| (Emyn) 732 (Caneuon Ffydd) | |
| (Llais) Mae'r llong yn mynd i ffwrdd. | |
| (1, 13) 651 | Mrs. Jones? | 
| (Kitty) {O gornel dywyll.} | |
| (Kitty) Ie? | |
| (1, 13) 654 | 'Wedodd e mai fan hyn fyddech chi, fwy na thebyg. | 
| (Kitty) {Yn troi i'w gweld.} | |
| (Kitty) Mati! | |
| (1, 13) 657 | Popeth yn iawn. | 
| (Kitty) Wyt ti wedi gweld Ifan-John yn 'weddar? | |
| (Kitty) Llai nag erioed nawr, wrth gwrs. | |
| (1, 13) 661 | Weles i e neithiwr – ryw awr fach. | 
| (Kitty) O. | |
| (Kitty) Mae e'n benderfynol o fynd. | |
| (1, 13) 673 | Odi. | 
| (Kitty) Ond 'sdim rhaid iddo. | |
| (Kitty) Dwi ddim yn deall. | |
| (1, 13) 682 | Na. | 
| (1, 13) 683 | Mae e'n gw'bod hynny. | 
| (Kitty) Pam na wedith e wrtho'i te. | |
| (Kitty) Gweud beth sydd ar ei feddwl. | |
| (1, 13) 688 | Ma' sôn wedi bod bod Elgan yn dod gatre. | 
| (1, 13) 689 | Odi e wedi gweud 'ny wrthoch chi? | 
| (Kitty) Elgan yn dod gatre – i beth? | |
| (Kitty) Elgan yn dod gatre – i beth? | |
| (1, 13) 691 | I weithio ar y ffarm, ma' nhw'n gweud. | 
| (1, 13) 692 | Bydd raid i un o'r gweision fynd wedyn a ma' Ifan-John yn meddwl ma... | 
| (Kitty) Ie-ie, Ifan-John yn meddwl. | |
| (Kitty) 'Sdim elfen ffarmwr ynddo o gwbwl. | |
| (1, 13) 698 | Nagoes. | 
| (1, 13) 699 | Ond dyna beth ma' nhw'n gweud bydd lot sydd wedi mynd bant i'r coleg a pethe'n 'neud os daw hi'n fater o gonsgripsiwn. | 
| (1, 13) 700 | Dod gatre i weithio ar y tir. | 
| (1, 13) 701 | Fyddan nhw'n saff wedyn, on-fyddan-nhw. | 
| (Kitty) Mor saff â mae hi ar Ifan-John nawr. | |
| (Kitty) A phan fydd y whare-plant yma drosodd, fydd y Gerlan yn rhydd – yn disgwyl amdano. | |
| (1, 13) 704 | Y Gerlan? | 
| (Kitty) Mae e wedi sôn wrthot ti, siŵr o fod. | |
| (Kitty) Wyt ti'n dod mlaen yn iawn yn y Plas, ond-wyt-ti – dod mlaen â hi a fe'n iawn? | |
| (1, 13) 709 | Odw. | 
| (1, 13) 710 | Odw – ar y cyfan. | 
| (Kitty) Da iawn. | |
| (Kitty) Oni bai bod 'da ti ddylanwad arno. | |
| (1, 13) 719 | Na. | 
| (1, 13) 720 | Dim dylanwad. | 
| (Kitty) Mwy nag wyt ti'n feddwl, siŵr o fod. | |
| (Kitty) Mwy nag wyt ti'n feddwl, siŵr o fod. | |
| (1, 13) 722 | Na. | 
| (1, 13) 723 | Dwi ddim yn credu. | 
| (1, 13) 724 | Ddim ar y foment, beth bynnag. | 
| (Kitty) A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd. | |
| (Kitty) A mae Dafydd y Fagwyr yn mynd hefyd. | |
| (1, 13) 727 | Mae'n debyg. | 
| (Kitty) Sôn am y byd yn wallgo. | |
| (Kitty) Sôn am y byd yn wallgo. | |
| (1, 13) 729 | Dwi'n gw'bod. | 
| (1, 13) 731 | 'Na fe. | 
| (1, 13) 732 | Fyddan nhw'n gwmni i'w gilydd. | 
| (Kitty) A mae hynny i fod yn gysur, Mati? | |
| (Mr Jones) Da bo chi. | |
| (2, 6) 1172 | I le'r wyt ti'n myned, fy machgen ffein i? | 
| (2, 6) 1173 | 'Myned i ryfel yr wyf' mynte'n hy; | 
| (2, 6) 1174 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' | 
| (2, 6) 1175 | Draw dros grib y mynydd, aeth gyda'r llu. | 
| (2, 6) 1176 | ~ | 
| (2, 6) 1177 | Pam wyt ti'n myned, fy machgen ffein i? | 
