| (1, 0) 5 | Peidwch chi rhoi y bai i gyd arna i. |
| (1, 0) 6 | Odd cyment o fai arnoch chi. |
| (John) A shwt wyt ti yn gallu gweud hynny? | |
| (John) Faint o waed sydd arna i? | |
| (1, 0) 12 | O, peidwch â ffysan. |
| (1, 0) 13 | Ma gyment o waed ar ych trwyn chi a sydd mewn gwmfedyn. |
| (1, 0) 14 | Ac wrth roi ych comands fel ych chi yn 'u galw nhw, roisoch chi y fi yn y cawl. |
| (John) {Yn rhoi plastar ar ei drwyn.} | |
| (John) Beth ti yn feddwl, fenyw? | |
| (1, 0) 17 | Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'. |
| (1, 0) 18 | Wedoch chi ddim i ble, na pwy ochr, a gofynes i ai i'r chwith, a ateboch chi "Right". |
| (John) {Yn gweiddi.} | |
| (John) Wel i'r "Right" o'n i yn feddwl achos p'un bynnag 'dodd unman i gael i droi i'r whith, fenyw dwp. | |
| (1, 0) 21 | Pidwch chi gweiddi arna i. |
| (1, 0) 22 | Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde", |
| (John) O, ca' dy geg, fenyw, wyt ti'n sylweddoli bod ni mewn trwbwl hyd yn llyged. | |
| (John) O, Martha, Martha, ni mewn trwbwl hyd 'yn llyged. | |
| (1, 0) 26 | Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout. |
| (1, 0) 27 | Ma ise rhywbeth i gadw fe yn y siop. |
| (1, 0) 28 | A ma'r postyn ffôn yna mewn lle twp. |
| (1, 0) 29 | Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John. |
| (John) Ma' mwy o hawl gyda Huws fod mas ar yr hewl, na sydd gyda chi i ddreifo fel maniac i dreio'i ladd e, a ma gyda nhw hawl i roi postys ffôn y lle mynna nhw. | |
| (John) O'n i wedi bod yn dreifo am bum mlynedd ar hugain heb un scrap a 'no claim bonus' trwy'r blynydde. | |
| (1, 0) 32 | O, peidwch siarad fel bapa, ddyn. |
| (1, 0) 33 | Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor. |
| (John) Wel, gobitho bod digon o geir gyda nhw. | |
| (John) Chi'n sylweddoli bod bobl yn cael jâl am bethe llai na hyn. | |
| (1, 0) 36 | Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth. |
| (1, 0) 40 | O'n i ddim yn meddwl 'i neud e. |
| (John) O, rwy'n gwbod hynny, Martha fach. | |
| (John) O, pam na fyddet ti wedi brêco. | |
| (1, 0) 43 | Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc. |
| (John) Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd. | |
| (1, 0) 68 | O, y... beth sydd wedi digwydd 'te? |
| (Harri) O, achos o 'hit and run'. | |
| (Harri) Dos gyda nhw ddim o'r beth ma'r sais yn i alw yn 'mental stability' fel ni y dynion. | |
| (1, 0) 82 | O, paid siarad trwy dy het. |
| (1, 0) 83 | Dw i ddim yn credu bod ti yn gwbod beth yw 'mental stability' i ddechre. |
| (Harri) Wrth gwrs bo' fi. | |
| (1, 0) 88 | O, John, mae Mari yn dod adre o'r coleg dros y Sul, a ma' hi yn dod â ffrind gyda hi. |
| (1, 0) 89 | O dier, odd rhaid iddi ddod heddi, a 'do's dim yn tŷ gen i ond ffish ffingers. |
| (Harri) O, paid becso. | |
| (Harri) Ma'n nhw wedi profi ers blynydde cyn gallu di fod yn |balanced lan top| ma rhaid i ti fyta |balanced diet| lawr fan hyn 'twel. | |
| (1, 0) 94 | Wel, ma' rhaid i fi fynd i baratoi. |
| (1, 0) 95 | Fyddan nhw yma cyn hir siŵr o fod. |
