| (Y Criwr) Pell ac agos yma dewch, | |
| (Pobun) Chwaryddion yn ei chanlyn yn llu a hithau'n dyfod i'm ceisio. | |
| (0, 3) 281 | Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd. |
| (Pobun) Y mae d'oleuni di yn drech na'r ffaglau oll, a'th eiriau'n bereiddiach na sain telyn. | |
| (Pobun) Y mae hyn oll i mi yr awr hon fel balm i glwyf agored. | |
| (0, 3) 284 | Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti. |
| (Pobun) A roddi di gymaint o bris arnaf nes sylwi ar bethau felly? | |
| (Pobun) Nid rhyw hen ddyn annymunol ydwyf iti felly, mewn gwirionedd? | |
| (0, 3) 287 | Mae'r geiriau hyn yn peri poen i mi, ac ni ddisgwyliwn monynt gennyt chwaith. |
| (0, 3) 288 | Ni'm denir i gan bob rhyw hogyn gwirion, tydi dy hunan yw fy nghariad i—a'm gŵr. |
| (Pobun) Yr wyf yn wir yn teimlo'n ieuanc o galon ac o'm rhan fy hun yn ddigon tebyg i hogyn, ac os wyf wedi peidio â bod yn hogyn erbyn hyn, y mae fy nheimlad lawn |mor| dyner. | |
| (Pobun) Yr wyf yn wir yn teimlo'n ieuanc o galon ac o'm rhan fy hun yn ddigon tebyg i hogyn, ac os wyf wedi peidio â bod yn hogyn erbyn hyn, y mae fy nheimlad lawn |mor| dyner. | |
| (0, 3) 290 | Peth hy yw cariad hogyn, peth heb barch; peth tyner, mawr ei fryd, yw cariad gŵr. |
| (0, 3) 291 | Bydd ei law ef yn hael a'i fryd yn gyson, hynny fydd yn tynnu merched ato. |
| (Pobun) Pan goffaer dyn am angau, a'i fod yntau'n brudd ei fryd, bydd gweld d'anwyldeb di yn ddigon i chwalu'r meddyliau trymllyd. | |
| (Pobun) Pan goffaer dyn am angau, a'i fod yntau'n brudd ei fryd, bydd gweld d'anwyldeb di yn ddigon i chwalu'r meddyliau trymllyd. | |
| (0, 3) 293 | Y mae'r gair yna'n gyrru ofn arnaf. |
| (0, 3) 294 | Y mae angau fel sarff wenwynig, yn gorwedd o'r golwg dan y blodau—ni ddylid byth mo'i deffroi hi. |
| (Pobun) F'anwylyd, a berais i boen i ti? | |
| (Pobun) Gadawn iddi ymguddio dan y blodau; na boed i ni gofio dim yn y byd am un sarff, ond am ddwy yn cofleidio'n annwyl. | |
| (0, 3) 297 | A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau? |
| (Pobun) Dy freichiau annwyl di ydynt hwy, a mynnwn orwedd ynddynt. | |
| (Car Tew) Beth sydd o'i le arnat? | |
| (0, 4) 343 | Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino? |
| (Pobun) Rhywbeth yn dyfod dros wefus dyn heb yn wybod iddo! | |
| (Pobun) Ond, y croeso gorau yn y byd i chwi bawb! | |
| (0, 4) 346 | Cymerwch eich lleoedd fel y mynnoch! |
| (0, 4) 347 | Chwi fechgyn, dowch â dŵr i ni olchi'n bysedd. |
| (0, 4) 349 | Pam y sefi di mor synn? |
| (0, 4) 350 | Eistedda ni i lawr. |
| (Pobun) Pam y maent hwy yn eistedd bob un yn ei amdo! | |
| (Pobun) Pam y maent hwy yn eistedd bob un yn ei amdo! | |
| (0, 4) 352 | Beth sydd o'i le arnat? |
| (0, 4) 353 | A wyt ti'n glaf, dywed? |
| (Pobun) Ha-ha! | |
| (Pobun) Mi yfaf gwpanaid o win i glirio rhyw ddylni felly o'r ymennydd. | |
