|
|
|
|
(1, 0) 14 |
Ellen. |
|
(Ellen) Martha─wrth dy hunan? |
|
|
|
(Ellen) Martha─wrth dy hunan? |
(1, 0) 16 |
Na, ma nhw lan llofft, yn partoi. |
|
(Ellen) Partoi ar gyfar beth? |
|
|
|
(Ellen) Partoi ar gyfar beth? |
(1, 0) 18 |
Ma William yn mynd i'r seiat. |
|
(Ellen) Oti, fe-ginta. |
|
|
|
(Ellen) Oti, fe-ginta. |
(1, 0) 20 |
A ma Miriam yn mynd i'r "pictures." |
|
(Ellen) Hm─a John? |
|
|
|
(Ellen) Hm─a John? |
(1, 0) 22 |
Wn-i ddim yn gwmws ble ma John yn mynd. |
|
(Ellen) {Yn eistedd.} |
|
|
(1, 0) 26 |
Dim ond roi tro i'n gweld ni, 'llwn feddwl. |
|
(Ellen) Rwy'n gneud 'ny yn ddicon amal. |
|
|
|
(Ellen) Wyddast-ti pwy ddydd o'r mish yw hi heddy? |
(1, 0) 29 |
Gwn; y wechad ar ucian o Fai. |
|
(Ellen) Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai? |
|
|
|
(Ellen) Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai? |
(1, 0) 31 |
Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna. |
|
(Ellen) 'Rwyt ti'n dawal iawn yn i gylch-a; dyma ddydd dy |silver wedding| di. |
|
|
|
(Ellen) 'Dwyt ti ddim yn meddwl gneud rwpath? |
(1, 0) 34 |
Otw, bid siwr. |
|
|
(1, 0) 36 |
'Rwy wedi gneud nhw. |
|
|
(1, 0) 38 |
Wel di? |
|
|
|
(Ellen) Ar gyfar pen blwydd y byddwn-ni'n gneud ffrois. |
(1, 0) 42 |
Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a? |
|
(Ellen) Falla 'i fod-a, ond fe ddylsat gâl parti a gw'a'dd rai o'r cymdocion. |
|
|
|
(Ellen) Tapun, fe alla rh'wun feddwl y bysat-ti yn gofyn i dy unig whar. |
(1, 0) 45 |
Ellen fach, on-ni'n meddwl dim drwg. |
(1, 0) 46 |
Fe wyddast o'r gora nag wy-i byth am ryw lawar o |fuss|, a 'dos dim isha i fi wed fod croeso calon i ti ddod 'ma heno. |
|
(Ellen) Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti? |
|
|
|
(Ellen) Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti? |
(1, 0) 48 |
'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─ |
|
(Ellen) Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─ |
|
|
|
(Ellen) Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─ |
(1, 0) 50 |
Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William. |
|
(Ellen) O'r gora, ond fe weta gymant a hyn. |
|
|
|
(Ellen) Allsa Robert feddwl am ddim am wthnosa cyn i'r dwarnod ddod, a fe wyddast shwt |silver wedding| geson ni. |
(1, 0) 53 |
Do, fe gesoch-chi |silver wedding| hyfryd. |
|
(Ellen) Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano? |
|
|
|
(Ellen) Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano? |
(1, 0) 55 |
Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod. |
|
(Ellen) Wel, rhyw deulu ryfadd ych-chi 'ma. |
|
|
|
(Ellen) A fe fydd raid i ti wed wrthyn nhw i gyd 'ma heno mai dyma dy |silver wedding| di. |
(1, 0) 58 |
Bydd wrth gwrs 'ny, ond 'rwy'n bwriatu câl ticyn o ddifyrrwch gita nhw cyn gwed. |
|
(Ellen) {Yn syllu arni.} |
|
|
(1, 0) 64 |
Mwy na thepyg y gall hi ngweld i. |
|
(Ellen) {Hytrach yn gyffrous.} |
|
|
(1, 0) 68 |
Pam lai! |
(1, 0) 69 |
Ond 'dwy-i ddim yn cofio i mam ariod gâl silver wedding. |
|
(Ellen) Naddo; 'rodd hi rhy depyg i ti, neu wyt ti'n rhy depyg iddi hi. |