| (Harri) Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd. | |
| (Harri) Dim ond jôc fach, PC. | |
| (1, 0) 119 | O ca' dy lap, Harri. |
| (1, 0) 120 | Wel 'run man i chi gael gwbod y gwir ─ ni o'n nhw. |
| (1, 0) 121 | Fe banices i ac ath y car mas o gontrol a, wel, chi'n gwbod y rest. |
| (Harri) Jiw, Jiw. | |
| (John) O'n ni'n gwbod bod e'n olreit achos fe edryches i nôl trŵ y ffenest ôl a weles i e yn carlampo mewn i'r siop. | |
| (1, 0) 132 | A weda i beth arall wrtho chi. |
| (1, 0) 133 | Mae'r hen bolyn ffôn yna mewn lle peryglus. |
| (1, 0) 134 | Dele fe ddim bod fan yna. |
| (PC) Diolchwch chi, Mrs. Huws, bod e yna. | |
| (Harri) Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl. | |
| (1, 0) 164 | Harri, am beth wyt ti'n siarad? |
| (Harri) Mrs. Wilkins 'na sydd yn byw yn Terrace Road. | |
| (John) Ie, ond, Martha, 'do's gyda fi ddim i'w golli nawr. | |
| (1, 0) 184 | O, John, pidwch. |
| (1, 0) 185 | Meddyliwch beth all y canlyniade fod. |
| (John) Ma fe yn dod nôl, Martha, cer i'r cefn o'r golwg. | |
| (PC) ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn. | |
| (1, 0) 234 | O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe. |
| (1, 0) 235 | Edrych arno fe. |
| (1, 0) 236 | O, dewch mlan nawr, ma' popeth yn iawn. |
| (1, 0) 237 | 'Wedith John ddim gair wrth neb, ofala i am hynny. |
| (John) Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina. | |
| (1, 0) 243 | O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na. |
| (1, 0) 244 | Weloch chi ei olwg e. |
| (1, 0) 245 | Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto. |
| (John) Paid ti dechre cadw'i bart e. | |
| (Jên) Wel, mae hi bant yn tŷ ni heddi. | |
| (1, 0) 260 | Os rhywbeth yn bod 'te? |
| (Jên) O, cefen Dai wedi mynd eto. | |
| (Jên) O, cefen Dai wedi mynd eto. | |
| (1, 0) 262 | Wel, wel, os dim llawer ers pan fuodd i gefen e o'r blaen. |
| (1, 0) 263 | Wel, pryd aeth e nawr te? |
| (Jên) Neithiwr, a chredwch neu beidio, yn gwely ath e. | |
| (Jên) Neithiwr, a chredwch neu beidio, yn gwely ath e. | |
| (1, 0) 265 | Wel, wel, na beth od yntefe. |
| (Jên) Wel, chi'n gweld, fel hyn odd hi. | |
| (Jên) Hy, hy... ac wrth 'fod e yn estyn am y cordyn, cordyn y gole, fe aeth e, cloc felna, ─ nid y gole ond ei gefen e, a fuodd e mewn poen drwy'r nos. | |
| (1, 0) 280 | Wel, wel, mae'n rhaid iddo fe weld rhywun ynglŷn ag e nawr. |
| (Jên) Wel, rwy'i wedi ffono Dr. Jenkins a ma fe wedi addo galw mor gloi ag y gall e. | |
| (Jên) Chi'n meddwl allech chi sbario jwged fach? | |
| (1, 0) 284 | O, sefwch fanna, allwch chi gael peint gyda fi nawr, ma digon gyda fi heddi. |
| (1, 0) 294 | Wel, dyma'r llath i chi. |
| (1, 0) 295 | Odi peint yn ddigon, neu fe allwch chi gael rhagor? |
| (Jên) O, na, fydd e'n hen ddigon gyda'r peth sydd gyda fi. | |
| (1, 0) 303 | Rarswyd mawr, mae'n rhaid i fi baratoi. |
| (1, 0) 304 | Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd. |
| (John) Ond falle eith e i waedu, Martha. | |
| (John) Ond falle eith e i waedu, Martha. | |
| (1, 0) 306 | Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre. |
