Drama un-act

Ffrois (1920)

David Thomas Davies

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.



Ar y chwith, drws a lle tân; grisiau a dresser ar y dde; fenestr a drws yn y cefn. Saif bwrdd bychan dan y ffenestr a bwrdd mawr tua'r canol. Gwelir sciw ar yr aelwyd, cadeiriau, etc.

Ymddengys MARTHA ar y chwith, yn dwyn dysglaid o ffrois a dau napcyn gwyn. Gesyd ddwy neu dair o'r ffrois ym mhob un o'r ddau napcyn gan eu clymu yn ddestlus. Yna, cuddia'r gweddill yng ngwpwrdd isa'r dresser, a'r ddau napcyn mewn parseli ger 'y fenestr. Y mae MARTHA yn bump a deugain oed, eithr ymddengys yn hŷn. Gwisg ŵn wlanen sylweddol o ddull henaidd a ffedog wlanen check du a gwyn.

Yn fuan daw ELLEN i mewn yn gynefin drwy ddrws y cefn. Gwisgir hi yn wychach.

Martha

(Yn codi ei phen.) Ellen.

Ellen

Martha─wrth dy hunan?

Martha

Na, ma nhw lan llofft, yn partoi.

Ellen

Partoi ar gyfar beth?

Martha

Ma William yn mynd i'r seiat.

Ellen

Oti, fe-ginta.

Martha

A ma Miriam yn mynd i'r "pictures."

Ellen

Hm─a John?

Martha

Wn-i ddim yn gwmws ble ma John yn mynd.

Ellen

(Yn eistedd.) A nawr, 'rwyt ti'n dyfalu beth wy'n moyn 'ma heno?

Martha

(Gan wenu.) Dim ond roi tro i'n gweld ni, 'llwn feddwl.

Ellen

Rwy'n gneud 'ny yn ddicon amal. Wyddast-ti pwy ddydd o'r mish yw hi heddy?

Martha

Gwn; y wechad ar ucian o Fai.

Ellen

Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai?

Martha

Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna.

Ellen

'Rwyt ti'n dawal iawn yn i gylch-a; dyma ddydd dy silver wedding di. 'Dwyt ti ddim yn meddwl gneud rwpath?

Martha

Otw, bid siwr. (Edrych yn bryderus tua'r grisiau a chyfyd es bys mewn rhybudd i ELLEN.) 'Rwy wedi gneud nhw. (Yn sibrwd.) Wel di? (Egyr gwpwrdd y dresser gan ddangos y ffrois.)

Ellen

Ffrois! Ar gyfar pen blwydd y byddwn-ni'n gneud ffrois.

Martha

Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a?

Ellen

Falla 'i fod-a, ond fe ddylsat gâl parti a gw'a'dd rai o'r cymdocion. Tapun, fe alla rh'wun feddwl y bysat-ti yn gofyn i dy unig whar.

Martha

Ellen fach, on-ni'n meddwl dim drwg. Fe wyddast o'r gora nag wy-i byth am ryw lawar o fuss, a 'dos dim isha i fi wed fod croeso calon i ti ddod 'ma heno.

Ellen

Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti?

Martha

'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─

Ellen

Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─

Martha

Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William.

Ellen

O'r gora, ond fe weta gymant a hyn. Allsa Robert feddwl am ddim am wthnosa cyn i'r dwarnod ddod, a fe wyddast shwt silver wedding geson ni.

Martha

Do, fe gesoch-chi silver wedding hyfryd.

Ellen

Beth am y plant; otyn-nhw ddim wedi meddwl dim am dano?

Martha

Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod.

Ellen

Wel, rhyw deulu ryfadd ych-chi 'ma. A fe fydd raid i ti wed wrthyn nhw i gyd 'ma heno mai dyma dy silver wedding di.

Martha

Bydd wrth gwrs 'ny, ond 'rwy'n bwriatu câl ticyn o ddifyrrwch gita nhw cyn gwed.

Ellen

(Yn syllu arni.) Ia, teulu ryfadd ych-chi, a chreatur ryfadd wyt titha, Martha. Ond dyna, 'rodd mam wastod yn gwed mai ti odd yr hynota o'r plant. Wn-i beth wetsa hi tsa hi'n gallu dy weld di heno, acha noswaith fel hon.

Martha

(Yn syml.) Mwy na thepyg y gall hi ngweld i.

Ellen

(Hytrach yn gyffrous.) Wyt-ti'n cretu y gall hi'n gweld ni ar y ddaear 'ma heno, tia fi?

Martha

(Yn hollol ddidaro.) Pam lai! Ond 'dwy-i ddim yn cofio i mam ariod gâl silver wedding.

Ellen

Naddo; 'rodd hi rhy depyg i ti, neu wyt ti'n rhy depyg iddi hi.

Martha

(Yn foddhaus.) Ag 'rwyt ti'n cretu mod i'n depyg i mam?

