Y Glöyn Byw

Cue-sheet for Merfyn

(Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.
 
(Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.
(1, 0) 17 Goreu yn y byd.
(1, 0) 18 Yr wyf i wedi blino ar filiau i frecwest.
(Gwladys) Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi?
 
(Gwladys) Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi?
(1, 0) 20 Cwsmer?
(1, 0) 21 Dim perigl fy nghariad i!
 
(1, 0) 23 Fydd pethau felly ddim yn digwydd yn y byd sy'r awr hon─
(Gwladys) O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd!
 
(Gwladys) O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd!
(1, 0) 25 Ar "y byd sy'r awr hon" yr oedd y bai, fy nghariad i.
(1, 0) 26 Ond dywedyd yr oeddwn i na bydd cwsmeriaid ddim yn─ddim yn dyfod gyda'r post, na chyda dim arall.
(1, 0) 27 Yr wyf i wedi hen roi'r goreu i ddisgwyl am bethau felly.
(1, 0) 28 Yn wir, mi welaf bellach mai fy nhad druan oedd yn iawn.
(1, 0) 29 Mi wneuthum gamgymeriad ofnadwy─
(Gwladys) {Yn oeraidd.}
 
(Gwladys) Beth oedd hwnnw?
(1, 0) 33 Dysgu trin paent─hynny ydyw, paent fel hyn {gan estyn ei fys at un o'r lluniau}.
(1, 0) 34 Ni fedraf i yn fy myw roi paent ar fy ngeiriau, a dyna lle y methais i {mewn ton hwyliog eto} ie, siwr, fy mhobl i, y paent! y paent, fy mhobl i!
(Gwladys) O, Merfyn, Merfyn!
 
(Gwladys) O, Merfyn, Merfyn!
(1, 0) 36 Digon gwir, fy nghariad i.
(1, 0) 37 Ond pe bawn i wedi dysgu trin paent mewn ffordd haws, buasai yn well i mi─dysgu paentio drysau a ffenestri, llidiardau, certi, a─a gwalltiau merched gweini─
(Gwladys) O, Merfyn!
 
(Gwladys) Yr ydych yn rhy gas!
(1, 0) 40 Wel, mi sylwais fod gwallt Marged yn rhyw fath o felyn ddoe, cyn belled ag y gwn i rywbeth am liwiau.
(1, 0) 41 Yr wyf yn credu mai lliw llygoden─
 
(1, 0) 43 Yr wyf yn credu mai lliw llygoden ydyw erbyn heddyw.
(1, 0) 44 Ac er nad oes nemor gamp arnaf i fel artist, yr wyf yn ddigon hy i gredu y gallswn baentio 'i gwallt iddi yn wastatach o leiaf am ryw hanner coron─
(Gwladys) Tewch, Merfyn, da chwithau.
 
(Gwladys) Dowch i mewn!
(1, 0) 51 Yn awr ynteu, a welsoch chwi'r lliw?
(1, 0) 52 Rhywbeth rhwng melyn a choch a du a llwyd ydyw, cyn belled ag y gwn i─
(Gwladys) O twt, lol!
 
(Gwladys) Edrychwch ar y llythyrau, a gadewch lonydd iddi hi a'i gwallt─hi pia fo.
(1, 0) 55 Ie, diolch am hynny {mewn ton hwyliog} o drugaredd yn yr hen fyd yma!
(1, 0) 56 Ond y llythyrau, ynteu.
(1, 0) 57 O'r goreu.
 
(1, 0) 59 Dyma un i chwi.
 
(1, 0) 61 Bil y teiliwr─dyma'r seithfed tro iddo gymryd y drafferth, druan.
 
(1, 0) 63 Bil y miliner, am y fasged ddillad honno─hynny ydyw, am yr het fach glws honno a gawsoch chwi.
(1, 0) 64 Dyma'r pumed tro iddi hithau ddifetha papur.
(1, 0) 65 Ac inc.
(1, 0) 66 A stamp.
 
(1, 0) 68 Bil y glo.
(1, 0) 69 Rhaid bod ganddynt ddigon o amser i'w golli─dyma'r pedwerydd cynnyg.
 
(1, 0) 71 Bil y groser─yr ail.
(1, 0) 72 Wel y mae hwn ar ddechreu ei yrfa {gyda hwyl} yn y byd helbulus hwn!
(Gwladys) {Yn codi ei golwg oddiar ei llythyr.}
 
(Gwladys) Y mae fy modryb yn dyfod heddyw─
(1, 0) 76 Fo'n gwarchod!
(1, 0) 77 Pa fodryb?
(Gwladys) Modryb Elin─hyhi a roes y piano i ni yn hytrach, hyhi a roes ddeugain punt i ni brynu piano, fel y gwyddoch yn dda, Merfyn.
 
