| (Isaac) A shwt ych-chi heddy, Nathanial? | |
| (1, 0) 20 | O, tewch sôn,─tewch sôn. |
| (Isaac) Beth sy'n bod nawr? | |
| (Isaac) Beth sy'n bod nawr? | |
| (1, 0) 22 | Beth sy'n bod yn wir! |
| (1, 0) 23 | Gofid a thrallod; dyn a anad o wraig... ia, ia... wn-i yn y byd ffordd wy-i wedi llwyddo i fyw c'yd, yn hercan fel hyn o helbul i helbul. |
| (Isaac) Dyw Marged Ann ddim yn teimlo'n dda? | |
| (1, 0) 27 | Y chi a'ch Marged Ann! |
| (1, 0) 28 | Rwy'n synnu at hen lanc calon-galad fel chi, Isaac, yn clepran am 'i Farged Ann byth a hefyd. |
| (Isaac) Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon? | |
| (Isaac) Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon? | |
| (1, 0) 30 | Dim mwy nag arfar. |
| (1, 0) 31 | Arian─mo'yn arian beunydd─het newydd bob yn ail ddydd, a gŵn shidan, am wn i, bob yn ail wthnos. |
| (Isaac) Wel, 'rych-chi'n tynnu gwep ofnatw. | |
| (Isaac) Beth gynllwn sy'n bod? | |
| (1, 0) 34 | Fe wyddoch am yr hen fuwch ddu 'na, honna â'r cyrn hir? |
| (Isaac) Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan? | |
| (Isaac) Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan? | |
| (1, 0) 36 | Wel am nace'r dyn; gwell buwch na honno, a Chastall Martin bob blewyn o heni. |
| (Isaac) O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol. | |
| (Isaac) O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol. | |
| (1, 0) 38 | Ia, ia; dyna hi. |
| (Isaac) Beth sy arni? | |
| (Isaac) Beth sy arni? | |
| (1, 0) 40 | O ma-hi'n dost─ma hi yn dost. |
| (Isaac) Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi? | |
| (Isaac) Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi? | |
| (1, 0) 42 | |Vet!| |
| (1, 0) 43 | Rwy-i wedi bod yn trafod craduriad nawr ys deugan mlynadd, a dim ond teirgwaith yr etho-i at |vet| eriod. |
| (Isaac) 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial. | |
| (Isaac) 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial. | |
| (1, 0) 45 | Nagos gen-i. |
| (1, 0) 46 | Fe ddath y cynta i weld ci, a fe fu'r ci farw; feddath yr ail i weld llo, a fe fu'r llo farw; feddath y trytydd i weld mochyn, a fe fysa'n llawar shepach i fi tsa'r mochyn wedi marw hefyd! |
| (Isaac) Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath. | |
| (Isaac) Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath. | |
| (1, 0) 48 | 'Rwy wedi trio a thrio; |bran mash| a'r blawd cyrch gora, â'm llaw ym hunan─na, dim stumog! |
| (Isaac) Wel, pitwch a gofitio Nathanial; 'ryn-ni i gyd yn llaw Ragluniath, a dyna fel ôdd hi i fod. | |
| (Isaac) Ma-hi wedi bod yn fuwch dda i chi. | |
| (1, 0) 51 | Buwch dda digynnyg. |
| (Isaac) A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi. | |
| (Isaac) A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi. | |
| (1, 0) 53 | Fuws eriod 'u tepyg nhw! |
| (Isaac) A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn? | |