Ellen

Yn fwy tebyg iddi bob dydd, 'nenwetig nawr, a dy wallt yn gwynnu, a'r rhygna 'na ar dy ruddia di. Pan y byddi di'n edrych arno-i amball waith, 'dwy'n gweld dim ond mam. Rwyt ti'n symud 'run fath a hi, yn gneud petha yn gwmws fel odd hi'n arfadd gneud.

Martha

Fydda-i byth yn depyg i mam. Menyw dda iawn odd mam.

Ellen

Yr ora fu ar y ddaear 'ma ariod. Os yw hi'n gallu'n gweld ni heno, wn-i yn y byd beth ma hi'n feddwl. All hi ddim bod yn folon iawn.

Martha

Pam?

Ellen

Wel fi sydd wedi câl y lwc i gyd. Y fi gas y bywyd esmwyth, prioti'n dda, a morwn wastod wrth law. Edrych ar yn nwylo gwynon i, na nethon-nhw ddwarnod o waith calad ariod, a edrych ar dy rai ditha, sy byth yn secur ond pan y byddi di'n cysgu. 'Rwyt ti wedi gwitho dy fêr a d'esgyrn, ddydd ar ol dydd, a thrwy'r dydd, ar hyd y blynydda; fe ddest a phlant i'r byd, a fuast ti ddim heb weld gofid. Dwyt-ti ddim ond pump a deugan, 'rwy inna'n hannar cant, a nid o ran y mod i yn 'i wed-a, ond chretsa neb wrth yn golwg ni, mai ti yw'r ienga.

Martha

'Rwy'n falch iawn mod i'n fam i blant, a 'rwy wedi gofitio lawar na fysat titha─

Ellen

(Yn bruddaidd.) Paid a sôn, paid a sôn! Pan on-i'n ifanc, a'r rhai bach am ddod ato-i, 'dodd gen-i gynnyg meddwl am danyn-nhw, ond nawr,─falla ma rhyw farn sy arno-i─pan fydda-i'n cysgu, ag amball waith pan fydda-i ar ddihun, 'rwy fel t'swn-i'n teimlo dwylo bach ar y 'ngwynab-i, a thro arall, fe 'llwn dystio mod i'n clwad plant yn llefan─y rhai bach wrthotas i pan o'n i'n ifanc.

Martha

Rwyt ti'n wilia'n ryfadd iawn heno, Ellen.

Ellen

(Yn ysgwyd ei phen.) Ond dyna. (Yn codi.) Beth sy gent-ti yn dy gylch heno─nid hen ffetog mam yw honna, iefa?

Martha

Ia, cystlad ag ariod.

Ellen

(Yn manylu ar ei gŵn.) A beth yw hon─nid dyma dy ddress briotas di!

Martha

Ia.

Ellen

Pwy altrodd hi i ti?

Martha

Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni.

Ellen

A 'rwy'n câl dod 'ma heno?

Martha

Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd?

Ellen

Na, gorfod iddo fa fynd sha Chardydd y p'nawn'ma. Wyt-ti wedi cynnu tân yn y rwm genol─oti ddi'n barod gen-ti?

Martha

Yn barod i beth?

Ellen

I'r swpar heno, bid siwr.

Martha

'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol.

Ellen

Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy silver wedding yn y gecin?

Martha

Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd.

Ellen

Y ti wyt ti, a ti fyddi di! Beth ga-i ddod yn bresant i ti?

Martha

'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen.

Ellen

Raid i ti gâl rwpath. Beth licsat-ti gâl?

Martha

(Yn betrusgar.) Ma gen-ti rai petha adews mam i ti, fe fysa'n dda gen-i gâl un o rheiny.

Ellen

(Yn crychu ei thalcen.) Ia.

Martha

Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─

Ellen

O─chai di ddim o'r llestri. Chymswn i ddim can punt am rheina.

Martha

A dyna'r ddou gi china sy gen-ti ar y mamplis.

Ellen

Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti.

Martha

Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i.

Ellen

O'r gora, fe ddwa-i â'r cŵn gen i heno. Ble ma Miriam? (A ELLEN at odre'r grisiau.) Miriam!

Miriam

Ia, motryb.

Ellen

Ar ol i ti gwpla gwishgo, wy-i am i ti ddod i'n tŷ ni.

Miriam

I beth?

Ellen

Wath i ti beth. Wyt ti'n diall?

Miriam

(Yn ufudd.) O'r gora, motryb.

Ellen

John, dera ditha hefyd.

John

(Oddiuchod.) Alla-i ddim a dod heno.

Ellen

Ma'n rhaid i ti ddod. Cofia nawr.

John

(Yn anfodlon.) O─o'r gora.

Martha

Beth wyt ti'n mynd i neud nawr? Cofia, 'dwy-i ddim am unrhyw fuss.

