a1

Castell Martin (1920)

David Thomas Davies

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


ADEG: Y presennol, prynhawnddydd haf.

LLE: Siop y Barbwr yn Llawybryn.

Y mae ISAAC LEWIS, y barbwr, yn cyweirio glawlen ac mewn tipyn o helbul gyda'r gorchwyl. Gŵr tua thrigain oed ydyw ISAAC, cymharol dal, teneu, yn magu dwy locsen gochlyd, ei wallt yn britho ac yn tueddu i ddiflannu yng nghwmpas ei gorun.

Saif y siop ar sgwâr y pentre, a thrwy ei ffenestr lydan, gwelir esgyn-faen neu garregfarch. Dyma areithfa gwleidyddwyr y pentref ers oesau, os nad eu pulpud hefyd. Yn wir, honnri gan rai i Hywel Harris, ac hyd yn oed Whitefield bregethu oddiarni yng nghyffroad mawr y ddeunawfed ganrif, er nad oes sicrwydd diymwad o hynwy.

Parthed yr ystafell; cadair eillio yn agos i'r ffenestr, ac offer arferol barbwr ar fwrdd gerllaw; meinciau oddiamgylch, ac addurnir y muriau â gwahanol almanaciau, hysbysebau ynglŷn â ffeiriau, bwydydd a meddyginiaethau gwartheg, defaid, moch a cheffylau. Drws y siop yn y cefn ar y dde, ac un arall yn arwain i gorff y tŷ.

Yn union, ymddengys NATHANIEL MORGAN o'r tu allan. Cymro byr, gwydn, a chryn led yn ei ysgwyddau ydyw NATHANIEL, tua hanner camt oed; ei ymadrodd yn gyflym, a'i symudiadau, fel rheol, ym chwim. Eithr cerdd yn awr braidd ym llesg, a golwg ofidus ar ei wynepryd.

Isaac

A shwt ych-chi heddy, Nathanial?

Nathaniel

(Yn alarus.) O, tewch sôn,─tewch sôn.

Isaac

Beth sy'n bod nawr?

Nathaniel

Beth sy'n bod yn wir! Gofid a thrallod; dyn a anad o wraig... ia, ia... wn-i yn y byd ffordd wy-i wedi llwyddo i fyw c'yd, yn hercan fel hyn o helbul i helbul. (Eistedd ym ddiymadferth mewn cadair freichiau.)

Isaac

Wel, beth sy 'ta? Dyw Marged Ann ddim yn teimlo'n dda?

Nathaniel

Y chi a'ch Marged Ann! Rwy'n synnu at hen lanc calon-galad fel chi, Isaac, yn clepran am 'i Farged Ann byth a hefyd.

Isaac

Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon?

Nathaniel

Dim mwy nag arfar. Arian─mo'yn arian beunydd─het newydd bob yn ail ddydd, a gŵn shidan, am wn i, bob yn ail wthnos.

Isaac

Wel, 'rych-chi'n tynnu gwep ofnatw. Beth gynllwn sy'n bod?

Nathaniel

Fe wyddoch am yr hen fuwch ddu 'na, honna â'r cyrn hir?

Isaac

Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan?

Nathaniel

Wel am nace'r dyn; gwell buwch na honno, a Chastall Martin bob blewyn o heni.

Isaac

O gwn; y hi ath â'r first prize yn Llantrisant flynydda'n ol.

Nathaniel

Ia, ia; dyna hi.

Isaac

Beth sy arni?

Nathaniel

O ma-hi'n dost─ma hi yn dost.

Isaac

Pam na fynnwch chi vet idd 'i gweld hi?

Nathaniel

Vet! Rwy-i wedi bod yn trafod craduriad nawr ys deugan mlynadd, a dim ond teirgwaith yr etho-i at vet eriod.

Isaac

'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn vets, Nathanial.

Nathaniel

Nagos gen-i. Fe ddath y cynta i weld ci, a fe fu'r ci farw; feddath yr ail i weld llo, a fe fu'r llo farw; feddath y trytydd i weld mochyn, a fe fysa'n llawar shepach i fi tsa'r mochyn wedi marw hefyd!

Isaac

Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath.

Nathaniel

'Rwy wedi trio a thrio; bran mash a'r blawd cyrch gora, â'm llaw ym hunan─na, dim stumog!

Isaac

Wel, pitwch a gofitio Nathanial; 'ryn-ni i gyd yn llaw Ragluniath, a dyna fel ôdd hi i fod. Ma-hi wedi bod yn fuwch dda i chi.

Nathaniel

Buwch dda digynnyg.

Isaac

A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi.

Nathaniel

Fuws eriod 'u tepyg nhw!

Isaac

A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn?

Nathaniel

Ugeina ar ugeina o bunna.

Isaac

Wel pam andras ych-chi'n cwyno cymant! Welas-i eriod o'ch bath chi: fe allsach ffwrdo colli deg buwch y funad 'ma yn well na allsa llawar i ffarmwr golli cyw giar, a dyma chi, a'ch wynab c'yd â 'mraich i, am fod cratur dicyn yn anhwylus yn 'i henant. 'Rwy'n synnu atoch-chi, Nathanial, a chitha'n meddwl sefyll lecshwn fel Rural District Councillor.

Nathaniel

Rural District Councillor yn wir: gadewch ych clepar da chi! Fe geso'i newydd torcalonnus odd'wrth Tomos Griffith heddy. Wyddoch-chi faint gostws-hi iddo fe sefyll y lecshwn ddwetha?

Isaac

Na wn-i.

Nathaniel

Petar punt, saith swllt, a thair cinog.

Isaac

O, 'dych-chi ddim am fod yn Councillor nawr, o herwydd ychytig o bunna raid i chi wario. 'Rych-chi'n folon i Siencyn Bifan i gâl hewl glir ar ol i chi dyngu y bysach-chi yn 'i faeddu-fa?