| (1, 0) 307 | Tynnwch e bant. |
| (John) {Yn ceisio gael e i ffwrdd gan bwyll, a gneud stumie ofnadw.} | |
| (John) Hei, ma'fe yn rhy sownd, Martha, ma' fe'n pinsho. | |
| (1, 0) 310 | Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych. |
| (1, 0) 311 | Dewch 'ma i fi weld. |
| (John) Dodd dim ise bod mor ryff â 'na, odd e? | |
| (1, 0) 316 | Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off. |
| (John) Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw. | |
| (John) Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw. | |
| (1, 0) 318 | Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen. |
| (John) O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr. | |
| (John) O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr. | |
| (1, 0) 322 | Helo. |
| (1, 0) 324 | John ─ ma'n nhw 'ma. |
| (Mari) O, helo, mam, shwt ych chi? | |
| (Mari) Roger ─ Mam. | |
| (1, 0) 331 | Helo, Roger, shwt ych chi. |
| (1, 0) 332 | Neis cwrdd â chi. |
| (Roger) O, helo, Mrs. Jones. | |
| (1, 0) 339 | O, dier, odi fe. |
| (Roger) Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws? | |
| (Roger) Ti yn nabod Uncle Bill ac Auntie Patsy, Mrs. Huws? | |
| (1, 0) 341 | O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso. |
| (Mari) Mam, dw i bownd o fynd lawr i'r Swyddfa Bost i moyn archeb bost i bosto y llythyr yma, achos ma' fe yn cau heddi am hanner dydd, on' dyw e? | |
| (Mari) Gyda llaw, ble mae dad, te? | |
| (1, 0) 345 | O, ma fe wedi mynd i'r bathrwm, fydd e lawr nawr. |
| (Mari) Reit, fydda i nôl cyn bo hir. | |
| (Roger) O, ta ta, Bubbles. | |
| (1, 0) 349 | Bubbles? |
| (Roger) Dyna yw pet name fi am Meri. | |
| (Roger) Dyna yw pet name fi am Meri. | |
| (1, 0) 351 | O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus. |
| (Roger) Ni pobl heddi yn eistedd gormod ar 'yn pen ole, Mrs. Huws. | |
| (1, 0) 355 | Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle? |
| (Roger) O, no, exserseisus yw rhain. | |
| (Roger) {Roger yn neud sgwat arall a John yn 'i weld e o'r tu ôl i ddrws y stâr.} | |
| (1, 0) 361 | O, John, dewch 'ma i chi gael cwrdd a ffrind Meri ni. |
| (1, 0) 362 | Roger, dyma John y gŵr. |
| (Roger) Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws. | |
| (Roger) Da iawn gyda fi gael cwrdd â ti, Mr Huws. | |
| (1, 0) 364 | Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John. |
| (John) O'n i'n meddwl bod e yn swno bach yn dywyll. | |
| (John) Neis cwrdd â chi. | |
| (1, 0) 368 | A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger. |
| (John) {Wedi cael sioc. Cwmpo y bibell o'i geg.} | |
| (John) Y... y... PC Thomas yn wncwl i chi. | |
| (1, 0) 371 | Odi, odi, wncwl iddo fe, John. |
| (John) Bachgen, bachgen, a fe yn wncwl i chi. | |
| (Roger) O odw, fi yn arfer pan o'n i'n small dod ar holidays ato Uncle Bill a Aunty Patsy bob blwyddyn. | |
| (1, 0) 375 | Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te? |
| (Roger) Ti gweld mae tad fi yn brawd iddo fe a mae tad fi yn Chief Constable yn Birmingham, a mae mam yn Saesnes o Birmingham. | |