| (2, 6) 1178 | 'I brofi beth s'da bywyd i gynnig'mynte'n hy; | 
| (2, 6) 1179 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' | 
| (2, 6) 1180 | Bant i gael ei hyfforddi aeth gyda'r llu. | 
| (2, 6) 1181 | ~ | 
| (2, 6) 1182 | Am faint fyddi yno, fy machgen ffein i? | 
| (2, 6) 1183 | 'Fydda'i nôl erbyn 'dolig sdim dowt' mynte'n hy; | 
| (2, 6) 1184 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' | 
| (2, 6) 1185 | I wersyll 'mherfedd Lloeger aeth gyda'r llu. | 
| (2, 6) 1186 | ~ | 
| (2, 6) 1187 | A gofi di amdana'i, fy machgen ffein i? | 
| (2, 6) 1188 | 'Mi sgwenna'i yn ffyddlon bob wythnos' mynte'n hy; | 
| (2, 6) 1189 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' | 
| (2, 6) 1190 | Draw dros y moroedd aeth gyda'r llu. | 
| (2, 6) 1191 | ~ | 
| (2, 6) 1192 | Ddôi di nôl yn gyfan, fy machgen ffein i? | 
| (2, 6) 1193 | 'Dwi'n iach ac yn effro a chydnerth' mynte'n hy; | 
| (2, 6) 1194 | O'r ddwy fraich gref a'r corff cadarn cry' | 
| (2, 6) 1195 | Ymhell, mor bell o gartre sydd gyda'r llu. | 
| (Kitty) O! | |
| (Kitty) Ti'n gynt nag arfer 'wythnos hon. | |
| (2, 7) 1203 | Lady Pryce yn Nanteos. | 
| (2, 7) 1204 | Soirée, fel ma' nhw'n gweud. | 
| (Kitty) Odi Peggy'n gw'bod bo' ti wedi mynd yn gynnar? | |
| (Kitty) Odi Peggy'n gw'bod bo' ti wedi mynd yn gynnar? | |
| (2, 7) 1206 | Hi 'wedodd wrtho'i. | 
| (Kitty) A des ti fan hyn. | |
| (Kitty) At Kitty, druan bach â hi. | |
| (2, 7) 1209 | Os nagych chi ise 'nghwmni i... | 
| (Kitty) O, paid bod mor groen-denau, lodes. | |
| (Kitty) O, paid bod mor groen-denau, lodes. | |
| (2, 7) 1211 | Dwi ddim yn credu mai fi sy'n groen-denau. | 
| (Kitty) Nag wyt ynta. | |
| (Kitty) Fyddan nhw ddim yn hir 'wan. | |
| (2, 7) 1217 | O! | 
| (2, 7) 1218 | Ma' rhywbeth bach o'r gegin gen' i fan hyn i chi. | 
| (2, 7) 1219 | Cigach. | 
| (Kitty) Peggy roiodd e i ti? | |
| (Kitty) Peggy roiodd e i ti? | |
| (2, 7) 1221 | Nage. | 
| (2, 7) 1222 | Fi ddaeth ag e. | 
| (2, 7) 1223 | Briwsion casgles i pnawn 'ma tra'r oedd Peggy'n cael napyn bach. | 
| (Kitty) Wyt ti'n gweud y gwir, gobeithio. | |
| (Kitty) Dwi ddim angen unrhyw gardod oddi wrth Peggy na'r plas, ti'n gw'bod. | |
| (2, 7) 1226 | Fydden i ddim ise chwaith. | 
| (Kitty) Na fyddet. | |
| (Kitty) Ond ma' dwyn oddi wrthyn nhw'n iawn, odi-hi? | |
| (2, 7) 1231 | Dwyn? | 
| (2, 7) 1232 | I'r cŵn fydde hwnna'n mynd. | 
| (2, 7) 1233 | Gormod o frasder. | 
| (Kitty) {Yn rhyfeddu at y syniad.} | |
| (Kitty) Siwt wyt ti'n dal dy dafod yn y fath le, dwn i ddim. | |
| (2, 7) 1237 | Peidiwch chi a dweud dim – 'rholl siarsio i chi wedi gwneud ar Ifan-John i gadw'i gapan yn strêt efo Morris Penrallt a'r Plas! | 
| (Kitty) Ma' 'na bwrpas i hynny. | |
| (Kitty) Ma' 'na bwrpas i hynny. | |
| (2, 7) 1239 | Oes. | 
| (2, 7) 1240 | Gwneud yn siŵr fod cenhedlaeth y'ch mab a finne yr un mor daeog a'ch cenhedlaeth chi. | 
| (Kitty) A be' sy'n bod ar fod yn daeog os mae'n golygu ffarm fach dda i chi'ch dau – dechreuad da. | |
| (Kitty) Difetha'r cwbwl. | |