|
|
(1, 0) 72 |
Ag 'rwyt ti'n cretu mod i'n depyg i mam? |
|
(Ellen) Yn fwy tebyg iddi bob dydd, 'nenwetig nawr, a dy wallt yn gwynnu, a'r rhygna 'na ar dy ruddia di. |
|
|
|
(Ellen) Rwyt ti'n symud 'run fath a hi, yn gneud petha yn gwmws fel odd hi'n arfadd gneud. |
(1, 0) 76 |
Fydda-i byth yn depyg i mam. |
(1, 0) 77 |
Menyw dda iawn odd mam. |
|
(Ellen) Yr ora fu ar y ddaear 'ma ariod. |
|
|
|
(Ellen) All hi ddim bod yn folon iawn. |
(1, 0) 81 |
Pam? |
|
(Ellen) Wel fi sydd wedi câl y lwc i gyd. |
|
|
|
(Ellen) Dwyt-ti ddim ond pump a deugan, 'rwy inna'n hannar cant, a nid o ran y mod i yn 'i wed-a, ond chretsa neb wrth yn golwg ni, mai ti yw'r ienga. |
(1, 0) 87 |
'Rwy'n falch iawn mod i'n fam i blant, a 'rwy wedi gofitio lawar na fysat titha─ |
|
(Ellen) {Yn bruddaidd.} |
|
|
|
(Ellen) Pan on-i'n ifanc, a'r rhai bach am ddod ato-i, 'dodd gen-i gynnyg meddwl am danyn-nhw, ond nawr,─falla ma rhyw farn sy arno-i─pan fydda-i'n cysgu, ag amball waith pan fydda-i ar ddihun, 'rwy fel t'swn-i'n teimlo dwylo bach ar y 'ngwynab-i, a thro arall, fe 'llwn dystio mod i'n clwad plant yn llefan─y rhai bach wrthotas i pan o'n i'n ifanc. |
(1, 0) 91 |
Rwyt ti'n wilia'n ryfadd iawn heno, Ellen. |
|
(Ellen) {Yn ysgwyd ei phen.} |
|
|
|
(Ellen) Beth sy gent-ti yn dy gylch heno─nid hen ffetog mam yw honna, iefa? |
(1, 0) 96 |
Ia, cystlad ag ariod. |
|
(Ellen) {Yn manylu ar ei gŵn.} |
|
|
|
(Ellen) A beth yw hon─nid dyma dy ddress briotas di! |
(1, 0) 99 |
Ia. |
|
(Ellen) Pwy altrodd hi i ti? |
|
|
|
(Ellen) Pwy altrodd hi i ti? |
(1, 0) 101 |
Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni. |
|
(Ellen) A 'rwy'n câl dod 'ma heno? |
|
|
|
(Ellen) A 'rwy'n câl dod 'ma heno? |
(1, 0) 103 |
Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd? |
|
(Ellen) Na, gorfod iddo fa fynd sha Chardydd y p'nawn'ma. |
|
|
|
(Ellen) Wyt-ti wedi cynnu tân yn y rwm genol─oti ddi'n barod gen-ti? |
(1, 0) 106 |
Yn barod i beth? |
|
(Ellen) I'r swpar heno, bid siwr. |
|
|
|
(Ellen) I'r swpar heno, bid siwr. |
(1, 0) 108 |
'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol. |
|
(Ellen) Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin? |
|
|
|
(Ellen) Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin? |
(1, 0) 110 |
Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd. |
|
(Ellen) Y ti wyt ti, a ti fyddi di! |
|
|
|
(Ellen) Beth ga-i ddod yn bresant i ti? |
(1, 0) 113 |
'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen. |
|
(Ellen) Raid i ti gâl rwpath. |
|
|
(1, 0) 117 |
Ma gen-ti rai petha adews mam i ti, fe fysa'n dda gen-i gâl un o rheiny. |
|
(Ellen) {Yn crychu ei thalcen.} |
|
|
|
(Ellen) Ia. |
(1, 0) 120 |
Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─ |
|
(Ellen) O─chai di ddim o'r llestri. |
|
|
|
(Ellen) Chymswn i ddim can punt am rheina. |
(1, 0) 123 |
A dyna'r ddou gi |china| sy gen-ti ar y mamplis. |
|
(Ellen) Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti. |
|
|
|
(Ellen) Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti. |
(1, 0) 125 |
Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i. |
|
(Ellen) O'r gora, fe ddwa-i â'r cŵn gen i heno. |
|
|
|
(John) O─o'r gora. |
(1, 0) 144 |
Beth wyt ti'n mynd i neud nawr? |
(1, 0) 145 |
Cofia, 'dwy-i ddim am unrhyw |fuss|. |
|
(Ellen) {Yn dod oddiwrth y grisiau.} |
|
|
|
(Ellen) Gofala na chaiff William fynd i'r seiat heno acha noswath fel hon. |
(1, 0) 150 |
Fe allsa dyn neud llawar i wath peth. |
|
(Ellen) O, dyna ti eto─ |
|
|
(1, 0) 155 |
Nawr Ellen, 'dwy-i ddim am i ti wed gair wrth William; gad-ti hynna i fi. |
|
(Ellen) Fel mynnot-ti. |
|
|
|
(William) Oti-ddi wedi mynd? |
(1, 0) 163 |
Oti. |
|
(William) {Yn disgyn.} |
|
|
|
(William) Fyswn-i wedi dod lawr ond {braidd yn sarhaus} allswn-i ddim dod o hyd i'm |dressing-gown|. |
(1, 0) 166 |
Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen? |
|
(William) Beth wetas-i'n gas? |
|
|
|
(William) {Yn gwenu.} |
(1, 0) 169 |
Ma Robert yn gwishgo |dressing-gown|, 'rwy'n cyfadda─ond ma fa ar y |Council|, ag yn |J.P.|, a os na all |J.P.| wishgo |dressing-gown|, ma hi wedi mynd! |
|
(William) {Yn sylwi ar MARTHA.} |
|
|
|
(William) Otych-chi'n mynd mas? |
(1, 0) 172 |
Nagw-i─pam? |
|
(William) {Yn syllu'n famwl.} |
|
|
|
(Miriam) Mam, ble ma'm |blouse| las i? |
(1, 0) 177 |
Ble gadewast ti ddi ddwetha? |
|
(Miriam) O─dyw-hi ddim man'ny nawr. |
|
|
|
(William) Wyr y grotan 'na byth ble ma hi'n gatal dim byd. |
(1, 0) 180 |
Fe'i dotas hi yn y dror cenol. |
|
(William) {Yn edrych ar y cloc.} |
|
|
|
(William) Ble ma'n scitsha-i, otyn nhw'n lân? |
(1, 0) 184 |
Otyn, ma nhw man'na o dan y sciw. |
|
(John) {Oddiuchod.} |
|
|
|
(John) Mam, ble ma'r colar odd gen i dwetydd ddo? |
(1, 0) 187 |
Yn y golch; cymar un glan. |
|
(William) 'Rych-chi wedi bratu'r hen blant 'na, Martha. |
|
|
|
(William) Dos 'ma ddim i'w glwad o fora tan nos ond "Mam, ble ma'r peth hyn?" a "Mam, ble ma'r peth arall?" |
(1, 0) 190 |
Falla mod i yn wir. |
|
(William) {Yn chwilio.} |
|
|
|
(William) Nawr, ble ma'n spectol i? |
(1, 0) 193 |
Fe'i gadawsoch hi ar ffenast y sculeri; dyna 'i ar y ford fach. |
|
(William) {Yn clymu carrai ei esgidiau.} |
|
|
|
(William) Seiat bwysig iawn─'dych chi ddim yn dod? |
(1, 0) 197 |
Na, ddim heno, William. |
|
(William) 'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha. |
|
|
|
(William) 'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha. |
(1, 0) 199 |
Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd. |
|
(William) Henant, 'llwn feddwl, henant. |
|
|
|
(William) Dyna hi eto! |
(1, 0) 204 |
Ia. |
|
(Miriam) Symudsoch-chi riban y ngwallt-i rwla? |
|
|
|
(William) Shwt gall dyn feddwl a thrio cofio, a thitha'n gwiddi bob yn ail funad. |
(1, 0) 208 |
Fe'i gadewast a yn y gecin nithwr gita'r cripa. |
(1, 0) 209 |
Ma nhw lawr 'ma. |
|
(William) Nawr, dyna bapur aelotath morwn Mrs. Morgan. |
|
|
|
(William) Rwy'n cretu i fi ddoti-a yn y llyfyr hymna. |
(1, 0) 213 |
Fe'i gadawsoch-a ar y ford nos Fawrth. |
(1, 0) 214 |
Ma-fa o dan y canhwyllharn bach nawr. |
|
(Miriam) {Yn troi yn chwym oddiwrth y drych.} |