Ellen

(Yn dod oddiwrth y grisiau.) Fydd 'na ddim fuss. On-i'n meddwl ma fel hyn y bydda petha, a 'rwy wedi partoi ryw 'chydig ar dy gyfar di. Gofala na chaiff William fynd i'r seiat heno acha noswath fel hon.

Martha

Fe allsa dyn neud llawar i wath peth.

Ellen

O, dyna ti eto─ (Yn symud at y grisiau) Ble ma fa?

Martha

(Yn ei hafal.) Nawr Ellen, 'dwy-i ddim am i ti wed gair wrth William; gad-ti hynna i fi.

Ellen

Fel mynnot-ti. Dyma fi'n mynd nawr; fe fydda-i 'nol cyn hir.



A ELLEN allan, a chyn gynted ag y ceuir y drws, disgyn WILLIAM yn drwsgl yn nhraed ei 'sanau. Gwelir eì fod yn llewys ei grys, ac heb wasgod. Saif ar y gris isaf gan ysbio oddi amgylch y gegin.

William

(Gan esgus sibrwd.) Oti-ddi wedi mynd?

Martha

Oti.

William

(Yn disgyn.) Fyswn-i wedi dod lawr ond (braidd yn sarhaus) allswn-i ddim dod o hyd i'm dressing-gown.

Martha

Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen?

William

Beth wetas-i'n gas? (Yn gwenu.)

Martha

Ma Robert yn gwishgo dressing-gown, 'rwy'n cyfadda─ond ma fa ar y Council, ag yn J.P., a os na all J.P. wishgo dressing-gown, ma hi wedi mynd!

William

(Yn sylwi ar MARTHA.) Otych-chi'n mynd mas?

Martha

Nagw-i─pam?

William

(Yn syllu'n famwl.) 'Rych chi'n dishgwl yn daclus iawn heno.

Miriam

(Oddiuchod.) Mam, ble ma'm blouse las i?

Martha

Ble gadewast ti ddi ddwetha?

Miriam

O─dyw-hi ddim man'ny nawr.

William

Wyr y grotan 'na byth ble ma hi'n gatal dim byd.

Martha

Fe'i dotas hi yn y dror cenol.

William

(Yn edrych ar y cloc.) Y bendith mawr─ucian munad i saith, a dyma fi heb hannar gwisgho. Ble ma'n scitsha-i, otyn nhw'n lân?

Martha

Otyn, ma nhw man'na o dan y sciw.

John

(Oddiuchod.) Mam, ble ma'r colar odd gen i dwetydd ddo?

Martha

Yn y golch; cymar un glan.

William

'Rych-chi wedi bratu'r hen blant 'na, Martha. Dos 'ma ddim i'w glwad o fora tan nos ond "Mam, ble ma'r peth hyn?" a "Mam, ble ma'r peth arall?"

Martha

Falla mod i yn wir.

William

(Yn chwilio.) Nawr, ble ma'n spectol i?

Martha

Fe'i gadawsoch hi ar ffenast y sculeri; dyna 'i ar y ford fach.

William

(Yn clymu carrai ei esgidiau.) Ma gen-i gant a mil o betha i feddwl am danyn nhw heno. Seiat bwysig iawn─'dych chi ddim yn dod?

Martha

Na, ddim heno, William.

William

'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha.

Martha

Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd.

William

Henant, 'llwn feddwl, henant.

Miriam

(Oddiuchod.) Mam!

William

Dyna hi eto!

Martha

Ia.

Miriam

Symudsoch-chi riban y ngwallt-i rwla?

William

Ti a dy ribana! Shwt gall dyn feddwl a thrio cofio, a thitha'n gwiddi bob yn ail funad.

Martha

Fe'i gadewast a yn y gecin nithwr gita'r cripa. Ma nhw lawr 'ma.



Daw MIRIAM, tua 20 oed, i lawr, heb orffen gwisgo, a'i gwallt ar hyd ei chefn.

William

Nawr, dyna bapur aelotath morwn Mrs. Morgan. Rwy'n cretu i fi ddoti-a yn y llyfyr hymna.

Martha

Fe'i gadawsoch-a ar y ford nos Fawrth. Ma-fa o dan y canhwyllharn bach nawr.

Miriam

(Yn troi yn chwym oddiwrth y drych.) Mam, os gita chi ddim─ (Yn sefyll yn synn, gan edrych ar ei mam) O─a ble 'r ych chi'n mynd?

Martha

'Dwy-i ddim yn mynd i unman.

Miriam

'Rych-chi'n smart iawn heno. Dyma ffetog newydd bert. (Yn trafod y ffedog.) Na, nid un newydd yw hi. 'Dwy-i ddim wedi gweld hon gita chi o'r blan.

Martha

Fe gysgast lawar i awr ar honna pan ot ti'n fabi.

William

A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant.

Martha

Yn y Beibl mawr ar y ffenast rhwng Matthew a Marc.

Miriam

Dress newydd hefyd. Dyma wlanen hyfryd, ble prynsoch-chi ddi?

