Absalom Fy Mab

Cue-sheet for Meffiboseth

(Ahitoffel) Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
 
(1, 0) 431 O! Duw a dalo
(1, 0) 432 Dy fwynder im, arglwyddes... Wedi'r daith
(1, 0) 433 Hyd yma gyda'r Capten 'rwyf mor flin,
(1, 0) 434 A'r haul fel gwayw tanbaid trwy fy mhen.
(Abisâg) Does dim fel sudd y grawnwin i'th adfywio.
 
(Abisâg) {Gan eistedd wrth ei ochr a rhoddi ei llaw ar ei dalcen i'w oeri.}
(1, 0) 440 Diolch, arglwyddes—ond nid tywysog wyf.
(Abisâg) {Gan wenu arno.}
 
(1, 0) 444 Na minnau'n arglwydd, ond ar gerfio coed.
(Abisâg) 'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi.
 
(Abisâg) 'Rwyt tithau'n grefftwr?... Dwed im beth a gerfi.
(1, 0) 446 Llun carw a ddihangodd rhac y cŵn
(1, 0) 447 At draed bugeiles deg, tan ddail y gwinwydd,
(1, 0) 448 Ac a orweddodd yno heb ofni angau
(1, 0) 449 O deimlo'i thyner law ar gur ei ben...
(1, 0) 450 Arglwyddes Telyn, a gaf i wneud it gist?
(Beneia) Rhaid iti frysio, 'r cyw! Oherwydd sydyn
 
(Solomon) Dos at y morgrug...
(1, 0) 480 Maddau im, Dywysog,
(1, 0) 481 Yr wyf yn gloff o'm deudroed, a'm dwy faglan
(1, 0) 482 O'm cyrraedd tan y fainc. Crymais fy mhen
(1, 0) 483 I gyfarch mab y brenin. Ni allwn fwy.
(Solomon) {Wrth Abisâg.}
 
(Solomon) Nes eu dinistrio?
(1, 0) 509 Nid ymleddais i.
(1, 0) 510 Ac ni bu cweryl rhwng fy nhad a'th dad.
(Solomon) Ai gŵr heddychol oedd?
 
(Solomon) Ai gŵr heddychol oedd?
(1, 0) 512 Yng nghanol rhyfel
(1, 0) 513 Y cwympodd-ô, ar bentwr cyrff Philistiaid,
(1, 0) 514 A phedair saeth trwy'i fron.
(Abisâg) Mab ydyw hwn
 
(Solomon) Beth hefyd, ddwedaist-ti, oedd enw dy dad?
(1, 0) 524 Ei enw, Fab y Brenin, ydoedd Jonathan.
(Solomon) {Yn ysgrifennu.}
 
(Solomon) A fedri |di| sgrifennu?
(1, 0) 529 Ni ddysgwyd imi grefft ond cerfio coed
(1, 0) 530 Yn ddail a blodau...
(Solomon) O! ni fedri ddarllen
 
(Solomon) A thithau'n fab Tywysog?
(1, 0) 533 Petai 'nhad...
(Solomon) Ond o ran hynny, nid oedd sgrifennu a darllen
 
(Beneia) A dyna ddiwedd arnynt!
(1, 0) 599 Trugarha,
(1, 0) 600 Frenhines hawddgar, nid oes ynof golyn,
(1, 0) 601 Na gwenwyn at dy fab, na chwant gorseddfainc,
(1, 0) 602 Na had gwrthryfel. Edrych ar fy nhraed.
(1, 0) 603 Pwy a'm cyfodai i i arwain byddin?
(1, 0) 604 Tosturia wrthyf!
(Bathseba) {Yn meddalhau beth.}
 
(Bathseba) Ai yn gloff y'th aned?
(1, 0) 607 Nage, arglwyddes:—Maddau 'mod i'n eistedd
(1, 0) 608 I ddweud fy stori wrthyt—Wedi brwydr
(1, 0) 609 Mynydd Gilboa, pan gwympodd Saul a Jonathan,
(1, 0) 610 Rhuthrodd yr haid Philistaidd hyd at blas
(1, 0) 611 Fy nhad i ladd a llosgi ac ysbeilio.
(1, 0) 612 Fe ffodd fy mamaeth gyda minnau'n faban
(1, 0) 613 A'r fflamau'n lliwio'r nos; ond yn ei brys
(1, 0) 614 A'i dychryn fe'm gollyngodd ar y cerrig;
(1, 0) 615 Torrwyd fy fferau. Cawsom loches gudd
(1, 0) 616 Yn nhŷ Machir, un o dyddynwyr Saul.
(1, 0) 617 Eithr o ddiffyg meddyg yn ein cuddfan
(1, 0) 618 Asiodd fy fferau'n gam. Ni cherddais byth
(1, 0) 619 Heb help ffyn baglau.
(Abisâg) {A'i llygaid yn llaith gan y stori.}
 
