| (Harmonia) Yli! | |
| (Iris) Wel? | |
| (0, 1) 23 | Wel, be? |
| (Iris) Be wyt ti'n 'i wneud yn fan 'ma? | |
| (Iris) Be wyt ti'n 'i wneud yn fan 'ma? | |
| (0, 1) 25 | Mae hynny'n ddigon amlwg, 'ddyliwn. |
| (Iris) Pam nad wyt ti yn dy waith? | |
| (Iris) Pam nad wyt ti yn dy waith? | |
| (0, 1) 27 | Am nad oes gen i ddim gwaith. |
| (Iris) Be wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (Iris) Be wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (0, 1) 29 | Wedi cael fy nghardia y bore yma. |
| (0, 1) 30 | Cic yn fy mhen-ôl. |
| (0, 1) 31 | Fi a phedwar arall. |
| (Iris) Pam? | |
| (Harmonia) Ne glertian yn Theatr Dionysos yn edrach ar sothach. | |
| (0, 1) 37 | Fel mater o ffaith, mi ydw i wedi bod yma ers awr yn gwrando ar Gôr y Llyffantod. |
| (0, 1) 38 | Glywch chi nhw?... |
| (0, 1) 39 | Wyddoch chi be mae nhw'n 'i ganu? |
| (0, 1) 40 | Mi ddweda i wrtha chi: |
| (0, 1) 41 | ~ |
| (0, 1) 42 | C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca! |
| (0, 1) 43 | Mor hyfryd yw anthem y Broga! |
| (0, 1) 44 | A dyma ni'n glyd, |
| (0, 1) 45 | Yn hapus ein byd, |
| (0, 1) 46 | Peidiwch, da chi, â'i ddiffetha. |
| (Harmonia) Digri dros ben! | |
| (Harmonia) Digri dros ben! | |
| (0, 1) 48 | Pam na chwerthwch chi 'te, 'rhen grimpan! |
| (Iris) Paid â siarad efo mam fel 'na! | |
| (Iris) Rhaid iti fynd i rywle arall i chwilio am waith. | |
| (0, 1) 51 | Dim gobaith. |
| (0, 1) 52 | Mi fydd pob ffatri yn Athen wedi cau gyda hyn, myn cebyst! |
| (Harmonia) Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl. | |
| (Harmonia) Rwyt ti am eistedd yma felly, ar dy ben-ôl. | |
| (0, 1) 54 | Mae'n rhaid imi, w'chi. |
| (Harmonia) Rhaid? | |
| (Harmonia) Pam? | |
| (0, 1) 57 | Am reswm anatomegol. |
| (Harmonia) Am beth wyt ti'n siarad? | |
| (Harmonia) Am beth wyt ti'n siarad? | |
| (0, 1) 59 | Oherwydd gwneuthuriad fy nghorff mi fydda'n bur anodd imi eistedd ar fy mol. |
| (Harmonia) Clyfar iawn! | |
| (Iris) Ond be wyt ti'n mynd i' wneud? | |
| (0, 1) 62 | Wn i ddim. |
| (0, 1) 63 | Disgwyl cardod gan y duwia am wn i. |
| (Iris) Pam oeddech chi'n cael eich cardia? | |
| (Iris) Pam oeddech chi'n cael eich cardia? | |
| (0, 1) 65 | Mater o egwyddor. |
| (Iris) Pa egwyddor? | |
| (Iris) Pa egwyddor? | |
| (0, 1) 67 | Pwy sydd i fod i wneud be. |
| (Iris) Egwyddor wir! | |
| (Harmonia) Ac un arall ar y ffordd! | |
| (0, 1) 71 | Be! |
| (Harmonia) Ia, mi wyddwn y bydda hynna'n rhoi sgytwad iti. | |
| (Harmonia) Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd! | |
| (0, 1) 80 | Nefoedd! |
| (Iris) Wn i ddim be sy'n mynd i ddigwydd inni. | |
| (Harmonia) Egwyddor wir, a thitha ddim uwch baw-sawdl! | |
| (0, 1) 96 | Diolch am funud o heddwch! |
| (0, 1) 97 | Merchaid, myn cythral! |
| (0, 1) 98 | Mi edrychan ar greadur o ddyn yn gweithio'i fysedd i'r asgwrn. |
| (0, 1) 99 | A mynd dan draed rhyw labwst o fforman. |
| (0, 1) 100 | Ac ar ddiwedd yr wythnos mi ddalian eu dwylo allan i fachu'r ddima ola goch-y-delyn. |
| (0, 1) 101 | A be sy gan y pwar-dab i ddangos am ei lafur? |
| (0, 1) 102 | Affliw o ddim ond cyrn ar ei ddwylo, a chrys chwyslyd ar ei gefn. |
| (Merch) Gymerwch chi bamffled? | |
| (Merch) Gymerwch chi bamffled? | |
| (0, 1) 105 | Dim arian. |
| (Merch) Rhad ac am ddim. | |
| (Merch) Rhad ac am ddim. | |
| (0, 1) 107 | Dim gwerth ei chael felly... Politics? |
| (Merch) Wel, ia mewn ffordd. | |
| (Merch) Wel, ia mewn ffordd. | |
| (0, 1) 109 | Cad dy bamffled. |
| (0, 1) 110 | Does gen i ddim diddordeb mewn politics. |
| (Merch) Mae gan bolitics ddiddordeb ynoch chi. | |
| (Merch) Mae gan bolitics ddiddordeb ynoch chi. | |
| (0, 1) 112 | Clyfar iawn! |
| (0, 1) 113 | Dos adra at dy fam i newid dy glwt, 'merch i. |
| (0, 1) 114 | Paid â dweud wrtho i beth i wneud! |
| (0, 1) 116 | Hen bryd torri criba'r bobl ifanc yma. |
| (0, 1) 117 | Trio rhedeg cyn dysgu cropian. |
| (0, 1) 119 | Nefoedd, un arall ar y ffordd! |
| (0, 1) 120 | Ro'n i yn y theatr ddoe yn gweld drama am ryw frenin o'r enw Oidipos. |
| (0, 1) 121 | Roedd y creadur hwnnw hefyd mewn tipyn o strâch. |
| (0, 1) 122 | Ond doedd ei dynged o'n ddim i'r felltith sydd arna i! |
| (0, 1) 123 | Mae yna ddeugain mil o ferched yn Athen, ond 'roedd yn rhaid i mi ddewis yr hen grimpan gegog yna'n fam-yng-nghyfraith. |
| (0, 1) 125 | "Ble rwyt ti'n 'i feddwl rydan ni wedi bod y bore yma?... |
| (0, 1) 126 | A does dim amheuaeth medda'r doctor. |
| (0, 1) 127 | Mae Iris wedi, be-wyt-ti'n-alw... mynd!" |
| (0, 1) 129 | Beth 'tae hi'n cael efeilliaid! |
| (0, 1) 130 | Mae yna rai yn y teulu yn rhywle. |
| (0, 1) 131 | A dyna dyaid o saith o blant! |
| (0, 1) 132 | Rhaid imi chwilio am rywbeth i' wneud mae'n amlwg. |
| (0, 1) 133 | Wn i ddim be, chwaith. |
| (0, 1) 134 | Sgubo'r stryd efallai. |
| (0, 1) 135 | Mi fydda hynny'n well na llwgu... am wn i! |
| (0, 1) 136 | O wel, digon buan poeni am hynny fory. |
| (0, 1) 137 | Llymaid arall o'r gwin yma rwan. |
| (0, 1) 139 | Ben-di-ged-ig! |
| (0, 1) 140 | Diolch amdano. |
| (0, 1) 142 | Ewch i Hades yr hen widdan drwynsur! |
| (0, 1) 143 | A gobeithio y bydd Cerberws yn brathu eich, be-ydach chi'n alw... sodla"! |
| (Dionysos) Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill. | |
| (Dionysos) Roeddech chi'n bwrw drwyddi'n o arw funud yn ôl, gyfaill. | |
| (0, 1) 151 | Sut wyddoch chi? |
| (Dionysos) Ro'n i'n digwydd sefyll ar y gornel yn y fan acw, a'ch clywed chi. | |
| (Dionysos) Rhywun wedi sathru'ch corn yn amlwg. | |
| (0, 1) 154 | Merched, w'chi. |
| (0, 1) 155 | Mae'n nhw'n anhydrin iawn weithia. |
| (0, 1) 156 | Fel maen-melin am eich gwddw chi. |
| (0, 1) 157 | Mi ydw i wedi dweud erioed, dydyn nhw ddim 'run fath â ni ddynion. |
| (Dionysos) Nac ydyn, mae'n debyg! | |
