|
|
|
(Negeswyr) Gosteg! |
|
|
|
(Harbona) Mi fydda' i yno'n gweini. |
(1, 0) 304 |
Harbona! |
|
(Harbona) Wel, wel! |
|
|
|
(Harbona) Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio. |
(1, 0) 308 |
'Synnwn i fawr. |
|
(Harbona) 'Glywaist ti? |
|
|
|
(Harbona) Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd. |
(1, 0) 312 |
Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. |
|
(Harbona) Un arall eto! |
|
|
|
(Harbona) Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn. |
(1, 0) 315 |
Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn? |
(1, 0) 316 |
Ie, mi all hynny fod. |
|
(Harbona) Pa gymwynas arall a fedra' i? |
|
|
|
(Harbona) Pa gymwynas arall a fedra' i? |
(1, 0) 318 |
Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. |
|
(Harbona) Y Frenhines? |
|
|
|
(Harbona) Y Frenhines? |
(1, 0) 320 |
Ie. |
|
(Harbona) Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn? |
|
|
|
(Harbona) Y sach yna amdanat ti? |
(1, 0) 324 |
Sachliain a lludw. |
(1, 0) 325 |
Arwyddion ymostyngiad a gweddi fy mhobol i. |
(1, 0) 326 |
Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines. |
|
(Harbona) 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna. |
|
|
|
(Harbona) 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna. |
(1, 0) 328 |
Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. |
|
(Harbona) 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines. |
|
|
|
(Harbona) 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines. |
(1, 0) 330 |
Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. |
|
(Harbona) Ydy'r Brenin mewn perigl eto? |
|
|
|
(Harbona) Ydy'r Brenin mewn perigl eto? |
(1, 0) 332 |
Mae'r Frenhines mewn perigl. |
|
(Harbona) Y Frenhines mewn perigl? |
|
|
|
(Harbona) 'Wyt ti'n siŵr? |
(1, 0) 335 |
Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. |
|
(Harbona) Y Frenhines mewn perigl! |
|
|
|
(Esther) Beth ydy' ystyr hyn? |
(1, 0) 346 |
O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau. |
|
(Esther) Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i. |
|
|
|
(Harbona) Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi. |
(1, 0) 350 |
'Glywaist ti'r Proclamasiwn? |
|
(Esther) 'Rydw' i wedi ei ddarllen o. |
|
|
|
(Esther) 'Rydw' i wedi ei ddarllen o. |
(1, 0) 352 |
Dy genedl di, Esther. |
|
(Esther) Fy nghenedl i. |
|
|
|
(Esther) Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny. |
(1, 0) 356 |
'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu? |
|
(Esther) Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain? |
|
|
|
(Esther) Ydw', 'rydw' i'n deall. |
(1, 0) 359 |
Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd. |
(1, 0) 360 |
Lle bynnag y mae dynion, fe geir lladd plant bach a babanod. |
(1, 0) 361 |
Mae hwn heddiw yn wahanol iawn. |
|
(Esther) Ein cenedl |ni|? |
|
|
|
(Esther) Dyna wyt ti'n ei feddwl? |
(1, 0) 364 |
Nage. |
(1, 0) 365 |
Pa ots am hynny? |
(1, 0) 366 |
Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw. |
|
(Esther) Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob. |
|
|
|
(Esther) Duw'r addewid. |
(1, 0) 369 |
Yr unig Dduw. |
(1, 0) 370 |
Y Duw byw. |
(1, 0) 371 |
Duw Israel. |
(1, 0) 372 |
Ni yw ei dystion o. |
(1, 0) 373 |
Yr unig dystion sy ganddo drwy'r byd. |
(1, 0) 374 |
Dyna'n swydd ni, dyna'n gorchwyl ni ar y ddaear,─deud ei fod o'n bod. |
(1, 0) 375 |
Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny. |
|
(Esther) Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i. |
|
|
|
(Esther) Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny? |
(1, 0) 380 |
Pwy all ateb? |
(1, 0) 381 |
Mae'n amhosib ateb. |
|
(Esther) Mae O'n dibynnu arnon |ni|? |
|
|
|
(Esther) Mae O'n dibynnu arnon |ni|? |
(1, 0) 383 |
Cyfamod ydy' hi. |
(1, 0) 384 |
Trwom ni mae O'n gweithredu. |
(1, 0) 385 |
Ein tasg ni yw atal y perig. |
(1, 0) 386 |
Ni sy'n gyfrifol. |
|
(Esther) Ti sy'n gyfrifol. |
|
|
|
(Esther) Ti sy'n gyfrifol. |
(1, 0) 388 |
Fi'n gyfrifol? |
|
(Esther) Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn. |
|
|
|