Martha

'Dyw hi ddim yn newydd iawn. William, otych-chi'n napod hon?

William

'Dos gen-i ddim amsar i farnu dresses nawr. (Yn codi ei ben am eiliad.) Nagw-i, ble cesoch-chi ddi?

Martha

(Braidd yn siomedig.) O, ma-hi gen-i ers cetyn.

Miriam

On-ni'n mynd i ofyn i chi am bin gwallt. (A'I bysedd yng ngwallt ei mam.) Os un gita chi?

Martha

Os, cymar un o'r ochor arall.

William

Alli-di ddim gatal dy fam yn llonydd? Fe gymrat i phen hi tsa hynny o ryw ddipan i ti.



Ymddengys JOHN, tua 22, a chwilia am ei esgidiau yn agos i'r dresser.

John

Ble ma'n scitsha i?



Tarewir JOHN elo gan syndod pan wêl ei fam.

Martha

Fe'u helas nhw sha'r crydd. Ma un o nhw'n gillwng dŵr, nag-os-a?

John

Dim felny.

Martha

Gwishg dy scitsha Sul.

John

(Yn parhau edrych arni.) Mynd i'r capal?

Martha

Nagw.

John

Mynd mas ta?

Martha

Nagw-i.

John

Ma ticyn odwtsh yndo chi heno, nagos-a?

William

Wyt ti'n wilia'n gwmws fel tsa ti ddim yn folon i weld pilyn decha am dy fam.



WILLIAM mewn helbul gyda botwm llawes ei grys.

John

Wetas-i ddim nag on i'n folon.

William

'Dych chi'r plant ariod wedi rhoi llawar o gyfla iddi─Beth andras sy ar y bwtwn 'ma─Martha!



Rhed MARTHA i'w gynorthwyo.

John

(Yn chwerthin.) Well i chi ddod i'n ngwisgho inna ar ol i chi gwpla man'na.

William

(Yn ffyrnig.) Dyna fe, dyna ddicon o dy dafod di.

John

(Yn ffroeni'r awyr yn uchel.) Helo!

Martha

Beth sy'n bod?

John

'Rwy'n gallu gwynto─'rwy'n gallu gwynto ffrois.

Miriam

(Yn ffroeni.) O─h, 'rwy inna hefyd.

William

(Â'i drwyn yn yr awyr.) Wel, ar y ngair i, am wn i nag w inna hefyd.

Martha

(Yn ddiniwed.) Falla fod Mrs. Jones drws nesa yn gneud ffrois.

William

Martha, fe wyddoch o'r gora fod cystlad gen i weld platad o ffrois at y ford a dim. A pheth arall, ma hi'n siwr o fod yn bryd i rywun gâl pen 'i flwydd yn y tŷ 'ma!

Martha

O, fe gewch rai, cyn hir.

William

(Yn sbio ar ei goesau.) Wel, wel, wel, wel─wel dyma beth diarth o ryfadd, 'rwy wedi gwishgo 'nhrwsis dŷ Sul. Nawr, shwt ma hyn yn bod? (Yn troi at MARTHA.) Ar bost y gwely y ceso-i a.

Martha

Ryfadd iawn, ontefa?

William

(Yn edrych yn ddrwgdybus.) Ryfadd yn wir! Beth gynllwn sy'n bod 'ma heno?

Martha

Dim byd.

William

Odd y trwsis hyn ddim ar bost y gwely y bora ma. (Yn chwilio ai logelli gan dynnu allau fân bethau.) A mwy na hynny, odd y petha hyn yn yn nrwsis dwetydd i ddo.

Martha

Wel─wel ma'ch dillad dwetydd chi dicyn yn gomon nawr, a'rwy wedi bod yn cisho 'u gwella nhw.

Miriam

A 'dos dim isha i chi fod yn fwy comon na'r aelota erill, John Harris a Shencin Jones. Fe fyddan nhw yn talu rhent oll ddyddia'u bywyd, a dyma chi a dou dŷ yn rhydd ar ych enw chi.

William

Ia, ond nid wrth wishgo'm dillad Sul acha noswath waith y ceso i'r tai 'na cofia.



Daw MARTHA â'r got a'r wasgod iddo.

William

Na, 'dwy-i ddim yn mynd i wishgo rheina.

John

Fe fyddwch yn edrych yn ddoniol os na newch chi.

William

Na 'na.

Martha

Wy-i am i chi wishgo rhain heno.

William

Wel, pam?

Martha

(Yn erfyniol.) Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd.



WILLIAM mewn penbleth, yn peiruso, ac yna yn eu gwisgo ym araf.

William

Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno.



Ymeifl MARTHA mewn bwndel o ddillad mân a phapwr llwyd oddiar y ffenestr.

Martha

Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal. Ma hi'n mynd i Dreforgan yfory, a fe foddlonws fynd a pharsal i Annie dy whar.

William

Ho─parsal arall!