(1, 0) 80 A dyma lythyr oddiwrth bobl y siop fiwsig yn dwedyd bod dyn yn dyfod i fynd â'r piano i ffwrdd heddyw am na thalwyd mo'r arian oedd yn ddyledus ddechreu'r mis diweddaf─
(Gwladys) O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth!
 
(Gwladys) O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth!
(1, 0) 82 Y mae'n ddrwg gennyf orfod dywedyd, ond dyma lythyr y cnafon i chwi, ynteu.
 
(1, 0) 89 Yn awr, Gwladys fach, peidiwch âg wylo fel yna.
(1, 0) 90 Ni fedraf i ddim dioddef eich gweled!
(Gwladys) Ond beth a wnawn ni?
 
(Gwladys) {Yn wylo.}
(1, 0) 97 Wel, peidiwch âg wylo, beth bynnag.
(1, 0) 98 Mi ddyfeisiwn rywbeth yn union deg.
(Gwladys) Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl!
 
(Gwladys) Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl!
(1, 0) 100 Felly finnau hefyd, mi rof fy ngair i chwi!
(1, 0) 101 Ond gan na fynnant luniau, rhaid iddynt gymryd esgusion!
(Gwladys) Yr ydych yn cymryd popeth yn ysgafn, Merfyn!
 
(Gwladys) Fyddwch chwi byth o ddifrif!
(1, 0) 104 Dim perigl i mi gymryd pobl o ddifrif a hwythau yn fy nghymryd innau o fregedd!
(1, 0) 105 Prynant hwy luniau gennyf i, ac mi dalaf innau eu biliau iddynt hwythau.
(1, 0) 106 Y mae hynny yn deg.
(Gwladys) Ond ni waeth heb siarad fel yna.
 
(Gwladys) Rhaid i ni wneud rhywbeth heb law siarad.
(1, 0) 109 Rhaid, y mae'n wir.
(1, 0) 110 Ond pa peth?
(Gwladys) Wn i ddim.
 
(Gwladys) Wn i ddim.
(1, 0) 112 Na minnau!
(Gwladys) Pa faint oedd i'w dalu am y piano y mis diweddaf?
 
(1, 0) 115 Pedair punt─
(Gwladys) Pedair punt?
 
(Gwladys) Wel, dylem fedru cael cymaint a hynny rywsut─
(1, 0) 118 Am y mis diweddaf, a phedair am y mis cynt─
(Gwladys) O, Merfyn, 'does bosibl!─
 
(Gwladys) O, Merfyn, 'does bosibl!─
(1, 0) 120 Feddyliwn fod, fy nghariad i.
(1, 0) 121 A phedair am y mis cyn hynny.
(Gwladys) O, drugaredd fawr! dyna ddeuddeg punt.
 
(1, 0) 124 Y mae'n gas gennyf ffigyrau fel y gwyddoch.
(1, 0) 125 Ie, deuddeg.
(Gwladys) Â pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes?
 
(Gwladys) Â pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes?
(1, 0) 127 Dim ceiniog, gobeithio, gan fod yn rhaid iddi fynd!
(Gwladys) {Gan darawo ei throed yn y llawr.}
 
(Gwladys) Beth a ddywedwn ni wrth fy modryb?
(1, 0) 131 Wel, arhoswch funud─
 
(1, 0) 133 Dywedyd nad ydym eto wedi trawo ar biano wrth ein bodd─
(Gwladys) A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon!
 
(Gwladys) A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon!
(1, 0) 135 O, fu hi?
(1, 0) 136 Nid oeddwn i yn cofio hynny.
(1, 0) 137 Wel, ni thal y celwydd yna ddim, felly.
(1, 0) 138 Wn i ddim beth a ddywedwch, os na rowch gynnyg ar y gwir am unwaith─
(Gwladys) O, Merfyn!
 
(Gwladys) {Yn wylo.}
(1, 0) 141 Gwladys fach, maddeuwch i mi.
(1, 0) 142 Nid oeddwn yn meddwl dywedyd dim byd cas, nag oeddwn yn wir.
(1, 0) 143 Yr wyf wedi cellwair cymaint i geisio fy mherswadio fy hun na waeth gennyf pa beth a ddigwyddo, fel yr wyf wedi mynd i ddywedyd pethau heb ystyried.
(1, 0) 144 Dowch, dyna eneth dda.
(1, 0) 145 Rhaid i ni wneud rhywbeth, wrth gwrs.
(Gwladys) {Gan sychu ei llygaid.}
 
(Gwladys) Wel, mi af at fy nghyfnither i edrych a fedr hi ddim rhoi benthyg deuddeg punt i ni─ni fedraf i feddwl am ddim arall.
(1, 0) 148 le.
(1, 0) 149 Da iawn.
(1, 0) 150 Dyna eneth dda.
(1, 0) 151 Mi af innau at y cebyst gan Smith yna, i edrych a fedraf gael rhywfaint ganddo ar y lluniau hynny a adewais yn ei siop.
(Gwladys) O'r goreu.
 