Nathaniel

Pwy wetws nag ôn-i'n folon! Fe'i maedda-fa tsa hi'n costi deugan punt i fi.

Isaac

Petar punt, saith swllt, a thair cinog, a chitha'n werth ych pwysa! Dishgwlwch 'ma, os na faeddwch-chi Siencyn, fe fyddwn yn destun sport i gôr Carmel tra bo canu'n bod.

Nathaniel

I faeddu-fa, gnaf, fe'i maedda-fa, tsa hi'n costi can punt i fi.

Isaac

Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr.

Nathaniel

Ond 'dwy-i ddim am wario mwy na mwy. O ia, sgrifensoch-chi'r election address eto?

Isaac

Naddo; ond 'rwy wedi bod yn meddwl. 'Dych-chi damad gwell o fod miwn brys gita'r address, Nathanial. Ma'n rhaid i chi feddwl a meddwl. 'Rwy wedi gofyn i Rhys Pritchard, Tomos Jones, a Dafydd Peters i ddod yma i'ch helpu chi, dynon o ddylanwad, bob un o honyn nhw. O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro.



NATHANIEL yn gollwng ei adenydd elo.

Nathaniel

Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac. Fwriatws y Brenin Mawr eriod i fi fod yn Rural District Councillor, a fydda-i byth yn depyg i un chwaith. (Yn ffyrnigo.) Ond ma'n rhaid i fi faeddu Siencyn. Y coward, ofan arno ddod â'i gôr yn erbyn 'y nghôr i unwaith yn racor, ofan arno roi cyfla arall i fi! 'I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa!

Isaac

Gadewch y côr yn llonydd ar hyn o bryd, Nathanial. Politics yw-hi nawr, cofiwch, a nid cerddoriath. Ma'n rhaid i chi gisho meddwl fel fi. Fe fuas-i wrthi nithwr, ar asgwrn 'y ngefan yn y gwely, yn pondro a phondro, heb gysgu llygetyn nes bo'r wawr yn torri, a ma-hi'n dod i hyn: dôs 'na ddim llawar ynddi rhyngto chi a Siencyn yn y petwar capal, a felny, os gallwch-chi ennill fôts gwŷr yr Eclws, fe faeddwch Siencyn yn yffion.

Nathaniel

Pitwch a sharad mor ffôl, Isaac; 'dos 'na ddim eglwyswr fotiff drosto i.

Isaac

Ma'n rhaid iddyn nhw foto drosto-chi, ryw-shap ne'i gilydd. Os, ma'n rhaid i ni gâl fôts yr Eclws. (Mewn helbul neilltuol gyda'r wlawlen.) Wel, 'rw-i wedi câl dicon o draffarth gita'r Eclws y bora 'ma, ta pun. Rwy wedi bod dros ddwy awr yn cisho cwiro hwn.

Nathaniel

Pwy pia fa?

Isaac

O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy.

Nathaniel

Rhaid mai brelo da ôdd-a i ddechra.

Isaac

Ma-fa wedi bod yn sawl brelo odd'ar hynny; 'dôs 'na ddim o'r hen un ar ol nawr ond y ddolan. Odd-a i fod yn barod amsar cino, hefyd; peth od na fysa'r Ficar wedi galw.

Ficer

ym ymddangos wrth y drws. Ydi'n umbrela i'n barod, Isaac?

Isaac

'Rwy'n 'i gwpla fa nawr, Mr. Jones. Dewch miwn.



Y FICER yn dod i mewn, a rhôl hir o bapurau dan ei gesail. Cardi cadarn iua'r canol oed ydyw'r FICER. Cenfydd NATHANIEL.

Ficer

A─, shwd ych-chi heddy, Mr. Morgan? Shwd ma'r lecshwn yn dod ymlân?

Nathaniel

Yn dda iawn, diolch i chi, yn dda iawn, yn wir.

Ficer

'Rwy'n disgwyl gweld close fight rhyngoch-chi a Mr. Bifan. 'Rych chi'ch dau wedi cyd-gystadlu'n barod fel arweinwyr core, yn ddau Ryddfrydwr mor selog, ac hefyd yn Ymneilltuwyr i'r carn─fight yn iawn fydd hi, 'rwy'n siwr.

Isaac

Dyna beth wy inna'n wêd hefyd, Mr. Jones; y fight ora fuws yn Llanybryn eriod. Shwt ma'r Bazaar yn dod mlân?

Ficer

Or'r gore, diolch i chi. Dim ond wythnos sydd gyda ni nawr, a felny, 'rwy'n mynd ag ychydig o'r posters yma oddi amgylch. Welsoch chi un o'n posters mawr ni?

Isaac

Dim ond o bell, Mr. Jones. (Dadlenna'r FICER hysbyslen fawr o'r Bazaar.) Wel, dyna beth yw postar, ontefa! Os dim un gita chi i spario, Mr. Jones?

Ficer

'Rych-chi'n garedig neilltuol, Isaac. Fel y gwyddoch-chi, fydda-i byth yn aflonyddu dim ar y cyfeillion ymneilltuol, ond gan ych bod chi cystal a gofyn, fe gewch un gyda'r pleser mwya.

Isaac

Pitwch a sôn, Mr. Jones, pitwch a sôn; a diolch yn fawr i chitha. Os ôs 'na rwpath y galla-i neud yn fy ffordd fach i, 'dôs gita-chi ddim ond gwêd hannar gair. (Ym syllu ar y furlen.) Cato'n pawb! Arglwyddas Llanharan yn dod i acor y Bazaar! Bazaar ardderchog fydd hwn, Mr. Jones.

Ficer

Y mae yr Arglwyddes yn cymryd diddordeb mawr yn ein gwaith ni yma; fe gyfrannodd ugen punt. 'Rwy'n bwriadu cyhoeddi enwau y cyfranwyr yn y Gazette yr wythnos nesa.

