|
|
|
(Gwyn) Gwell i chwi gydio yn îy mraich i, Simon Jones. |
|
|
|
(Siencyn) Deuwch yn fy mraich i. |
(0, 1) 128 |
Na, cer di, Siencyn bach. |
(0, 1) 129 |
Deuaf fi ym mraich Marged Elen. |
|
(Siencyn) O'r gore. |
|
|
|
(Siencyn) {Yn mwmian canu rhyw hen Alaw Gymraeg.} |
(0, 1) 133 |
Siencyn! |
|
(Siencyn) Wel! |
|
|
|
(Siencyn) Wel! |
(0, 1) 135 |
Gofala di, nawr. |
(0, 1) 136 |
Gwrando di beth yr wyf fi yn ddweud wrthot tì. |
(0, 1) 137 |
Paid ti a gadael iddynt i gael eu ffordd yn y cyfarfod heno. |
(0, 1) 138 |
Gormod o'u ffordd mae y tacle brwnt wedi ei gael. |
|
(Siencyn) O'r gore. |
|
|
|
(Siencyn) O'r gore, Martha fach, gewch chwi siarad â hwynt. |
(0, 1) 141 |
Ie, a mi siarada i hefyd, gallant fentro. |
(0, 1) 142 |
'Does dim un côr i fyned oddiyma i Gaerdydd {gellir newid hwn drwy y gomedi am y lle y cynbelir yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf} os nad wyt ti'n cael arwain. |
(0, 1) 143 |
Neu bydd yma 'randibw' i gael. |
|
(Marged Elen) Mam fach, pa eisiau cweryla yng nghylch yr hen gorau sydd. |
|
|
|
(Marged Elen) Gadewch lonydd i bethau. |
(0, 1) 146 |
Llonydd, yn wir! |
(0, 1) 147 |
Be ti'n whalu groten? |
(0, 1) 148 |
Dy dad wedi slafio fel hyn, a hynny cyn dy eni di, wrth yr hen ganu yma, a dyma'r parch y mae'n gael eto. |
(0, 1) 149 |
Codi'r hen "split" yna a sbwylio côr dy dad. |
(0, 1) 150 |
Cywilydd iddynt. |
|
(Siencyn) O'r gore. |
|
|
|
(Siencyn) Dyma ni wrth yr adeilad. |
(0, 1) 155 |
Ie, a gofala di na bo ti yn rhoi dy hunan yn glwtyn llestri yn eu llaw hwynt. |
(0, 1) 156 |
Sych dy wyneb cyn myned i fewn. |
(0, 1) 157 |
'Does dim eisiau i bawb wybod mai bwdran gest ti i swper. |
(0, 1) 158 |
Mentraf fi y bydd yr hen Delorydd bach yna yn ei 'guffs' a'i goler yn 'spic a span.' |
|
(Siencyn) Bydd, efallai'n wir. |
|
|
|
(Siencyn) Mae e'n ifanc. |
(0, 1) 161 |
Ie, a'r hen groten Priscila yna. |
(0, 1) 162 |
Mae'n gas gen i ei chlywed. |
(0, 1) 163 |
Wedi bod am chwe mis yn Llundain yn gwerthn calico, ac wedi anghofio'i Chymraeg. |
(0, 1) 164 |
Ych y fi! |