Y Glöyn Byw

Cue-sheet for Morgan

(Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.
 
(1, 0) 258 Esgusodwch fi ma'm, am aflonyddu arnoch fel hyn─
(Miss Jones) {Gan ymgrymu.}
 
(Miss Jones) Am weled Mr. Owen yr oeddych chwithau, y mae'n debyg?
(1, 0) 262 Ie, ma'm.
(1, 0) 263 Yr oedd y forwyn yn dywedyd na byddai 'n hir, ac y mae'n bwysig i mi ei weld rhag blaen.
 
(1, 0) 269 Ydwyf, ma'm, yn hoff iawn.
(1, 0) 270 Ac y mae hon yn biano ardderchog hefyd, onid yw?
(Miss Jones) Ydyw.
 
(Miss Jones) Ni chlywais i mo'r miwsig yna ers llawer blwyddyn!
(1, 0) 276 Wel, na minnau chwaith.
(1, 0) 277 Wn i ddim pa beth a barodd i mi ei gofio, os nad rhyw ddamwain yn y peth a genais gyntaf.
(1, 0) 278 Ac wedi i mi ddechreu wel─
 
(1, 0) 280 Rhaid i chwi f'esgusodi i am chwerthin, ond ni fedrwn i yn fy myw beidio.
(Miss Jones) Popeth yn iawn.
 
(Miss Jones) Daw miwsig â phob math o bethau i gof dyn, oni ddaw?
(1, 0) 283 Pob math.
(1, 0) 284 Mi welaf eich bod chwithau 'n deall miwsig, ma'm.
(Miss Jones) Ychydig.
 
(Miss Jones) Mi fyddwn gynt yn hoff ryfeddol o ganu ac o'r piano hefyd.
(1, 0) 287 Wel, mi ddylwn esbonio i chwi pam y chwerddais innau.
(1, 0) 288 Pan oeddwn yn hogyn, yr oeddwn innau yn hoff iawn o ganu─o gystadlu, felly.
(1, 0) 289 Un tro, yr oedd côr o honom wedi mynd i Eisteddfod y Glyn, fel y gelwid hi, ac yr oedd cystadleuaeth ar ganu'r ddeuawd yna.
 
(1, 0) 291 Galwyd enwau'r cystadleuwyr, ond nid oedd neb yn ateb dros un cwpl.
(1, 0) 292 Galwodd yr ysgrifennydd yr enwau drachefn.
(1, 0) 293 Neb yn ateb.
(1, 0) 294 "Well i ni gynnyg?" meddwn innau wrth y ferch oedd yn eistedd o'm blaen─y soprano oreu yn ein côr.
(1, 0) 295 "le," meddai hithau, gan chwerthin─un lawen oedd hi.
(1, 0) 296 "Ydi'r cwpl arall yma bellach?" ebe'r ysgrifennydd.
(1, 0) 297 "Yma!" meddwn innau.
(1, 0) 298 Ac felly, i fyny yr aethom, a chanasom a chawsom y wobr.
(1, 0) 299 Ond wedi hynny, dyma'r rhai a gurwyd yn clywed nad oeddym ni wedi danfon ein henwau i mewn, ac yn gwrthdystio yn erbyn rhoi'r wobr i ni.
(1, 0) 300 Wedi cryn helynt barnwyd fod yn rhaid i ni droi'r wobr yn ei hôl, am fod yr amodau yn ein herbyn.
(1, 0) 301 Felly fu, ond yr oedd y gynulleidfa o'n plaid, a rhoes y cadeirydd wobr arbennig i ni.
(Miss Jones) Doniol iawn!
 
(1, 0) 306 Fo'n gwarchod!
(1, 0) 307 Nid Elin Jones sydd yma?
(Miss Jones) {Gan gyfodi.}
 
(1, 0) 311 Wel, ar fy ngair─cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd.
(1, 0) 312 Ni welais i byth monoch ar ol y diwrnod hwnnw.
 
(1, 0) 314 Euthum i ffwrdd i'r America, fel y gallai eich bod yn cofio, yn union deg wedyn.
(Miss Jones) Ydwyf, yr wyf yn cofio.
 
(Miss Jones) Ydwyf, yr wyf yn cofio.
(1, 0) 316 A dyma chwi─wel, erbyn sylwi, rhaid i mi ddywedyd nad ydych wedi altro cymaint, ond bod eich gwallt wedi troi ei liw, fel fy ngwallt innau.
(1, 0) 317 Wel, y mae'n dda gennyf eich gweled, yn wir.
(Miss Jones) Fel yr oeddych yn canu'r piano daeth y cwbl yn ol i'm cof innau, ond ni feddyliais ddim unwaith mai chwi oedd yna hyd nes i chwi ddechreu dywedyd yr hanes.
 
(Miss Jones) Fel yr oeddych yn canu'r piano daeth y cwbl yn ol i'm cof innau, ond ni feddyliais ddim unwaith mai chwi oedd yna hyd nes i chwi ddechreu dywedyd yr hanes.
(1, 0) 319 Wel, yn wir, peth rhyfedd yw bywyd!
(1, 0) 320 Nid wyf yn meddwl i mi weled neb o'r hen gartref o'r dydd hwnnw hyd y funud yma.
(1, 0) 321 A pha beth yn y byd a barodd i mi ganu'r dernyn yna ar y piano?
(Miss Jones) Pwy ŵyr?
 
(Miss Jones) Pwy ŵyr?
(1, 0) 323 le, pwy ŵyr!
(1, 0) 324 Clywais ddarlithiwr yn America yn dywedyd fod greddf dyn yn ateb i filoedd o fân bethau na ŵyr ei ymwybod ddim yn y byd amdanynt.
(Miss Jones) Digon tebyg.
 