Isaac

Itha right hefyd: ond fe fydd 'na un enw'n isha, ddylsa fod ar y rhestar.

Ficer

O─enw pwy?



Ysguba ISAAC ei fraich yn fawreddog i gyfeiriad NATHANIEL, yr hwn sydd wedi bod yn ddigon call i beidio lluddias dim ar waith da yr eilliwr drwy yngan gair.

Isaac

Nathanial Morgan, Esq. Pam na ofynnwch-chi iddo fe gyfrannu rwpath?

Ficer

Fel y dwedes-i, fydda-i nemor byth yn mynd at y gwahanol enwade i ofyn am arian, er mod-i wastad yn barod i dderbyn unrhyw gyfraniade. Gaf-fi osod ych enw chi lawr am bum punt Mr. Morgan?

Nathaniel

(Mewn braw.) Pum punt! Na chewch yn wir!

Ficer

Dwy neu dair gini, ynte?

Nathaniel

Ona 'lla'n wir, na 'lla'n wir!

Isaac

(Yn gyflym.) Fe wyddoch o'r gora, Mr. Jones, shwt ma'r ffermwyr 'ma: fe gewch fencyd ceffyl a cart am wthnos ne' racor a chroeso, ac os bydd hi'n galad iawn arnoch-chi, 'dôs fawr gwaniath gan amball i ffarmwr i roi ceffyl a chart i chi, ond ma'r un man i chi gisho câl wech ne swllt odd'wrthyn-nhw, a chasglu ffigys odd'ar ysgall. Ma gen-i well syniad na roi pum punt, lawar gwell.

Ficer

(Yn awyddus.) Ie?

Isaac

(Dipyn yn gyfrinachol.) Fysa buwch o rhyw les i chi?

Ficer

Beth ddwedsoch-chi?

Isaac

Fysa buwch o ryw ddefnydd i chi?

Ficer

Bobol annwl─buwch!

Isaac

Ia, buwch.

Ficer

Beth yn y byd wnaen-ni â buwch?

Isaac

O ma 'na wmradd o betha y gallach-chi neud â buwch, Mr. Jones.

Ficer

Wel, ffordd ynte?

Isaac

Beth tsa-chi yn 'i rafflo-hi yn y Bazaar?

Ficer

(Yn llawen.) Dyna awgrym penigamp!

Isaac

Allwch-chi ddim doti buwch lawr yn y cyfraniata, falla, ond tsa chi ddim ond hysbysu yn y Gazette fod 'na fuwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, idd 'i rafflo yn y Bazaar, tocynna, wech chinog─na, beth wy'n sôn, tocynna, swllt yr un─fe fysa hynny'n ddicon gwell na phum punt i chi.

Ficer

Ie'n well na phum punt─bydde o lawer! Ond bid siwr, mae'n dibynnu ar Mr. Morgan: ydi e'n fodlon rhoi buwch?

Isaac

'Dos dim raid i chi ofni, Mr. Jones. (Yn troi at NATHANIEL.) 'Rych-chi'n folon roi buwch, on'd ych-chi Nathanial?

Nathaniel

(Yn beirusol.) Wel─am wn-i (yn fwy pendanl)─otw, 'rwy'n folon roi buwch.

Ficer

Diolch i chi o galon, Mr. Morgan, am ych haelfrydedd.

Isaac

A falla byddwch chi cystlad a chyhoeddi 'r un pryd, Mr. Jones, fod y cratur yn cal 'i rhoi gan Nathanial Morgan, Esq., un o ymgeiswyr lecshwn y Rural District Council?

Ficer

(Yn chwerthin.) Ha, ha; wel o'r gore, 'dos wahaniath yn y byd gen-i, a 'rwy'n sicr y bydd y plwyfolion yn teimlo'n gynnes tuag at Mr. Morgan pan clywan-nhw'r newydd da. (Y mae ISAAC yn crogi'r hysbyslen ar y mur.) Gresyn na fyse ni wedi meddwl am hyn cyn argraffu'r posters.

Isaac

Ma'n rhaid i chi gal handbills, Mr. Jones,; a'u dosbarthu nhw ym mhobman. Chwalwch nhw i betwar cwr y byd. Sôn am Fazaar, hwn fydd y mwya fu eriod yng Nghymru; fe newch hannar can-punt o'r fuwch yn y man lleia─tocynna swllt yr un, ddim dima'n llai.

Ficer

(Yn frwdfrydig.) Rhaid argraffu y tocynne ar unwaith.

Isaac

A ma'r un man i chi hysbysu ar y tocynna a'r handbills mai rhodd Nathanial Morgan yw y fuwch.

Ficer

Fe fydd yn ddigon hawdd gwneud hynny.

Isaac

Hannar can punt, yn wir, fe newch gan-punt o heni yn ddidraffarth; nid yn unig y plwyf, fe fydd yr oll shir yn y Bazaar.

Ficer

'Rwy'n sicr y bydd y fuwch yn atyniad cryf, a 'rwy'n dymuno eto i ddatgan fy niolchgarwch i chi, Mr. Morgan.

Nathaniel

(Yn anghysurus.) Pob croeso i chi, Mr. Jones, pob croeso.

Ficer

(Mewn brys.) Rhaid i fi fynd nawr; p'nawn da, a diolch yn fawr i chi.

Isaac a Nathaniel

P'nawn-da.

Ficer

(Yn troi'n ol wrth y drws.) O, Isaac, faint sydd arna-i am wella'r umbrella?

Isaac

(Yn haelfrydig iawn.) Dim yn y byd, Mr. Jones, dim o gwbwl; fuas-i ddim tair munad wrtho-fa.

Ficer

(Yn mynd.) Diolch yn fawr, Isaac. P'nawn-da.

Isaac a Nathaniel

Pnawn da.