| (2, 7) 1248 | Y rhyfel, chi'n feddwl. | 
| (Kitty) Wrth gwrs. | |
| (Kitty) Wedi hen fynd. | |
| (2, 7) 1254 | A fi, Mrs. Jones. | 
| (Kitty) Beth? | |
| (Kitty) Beth? | |
| (2, 7) 1256 | Dwi'n mynd. | 
| (2, 7) 1257 | 'Madael. | 
| (Kitty) Mati? | |
| (Kitty) Mati? | |
| (2, 7) 1259 | Ow'n i wedi bwriadu gweud wythnos ddiwetha', ond... | 
| (Kitty) I le ti'n mynd? | |
| (Kitty) 'Sdim unman gen' ti i fynd. | |
| (2, 7) 1266 | Oes. | 
| (Kitty) Nagoes. | |
| (Kitty) Ble wyt ti'n mynd? | |
| (2, 7) 1277 | Birmingham. | 
| (Kitty) Ble! | |
| (Kitty) Helpu'n hannwyl Lloyd George? | |
| (2, 7) 1282 | Na. | 
| (Kitty) {Yn grac ac yn ddi-amynedd.} | |
| (Kitty) Gwed, ferch. | |
| (2, 7) 1286 | Ysbyty. | 
| (2, 7) 1288 | Y Southern General. | 
| (2, 7) 1289 | Ble ma' nhw'n dod a'r milwyr. | 
| (Kitty) Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John. | |
| (Kitty) Ble byddan nhw'n dod ag Ifan-John. | |
| (2, 7) 1292 | Os bydd e'n lwcus. | 
| (Kitty) Fydd e ddim. | |
| (Kitty) Fydd e ddim. | |
| (2, 7) 1295 | Mrs. Jones... | 
| (Kitty) {Ar ei thraws.} | |
| (Kitty) Cario bwcedi? | |
| (2, 7) 1300 | I ddechrau – siŵr o fod. | 
| (2, 7) 1301 | Ond, wel... | 
| (Kitty) 'Ond, wel' beth? | |
| (Kitty) 'Ond, wel' beth? | |
| (2, 7) 1303 | Dwi ise bod yn nyrs – yn y pen draw. | 
| (Kitty) Mati fach! | |
| (Kitty) Wyt ti heb gael ysgol. | |
| (2, 7) 1307 | 'Sdim ots am bethe felna - ond bo' ni'n gallu 'neud – fodlon 'neud - popeth sydd i 'neud. | 
| (Kitty) {Dan ei hanadl, braidd.} | |
| (Kitty) Gwyn dy fyd di. | |
| (2, 7) 1310 | Mrs. Jones? | 
| (Kitty) Pryd wyt ti'n mynd? | |
| (Kitty) Wrth y Plas? | |
| (2, 7) 1314 | Naddo. | 
| (2, 7) 1315 | Neb. | 
| (Kitty) Ond, mi wyt ti yn mynd. | |
| (Kitty) Ond, mi wyt ti yn mynd. | |
| (2, 7) 1317 | Odw. | 
| (2, 7) 1318 | Dwi wedi trefnu popeth. | 
| (Kitty) A beth am Ifan-John? | |
| (Kitty) Beth mae e'n gweud? | |
| (2, 7) 1321 | Dim, hyd-yn-hyn. | 
| (2, 7) 1324 | Dyw e ddim yn gw'bod. | 
| (Kitty) Pryd wyt ti'n mynd i 'weud? | |
| (Kitty) Ma' hawl gydag e i w'bod. | |
| (2, 7) 1328 | Oes-e? | 
| (2, 7) 1331 | Mae e'n sgwennu atoch chi bob wythnos? | 
| (2, 7) 1332 | O hyd? | 
| (2, 7) 1334 | Os na ddaw rhywbeth gyda'r post fory fydd deufis wedi mynd ers ges i'r llythyr diwetha'. | 
| (Kitty) Deufis? | |
| (Kitty) Deufis? | |
| (2, 7) 1336 | Deufis. | 
| (Kitty) Wedest ti... | |
| (Kitty) 'Sdim pythefnos wedi mynd ers i ti 'weud i ti gael llythyr ganddo. | |
| (2, 7) 1340 | Ie, wel – doedd hynny ddim yn wir. | 
| (Kitty) Ond... | |
| (2, 7) 1343 | Y'ch bai chi. | 
| (2, 7) 1344 | Chi a'ch breuddwyd. | 
| (2, 7) 1347 | Ifan-John a fi a'r ffarm fach gysurus. | 
| (2, 7) 1348 | Dedwydd. | 
| (2, 7) 1349 | Y'ch dedwyddwch chi. | 
| (2, 7) 1350 | A'n un i hefyd, falle. | 
| (2, 7) 1351 | Ond dim Ifan-John. | 
| (2, 7) 1352 | Mae hynny'n ddigon amlwg 'wan. | 
| (2, 7) 1353 | Odi. | 
| (2, 7) 1354 | Ddigon amlwg. | 
| (Kitty) Mati... | |
| (Kitty) Mati... | |
| (2, 7) 1359 | Ie? |