| (Dionysos) Nac ydyn, mae'n debyg! | |
| (0, 1) 159 | A dydy heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod lwcus imi o gwbwl. |
| (0, 1) 160 | Yn gynta mi ydw i wedi colli 'ngwaith. |
| (0, 1) 161 | Ac yn ail, mi ydw i newydd glywed fod y wraig yn mynd i ddal y dorth ymhell. |
| (Dionysos) Yn beth? | |
| (Dionysos) Yn beth? | |
| (0, 1) 163 | Wedi llyncu pry. |
| (0, 1) 165 | Magu mân-esgyrn fel y byddwn ni'n deud. |
| (0, 1) 166 | Wyddoch chi — |
| (Dionysos) Llongyfarchion. | |
| (0, 1) 170 | Llongyfarchion? |
| (0, 1) 171 | Nid dyna ddwedodd fy mam-yng-nghyfraith rwan, Syr. |
| (0, 1) 172 | Dyna ichi'r ddynes fwya gecrus yn Athen. |
| (0, 1) 173 | Tafodi? |
| (0, 1) 174 | Edliw? |
| (0, 1) 175 | A wyddoch chi beth ydy ei henw hi? |
| (0, 1) 176 | Harmonia! |
| (0, 1) 177 | Dyna ichi jôc! |
| (0, 1) 178 | Mi fasa Rhagan-rug yn ei siwtio hi'n well... |
| (0, 1) 180 | Ar eich gwylia rydach chi, mae'n debyg? |
| (0, 1) 181 | Ydach chi am aros dipyn?... |
| (0, 1) 182 | Oes arnoch chi eisio rhywun i ddangos y Ddinas ichi? |
| (0, 1) 183 | Cario'r bag yna? |
| (Dionysos) Welais i erioed wlad mor dlos â hon. | |
| (Dionysos) Rhaid dy fod yn ei charu hi â'th holl galon. | |
| (0, 1) 190 | Beth? |
| (0, 1) 191 | O ydw am wn i. |
| (0, 1) 192 | "Cas gŵr..." ac yn y blaen. |
| (0, 1) 193 | Ond fedrwch chi ddim byw ar brydferthwch, Syr.... |
| (0, 1) 194 | Che's i mo'ch enw chi'n iawn.... |
| (0, 1) 195 | Mi garia i'r bag mawr trwm yna am bris rhesymol.... |
| (0, 1) 196 | Cil-dwrn, fel tae.... |
| (Dionysos) Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas? | |
| (Dionysos) Rwyt ti'n gyfarwydd â'r Ddinas? | |
| (0, 1) 199 | Athen? |
| (0, 1) 200 | Ydw, fel cledr fy llaw, er mai ar y cyrion rydw i'n byw. |
| (0, 1) 201 | Mi fedrwn fynd â chi o gwmpas os mynnwch chi. |
| (0, 1) 202 | Dangos y llefydd o ddiddordeb ac ati.... |
| (0, 1) 203 | Be ydach chi'n i ddweud? |
| (Dionysos) Sothach! | |
| (Dionysos) Sothach! | |
| (0, 1) 206 | Tybed? |
| (0, 1) 207 | Digon da i mi. |
| (0, 1) 208 | A pheth arall, fedra i fforddio dim gwell. |
| (0, 1) 209 | Rydach chi'n arbenigwr ar win, yn amlwg? |
| (Dionysos) Felly maen nhw'n dweud. | |
| (Dionysos) Beth ydy d'enw di? | |
| (0, 1) 212 | Nicias, Syr. |
| (0, 1) 213 | Ond Nic mae pawb sy'n fy nabod i'n fy ngalw i. |
| (Dionysos) Rwy'n gweld. | |
| (Dionysos) Rwy'n bryderus iawn ynghylch Athen, Nicias. | |
| (0, 1) 217 | O? |
| (Dionysos) Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath. | |
| (Dionysos) Mae'n debyg dy fod tithau'n teimlo run fath. | |
| (0, 1) 219 | Cytuno'n llwyr. |
| (0, 1) 220 | Dim gwaith. |
| (0, 1) 221 | Prisiau'n codi. |
| (0, 1) 222 | Cyfloga isel. |
| (0, 1) 223 | Effaith y rhyfel felltith yma, w'chi. |
| (Dionysos) Ia siwr. | |
| (Dionysos) Beth am y gymdeithas a'i diwylliant enaid y genedl, os mynni di? | |
| (0, 1) 227 | Dydw i ddim wedi meddwl rhyw lawer am betha felly, Syr. |
| (0, 1) 228 | Dim amser efo gwraig a phump o blant. |
| (0, 1) 229 | Mi fydda i'n eitha bodlon os ca' i lond bol o fwyd, ac ambell botel o win. |
| (0, 1) 230 | Yn reit hoff o ddrama hefyd, ond iddi beidio â bod yn rhy anodd. |
| (Dionysos) Felly! | |
| (Dionysos) Mae'n dda gen'i glywed hynna. | |
| (0, 1) 234 | Beth amdani, Syr? |
| (0, 1) 235 | Ga' i gario'ch bag chi? |
| (Dionysos) O'r gora. | |
| (Dionysos) Cymer ofal ohono. | |
| (0, 1) 239 | Peidiwch â phoeni. |
| (0, 1) 240 | Mi ydw i'n gry fel ceffyl. |
| (0, 1) 242 | Dowch ar f'ôl i rwan. |
| (0, 1) 243 | Dyma'r ffordd ora i'r Ddinas. |
| (Blaenor y Côr) Edrychwch! | |
| (Dionysos) Wedi blino? | |
| (0, 1) 274 | Go lew. |
| (0, 1) 275 | Mi hoffwn i gael sbelan fach am funud os medrwch chi sbario'r amser. |
| (Dionysos) Wrth gwrs. | |
| (Dionysos) Wyddost ti? | |
| (0, 1) 294 | Plismyn am wn i. |
| (Dionysos) A'r carcharor? | |
| (Dionysos) A'r carcharor? | |
| (0, 1) 296 | Lleidar reit siwr. |
| (0, 1) 297 | Pigwr-pocedi wedi cael ei ddal yn y Theatr. |
| (0, 1) 298 | Mae nhw'n tyrru i fan'no ar bob Gŵyl Ddrama, w'chi. |
| (Dionysos) Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro? | |
| (Dionysos) Ond pam oedd y bobol ifainc yna'n ceisio'u rhwystro? | |
| (0, 1) 300 | Dim byd gwell i' wneud, w'chi. |
| (0, 1) 301 | Unrhyw beth i greu cynnwrf. |
| (0, 1) 302 | Yn y fyddin ddylen nhw fod. |
| (0, 1) 303 | Buan iawn y bydda'r Sbartiaid yn dwad â nhw at eu coed! |
| (0, 1) 304 | Torri eu gwalltia hir a'u criba nhw! |
| (Dionysos) Tybed? | |
| (Dionysos) Mae'n lecsiwn yma rwy'n deall. | |
| (0, 1) 309 | Ydy, wrth gwrs! |
| (0, 1) 310 | Wyddoch chi be, ro'n i wedi llwyr anghofio. |
| (0, 1) 311 | Ond does gen i fawr o ddiddordeb yn y busnas politicaidd yma. |
| (0, 1) 312 | Wedi cael llond bol a deud y gwir. |
| (Dionysos) Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi. | |
| (Dionysos) Rwyt ti'n hoff o fetaffor y bol, rwy'n sylwi. | |
| (0, 1) 314 | Dydw i ddim yn deall, Syr. |
| (Dionysos) Hida befo... | |
| (Dionysos) Cynrychiolwyr y ddwy Blaid Fawr yn dwad i'r Sgwâr yma i siarad. | |
| (0, 1) 318 | Y ddau yn addo'r byd reit siwr. |
| (0, 1) 319 | A chyfarth fel dau gi ar ei gilydd. |
| (Llais) Atheniaid! | |
| (Côr) Neu garu! | |
| (0, 1) 345 | Cleon ydy hwn, Syr. |
| (0, 1) 346 | Llefarydd y Democratiaid brwd — plaid y Chwith. |
| (Dionysos) Felly! | |
| (Cleon) {Chwerthin} | |
| (0, 1) 371 | Mi fydd yn mynd yn ddagreuol unrhyw funud rwan, Syr. |
| (0, 1) 372 | Dyn o anianawd nionyn. |
| (Dionysos) O? | |
| (Cleon) {Cwyd ei fraich dde.} | |
| (0, 1) 392 | Pwt barddonllyd rwan! |
| (Dionysos) Sut wyddost ti? | |
| (Dionysos) Sut wyddost ti? | |
| (0, 1) 394 | Bob tro y bydd o'n codi ei fraich fel yna, ac edrych fel tae o'n mynd i gystadlu ar adrodd. |
| (Cleon) Ro'n i'n cerdded ar y traeth heddiw yn y bore bach. | |
