| (Tom) Hen bethau di-ddim. | |
| (1, 0) 97 | Helo... |
| (Tom) Megan, ti sy' yna? | |
| (Tom) Megan, ti sy' yna? | |
| (1, 0) 100 | Wedi dod i weld y claf. |
| (1, 0) 102 | A... |
| (1, 0) 103 | Bore da Dafydd. |
| (Dafydd) Bore da, Mrs Puw. | |
| (1, 0) 107 | A shwd ma' pethau heddi' Tomos? |
| (Tom) Cystal â'r disgwyl am wn i. | |
| (Tom) Cystal â'r disgwyl am wn i. | |
| (1, 0) 109 | Dyw'r annwyd ddim gwell? |
| (Tom) Na ─ dim rhyw lawer. | |
| (Tom) {Pesychu.} | |
| (1, 0) 112 | Diar mi. |
| (1, 0) 113 | Mae'n bryd gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peswch yna. |
| (Tom) Fel be? | |
| (Tom) Fel be? | |
| (1, 0) 115 | Wel, gwell i ti ddefnyddio hwn i ddechrau. |
| (Tom) Beth yw e'? | |
| (1, 0) 118 | Rhywbeth i wella tipyn ar yr annwyd yna. |
| (1, 0) 119 | Hanna Morris y Felin wedi ei gymysgu yn arbennig. |
| (Tom) Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio rhyw bethau mae honno wedi'i gymysgu. | |
| (Tom) Duw a ŵyr be' sy' ynddo fe. | |
| (1, 0) 122 | Paid â bod mor anniolchgar. |
| (1, 0) 123 | Mi gymysgodd Hanna Morris y stwff yma yn arbennig i ti. |
| (Tom) Wel, dw i ddim eisiau fe. | |
| (1, 0) 126 | Dyma fyddai ei Mam yn ei ddefnyddio bob amser. |
| (Tom) Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd. | |
| (Tom) Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd. | |
| (1, 0) 128 | Wel, mi faswn i'n dy gynghori di i ddefnyddio hwn ─ yn enwedig os wyt ti am fynd i'r gêm rygbi yna ddydd Sadwrn. |
| (Tom) {Gan gymryd y botel.} | |
| (Tom) Wyt ti'n meddwl y gwnaiff e' rhyw les? | |
| (1, 0) 131 | Mae Gwyneth Watkin yn credu'n gryf yn y stwff yma. |
| (Tom) Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth. | |
| (Tom) Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth. | |
| (1, 0) 133 | Ac mae Jones y gweinidog yn defnyddio hwn hefyd. |
| (Tom) Olreit... olreit... mi wna i. | |
| (Tom) Olreit... olreit... mi wna i. | |
| (1, 0) 135 | Ti'n addo? |
| (Tom) Er mwyn dy blesio di. | |
| (Tom) Er mwyn dy blesio di. | |
| (1, 0) 137 | Dyna welliant. |
| (Ann) A shwd dech chi erbyn hyn 'Nhad? | |
| (1, 0) 157 | Wyt ti wedi darllen y papur? |
| (Tom) Naddo. | |
| (Tom) Pam? | |
| (1, 0) 160 | Gweld fod Lisa Jane Brynrodyn wedi marw. |
| (Ann) Pwy? | |
| (Ann) Pwy? | |
| (1, 0) 162 | Lisa Jane. |
| (1, 0) 163 | Chwaer-yng-nghyfraith i Hywel y Postman. |
| (Ann) Dim yn ei nabod hi. | |
| (Tom) Er hynny, chwith meddwl fod hi wedi mynd. | |
| (1, 0) 172 | Fel 'na mae hi yn yr hen fyd yma. |
| (Tom) Ie, debyg. | |
| (Tom) Y cyfan yn nwylo y Brenin Mawr. | |