(Gwladys) Rhaid i ni fod yn ein holau cyn canol dydd yn sicr.
(1, 0) 155 Rhaid, achos bydd pobl y piano yma yn union ar ol deuddeg o'r gloch.
(Gwladys) A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg!
 
(Morgan) Eisieu bod yn fawr oedd arnom y pryd hwnnw, onid e, ond erbyn hyn─yr hen amser gynt!
(1, 0) 411 Gwladys! dyna flodau tlysion!
(1, 0) 412 Ble y cawsoch hwy?
(Gwladys) Yn siop Edwards─dau swllt oeddynt.
 
(Gwladys) Ac mi ddaethoch o'm blaen i.
(1, 0) 415 Do, fy ngeneth i, yr wyf i yn sicr o ddyfod yn f'ôl fel arian drwg!
(Gwladys) {Yn eistedd gyferbyn ag ef, gan dynnu ei het a'i menig.}
 
(Gwladys) Wel, a gawsoch chwi rywfaint?
(1, 0) 418 Dim ceiniog goch, wrth gwrs.
(1, 0) 419 A'r catffwl gan Smith yna─mi allwn ei saethu fo!
(Gwladys) Pam?
 
(Gwladys) Beth a wnaeth o?
(1, 0) 422 Wel, dim; cafodd gynnyg decpunt am un o'r pictiwrs, a gwrthododd y ffwl gwirion ei werthu am na chai bymtheg amdano, fel yr oeddwn i wedi dywedyd wrtho.
(Gwladys) Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho?
 
(Gwladys) Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho?
(1, 0) 424 O, y penbwl ganddo, dylasai wybod y buaswn yn falch o ddeg─o bump─ie, o bum swllt!
(1, 0) 425 O! mi af yn labrwr, myn f'enaid i!
(1, 0) 426 Yr wyf wedi darfod â'r busnes yma!
(1, 0) 427 Dim chwaneg o baent i mi!
(Gwladys) Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─
 
(Gwladys) Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─
(1, 0) 429 Mi dâl yn well na'r busnes sy' gennyf i, beth bynnag!
(1, 0) 430 Sut y daeth hi ymlaen gyda chwi, ynteu?
(Gwladys) O, yn ofer, wrth gwrs.
 
(Gwladys) Nid oedd gan fy nghyfnither ddim ond ychydig arian gwynion yn y ty, ac ni ddaw'r gwr adref tan yr wythnos nesaf.
(1, 0) 433 Dyna'r hwch drwy'r siop yma ynteu.
(1, 0) 434 Ond {gan godi ar ei draed ac edrych o'i gwmpas yn syn} ni chofiais i ddym byd─
(Gwladys) Cofio beth?
 
(Gwladys) Cofio beth?
(1, 0) 436 Ond eich modryb!
(1, 0) 437 Dylasai fod yma cyn hyn.
(Gwladys) Wel, dylasai yn sicr!
 
(Gwladys) Un go lew yw'r hen fodryb, calon iawn ganddi─buasai'n ddrwg gennyf─
(1, 0) 442 Ble mae Marged?
(1, 0) 443 Dylai hi fod yn gwybod, os daeth eich modryb at y drws.
(Gwladys) Wn i ddim.
 
(Gwladys) Mi af i edrych amdani yn awr.
(1, 0) 451 Onid yw hi yna?
(Gwladys) Na, 'does dim golwg arni.
 
(Gwladys) Na, 'does dim golwg arni.
(1, 0) 453 Popeth o chwith!
(Gwladys) Popeth o chwith!
 
(Gwladys) Popeth o chwith!
(1, 0) 455 Wel, aed popeth yn yfflon ynteu!
(Gwladys) {Yn ddifrif.}
 
(Gwladys) Yr ydym wedi chwarae fel dau löyn byw ddigon o hyd!
(1, 0) 459 Digon gwir, Gwladys fach.
(1, 0) 460 Ond cofiwch,; yr wyf i wedi cymryd arnaf fy mod yn ddidaro ugeiniau o weithiau pan fyddwn i yn llawer parotach i eistedd i lawr a thorri fy nghalon.
(Gwladys) Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt.
 
(Gwladys) Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt.
(1, 0) 462 Dylasem, hwyrach.
(1, 0) 463 Ond beth a wnaem ni?
 
(1, 0) 465 Gwladys, a yw'n edifar gennyt?
(Gwladys) Am ba beth?
 