| (Dionysos) Denwr dagrau da! | |
| (0, 1) 415 | Ia. |
| (0, 1) 416 | Mae o'n sôn am 'i fam ymhob araith w'chi. |
| (0, 1) 417 | Gwybod y tricia i gyd. |
| (0, 1) 418 | Gwleidydd proffesiynol. |
| (0, 1) 419 | A cheiliog-gwynt. |
| (0, 1) 420 | Ust! |
| (Cleon) Daeth llawer tro ar fyd ers hynny. | |
| (Cleon) {Cwyd ei fraich.} | |
| (0, 1) 426 | Pwt barddonllyd arall ar y ffordd, Syr! |
| (Cleon) Gyfeillion, mi welais rywbeth arall ar y traeth heddiw. | |
| (Cadmos) Rhagrith! | |
| (0, 1) 459 | Cadmos ydy hwn, Syr, Llefarydd yr Oligarchiaid — yr Wrth-Blaid. |
| (0, 1) 460 | Ceidwadwr rhonc. |
| (Dionysos) Rwy'n gweld. | |
| (Dionysos) Wel, beth wyt ti'n i feddwl? | |
| (0, 1) 517 | Yn y niwl. |
| (0, 1) 518 | Ond mi wyddwn mai fel yna y bydda hi. |
| (0, 1) 519 | Y ddau'n pregowthan o'i hochor hi heb ddweud dim. |
| (0, 1) 520 | Malu awyr! |
| (0, 1) 521 | Dyna'u hanes nhw erioed. |
| (Dionysos) Ond beth sydd i ddwad o Athen? | |
| (Dionysos) Ond beth sydd i ddwad o Athen? | |
| (0, 1) 523 | O mi fyddwn yn siwr o fwnglera drwyddi rywsut. |
| (Dionysos) Wyt ti'n sylweddoli be sydd yn y fantol? | |
| (Dionysos) Aros funud. | |
| (0, 1) 558 | Reit, Syr. |
| (Dionysos) Esgudowch fi, gyfeillion. | |
| (Côr) Hyd yn oed, yn gwegian uwch y gwagle. | |
| (0, 1) 726 | Dim llawer o dderbyniad, Syr? |
| (Dionysos) {Eistedd} | |
| (Dionysos) Dwed i mi, beth wyt ti'n 'i feddwl o'r sefyllfa yn Athen? | |
| (0, 1) 730 | Fi? |
| (0, 1) 731 | Wel... |
| (Dionysos) Ond rwy i wedi gofyn y cwestiwn yna i ti o'r blaen, on'do. | |
| (Dionysos) A siomedig oedd d'ateb dithau hefyd, os wy'n cofio. | |
| (0, 1) 734 | Mater o farn ydy hynny, 'te? |
| (Dionysos) Fy marn i ydy mai tipyn o wag wyt tl. | |
| (Dionysos) Does yna fawr o ddim yn dy boeni os cei di lond dy fol o fwyd, a digon o win, ac amrywiol bleserau dy wely. | |
| (0, 1) 738 | Dwy' i ddim yn honni mod i'n wahanol i'r mwyafrif o ddynion, w'chi... |
| (0, 1) 739 | Maddeuwch imi am ddweud, ond rydach chi'n pendroni'n amlwg. |
| (0, 1) 740 | Poeni am eich busnes reit siwr? |
| (0, 1) 741 | Gofal eiddo a buddiannau ac ati? |
| (0, 1) 742 | Diofal yw dim. |
| (0, 1) 743 | Mi ydw i'n cydymdeimlo. |
| (Dionysos) Tyrd yma am funud. | |
| (Dionysos) Pwy wyt ti'n 'i feddwl ydw i? | |
| (0, 1) 747 | Dim syniad yn y byd. |
| (Dionysos) Celwydd! | |
| (Dionysos) Celwydd! | |
| (0, 1) 749 | Be —? |
| (Dionysos) Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna. | |
| (Dionysos) Paid â dweud nad wyt ti ddim wedi sbecian i mewn i'r cas yna. | |
| (0, 1) 751 | Fi? Tawn i byth o'r fan yma! |
| (Dionysos) Nicias! | |
| (Dionysos) Nicias! | |
| (0, 1) 753 | Wel, dim ond rhyw led-godi congol y caead. |
| (0, 1) 754 | Wnes i mo'i agor o fel 'tae. |
| (Dionysos) Wnawn ni ddim hollti blew yn 'i gylch. | |
| (0, 1) 758 | Mi ydw i'n meddwl, te... |
| (Dionysos) Ia? | |
| (Dionysos) Ia? | |
| (0, 1) 760 | Mi ydw i'n meddwl mai trafaeliwr ydach chi. |
| (0, 1) 761 | Trafaeliwr ne fasnachwr gwin. |
| (0, 1) 762 | O Gorinth, efalla. |
| (0, 1) 763 | Iawn, Syr? |
| (Dionysos) Dim yn hollol. | |
| (Dionysos) Ond mae yna rywfaint o gysylltiad. | |
| (0, 1) 766 | Does gen i ddim syniad, w'chi. |
| (Dionysos) Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti. | |
| (Dionysos) Rwyt ti'n hoff o Ddrama meddet ti. | |
| (0, 1) 768 | Ydw... |
| (0, 1) 769 | Nid actor ydach chi? |
| (Dionysos) {Ysgwyd ei ben.} | |
| (0, 1) 778 | Hon? |
| (Dionysos) Be ydy'r enw sydd arni? | |
| (0, 1) 781 | Dionysos |
| (0, 1) 783 | Dionysos! |
| (0, 1) 785 | Duw y Gwin a- a- |
| (Dionysos) A nawdd-dduw'r Ddrama, ia, Nicias. | |
| (Dionysos) A'r parotaf i ddeall amrywiol wendidau'r natur-ddynol. | |
| (0, 1) 794 | Diolch am hynny, Eich Anrhydedd... hynny ydi Eich duwdod... |
| (Dionysos) Gad inni ddeall ein gilydd. | |
| (Dionysos) Ydy hynna'n glir? | |
| (0, 1) 800 | Yn berffaith glir, Syr. |
| (0, 1) 801 | Peidiwch â phryderu. |
| (Dionysos) O'r gorau... | |
| (Dionysos) Eto i gyd, fel y dwedais i o'r blaen, mae gen i achos pryder. | |
| (0, 1) 804 | |Chi| o bawb, Syr? |
| (Dionysos) Ia. | |
| (Dionysos) Serch hynny, mae yna un peth yn fy mhoeni. | |
| (0, 1) 808 | Beth ydy hwnnw, Syr, mor hy â gofyn? |
| (Dionysos) Tynged Athen, Nicias. | |
| (Dionysos) Tynged Athen, Nicias. | |
| (0, 1) 810 | O mi ddaw petha eto, w'chi, unwaith y rhown ni gosfa i'r Sbartiaid gythral yna. |
| (Dionysos) Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya. | |
| (Dionysos) Nid y Sbartiaid ydy'r gelyn mwya. | |
| (0, 1) 812 | O? Pwy felly? |
| (Dionysos) Yr unig lygedyn o obaith a welais i oedd protest yr ifainc. | |
| (0, 1) 822 | Tybed, d'wch? |
| (0, 1) 823 | Stwrllyd ac anghyfrifol — |
| (Dionysos) Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di? | |
| (Dionysos) Ydyn nhw'n pigo dy gydwybod di? | |
| (0, 1) 825 | Dim o gwbwl. |
| (0, 1) 826 | Y ffaith ydi, mae'r busnes politicaidd yma ymhell uwch fy mhen i. |
| (Dionysos) Esgus da am beidio â gwneud dim! | |
| (Dionysos) Esgus da am beidio â gwneud dim! | |
| (0, 1) 828 | Wel, os ydy'r sefyllfa'n eich poeni chi gymaint â hynny, Syr — maddeuwch imi am ofyn — fedrwch chi mo'i newid hi? |
| (0, 1) 829 | Hynny ydi, gan eich bod chi, wel, yr hyn ydach chi. |
| (Dionysos) Yn anffodus, fedra i ddim ymyrryd yn uniongyrchol, Nicias. | |
| (Dionysos) A mae yna derfyn pendant ar f'awdurdod a'm dylanwad. | |
| (0, 1) 833 | Mae'r rhagolygon yn bur bethma felly? |
| (0, 1) 834 | Andros o broblem ddwedwn i. |
| (Dionysos) Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i. | |
| (Dionysos) Ia, a does yna ond un ffordd i'w datrys hyd y gwelaf i. | |
| (0, 1) 836 | Pa ffordd ydy honno, Syr? |
| (Dionysos) Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus. | |