| (John) United Nations, chi'n 'i chael hi? | |
| (1, 0) 383 | Byddwch dawel, bachan. |
| (1, 0) 384 | Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John. |
| (Roger) Pe bai mwy o pobl yn neud ecserseisus bob dydd bydde lot llai o pobl yn marw yn cwic o heart attacks a pethe felna. | |
| (Roger) Mae lot o dynion fel ti ar ôl dod i middle age yn gollwng 'u hunen i fynd yn fflabby. | |
| (1, 0) 394 | O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi. |
| (John) Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi? | |
| (John) Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi? | |
| (1, 0) 396 | O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'. |
| (John) Beth wyt ti'n feddwl odw i, cangarŵ? | |
| (Roger) Reit te, Mr. Huws, dewch i ti gael profi ych geirie, dewch i ti cael neud cwpwl bach o ecserseisus gyda fi. | |
| (1, 0) 401 | Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi. |
| (John) O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na. | |
| (John) O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na. | |
| (1, 0) 403 | Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed. |
| (Roger) Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws. | |
| (Roger) Ie, dewch, dewch i wneud cwpwl bach o pres-yps gyda fi ar y llawr, Mr. Huws. | |
| (1, 0) 407 | Dewch mlân nawr. |
| (1, 0) 408 | Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud. |
| (John) Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim. | |
| (Roger) Pwyso ar y breichie a wedyn i lawr ac i fyny, i lawr ac i fyny. | |
| (1, 0) 413 | Dewch ymlaen, bachan. |
| (Roger) I lawr ac i fyny, shwt wyt ti'n dod ymlaen, Mr. Huws? | |
| (John) Wel, rwy i wedi mynd lawr yn iawn ta beth. | |
| (1, 0) 418 | Nawr te, lan â ti. |
| (Roger) Ti'n tsheto nawr, Mr. Huws, dim pen ôl fod i dod lan o gwbwl. | |
| (Roger) Dyna shwt mae gneud pres-yps, ti'n gweld, Mr. Huws. | |
| (1, 0) 425 | Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff. |
| (Jên) O, John bach, os rhywbeth yn bod arnoch chi? | |
| (John) Na fi'n eitha reit, 'sen i'n cael llonydd. | |
| (1, 0) 432 | O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac... |
| (1, 0) 433 | O... ych chi, Jen, ddim wedi cwrdd a Roger wrth gwrs. |
| (1, 0) 434 | Roger dyma Mrs. Williams drws nesa. |
| (Roger) Neis i cwrdd â ti. | |
| (Jên) Mae e'n olygus iawn, ond yw e te? | |
| (1, 0) 439 | Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac mae'i dad e yn Brif Gwnstabl yn Birmingham a mae Roger wedi dysgu Cymraeg. |
| (1, 0) 440 | Saesnes yw ei fam e, chi'n gweld. |
| (Jên) O neis iawn. | |
| (Jên) O jyst yr un peth yn 'i ddwbwl o hyd, a fuodd Dr. Jenkins acw gynne fach ac mae fe am iddo fe fynd i gael X-Ray fory achos ma fe yn credu mai slipping discus sydd arno fe. | |
| (1, 0) 452 | O hen beth cas yw slip disc. |
| (1, 0) 453 | Rwy'n cofio cath 'yn chwaer i e blynydde 'nôl. |
| (1, 0) 454 | O, peth poenus ofnadŵ. |
| (Roger) Ti'n gwbod ─ lack of ecserseisus yn amal yn achosi slip discs oherwydd bod mysyls y cefen dim yn rhoi digon o syport i'r spine. | |