Erys ISAAC a NATHANIEL yn llowydd am dipyn. Saif ISAAC ar ganol y llawr, gan ledu es goesau yn falch a meistrolgar, a'i fodiau dan ey geseiliau.

Isaac

(Yn rhodresgar.) Dyna ni wedi 'i gneud-hi, Nathanial: 'ryn-ni wedi ennill y lecshwn acha un ercyd! Be'chi'n feddwl amdano i nawr? Ond wetas-i wrthoch-chi─yn y byd politicadd, ma'n rhaid i ddyn feddwl a chysitro.

Nathaniel

Dyn clefar iawn ych-chi, Isaac, clefar iawn hefyd, a fydda-i ddim yn fyr o dalu'n ol pan ddaw cyfla.

Isaac

Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn (yn dymer iawn) gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann.

Nathaniel

Os dim llawar o opath i chi man'na, Isaac. Ych trin a'ch trafod chi ma Marged Ann wastod. A phwy isha i chi drafferthu ynglŷn â Marged Ann, hen fab fel chi, bron trician ôd? Ma-hi o'r gora i ofalu am y tŷ i fi, ama hi'n garetig iawn i Riannon, ond 'dwy-i ddim yn gweld llawar o rân arni fel gwraig i chi. Ma hi wedi gweld 'i hamsar gora ys blynydda; 'dos dim byd yn bert yndi; ma hi mor dew a mwtwl, a tsa chi ddim ond 'i gweld hi miwn pang o dymar─(yn codi ei ddwylo).

Isaac

Alla-i ddim help, Nathanial. 'Rwy'n gryf ymhob ffordd arall, ond os caiff cariad afal ar ddyn, 'dyw-a damad gwell, ys gwetws yr Ysgrythur, o wingo yn erbyn y symbyla. 'Rwy wedi achub yn dda iawn ar hyd y blynydda, hyd yn hyn, ond 'nawr, dim ond i fi feddwl am Marged Ann, ne weld 'i shôl hi'n hongian ar y lein, 'rwy'n teimlo mod-i'n mynd yn yffion. (Yn erfyniol.) Gwetwch air bach drosto-i, Nathanial, 'rwy wedi ennill y lecshwn i chi.

Nathaniel

Am wn-i nag ych-chi'n wir.

Isaac

'Rwy'n siwr o hynny. Pwy fuwch roiwch-chi?

Nathaniel

Eh?

Isaac

Pwy fuwch roiwch-chi?

Nathaniel

(Yn synn.) Ond wetsoch-chi wrth y Ficar ych hunan─yr hen fuwch ddu.

Isaac

Do, do; odd yn rhaid i fi wêd rwpath. Ond fysach chi byth o'r gydwypod i roi hen fuwch â thair côs iddi yn y bedd i Fazaar yr Eclws!

Nathaniel

Fyswn-i byth o'r gydwypod i neud dim byd arall. 'Drychwch 'ma, Isaac, gadewch i ni ddiall y'n gilydd: fuws 'na ddyn eriod yn gryfach Anghydffurfiwr na fi?

Isaac

Ddim eriod.

Nathaniel

Ymladdws rywun yn y wlad yn gletach na fi dros Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad?

Isaac

Dim enad byw.

Nathaniel

Ag eto, 'rych chi'n meddwl mod-i'n ddicon ffôl i roi buwch ifanc iach i Eclws Loegar!

Isaac

Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na!

Nathaniel

Pam lai? Dyna'r fuwch addewas i; y chi'ch hunan disgrifiws hi─Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd. Ma'n rhaid i ni gatw at yn gair nawr.

Isaac

Os gita-chi ddim un Castall Martin arall?

Nathaniel

Nagos gen-i, a fe wyddach-chitha hynny o'r gora.

Isaac

Na wyddwn-i. Beth os bydd hon farw?

Nathaniel

(Yn ofidus.) Marw! Be 'chi'n gisho wêd, Isaac?

Isaac

Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn.

Nathaniel

Bydd-a'n wir! 'Rych-chi wedi neud rhyw gawl ryfadd wedi'r cwbwl, gita'ch meddwl, a'ch cysitro, a'ch pondro!

Isaac

O'r gora, o'r gora; dim gair arall! Fe af-fi ar ol y Ficar nawr cyn cyraeddiff-a'r printar, a fe esbonia-i bopath wrtho-fa. Fe gaiff ynta esbonio wrth wŷr yr Eclws, shwt o'ch-chi'n bwriatu roi hen fuwch afiach iddyn-nhw, a wetyn, fe gewn weld faint o fôts gewch chi. Y gwir ag e yw hyn: 'dych-chi ddim yn moyn maeddu Siencyn Bifan.

Nathaniel

Nagw-i'n wir!

Isaac

Nagych; 'rych-chi'n folon i gôr Carmal i glochtar drosto-ni tra bo ni byw. Dyma fi'n mynd! (Yn brysio tuag at y drws.)

Nathaniel

Hannar munad. (Erys ISAAC.) Fe arhoswn nes bo ni'n gweld beth yw teimlad gwŷr yr Eclws: os byddan-nhw'n depyg o ochri gita ni, wel, fe gewn weld.



Dychwel ISAAC, ac yn union daw TOMOS JONES, RHYS PRITCHARD, a DAFYDD PETERS i mewn. Ar ol cyfarch gwell, eisieddant ar y meinciau. Gŵr tal, henaidd, sobr ei wedd ydyw PRITCHARD. Y mae PETERS yn iau,─tua deugain oed─yn fwy trwsiadus a bywiog. TOMOS JONES yn dew, ychydig yn hŷn na PHETERS; ac yn afler a diog ei olwg.)

Nathaniel

Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli.