Martha

'Dych-chi ddim yn folon William? I'ch merch chi'ch hunan ma fa, neu i'r rhai bach, ta-pun.

William

Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant.

Martha

Pitwch a wilia mor ffol.

William

Welas-i ariod o'ch tepyg chi, Martha. Tsa chi'n câl ych ffordd, fe roisach fwyd, dillad, a moddion i holl blant y Cwm, a chelsa dim un fenyw arall ddod yn acos iddyn nhw. (Yn codi froc fechan o'r bwndel.) Beth yw hon?

Miriam

O─mam, o'r hen froc wen odd gen-i. Pryd nithoch chi ddi?

John

(Yn codi darn o wlanen goch i fyny.) Ha, ha, dyma foddion mam at bopath. Ble ma'r sâm gwydd?

Martha

Dos dim isha i ti wherthin ar ben gwlanen goch a sâm gwydd; fe achubson dy fywyd di unwaith, ondofa William?

William

Do, am wn-i'n wir.

Martha

Do fa, do, ama babi bach Annie yn peswch a pheswch a 'dyw'r doctor yn gneud dim lles iddo fa.

John

(Yn gafaelyd yn y napcyn ffrois.) A beth sy'n hwn?

Martha

(Yn gosod y napcyn yn ol.) Wath i ti beth sy yndo fa. (Yn troi at MIRIAM ac yn manylu arni.) Ma 'na flouse glân i ti yn y rwm genol.

Miriam

Rwy wedi gwishgo hwn nawr; ma-fa'n itha glân.

Martha

Wyddast-ti yn y byd pwy gwrddi di yn nhŷ dy fotryb. Newid-a.



A MIRIAM allan dipyn ym anfodlon. Cyfyd MARTHA fasgedaid o ddillad glân, coleri, crysau, etc., o dan y bwrdd bach.

Martha

Titha, John, wy-i am i ti fynd â rhain i'r post.

William

(Wrth weld y dillad.) Nawr, Martha, fe addawsoch y tro dwetha y celsa Gomar hela'i ddillad i'r golch yn Aberystwyth fel rhyw fachgan arall.

Martha

'Dyw'r landris 'na ddim yn crasu'r dillad fel y dylsan-nhw. (Yn estyn label i WILLIAM.) Dewch, scrifennwch address ar hwnna.

William

Pryd smwddsoch-chi rheina?

Martha

Pwy waniath pryd? Ma nhw'n barod nawr.

William

Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny.

Martha

Wel, odd rhaid 'i gneud nhw, ond odd-a?

William

(Yn sgrifennu.) Os aiff rhywun i'r nefodd, Martha, fe ewch chi, ond os na fydd 'na fashîn gwinio, twbin golchi, a phar o heyrn smwddo, fyddwch chi ddim wrth ych bodd.



Gesyd MARTHA y dillad mewn bocs cardboard a chyfyd JOHN yr ail napcyn ffrois.

John

Beth sy man hyn? Ma'n depyg i hwnna odd ym mharsal Annie.

Martha

(Yn gosod y napcyn yn ol.) Da ti gad betha'n llonydd. (Yn agor gwasgod JOHN yn sydym). Nid dyma'r crys gest-ti yn y drôr gwilod.

John

Ia.

Martha

Wyt ti'n siwr? Dangos y llawas i fi. (Yntau yn ufuddhau.) Ia, dyna fe.

William

A dyma fi'n bratu'm hamsar man hyn pan y dylswn-i fod ar y ffordd i'r capal. Nawr, y papyra na─ (Yn agor y Beibl ac yn cymryd papur oddi yno.) Dyna un. (Yn cymryd papur o dan y canhwyllbren.) Dyna ddou. A ma 'na un arall eto. (Yn crafu ei ben.) Beth odd hwnnw?

Martha

Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol.

William

O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i.

Martha

Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with.



WILLIAM yn dod o hyd i'r papur a MARTHA yn craffu arno o'i gorun i'w draed.

William

(Â'r papur yn ei law.) Ma rhyw scêm ar drod gita chi heno. (Yn ymsythu o'i blaen.) Wel, 'naf-fi'r tro? 'Dwy i ddim yn newid 'y nghrys na gwishgo blouse glân chwaith.

Martha

(Yn troi oddiwrtho.) Rych chi'n weddol iawn.

William

(Yn troi at y tân i gynneu ei bibell.) Yn weddol iefa? Fe ddylswn fod, 'rwy wedi bod o dan y driniath am rai blynydda nawr.



Ymeifl MARTHA mewn hen shôl Paisley sydd yn y fasged o dan y bwrdd a theifl hi dros eî gwar.

Martha

Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd. (Try WILLIAM oddiwrth y tân a phan wêl MARTHA, dengys gryn syndod os nad ychydig fraw.) Beth sy'n bod, William?

