Dau Dylwyth

Ciw-restr ar gyfer Mrs Lloyd

(Hlin) PROLOG
 
(William) Mae 'r giwed yna wedi bod wrthi eto, Rachel.
18 Pwy?
19 Y Morgansiaid?
(William) Pwy ond y nhw?
 
(William) Pwy ond y nhw?
21 Beth maen nhw wedi'i wneud?
(William) Saethu Rofer.
 
(William) Saethu Rofer.
23 Beth?
24 Ble cawsant gyfle?
25 Pwy gafodd afael arno?
(William) Ifan gadd afael arno—yn tynnu ei anadl ola yn y Waun Fawr.
 
(William) Druan o Rofer!
29 Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu?
(William) Roedd Ifan yn meddwl ei fod wedi dilyn cwningen i mewn i gaeau Rhydyfran ac i un ohonynt ei saethu yno.
 
(William) Fe glywodd ergyd yn gynnar yn y prynhawn, medde fe.
32 Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio.
(William) Gwybod!
 
(William) Gwn yn iawn, cystal a phetawn i wedi'i gweld nhw wrth yr anfadwaith.
35 Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
(William) Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd.
 
(William) Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd.
37 O'r annwyl, roeddwn i'n dechrau meddwl bod pawb wedi anghofio'r hen gynnen erbyn hyn.
38 Roedd pethau wedi bod mor dawel y chwe mis diwetha.
(William) Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny.
 
(William) Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny.
40 Dydw i ddim wedi anghofio, ac nid yw'n debyg y gwna i.
41 Ond rwy wedi sylweddoli nad yw cadw'r hen gynnen yn fyw yn gwneud lles i neb—dim ond magu gofid i ni fel teulu.
(William) {Yn araf a phendant.}
 
(William) Ac nid yw Rofer druan, ond un marc arall i'w roi yn y cownt gyferbyn â'u henwau.
45 Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt.
(William) Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau.
 
(William) Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau.
47 Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt.
(William) Ni all neb o'r teulu hwn edrych ar wŷr Rhydyfran ond fel gelynion, Rachel.
 
51 Dydych chi ddim i ddweud wrtho beth sydd wedi digwydd i Rofer.
(William) Fe fynn gael gwybod.
 
(William) Ei gi ef oedd Rofer.
55 Ie, ond peidiwch â dweud wrtho pwy a'i saethodd.
56 Dwedwch mai anlwc oedd, dwedwch rywbeth, rhywbeth ond y gwir.
57 Peidiwch â'i dynnu ef i mewn i'r gynnen ac yntau'n ddim ond deg oed.
58 Dydy hi ddim ond creulondeb i'w dynnu ef ac Olwen i mewn i'r gynnen—rydw i wedi gofalu nad oes neb wedi sôn dim am y peth wrth y ddau—gadewch iddynt fod yn eu diniweidrwydd.
59 Fy mhlant i ydyn nhw ac y mae gen i hawl i'w magu nhw fel yr ydw i am.
(William) Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad?
 
(William) Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad?
61 Nac ydw i ddim yn anghofio.
62 Roedd e'n ŵr i mi yn ogystal â bod yn fab i chi—sut galla i anghofio fyth?
63 Ond rydw i am i'r plant dyfu i fyny yn eu hanwybodaeth.
64 Maent mor hapus ac yr ydw i am iddynt gadw'r hapusrwydd yna cyhyd ag sy'n bosibl.
(William) Dydw i ddim yn gweld bai arnat ti, Rachel.
 
70 Dydych chi ddim yn gwybod mai'r Morgansiaid a ddaeth ar ei draws.
71 Ni wyddoch chi ddim beth a ddigwyddodd.
72 A does gennych chi run hawl i ddweud wrth y plant mai'r Morgansiaid oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu tad.
(William) Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth...
 
(William) Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth...
74 Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol.
(William) Rydw i wedi dweud wrthyt ganwaith, fe saethwyd ergyd ar ôl yr ebol i godi ofn arno ac fe daflodd Dafydd ar ei ben.
 
(William) A phan fydda i a thithau wedi mynd, fe fydd Dafydd ac Olwen yn cofio'r hyn a wnaethpwyd i'w tad, a'u plant hwy yn cofio hefyd, a thra bo Morgansiaid yn Rhydyfran, fe fydd rhywun yn gallu pwyntio bys atynt a'u hatgoffa o'r hyn a wnaethant y noson honno.
78 Beth gwell fyddwch chi a hwythau a phawb arall o hynny?
79 Ni wnaeth gelyniaeth a digofaint fel hyn les i neb erioed.
80 Ceisiwch sylweddoli beth a fyddwch yn ei wneud.
81 Chwerwi ysbryd a natur y plant—rhoi baich ar eu hysgwyddau—baich i'w gario drwy eu hoes.
82 Dau sydd mor hapus a llon bob amser.
(William) Rhaid i ti gofio y gofala gwŷr Rhydyfran na chânt fod yn eu hanwybodaeth yn hir.
 