| (Isaac) A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn? | |
| (1, 0) 55 | Ugeina ar ugeina o bunna. |
| (Isaac) Wel pam andras ych-chi'n cwyno cymant! | |
| (Isaac) 'Rwy'n synnu atoch-chi, Nathanial, a chitha'n meddwl sefyll lecshwn fel |Rural District Councillor|. | |
| (1, 0) 59 | |Rural District Councillor| yn wir: gadewch ych clepar da chi! |
| (1, 0) 60 | Fe geso'i newydd torcalonnus odd'wrth Tomos Griffith heddy. |
| (1, 0) 61 | Wyddoch-chi faint gostws-hi iddo fe sefyll y lecshwn ddwetha? |
| (Isaac) Na wn-i. | |
| (Isaac) Na wn-i. | |
| (1, 0) 63 | Petar punt, saith swllt, a thair cinog. |
| (Isaac) O, 'dych-chi ddim am fod yn |Councillor| nawr, o herwydd ychytig o bunna raid i chi wario. | |
| (Isaac) 'Rych-chi'n folon i Siencyn Bifan i gâl hewl glir ar ol i chi dyngu y bysach-chi yn 'i faeddu-fa? | |
| (1, 0) 66 | Pwy wetws nag ôn-i'n folon! |
| (1, 0) 67 | Fe'i maedda-fa tsa hi'n costi deugan punt i fi. |
| (Isaac) Petar punt, saith swllt, a thair cinog, a chitha'n werth ych pwysa! | |
| (Isaac) Dishgwlwch 'ma, os na faeddwch-chi Siencyn, fe fyddwn yn destun sport i gôr Carmel tra bo canu'n bod. | |
| (1, 0) 70 | I faeddu-fa, gnaf, fe'i maedda-fa, tsa hi'n costi can punt i fi. |
| (Isaac) Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr. | |
| (Isaac) Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr. | |
| (1, 0) 72 | Ond 'dwy-i ddim am wario mwy na mwy. |
| (1, 0) 73 | O ia, sgrifensoch-chi'r |election address| eto? |
| (Isaac) Naddo; ond 'rwy wedi bod yn meddwl. | |
| (Isaac) O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro. | |
| (1, 0) 80 | Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac. |
| (1, 0) 81 | Fwriatws y Brenin Mawr eriod i fi fod yn |Rural District Councillor|, a fydda-i byth yn depyg i un chwaith. |
| (1, 0) 83 | Ond ma'n rhaid i fi faeddu Siencyn. |
| (1, 0) 84 | Y |coward|, ofan arno ddod â'i gôr yn erbyn 'y nghôr i unwaith yn racor, ofan arno roi cyfla arall i fi! |
| (1, 0) 85 | 'I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa! |
| (Isaac) Gadewch y côr yn llonydd ar hyn o bryd, Nathanial. | |
| (Isaac) Fe fuas-i wrthi nithwr, ar asgwrn 'y ngefan yn y gwely, yn pondro a phondro, heb gysgu llygetyn nes bo'r wawr yn torri, a ma-hi'n dod i hyn: dôs 'na ddim llawar ynddi rhyngto chi a Siencyn yn y petwar capal, a felny, os gallwch-chi ennill fôts gwŷr yr Eclws, fe faeddwch Siencyn yn yffion. | |
| (1, 0) 90 | Pitwch a sharad mor ffôl, Isaac; 'dos 'na ddim eglwyswr fotiff drosto i. |
| (Isaac) Ma'n rhaid iddyn nhw foto drosto-chi, ryw-shap ne'i gilydd. | |
| (Isaac) Rwy wedi bod dros ddwy awr yn cisho cwiro hwn. | |
| (1, 0) 96 | Pwy pia fa? |
| (Isaac) O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy. | |
| (Isaac) O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy. | |