| (Jên) Ma digon o gurrens 'da fi, ond ma currens yn dueddol o hela Dai ni i redeg, a dyw Dai ni ddim mewn stâd i redeg i unman heddi yn enwedig lan stâr. | |
| (1, 0) 472 | O dewch 'ma, a i 'mofyn tipyn o sultanas i chi nawr, Jên. |
| (Jên) O, diolch, gewch chi nhw nôl bob un. | |
| (John) Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi. | |
| (1, 0) 497 | O, ti wedi dod 'te. |
| (Mari) Do, yn y diwedd, dim diwedd ar holi menyw y Post 'na. | |
| (1, 0) 504 | O, wel, fi ddim yn gwbod. |
| (John) Na, na, mae'n well i chi fynd lawr i'w gweld nhw... odi... | |
| (John) Achos, wel fi'n gwbod, a p'un bynnag fydda'i yn gorfod mynd mas cyn bo hir. | |
| (1, 0) 512 | Mas i ble, bachan? |
| (John) Wel... wel... mas, fenyw. | |
| (Mari) O'n i byth yn arfer cael edrych arno fe. | |
| (1, 0) 519 | O, dyw dy dad ddim yn ffysi am y car ers pan gath e bwmp ar y wing rhyw fis yn ôl yn erbyn clawdd. |
| (Mari) {Yn cydio yn llaw Roger.} | |
| (Mari) {Y ddau ar eu trâd yn barod i fynd.} | |
| (1, 0) 524 | O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl. |
| (John) Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl. | |
| (John) Weles i eriod shwd gawl. | |
| (1, 0) 530 | O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd. |
| (1, 0) 531 | Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati. |
| (Harri) Odi'r coast yn glir. | |
| (Harri) Lwcus i fi roi yr hint fach 'na i chi. | |
| (1, 0) 565 | O, Harri bach, weles i erioed shwd beth. |
| (1, 0) 566 | Dw i ddim yn credu alla i edrych yn i wyneb e byth eto. |
| (1, 0) 567 | Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma. |
| (John) Ti'n gweld, wyt ti ddim yn gwbod y cwbwl. | |
| (John) Wel maen nhw wedi cyrraedd a mae'r idiot yma sydd gyda hi yn nai i PC Thomas. | |
| (1, 0) 572 | O, paid gwrando ar John i gyd. |
| (1, 0) 573 | Mae e yn fachan neis iawn a gall neb help bod e yn digwydd perthyn i PC Thomas, a maen nhw wedi mynd lawr nawr i weld e a'i wraig yn 'yn car ni. |
| (Harri) Ho, ho... o... jiw, jiw... | |
| (1, 0) 591 | O, Harri, beth sydd wedi digwydd? |
| (Harri) {Mynd ato.} | |
| (Harri) Treia 'i gal e rownd. | |
| (1, 0) 600 | O, John, John bachan, dewch mlan. |
| (John) {Yn dechre dod at 'i hunan a siarad.} | |
| (Harri) Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr. | |
| (1, 0) 606 | O, John, dewch chi, chi wedi cael sioc ofnadŵ. |
| (1, 0) 607 | Bydd popeth yn iawn. |
| (Jên) Helo, fi sydd yma to. | |
| (Jên) O dier, beth sy'n bod yma? | |
| (1, 0) 613 | O, ni newydd cael newydd bod Mari a Roger wedi cael smash a roedd e'n ormod i John. |
| (1, 0) 614 | Gath e lewyg bach. |
| (Jên) Wel, wel, ma ddrwg gen i glywed. | |
| (Jên) Wel, wel, ma ddrwg gen i glywed. | |
| (1, 0) 616 | Gwed, wyt ti'n gwbod rhywbeth a o's rhywun wedi cael dolur? |
| (Emrys) Wel, 'sa i'n credu, o'n nhw i gyd yn gorfod mynd lawr i Swyddfa'r Heddlu nawr, ond odd y... y... Roger i'w weld yn gloff. | |
| (Harri) Gwisgwch got gloi. | |
| (1, 0) 626 | Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr? |