William

(Yn ei lywodraethu es hun.) Wel─er─wn i yn y byd. Falla nag on-i ddim yn erfyn ych gweld chi yn y shôl 'na. Pam ych-chi'n gwishgo honna heno?

Martha

Gwell i fi 'i gwisgho hi na gatal i'r pryfad 'i byta hi.

John

(Yn parhau i syllu.) Mam.

Martha

(Yn tro ei phen.) la.

John

Sefwch 'n ol dicyn bach. (Hithau yn ufuddhau.) Dyna fe.

Martha

Beth sy'n bod?

John

(Gydag argyhoeddiad.) Fysa dim crandach ladi na chi yn y wlad, tsa chi 'm ond gwishgo ticyn.

William

Dyna fe, well i ti scwto ryw sothach fel 'na i ben dy fam!

John

(O waelod ei galon.) Fentra-i nag odd 'na ddim llawar i lanach merch yn y wlad pan odd hi'n ifanc.

William

Hy!─fydd yn bwnc i ti gâl gafal ar 'i thepyg hi!



Daw MIRIAM i mewn.

Miriam

O mam, beth sy'n bod heno? Dyna hyfryd ych chi'n dishgwl yn hen shôl mamgu!

Martha

Beth sy arnoch chi bobun? (Yn troi oddiwrthynt tuag at y tân.) Rhowch lonydd i fi.

William

(Yn lleddf a charedig.) Martha, 'dych chi ddim yn teimlo'n rhy dda heno. Dim ond hannar gair, ym merch-i, a fe arhosa i yn y tŷ gita chi.

Martha

Na, na, wy'n teimlo o'r gora. Cerwch chi i'r capal.

Miriam

Ble ma'r parsal 'na? (Yn cydio ynddo ac yn mynd allan.)

William

(Yn gwisgo ei het.) Wel, ma'r cwbwl gen i nawr. (Yn symud tua'r drws a phan ar hanner mynd allan yn troi ei ben) Wn-i beth wetan-nhw yn y seiat pan welan-nhw fi yn y nillad gora acha nos Iou.

Martha

Wetan-nhw ddim byd. Fe gretan ych bod chi wedi bod mewn ryw anglodd.



WILLIAM yn mynd. Cydia JOHN yn ei barsel a saif gan edrych ar ei fam, yr hon sydd yn cefnu arno o flaen y tân. O'r diwedd, try hi ei phen.

John

(Yn gellweirus.) Nawr, 'rhen wraig, beth yw'r joke? Ma 'na rwpath yn bod 'ma heno!



Gwena MARTHA arno gan amneidio âi phen.

John

Beth yw-a?

Martha

Der di 'nol ar ol bod yn nhŷ dy fotryb: gai di weld wed'ny.

John

Wy am wpod nawr.

Martha

(Yn wynebu'r tân eto.) Na, ddim nawr.

John

(Yn mynd allan.) Fydda i ddim yn hir.



Cyn gynted ag y diflawna JOHN, gesyd MARTHA y ffrois ar y pentan, a liain gwyn ar y bwrdd mawr. Yn union, rhuthra WILLIAM i mewn.

William

(O'i gof.) Fe wyddwn-i fod 'na bapur arall! Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul, ma nhw─ (Saif yn sydyn wrth weld y ffrois.) Ffrois! O'n i'n meddwl fod rhyw felltith neu gilydd gita chi. Pwy sy'n câl 'i ben blwydd heddy?

Martha

Allwch-chi ddim meddwl, William?

William

Fe ddylswn fod yn gwpod hefyd. Nid John, na ma John ym mish Hytra.

Martha

Na─nid John.

William

Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam?

Martha

Nid Annie na Miriam.

William

Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill.

Martha

Ia.

William

(Yn wyllt.) 'Rarswd mawr! Nid 'men blwydd i yw-a, iefa? Nace,─nace─'r wy i ym mish─mish Awst ond wy-i?

Martha

(Yn dawel.) Otych, William, 'rych chi ym mish Awst.

William

Wel, 'dos 'ma neb arall. Penblwydd pwy yw-a?



Estyn MARTHA ei llaw gan ddangos eì modrwy.

Martha

Penblwydd hon, William. Bum mlynadd ar ucian i heddy fe ddodsoch y fotrw 'na ar ym mys i.



Syll WILLIAM âr y fodrwy ac yna i'w hwyneb hi.

William

(Braidd yn gloff.) A dyma'n─dyma'n silver wedding ni, iefa?



Ac yn awr, am foment, ymgaleda wyneb MARTHA rhyw ychydig.

Martha

Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc.



Erbyn hyn, y mae WILIAM â'i olygon ar ysmotyn ar y llawr.

William

(Wedi colli ei lais arferol, rywfodd.) Fysa dim llawar─fysa dim llawar─i chi─i chi─

Martha

I fi wed rwpath, William?

William

Na, nid felna chwaith. Fysa ddim llawar i fi─(yn gryg iawn) i fi gofio─i fi feddwl rwpath.