| (1, 0) 98 | Rhaid mai brelo da ôdd-a i ddechra. |
| (Isaac) Ma-fa wedi bod yn sawl brelo odd'ar hynny; 'dôs 'na ddim o'r hen un ar ol nawr ond y ddolan. | |
| (Ficer) Shwd ma'r lecshwn yn dod ymlân? | |
| (1, 0) 110 | Yn dda iawn, diolch i chi, yn dda iawn, yn wir. |
| (Ficer) 'Rwy'n disgwyl gweld |close fight| rhyngoch-chi a Mr. Bifan. | |
| (1, 0) 140 | Pum punt! |
| (1, 0) 141 | Na chewch yn wir! |
| (Ficer) Dwy neu dair gini, ynte? | |
| (Ficer) Dwy neu dair gini, ynte? | |
| (1, 0) 143 | Ona 'lla'n wir, na 'lla'n wir! |
| (Isaac) {Yn gyflym.} | |
| (1, 0) 168 | Wel─am wn-i {yn fwy pendanl}─otw, 'rwy'n folon roi buwch. |
| (Ficer) Diolch i chi o galon, Mr. Morgan, am ych haelfrydedd. | |
| (1, 0) 185 | Pob croeso i chi, Mr. Jones, pob croeso. |
| (Ficer) {Mewn brys.} | |
| (Isaac) Ond wetas-i wrthoch-chi─yn y byd politicadd, ma'n rhaid i ddyn feddwl a chysitro. | |
| (1, 0) 203 | Dyn clefar iawn ych-chi, Isaac, clefar iawn hefyd, a fydda-i ddim yn fyr o dalu'n ol pan ddaw cyfla. |
| (Isaac) Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann. | |
| (Isaac) Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann. | |
| (1, 0) 205 | Os dim llawar o opath i chi man'na, Isaac. |
| (1, 0) 206 | Ych trin a'ch trafod chi ma Marged Ann wastod. |
| (1, 0) 207 | A phwy isha i chi drafferthu ynglŷn â Marged Ann, hen fab fel chi, bron trician ôd? |
| (1, 0) 208 | Ma-hi o'r gora i ofalu am y tŷ i fi, ama hi'n garetig iawn i Riannon, ond 'dwy-i ddim yn gweld llawar o rân arni fel gwraig i chi. |
| (1, 0) 209 | Ma hi wedi gweld 'i hamsar gora ys blynydda; 'dos dim byd yn bert yndi; ma hi mor dew a mwtwl, a tsa chi ddim ond 'i gweld hi miwn pang o dymar─{yn codi ei ddwylo}. |
| (Isaac) Alla-i ddim help, Nathanial. | |
| (Isaac) Gwetwch air bach drosto-i, Nathanial, 'rwy wedi ennill y lecshwn i chi. | |
| (1, 0) 215 | Am wn-i nag ych-chi'n wir. |
| (Isaac) 'Rwy'n siwr o hynny. | |
| (Isaac) Pwy fuwch roiwch-chi? | |
| (1, 0) 218 | Eh? |
| (Isaac) Pwy fuwch roiwch-chi? | |
| (1, 0) 221 | Ond wetsoch-chi wrth y Ficar ych hunan─yr hen fuwch ddu. |
| (Isaac) Do, do; odd yn rhaid i fi wêd rwpath. | |
| (Isaac) Ond fysach chi byth o'r gydwypod i roi hen fuwch â thair côs iddi yn y bedd i |Fazaar| yr Eclws! | |
| (1, 0) 224 | Fyswn-i byth o'r gydwypod i neud dim byd arall. |
| (1, 0) 225 | 'Drychwch 'ma, Isaac, gadewch i ni ddiall y'n gilydd: fuws 'na ddyn eriod yn gryfach Anghydffurfiwr na fi? |
| (Isaac) Ddim eriod. | |
| (Isaac) Ddim eriod. | |
| (1, 0) 227 | Ymladdws rywun yn y wlad yn gletach na fi dros Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad? |
| (Isaac) Dim enad byw. | |
| (Isaac) Dim enad byw. | |
| (1, 0) 229 | Ag eto, 'rych chi'n meddwl mod-i'n ddicon ffôl i roi buwch ifanc iach i Eclws Loegar! |
| (Isaac) Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na! | |
