| (Martha) {Hanner lleisio mewn temper.} | |
| (Harri) Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd. | |
| (1, 0) 100 | Bore da. |
| (1, 0) 101 | Mr a Mrs. Huws, yntefe? |
| (John) O, ie. | |
| (John) {Golwg ofidus ar John a Martha.} | |
| (1, 0) 106 | Wel, rwyn galw ynglŷn â'r digwyddiad yna ddigwyddodd bore 'ma ger siop Robert Huws. |
| (Harri) {Torri mewn.} | |
| (Harri) Gwneud ymholiadau 'ife? | |
| (1, 0) 109 | Ie, dyna fe. |
| (1, 0) 110 | Welsoch chi, Harri, ddim byd? |
| (Harri) Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi. | |
| (Harri) Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi. | |
| (1, 0) 112 | Wel, beth wedodd Dai No.2 wrthoch chi 'te. |
| (Harri) Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd. | |
| (Harri) Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd. | |
| (1, 0) 114 | Wel, mae Mrs. Jenkins, Sŵn yr Afon yn dweud yr un peth, dim ond bod hi wedi codi rhif y car: BBX 121M. |
| (1, 0) 115 | A phwy sydd yn berchen Escort glas a'r rhif 'na yn y dre 'ma. |
| (Harri) Peidwch gweud mai un chi ych hunan yw e. | |
| (Harri) Mae cnither i Martha 'ma wedi cael 'heart attack' yn Llunden, bore 'ma, a ma'n nhw wedi cael sioc ofnadŵ. | |
| (1, 0) 128 | Wel, mae'n ddrwg gen i glywed hynny, wrth gwrs, ond ma'n rhaid i fi atgoffa chi bod chi wedi torri'r gyfreth. |
| (1, 0) 129 | Yn gynta am 'dangerous driving', ac yn waeth na hynny, dianc ar ôl cyflawni y drosedd, ac o'ch chi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd i Huws y Siop. |
| (John) O na. | |
| (Martha) Dele fe ddim bod fan yna. | |
| (1, 0) 135 | Diolchwch chi, Mrs. Huws, bod e yna. |
| (1, 0) 136 | Onibai am y polyn fe alle chi fod wedi mynd lawr y dibyn yna ar ben y tai cownsil, a fyddech chi wedi lando mewn lot mwy o gawl wedyn. |
| (Harri) Ie, ne allech chi fod wedi lando yn cawl rhywun. | |
| (Harri) Ha ha ha. | |
| (1, 0) 139 | Chi, Harri, ddim yn meddwl fod hi'n bryd i chi fynd at ych gwaith, achos y peth diwetha sydd eisie ar Mr. a Mrs. Huws heddi yw comedian yn y tŷ. |
| (Harri) Ie, reit te. | |
| (Harri) Jiw erbyn meddwl falle gymrech chi, PC, ych llythyron nawr i arbed i fi fynd heibio, chi'n gwbod. | |
| (1, 0) 142 | Drychwch yma, Harri. |
| (1, 0) 143 | Mae'r wladwriaeth yn fy nhalu i i fod yn blisman a chithe i fod yn bosman. |
| (1, 0) 144 | Gwyliwch chi ar ôl ych busnes ac fe ofala i am 'y musnes inne. |
| (Harri) O, fel'na ych chi yn edrych ar bethe, ife? | |
| (1, 0) 150 | Wel cerwch i ganu i'ch Nain 'te, Harri bach. |
| (Harri) {Yn bryfoclyd.} | |
| (Harri) Eitha da, e, beth ych chi'n 'weud? | |
| (1, 0) 155 | Esgusodwch fi funud tra bydda i yn mynd i'r car i mofyn ffurflenni i gael ysgrifennu ych statement chi. |
| (Harri) O cer, yr hen asyn gwyntog. | |
| (1, 0) 159 | Wedoch chi rywbeth Harri? |
| (Harri) Y... y... o... m... gweud wrth John bod hi yn wyntog neithiwr. | |
| (John) Ma' fforms mowr gyda chi. | |
| (1, 0) 193 | Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws. |
| (John) Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi. | |
| (John) Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi. | |
| (1, 0) 196 | O, mae hi yn iawn diolch. |
| (1, 0) 197 | Fydda i moyn gweld ych yswiriant chi hefyd. |
| (John) Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie. | |
| (John) Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie. | |
| (1, 0) 199 | Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe. |
| (John) Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe. | |
| (John) Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe. | |
| (1, 0) 201 | Chi'n gweld, odd hi yn cael 'i phenblwydd echdo ac o'n i yn gwybod bod hi am gael handbag. |
| (1, 0) 202 | Wel, fe brynes i handbag ─ un du ─ iddi, ond pan roddes i e iddi aeth hi yn hlics, chi'n gweld, odd hi eisie un glas a ma' hi wedi bod mewn temper ofnadŵ ers hynny. |
| (John) O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel. | |
| (John) O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel. | |
| (1, 0) 204 | Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast? |
| (John) Dim syniad, PC bach. | |
| (John) Dim syniad, PC bach. | |
| (1, 0) 206 | Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i. |
| (John) Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi? | |
| (John) Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi? | |
| (1, 0) 208 | Beth sydd yn bod arna i. |
| (1, 0) 209 | Dylwn i ddim fod yn gweud y pethe hyn wrthoch chi. |
| (John) O ma fe yn help mowr. | |
| (John) A gyda llaw gobeitho na ddaw hi byth i wybod bod chi'n dringad 'sgolion yn ystod y nos. | |
| (1, 0) 212 | Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn? |
| (John) O, dewch nawr, PC. | |
| (1, 0) 217 | Mr. Huws, cymrwch ofal beth chi'n 'weud. |
| (1, 0) 218 | Cofiwch chi fod y frenhines y tu ôl i fi. |
| (John) Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi. | |
| (John) Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi. | |
| (1, 0) 220 | Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i. |
| (John) Bachan, dim awgrymu odw i, ond gweud wrthoch chi. | |
| (1, 0) 225 | O Mr. Huws, fe wna i unrhyw beth i Patsi fach beidio dod i wybod am hyn. |
| (John) Ie, wel, anghofiwch chi bopeth am yr hen drwbwl yma bore 'ma, a weda inne ddim un gair wrth neb. | |
| (1, 0) 228 | O, odych chi yn addo peidio gweud. |
| (1, 0) 229 | O plîs, plîs, peidiwch gweud wrth Patsi, achos pe bai hi yn dod i wybod, falle yr ele hi bant, a wedyn... |
| (1, 0) 231 | ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn. |
| (Martha) O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe. | |
| (Martha) {Martha yn ei helpu fe ar 'i draed.} | |
| (1, 0) 239 | A chlywch chi ddim byth rhagor o' wrtho i. |