Nawr Yw Ei Hamser Hi

Cue-sheet for Mrs Lloyd

 
(1, 0) 2 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach.
(1, 0) 3 Ti fuost yn hir iawn.
(Dilys) Do, 'mam.
 
(Dilys) Bum am dro hir yn y car gydag 'e.
(1, 0) 7 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn.
(Dilys) Oedd.
 
(Dilys) Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd.
(1, 0) 13 Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd.
(Dilys) A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan.
 
(Dilys) Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno.
(1, 0) 16 Mae e'n garedig iawn.
 
(1, 0) 18 Paid a smocio, wir, Dilys.
(1, 0) 19 Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets.
(Dilys) Yr Athro roddodd 'nhw i fi.
 
(Dilys) Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo.
(1, 0) 22 Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna.
(Dilys) Mae e'n gwybod am Jane.
 
(Dilys) Mae yn fy nharo i'r dim.
(1, 0) 30 Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser.
(Dilys) A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus.
 
(Dilys) 'Does gen i ddim byd i'w wisgo.
(1, 0) 33 Dilys, Dilys!
(1, 0) 34 Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te?
(Dilys) Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg.
 
(Dilys) {Yn mynd at y fasged-wnio.}
(1, 0) 39 Ydi Jane wedi ei gweld?
(Dilys) Nag yw, eto.
 
(Dilys) Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain.
(1, 0) 44 O'r gorau, o'r gorau.
(1, 0) 45 Galw Letitia i ddod â glo ar y tân wir.
 
(1, 0) 47 Dyma chi ar y gair Letitia..
(1, 0) 48 Mae hi wedi oeri a...
(Dilys) O dyna fwstwr.
 
(Dilys) Ewch i'w 'nôl ar unwaith.
(1, 0) 57 Gad iddi, Dilys.
(Dilys) Na wna, wir.
 
(Dilys) Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân.
(1, 0) 69 Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory.
(1, 0) 70 Mae hi'n dy leicio di.
(Dilys) Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo!
 
(Dilys) Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi.
(1, 0) 78 'Nawr, 'nawr, Dilys!
(Dilys) Mae'n eitha gwir.
 
(Dilys) 'Rown i ddim yn siarad â chi.
(1, 0) 84 Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys.
(Dilys) Dyna rywun wedi dod.
 
(Dilys) Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna.
(1, 0) 94 Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro.
(1, 0) 95 Mae e'n dod â rhyw waith iddi bob dydd, fynychaf.
(Letitia) {Y tu allan.}
 
(Dilys) Dewch ymlaen.
(1, 0) 108 Dyma syndod!
(1, 0) 109 Dewch ymlaen, Tabitha.
(Tabitha) Meddyliais i na chawn i ddim dod o gwbl gyda'r creadur bach gwirion 'na.
 
(Dilys) Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam.
(1, 0) 118 Na, sonia Jane ddim am ei gollwng.
(Dilys) Glywsoch chi, Modryb Tabitha?
 
(Tabitha) Wel, sut y'ch chi Mary ers llawer dydd?
(1, 0) 126 'Rwy'n dal yn o debyg, diolch, ond i mi gael bod yn llonydd yn y gadair.
(1, 0) 127 Rych chithau'n iawn?
(Tabitha) 'Dwy byth yn caru achwyn, fel y gwyddoch.
 
(Tabitha) Yr ydych mor debyg i fi.
(1, 0) 144 Nag ydi, wir, Tabitha, ddim tebyg i chi.
(1, 0) 145 Fe fyn Dilys wario'r geiniog olaf.
(Tabitha) O ran golwg, 'rwy'n feddwl.
 
(Tabitha) O ran golwg, 'rwy'n feddwl.
(1, 0) 147 O, efallai!
(Tabitha) Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte?
 
(Dilys) Jane sy'n cadw'r pwrs.
(1, 0) 151 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw.
(Dilys) Ond oedd dim diolch i Jane.
 
(Tabitha) Bum bron â phrynu sypyn mawr o grapes hyfryd i chi, ond, dyna fe, aent yn ofer, os yw'r Athro'n dod â rhai, hefyd.
(1, 0) 160 Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn.
(Dilys) 'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian.
 
(Tabitha) Gweithio'n galed ac ennill dim fynnai ef.
(1, 0) 165 'Roedd Mostyn yn ddyn da, Tabitha.
(1, 0) 166 Peidiwch...
(Tabitha) Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim.
 
(Tabitha) Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim.
(1, 0) 168 'Dallsai Mostyn ddim help, druan!
(Tabitha) Gallsai help yn iawn—mynnu gadael ei swydd a mynd i bregethu!
 
(Tabitha) Heblaw hynny, faint weithiodd e am ddim, gyda'r hen bapur hynny o dan ei olygiaeth?
(1, 0) 171 Mostyn wyddai orau, â...
(Tabitha) Twt!
 