| (Isaac) Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na! | |
| (1, 0) 231 | Pam lai? |
| (1, 0) 232 | Dyna'r fuwch addewas i; y chi'ch hunan disgrifiws hi─Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd. |
| (1, 0) 233 | Ma'n rhaid i ni gatw at yn gair nawr. |
| (Isaac) Os gita-chi ddim un Castall Martin arall? | |
| (Isaac) Os gita-chi ddim un Castall Martin arall? | |
| (1, 0) 235 | Nagos gen-i, a fe wyddach-chitha hynny o'r gora. |
| (Isaac) Na wyddwn-i. | |
| (1, 0) 239 | Marw! |
| (1, 0) 240 | Be 'chi'n gisho wêd, Isaac? |
| (Isaac) Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn. | |
| (Isaac) Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn. | |
| (1, 0) 242 | Bydd-a'n wir! |
| (1, 0) 243 | 'Rych-chi wedi neud rhyw gawl ryfadd wedi'r cwbwl, gita'ch meddwl, a'ch cysitro, a'ch pondro! |
| (Isaac) O'r gora, o'r gora; dim gair arall! | |
| (Isaac) Y gwir ag e yw hyn: 'dych-chi ddim yn moyn maeddu Siencyn Bifan. | |
| (1, 0) 248 | Nagw-i'n wir! |
| (Isaac) Nagych; 'rych-chi'n folon i gôr Carmal i glochtar drosto-ni tra bo ni byw. | |
| (Isaac) {Yn brysio tuag at y drws.} | |
| (1, 0) 252 | Hannar munad. |
| (1, 0) 254 | Fe arhoswn nes bo ni'n gweld beth yw teimlad gwŷr yr Eclws: os byddan-nhw'n depyg o ochri gita ni, wel, fe gewn weld. |
| (1, 0) 260 | Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli. |
| (Isaac) Dyna chi eto, wastod miwn brys, yn poenia gofitio. | |
| (Isaac) Fuas-i wthnos gyfan, ar dro, yn meddwl pwy i ddoti ar y pwyllgor, a 'rwy'n cretu mod-i wedi dewis y tri gora yn Llanybryn. | |
| (1, 0) 266 | Clywch, clywch. |
| (Tomos) {Yn fawreddog.} | |
| (Tomos) Sgusotwch fi, Mr. Morgan, otych-chi wedi sgrifennu'ch |address|? | |
| (1, 0) 269 | O, nagw. |
| (Tomos) Ma'n dda iawn gen-i glwad, wath ma gen-i rwpath pwysig i ddoti yn ych |address| chi. | |
| (1, 0) 284 | Nawr, Isaac, cymrwch chi bwyll. |
| (1, 0) 285 | 'Dwy-i ddim am i anghredinwyr a gwrthgilwyr i foto drosto-i. |
| (Isaac) Ma nhw lawar mwy tepyg o foto drosto-chi na thros Siencyn. | |
| (Tomos) Pitwch a bod mor siwr {yn taro ei fynwes}, dyma un fôt, beth bynnag, gewch-chi. | |
| (1, 0) 290 | O ia, ia; 'r yn-ni gyd yn gwpod 'ny. |
| (Tomos) 'Rwy'n mynd i ddangos i Siencyn Bifan na all a ddim troi dyn mâs o'i gôr am ddim! | |
| (Tomos) 'Rwy'n mynd i ddangos i Siencyn Bifan na all a ddim troi dyn mâs o'i gôr am ddim! | |
| (1, 0) 292 | Clywch, clywch. |
| (Tomos) A dim ond achos i fi wêd 'i fod-a'n cymryd |rallentando| yn rhy gyflym yn Hendrefadog. | |
| (Tomos) A dim ond achos i fi wêd 'i fod-a'n cymryd |rallentando| yn rhy gyflym yn Hendrefadog. | |
| (1, 0) 294 | Itha-right, Tomos; wydda Siencyn eriod ffordd i gymryd |rallentando|. |
| (Tomos) "Mâs â chi," mynta-fa wrtho i, wrtho i cofiwch, a 'nhad roiws y wers gynta eriod iddo-fa ar y |Modulator|. | |
| (1, 0) 301 | O'n wir! a phwy yn-nhw, licswn i wpod. |