Martha

(Â'i llaw ar eì ysgwydd.) Dyna, dyna─on-i ddim yn meddwl rhoi teimlad i chi. Dych chi byth yn meddwl am betha felna, 'rwy'n gwpod.



(Tynn WILIAM ei het oddiar ei ben, â'n araf tuag al y ffenestr, lle y gesyd hi, ac yna daw 'nol.)

William

Na, fysa'n fawr i fi gofio!

Martha

Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi.



Cydia WILLIAM yn eì llaw yn dyner gan edrych ar y fodrwy.

William

Pum mlynadd ar ucian─(yn codi ei ben)─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl.

Martha

Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William.

William

Odd John yn itha iawn; dodd dim glanach crotan na chi yn y cymdogaetha. A fe ddetho-i â chi o genol y wlad, oddiwrth y dolydd a'r caea, i fwg a lluwch du y cwm hyn.

Martha

Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo.

William

Ia, pum mlynadd ar ucian. 'Rwy'n ych gweld chi nawr; dress wlanan odd am danoch-chi, patrwn mân coch a du─



Egyr MARTHA ei shôl ac adnebydd WILLIAM y ddress.

William

A dyna hi!

Martha

Ia, dyma hi.

William

'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio.

Martha

Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio.

William

Tswn i wedi meddwl, fe fysa gen-i ryw bresant bach i chi.

Martha

(Yn gwenu.) 'Dos gen i ddim un presant i chi, a 'dwy inna ddim yn disgwl presant oddiwrtho chitha.

William

Fe rows Robert lestri arian i Ellen.

Martha

Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth.

William

Nagyn, 'dyn ni ddim yr un peth. Ma arno i lawar fwy o ddylad i chi nag sy ar Robert i Ellen. Ma'ch bocha chi'n welw nawr, ych gwallt yn britho, ych llyced chi'n pylu, a welwch chi'r rhygna 'na sy ar ych gruddia chi─dyna ôl y ddylad sy arnon-ni i chi, y fi a'r plant.

Martha

Beth am y creitha glo sy ar ych gwynab chitha, y cymala poenus, a'r peswch aiff â chi i'r bedd yng nghynt na phryd? Lawr yn y pwll glo y cesoch chi rheina, wrth gisho ennill tamad i ni, i'r plant a fi. Na William, 'dos dim raid i'n bath ni i brynu presants i'n gilydd.



Agorir y drŵs a daw MIRIAM a JOHN i mewn gan gludo basged rhyngddynt. Cofleidia MIRIAM ei mam gan eu chusanu.

Miriam

Mam fach, pam na fysach chi'n gwed rwpath?

John

(Yn nesu at ei fam yn lletchwith a swil.) Ma 'na flynydda oddiar pan y cusanas i chi ddwetha, mam.

Martha

(Yn doredig.) Os, John, paid roi cusan i fi nawr─heno─cyn 'rai di i'r gwely.



Ymddengys ELLEN, a saif yn sydyn ar y trothwy gan edrych ar ei chwaer.

William

(Wrth weled ELLEN.) Fe wn-i beth sy'n ych meddwl chi. Fe geso i start ym hunan. Ond yw hi'n depyg iddi!

Ellen

(Yn nesu a chusawu ei chwaer.) 'Rwy i wedi dy weld di lawar i dro yn depyg i mam, ond heno, â'r shôl 'na ar dy war, fuas bron a chretu i bod hi o flan yn llyced i.

William

Dyna fe, lwchi, am wn i nag yw'r Brenin Mawr yn gofalu am restar o fama da, o genhedlath i genhedlath, a ma nhw i gyd yn ryfadd o depyg.

John

Helo, ffrois! (Yn gellweirus.) Ble cesoch chi rheina─drws nesa?

William

Wel, dewch ymlan. Ble ma'r llestri? 'Dos dim llawar o whant bwyd arno-i, ond fe 'llwn-i fyta ffroisan.

Martha

(Gyda chysgod o wên.) Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul?

William

Gadewch nhw fod tu cefan i'r cloc. A─h, ma'r tecil yn berwi. Desc Tynn WILLIAM y tegell oddiar y tân ac ymgymerant oll â gosod y bwrdd. Daw MIRIAM â llestri tê glas a gwyn i'r golwg.

Miriam

Welwch-chi, mam, beth sy gen-i man hyn?



Cyfyd MARTHA ei dwy law mewn boddhad.

Ellen

On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno.

Martha

Wyt ti'n garetig iawn, Ellen.

William

(Yn dod â'r ffrois i'r bwrdd.) Dewch ymlan, dewch ymlan.

Martha

Arhoswch i fi gâl plat arall.

Ellen

(Yn cymryd un o'r fasged.) Dyma fe.



Cymer MIRIAM flodau o'r fasged gan eu trefnu ar y bwrdd. Y mae MARTHA yn sbïo i'r fasged.