Isaac

Dyna chi eto, wastod miwn brys, yn poenia gofitio. Ma 'na ddicon o amsar, llawn dicon. Wel, gyfeillion, 'rwy wedi gofyn i chi ddod yma i fod yn bwyllgor i Nathanial Morgan. Y fi yw 'i agant-a, chi'n gweld. Fuas-i wthnos gyfan, ar dro, yn meddwl pwy i ddoti ar y pwyllgor, a 'rwy'n cretu mod-i wedi dewis y tri gora yn Llanybryn.

Nathaniel

Clywch, clywch.

Tomos

(Yn fawreddog.) Sgusotwch fi, Mr. Morgan, otych-chi wedi sgrifennu'ch address?

Nathaniel

O, nagw.

Tomos

Ma'n dda iawn gen-i glwad, wath ma gen-i rwpath pwysig i ddoti yn ych address chi.

Dafydd

A finna.

Rhys

A finna hefyd.

Isaac

(Wrth NATHANIEL.) Dynon o farn a syniata, 'lwch-chi. (Yn tynnu amryw bapurau o'i logell.) Dyma restar y pleidleiswyr: fuas-i oria maith nithwr yn 'u rannu a'u dethol nhw: a ma-hi'n dod i hyn: ma 'na 372 o bleidleiswyr ar y restar, yn mynychu capeli fel y canlyn: Seion, capal Nathanial a finna, 94; Carmal, capal Siencyn Bifan, a wth gwrs, ych capal chitha, Tomos Jones, 87; Nebo, ych capal chi, Rhys Pritchard, 62; Pisgah, ych capal chi, Dafydd Peters, 57; 61 yn mynd i'r Eclws; cyfanswm 361.

Dafydd

Faint wetsoch-chi ôn-nhw i gyd?

Isaac

372.

Dafydd

Beth am yr un ar ddeg arall?

Isaac

Pump gwrthgiliwr, petwar ddim yn cretu, a ma 'na ddou, wn-i ddim beth i wêd am danyn-nhw.

Tomos

Rwpath hifyr-di-hafar, na bwch na gafar.

Isaac

Ia, ia, ond cofiwch fod gan bob un ohonyn nhw fôt.

Nathaniel

(Yn dambaid.) Nawr, Isaac, cymrwch chi bwyll. 'Dwy-i ddim am i anghredinwyr a gwrthgilwyr i foto drosto-i.

Isaac

Ma nhw lawar mwy tepyg o foto drosto-chi na thros Siencyn. Ta pun, fe gymrwn y capeli nawr bob yn un: Carmal gynta, capal Siencyn Bifan. Chewn-ni fawr os dim fôts o Garmal.

Tomos

Pitwch a bod mor siwr (yn taro ei fynwes), dyma un fôt, beth bynnag, gewch-chi.

Nathaniel

O ia, ia; 'r yn-ni gyd yn gwpod 'ny.

Tomos

'Rwy'n mynd i ddangos i Siencyn Bifan na all a ddim troi dyn mâs o'i gôr am ddim!

Nathaniel

Clywch, clywch.

Tomos

A dim ond achos i fi wêd 'i fod-a'n cymryd rallentando yn rhy gyflym yn Hendrefadog.

Nathaniel

Itha-right, Tomos; wydda Siencyn eriod ffordd i gymryd rallentando.

Tomos

"Mâs â chi," mynta-fa wrtho i, wrtho i cofiwch, a 'nhad roiws y wers gynta eriod iddo-fa ar y Modulator. Na, chaiff Siencyn ddim fôt gen-i, a ma 'na naw ne ddeg o fôts arall na chaiff-a chwaith, ôs, ôs, o leia naw ne ddeg.

Isaac

Da iawn. Capal ni nesa, Seion, 94 o fôts. Fe ddylsan gal rheina i gyd ond rhyw ddwy ne dair.

Nathaniel

(A'i wrych yn codi.) O'n wir! a phwy yn-nhw, licswn i wpod.

Isaac

Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y Band of Hope.

Nathaniel

'Dôdd-a ddim yn deilwng i arwan y Band of Hope.

Isaac

'Dwy-i ddim yn gwêd 'i fod-a, ond fe 'llwch fentro hyn; yn ol barn Hugh Parry, fyddwch-chi ddim yn deilwng i fod yn Rural District Councillor. Dyna un arall, Moses Griffith, fe'i troisoch-a mâs o'r Rechabiaid.

Nathaniel

Ond gwelas-i a'n sefyll ar ben drws y Black Lion.

Isaac

'Dwy-i ddim yn gwêd llai, ond fydd dim fôt i chi manna. Nawr, os dotwn-i Seion a Charmal gita'i gilydd, 'rwy'n barnu fod 'na fajority o ryw ucian ar ochor Nathanial.

Dafydd

Os ucian yn rhwydd.

Tomos

A racor.

Isaac

Beth am ych capal chi, Rhys─Nebo, 62 o fôts?

Rhys

Fe ddylsa Nathanial gâl 40 o leia, wath ma fa'n roi mentig ca bob blwyddyn i de-parti'r plant.

Isaac

'Dwy-i ddim yn meddwl y caiff-a 40, gwetwch 35. Chi nesa, Dafydd─Pisgah, 57 o fôts. DAFYDD (Yn ymddiheuriol.) Wel a gwêd y gwir, ma hi dicyn yn lletwith. Chi'n gweld, ma-hi'n sefyll fel hyn: ma gwraig Siencyn Bifan yn gnithar i fam-yng-nghyfraith whâr gwraig yn gwinitog ni. Ia, dyna'r gwaetha o-heni. Otych-chi'n cretu y caiff-a ddeg o fôts?

Dafydd

O caiff; synnwn-i ddim na chelsa-fa bymthag ne falla ucian. Ma Mr. Morgan wedi neud llawar i gymwynas â chapal Pisgah. Dim ond yr wthnos ddwetha y ceson-ni fentig gambo i moyn yr harmomium newydd.