| (1, 0) 175 | Cofia, mae'n drueni mawr nad yw Lisa Jane yma heddiw i ddarllen y |notice|. |
| (1, 0) 176 | Roedd hi bob amser yn licio gweld ei henw yn y papur. |
| (Tom) Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir. | |
| (1, 0) 221 | Rhywbeth i wella annwyd Tomos. |
| (1, 0) 222 | Hanna Morris wedi ei gymysgu yn arbennig. |
| (Dafydd) Be sydd ynddo fe? | |
| (Tom) Duw a ŵyr! | |
| (1, 0) 225 | Ond mae pawb yn dweud ei fod e'n stwff da. |
| (Dafydd) {Edrych ar y botel yn amheus.} | |
| (Tom) Wel... | |
| (1, 0) 229 | Ydi, wrth gwrs! |
| (1, 0) 230 | Mae'n rhaid i ni dy wella yn o fuan neu chei di byth fynd i'r gêm rygbi na, a hwnna yw'r stwff i wneud y gwaith. |
| (Tom) {Pesychu.} | |
| (Tom) Gobeithio bod ti'n iawn... | |
| (1, 0) 233 | Wrth gwrs 'mod i'n iawn. |
| (1, 0) 235 | Defnyddia di hwnna, a bydd y peswch yna'n well mewn chwinciad. |
| (Dafydd) Efallai mai'r doctor sydd yna. | |
| (Dafydd) Ie, mae'r car y tu allan. | |
| (1, 0) 240 | Y doctor? |
| (1, 0) 241 | Gwastraff amser yw galw un o rheini. |
| (1, 0) 242 | Mae Hanna Morris yn deall mwy na'r doctoriaid i gyd gyda'i gilydd. |
| (Dafydd) Gawn ni weld. | |
| (Dafydd) {Dafydd yn mynd allan.} | |
| (1, 0) 245 | Wel, os mai'r doctor sydd yna, gwell i minnau fynd hefyd. |
| (1, 0) 246 | Cofia ddefnyddio stwff Hanna Morris... |
| (Tom) Reit. | |
| (Tom) Reit. | |
| (1, 0) 248 | Mi fydda' i nôl cyn hir. |
| (Tom) Lle ti'n mynd 'te? | |
| (Tom) Lle ti'n mynd 'te? | |
| (1, 0) 250 | Dim ond taro adref. |
| (Tom) I beth? | |
| (Ann) I mewn fan hyn ma' fe Doctor. | |
| (1, 0) 254 | Gwell i mi fynd. |
| (Ann) Dyma ni. | |
| (Ann) Dech chi'n mynd, Mrs Puw? | |
| (1, 0) 259 | Ydw am ychydig. |
| (1, 0) 261 | Fydda i ddim yn hir. |
| (1, 0) 262 | Hwyl rŵan. |
| (1, 0) 263 | Bore da, Doctor. |
| (Aled) Beth am y tocyn... | |
| (1, 0) 600 | Dech chi wedi colli rhywbeth, Mr Morgan? |
| (Aled) {Wedi dychryn.} | |
| (Aled) Wnes i ddim clywed chi'n dod i mewn. | |
| (1, 0) 605 | Naddo, mae'n debyg. |
| (1, 0) 606 | Beth oe'ch chi'n wneud o dan y fatres 'na 'te? |
| (Aled) Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn. | |
| (Aled) Mae hynny'n gwestiwn da, Mrs Puw ─ cwestiwn da iawn. | |
| (1, 0) 608 | Wel? |
| (Aled) Ie, wel... | |
| (Aled) Rwy'n sylweddoli fod e'n edrych yn od iawn ond mi alla' i esbonio'r cyfan... | |
| (1, 0) 611 | Mae'n dda gen i glywed hynny. |
| (Aled) Dech chi'n gweld... | |
| (Aled) Y rheswm i mi edrych dan y fatres... | |
| (1, 0) 614 | Ie? |
| (Aled) Ie... | |
| (Aled) Roedd yn rhaid i mi edrych yno er mwyn ceisio chwilio am... am... amdano. | |
| (1, 0) 618 | Chwilio am beth? |