| (Isaac) Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|. | |
| (Isaac) Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|. | |
| (1, 0) 303 | 'Dôdd-a ddim yn deilwng i arwan y |Band of Hope|. |
| (Isaac) 'Dwy-i ddim yn gwêd 'i fod-a, ond fe 'llwch fentro hyn; yn ol barn Hugh Parry, fyddwch-chi ddim yn deilwng i fod yn |Rural District Councillor|. | |
| (Isaac) Dyna un arall, Moses Griffith, fe'i troisoch-a mâs o'r Rechabiaid. | |
| (1, 0) 306 | Ond gwelas-i a'n sefyll ar ben drws y |Black Lion|. |
| (Isaac) 'Dwy-i ddim yn gwêd llai, ond fydd dim fôt i chi manna. | |
| (Tomos) Bydd caniatâd i aelota'r capeli i brynnu ticats? | |
| (1, 0) 334 | O bydd, i bawb. |
| (Tomos) Wel dyna ddiwadd ar Siencyn Bifan; dyna'r lecshwn wedi'i setlo. | |
| (Dafydd) |Stroke| anfarwol yw honna; 'rych-chi wedi maeddu Siencyn yn barod. | |
| (1, 0) 337 | I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa. |
| (1, 0) 338 | Ofan arno-fa roi cyfla arall i fi gita-i gôr, ond fe gaiff e weld, caiff, caiff, fe gaiff e weld! |
| (Rhys) Nawr beth am yr |address|? | |
| (Rhys) Nawr beth am yr |address|? | |
| (1, 0) 340 | O ia, fuas-i bron ag anghofio: fe geso-i lythyr y bora 'ma odd'wrth Riannon, yn gofyn i fi bito argraffu'r |address| cyn y delsa hi sha thre, a fe fydd yma fory. |
| (Tomos) Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni. | |
| (Tomos) Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni. | |
| (1, 0) 343 | Mae hi wedi bod yn studio'r pwnc am betar mlynadd yn Aberystwyth. |
| (1, 0) 344 | Be'chi'n 'i alw fa nawr, rwpath─rwpath |economy|─? |
| (Tomos) |Domestic Economy|. | |
| (Isaac) |Political Economy|. | |
| (1, 0) 349 | Dyna fe; y peth gora allwch-chi gâl ar gyfar lecshwn. |
| (Rhys) 'Dos dim raid i ni gwpla'r address nawr, ond falla y gallwn-ni feddwl am rai o'r prif betha. | |
| (Rhys) Ond ma'n rhaid i chi addo rwpath. | |
| (1, 0) 357 | Itha-right; nawr, beth gaf-fi addo? |
| (Dafydd) Wel; ma'r hewl sy'n arwan i Pisgah miwn cyflwr sopor, yn llawn twlla, a phwlla o ddŵr ar hyd-ddi. | |
| (Dafydd) Dim ond i chi addo gwella honna fe gewch lawar o'n fôts ni. | |
| (1, 0) 360 | Dotwch yr hewl yn yr |address|, Isaac. |
| (Rhys) A beth amdanon |ni|? | |
| (Rhys) Ma'n raid i aelota Nebo gerad milltir a hannar rownd i'r groesffordd cyn cyrradd y capal, a fe allsan fynd 'no miwn pum munad tsa 'na bont rwla'n nghymdocath y |Black Lion|. | |
| (1, 0) 363 | Dotwch y bont i lawr, Isaac. |
| (1, 0) 365 | On-ni'n meddwl fod rwpath pwysig gita-chi, Tomos. |
| (Tomos) Os, y ma-fa; fe wyddoch fod gan Siencyn Bifan nifar o fwthynnod lawr wrth y nant. | |
| (Tomos) Wel, ma'r |Sanitary Inspector| wedi reporto nhw fwy nag unwaith, |unfit for 'uman 'abitation|, dyna eiria'r |report|, |unfit for 'uman 'abitation|, ond ma'r |Medical Officer of Health| yn gwrthod 'u condemnio nhw. | |
