|
|
|
|
(1, 0) 12 |
Hei! |
|
|
(1, 0) 14 |
Mae dy eisiau arnaf i. |
(1, 0) 15 |
Ble diflannaist ti ar ôl cinio? |
|
(Ifan) Dim ond lawr i'r sgwâr |
|
|
|
(Ifan) {Yn dod ymlaen ychydig.} |
(1, 0) 18 |
I'r sgwâr! |
(1, 0) 19 |
Beth wnait ti heb y sgwâr annuwiol yna? |
(1, 0) 20 |
'Rwyt wedi bod yn sefyll yno am dair neu bedair awr bob dydd ers pum mlynedd. |
(1, 0) 21 |
Ac fel pe na bait wedi gweld popeth sydd yno i'w weld gannoedd miloedd o weithiau, rhaid i ti redeg yno bob tro y cei di fy nghefn i o hyd. |
|
(Ifan) Ble arall y gallaf i fynd? |
|
|
|
(Ifan) {Yn dod at y bwrdd.} |
(1, 0) 25 |
Beth petawn i yn dechrau mynd i helpu dal i fyny cornelau'r sgwâr? |
(1, 0) 26 |
Beth petai gwragedd y dynion yna sy'n sefyll y rhan orau o'u hoes yno yn penderfynu cael sgwâr iddynt eu hunain i wastraffu'u hamser ynddi? |
|
(Ifan) O gad hi, Mari! |
|
|
|
(Ifan) {Yn cydio mewn papur newydd a'i agor.} |
(1, 0) 32 |
Nac arna innau chwaith! |
(1, 0) 33 |
Ond fe allaf ffeindio gwell gwaith i ti na sefyllian ar yr hewl fawr. |
(1, 0) 34 |
Mae 'nhad yn yr ardd yn ceisio priddo'r tato. |
(1, 0) 35 |
'Oes dim cywilydd arnat ti ei weld e wrthi, a thithau'n rhy ddiog i roi hyd yn oed help llaw iddo? |
|
(Ifan) Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely. |
|
|
|
(Ifan) Ond mae e'n hoffi'r gwaith; petawn i'n mynd allan i'w helpu, fe orffennem cyn te, a wedyn fe fyddai mor ddiflas â chi â chlefyd arno yn eistedd o flaen y tân fan hyn, yn ei disgwyl yn bryd mynd i'r gwely. |
(1, 0) 37 |
'Does fawr o berygl yr ei di'n ddiflas wrth weld gwaith yn cael ei orffen. |
(1, 0) 38 |
Na minnau chwaith! |
|
|
(1, 0) 40 |
Hwre, gorffen y sgidiau yma. |
(1, 0) 41 |
Mae eisiau mynd i orffen y llofft arnaf fi. |
|
(Ifan) Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma. |
|
|
|
(Ifan) Ond, Mari, 'rwyf eisiau gweld Wat y p'nawn yma. |
(1, 0) 43 |
Fe fydd yn ddigon clau i ti weld Wat p'nawn fory, a phetait ti heb ei weld e am chwe mis, 'fyddai hynny ddim colled i ti. |
(1, 0) 44 |
Hwre, sgidiau chi'r dynion ydyn nhw─sgidiau 'nhad i fynd i'r seiat nos yfory, dy sgidiau di wedi bod yn y rasis neithiwr, a sgidiau Gwilym─Duw a ŵyr ble buodd e! |
(1, 0) 45 |
Ond 'does dim pâr i mi yma─'dydw i ddim yn debyg o lychwino pâr wrth fynd i unman; hyd yn oed petai gen i bâr digon da i fynd. |
|
(Ifan) A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna? |
|
|
|
(Ifan) A wnei di ddal dy dafod os af fi ynghyd â'r sgidiau yna? |
(1, 0) 47 |
Na, wna i ddim dal fy nhafod. |
(1, 0) 48 |
'Rydw i wedi cael digon ar fy mherfedd ar geisio cadw tŷ i dri dyn─un yn rhy hen i weithio, un yn methu â chael gwaith─meddai fe... |
|
(Ifan) {Yn taflu'r esgid a oedd yn ei law i lawr.} |
|
|
|
(Ifan) Mae yma gannoedd yr un peth â mi─'rydw i'n cael y dôl, ond ydw i? |
(1, 0) 52 |
Wyt. |
(1, 0) 53 |
Ti sy'n ei gael fwyaf─ti a'r cŵn! |
|
(Ifan) Nawr, Mari. |
|
|
|
(Ifan) Oni enillais i goron yr wythnos cyn y diwetha? |
(1, 0) 58 |
A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha? |
|
(Ifan) Fe gaf rheini'n ôl i gyd nos yfory. |
|
|
|
(Ifan) {Yn cydio yu yr esgid eto.} |
