| (Mari) Hei! | |
| (Mari) Ond wrth bob hanes, mae yntau yn gallu cysuro ei hunan yn burion. | |
| (1, 0) 217 | A oes rhywun yma? |
| (1, 0) 218 | Hylo! |
| (1, 0) 219 | 'Dyw Gwilym ddim wedi dod adre eto, ydy e? |
| (Mari) Mae e wedi mynd lawr yr hewl gyda Wat; fe ddaw 'nôl mewn munud. | |
| (Mari) Peth od na welaist ti nhw. | |
| (1, 0) 222 | Mae e adre'n gynnar heddiw. |
| (Mari) 'Dydy e ddim wedi gorffen eto. | |
| (Mari) Rhaid iddo fynd i lawr i Lanmorfa─dim ond dod adre i newid wnaeth e. | |
| (1, 0) 225 | I Lanmorfa? |
| (Mari) Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins... | |
| (Mari) Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins... | |
| (1, 0) 227 | Ond 'roedd e wedi addo dod i chwarae tennis gen i heno. |
| (1, 0) 228 | Dyna i beth yr oeddwn i'n galw nawr─i ddweud bod Jim a Nansi yn dod i gwrdd â ni am chwech. |
| (Mari) Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl. | |
| (Mari) Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl. | |
| (1, 0) 230 | Ond 'roeddem ni wedi trefnu tennis gogyfer â heno ers diwrnodau! |
| (Mari) Paid â meio i. | |
| (Mari) Cerdd â'r sgidiau yma i'r gegin fach, Ifan, a cherdd i ddweud wrth tadcu ei bod yn well iddo roi'r gorau iddi am dipyn nawr. | |
| (1, 0) 235 | Yr hen Agnes Hopkins yna sy'n mynnu cael cwmni Gwilym─mae'n rhaid iddi gael hongian wrth rywbeth mewn trowser o fore tan nos. |
| (Mari) Ni all Gwilym ei hosgoi yn dda iawn─rhaid iddo feddwl am ei job. | |
| (Mari) 'Dydyn nhw ddim mor aml ffordd hyn nawr â mwyar duon yn yr hydref. | |
| (1, 0) 238 | Nid am fod yn gi bach iddi hi mae e'n cael ei dalu; er mae'n ddigon posib bod Hopkins yn falch ei chadw hi'n gontented tra bo yntau'n chwilio mêl ffordd arall. |
| (Gwilym) {Ar unwaith.} | |
| (Gwilym) 'Rown i'n meddwl anfon neges i ti nawr. | |
| (1, 0) 243 | Er mwyn i Agnes Hopkins gael dy arwain di rownd ar y |lead|! |
| (Gwilym) Alla i ddim help. | |
| (Gwilym) 'Wyddwn i ddim hyd y p'nawn yma y byddai'n rhaid i mi fynd. | |
| (1, 0) 250 | Rhaid i ti fynd! |
| (Gwilym) Wrth gwrs bod rhaid i mi fynd. | |
| (Gwilym) 'Rwy'n cael lot o amser yn rhydd gyda Hopkins, a'r peth lleiaf allaf wneud yw dreifio'r car i Mrs. Hopkins. | |
| (1, 0) 253 | Mrs. Hopkins, ai e? |
| (1, 0) 254 | 'Dwyt ti ddim yn ei galw'n Agnes eto. |