| (Emyn) 732 (Caneuon Ffydd) | |
| (Kitty) Whilo rhein, syr - Mr. Jones? | |
| (2, 4) 1102 | O – ie. | 
| (2, 4) 1103 | Siŵr o fod. | 
| (2, 4) 1104 | Nodiadau. | 
| (2, 4) 1105 | Eu hangen nhw arna'i. | 
| (Kitty) Cyn dydd Sul? | |
| (Kitty) Cyn dydd Sul? | |
| (2, 4) 1107 | Ia. | 
| (2, 4) 1108 | Ddim yn siŵr a fyddai yma ddydd Sul, a deud y gwir. | 
| (Kitty) O. | |
| (Kitty) Mynd bant? | |
| (2, 4) 1111 | Ydw. | 
| (2, 4) 1112 | 'Da chi'n gwybod i le, Mrs. Jones? | 
| (2, 4) 1113 | I dir neb. | 
| (2, 4) 1114 | Dyna'n lle i, mae'n amlwg – tir neb. | 
| (2, 4) 1115 | Nes bydd yr holl... yr holl beth yma ar ben. | 
| (Kitty) Ry' chi'n ddyn lwcus, Mr. Jones. | |
| (Kitty) Lwcus. | |
| (2, 4) 1121 | Mrs. Jones, mae'n ddrwg gin' i. | 
| (2, 4) 1122 | Mae'n ddrwg gin' i. | 
| (Kitty) 'Sdim ise. | |
| (Kitty) O gwbwl. | |
| (2, 4) 1126 | Ryw air wythnos hon? | 
| (Kitty) Y llythyr arferol. | |
| (Kitty) Y llythyr arferol. | |
| (2, 4) 1128 | A, sut... | 
| (Kitty) {Ar ei draws.} | |
| (Kitty) Mae'n iach – hyd yn hyn, diolch yn fawr i chi. | |
| (2, 4) 1131 | Da iawn. Da iawn. | 
| (2, 4) 1135 | O'r gorau. | 
| (2, 4) 1136 | Adra. | 
| (Kitty) Mr. Jones... | |
| (Kitty) Mr. Jones... | |
| (2, 4) 1140 | Diar-diar. | 
| (2, 4) 1141 | Ble ma' mhen i, deud y gwir. | 
| (2, 4) 1143 | Wela'i chi ddydd Sul, 'fallai. | 
| (Kitty) Debyg iawn. | |
| (Kitty) Mr. Jones... | |
| (2, 4) 1147 | Ia? | 
| (Kitty) Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau... | |
| (Kitty) Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau... | |
| (2, 4) 1149 | 'Da chi 'di darllen y'n nodiadau? | 
| (Kitty) Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd. | |
| (Kitty) Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd. | |
| (2, 4) 1151 | Ddrwg gin'i. Pa gerdd? | 
| (Kitty) Yr un am y dail yn murmur a'r... a'r deuddeg abad a'r tawelwch a'r... | |
| (2, 4) 1154 | Ystrad Fflur. | 
| (Kitty) Ystrad Fflur. | |
| (Kitty) Y'ch chi... chi'n mynd i'w cyhoeddi? | |
| (2, 4) 1158 | Na. | 
| (2, 4) 1159 | Dwi ddim yn credu. | 
| (2, 4) 1160 | Na. | 
| (Kitty) Pam? | |
| (Kitty) Pam? | |
| (2, 4) 1162 | Am ei bod yn gelwydd. | 
| (2, 4) 1163 | Celwydd noeth hefyd. | 
| (2, 4) 1164 | Da bo chi. |