Isaac

Fe wetwn bymthag. Nawr, a chymryd y petwar capal gita'i gilydd, 'dos 'na fawr o waniath rhwng un a'r llall; falla fod gen Nathanial fantas o rhyw ddeg ne racor o fôts. Fe welwch felny fod y lecshwn yn troi ar fôts yr Eclws, a ma'n hyfrydwch mawr gen-i i hysbysu i chi fel pwyligor y bydd gwŷr yr Eclws o'n hochor ni bron bob un. Ma Nathanial wedi addo buwch i'r Ficar, idd 'i rafflo yr wthnos nesa.

Dafydd

Raffle!

Rhys

Buwch!

Isaac

Ia, buwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd. Dyna 'ngwaith i 'lwchi, tocynna swllt yr un.

Tomos

(Yn wyliadwrus.) Bydd caniatâd i aelota'r capeli i brynnu ticats?

Nathaniel

O bydd, i bawb.

Tomos

Wel dyna ddiwadd ar Siencyn Bifan; dyna'r lecshwn wedi'i setlo.

Dafydd

Stroke anfarwol yw honna; 'rych-chi wedi maeddu Siencyn yn barod.

Nathaniel

I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa. Ofan arno-fa roi cyfla arall i fi gita-i gôr, ond fe gaiff e weld, caiff, caiff, fe gaiff e weld!

Rhys

Nawr beth am yr address?

Nathaniel

O ia, fuas-i bron ag anghofio: fe geso-i lythyr y bora 'ma odd'wrth Riannon, yn gofyn i fi bito argraffu'r address cyn y delsa hi sha thre, a fe fydd yma fory.



Ymddengys ISAAC yn anfodlon.

Tomos

Fe fydd Miss Morgan yn help mawr i ni.

Nathaniel

Mae hi wedi bod yn studio'r pwnc am betar mlynadd yn Aberystwyth. Be'chi'n 'i alw fa nawr, rwpath─rwpath economy─?

Tomos

Domestic Economy.

Dafydd

Nace, nace, peth at olchi a smwddo a phopi yw Domestic Economy. Fe wn-i o'r gora beth ma Mr. Morgan yn feddwl─er─

Isaac

Political Economy.

Nathaniel

Dyna fe; y peth gora allwch-chi gâl ar gyfar lecshwn.

Rhys

'Dos dim raid i ni gwpla'r address nawr, ond falla y gallwn-ni feddwl am rai o'r prif betha.

Isaac

(Yn anamyneddgar.) Gallwn, yn enw'r bendith. 'Ryn-ni wedi ennill y lecshwn; fe ddylsan ofalu i bito 'i cholli hi eto. Os gen un o chi awgrym?

Tomos

Dyma'm syniad i: os ych-chi am ennill fôts, pitwch a doti dim byd pendant yn yr address, dim byd y gall yr ochor arall gymryd gafal yndo-fa, ond gwaeddwch "Lawr â'r Trethi," a tystiwch ta chi yw "Cyfaill y Gwithwr."

Rhys

Ond ma'n rhaid i chi addo rwpath.

Nathaniel

Itha-right; nawr, beth gaf-fi addo?

Dafydd

Wel; ma'r hewl sy'n arwan i Pisgah miwn cyflwr sopor, yn llawn twlla, a phwlla o ddŵr ar hyd-ddi. Dim ond i chi addo gwella honna fe gewch lawar o'n fôts ni.

Nathaniel

Dotwch yr hewl yn yr address, Isaac.

Rhys

A beth amdanon ni? Ma'n raid i aelota Nebo gerad milltir a hannar rownd i'r groesffordd cyn cyrradd y capal, a fe allsan fynd 'no miwn pum munad tsa 'na bont rwla'n nghymdocath y Black Lion.

Nathaniel

Dotwch y bont i lawr, Isaac. (Ym troi at TOMOS JONES.) On-ni'n meddwl fod rwpath pwysig gita-chi, Tomos.

Tomos

Os, y ma-fa; fe wyddoch fod gan Siencyn Bifan nifar o fwthynnod lawr wrth y nant.

Isaac

Os.

Tomos

Wel, ma'r Sanitary Inspector wedi reporto nhw fwy nag unwaith, unfit for 'uman 'abitation, dyna eiria'r report, unfit for 'uman 'abitation, ond ma'r Medical Officer of Health yn gwrthod 'u condemnio nhw.

Nathaniel

Dyna damad blasus, Tomos: gwrthod condemnio bwthynnod 'i dad, iefa? Dotwch yna lawr, Isaac.

Dafydd

Allwch-chi ddim doti yna lawr yn yr address. Fe fydd yn well i chi gefnoci housing scheme.

Tomos

A dyna'r trethi lan ar unwaith.

Isaac

Wath yn y byd am y trethi, dim ond i ni gâl cyfla i faclu Siencyn ynglŷn â'i dai.

Nathaniel

Ia, a baclu 'i fab hefyd. Wfft shwt Fedical Officer of Health weta-i. Arhoswch, nes caf fi fynd ar y Council!

Isaac

Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod.



Tua'r fan yma, neu yn gynt os mynnir, gellir caniatâu i Isaac i ddechreu shafo Nathaniel. Os cedwir y gorchwyl o fewn terfynau rhesymol, gall fod yn achlysur llawer o ddifyrrwch diniwed.

Nathaniel

Dim byth! 'Rwy wedi sharso Riannon─



Ymddengys merch ieuanc tua 22 oed wrth ddrws y siop. Cofier mai dynes ieuanc ydyw RHIANNON, yn credu'n ffyddiog 'y gellid gwella ac aildrefnu'r byd yn rhwydd mewn rhyw wythnos neu lai.

Rhiannon

A beth 'nâth Riannon druan nawr?

Nathaniel

(Yn syn ac efo yn llawen.) Riannon!

Rhiannon

(Yn dod i mewn.) 'Nhad! (Yn cyfarch y lleill.)