(1, 0) 679 O, Frenhines Rasol,
(1, 0) 680 Yn fy ngweddïau beunydd cofiaf di...
(1, 0) 681 Yn fy rhyfeddod 'mod i eto'n fyw.
(1, 0) 682 Rhoed Duw i'r Brenin estyn edau f'einioes.
 
(1, 0) 684 Mae ar gardotyn efrydd eisiau byw!
(Bathseba) {Yn edmygu ei ddewrder, er gwaethaf ei llid at Dŷ Saul.}:
 
(1, 0) 760 Trugaredd, Frenin grasol!
(Dafydd) Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia!
 
(1, 0) 766 O Frenin mawr a grasol, beth wyf fi
(1, 0) 767 It edrych ar gi marw, cloff, o'm bath?
(Dafydd) {A'r dagrau yn ei lais yntau.}
 
(Dafydd) Hyn oll, fy machgen, er mwyn Jonathan.
(1, 0) 791 Tad pob amddifad tlawd a dalo iti.
(1, 0) 792 Gwelodd fy llygaid heddiw fawredd Dafydd,
(1, 0) 793 A Duw a sicrha dy orsedd byth.
(Dafydd) {Gan amneidio ar Abisâg, sy'n aros o hyd yn ymgrymw'n isel ar ris yr esgynlawr gerllaw'r delyn.}
 
(Solomon) O ddenu'r werin.
(2, 1) 970 Pam? Pa beth a wnaeth?
(Solomon) Cyfododd eisoes blasty iddo'i hun
 
(Solomon) Sy'n well na'r plasty hwn.
(2, 1) 973 Gŵr celfydd yw,
(2, 1) 974 A noddwr i wŷr celfydd; ato y tyn
(2, 1) 975 Talentau newydd y genhedlaeth ifanc
(2, 1) 976 Yn reddfol, fel y darnau dur at dynfaen,
(2, 1) 977 — Penseiri, cerfwyr, a dodrefnwyr gwych,
(2, 1) 978 Rhoes Absalom siawns iddynt...
(2, 1) 979 — Ti sy i fynd.
(Solomon) {Yn cofio'n sydyn.}
 
(Solomon) Gerbyd tywysog?
(2, 1) 989 Gwêl,—mi symudaf i
(2, 1) 990 Fy marchog.
 
(Solomon) Ac mae o'n farchog campus.
(2, 1) 996 Campus! A'r Brenin
(2, 1) 997 Yn ymfalchïo'n llon fod ei etifedd
(2, 1) 998 Yn arwr cenedl.
(Solomon) "Balchder o flawn cwymp"—
 
(Solomon) Â gwên a geiriau gwag.
(2, 1) 1013 Gwarchod dy frenin!
(Solomon) Does ganddo byth na gair na gwên i'm mam.
 
(Solomon) Does ganddo byth na gair na gwên i'm mam.
(2, 1) 1015 'Wyt ti am symud?
(Solomon) Dyna!
 
(Solomon) {Yn symud darn.}
(2, 1) 1018 Tsiec! Rhy wyllt
(2, 1) 1019 Oedd dy symudiad.
(Solomon) Yna, mi symudaf hwn.
 
(Solomon) {Yn ofnus.} 'Faint glywaist-ti?
(2, 1) 1041 'Faint glywodd f'arglwydd dwysog
(2, 1) 1042 O'n siarad gwag?
(Absalom) {Tan wenu.}
 
(Absalom) Meffiboseth?
(2, 1) 1115 Tegwch bro, a serch ei llwythau'n clymu
(2, 1) 1116 Fel y winwydden am y tegwch hwn,—
(2, 1) 1117 Ei choed, ei bryniau, ei hafonydd clir.
(2, 1) 1118 Y tad yn dysgu i'w fab ar gân ei charu,
(2, 1) 1119 A'r fam yn dysgu i'r ferch,—a'r gân a'r iaith
(2, 1) 1120 A'r tegwch yn ymdoddi'n un dreftadaeth,
(2, 1) 1121 Mor gyfrin, o genhedlaeth i genhedlaeth,
(2, 1) 1122 Fe fyddai'n wiw gan ddyn gael marw drosti.
(Absalom) Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab?
 
