Sibrwd yn y Nos

Ciw-restr ar gyfer Patshyn

(Alff) Patshyn!
 
(Alff) Gobennydd hyfryd!
(1, 0) 47 Alff!
(1, 0) 48 O'n i'n meddwl bo ni wedi colli ti!
(1, 0) 49 Ma'i mor dywyll fan hyn, lan yn y mynyddoedd... A mor beryglus.
 
(1, 0) 54 Cysga di'n dawel nawr, Alff.
(1, 0) 55 Fydd Patshyn yn edrych ar dy ol di, a cadw'r bleiddied bant.
 
(1, 0) 61 Watsha di, yr hen flaidd!
(1, 0) 62 Fi yw Patshyn.
(1, 0) 63 A ma pob un patshyn ar y clogyn 'ma yn adrodd stori.
(1, 0) 64 Y cwbwl all blaidd neud yw codi ofon ar bobol, a'u lladd nhw, ond ma Patshyn yn gallu adrodd straeon!
 
(1, 0) 66 Weda i stori, ble ma'r blaidd yn ca'l 'i ladd.
 
(1, 0) 69 Wedyn fydd y bleiddied ma's fanna ddim yn codi siwd ofon arnon ni!
(1, 0) 70 Wy'n mynd i adrodd stori Hugan Goch Fach.
 
(1, 0) 72 O'dd hi'n gwisgo cap coch, a clogyn coch, a o'dd hi'n byw gyda'i mam ar ymyl y goedwig.
(1, 0) 73 Un dywrnod, wedodd 'i mam hi:
(1, 0) 74 "Wy ishe i ti fynd a basged o fwyd at mamgu.
(1, 0) 75 Rhaid i ti gerdded trwy'r goedwig, and paid a crwydro, ne ddaw'r bleiddied ar dy ol di.
(1, 0) 76 Cofia di nawr".
(1, 0) 77 "O.K. mam", wedodd Hugan Goch Fach.
(1, 0) 78 Ond yn y goedwig dywyll welodd Hugan Goch Fach flode o bob lliw... blode rhyfedd, blode pinc a blode melyn a blode coch, coch, coch – yr un lliw a'r clogyn a'r cap o'dd hi'n wisgo... blode yn tyfu rhwng y coed mawr... a'th hi i grwydro trwy'r coed, a'n sydyn... ro'dd hi ar goll!
(1, 0) 79 Wedyn fe glywodd hi lais o'r tywyllwch...
(1, 0) 80 "Ble wyt ti'n mynd Hugan Goch Fach?"
(1, 0) 81 A'r cwbl alle hi weld o'dd dau lygad mawr gwyrdd...
(1, 0) 82 "At mamgu, yr ochor arall i'r goedwig" wedodd Hugan Goch Fach...
(1, 0) 83 "Ddangosa i'r ffordd i ti" wedodd y ddau lygad mawr gwyrdd...
(1, 0) 84 "Diolch syr" wedodd Hugan Goch Fach...
(1, 0) 85 A ddechreuodd hi gerdded ar hyd y llwybr at dy mamgu.
(1, 0) 86 Ond welodd hi ddim beth o'dd tu ol y ddau lygad gwyrdd – blaidd mawr llwyd, a dannedd fel cyllyll bara.
(1, 0) 87 A ro'dd y blaidd yn rhedeg o flaen Hugan Goch Fach, rhedeg drw dywyllwch y goedwig fawr...
(1, 0) 88 A wedyn...
 
(1, 0) 90 A wedyn...
 
(1, 0) 92 A wedyn...
 
(1, 0) 94 O diar, wy wedi anghofio diwedd y stori.
(1, 0) 95 Wy erio'd wedi angofio hon o'r bla'n...!
(Alff) Patshyn!
 
(Alff) Paid a llefen.
(1, 0) 101 Wy wedi anghofio'r diwedd.
(1, 0) 102 Wy wedi anghofio tair stori wythnos hyn yn barod!
(1, 0) 103 Edrych faint o'r hen batshus straeon ma sy'n dechre diflannu.
(1, 0) 104 Diflannu o'r clogyn, a diflannu o mhen i.
(Alff) Edrych!
 