(Esther) Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn. |
(1, 0) 390 |
Esther! |
|
(Esther) Morynion y palas sy'n deud hynny. |
|
|
|
(Esther) Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas. |
(1, 0) 393 |
Sut hynny? |
|
(Esther) Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin. |
|
|
|
(Esther) Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin. |
(1, 0) 395 |
Mi wela' i. |
(1, 0) 396 |
Haman? |
|
(Esther) Prif weinidog y Brenin. |
|
|
|
(Esther) Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn. |
(1, 0) 401 |
Maen' nhw'n iawn. |
(1, 0) 402 |
Dial Haman ydy' hwn. |
(1, 0) 403 |
Hen, hen gas. |
(1, 0) 404 |
Hen, hen ddial. |
(1, 0) 405 |
Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt. |
|
(Esther) Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu? |
|
|
|
(Esther) Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu? |
(1, 0) 407 |
Be arall y galla' i ddeud? |
|
(Esther) Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma. |
|
|
|
(Esther) Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma. |
(1, 0) 409 |
Er mwyn hynny yr ydw' i yma. |
|
(Esther) Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin. |
|
|
|
(Esther) Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin. |
(1, 0) 411 |
Sut? |
|
(Esther) Cymodi â Haman. |
|
|
(1, 0) 415 |
Esther! |
(1, 0) 416 |
'Wyt ti'n wallgo? |
|
(Esther) Gwallgo? |
|
|
|
(Esther) Pam? |
(1, 0) 419 |
Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau? |
(1, 0) 420 |
Popeth a ddysgais i iti? |
(1, 0) 421 |
Ymgrymu i Haman yr Agagiad? |
|
(Esther) 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel? |
|
|
|
(Esther) 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel? |
(1, 0) 423 |
'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman? |
|
(Esther) Nid fi sy'n dy gyhuddo di. |
|
|
|
(Esther) Nid fi sy'n dy gyhuddo di. |
(1, 0) 425 |
'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel. |
|
(Esther) Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o. |
|
|
|
(Esther) Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o. |
(1, 0) 427 |
Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib. |
(1, 0) 428 |
Rhyngddo fo a minnau mae cymod yn amhosib. |
(1, 0) 429 |
Y Duw byw ydy' ei elyn o. |
(1, 0) 430 |
Disodli Duw ydy' ergyd y Proclamasiwn yma. |
(1, 0) 431 |
Tewi'r dystiolaeth. |
(1, 0) 432 |
Dial a dileu cosb Duw ar Agag. |
(1, 0) 433 |
Dyna'r pam na fedra' i fyth ymgrymu iddo. |
(1, 0) 434 |
Mi fyddai ymgrymu iddo'n frad. |
(1, 0) 435 |
Mi wyddost ti hynny. |
|
(Esther) Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i. |
|
|
|
(Esther) Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i. |
(1, 0) 437 |
lddewes wyt tithau, fy nghyfnither. |
|
(Esther) Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny. |
|
|
|
(Esther) Fel merch ufudd, Mordecai. |
(1, 0) 443 |
A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth. |
|
(Esther) 'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan. |
|
|
|
(Esther) 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin. |
(1, 0) 446 |
'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl? |
|
(Esther) 'Welaist ti fi'n falch? |
|
|
|
(Esther) 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah. |
(1, 0) 452 |
'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder? |
|
(Esther) Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau. |
|
|
|
(Esther) Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau. |
(1, 0) 454 |
Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth? |
|
(Esther) Be' fedra'i ei wneud? |
|
|
|
(Esther) Be' fedra'i ei wneud? |
(1, 0) 456 |
Mi gefais i freuddwyd neithiwr. |
|
(Esther) Breuddwyd? |
|
|
|
(Esther) O'r gora', dywed dy freuddwyd. |
(1, 0) 460 |
'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear. |
(1, 0) 461 |
A dyma ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd ac yn gwneud sŵn i ddychryn y byd. |
(1, 0) 462 |
Ac wrth y sŵn dacw'r holl genhedloedd yn paratoi i ymladd yn erbyn y genedl santaidd i'w difetha hi. |
(1, 0) 463 |