(1, 0) 328 le, pwy ŵyr!...
(1, 0) 329 Ond ym mha le yr ydych yn byw─yn yr hen gartref o hyd?
(Miss Jones) Nage.
 
(Miss Jones) Yr wyf yn byw yn Llundain ers blynyddoedd, ond fy mod yn digwydd bod yng Nghymru ers tro, ac wedi dyfod yma i edrych am fy nith cyn mynd yn f'ôl.
(1, 0) 332 Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi?
(Miss Jones) Ydyw, merch Dafydd fy mrawd.
 
(Miss Jones) Ydyw, merch Dafydd fy mrawd.
(1, 0) 334 Dyn byw!
(1, 0) 335 Dafydd eich brawd─hen gyfaill.
(1, 0) 336 Llawer tro digrif a ddigwyddodd iddo fo a minnau.
(1, 0) 337 A yw Dafydd yn fyw o hyd?─mi garwn ei weled.
(Miss Jones) Nag ydyw─wedi ei gladdu ers blynyddoedd, druan.
 
(Miss Jones) Nag ydyw─wedi ei gladdu ers blynyddoedd, druan.
(1, 0) 339 Felly yn wir, y mae'n chwith gennyf feddwl, Ni chlywswn i ddim o'r hanes.
(1, 0) 340 Wrth gwrs, ychydig amser sydd er pan ddeuthum i adref o'r America, wyddoch.
 
(1, 0) 342 A! yr hen amser gynt!
(Miss Jones) Dowch i mewn!
 
(Miss Jones) le─
(1, 0) 349 O, myfi yw hwnnw.
(1, 0) 350 Yr wyf yn meddwl y gwn beth yw eu neges─yr oeddwn wedi sôn wrthynt fy mod yn mynd i alw heibio i Mr. Owen.
(1, 0) 351 Esgusodwch fi funud, Miss Jones, mi af atynt.
(Miss Jones) Wrth reswm, Morgan.
 
(Miss Jones) Yr oeddwn i yn ofni, yn wir!
(1, 0) 379 Maddeuwch i mi am eich gadael chwi.
(1, 0) 380 Y mae gennyf ryw ddynion dylach na'r cyffredin yn fy ngwasanaeth.
(1, 0) 381 Daethant yma ar f'ôl i holi, yn lle gwrando pan oeddwn yn dywedyd wrthynt pa beth i'w wneud.
(Miss Jones) Ai siop fiwsig sydd gennych, Morgan?
 
(Miss Jones) Ai siop fiwsig sydd gennych, Morgan?
(1, 0) 383 Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi.
(Miss Jones) Ac yn eich siop chwi, y mae'n ddiameu, y prynodd Mr. a Mrs. Owen y piano yna?
 
(Miss Jones) Ac yn eich siop chwi, y mae'n ddiameu, y prynodd Mr. a Mrs. Owen y piano yna?
(1, 0) 385 Ie, siwr, ac un o'r rhai goreu ydyw hefyd.
(1, 0) 386 A chawsant hi yn rhad.
 
(1, 0) 388 Yn wir, Miss Jones, y mae hi yn tynnu at amser cinio, a rhaid bod rhywbeth yn cadw Mr.
(1, 0) 389 a Mrs. Owen.
(1, 0) 390 A roech chwi'r anrhydedd ar eich hen gydymaith gynt o ddyfod i ginio gydag ef?
(1, 0) 391 Y mae acw le gweddol gysurus, digon o fwyd plaen, digon o offer cerdd a miwsig; a phob croeso.
(1, 0) 392 Byddai'n bleser anghyffredin gennyf pe doech, yn wir.
(Miss Jones) Wel, diolch yn fawr i chwi, Morgan.
 
(Miss Jones) A bydd yn hyfryd cael sôn am yr hen amser, oni bydd?
(1, 0) 397 Bydd, yn wir.
(1, 0) 398 A!
(1, 0) 399 Yr hen amser gynt!
(1, 0) 400 Eisieu bod yn fawr oedd arnom y pryd hwnnw, onid e, ond erbyn hyn─yr hen amser gynt!
(Merfyn) Gwladys! dyna flodau tlysion!
 
(Miss Jones) Buom yn son am yr hen amser, onid do, Morgan?
(1, 0) 568 Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer!
(Miss Jones) Wel, na minnau chwaith, dywedyd y gwir.
 
(1, 0) 584 Eisteddwch Mrs. Owen.
(1, 0) 585 Eisteddwch Mr. Owen.
(1, 0) 586 Eisteddwch chwithau, Miss Jones.
(1, 0) 587 Yr wyf meddwl fy mod yn deall yn awr, ac mai myfi, os caf ddywedyd hynny, yw'r goreu i siarad am y tro.
 
(1, 0) 589 Mr. Owen, mi gredaf fy mod yn gweled drwy'r paent bellach, ac y mae'n ddrwg gennyf na welswn yn gynt.
(1, 0) 590 Sut bynnag, y mae'n dda gennyf ddywedyd wrthych fod Smith wedi gwerthu pump o'ch pictiwrs am bris da y prynhawn yma.
(1, 0) 591 A dyma'r papur hwnnw y buom yn son amdano'r dydd o'r blaen─
 
(1, 0) 593 y mae'n sicr eich bod yn cofio─y mae'n ddrwg gennyf na chawsech ef yn gynt.
(Merfyn) {Yn edrych ar y papur, yn codi ar ei draed, yn troi ei olwg at y piano, ac yna yn edrych yn graff ar Morgan.}
 
(1, 0) 608 Campus!