(Alff) Gobennydd yw e!
(1, 0) 111 Llyfyr yw e
(Alff) Gobennydd yw e!
 
(Alff) Gobennydd yw e!
(1, 0) 113 Llyfyr yw e!
(Alff) Gobennydd yw e!
 
(Alff) Gobennydd yw e!
(1, 0) 115 Llyfyr!
(Alff) Gobennydd!
 
(Alff) Gobennydd!
(1, 0) 117 Ond sdim defnydd iddo fe!
(Alff) O's.
 
(Alff) Hwn yw'r peth mwya gwerthfawr yn y wlad i gyd.
(1, 0) 121 Ie ie ie... wy'n gwybod.
(1, 0) 122 Allwch chi ddim 'i fwyta fe, allwch chi ddim 'i wisgo fe, allwch chi ddim 'i glywed e... bla bla bla...
(Alff) A mi o'dd dege ohonyn nhw.
 
(Alff) Hwn.
(1, 0) 128 Ond siwd all e fwydo ni, siwd all e gadw ni'n dwym, siwd all e siarad a ni?
(Alff) Sai'n gwybod.
 
(Alff) Sai'n gwybod.
(1, 0) 130 A pam wyt ti'n gweud mai gobennydd yw e nawr?
(1, 0) 131 Llyfyr o't ti'n galw fe bore ma.
(Alff) Llyfyr o'dd mamgu yn glaw fe.
 
(Alff) Jyst cyn iddi farw.
(1, 0) 136 'Na fe!
(Alff) 'Na fe beth?
 
(Alff) 'Na fe beth?
(1, 0) 138 Y famgu!
(1, 0) 139 Yn marw... Yn ca'l 'i bwyta yn fyw...!
(Alff) Naddo – na'th hi ddim!
 
(Alff) Naddo – na'th hi ddim!
(1, 0) 141 Dim dy famgu di Alff, ond y famgu yn y stori, mamgu Hugan Goch Fach.
(1, 0) 142 Redodd y blaidd mawr llwyd trwy'r goedwig, bwyta'r famgu, gwisgo'i ffroc hi, gorwedd yn 'i gwely hi...
(Alff) A ma Hugan Goch Fach yn dod miwn...
 
(Alff) A ma Hugan Goch Fach yn dod miwn...
(1, 0) 144 A ma hi'n dweud, "Ma'ch llyged chi mor fawr... "
(Alff) "A'ch trwyn chi mor fawr... "
 
(Alff) "A'ch trwyn chi mor fawr... "
(1, 0) 146 "A'ch clustie chi... "
(Alff a Patshyn) {Gan roi braw ofnadwy i'w gilydd.}
 
(Alff a Patshyn) Sosban!
(1, 0) 153 Ni wedi bod yn poeni'n ofnadw amdanot ti Sosban, y'n do fe Alff?
(Sosban) Hy!
 
(1, 0) 158 Yr hen Sosban druan.
(Sosban) {Efelychu yn watwarus.}
 
(Sosban) Sdim un man yn saff wrthyn nhw.
(1, 0) 169 Wy ddim eishie siarad am gewri
(Sosban) Weles i nhw
 
(Sosban) Cysgodion mawr du, draw yn y pellter.
(1, 0) 178 Yn cerdded aton ni fan hyn?
(Sosban) Sai'n siwr.
 
(Alff) Newch chi byth y'n rhwystro ni rhag adrodd straeon a canu caneuon!
(1, 0) 224 Hisht Alff, fyddan nhw'n clywed ti...
(Alff) Sdim ots da fi.
 
(Alff) Sdim ots am gyfreithie yr hen gewri cas...
(1, 0) 229 Ie, ti'n iawn.
(Sosban) Wrth gwrs bod hi'n iawn.
 
(Sosban) Wrth gwrs bod hi'n iawn.
(1, 0) 231 Fory, ewn ni lawr i'r cwm...
(Alff) I adrodd straeon...
 