(1, 0) 62 |
Petait ti'n gweld tipyn yn llai o Wat, fe fyddai'n bywyd ni yma gryn dipyn yn frasach. |
|
(Ifan) {Yn taflu'r esgid a chodi'n wyllt.} |
|
|
(1, 0) 67 |
le, cerdd, i ganol y rheps yna! |
(1, 0) 68 |
Dyna lle mae dy galon di nawr. |
(1, 0) 69 |
Beth ddwedai dy dad pe gwelai ei fab yn cymysgu â'r set sy'n byw ar rasis milgwn a rasis ceffylau─fe, fu'n eistedd yn sêt fawr y Tabernacl am ddeugain mlynedd! |
|
(Ifan) Beth gwell wyt ti o daflu hynny i'm hwyneb i o hyd? |
|
|
|
(Ifan) Petai gwaith yn dod i'r Cwm yma eto, fe wellai pethau ar unwaith... |
(1, 0) 72 |
Ac fe roddit heibio'r milgwn a mynd 'nôl i'r Tabernacl unwaith eto? |
(1, 0) 73 |
Gwyn fyd na ddigwyddai'r wyrth honno! |
(1, 0) 74 |
Wel, 'rwy'n mynd i'r llofft, 'chaf fi ddim dôl i 'nghadw i fynd nes digwydd y wyrth, ac os wyt ti am sgidiau glân, paid â mynd 'nôl i'r sgwâr cyn eu glanhau. |
|
(Ifan) Paid â siarad yn uchel. |
|
|
|
(Wat) Mae'n well gen i gadw milgi. |
(1, 0) 156 |
Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yma? |
(1, 0) 157 |
Gellid meddwl bod yma ddechrau diwygiad wrth glywed yr holl bregethu. |
|
(Wat) Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes. |
|
|
|
(Wat) Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes. |
(1, 0) 159 |
Rhyw sgêm newydd neu'i gilydd sut i wneud arian! |
(1, 0) 160 |
Neu'n i tebyg sut i gael ffyliaid i golli arian, ac Ifan i fod yn un o'r ffyliaid. |
|
(Wat) Os dilynith e fy nghyngor i... |
|
|
|
(Wat) Os dilynith e fy nghyngor i... |
(1, 0) 162 |
Os difynith e dy gyngor di, fe fydd arian y dôl i gyd ym moliau'r milgwn cyn i mi weld yr un ddimai ohonynt. |
(1, 0) 163 |
War |
|
|
(1, 0) 165 |
Nawr, nawr, Mrs. Hughes, fel pob menyw arall, 'dydych chi ddim yn gwybod beth yw |sport|. |
(1, 0) 166 |
Fe wn beth yw sport dy siort di'yn iawn. |
|
|
(1, 0) 170 |
Gwilym, beth wyt ti'n wneud adre nawr? |
|
(Gwilym) Dim ond newid. |
|
|
|
(Gwilym) O, 'oes crys glân i mi ar y llofft, mam? |
(1, 0) 174 |
Oes, yn y dodrefnyn. |
(1, 0) 175 |
Beth sy'n mynd â thi i Lanmorfa? |
|
(Gwilym) Dim ond dreifio Mrs, Hopkins i lawr... |
|
|
|
(Gwilym) 'Ydych chi wedi glanhau'n sgidiau i, 'nhad? |
(1, 0) 183 |
Fe'u glanhaf i nhw. |
(1, 0) 184 |
Cerdd o'r ffordd, Ifan. |
|
|
|
(Wat) Fe all dy feistres aros munud i ti. |
(1, 0) 192 |
Pa sgêm o waith yr hen fachgen sydd gan Wat heddiw? |
|
(Ifan) 'Wn i ddim. |
|
|
|
(Ifan) 'Wn i ddim. |
(1, 0) 194 |
'Ddwedi di ddim, wyt ti'n feddwl! |
(1, 0) 195 |
Os ydw i'n nabod rhywbeth o'r dyn yna, y mae'n mynd ar ei ben i drwbwl, ac os gallaf fi help, 'chaiff e ddim mynd â thi a Gwilym gydag e. |
|
(Ifan) Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari... |
|
|
|
(Ifan) Dim ond dychmygu pethau wyt ti, Mari... |
(1, 0) 197 |
Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw. |
|
(Ifan) 'Dydy e'n gwneud dim... |
|
|
|
(Ifan) 'Dydy e'n gwneud dim... |
(1, 0) 199 |
Mae e'n gallu dy dwyllo di, a llawer eraill hefyd, fel y myn. |
(1, 0) 200 |
Pesgi ar wendidau pobl sydd allan o waith! |
(1, 0) 201 |
Fe a'i sort─a Hopkins hefyd, o ran hynny. |
|