Nathaniel

Beth ar wynab y ddaear ddath a ti yma heddy?

Rhiannon

Allwn-i ddim aros dwarnod arall yn Aberystwyth, a chitha yng nghanol lecshwn. Welsoch-chi address Siencyn Bifan?

Isaac

Naddo; 'dyw hi ddim mas eto.

Rhiannon

Nag-yw-hi! Ma 'na hannar dwsan o grots yn dosbarthu'r address ar hyd y pentra. Gwrandewch (yn dal rhaglen i fyny) a gwetwch os clywsoch-chi shwt ffwlbri difeddwl eriod: (yn darllen) "Pleidleisiwch dros Siencyn Bifan, Cyfaill y Gweithiwr."

Tomos

Wel, tawn-i byth heb gyffro o'r fan!

Nathaniel

Welsoch-chi shwt beth eriod, air am air 'run fath a'n address i!

Rhiannon

Ych address chi! Ble ma honno?

Nathaniel

'Ryn-ni yn 'i chyfansoddi hi nawr. Y fi yw Cyfall y Gwithwr.

Rhiannon

Y chi, iefa? Dyna fwy na wyddwn i o'r blân. Ond gwrandewch eto. "Pleidleisiwch dros Siencyn Bifan ac i lawr â'r trethi."

Nathaniel

(Yn bybyr.) Dyna fe ar 'i drôd, dyna Siencyn Bifan, miwn politics 'run fath a cherddoriath! Os caf fi syniad gynta, fe fydd e'n siwr o 'neud defnydd ohono o mlân-i!

Rhiannon

Pob croeso iddo gatw'r syniad yna, 'nhad. Meddyliwch,─ lawr a'r trethi─dyna shiboleth pob terfysgwr penchwiban. Arhoswch nes y gwelwch yr address gyfansodda-i i chi. Llwydd a Lles a Werin, dyna'r gadlef, 'nhad, "Pro Bono Publico!"

Nathaniel

(Braidd yn ddi-amgyffred.) Ia, ia, Riannon; itha iawn, y merch-i. (Yn troi at ISAAC.) Beth wetas-i, Isaac?

Rhys

Sgusotwch fi, Miss Morgan, oti Siencyn yn sôn rwpath am bont wrth y Black Lion, er mwyn aelota Nebo?

Rhiannon

Nagyw,─pam?

Rhys

'Rych-chi o'i flân-a manna, Nathanial.

Rhiannon

Beth! (Wrth ei thad.) 'Nhad, gofalwch na lywch-chi scitsha'r werinos, na blygwch chi glun o flân y dorf er mwyn dwy ne dair o fôts.

Nathaniel

Dim byth ym merch-i. (Yn troi at ISAAC.) Chi'n sôn am feddwl a phondro, beth wetas-i Isaac?

Dafydd

Oti Siencyn yn crypwll rwpath am wella'r hewl ar y ffordd i Pisgah?

Rhiannon

Dim gair.

Dafydd

Ma-fa ddicon ar ol, Mr. Morgan.

Rhiannon

'Nhad; cyn y cewch-chi ennill yr un fôt drwy apelio at gynneddfa gwaela'r etholwyr─

Nathaniel

Itha right, Riannon.

Isaac

(Yn anniddig) Y chi a'ch "itha right"; enillwch chi byth os na newch-chi.

Nathaniel

Beth wyddoch chi am lecshwn, Isaac? Fuoch chi miwn coleg eriod yn studio Political Domestics!

Isaac

(Yn ffromllyd.) O'r gora ta! Dyma fi yn ymddiswyddo. (Yn cyfeirio bys at RIANNON.) Dyna'ch agant-chi o hyn i mâs. Rwy'n ymddiswyddo!



Clywir llais dwfn yn gofyn y tu allan, "Otych-chi wedi hoci y rasar, Isaac?"

Isaac

Otw, Mr. Bifan, dewch miwn.



Ymddengys SIENCYN BIFAN, gŵr tal, corffol, hanner cant, llewyrchus a neilltuol o iach yr olwg. Gwelir ei fod yn dalp o hynawsedd a rhadlonrwydd pan y cerdd i mewn yn hamddenol â'i ddwylo yn llogelli ei lodrau. Saif yn syn pan wêl y cwmpeini.

Siencyn

Wel, wel (yn chwerthin yn iachus) dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn. Ha, ha, ha. Shwt ych-chi, Nathanial?



Dilynir SIENCYN gan eì fab, yr M.O.H., gŵr ieuanc tua 27. Sylwer ei fod ef a RHIANNON yn llawen iawn o weld ei gilydd. Ymgomiant yn fywiog, er drwy sisial, heb dynnu sylw y lleill.

Nathaniel

(Yn sychlyd.) 'Rwy-i o'r gora.

Siencyn

A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân?

Nathaniel

Fyddwch chi fawr o dro cyn gweld a theimlo hynny.

Siencyn

(Yn gellweirus.) 'Rwy'n synnu atoch chi, Nathanial. 'Rych-chi wedi dod yn f'erbyn i yn y lecshwn 'ma o felltith a drygioni'ch calon. Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi.



Yn ystod y sgwrs ganlynol gyda SIENCYN mae NATHANIEL yn para i neidio i fyny ac i lawr yn ei gadair.}

Nathaniel

Dim gopath, iefa? Ho, ho, fe gewn weld!

Siencyn

Nagos, dim yfflyn o opath. Fuoch-chi eriod yn ddyn cyhoeddus, fel fi.

Nathaniel

Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith!

Siencyn

Pam ych-chi'n sefyll y lecshwn 'ma, Nathanial? Jelosi─ha, ha, ha─jelosi; fe ffaelsoch gita'ch côr─

Nathaniel

Ffaelu, do fa!

Siencyn

Do. Côr pwy enillws ym Mhen-yr-Englyn?