| (Aled) Hynny yw, meddwl efallai fod e' dan y fatres... ac felly, yn meddwl mai'r peth gorau fyddai edrych i wneud yn siŵr... | |
| (Aled) Ond wrth gwrs, doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd. | |
| (1, 0) 622 | Dw i ddim yn deall... |
| (Aled) Mae'r peth yn hollol syml. | |
| (1, 0) 628 | Wel... |
| (Aled) Iawn. | |
| (Aled) {Aled yn mynd allan yn frysiog.} | |
| (1, 0) 635 | Ddeellais i yr un gair...! |
| (Tom) Mae'n dda cael gwared o hwnna! | |
| (Tom) Mae'n dda cael gwared o hwnna! | |
| (1, 0) 638 | Beth? |
| (Tom) Chwarae teg i ti Megan. | |
| (Tom) Roedd e'n carlamu lawr y staer yna, tri step ar y tro. | |
| (1, 0) 641 | Pwy? |
| (Tom) Mistar Aled Morgan wrth gwrs! | |
| (Tom) Be ddywedaist ti wrtho fe? | |
| (1, 0) 644 | Ges i ddim cyfle i ddweud dim byd. |
| (Tom) Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth. | |
| (Tom) Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth. | |
| (1, 0) 646 | Beth oedd e' eisiau 'te? |
| (Tom) Wel, y tocyn wrth gwrs. | |
| (Tom) Wel, y tocyn wrth gwrs. | |
| (1, 0) 648 | Pa docyn? |
| (Tom) Tocyn gêm dydd Sadwrn. | |
| (Tom) Tocyn gêm dydd Sadwrn. | |
| (1, 0) 650 | Na... |
| (Tom) Cyn gynted ag y clywodd e 'mod i'n sâl, dyma fe'n dod heibio... | |
| (Tom) Fe a'i baced grêps. | |
| (1, 0) 653 | Wel, y creadur digywilydd...! |
| (Tom) Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...! | |
| (Tom) Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...! | |
| (1, 0) 655 | Wnest ti ddim...? |
| (Tom) Dim peryg! | |
| (1, 0) 658 | Dyna beth oedd e'n chwilio amdano! |
| (Tom) Pryd? | |
| (Tom) Pryd? | |
| (1, 0) 660 | Pan ddes i mewn roedd e'n chwilio am rhywbeth dan fatres y gwely. |
| (Tom) {Gan chwerthin.} | |
| (Tom) Wel, ffindieth e 'run tocyn lawr fan 'na. | |
| (1, 0) 663 | Lle ma' fe 'te? |
| (Tom) Ma' fe'n ddigon saff i ti. | |
| (Tom) Ma' fe'n ddigon saff i ti. | |
| (1, 0) 665 | Yn lle? |
| (Tom) Rhaid i ti ofyn i Ann. | |
| (Tom) Hi sy'n gwybod lle ma' popeth yn y tŷ yma. | |
| (1, 0) 668 | Wyt ti ddim yn gwybod lle ma' fe 'te? |
| (Tom) Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan. | |
| (Tom) Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan. | |
| (1, 0) 670 | Wyddost ti, Tomos, rwyt ti'n ffodus iawn fod Ann yma i ofalu amdanat ti. |
| (Tom) Felly mae pawb yn dweud. | |
| (Tom) {Mynd yn ôl i'w wely.} | |
| (1, 0) 673 | Paid â mynd i'r gwely eto. |
| (Tom) Beth? | |
| (Tom) Beth? | |
| (1, 0) 675 | Paid â mynd 'nôl mewn i'r gwely 'na. |
| (Tom) Pam? | |
| (Tom) Pam? | |
| (1, 0) 677 | Rydw i eisiau ti gyntaf. |
| (Tom) {Yn methu credu.} | |