|
|
|
(Miriam) O─a ble 'r ych chi'n mynd? |
(1, 0) 219 |
'Dwy-i ddim yn mynd i unman. |
|
(Miriam) 'Rych-chi'n |smart| iawn heno. |
|
|
|
(Miriam) 'Dwy-i ddim wedi gweld hon gita chi o'r blan. |
(1, 0) 225 |
Fe gysgast lawar i awr ar honna pan ot ti'n fabi. |
|
(William) A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant. |
|
|
|
(William) A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant. |
(1, 0) 227 |
Yn y Beibl mawr ar y ffenast rhwng Matthew a Marc. |
|
(Miriam) Dress newydd hefyd. |
|
|
|
(Miriam) Dyma wlanen hyfryd, ble prynsoch-chi ddi? |
(1, 0) 230 |
'Dyw hi ddim yn newydd iawn. |
(1, 0) 231 |
William, otych-chi'n napod hon? |
|
(William) 'Dos gen-i ddim amsar i farnu dresses nawr. |
|
|
(1, 0) 236 |
O, ma-hi gen-i ers cetyn. |
|
(Miriam) On-ni'n mynd i ofyn i chi am bin gwallt. |
|
|
|
(Miriam) Os un gita chi? |
(1, 0) 240 |
Os, cymar un o'r ochor arall. |
|
(William) Alli-di ddim gatal dy fam yn llonydd? |
|
|
|
(John) Ble ma'n scitsha i? |
(1, 0) 246 |
Fe'u helas nhw sha'r crydd. |
(1, 0) 247 |
Ma un o nhw'n gillwng dŵr, nag-os-a? |
|
(John) Dim felny. |
|
|
|
(John) Dim felny. |
(1, 0) 249 |
Gwishg dy scitsha Sul. |
|
(John) {Yn parhau edrych arni.} |
|
|
|
(John) Mynd i'r capal? |
(1, 0) 252 |
Nagw. |
|
(John) Mynd mas ta? |
|
|
|
(John) Mynd mas ta? |
(1, 0) 254 |
Nagw-i. |
|
(John) Ma ticyn odwtsh yndo chi heno, nagos-a? |
|
|
|
(John) Helo! |
(1, 0) 267 |
Beth sy'n bod? |
|
(John) 'Rwy'n gallu gwynto─'rwy'n gallu gwynto ffrois. |
|
|
(1, 0) 274 |
Falla fod Mrs. Jones drws nesa yn gneud ffrois. |
|
(William) Martha, fe wyddoch o'r gora fod cystlad gen i weld platad o ffrois at y ford a dim. |
|
|
|
(William) A pheth arall, ma hi'n siwr o fod yn bryd i rywun gâl pen 'i flwydd yn y tŷ 'ma! |
(1, 0) 277 |
O, fe gewch rai, cyn hir. |
|
(William) {Yn sbio ar ei goesau.} |
|
|
|
(William) Ar bost y gwely y ceso-i a. |
(1, 0) 283 |
Ryfadd iawn, ontefa? |
|
(William) {Yn edrych yn ddrwgdybus.} |
|
|
|
(William) Beth gynllwn sy'n bod 'ma heno? |
(1, 0) 287 |
Dim byd. |
|
(William) Odd y trwsis hyn ddim ar bost y gwely y bora ma. |
|
|
|
(William) A mwy na hynny, odd y petha hyn yn yn nrwsis dwetydd i ddo. |
(1, 0) 291 |
Wel─wel ma'ch dillad dwetydd chi dicyn yn gomon nawr, a'rwy wedi bod yn cisho 'u gwella nhw. |
|
(Miriam) A 'dos dim isha i chi fod yn fwy comon na'r aelota erill, John Harris a Shencin Jones. |
|
|
|
(William) Na 'na. |
(1, 0) 299 |
Wy-i am i chi wishgo rhain heno. |
|
(William) Wel, pam? |
|
|
(1, 0) 302 |
Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd. |
|
(William) Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno. |
|
|
|
(William) Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno. |
(1, 0) 306 |
Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal. |
(1, 0) 307 |
Ma hi'n mynd i Dreforgan yfory, a fe foddlonws fynd a pharsal i Annie dy whar. |
|
(William) Ho─parsal arall! |
|
|
|
(William) Ho─parsal arall! |
(1, 0) 309 |
'Dych-chi ddim yn folon William? |
(1, 0) 310 |
I'ch merch chi'ch hunan ma fa, neu i'r rhai bach, ta-pun. |