Gwaeddodd hithau ar ei Duw, ac ar hynny mi darddodd ffynnon fechan, ac o'r ffynnon fe ddaeth afon fawr a goleuni a chodiad haul, a'r rhai isel yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai mawrion trahaus. |
(1, 0) 464 |
Dyna fy mreuddwyd i. |
|
(Esther) 'Oes gennyt ti ddawn Joseff? |
|
|
|
(Esther) 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd? |
(1, 0) 467 |
Y ddwy ddraig ydw' i a Haman. |
(1, 0) 468 |
Y cenhedloedd ydy'r rheini ym mhob cwr o'r ymerodraeth sy'n paratoi 'rwan i ddifetha cenedl Duw. |
(1, 0) 469 |
Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau. |
|
(Esther) A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul? |
|
|
|
(Esther) A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul? |
(1, 0) 471 |
Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther. |
|
(Esther) Fi? |
|
|
|
(Esther) Sut y gall hynny fyth fod? |
(1, 0) 476 |
Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl. |
(1, 0) 477 |
Ti'n unig 'fedr ein hachub ni. |
|
(Esther) {Yn bendant.} |
|
|
|
(Esther) Na!... Na! |
(1, 0) 480 |
Esther! |
|
(Esther) Na! |
|
|
|
(Esther) Na! |
(1, 0) 482 |
Pam na? |
|
(Esther) Mi wyddost y gyfraith. |
|
|
|
(Esther) 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth. |
(1, 0) 485 |
Ti yw'r Frenhines. |
|
(Esther) Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth. |
|
|
|
(Esther) Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth. |
(1, 0) 487 |
Dyna lythyren y gyfraith. |
(1, 0) 488 |
Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad. |
|
(Esther) Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant? |
|
|
|
(Esther) 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd. |
(1, 0) 492 |
Ond mi all ddigwydd. |
(1, 0) 493 |
Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny. |
|
(Esther) Mi all beidio â digwydd. |
|
|
|
(Esther) Mi all beidio â digwydd. |
(1, 0) 495 |
Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron? |
|
(Esther) Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf. |
|
|
|
(Esther) Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf. |
(1, 0) 497 |
'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin. |
(1, 0) 498 |
Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr. |
|
(Esther) Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i. |
|
|
|
(Esther) Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i. |
(1, 0) 500 |
'Fedri di ddim dianc. |
(1, 0) 501 |
Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth. |
|
(Esther) Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall. |
|
|
|
(Esther) Nid mwy na phawb arall. |
(1, 0) 504 |
Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant. |
(1, 0) 505 |
'Chaiff neb Iddew ddianc. |
|
(Esther) lddew ydw' i. |
|
|
|
(Esther) lddew ydw' i. |
(1, 0) 507 |
Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin. |
(1, 0) 508 |
'Does gennyt ti ddim i'w golli. |
|
(Esther) Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti. |
|
|
|
(Esther) Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti. |
(1, 0) 510 |
Rhaid iti farw heb fynd ato. |
(1, 0) 511 |
O fentro a mynd ato, y mae siawns, siawns, iti achub dy fywyd dy hun ac einioes dy genedl. |
(1, 0) 512 |
Hynny yw, y mae siawns iti achub popeth. |
(1, 0) 513 |
'Fedri di ddim colli ond yr hyn sy eisoes wedi ei golli. |
(1, 0) 514 |
'Wyt ti ddim yn gweld? |
(1, 0) 515 |
'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw. |
|
(Esther) Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw. |
|
|
|
(Esther) Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw. |
(1, 0) 517 |
Beth ydyn' nhw? |
|
(Esther) Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato? |
|
|
|
(Esther) Deng noson ar hugain. |
(1, 0) 521 |
'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau? |
|
(Esther) Ydw', yn eu cyfri nhw. |
|
|
|
(Esther) Fel unrhyw wraig briod. |
(1, 0) 524 |
Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau. |
(1, 0) 525 |
Brenin ac ymerawdwr. |
|
(Esther) 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely. |
|
|
|
(Esther) 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely. |