| (Dionysos) Rhaid mynd ar siwrna bur enbydus. | |
| (0, 1) 838 | O? Ga'i ofyn ble? |
| (Dionysos) I Hades. | |
| (0, 1) 841 | Hades? |
| (0, 1) 842 | Arswyd y byd, be wnewch chi yn y fan honno? |
| (Dionysos) Fedra i ddim datguddio'r cynllun ar hyn o bryd. | |
| (Dionysos) Ddoi di efo fi, Nicias? | |
| (0, 1) 846 | Fi? |
| (Dionysos) I gario hwnna. | |
| (Dionysos) {Pwyntio at y cas.} | |
| (0, 1) 849 | Ond... ond chawn i ddim mynd yno, Syr. |
| (0, 1) 850 | Hynny ydy — |
| (Dionysos) Rwy'n credu bod modd trefnu hynny. | |
| (Dionysos) Wel, ddoi di? | |
| (0, 1) 854 | Gofyn go fawr, Syr. |
| (0, 1) 855 | Rhaid imi gael amser i feddwl. |
| (Dionysos) Wrth gwrs, rwy'n deall... | |
| (Dionysos) Hwyrach y byddi di wedi penderfynu erbyn y dof yn ôl. | |
| (0, 1) 860 | Wel, mi dria i 'ngora. |
| (Dionysos) Da iawn... | |
| (0, 1) 866 | Hades?... |
| (0, 1) 867 | Nefoedd yr adar! |
| (Dyn 1) Hei! | |
| (Dyn 1) Pam na wnei di ateb, carmon? | |
| (0, 2) 877 | Pa ateb sydd yna i " Hei"? |
| (Dyn 1) O, clyfar rydw i'n gweld! | |
| (Dyn 1) Paid â thrio'r gêm yna efo fi, boi bach! | |
| (0, 2) 880 | Pa gêm? |
| (Dyn 1) Taflu dy bwysa o gwmpas ac ati.... | |
| (Dyn 1) Dal i ddisgwyl wyt ti? | |
| (0, 2) 883 | Ia. |
| (Dyn 1) I ble mae o wedi mynd? | |
| (Dyn 1) I ble mae o wedi mynd? | |
| (0, 2) 885 | Pwy? |
| (Dyn 1) Dy giaffar di. | |
| (Dyn 1) Y dyn rwyt ti'n gweithio iddo fo. | |
| (0, 2) 888 | Pwy ddwedodd mod i'n gweithio iddo fo? |
| (Dyn 1) Wel, wyt ti ddim? | |
| (Dyn 1) Wel, wyt ti ddim? | |
| (0, 2) 890 | Mi ydw i'n cario'i fag o. |
| (Dyn 1) Nid am ddim mi wranta! | |
| (Dyn 1) Nid am ddim mi wranta! | |
| (0, 2) 892 | Dydw i ddim wedi cael tâl hyd yma. |
| (Dyn 1) {Rhydd bwniad bryfoclyd iddo} | |
| (Dyn 1) Pam nad wyt ti yn y rhyfel? | |
| (0, 2) 896 | Ga i ofyn yr un peth i ti? |
| (Dyn 1) Mae gen i reswm da. | |
| (Dyn 1) Rwan, beth amdanat ti? | |
| (0, 2) 903 | Hwyrach 'mod i wedi colli bawd fy nhroed. |
| (0, 2) 904 | Ne fod fy mrest i'n wan. |
| (0, 2) 905 | Ne fod gen i stumog wael. |
| (Dyn 1) Ne dy fod ti'n gachgi wedi gweld ffordd i' sgoi hi! | |
| (Dyn 1) I ble ddwedaist ti roedd dy giaffar di wedi mynd? | |
| (0, 2) 911 | Wnes i ddim dweud. |
| (0, 2) 913 | Ond os oes rhaid iti gael gwybod, wedi mynd i newid 'i ddillad mae o. |
| (Dyn 1) I be? | |
| (Dyn 1) I be? | |
| (0, 2) 915 | Am 'i fod o'n mynd ar siwrna. |
| (Dyn 1) Wyt ti'n mynd efo fo? | |
| (Dyn 1) Wyt ti'n mynd efo fo? | |
| (0, 2) 917 | Mae o wedi gofyn imi. |
| (Dyn 1) Wel? | |
| (Dyn 1) Wel? | |
| (0, 2) 919 | Dwy' i ddim wedi penderfynu eto. |
| (Dyn 1) Pam? | |
| (Dyn 1) Pam? | |
| (0, 2) 921 | Wel, mae'n anodd. |
| (Dyn 1) Beth wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (Dyn 1) Beth wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (0, 2) 923 | Nid siwrna gyffredin ydy hi. |
| (Dyn 1) I ble mae o'n mynd? | |
| (Dyn 1) I ble mae o'n mynd? | |
| (0, 2) 925 | Choeli di ddim tawn i'n dweud wrtha ti. |
| (Dyn 1) Tria fi. | |
| (Dyn 1) Tria fi. | |
| (0, 2) 927 | I Hades. |
| (Dyn 1) O, Hades! | |
| (Dyn 1) Rwan, i ble mae o wedi mynd? | |
| (0, 2) 934 | Ro'n i'n gwybod na fyddet ti ddim yn coelio. |
| (0, 2) 935 | Ond mi ydw i'n dweud y gwir. |
| (0, 2) 936 | I Hades mae o'n mynd. |
| (Dyn 1) {Ei ollwng} | |
| (Dyn 1) Be ydy d'enw di? | |
| (0, 2) 955 | Nicias. |
| (Dyn 3) Be sydd yn y cas yna? | |
| (Dyn 3) Be sydd yn y cas yna? | |
| (0, 2) 957 | Dwy' i ddim yn gwybod. |
| (Dyn 2) Ne wnei di ddim dweud! | |
| (Dyn 2) Eilio! | |
| (0, 2) 984 | Chewch chi ddim rhoi'ch bys arno fo! |
| (Dyn 3) {Yn fygythiol} | |
| (Dionysos) Wyt ti wedi penderfynu? | |
| (0, 2) 996 | Do, syr. |
| (0, 2) 997 | Mi ydw i wedi bod yn ystyried y mater yn ofalus iawn hefyd. |
| (0, 2) 998 | Ac ar ôl pwyso a mesur, rwy i'n ofni na fedra i ddim dwad. |
| (0, 2) 999 | Fel y gwyddoch chi, mae gan ddyn ei ddyletswyddau teuluol a'i ofalon ac ati. |
| (0, 2) 1000 | A pheth arall, dydy Hades ddim yn lle i fagu gwaed ynddo fo, fel y byddwn ni'n dweud. |
| (0, 2) 1001 | Nid bod arna i ofn cofiwch — dim o'r fath beth. |
| (0, 2) 1002 | Ond dyna fel y mae petha. |
| (0, 2) 1003 | Mae'n bur ddrwg gen i. |
| (Dionysos) Mae'n bur ddrwg gen innau hefyd, Nicias. | |
| (Dionysos) Mi allaf dy sicrhau di — | |
| (0, 2) 1007 | Ofn? Fi? |
| (0, 2) 1008 | Na, mi ydw i newydd ddweud wrthych chi. |
| (0, 2) 1010 | Rhyngoch chi a fi a'r wal, Syr, onibai am Iris — |
| (Dionysos) Iris? | |
| (Dionysos) Iris? | |
| (0, 2) 1012 | Y wraig. |
| (Dionysos) O! | |
| (Dionysos) O! | |
| (0, 2) 1014 | Onibai amdani hi, mi fuaswn efo chi fel saeth. |
| (0, 2) 1015 | Ond mae hi'n bryderus iawn ynghylch fy iechyd. |
| (0, 2) 1016 | Cha i ddim symud oddi cartre ganddi byth. |
| (0, 2) 1017 | Wedi cael cynnig swyddi da o dro i dro, w'chi. |
| (0, 2) 1018 | Ond yn gorfod eu gwrthod. |
| (0, 2) 1019 | Does dim troi arni. |
| (0, 2) 1020 | Mi wyddoch fel mae'r merched yma. |
| (Dionysos) Hon ydy hi? | |
| (Dionysos) Hon ydy hi? | |
| (0, 2) 1023 | Iris! |
| (Iris) Yma rwyt ti o hyd felly! | |
| (Iris) Oes yna ddim siâp symud arnat ti? | |
| (0, 2) 1026 | Mi ydw i wedi symud i'r fan yma, beth wyt ti'n 'i siarad? |
| (Iris) Mi wyddost be rydw i'n 'i feddwl. | |
| (Iris) Mi ddylet fod yn ddiolchgar. | |
| (0, 2) 1040 | Ia, ond wyddost ti i ble mae o'n mynd? |
| (0, 2) 1041 | I Hades! |
| (Iris) Dim gwahaniaeth, ond iti ddwad yn d'ôl rywdro. | |
| (Iris) A chyflog efo ti! | |
| (0, 2) 1044 | Does yna ddim sicrwydd y bydda i'n dwad yn ôl. |
| (Dionysos) O, oes, rwy'n gwarantu hynny. | |
| (0, 2) 1067 | Llawer o ffordd eto, Syr? |
| (Dionysos) Dim llathen, Nicias. | |
| (Dionysos) {Mae'n edrych i lawr arni.} | |
| (0, 2) 1074 | Afon Stycs? |
| (0, 2) 1075 | Andros o afon hefyd! |
| (0, 2) 1076 | Y dŵr yn ddu, ac yn llifo'n gyflym ac yn dawel. |