Nathaniel

Ych côr chi, ond pwy oedd y beirniad, a ble cysgws-a y noswath cyn y gystadleuath? Ond sôn am ennill pwy enillws yng Ngraig-yr-Eos?

Siencyn

Y chi─ond pwy enwad ôdd yn cynnal yr eisteddfod? Ond sôn am ganu, pwy gas y wopor yn Hendrefadog?

Nathaniel

O, chi gas y wopor, ond pwy enillws? Rodd ych côr chi mâs o diwn am un bar ar bymthag, y sopranos yn sharp, y tenors yn y niwl─

Tomos

A'r bassers led ca ar ol pawb arall.

Siencyn

Ho, ho; dyna'ch barn chi. Ta pun, fe enillas-i ddwywaith o dair, a fe'ch maedda chi eto fel Rural District Councillor. (Yn estyn rhaglen i NATHANIEL.) Dyma'n address i. Fe benderfynas ddod â hi mâs cyn y gnelsa chi. Allwch chi ddim gwêd nawr mod-i wedi cymryd dim byd o'ch program chi, a wy-i am i chitha, os gwelwch chi'n dda, i bito efelychu dim o'n un inna (gyda gwên ddireidus) fel y gnithoch-chi gita'r canu.

Nathaniel

Y fi yn ych efelychu chi, ys clwas-i shwt gownt eriod. Allwch-chi brofi 'na Siencyn?

Siencyn

Galla'n rhwydd, a dyma'r tyst (gan gyfeirio af ISAAC). Isaac, nawr 'rwy-i am i chi gyfadda'r gwir, sawl gwaith y buoch chi'n gwrando ar y slei o dan ffenast Carmal ar 'y nghôr-i'n canu?

Isaac

Y fi! Gofalwch be 'chi'n wêd, Mr. Bifan, ne fe fynna'r gyfrath arnoch-chi, am slander a damages.

Siencyn

Ddwseni o witha. (Wrth NATHANIEL.) O ble cesoch-chi'r syniad o ddwbwl piano yn "Worthy is the Lamb ─oddiwrtho-i, Nathanial, odd'wrtho i.

Nathaniel

A ffordd cesoch chitha'r syniad i portamento yn "Thanks be lo God." Ffordd Siencyn? Wrth ddoti dyn i wrando o dan ffenast capal Sion!

Siencyn

Ha, ha, ha─fe fuws 'na ddyn yn gwrando o dan ffenast ych capal chi, ond nid fi helws-a. Wyddoch-chi beth wetws-a ar ol dod 'nol?

Nathaniel

Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith.

Siencyn

Wel, gofynnwch i Tomos Jones ych cefnocydd politicadd mwya chi. Dyna'r dyn fuws dan y ffenast. Beth wetsoch-chi, Tomos, otych-chi'n cofio?

Tomos

A dyma'r diolch 'rwy'n gâl am gisho neud cymwynas â chi!

Siencyn

Wyddoch-chi beth wetws-a, Nathanial─nag odd 'na ddim byd yn ych hen ganu chi!

Nathaniel

(Yn troi yn chwim at TOMOS JONES.) Wetsoch-chi 'na am 'y nghanu i!

Tomos

(Yn ddryslyd.) Y fi! Fe weta-i wrthoch-chi beth wetas i. Fe wetas i─ond dyna, beth yr ots beth wetas-i. Torchwch chi'ch llewys, Mr. Morgan, a fe'i maeddwch a'n rhwydd, er fod 'i fab-a'n Fedical Officer of Health.

Nathaniel

Wfft shwt Fedical Officer of Health, weta-i. (Yn tro at RIANNON a'r M.O.H.) O'n wir. (Yn arwain RHIANNON ymaith.) Sawl gwaith wy-i wedi gofyn i ti gatw draw odd'wrth y gwalch 'na!

Siencyn

(Yn gellweirus wrth ei fab.) Sawl gwaith wy-inna wedi gofyn i ti atal y merched yn llonydd. (Wrth NATHANIEL.) Nawr, darllenwch yr address yna, a gofalwch na chymrwch-chi ddim points odd'wrthi.

Tomos

'Ryn-ni wedi'i darllan hi'n barod, a 'dos 'na ddim yndi'n werth cymryd.

Nathaniel

Ma gen-i ddicon o boints i'ch maeddu chi'n rhwydd.

Siencyn

Nagos, fyth yn ych bywyd, Nathanial. Ma 'mhwyllgor i wedi pwyso petha'n ofalus. Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws.



NATHANIEL a'i bwyllgor yn chwerthin.

Nathaniel

Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld!

Siencyn

Am wn-i na chaf-fi nhw i gyd, wâth ych-chi wedi bod mor afresymol ynglŷn â'r Datgysylltiad a'r Dadwaddoliad.



NATHANIEL a'i bwyllgor yn crechwenu a chwerthin. Clywir sŵn cloch criwr y tu allan. Pawb yn distewi ac yn talu sylw.

Criwr

(Yn uchel.) Gwrandewch, a dalier sylw. Mewn perthynas â'r Bazaar gynhelir yn Eglwys Llanybryn yr wythnos nesaf, dymunir hysbysu y refflir buwch, rial Castell Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, tocynna swllt yr un. Cyflwynir yr anifail gan Nathaniel Morgan, Esq., un o ymgeiswyr etholiad Llanybryn. Duw Gadwo'r Brenin!

Siencyn

(Yn benwan wyllt.) Beth yw hyn, Nathanial! 'R ych chi wedi bradychu egwyddorion mawr Rhyddid a Chydraddoldeb crefyddol, 'r ych-chi wedi gwerthu'ch henad am saig afiach o fôts. Ond fe'ch maedda chi, gnaf! Fe fydd ych hanas chi'n destun drewllyd ar bob aelwyd yn y plwyf, a fe'ch cospir chi'n dragwyddol am fargan yr hen fuwch ddu!



LLEN

a1