(1, 0) 527 |
Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon. |
|
(Esther) 'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas. |
|
|
|
(Esther) Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi. |
(1, 0) 530 |
Cystal i tithau ddygymod. |
|
(Esther) Ond fi yw ei wraig briod o. |
|
|
|
(Esther) Ond fi yw ei wraig briod o. |
(1, 0) 532 |
Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat. |
|
(Esther) A siawns, siawns arswydus, iddo beidio. |
|
|
|
(Esther) A siawns, siawns arswydus, iddo beidio. |
(1, 0) 534 |
'Rydw i'n cydnabod hynny. |
|
(Esther) Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti. |
|
|
|
(Esther) Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti. |
(1, 0) 536 |
'Dydw i ddim yn gwadu. |
(1, 0) 537 |
Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth. |
|
(Esther) Nid dyna'r pwynt o gwbwl. |
|
|
|
(Esther) Mi allwn i ddiodde hynny. |
(1, 0) 540 |
Be sy arnat ti ei ofn? |
(1, 0) 541 |
Beth na fedri di ddim ei ddiodde? |
|
(Esther) Oes rhaid deud wrthyt ti? |
|
|
|
(Esther) Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm. |
(1, 0) 544 |
Nid merch ydw' i. |
(1, 0) 545 |
Rhaid deud. |
|
(Esther) Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. |
|
|
|
(Esther) Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. |
(1, 0) 547 |
'Fedra'i mo'th ddilyn di. |
|
(Esther) Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin. |
|
|
|
(Esther) Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau. |
(1, 0) 556 |
A rwan? |
|
(Esther) Mae mis o nosweithiau er pan welais i o. |
|
|
|
(Esther) A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr. |
(1, 0) 562 |
'Wyt ti'n poeni? |
|
(Esther) Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid. |
|
|
|
(Esther) 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll. |
(1, 0) 566 |
Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl? |
|
(Esther) 'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll. |
|
|
|
(Esther) Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi. |
(1, 0) 573 |
Pam felly nad ei di ato? |
(1, 0) 574 |
Pa raid iti ofni angau ar ei law o? |
|
(Esther) Nid ofni angau yr ydw' i. |
|
|
|
(Esther) Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i. |
(1, 0) 577 |
Angau ydy ystyr hynny. |
|
(Esther) Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'. |
|
|
|
(Esther) Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio. |
(1, 0) 580 |
Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin. |
|
(Esther) 'Oes gen' i help? |
|
|
|
(Esther) 'Oes gen' i help? |
(1, 0) 582 |
Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw. |
|
(Esther) Mordecai, paid â bod mor ddwl. |
|
|
|
(Esther) Fi mae o'n caru. |
(1, 0) 589 |
Pam na wnei di wynebu ffeithiau? |
(1, 0) 590 |
'Rwyt ti'n deud hynny er mwyn dy gysuro dy hun ac er mwyn dy argyhoeddi dy hun. |
(1, 0) 591 |
A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o. |
|
(Esther) Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o. |
|
|
|
(Esther) Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir. |
(1, 0) 596 |
Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir. |
(1, 0) 597 |
Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir. |
|
(Esther) Mae o'n fy ngharu i. |
|
|
|
(Esther) Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o. |
(1, 0) 601 |
'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun. |
(1, 0) 602 |
Y mae prawf. |
(1, 0) 603 |
Mi wyddost tithau fod prawf. |
(1, 0) 604 |
Cariad neu angau. |
|
(Esther) Angau yw'r ddeddf. |
|
|
|
(Esther) Angau yw'r ddeddf. |
(1, 0) 606 |
A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf. |
(1, 0) 607 |
Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf. |
|
(Esther) 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o. |
|
|
|
(Esther) 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o. |
(1, 0) 609 |
Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd. |
(1, 0) 610 |
Ond 'does gen' ti mo'r ffydd. |
(1, 0) 611 |
'Dwyt ti ddim yn credu yn ei gariad o. |
(1, 0) 612 |
'Feiddi di ddim. |