| (1, 0) 369 | Dyna damad blasus, Tomos: gwrthod condemnio bwthynnod 'i dad, iefa? |
| (1, 0) 370 | Dotwch yna lawr, Isaac. |
| (Dafydd) Allwch-chi ddim doti yna lawr yn yr |address|. | |
| (Isaac) Wath yn y byd am y trethi, dim ond i ni gâl cyfla i faclu Siencyn ynglŷn â'i dai. | |
| (1, 0) 375 | Ia, a baclu 'i fab hefyd. |
| (1, 0) 376 | Wfft shwt |Fedical Officer of Health| weta-i. |
| (1, 0) 377 | Arhoswch, nes caf fi fynd ar y |Council|! |
| (Isaac) Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod. | |
| (Isaac) Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod. | |
| (1, 0) 381 | Dim byth! |
| (1, 0) 382 | 'Rwy wedi sharso Riannon─ |
| (Rhiannon) A beth 'nâth Riannon druan nawr? | |
| (1, 0) 387 | Riannon! |
| (Rhiannon) {Yn dod i mewn.} | |
| (Rhiannon) {Yn cyfarch y lleill.} | |
| (1, 0) 391 | Beth ar wynab y ddaear ddath a ti yma heddy? |
| (Rhiannon) Allwn-i ddim aros dwarnod arall yn Aberystwyth, a chitha yng nghanol lecshwn. | |
| (Tomos) Wel, tawn-i byth heb gyffro o'r fan! | |
| (1, 0) 399 | Welsoch-chi shwt beth eriod, air am air 'run fath a'n |address| i! |
| (Rhiannon) Ych |address chi|! Ble ma honno? | |
| (Rhiannon) Ych |address chi|! Ble ma honno? | |
| (1, 0) 401 | 'Ryn-ni yn 'i chyfansoddi hi nawr. |
| (1, 0) 402 | Y fi yw Cyfall y Gwithwr. |
| (Rhiannon) Y chi, iefa? | |
| (1, 0) 408 | Dyna fe ar 'i drôd, dyna Siencyn Bifan, miwn |politics| 'run fath a cherddoriath! |
| (1, 0) 409 | Os caf fi syniad gynta, fe fydd e'n siwr o 'neud defnydd ohono o mlân-i! |
| (Rhiannon) Pob croeso iddo gatw'r syniad yna, 'nhad. | |
| (1, 0) 415 | Ia, ia, Riannon; itha iawn, y merch-i. |
| (1, 0) 417 | Beth wetas-i, Isaac? |
| (Rhys) Sgusotwch fi, Miss Morgan, oti Siencyn yn sôn rwpath am bont wrth y Black Lion, er mwyn aelota Nebo? | |
| (Rhiannon) 'Nhad, gofalwch na lywch-chi scitsha'r werinos, na blygwch chi glun o flân y dorf er mwyn dwy ne dair o fôts. | |
| (1, 0) 424 | Dim byth ym merch-i. |
| (1, 0) 426 | Chi'n sôn am feddwl a phondro, beth wetas-i Isaac? |
| (Dafydd) Oti Siencyn yn crypwll rwpath am wella'r hewl ar y ffordd i Pisgah? | |
| (Rhiannon) 'Nhad; cyn y cewch-chi ennill yr un fôt drwy apelio at gynneddfa gwaela'r etholwyr─ | |
| (1, 0) 431 | Itha right, Riannon. |
| (Isaac) {Yn anniddig} | |
| (Isaac) Y chi a'ch "itha right"; enillwch chi byth os na newch-chi. | |
| (1, 0) 434 | Beth wyddoch chi am lecshwn, Isaac? |
| (1, 0) 435 | Fuoch chi miwn coleg eriod yn studio |Political Domestics|! |
| (Isaac) {Yn ffromllyd.} | |
| (1, 0) 454 | 'Rwy-i o'r gora. |
| (Siencyn) A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân? | |
| (Siencyn) A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân? | |
| (1, 0) 456 | Fyddwch chi fawr o dro cyn gweld a theimlo hynny. |
| (Siencyn) {Yn gellweirus.} | |
| (Siencyn) Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi. | |