|
(William) Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant. |
|
|
|
(William) Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant. |
(1, 0) 312 |
Pitwch a wilia mor ffol. |
|
(William) Welas-i ariod o'ch tepyg chi, Martha. |
|
|
|
(John) Ble ma'r sâm gwydd? |
(1, 0) 322 |
Dos dim isha i ti wherthin ar ben gwlanen goch a sâm gwydd; fe achubson dy fywyd di unwaith, ondofa William? |
|
(William) Do, am wn-i'n wir. |
|
|
|
(William) Do, am wn-i'n wir. |
(1, 0) 324 |
Do fa, do, ama babi bach Annie yn peswch a pheswch a 'dyw'r doctor yn gneud dim lles iddo fa. |
|
(John) {Yn gafaelyd yn y napcyn ffrois.} |
|
|
(1, 0) 328 |
Wath i ti beth sy yndo fa. |
|
|
(1, 0) 330 |
Ma 'na flouse glân i ti yn y rwm genol. |
|
(Miriam) Rwy wedi gwishgo hwn nawr; ma-fa'n itha glân. |
|
|
|
(Miriam) Rwy wedi gwishgo hwn nawr; ma-fa'n itha glân. |
(1, 0) 332 |
Wyddast-ti yn y byd pwy gwrddi di yn nhŷ dy fotryb. |
(1, 0) 333 |
Newid-a. |
|
|
(1, 0) 336 |
Titha, John, wy-i am i ti fynd â rhain i'r post. |
|
(William) {Wrth weld y dillad.} |
|
|
|
(William) Nawr, Martha, fe addawsoch y tro dwetha y celsa Gomar hela'i ddillad i'r golch yn Aberystwyth fel rhyw fachgan arall. |
(1, 0) 339 |
'Dyw'r landris 'na ddim yn crasu'r dillad fel y dylsan-nhw. |
|
|
(1, 0) 341 |
Dewch, scrifennwch |address| ar hwnna. |
|
(William) Pryd smwddsoch-chi rheina? |
|
|
|
(William) Pryd smwddsoch-chi rheina? |
(1, 0) 343 |
Pwy waniath pryd? |
(1, 0) 344 |
Ma nhw'n barod nawr. |
|
(William) Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny. |
|
|
|
(William) Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny. |
(1, 0) 346 |
Wel, odd rhaid 'i gneud nhw, ond odd-a? |
|
(William) {Yn sgrifennu.} |
|
|
(1, 0) 353 |
Da ti gad betha'n llonydd. |
|
|
(1, 0) 355 |
Nid dyma'r crys gest-ti yn y drôr gwilod. |
|
(John) Ia. |
|
|
|
(John) Ia. |
(1, 0) 357 |
Wyt ti'n siwr? |
(1, 0) 358 |
Dangos y llawas i fi. |
|
|
(1, 0) 360 |
Ia, dyna fe. |
|
(William) A dyma fi'n bratu'm hamsar man hyn pan y dylswn-i fod ar y ffordd i'r capal. |
|
|
|
(William) Beth odd hwnnw? |
(1, 0) 370 |
Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol. |
|
(William) O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i. |
|
|
|
(William) O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i. |
(1, 0) 372 |
Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with. |
|
(William) {Â'r papur yn ei law.} |
|
|
(1, 0) 380 |
Rych chi'n weddol iawn. |
|
(William) {Yn troi at y tân i gynneu ei bibell.} |
|
|
|
(William) Fe ddylswn fod, 'rwy wedi bod o dan y driniath am rai blynydda nawr. |
(1, 0) 385 |
Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd. |
|
|
(1, 0) 387 |
Beth sy'n bod, William? |
|
(William) {Yn ei lywodraethu es hun.} |
|
|
|
(William) Pam ych-chi'n gwishgo honna heno? |
(1, 0) 392 |
Gwell i fi 'i gwisgho hi na gatal i'r pryfad 'i byta hi. |
|
(John) {Yn parhau i syllu.} |
|
|
(1, 0) 396 |
la. |
|
(John) Sefwch 'n ol dicyn bach. |
|
|
|
(John) Dyna fe. |
(1, 0) 400 |
Beth sy'n bod? |
|