(Gwladys) Am ba beth?
(1, 0) 467 O! am y cwbl!
(1, 0) 468 Mi ddodais ormod o baent ar y llun, mi wn!
(Gwladys) Beth yw dy feddwl di?
 
(Gwladys) Beth yw dy feddwl di?
(1, 0) 470 O! wyt ti ddim yn cofio am y ty bychan hwnnw yn y wlad, briallu cochion, botwm gwr ifanc, balchder Llundain a chenin Pedr yn tyfu ar y lawnt; coeden ywen o flaen y ty, a mainc yn ei chysgod, dau bren rhosyn, un o bobtu i'r drws, a rhosynnau bach cochion arnynt.
(1, 0) 471 O, Gwladys!
(1, 0) 472 A'r lluniau oedd yn mynd i werthu cyn gynted ag y medrwn i eu paentio, a bywyd yn mynd i fod yn haf ar ei hyd─yr holl wagedd melys y buom yn byw arno gynt?
(Gwladys) {Gan fyned ato, a dodi ei dwylaw ar ei ysgwyddau.}
 
(1, 0) 477 Gwladys!
(Gwladys) Wyt ti'n deall bellach?
 
(1, 0) 480 Ydwyf, fy nghariad, yr wyf i yn deall.
(Gwladys) Ac eto, y mae'n gas gennyf dy weled ti mor drist.
 
(Gwladys) Ni welais i erioed monot ti fel hyn o'r blaen, Merfyn!
(1, 0) 483 Naddo.
(1, 0) 484 Pan fyddit ti yn cysgu y byddwn i yn cael rhyw byliau fel hyn─
(Gwladys) O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod!
 
(Gwladys) O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod!
(1, 0) 486 Y mae'n ddrwg gennyf dy fod ti wedi dyfod i wybod.
(1, 0) 487 Yr oeddwn yn gobeithio y gallwn ddal ati fel glöyn byw nes bod yr haul wedi tywynnu arnom.
(1, 0) 488 Ond yn awr, dyma fo yn mynd i lawr heb dywynnu, a'r byd i gyd yn llwyd ac yn oer.
(1, 0) 489 A gwae'r glöyn byw!
(Gwladys) {Gan edrych ym myw ei lygaid.}
 
(Gwladys) Yn awr, ynteu!
(1, 0) 497 O, Gwladys!
(Gwladys) {Gan godi ei gwallt.}
 
(Gwladys) Cawn ddeuddeg punt amdani, beth bynnag─y mae hi yn werth mwy na hynny─petae ddim ond y garreg.
(1, 0) 505 Na, ni chei di ddim mynd, Gwladys.
(1, 0) 506 Melltith ar y byd i gyd! na chei!
(1, 0) 507 Paid, dyro hi am dy wddw yn ôl, Gwladys, Gwladys!
 
(Gwladys) {Gan gydio yn y cwlwm blodau ac ysgoi i'w taflu i'r tân.}
(1, 0) 512 Gwladys!
 
(1, 0) 514 O! paid, paid!
(1, 0) 515 Edrych ar liw hwn!
(Gwladys) {Gan eu dodi yn ôl ar y bwrdd.}
 
(Gwladys) Ond y mae un peth gwell gennyf na'r cwbl.
(1, 0) 521 Beth yw hynnw?
(Gwladys) Tydi!
 
(Gwladys) Pwy ŵyr?
(1, 0) 526 Na chawn byth!
(1, 0) 527 Breuddwyd oedd!
(Gwladys) Eistedd di i lawr yn dawel─paid â dywedyd gair─dim un gair!
 
(1, 0) 545 O!
 
(1, 0) 550 Wn i ddim.
(1, 0) 551 Na, 'rwy'n well, yn well o lawer─yn iawn, yn wir.
(1, 0) 552 Wedi blino, wedi rhyw hanner cysgu.
(1, 0) 553 Teimlo dipyn yn & hurt...
(1, 0) 554 Maddeuwch i mi.
(Miss Jones) Ble y mae Gwladys?
 
(Miss Jones) Ble y mae Gwladys?
(1, 0) 562 Wedi mynd allan ar neges.
(1, 0) 563 Bydd yn ei hôl yn union deg.
(1, 0) 564 Y mae'n ddrwg gennyf, fy modryb, os buoch wrth y drws a neb yn ateb.
(1, 0) 565 Bu raid ini fynd allan ein dau, ac fel y digwyddodd, cawsom ein cadw yn o hir cyn dyfod yn ôl.
(Miss Jones) O, na phoenwch am hynny; digwyddais daro ar Mr. Morgan, sy'n hen gydnabod i mi, a chefais ginio gydag ef..
 
(1, 0) 595 Morgan!
 
(1, 0) 598 Gwladys, edrych!
 
(1, 0) 600 Wn i ddim pa beth sydd wedi digwydd, na pha beth i'w ddywedyd!