| (0, 2) 1077 | Mae o fel melfed gwibiog. |
| (0, 2) 1078 | Mae hi'n llydan hefyd. |
| (0, 2) 1079 | Wela i mo'r ochor draw iddi. |
| (Dionysos) Fe'i gweli hi, toc. | |
| (Dionysos) Fe'i gweli hi, toc. | |
| (0, 2) 1081 | Sut felly? |
| (Dionysos) Ar ôl inni ei chroesi hi. | |
| (Dionysos) Ar ôl inni ei chroesi hi. | |
| (0, 2) 1083 | Dwy' i ddim yn deall. |
| (Dionysos) Twt, twt, paid â dweud nad wyt ti'n gwybod am chwedloniaeth dy genedl dy hun! | |
| (Dionysos) Hon ydy'r Afon Stycs — reit? | |
| (0, 2) 1086 | Reit. |
| (Dionysos) Ac y mae Hades yr ochr arall, reit? | |
| (Dionysos) Ac y mae Hades yr ochr arall, reit? | |
| (0, 2) 1088 | Reit. |
| (Dionysos) Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit? | |
| (Dionysos) Felly, mae'n rhaid ei chroesi — reit? | |
| (0, 2) 1090 | Reit. |
| (Dionysos) Ond cyn y medrwn ni wneud hynny — | |
| (Dionysos) Ond cyn y medrwn ni wneud hynny — | |
| (0, 2) 1092 | Mae'n rhaid inni alw ar Charon a'i gwch. |
| (Dionysos) Rwyt ti yn gwybod felly! | |
| (Dionysos) Rwyt ti yn gwybod felly! | |
| (0, 2) 1094 | Ydw, ydw. |
| (0, 2) 1095 | Ond hyn oedd gen i Syr — chaf i ddim mynd drosodd yn y cwch. |
| (0, 2) 1096 | Dydw i ddim wedi — wel dydy'r cymwysterau angenrheidiol ddim gen i, fel tae. |
| (0, 2) 1097 | A fedra i ddim nofio. |
| (Dionysos) Gad ti hynna i mi. | |
| (Dionysos) Wyt ti'n chwibannwr go lew? | |
| (0, 2) 1108 | Wedi chwibannu llawer ar ôl y gennod yn fy nydd, Syr! |
| (Dionysos) Wel chwibanna rwan er mwyn Athen. | |
| (Dionysos) Un hir a dwy fer... rwan! | |
| (0, 2) 1111 | Reit. |
| (Charon) Be ddwedaist ti oedd d'enw? | |
| (0, 2) 1176 | Nicias. |
| (0, 2) 1177 | Nic i'm ffrindia. |
| (Charon) Dydw i ddim yn un o'r rheiny. | |
| (0, 2) 1183 | Be ydach chi'n 'i feddwl? |
| (Dionysos) Na, mae hynny'n amhosib. | |
| (0, 2) 1211 | Nicias. |
| (Charon) Os ei di dros yr ochor mi fydd wedi canu arnat ti! | |
| (0, 2) 1216 | Be, oes yna beryg? |
| (Charon) "Oes yna beryg?", medda'r creadur gwirion! | |
| (Charon) Siawns na phery'r tarth ddim yn hir. | |
| (0, 2) 1244 | Dwy' i'n gweld affliw o ddim! |
| (Charon) Hidia befo. | |
| (Dionysos) Ydw, diolch. | |
| (0, 2) 1249 | Mae'n oer drybeilig. |
| (0, 2) 1250 | Mi ydw i bron â fferu! |
| (Charon) Pwnia'n gyflymach a mi gynhesi! | |
| (Charon) Gofal rwan, beth bynnag ydy d'enw di hefyd! | |
| (0, 2) 1259 | Be ydi'r sŵn yna, d'wedwch? |
| (Charon) {Yn sydyn.} | |
| (Charon) Paid! | |
| (0, 2) 1270 | Ond maen nhw wedi gorffen dawnsio! |
| (Charon) Dydyn nhw ddim wedi dechra ar eu Corws. | |
| (Côr y Llyffantod) Peidiwch, da chi, â'i ddifetha. | |
| (0, 2) 1355 | Mae hi'n dechrau twyllu eto! |
| (Charon) Y tarth sy'n dwad yn ôl. | |
| (Charon) Beth ydy d'enw di hefyd? | |
| (0, 2) 1397 | Nicias, ond Nic i — |
| (Charon) {Troi a mynd i'r cwch.} | |
| (Dionysos) Ydy'r cas yna'n ddiogel? | |
| (0, 2) 1408 | Ydy... |
| (0, 2) 1410 | Syr? |
| (Dionysos) Ia? | |
| (Dionysos) Ia? | |
| (0, 2) 1412 | Roedd o'n sôn am Cerberws. |
| (Dionysos) Ceidwad Porth Hades. | |
| (Dionysos) Ofn? | |
| (0, 2) 1419 | Mae 'nghalon i yn fy mhen ôl i. |
| (Dionysos) Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell. | |
| (Dionysos) Paid â chywilyddio, dydw inna fawr gwell. | |
| (0, 2) 1421 | Ond rydach chi'n wahanol i mi! |
| (Dionysos) Wn i ddim faint o sylw a rydd o i hynny! | |
| (Dionysos) Tyrd â'r cas yna i mi. | |
| (0, 2) 1426 | I mi? |
| (0, 2) 1427 | I'w yfed? |
| (Dionysos) Mi wnaiff les iti. | |
| (0, 2) 1436 | Nid dyna ydy o, Syr. |
| (0, 2) 1437 | Ond nid bob dydd mae dyn yn cael profiad fel hyn. |
| (Dionysos) Beth wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (Dionysos) Beth wyt ti'n 'i feddwl? | |
| (0, 2) 1439 | Yfed potel o win efo, wel un fel chi. |
| (0, 2) 1440 | Ac yn Hades o bob man. |
| (Dionysos) Porth Hades ydy hwn, Nicias. | |
| (Dionysos) A chyn y byddwn ni'n cyrraedd Pencadlys Plwton — | |
| (0, 2) 1445 | Pwy? |
| (Dionysos) {Yn amyneddgar.} | |
| (Dionysos) Plwton, pennaeth Hades. | |
| (0, 2) 1448 | O ia, wrth gwrs, Plwton, ia. |
| (Dionysos) Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws. | |
| (Dionysos) Fel roeddwn i'n dweud, cyn y byddwn ni'n cyrraedd yno, mae'n rhaid inni fynd heibio i gyrion Tartarws. | |
| (0, 2) 1450 | Tartarws? |
| (Dionysos) Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto. | |
| (Dionysos) Ia, mi ddweda i am y lle ofnadwy hwnnw wrthyt ti eto. | |
| (0, 2) 1452 | O'r gora. |
| (0, 2) 1454 | Mae hwn yn dda, hefyd! |
| (0, 2) 1455 | Blas mwy arno fo! |
| (Dionysos) Ond paid â chymryd mwy. | |
| (Dionysos) Teimlo'n well? | |
| (0, 2) 1459 | Ydw, dipyn bach. |
| (0, 2) 1460 | Ond mae ofn Cerberws yn dal i barlysu f'aelodau i. |
| (0, 2) 1461 | Ydy o mor ddychrynllyd ag y maen nhw'n 'i ddweud? |
| (Dionysos) Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed? | |
| (Dionysos) Be'n hollol wyt ti wedi 'i glywed? | |
| (0, 2) 1463 | Ei fod o'n anferth o fawr. |
| (0, 2) 1464 | Efo tri o benna. |
| (0, 2) 1465 | Llais fel taran a llygaid yn melltennu tân. |
| (0, 2) 1466 | Fod ganddo fo gynffon draig. |
| (0, 2) 1467 | A mwclis o nadrodd gwenwynig am 'i wddw. |
| (Dionysos) Wn i ddim beth am dri phen, na chynffon draig a'r nadrodd. | |
| (Dionysos) A llygaid yn melltennu tân. | |
| (0, 2) 1471 | Mi ydach chi wedi 'i gyfarfod o o'r blaen, decini? |
| (Dionysos) Do. | |
| (Dionysos) Do. | |
| (0, 2) 1473 | Ydy o mor ofnadwy ag y maen nhw'n 'i haeru? |
| (Dionysos) Ydy. | |
| (Dionysos) Gwaeth os rhywbeth. | |
| (0, 2) 1476 | Arswyd y byd! |
| (Dionysos) Ond rwy'n credu y medrwn ni ddelio ag o. | |
| (Dionysos) Wyt ti'n deall? | |
| (0, 2) 1482 | Ydw. |
| (0, 2) 1483 | Reit. |
| (0, 2) 1485 | Welais i erioed le mor unig. |
| (0, 2) 1486 | Mor anial. |