(John) {Gydag argyhoeddiad.} |
|
|
|
(Miriam) Dyna hyfryd ych chi'n dishgwl yn hen shôl mamgu! |
(1, 0) 410 |
Beth sy arnoch chi bobun? |
|
|
(1, 0) 412 |
Rhowch lonydd i fi. |
|
(William) {Yn lleddf a charedig.} |
|
|
|
(William) Dim ond hannar gair, ym merch-i, a fe arhosa i yn y tŷ gita chi. |
(1, 0) 416 |
Na, na, wy'n teimlo o'r gora. |
(1, 0) 417 |
Cerwch chi i'r capal. |
|
(Miriam) Ble ma'r parsal 'na? |
|
|
|
(William) Wn-i beth wetan-nhw yn y seiat pan welan-nhw fi yn y nillad gora acha nos Iou. |
(1, 0) 424 |
Wetan-nhw ddim byd. |
(1, 0) 425 |
Fe gretan ych bod chi wedi bod mewn ryw anglodd. |
|
(John) {Yn gellweirus.} |
|
|
|
(John) Beth yw-a? |
(1, 0) 434 |
Der di 'nol ar ol bod yn nhŷ dy fotryb: gai di weld wed'ny. |
|
(John) Wy am wpod nawr. |
|
|
(1, 0) 437 |
Na, ddim nawr. |
|
(John) {Yn mynd allan.} |
|
|
|
(William) Pwy sy'n câl 'i ben blwydd heddy? |
(1, 0) 449 |
Allwch-chi ddim meddwl, William? |
|
(William) Fe ddylswn fod yn gwpod hefyd. |
|
|
|
(William) Nid John, na ma John ym mish Hytra. |
(1, 0) 452 |
Na─nid John. |
|
(William) Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam? |
|
|
|
(William) Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam? |
(1, 0) 454 |
Nid Annie na Miriam. |
|
(William) Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill. |
|
|
|
(William) Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill. |
(1, 0) 456 |
Ia. |
|
(William) {Yn wyllt.} |
|
|
(1, 0) 462 |
Otych, William, 'rych chi ym mish Awst. |
|
(William) Wel, 'dos 'ma neb arall. |
|
|
|
(William) Penblwydd pwy yw-a? |
(1, 0) 466 |
Penblwydd hon, William. |
(1, 0) 467 |
Bum mlynadd ar ucian i heddy fe ddodsoch y fotrw 'na ar ym mys i. |
|
(William) {Braidd yn gloff.} |
|
|
|
(William) A dyma'n─dyma'n |silver wedding| ni, iefa? |
(1, 0) 472 |
Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc. |
|
(William) {Wedi colli ei lais arferol, rywfodd.} |
|
|
|
(William) Fysa dim llawar─fysa dim llawar─i chi─i chi─ |
(1, 0) 476 |
I fi wed rwpath, William? |
|
(William) Na, nid felna chwaith. |
|
|
(1, 0) 480 |
Dyna, dyna─on-i ddim yn meddwl rhoi teimlad i chi. |
(1, 0) 481 |
Dych chi byth yn meddwl am betha felna, 'rwy'n gwpod. |
|
(William) Na, fysa'n fawr i fi gofio! |
|
|
|
(William) Na, fysa'n fawr i fi gofio! |
(1, 0) 484 |
Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi. |
|
(William) Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl. |
|
|
|
(William) Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl. |
(1, 0) 487 |
Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William. |
|
(William) Odd John yn itha iawn; dodd dim glanach crotan na chi yn y cymdogaetha. |
|
|
|
(William) A fe ddetho-i â chi o genol y wlad, oddiwrth y dolydd a'r caea, i fwg a lluwch du y cwm hyn. |
(1, 0) 490 |
Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo. |
|
(William) Ia, pum mlynadd ar ucian. |
|
|
|
(William) A dyna hi! |
(1, 0) 495 |
Ia, dyma hi. |
|
(William) 'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio. |
|
|
|
(William) 'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio. |