(2, 1) 1167 O rhowch i minnau'r fraint o gerfio'i chedrwydd
(2, 1) 1168 Yn gnapïau addurn ac yn flodau lili.
(Dafydd) Gwyn fyd pob tad â meibion fel y rhain,
 
(2, 2) 1765 O, Frenin mawr a thirion,
(2, 2) 1766 Pa beth a wnaf os collaf wedd dy wyneb?
(2, 2) 1767 Heb wên y gŵr fu'n codi'r tlawd o'r llwch
(2, 2) 1768 Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf?
(Abisâg) Dangos dy rodd i'r Brenin.
 
(Abisâg) Dangos dy rodd i'r Brenin.
(2, 2) 1770 Mae'n rhy hwyr!
(Abisâg) Bu'n cerfio cist, i'w Frenin gadw'r goron
 
(2, 2) 1778 Taw! Bellach mae'n rhy hwyr.
(Dafydd) {Yn dyner iawn, gan estyn ei ddwylo allan ato.}
 
(2, 2) 1792 Ffarwel, fy Nhad!
(Ahimâs) {Yn dyner wrth Abisâg ger y Porth, wedi i'r lleill gilio.}
 
(2, 3) 1855 O! lleddwch fi!
(2, 3) 1856 Paham y byddaf byw i weld eich gwarth,
(2, 3) 1857 Y bradwyr? Lleddwch fi wrth orsedd Dafydd.
(Absalom) {Wrth Ahitoffel.}
 
(Absalom) Â thi fy mrawd-dywysog.
(2, 3) 1863 O! paham
(2, 3) 1864 Y rhoddaist glust, fy mrawd, i'r dyn drwg hwn?
(Ahitoffel) Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel.
 
(Ahitoffel) Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel.
(2, 3) 1866 Ni allaf i benlinio; a phe gallwn
(2, 3) 1867 Ni phlygwn namyn i Eneiniog Duw.
 
(Absalom) Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines.
(2, 3) 1874 Hi a fu'n pledio drosof.
(Ahitoffel) Rhagor o'i dichell,
 
(Ahitoffel) Er cael cefnogaeth gan Dŷ Saul i'w mab.
(2, 3) 1877 O mor ddaionus ydoedd trigo o frodyr
(2, 3) 1878 Ynghŷd yn Llys y Brenin.
(Absalom) Yr wyt ti'n
 
(Absalom) Mor enbyd cyflwr Israel.
(2, 3) 1882 Mi wn hyn,
(2, 3) 1883 Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad.
(Absalom) Ac ni niweidiwn innau ef er dim;
 
(Absalom) A wyt-ti'n fodlon?
(2, 3) 1889 Nes dychwelo ef.
(Absalom) O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti?
 
(2, 3) 1892 Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu.
(Ahitoffel) {Yn gafael yn ei fraich a'i throi.}
 
(2, 3) 1896 Nid oes dim celwydd ynof, fel tydi:
(2, 3) 1897 Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu,
(2, 3) 1898 Ac fe ddiflannodd.
(Absalom) Wyddost ti ddim mwy?
 
(Absalom) Wyddost ti ddim mwy?
(2, 3) 1900 Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw.
(2, 3) 1901 Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn.
(Absalom) Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron.
 
(Absalom) Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di?
(2, 3) 1904 Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin.
(Absalom) Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron,
 
(2, 3) 1908 Fynni-di win?
(Ahitoffel) Na! Paid â'i yfed... Dichon bod gwenwyn ynddo.
 
(2, 3) 1911 Nid ydyw gwenwyn yn un o arfau Dafydd.
(2, 3) 1912 Edrychwch.
 
(2, 3) 1922 Mi af, wrth gwrs.
(2, 3) 1923 Ni fynnai'n Tad fod croeso'i fab yn brin.
(Ahitoffel) Sut yr wyt ti'n ei oddef?
 
(Absalom) Ai un o'm milwyr i...?
(2, 3) 2216 Acw...yn yr ardd...
(2, 3) 2217 Rhedais i'w erbyn... 'Roedd yr haul wrth fachlud
(2, 3) 2218 Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O!