| (Tom) Beth? | |
| (1, 0) 680 | Rwy' am i ti orwedd ar y gwely. |
| (Tom) Pam? | |
| (Tom) Pam? | |
| (1, 0) 682 | Os wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn, gorwedd ar y gwely 'na. |
| (Tom) Ond pam? | |
| (1, 0) 685 | Gorwedd! |
| (Tom) Ond Megan... | |
| (1, 0) 689 | Tynna gôt dy bajamas i ffwrdd. |
| (Tom) Beth? | |
| (Tom) Dim dyma'r amser... | |
| (1, 0) 693 | Tynna hi i ffwrdd. |
| (Tom) {Yn dechrau agor botymau côt ei bajamas.} | |
| (1, 0) 697 | Mae hwn yn lyfr da. |
| (Tom) Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl... | |
| (Tom) Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl... | |
| (1, 0) 699 | Digon o luniau... i esbonio'r cyfan. |
| (Tom) Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na! | |
| (Tom) Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na! | |
| (1, 0) 701 | Paid â phoeni. |
| (1, 0) 702 | Rwy'n siŵr y byddi di'n teimlo'n well wedyn. |
| (Tom) Wn i ddim wir. | |
| (Tom) Rwy' wedi mynd braidd yn rhy hen i rhyw bethau fel hyn. | |
| (1, 0) 705 | Y cyfan sy' angen yw gosod ambell i nodwydd yn y cnawd yma ac acw. |
| (Tom) Be' ddywedaist ti? | |
| (Tom) Be' ddywedaist ti? | |
| (1, 0) 707 | Ar gyfer annwyd mae angen gosod un nodwydd yn dy fraich ac yna un arall yn dy... |
| (Tom) {Yn neidio o'r gwely.} | |
| (Tom) Beth yw'r llyfr 'na? | |
| (1, 0) 710 | |Acupuncture for Beginners|. |
| (Tom) Dim peryg! | |
| (Tom) Dim peryg! | |
| (1, 0) 712 | Ond Tomos... |
| (Tom) Na. | |
| (Tom) Dwyt ti ddim yn mynd i ddechrau sticio nodwyddau ynddo' i. | |
| (1, 0) 716 | Ond mae e'n ffordd dda i leddfu poen. |
| (Tom) Does gen i ddim gwahaniaeth beth yw e. | |
| (Tom) Cer i sticio dy nodwyddau yn rhywun arall. | |
| (1, 0) 719 | Ond Tomos... |
| (Tom) Na ─ a dyna ben ar y peth. | |
| (Tom) Na ─ a dyna ben ar y peth. | |
| (1, 0) 721 | O wel, beth am y llyfr hwn 'te? |
| (Tom) Beth yw e'? | |
| (1, 0) 724 | Mae nhw'n dweud fod hwn yn gallu bod yn effeithiol iawn hefyd. |
| (Tom) Gad i mi weld. | |
| (Tom) {Mynd â'r llyfr oddi wrthi ac eistedd ar y gwely i'w ddarllen.} | |
| (1, 0) 727 | Wrth gwrs, i hyn weithio'n iawn, bydd rhaid i ni droi'r gwely rownd gyntaf. |
| (Tom) Troi'r gwely rownd? | |
| (Tom) Troi'r gwely rownd? | |
| (1, 0) 729 | Ie, mae'n rhaid i'r gwely wynebu'r gogledd. |
| (Tom) Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely. | |
| (Tom) Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely. | |
| (1, 0) 731 | Ond mae'n rhaid iddo gyd-redeg â llinellau magnetic y ddaear. |
| (Tom) Os wyt ti'n dweud. | |
| (Tom) Os wyt ti'n dweud. | |
| (1, 0) 733 | Dim fi sy'n dweud ─ ond y llyfr. |