(Ifan) Paid â dweud dim am Hopkins... |
|
|
|
(Ifan) Paid â dweud dim am Hopkins... |
(1, 0) 203 |
O, fe wn bod Gwilym yn lwcus i gael job gydag e, a gwaith mor anioddefol o brin. |
(1, 0) 204 |
A dim ond Gwilym sy'n dod ag arian i'r tŷ... |
|
(Ifan) Beth am fy nôl i? |
|
|
|
(Ifan) Beth am fy nôl i? |
(1, 0) 206 |
le, a phensiwn tadcu! |
(1, 0) 207 |
Fe fyddwn lot yn frasach o'r ddau swm anferth yna, oni fuaswn?─yn ceisio cadw digon o fwyd i lanw boliau'r tri ohonoch a chael peth yn sbâr i minnau! |
(1, 0) 208 |
Ond petawn i'n gallu cael job gwell i Gwilym, fe gâi ymadael â Hopkins yfory. |
(1, 0) 209 |
I ddweud y gwir wrthyt, 'dydw i'n hoffi dim o'r ffordd y mae Mrs. Hopkins yn mynnu cael cwmni Gwilym ar unrhyw esgus. |
(1, 0) 210 |
'Dydy e ddim yn iawn i fenyw briod i redeg o amgylch gyda chrwt ifanc. |
|
(Ifan) 'Rwyt ti'n mynd ormod i'r pictiwrs, Mari─dyna beth sy'n bod arnat ti. |
|
|
|
(Ifan) Maen' nhw'n cynhyrfu dy ddychymyg di. |
(1, 0) 213 |
Pictiwrs neu beidio, 'thrystiwn i 'mo gwraig Hopkins rownd i'r cornel, petawn i yn ei le ' fe... |
(1, 0) 214 |
Ond wrth bob hanes, mae yntau yn gallu cysuro ei hunan yn burion. |
|
(Morfudd) A oes rhywun yma? |
|
|
|
(Morfudd) 'Dyw Gwilym ddim wedi dod adre eto, ydy e? |
(1, 0) 220 |
Mae e wedi mynd lawr yr hewl gyda Wat; fe ddaw 'nôl mewn munud. |
(1, 0) 221 |
Peth od na welaist ti nhw. |
|
(Morfudd) Mae e adre'n gynnar heddiw. |
|
|
|
(Morfudd) Mae e adre'n gynnar heddiw. |
(1, 0) 223 |
'Dydy e ddim wedi gorffen eto. |
(1, 0) 224 |
Rhaid iddo fynd i lawr i Lanmorfa─dim ond dod adre i newid wnaeth e. |
|
(Morfudd) I Lanmorfa? |
|
|
|
(Morfudd) I Lanmorfa? |
(1, 0) 226 |
Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins... |
|
(Morfudd) Ond 'roedd e wedi addo dod i chwarae tennis gen i heno. |
|
|
|
(Morfudd) Dyna i beth yr oeddwn i'n galw nawr─i ddweud bod Jim a Nansi yn dod i gwrdd â ni am chwech. |
(1, 0) 229 |
Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl. |
|
(Morfudd) Ond 'roeddem ni wedi trefnu tennis gogyfer â heno ers diwrnodau! |
|
|
|
(Morfudd) Ond 'roeddem ni wedi trefnu tennis gogyfer â heno ers diwrnodau! |
(1, 0) 231 |
Paid â meio i. |
(1, 0) 232 |
Fe gei siarad ag ef dy hunan pan ddaw i mewn. |
(1, 0) 233 |
Cerdd â'r sgidiau yma i'r gegin fach, Ifan, a cherdd i ddweud wrth tadcu ei bod yn well iddo roi'r gorau iddi am dipyn nawr. |
|
(Morfudd) Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos. |
|
|
|
(Morfudd) Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos. |
(1, 0) 236 |
Ni all Gwilym ei hosgoi yn dda iawn─rhaid iddo feddwl am ei job. |
(1, 0) 237 |
'Dydyn nhw ddim mor aml ffordd hyn nawr â mwyar duon yn yr hydref. |
|
(Morfudd) Nid am fod yn gi bach iddi hi mae e'n cael ei dalu; er mae'n ddigon posib bod Hopkins yn falch ei chadw hi'n gontented tra bo yntau'n chwilio mêl ffordd arall. |
|
|
|
(Gwilym) Fe all mam ddweud... |
(1, 0) 246 |
Cwerylwch eich hunain; 'rwy'n gorfod gwthio fy mhig i mewn i ddigon o gwerylon heb feddwl am ymyrryd yn eich rhai chi. |
(1, 0) 247 |
'Rwy'n mynd lan i'r llofft i roi digon o le i chi. |