| (0, 2) 1487 | Mor wag. |
| (0, 2) 1488 | Mor ddi-ystyr. |
| (0, 2) 1489 | Mae yma rywfaint o wellt melyn crin. |
| (0, 2) 1490 | Mae o wedi marw — ac eto'n tyfu! |
| (0, 2) 1491 | Peth dychrynllyd i ddyn rhesymol ydy rhywbeth di-sens. |
| (0, 2) 1492 | Mi fasa tragwyddoldeb o hyn yn rhy ofnadwy i feddwl amdano hyd yn oed... |
| (0, 2) 1493 | Rwy'n gobeithio y ca' i fynd odd'ma rywdro, Syr? |
| (Dionysos) Mi gei di fynd. | |
| (Dionysos) O leia, mi wnaf fy ngorau i sicrhau hynny. | |
| (0, 2) 1497 | Peidiwch â cham-ddeall, ond dydw i ddim yn edrach ymlaen i ddwad yma eto — hyd yn oed pan ddaw f'amser. |
| (Dionysos) Siawns na fydd o'n ymddangos yn wahanol iti bryd hynny, wyddost ti... | |
| (Dionysos) Ust! | |
| (0, 2) 1501 | Yr arswyd! |
| (Dionysos) Gofal rwan. | |
| (Dionysos) {Siaradant yn isel.} | |
| (0, 2) 1690 | Ia... Fedra i ddim peidio ag amau, Syr. |
| (Dionysos) Amau? | |
| (Dionysos) Amau? | |
| (0, 2) 1692 | Eich bod chi'n gwybod y bydda fo'n mynd i gysgu! |
| (Dionysos) Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus! | |
| (Dionysos) Bobol annwyl, rwyt ti'n hynod o ddrwg-dybus! | |
| (0, 2) 1694 | Oes yna beryg iddo fo ddeffro? |
| (Dionysos) Dim os byddwn ni'n ofalus. | |
| (Dionysos) Oofia am y cas, beth bynnag. | |
| (0, 2) 1699 | Reit. |
| (Dionysos) Y ffordd yma. | |
| (Dionysos) Ac ar boen dy fywyd paid â cholli golwg arna i. | |
| (0, 2) 1703 | Dim peryg o hynny, Syr! |
| (Dionysos) Ymlaen â ni felly. | |
| (Dionysos) Wedi blino? | |
| (0, 3) 1711 | Fawr lai. |
| (Dionysos) Gorffwys yma am ychydig. | |
| (Dionysos) Nicias, pan welais i di gyntaf yn Athen, mi ofynnais iti beth a wyddet amdanaf. | |
| (0, 3) 1720 | Do. |
| (Dionysos) Ond os wy'n cofio, d'oedd d'ateb ddim yn rhyw foddhaol iawn. | |
| (0, 3) 1723 | Ond mi wn i rwan, Syr. |
| (0, 3) 1724 | Chi ydy duw llysieuaeth a thyfiant. |
| (0, 3) 1725 | Rydach chi'n cynrychioli natur yn ei holl ysblander a'i chyfoeth. |
| (0, 3) 1726 | Mae'r winwydden, yn arbennig, yn gysegredig i chi. |
| (0, 3) 1727 | A gwin yn rhan o'ch addoliad. |
| (0, 3) 1728 | Hefyd mi ydach chi'n ffafriol i heddwch a gwareiddiad! |
| (Dionysos) Rwyt ti wedi gwneud dy waith-cartre yn amlwg! | |
| (Dionysos) Dos ymlaen. | |
| (0, 3) 1731 | O, ia, chi ydy nawdd-dduw y Ddrama, hefyd. |
| (Dionysos) At hynna roedd arna i eisio dwad. | |
| (Dionysos) Ac fe'm portreadir — nid heb achos, rwy'n cyfaddef — fel un pur ddoniol, gwamal a chellweirus. | |
| (0, 3) 1736 | Dydw i ddim yn eich cymryd chi'n ysgafn, Syr! |
| (Dionysos) Mae'n dda gen' i glywed! | |
| (Dionysos) Mae'r amser wedi dwad imi wisgo Masg Trasiedi — dros dro, beth bynnag. | |
| (0, 3) 1742 | Mae'n debyg mai fi sy'n dwp, ond dydw i ddim yn eich deall chi. |
| (Dionysos) Rwyt ti'n cofio imi sôn am bwll Tartarws. | |
| (Dionysos) Wel rhaid inni fynd heibio'i ymyl o rwan. | |
| (0, 3) 1745 | Mi ydw i wedi clywed llawer o sôn amdano fo, droeon. |
| (0, 3) 1746 | Ond does yna neb yn gwybod yn iawn be ydy o, w'chi. |
| (Dionysos) Dydy Tartarws yn ddim ond adlewyrchiad o hanfod pob ing a galar a thristwch dynolryw yn ei thrueni eitha, Nicias. | |
| (Dionysos) Edrych — dyma realaeth y felltith arbennig honno ar ei gwaethaf: | |
| (0, 3) 1753 | Arswyd y byd, wnes i ddim sylweddoli, w'chi! |
| (Dionysos) Aros, dwyt ti ddim wedi gweld y cyfan eto.... | |
| (Côr) A bod ein gwaed yn staenio'r canrifoedd. | |
| (0, 3) 1813 | Wyddoch chi be, dwy' i ddim yn teimlo'n benisel yn amal. |
| (0, 3) 1814 | Ond mae'r lle yma'n llethu f'ysbryd i. |
| (Dionysos) Pwll anobaith ydy Tartarws fel roeddwn i'n dweud wrthyt ti. | |
| (Dionysos) A hyd yma, che'st ti ddim ond cipolwg ar ei ymylon. | |
| (0, 3) 1818 | 'Does arna i ddim eisio gweld mwy. |
| (0, 3) 1819 | Ne mi fydda i'n colli pob ffydd yn y natur-ddynol. |
| (Dionysos) O, mae gobaith o hyd, Nicias. | |
| (Dionysos) O, mae gobaith o hyd, Nicias. | |
| (0, 3) 1821 | Ydach chi'n credu hynny o ddifri? |
| (Dionysos) Ydw, debyg iawn. | |
| (Dionysos) Onide, beth ydy diben ein hymweliad ni yma â Hades? | |
| (0, 3) 1824 | Trio achub Athen medda chi. |
| (Dionysos) Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw. | |
| (Dionysos) Mae Athen yn rhan o ddynol-ryw. | |
| (0, 3) 1826 | Ydy, wrth gwrs.... |
| (0, 3) 1827 | Maddeuwch imi am ddweud hyn, ond dydach chi ddim wedi egluro'n iawn imi, w'chi. |
| (Dionysos) Egluro beth? | |
| (Dionysos) Egluro beth? | |
| (0, 3) 1829 | Sut yn hollol ydach chi'n meddwl achub Athen — yma o bob man? |
| (Dionysos) Mi gei di'r eglurhad cyn bo hir. | |
| (Dionysos) Wrth gwrs, 'does dim sicrwydd. | |
| (0, 3) 1832 | Sicrwydd? |
| (Dionysos) Y bydd y cynllun yn gweithio. | |
| (Dionysos) Y bydd y cynllun yn gweithio. | |
| (0, 3) 1834 | O!... Maddeuwch i mi eto, ond oni ddylai un fel chi wybod yn bendant ymlaen llaw? |
| (0, 3) 1835 | Fedrwch chi ddim darllen y dyfodol? |
| (Dionysos) Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori? | |
| (Dionysos) Mi glywaist ti gwestiwn Cerberws ynglŷn â'm categori? | |
| (0, 3) 1837 | Do. |
| (0, 3) 1838 | Duw bach o'r trydydd dosbarth, medda fo. |
| (Dionysos) Ia, wel, 'roedd o'n berffaith iawn. | |
| (0, 3) 1847 | Ga i ofyn un peth arall? |
| (Dionysos) Wel! | |
| (Dionysos) Wel! | |
| (0, 3) 1849 | Plwton — sut un ydy o? |
| (Dionysos) Mi gei di weld hynny, hefyd, drosot dy hun. | |
| (Plwton) Yn y cyfamser, awgrymaf fod y gweddill ohonom yn ymroi yn llwyr i'n dwfn-fyfyrdod arferol. | |
| (0, 3) 2024 | Wel, myn uffern! |
| (0, 3) 2027 | Dwy' i'n gweld affliw o ddim. |
| (0, 3) 2028 | Sôn am fol buwch!... |
| (0, 3) 2030 | Maen nhw'n dweud bod yma lygod mawr fel sgwarnogod. |
| (0, 3) 2031 | A phryfed-cop fel crancod blewog... |
| (0, 3) 2032 | Yr arswyd mae hi'n ddistaw yma! |