| (0, 4) 357 | Eistedd! |
| (0, 4) 358 | Dywed ryw air caredig wrthynt! |
| (Pobun) Ai yma y dylech chwi fod, bobl? | |
| (Car Tew) Ni bydd ef ddim yn gyffredin yn siarad fel hyn. | |
| (0, 4) 368 | A saif y gair amdanaf innau hefyd? |
| (Gwahoddedig 1) Araith gŵr goludog yn gymwys, peth cwbl hŷ a sarhaus. | |
| (Gwahoddedig 1) Araith gŵr goludog yn gymwys, peth cwbl hŷ a sarhaus. | |
| (0, 4) 371 | Y mae dy lygaid di yn rhythu'n ofnadwy! |
| (0, 4) 372 | Am ba beth y mynni di roi cosb arnaf i, dywed? |
| (Pobun) Dy gosbi di, f'anwylyd? | |
| (Pobun) Rhaid fy mod yn rhyw feddwl ar ddamwain sut olwg fyddai arnat pe daethai'r newydd i ti yn sydyn gan rywun fod yn rhaid i mi farw yr awr hon. | |
| (0, 4) 376 | Er mwyn cariad Crist, pa beth sydd o'i le arnat, fy nghariad annwyl? |
| (0, 4) 377 | Dyma fi gyda thi, gwel fi, eiddot ti wyf, heddiw ac yn dragywydd. |
| (Pobun) Pe gofynnwn | |
| (Pobun) A fynni di ddyfod i'm canlyn i'r fan draw, a chymryd rhan o'm gwely oer-fel-yr-ia? | |
| (0, 4) 382 | Duw fo'n gwarchod! |
| (Pobun) Syrthit yn ddideimlad wrth fy nhraed, fel y byddai raid i minnau edifarhau am ofyn y fath beth? | |
| (Pobun) {Ucheneidia.} | |
| (0, 4) 387 | Chwi gyfeillion a cheraint annwyl, y mae rhywbeth yn rhyfedd ar f'anwylyd heddiw. |
| (0, 4) 388 | Ni wn i ddim i ble i droi. |
| (0, 4) 389 | Oni ellwch chwi roi rhyw gymorth i mi? |
| (0, 4) 390 | Dyma fo'n sefyll yn ddigalon ac ar wahan, ac yn sôn am bethau sy'n chwithig. |
| (0, 4) 391 | Ni welais erioed mono fel hyn o'r blaen. |
| (Pobun) Dduw trugarog! | |
| (Pobun) Dduw trugarog! | |
| (0, 4) 393 | Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo. |
| (Car Tenau) Ar f'enaid, Pobun, fy nghâr, a ddaeth iselder ysbryd trosoch? | |
| (Morwyn Ieuanc 2) Byddai hyn yn rhy gynnar i'r offeren fore! | |
| (0, 4) 479 | 'Rwy'n erfyn, peidiwch â rhoi'r gorau i ganu. |
| (Gwahoddedig 1) A glywodd un ohonoch chwi rywbeth yn tincian? | |
| (Gwahoddedig 2) Na thinc na thonc i'm enaid i! | |
| (0, 4) 483 | Da chwithau, na thewch â chanu. |
| (Pobun) ['Rwy'n erfyn na sonioch ddim mwy am y peth—ni chlywaf mono mwy, pob peth yn dda.] | |
| (Cydymaith) Pobun, [fy nghar,] yr wyf i ger llaw, | |
| (0, 4) 499 | Pobun! |
| (0, 4) 500 | Ie, gwel, dyma dy Gydymaith annwyl. |
| (Lleisiau) Pobun! | |
| (Pobun) Clywch mor groch y maent yn galw "Pobun!" | |
| (0, 4) 513 | Ni chlywaf i ddim sain. |
| (Car Tew) Ni chlywaf i ddim llef. | |
| (Pobun) Yfory cymeraf gyfle i ymgynghori â meddyg, er mwyn cael gwared rhag y drybini yma cto. | |
| (0, 4) 524 | Rhaid iti addo hynny i mi, f'anwylyd! |
| (0, 4) 525 | Mi drengwn o ing a gofid pe'th welwn yn fynych fel yna! |
| (Pobun) {Gan gyfodi mewn ing.} | |
| (Pobun) Fy nghydymaith da, fy meistres annwyl... | |
| (0, 5) 546 | Cymorth, Arglwydd Waredwr! |