| (Tom) Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi. | |
| (Tom) Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi. | |
| (1, 0) 735 | Wyddwn i ddim fod ti'n iwsio ffon? |
| (Tom) Mae 'na fwy na un defnydd i ffon. | |
| (Dafydd) Beth? | |
| (1, 0) 743 | I wynebu'r gogledd. |
| (Dafydd) Ond pam? | |
| (1, 0) 752 | Nawr Tomos, i mewn â thi. |
| (1, 0) 755 | Beth sydd nesaf? |
| (1, 0) 756 | O ie ─ mae angen ychydig o ddail te. |
| (1, 0) 757 | Pasia'r myg 'na Dafydd. |
| (Dafydd) Dim ond 'tea bag' sydd yn hwn. | |
| (Dafydd) Dim ond 'tea bag' sydd yn hwn. | |
| (1, 0) 759 | Mi fydd rhaid iddo wneud y tro. |
| (Tom) Mae hwnna'n wlyb. | |
| (1, 0) 762 | Cwyno o hyd. |
| (1, 0) 763 | Wyt ti eisiau mynd i'r gêm ddydd Sadwrn? |
| (Tom) Wel ydw, wrth gwrs ond... | |
| (Tom) Wel ydw, wrth gwrs ond... | |
| (1, 0) 765 | Bydd dawel 'te. |
| (1, 0) 766 | Nawr, lle o'en i? |
| (1, 0) 767 | O ie. |
| (1, 0) 769 | ~ |
| (1, 0) 770 | Rhaid yw dewis rhan o ddeilen, |
| (1, 0) 771 | Rhoi'n ofalus ar ei dalcen, |
| (1, 0) 772 | Dail a ddaw o'r India pell, |
| (1, 0) 773 | Bydd y claf cyn hir yn well. |
| (1, 0) 774 | Wel? |
| (Tom) Wel be? | |
| (Tom) Wel be? | |
| (1, 0) 776 | Wyt ti'n teimlo'n well? |
| (Tom) {Yn amheus.} | |
| (Tom) Dw i ddim yn credu... | |
| (1, 0) 779 | Gobeithio fod ti'n cymryd y pethau yma o ddifrif. |
| (Tom) Wrth gwrs. | |
| (Tom) Wrth gwrs. | |
| (1, 0) 781 | Reit. |
| (1, 0) 782 | Dafydd ─ Dewch chi fan hyn... |
| (1, 0) 784 | A cherddwch chi ffordd yna o amgylch y gwely... |
| (1, 0) 787 | Hym - hade - hade - fw! |
| (1, 0) 789 | Wel, dewch 'mlaen Dafydd... |
| (1, 0) 790 | A tithau Tomos! |
| (Pawb) Hym - hade- hade - fw! | |
| (Ann) A beth yw hwn? | |
| (1, 0) 798 | Un o hen lyfrau Hanna Morris. |
| (Ann) A pham fod y gwely wedi'i symud? | |
| (Ann) A pham fod y gwely wedi'i symud? | |
| (1, 0) 800 | Roedd y llyfr yn dweud... |
| (Ann) Does gen i ddim gwahaniaeth beth mae'r llyfr yn ddweud. | |
| (Dafydd) Rwyt ti wedi gwerthu y tocyn... | |
| (1, 0) 831 | I Aled Morgan o bawb? |
| (Tom) Ddylet ti ddim... | |
| (Ann) Neu wreslo... | |
| (1, 0) 850 | Pobol y Cwm... |
| (Ann) A'r gêm rygbi dydd Sadwrn. | |
| (Dafydd) Mae'n dda gen i glywed hynny. | |
| (1, 0) 922 | Tomos? |
| (Tom) Ie Megan? | |
| (Tom) Ie Megan? | |
| (1, 0) 924 | Rwyt ti wedi dechrau defnyddio botel Hanna Morris 'te? |
| (Tom) Do. | |
| (Tom) Wedi yfed rhyw lwyaid neu ddwy... hen beth digon sur yw e' hefyd. | |
| (1, 0) 927 | Wedi yfed e'? |
| (Tom) Do. | |
| (Tom) Pam? | |
| (1, 0) 931 | Ond stwff i rwbio ar dy frest oedd hwn! |