| (0, 3) 2033 | Fel tae pawb wedi marw. |
| (0, 3) 2035 | Ond wrth gwrs maen nhw... |
| (0, 3) 2036 | Hynny ydy, pawb ond yfi!... |
| (0, 3) 2037 | Ond hwyrach mod inna wedi marw hefyd, ond mod i heb sylweddoli. |
| (0, 3) 2038 | Ac Iris druan yn weddw. |
| (0, 3) 2039 | A llond tŷ o blant. |
| (0, 3) 2040 | A'r rheiny'n llwgu a ballu... |
| (0, 3) 2041 | Fûm i ddim yn ŵr da iawn iddi. |
| (0, 3) 2042 | Diogi a hel diod a gamblo ac ati. |
| (0, 3) 2043 | Tawn i'n cael ail-gynnig, mi wnawn i well siâp ar betha... |
| (0, 3) 2045 | Pa mor hir eto sgwn i? |
| (0, 3) 2046 | Mae wedi bod fel oes yn barod. |
| (0, 3) 2047 | Ond dydy amser ddim yn cyfri yn y lle yma! |
| (0, 3) 2049 | Helo, mae yma rywbeth yn digwydd rwan! |
| (Plwton) Croeso'n ôl, Gynghorwyr. | |
| (Plwton) Tyrd, rhaid inni wneud trefniadau pendant rhag blaen. | |
| (0, 3) 2129 | Siawns na cha i fynd yn ôl yn o fuan rwan. |
| (0, 3) 2130 | Wn i ddim yn iawn be sydd wedi digwydd. |
| (0, 3) 2131 | Roedd yr holl brygawthan yna y tu hwnt i mi. |
| (0, 3) 2132 | Ond mae'n amlwg nad ydy petha ddim wedi llwyddo'n ôl y disgwyliad. |
| (0, 3) 2133 | Wel, fedra i ddim mynd odd'ma yn ddigon buan. |
| (0, 3) 2134 | Mae'r lle yma'n codi'r felan arna i. |
| (0, 3) 2135 | Run fath â hunlle, wyddoch chi, a chitha'n methu'n lân â deffro... |
| (0, 3) 2136 | Hwyrach mai dyna ydy o. |
| (0, 3) 2137 | Mai breuddwydio'r cwbwl rydw i. |
| (0, 3) 2138 | Wel, os felly, mi ddaw hi'n fore gyda hyn, gobeithio. |
| (0, 3) 2139 | A finna'n cil-agor fy llygad i wneud yn siwr. |
| (0, 3) 2140 | A gweld Iris wrth f'ochor yn y gwely, yn gwenu fel y bydd hi yn 'i chwsg. |
| (0, 3) 2141 | A'r plant yn y llofft nesa yn dechra cadw reiat. |
| (0, 3) 2142 | A'r hen Harmonia'n clebran... |
| (0, 3) 2143 | Ond dyma Fo'n dwad yn 'i ôl! |
| (Dionysos) Wel Nicias, mae'r amser wedi dwad. | |
| (0, 3) 2147 | Inni fynd yn ôl? |
| (Dionysos) I ti fynd yn ôl. | |
| (Dionysos) Fydda i ddim yn dwad efot ti. | |
| (0, 3) 2150 | Be? |
| (0, 3) 2151 | Pam? |
| (Dionysos) Fedra i ddim egluro pam. | |
| (Dionysos) Fydda i ddim angen dy gymorth di i honno. | |
| (0, 3) 2155 | Dydw i ddim wedi bod fawr o gymorth ichi yn hon, chwaith 'ddyliwn! |
| (Dionysos) Nid dy fai di oedd hynny. | |
| (Dionysos) 'Roedd y parodrwydd a'r bwriad yna. | |
| (0, 3) 2158 | Fel rydach chi'n gwybod bellach, Syr, rhyw greadur digon twp ydw i. |
| (0, 3) 2159 | A dydw i ddim wedi deall yn hollol glir-gola-dydd fel tae beth oedd amcan y busnas yma i gyd. |
| (0, 3) 2160 | Ond mi ydw i'n rhyw ama, rhyngon ni'n dau, nad ydy o ddim wedi llwyddo fel y dymunech chi. |
| (Dionysos) Rwyt ti'n iawn, Nicias. | |
| (0, 3) 2165 | Esgusodwch fi — llond ceg braidd — |
| (Dionysos) Beth wy'n 'i feddwl ydy fod y Gwirionedd weithiau o flaen ein trwynau. | |
| (Dionysos) Yn rhy agos inni 'i weld. | |
| (0, 3) 2168 | O? Mae yna un gwirionedd o flaen fy nhrwyn i rwan. |
| (0, 3) 2169 | A minna yn 'i weld yn blaen. |
| (Dionysos) A hwnnw? | |
| (Dionysos) A hwnnw? | |
| (0, 3) 2171 | Mod i'n gorfod mynd yn ôl fy hun. |
| (0, 3) 2172 | A mae arna i ofn nes mod i bron â... wel dydw... i... ddim-yn-lecio-dweud-wrthych-chi-be! |
| (0, 3) 2173 | Wel, fedrwch chi weld bai arna i? |
| (0, 3) 2174 | Mae meddwl am Cerberws yn codi pwys arna i. |
| (0, 3) 2175 | Heb sôn am Tartarws. |
| (0, 3) 2176 | A Charon. |
| (0, 3) 2177 | A'r Stycs! |
| (Dionysos) Nicias, mi addewais iti y byddet yn mynd yn ôl at Iris dy wraig yn ddiogel a dianaf. | |
| (Dionysos) Rwy i wedi rhoi un o'r poteli-gwin yn dy boced di. | |
| (0, 3) 2185 | Diolch yn fawr, Syr. |
| (Dionysos) Ond rwy i am iti addo peidio ag yfed ohoni nes byddi wedi croesi'r Stycs. | |
| (Dionysos) Wyt ti'n addo? | |
| (0, 3) 2188 | Ar fy llw! |
| (0, 3) 2189 | Dim ond imi gael mynd yn ôl i Athen... |
| (0, 3) 2190 | At Iris. |
| (Dionysos) Gorau po gynta inni gychwyn felly... | |
| (Dionysos) Eistedd yma am funud. | |
| (0, 4) 2202 | Beth am Cerberws? |
| (0, 4) 2203 | Ydan ni'n weddol agos i'w diriogaeth o rwan? |
| (Dionysos) Rydyn ni yn ei "diriogaeth" o fel rwyt ti'n dweud. | |
| (Dionysos) Dyna pam mae'n rhaid inni benderfynu ar dacteg. | |
| (0, 4) 2206 | Deudwch wrtha i, Syr, tae o'n digwydd cael gafael arna ì, be fydda fo'n 'i wneud imi? |
| (Dionysos) Gwell peidio â meddwl am hynny. | |
| (Dionysos) Os gwêl o di, gwadna hi am dy hoedl at y Stycs. | |
| (0, 4) 2218 | Ond beth am Charon? |
| (Dionysos) Popeth wedi'i drefnu. | |
| (Dionysos) Neidia iddo fo, a fedr Cerberws wneud dim oll iti. | |
| (0, 4) 2223 | Wedyn? |
| (Dionysos) Wedyn, pwnia'r cwch dros y Stycs i'r ochor arall, i'th fyd a'th ddimensiwn di dy hun. | |
| (Dionysos) Popeth yn glir? | |
| (0, 4) 2226 | Ydy. |
| (0, 4) 2227 | Mi wna i unrhyw beth i gael mynd yn ôl i'r hen Athen annwyl efo'i holl ffaeledda! |
| (Dionysos) Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch! | |
| (Dionysos) Gan obeithio na fydd y rheiny ddim yn ei thynnu i'r llwch! | |
| (0, 4) 2229 | Ia, mae hynna y tu hwnt i greadur dibwys fel fi, Syr. |
| (Dionysos) Does yna run creadur dibwys, Nicias. | |
| (0, 4) 2233 | Wyddoch chi be sy'n fy mhoeni fi rwan yn fwy na dim? |
| (0, 4) 2234 | Be sydd wedi digwydd i Iris druan. |
| (0, 4) 2235 | Rhaid ein bod ni yma ers hydoedd bellach. |
| (Dionysos) Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias. | |
| (Dionysos) Dydy Amser ddim yn bod yma, Nicias. | |
| (0, 4) 2237 | Sut felly? |
| (0, 4) 2238 | Dydw i ddim yn deall —! |
| (Dionysos) Yn nhermau tragwyddoldeb beth yw modfedd, neu funud, neu filltir neu ganrif? | |
| (Dionysos) Dydyn nhw ddim yn bod. | |
| (0, 4) 2241 | Hanner munud rwan, mae rheswm yn dweud ─ |
| (Dionysos) All dy reswm di wneud dim oll ond mesur a phwyso a chymharu, Nicias. | |
