gwenfron) Ond try yn ngwyneb dyn yn llwfrddyn truan.
(1, 1) 91 Mil fyrdd cythreuliaid! Raid im' oddef hyn!
(1, 1) 92 Buasai'n well it' gnoi dy dafod ffwrdd,
(1, 1) 93 Na rhoddi iddo'n ffyrnig gymaint rhaff!
(1, 1) 94 Rhaff roist i'th dafod a dy rwyma'n dyn
(1, 1) 95 I'm nwyd, os nad i'm serch. Ha! Gwenfron dlos,
(1, 1) 96 Cei ar dy wenfron heno ddal fy mhen,
(1, 1) 97 A'th lwyr fwynhau a wnaf mewn cariad wledd!
(Gwenfron) Help! help! O nefoedd dyner help!
 
(Llewelyn) Fileiniaid gwaedlyd! gollyngwch hi yn rhydd.
(1, 1) 102 Na, na, 'rhen wr! mae'n drysor llawn rhy werthfawr.
(Llewelyn) Gollwng fy merch yn rhydd, neu'n gelain y'th darawaf!
 
(1, 1) 118 Oes mae genym hawl
(1, 1) 119 Fel gweision Arglwydd Grey, ei wir berchenog!