| (Hlin) Y RHAN GYNTAF | |
| (Garmon) Rho groeso i'th gyd-Frython. | |
| (1, 0) 244 | Fy arglwydd a'm tad, |
| (1, 0) 245 | Gwir yw y gair ac nis gwadaf─ |
| (1, 0) 246 | Yn alltud a digysylltiad |
| (1, 0) 247 | Yr af ar y ddaear hon |
| (1, 0) 248 | Nes dychwelyd i dud fy nghaethglud |
| (1, 0) 249 | A'm hurddo yn rhwymau Iwerddon. |
| (1, 0) 250 | A heddiw llaw angel a welaf |
| (1, 0) 251 | Yn tywys y rhain dy westeion |
| (1, 0) 252 | I'n clas ac i'n côr: |
| (1, 0) 253 | A thithau a Lupus y bugail |
| (1, 0) 254 | Yn gryf o'r cysegru hwn |
| (1, 0) 255 | A ddenir i wlad y Brythoniaid |
| (1, 0) 256 | I'w gwisgo â tharian y ffydd ac â chleddyf yr Ysbryd |
| (1, 0) 257 | Ac i amgylchwregysu ei lwynau hi â gwirionedd |
| (1, 0) 258 | Fel y safo yn y dydd drwg, |
| (1, 0) 259 | Yn nydd y di-ffydd a diffoddwyr gwareiddiad. |
| (1, 0) 260 | Minnau, fy arglwydd, a ddof yn was gweini i chwi, |
| (1, 0) 261 | Ac wedi heddychu fy ngwlad, |
| (1, 0) 262 | Yna, yn Nyfed fwyn, yr olaf tro, |
| (1, 0) 263 | Ffarwelio â'r pridd a garaf |
| (1, 0) 264 | A'th fendith dithau a gaf |
| (1, 0) 265 | l'm bwrw eto i'r môr, |
| (1, 0) 266 | I gyrchu tir fy nghaethiwed |
| (1, 0) 267 | A marw yng ngwlad fy mabwysiad, |
| (1, 0) 268 | Fel mai rhwym y bydd f'enw fyth wrth ynys Iwerddon, |
| (1, 0) 269 | A hithau a Chymru am byth yn rhwym wrth Grist. |
| (1, 0) 270 | Illtud, Paulinus, ymunwch â mi ar ein gliniau: |
| (1, 0) 271 | Doed Garmon i wlad y Brythoniaid. |