Ellen

Beth wyt-ti'n whilo?

Martha

On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─

Ellen

O ia, y cŵn oddiar y mamplis. Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn?



Edrych MARTHA yn anghrediniol ar Ellen ac yna ar y llestri.

Martha

Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi!

Ellen

Ma nhw wedi bod gen i am dros ucian mlynadd; fe 'lli di 'u câl nhw nawr. Catw nhw i Miriam.

John

(Yn codi'r tebot yn drwsgl.) Wel, 'dwy-i ddim yn gweld dim byd fel 'ny yndi nhw i neud shwt fuss.

Martha

(Yn ingol.) John, gofala ar dy fywyd! Ma 'na grac yn y ddolan.



Cymer MARTHA y tebot oddiwrtho gan fanylu ar y ddolen, yna try yn anfodlon at ei chwaer.

Martha

'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa!

Ellen

Dyna, fe wyddwn na fysa-ti ddim yn folon.

Martha

(Yn fwy cymodol.) Ond wrth gwrs, fe fydd yn gryfach.

John

(Wrth ei fam.) Nawr 'rwy'-i'n cynnyg ych bod chi yn ishta lawr heno; fe newn ni'r gwaith.

Miriam

(Yn mynd allan ar y chwith.) 'Rwy'n eilio'r cynyciad.



JOHN ym dilyn MIRIAM allan.

William

Beth! ych mam i ishta lawr, dim byth!

Ellen

(Yn ei gosod mewn cadair tua'r canol.) Ia, raid i ti ishta lawr heno. (A ELLEN at y bwrdd bychan i dorri bara-mewyn.)

Miriam

(Yn ymddangos ar y chwith.) Alla-i ddim gweld y shwgir lump yn unman.

Martha

(Yn codi.) Ma fa ar yr ail shelf miwn─

William

(Â'i ddwylo ar ei hysgwyddau.) Ishteddwch lawr, ishteddwch lawr.

Martha

(Yn gorffen y frawddeg.) ─miwn cwtyn glas.



Daw JOHN i'r golwg â dwy jwg.

John

Yn mh'un o rhain ma'r llath right?

Martha

(Yn codi.) Hwnna yn dy law dde di.

William

(Yn ei gorfodi i eistedd.) Nawr!

Ellen

Os gen-ti ddim gwell cyllath na hon i dorri bara?

Martha

(Yn codi'n chwim.) Gad i fi dorri fa.

Ellen

Na, rho gyllath arall i fi.



Ond y mae'r dorth gan MARTHA erbyn hyn. Arllwys WILLIAM ddŵr ŷr tebot.

William

Gadewch iddi; mae wedi torri'r record. Fe ishteddws man'na yn secur am funad lawn a phawb arall yn gwitho.

Ellen

Wel, ma popath yn barod nawr. (Yn nesu at y bwrdd.) Ble gaf fì ishta, man hyn? (Yn estedd ar y dde, lle mae'r cwpanau gyda'i gilydd.) Gadewch i fi fod yn fam am unwaith.

William

(Yn dod â'r tebot.) la, fe ishtedda inna man hyn, Martha man'na, John a Miriam fan'na.



ELLEN yn arllwys tê a phawb yn eistedd ond MARTHA, yr hon sydd yn taflu llygad dros y bwrdd.

William

Os 'na rwpath yn isha?

Martha

Os.



A MARTHA yn ol at y fasged a daw â dau gwpan arall gan eu gosod yr ochr arall i'r bwrdd.

William

Ag i bwy ma rheina?

Martha

All Gomar a Annie ddim bod 'ma, fe wn, ond 'rwy am weld 'u cwpana nhw ar y ford. (Pery MARTHA eto i sefyll.)

William

(Yn troi ei ben.) Wel?

Martha

Ag 'ma 'na un arall.

William

(Yn lleddf.) Os merch-i, ond ma hi miwn gwlad well, uwchlaw pob gofid a thrallod.

Martha

(Yn syml iawn.) Mwy na thepyg 'i bod hi 'ma. Synnwn-i fawr na ddath mam â hi.



Y lleill yn anesmwytho gan edrych ar ei gilydd.

William

Wel, gadewch i ni ddechra. 'Dos dim isha i ni bito bod yn llawan heno. Ellen, fynnwch-chi ffroisan?



Gesyd MIRIAM ei llaw ar ei fraich.

Miriam

Nhad!

William

(Yn troi ati.) Beth sy'n─ O ia, ia, fe anghofias.



Plyg ei ben, a gwna'r lleill yr un fath. Y mae MARTHA yn sefyll o hyd, ag un llaw ar y bwrdd. Rhywfodd, yn ddamweiniol efallai, gesyd WILLIAM eu law ar es llaw hy wrth ofyn bendith.

William

Diolch i Ti am Dy drugaredda, ond y drugaradd fwya i gyd, diolch i Ti─diolch i Ti─am Martha.



LLEN

Drama un-act