| (0, 4) 2247 | Ar eich traws chi, Syr ─ maddeuwch imi ddweud hyn ─ ond mi fydda i'n teimlo mod i, greadur o ddyn, ar brydia yn dwad yn bur agos i'ch stâd chi, y duwia! |
| (0, 4) 2248 | Peth mawr i' ddweud, rwy'n gwybod, ond mae o'n wir. |
| (Dionysos) O? Ar ba achlysur? | |
| (Dionysos) O? Ar ba achlysur? | |
| (0, 4) 2250 | Rydach chi yn y gwely yn nistawrwydd y bore bach. |
| (0, 4) 2251 | Troi'n gysglyd at y wraig. |
| (0, 4) 2252 | Anwes dioglyd yn mynd yn goflaid ffyrnig. |
| (0, 4) 2253 | Wedyn rhyferthwy tymestl corff ac enaid o dan y blancedi. |
| (0, 4) 2254 | A minna, fel duw, yn marchogaeth yn fuddugoliaethus. |
| (0, 4) 2255 | Ac yn creu!... |
| (0, 4) 2256 | A rwan — gyda pharch, Syr — wrth sôn am Amser ac ati, fedra i feddwl am ddim ond am groeso cynnes bronnau Iris, a chryndod parod ei llwynau. |
| (Dionysos) Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau! | |
| (Dionysos) Rwyt ti bron â gwneud imi genfigennu wrth dy gnawdoliaeth frau! | |
| (0, 4) 2259 | Cerberws! |
| (Dionysos) {Pwyntio at rostrwm cyfagos.} | |
| (Dionysos) A phaid â cymryd dy wynt, bron, nes y doi di at y Stycs. | |
| (0, 4) 2264 | Reit, Syr. |
| (Dionysos) O, a Nicias? | |
| (0, 4) 2267 | Ia? |
| (Dionysos) Pob lwc iti... a diolch. | |
| (0, 4) 2348 | Iris! |
| (0, 4) 2350 | Iris, 'nghariad annwyl i! |
| (0, 4) 2352 | O Iris, Iris! |
| (Harmonia) Mae o'n sâl! | |
| (Harmonia) Mae o'n sâl! | |
| (0, 4) 2354 | Does gen ti ddim syniad mor falch ydw i! |
| (0, 4) 2355 | Dy weld unwaith eto! |
| (0, 4) 2356 | O Iris! |
| (Iris) Be sy'n bod arnat ti? | |
| (0, 4) 2360 | Wyt ti ddim yn sylweddoli? |
| (0, 4) 2361 | Rwy i wedi bod ar siwrna ofnadwy. |
| (0, 4) 2362 | Yng nghrombil Hades ei hun! |
| (0, 4) 2363 | Ar drothwy dychrynllyd Tartarws du! |
| (Iris) Be! | |
| (Iris) Be! | |
| (0, 4) 2365 | Mae Cerberws wedi bod ar fy ngwartha gan sgyrnygu dannedd. |
| (0, 4) 2366 | A Charon wedi fy mygwth ar ddyfroedd enbyd y Stycs! |
| (Iris) Am beth wyt ti'n siarad? | |
| (Iris) Am beth wyt ti'n siarad? | |
| (0, 4) 2368 | O, mae o'n hanes fydd yn codi gwallt dy ben di, Iris annwyl! |
| (0, 4) 2369 | Does arna i ddim eisio d'adael di eto, byth. |
| (0, 4) 2371 | Na chitha, 'rhen wraig garedig! |
| (0, 4) 2372 | Rydach chi'n cyfarth digon, ond rywle yn yr hen frest gwynfannus yna, mae yna galon fel pwced! |
| (Harmonia) Mi ydw i'n gwybod rwan ei fod o'n drysu! | |
| (0, 4) 2376 | Aros am funud imi gael dracht o hwn. |
| (0, 4) 2377 | I iro tipyn ar fy nghorn-gwddw a chynhesu 'nghalon i. |
| (0, 4) 2379 | Ben-di-ged-ig! |
| (Iris) Wel? | |
| (Iris) Wel? | |
| (0, 4) 2381 | 'Wel', be? |
| (Iris) Beth am y siwrna erchyll yna gest ti? | |
| (0, 4) 2384 | Siwrna? |
| (0, 4) 2385 | Pa siwrna? |
| (0, 4) 2386 | Am be rwyt ti'n siarad? |
| (Harmonia) Rwyt ti newydd fod yn preblian rhywbeth am siwrna erchrydus yn Hades a... a... be-wyt-ti'n-alw... Tartarws. | |
| (Harmonia) Breuddwyd meddwyn os wyt ti'n gofyn i mi. | |
| (0, 4) 2392 | Does yna neb yn gofyn ichi, yr hen glep-melin be-ydach-chi'n alw... gecrus! |
| (Harmonia) Digon hawdd gweld ei fod o'n dwad ato'i hun, Iris. | |
| (Iris) O ia, Nic, wyddost ti'r hen wraig drws-nesa-ond-tri? | |
| (0, 4) 2396 | Gwn. |
| (0, 4) 2397 | Bydwraig wedi ymddeol. |
| (Iris) Dyna ti. | |
| (Iris) A wyddost ti be mae hi'n i ddweud...? | |
| (0, 4) 2401 | Ust! Glywch chi rywbeth? |
| (Lleisiau) {Sibrwd drwy'r corn-siarad.} | |
| (Iris) Chlywa i ddim ond crawcian y llyffantod. | |
| (0, 4) 2407 | Ro'n i'n meddwl 'mod i'n clywed rhywbeth arall hefyd. |
| (Iris) Dim ond sŵn yr awel yn yr hesg. | |
| (Iris) Gad imi orffen dweud wrthyt ti. | |
| (0, 4) 2412 | Dweud be? |
| (Iris) Wel, be ddwedodd yr hen fydwraig. | |
| (Iris) Wel, be ddwedodd yr hen fydwraig. | |
| (0, 4) 2414 | Mi ydw i'n glustia i gyd! |
| (Iris) Mae hi'n meddwl 'mod i am gael efeilliaid! | |
| (Iris) Mae hi'n meddwl 'mod i am gael efeilliaid! | |
| (0, 4) 2416 | Nefoedd yr adar! |
| (Iris) A mae hi'n gwybod be ydy be, on'd ydy mam? | |
| (Harmonia) Wedi dwad â byddinoedd o fabis i'r hen fyd yma. | |
| (0, 4) 2424 | Ond sut ar y ddaear fedar hi wybod? |
| (Iris) Rhoi ei chlust ar fy mol i wnaeth hi. | |
| (Harmonia) Os ydy'r hen fydwraig yn dweud, felly y bydd hi. | |
| (0, 4) 2431 | Efeilliaid! |
| (0, 4) 2432 | A finna allan o waith! |
| (Iris) Arnat ti roedd y bai — mynd ar streic. | |
| (Harmonia) Dwed y newydd da arall hwnnw wrtho fo, Iris. | |
| (0, 4) 2436 | Un gwell na'r dwetha, gobeithio!... |
| (0, 4) 2437 | Wel? |
| (Iris) Mae yna siawns y cei di waith — dros dro beth bynnag. | |
| (Iris) Mae yna siawns y cei di waith — dros dro beth bynnag. | |
| (0, 4) 2439 | Beth ydy o — fel 'tae gen i unrhyw ddewis! |
| (Iris) Mae yna ryw ddyn cefnog newydd ddwad i'r ddinas yma. | |
| (Iris) Trafaeliwr ne fasnachwr gwin, mi ydw i'n meddwl. | |
| (0, 4) 2443 | Ia? |
| (Iris) Mae o eisio rhywun i fynd â fo o gwmpas Athen, i weld y llefydd diddorol a ballu. | |
| (Harmonia) Chwysu tipyn! | |
| (0, 4) 2450 | O wel, mi fedrwn i feddwl am betha gwaeth! |
| (0, 4) 2451 | Cyfle i ennill ceiniog ne ddwy. |
| (0, 4) 2452 | A chil-dwrn efalla, os ydy o'n ddyn cefnog... |
| (0, 4) 2453 | Oes yna ryw newydd arall? |
| (Iris) Dim ond bod mam am ddwad acw i aros efo ni rwan. | |
| (Iris) I helpu tipyn arna i nes daw f'amser. | |
| (0, 4) 2456 | Dyna'r newydd gwaetha un! |
| (Iris) Wyt ti'n dwad rwan, Nic? | |
| (Iris) Wyt ti'n dwad rwan, Nic? | |
| (0, 4) 2459 | Mewn eiliad. |
| (0, 4) 2460 | Waeth imi orffen y botel yma ddim. |
| (0, 4) 2461 | Cha i run arall am hir, mae'n siwr! |
| (0, 4) 2462 | Dos di efo dy fam. |
| (0, 4) 2463 | Mi ddo i ar eich ôl chi. |
| (Iris) Wel, paid â bod yn hir. | |
| (Lleisiau) "Mae tynged Athen yn ei dwylo hi ei hun." | |
| (0, 4) 2473 | Blydi llyffantod! |