(1, 0) 497 |
Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio. |
|
(William) Tswn i wedi meddwl, fe fysa gen-i ryw bresant bach i chi. |
|
|
(1, 0) 500 |
'Dos gen i ddim un presant i chi, a 'dwy inna ddim yn disgwl presant oddiwrtho chitha. |
|
(William) Fe rows Robert lestri arian i Ellen. |
|
|
|
(William) Fe rows Robert lestri arian i Ellen. |
(1, 0) 502 |
Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth. |
|
(William) Nagyn, 'dyn ni ddim yr un peth. |
|
|
|
(William) Ma'ch bocha chi'n welw nawr, ych gwallt yn britho, ych llyced chi'n pylu, a welwch chi'r rhygna 'na sy ar ych gruddia chi─dyna ôl y ddylad sy arnon-ni i chi, y fi a'r plant. |
(1, 0) 506 |
Beth am y creitha glo sy ar ych gwynab chitha, y cymala poenus, a'r peswch aiff â chi i'r bedd yng nghynt na phryd? |
(1, 0) 507 |
Lawr yn y pwll glo y cesoch chi rheina, wrth gisho ennill tamad i ni, i'r plant a fi. |
(1, 0) 508 |
Na William, 'dos dim raid i'n bath ni i brynu presants i'n gilydd. |
|
(Miriam) Mam fach, pam na fysach chi'n gwed rwpath? |
|
|
(1, 0) 515 |
Os, John, paid roi cusan i fi nawr─heno─cyn 'rai di i'r gwely. |
|
(William) {Wrth weled ELLEN.} |
|
|
(1, 0) 531 |
Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul? |
|
(William) Gadewch nhw fod tu cefan i'r cloc. |
|
|
|
(Ellen) On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno. |
(1, 0) 540 |
Wyt ti'n garetig iawn, Ellen. |
|
(William) {Yn dod â'r ffrois i'r bwrdd.} |
|
|
|
(William) Dewch ymlan, dewch ymlan. |
(1, 0) 543 |
Arhoswch i fi gâl plat arall. |
|
(Ellen) {Yn cymryd un o'r fasged.} |
|
|
|
(Ellen) Beth wyt-ti'n whilo? |
(1, 0) 549 |
On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─ |
|
(Ellen) O ia, y cŵn oddiar y mamplis. |
|
|
|
(Ellen) Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn? |
(1, 0) 553 |
Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi! |
|
(Ellen) Ma nhw wedi bod gen i am dros ucian mlynadd; fe 'lli di 'u câl nhw nawr. |
|
|
(1, 0) 559 |
John, gofala ar dy fywyd! |
(1, 0) 560 |
Ma 'na grac yn y ddolan. |
|
|
(1, 0) 562 |
'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa! |
|
(Ellen) Dyna, fe wyddwn na fysa-ti ddim yn folon. |
|
|
(1, 0) 565 |
Ond wrth gwrs, fe fydd yn gryfach. |
|
(John) {Wrth ei fam.} |
|
|
(1, 0) 578 |
Ma fa ar yr ail |shelf| miwn─ |
|
(William) {Â'i ddwylo ar ei hysgwyddau.} |
|
|
(1, 0) 582 |
─miwn cwtyn glas. |
|
(John) Yn mh'un o rhain ma'r llath |right|? |
|
|
(1, 0) 586 |
Hwnna yn dy law dde di. |
|
(William) {Yn ei gorfodi i eistedd.} |
|
|
(1, 0) 591 |
Gad i fi dorri fa. |
|
(Ellen) Na, rho gyllath arall i fi. |
|
|
|
(William) Os 'na rwpath yn isha? |
(1, 0) 606 |
Os. |
|
(William) Ag i bwy ma rheina? |
|
|
|
(William) Ag i bwy ma rheina? |
(1, 0) 609 |
All Gomar a Annie ddim bod 'ma, fe wn, ond 'rwy am weld 'u cwpana nhw ar y ford. |
|
|
|
(William) Wel? |
(1, 0) 613 |
Ag 'ma 'na un arall. |
|
(William) {Yn lleddf.} |
|
|
(1, 0) 617 |
Mwy na thepyg 'i bod hi 'ma. |
(1, 0) 618 |
Synnwn-i fawr na ddath mam â hi. |