| (1, 0) 462 | Dim gopath, iefa? |
| (1, 0) 463 | Ho, ho, fe gewn weld! |
| (Siencyn) Nagos, dim yfflyn o opath. | |
| (Siencyn) Fuoch-chi eriod yn ddyn cyhoeddus, fel fi. | |
| (1, 0) 466 | Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith! |
| (Siencyn) Pam ych-chi'n sefyll y lecshwn 'ma, Nathanial? | |
| (Siencyn) Jelosi─ha, ha, ha─jelosi; fe ffaelsoch gita'ch côr─ | |
| (1, 0) 469 | Ffaelu, do fa! |
| (Siencyn) Do. | |
| (Siencyn) Côr pwy enillws ym Mhen-yr-Englyn? | |
| (1, 0) 472 | Ych côr chi, ond pwy oedd y beirniad, a ble cysgws-a y noswath cyn y gystadleuath? |
| (1, 0) 473 | Ond sôn am ennill pwy enillws yng Ngraig-yr-Eos? |
| (Siencyn) Y chi─ond pwy enwad ôdd yn cynnal yr eisteddfod? | |
| (Siencyn) Ond sôn am ganu, pwy gas y wopor yn Hendrefadog? | |
| (1, 0) 476 | O, chi gas y wopor, ond pwy enillws? |
| (1, 0) 477 | Rodd ych côr chi mâs o diwn am un bar ar bymthag, y |sopranos| yn |sharp|, y |tenors| yn y niwl─ |
| (Tomos) A'r |bassers| led ca ar ol pawb arall. | |
| (Siencyn) Allwch chi ddim gwêd nawr mod-i wedi cymryd dim byd o'ch program chi, a wy-i am i chitha, os gwelwch chi'n dda, i bito efelychu dim o'n un inna {gyda gwên ddireidus} fel y gnithoch-chi gita'r canu. | |
| (1, 0) 484 | Y fi yn ych efelychu chi, ys clwas-i shwt gownt eriod. |
| (1, 0) 485 | Allwch-chi brofi 'na Siencyn? |
| (Siencyn) Galla'n rhwydd, a dyma'r tyst {gan gyfeirio af ISAAC}. | |
| (Siencyn) O ble cesoch-chi'r syniad o ddwbwl |piano| yn "Worthy is the Lamb ─oddiwrtho-i, Nathanial, odd'wrtho i. | |
| (1, 0) 493 | A ffordd cesoch chitha'r syniad i |portamento| yn "Thanks be lo God." |
| (1, 0) 494 | Ffordd Siencyn? |
| (1, 0) 495 | Wrth ddoti dyn i wrando o dan ffenast capal Sion! |
| (Siencyn) Ha, ha, ha─fe fuws 'na ddyn yn gwrando o dan ffenast ych capal chi, ond nid fi helws-a. | |
| (Siencyn) Wyddoch-chi beth wetws-a ar ol dod 'nol? | |
| (1, 0) 498 | Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith. |
| (Siencyn) Wel, gofynnwch i Tomos Jones ych cefnocydd politicadd mwya chi. | |
| (1, 0) 505 | Wetsoch-chi 'na am 'y nghanu i! |
| (Tomos) {Yn ddryslyd.} | |
| (Tomos) Torchwch chi'ch llewys, Mr. Morgan, a fe'i maeddwch a'n rhwydd, er fod 'i fab-a'n |Fedical Officer of Health|. | |
| (1, 0) 511 | Wfft shwt |Fedical Officer of Health|, weta-i. |
| (1, 0) 513 | O'n wir. |
| (1, 0) 515 | Sawl gwaith wy-i wedi gofyn i ti gatw draw odd'wrth y gwalch 'na! |
| (Siencyn) {Yn gellweirus wrth ei fab.} | |
| (Tomos) 'Ryn-ni wedi'i darllan hi'n barod, a 'dos 'na ddim yndi'n werth cymryd. | |
| (1, 0) 521 | Ma gen-i ddicon o |boints| i'ch maeddu chi'n rhwydd. |
| (Siencyn) Nagos, fyth yn ych bywyd, Nathanial. | |
| (Siencyn) Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws. | |
| (1, 0) 526 | Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld! |