86 Tadcu, dewch i ffwrdd, dewch i ffwrdd tra bo'r plant yn ifainc, cyn iddynt sylweddoli'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol.
(William) Symud o Gwmhelyg?
 
(William) Symud o Gwmhelyg?
88 Ie, pam lai?
89 Mae fferm yn rhydd nawr yn ymyl lle Marged fy chwaer yn Lloegr—rhywle ymhell, bell oddi yma—lle na bydd sôn am dylwyth Rhydyfran—lle geill y ddau blentyn dyfu i fyny heb yr hen gynnen yma yn bla ar eu heneidiau.
90 Dechrau bywyd newydd, a hyd yn oed os na allwn ni anghofio yr hyn a fu, ni fydd eisiau i'r plant fyth ddod i wybod.
(William) Dwyt ti ddim ddim yn un o'r tylwyth, Rachel, neu ni fuasit yn meddwl am y fath ynfydrwydd.
 
(William) A wyt ti am i Dafydd allu dannod i mi pan fydd e'n ugain oed fy mod i'n credu na fyddai'n ddigon o ddyn i wrthsefyll gelyniaeth y Morgansiaid?
95 Be waeth am hynny?
96 Ni ddaw i wybod am y gynnen.
97 Rydw i am fagu fy mhlant yn rhywle heb gysgod y cwmwl hwnnw yno.
(William) Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad.
 
(William) Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad.
99 Ond ni ddaw hynny â'i dad yn ôl.
100 Pa lesâd â fydd y cwbl?
101 Roedd colli ei dad yn fwy o golled i mi nag i neb, ond...
(William) Rachel fach, ddoi di fyth i deimlo tuag at y tylwyth yna fel yr ydym ni fel teulu yn teimlo ac fel y bydd Dafydd ac Olwen yn teimlo ar ôl cael gwybod y cwbl.
 
(William) A wyt ti'n meddwl y bydd Dafydd yn fodlon colli Rofer?
104 Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno.
(William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel.
 
(William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel.
106 Rwy'n gofyn i chi er mwyn y plant ac er eich mwyn chithau.
107 Rydych ar y groesffordd heno.
108 Os gwrthodwch chi ddilyn y llwybr a ofynnais i chi ei ddilyn, fe ddanfonwch y ddau blentyn yna ar lwybr sy'n arwain i atgasedd a dialedd, a chymylu eu holl fywyd.
109 Rydych chi'n hen, ond y mae gan y ddau yna flynyddoedd Ìawer o'u blaen.
110 Eu mam sy'n erfyn arnoch chi—nid er fy mwyn fy hun, ond er eu mwyn hwy.
(Dafydd) {Wrth ddod trwy'r drws.}
 
(Dafydd) Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu?
119 Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd.
(Dafydd) Ond pam, mam?
 
(Dafydd) Ond pam, mam?
121 Fe gei di gi arall yn ei le.
(Dafydd) Dydw i ddim am gi arall—eisiau Rofer sydd arna i.
 
136 Dafydd, os cei di boni i'w marchogaeth, a wyt ti'n fodlon peidio â gofyn rhagor sut y cafodd Rofer ei ddiwedd?
(Dafydd) {Yn troi ac wynebu ei dadcu.}
 
(William) Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn...
144 Dafydd, cerdd allan am funud at Ifan.
(Dafydd) {Yn cydio'n dynn yn eì dadcu.}
 
(William) Ei gi ef oedd Rofer.
151 Nac oes ganddo, ddim hawl.
152 Ni ŵyr beth y mae'n ei ofyn.
153 Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb i gyd.
154 Peidiwch â cheisio ei daflu ar ei ysgwyddau ef.
(Dafydd) {Yn siglo braich ei dadcu.}
 
(William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel.
158 Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb, cofiwch.
159 Chi yn unig.
(William) Mae'r cyfrifoldeb am farwolaeth ei dad arnom ni i gyd.
 
(Dafydd) Ydych chi ddim yn mynd i saethu eu ci nhw?
174 Dafydd!
175 Dwyt ti ddim i ddweud pethau felna.
(Dafydd) Ydych chi ddim, tadcu?
 
179 Rhaid i ti addo i mi nawr, Dafydd, na ddwedi di ddim peth fel yna eto.
(Dafydd) {Yn ei wynebu.}
 
(Dafydd) Doedd ganddyn nhw ddim hawl i'w saethu e.
183 Fe gei di gi eto...
(Dafydd) Dydw i ddim eisiau ci arall.
 
189 A ydych chi'n sylweddoli nawr beth yr ydych wedi'i wneud?
(William) {Yn codi ac yn mynd al y drws chwith.}
 
(William) Dere allan gen i, Dafydd.
192 Rydych wedi cynnau tân na welwch chi na minnau mo'i ddiffodd.