(Tabitha) Twt!
(1, 0) 173 Mae Rhagluniaeth wedi gofalu amdanom.
(1, 0) 174 'Roedd hi'n dynn ar y dechrau, ond fu dim rhaid derbyn help gan neb...
(Tabitha) Wel, oedd dim disgwyl i mi...
 
(Tabitha) Wel, oedd dim disgwyl i mi...
(1, 0) 176 Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim.
(Dilys) Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam.
 
(Jane) Dymuno 'rwyf i dy fod wedi llwyddo yn dy arholiad, fel y gelli sefyll ar dy draed dy hunan, o'r diwedd.
(1, 0) 199 Tewch 'nawr ferched!
(1, 0) 200 Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni.
(Dilys) Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn.
 
(Tabitha) Mae'n hawdd gweld wrth eich golwg chi, mai i waith y'ch galwyd chi.
(1, 0) 205 Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan!
(Tabitha) Ie, a mawr les a wnaeth ei holl sgrifennu i chi!
 
(Tabitha) 'Chafodd e' ddim dimai goch erioed.
(1, 0) 208 Do, do, Tabitha.
(1, 0) 209 'Rwy'n cofio mor falch oeddem pan enillodd e ddwy gini am stori yn steddfod fawr y Bont, a...
(Tabitha) Twt!
 
(Jane) 'Doedd dim byd yn falchach gen i na dy fod di wedi gallu cael coleg.
(1, 0) 216 Nag oedd, wir, Dilys.
(1, 0) 217 Dim rhagor o siarad, ferched.
(1, 0) 218 Beth am de, Jane?
(1, 0) 219 Ydi hi ddim yn bryd te?
(Jane) Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf.
 
(Dilys) Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia.
(1, 0) 237 Tewch, wir, ferched.
(Jane) Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam.
 
(Jane) Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam.
(1, 0) 239 O'r gorau Jane.
(1, 0) 240 Bydda' i'n falch i gael cwpanaid.
(Tabitha) A finnau hefyd.
 
(Dilys) 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn.
(1, 0) 249 Na, na, Dilys fach.
(1, 0) 250 Paid â siarad fel yna.
(Dilys) Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc.
 
(Tabitha) Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys.
(1, 0) 253 Na fydd.
(1, 0) 254 Mae Oswald yma byth a beunydd yn holi ei hynt.
(Tabitha) O yn wir!
 
(Dilys) Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl.
(1, 0) 260 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah.
(Tabitha) Tewch, Mary!
 
(Tabitha) Ydi e'n gwneud cymaint ohonoch ag oedd e'?
(1, 0) 266 Ydi, mae'n gwneud popeth iddi, o hyd.
(1, 0) 267 Edrychwch ar yr holl flodau a ddaeth e' yma neithiwr.
(Tabitha) Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys.
 
(Dilys) 'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd.
(1, 0) 285 Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro.
(1, 0) 286 Wyt ti'n edrych dim am dorri calon dyn, 'rwy'n ofni.
(Tabitha) {Yn chwerthin.}
 
(Dilys) Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd,
(1, 0) 294 Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig?
(Dilys) Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn.
 
(Dilys) Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn.
(1, 0) 296 Ydi wir.
(1, 0) 297 Dangos hi i dy fodryb.
(Tabitha) Fe welais i ffrog berta fyddai'n eich taro chi i'r dim, pan own i ffwrdd—un sidan binc a rhubanau felfed.
 
(Tabitha) Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn.
(1, 0) 303 Ydyn, wir.
(1, 0) 304 Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach.
(Dilys) O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.
 
(Tabitha) Nawr y dywedsoch hynny'ch hunan.
(1, 0) 339 'Nawr yw ei hamser hi, Jane.
(Jane) Beth sydd arnoch chi i gyd, â'ch "'Nawr yw ei hamser hi?"
 
(1, 0) 545 Jane fach... annwyl!
(1, 0) 546 Dyna drueni... na fyddai... dy dad yma 'nawr!...
(1, 0) 547 Mac Mostyn yn cael ei dalu... o'r diwedd, Tabitha...
(1, 0) 548 "yn dwyn ffrwyth... ar ei ganfed."
(Tabitha) Pwy feddyliai!
 
(Jane) Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig.
(1, 0) 552 Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu?
(Tabitha) Oes dim eisiau gofyn wir!
 
(Jane) Fydd dim eisiau i'r Athro eich cynnal chi, o gwbl.
(1, 0) 560 Da 'merch i!
(1, 0) 561 Da 'merch i 'to!
(1, 0) 562 Dy dad sy'n fy nghynnal i o hyd.
(1, 0) 563 Fe sy'n cydio'n dy law...
(1, 0) 564 Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau."
(Dilys) Mi âf i i'r drws, Letitia...
 
(1, 0) 572 Gall, gall.
(1, 0) 573 Nawr yw ei hamser hi.