(Sosban) I ganu caneuon
(1, 0) 234 Wy eishe adrodd...
(1, 0) 235 Stori'r deryn bach, a'r gath wyllt.
(1, 0) 236 Stori ddysgodd dadcu i fi.
(Sosban) Reit.
 
(Alff) Pwy dderyn Patshyn?
(1, 0) 243 Titw Tomos.
(1, 0) 244 Titw Tomos Las...
(1, 0) 245 Yr aderyn bach perta a mwya lliwgar yng Nghymru...
 
(1, 0) 250 Ma'r Titw Tomos bach yn hedfan dros y gerddi, yn gwrando, yn chwilio.
 
(1, 0) 252 ~
(1, 0) 253 Gwrando ar adenydd
(1, 0) 254 Adenydd bach yn curo
(1, 0) 255 Calon fach yn curo
(1, 0) 256 Mewn gobaith a llawenydd
(1, 0) 257 ~
(1, 0) 258 Ma'r titw bach yn ffindio'i nyth.
(1, 0) 259 Mewn gardd fawr.
(1, 0) 260 Mewn coeden dal.
(1, 0) 261 Yn y nyth ma gyda hi ddwy o adar bach.
(1, 0) 262 Dwy ferch.
(1, 0) 263 Yn cysgu yn dawel yn y nyth fach dwym...
(1, 0) 264 Ma'r nos yn dod...
(Alff) A wedyn?
 
(Alff) A wedyn?
(1, 0) 266 A wedyn, yn y nos, ma'r Titw Tomos yn gweld dau lygad melyn mawr.
(1, 0) 267 Yn edrych lan ar y nyth.
(1, 0) 268 Cath wyllt, yn sefyll lan ar i tra'd ol, yn mestyn 'i pawen at y nyth fach...
(1, 0) 269 A ma'r Titw Tomos yn...
 
(1, 0) 271 ~
(1, 0) 272 Gwrando ar adenydd
(1, 0) 273 Adenydd bach yn curo
(1, 0) 274 Calonne bach yn curo
(1, 0) 275 Mewn ofon a nerfusrwydd
(1, 0) 276 ~
(1, 0) 277 Ma'r hen gath yn gweud,
(1, 0) 278 "Paid bod ofon, y Titw Tomos bach, wy ddim eishe dy fwyta di.
(1, 0) 279 Ishe cwmni ydw i, ishe ffrind bach.
(1, 0) 280 Rhywun i ganu can i fi, i neud i'n hapus.
(1, 0) 281 Ma dwy o ferched bach gyda ti fanna.
(1, 0) 282 Gad i fi ga'l un.
(1, 0) 283 Y ferch leia.
(1, 0) 284 Fydd hi'n hapus gyda fi, yn canu trw'r dydd, a fydda inne, o, mor hapus gyda'n ffrind bach newydd...
(Alff) Na!
 
(Alff) Dyw'r Titw Tomos ddim yn gadel i'r deryn bach lleia i fynd!
(1, 0) 289 Odi ma hi Alff.
(1, 0) 290 Fel 'na ma'r stori'n mynd...
(Alff) Wy ddim eishe i'r gath fynd a'r aderyn!
 
(Alff) Wy ddim eishe i'r gath fynd a'r aderyn!
(1, 0) 292 Wel 'na'r stori....
(Alff) Oce, fydd rhaid i ni newid y stori.
 
(Alff) Pwy straeon arall allwn ni adrodd fory Patshyn?
(1, 0) 333 O na!
(1, 0) 334 Ma'i wedi mynd!
(Sosban) Y?
 
(Sosban) Be sy wedi mynd?
(1, 0) 337 Diwedd stori y Titw Tomos Las a'r gath.
(1, 0) 338 Ma stori arall yn dechre diflannu o mhen i nawr.
(Sosban) Pan wyt ti'n marw Patshyn, bydd y straeon i gyd yn marw.
 
(Sosban) A pan fydda i'n marw, bydd y caneuon i gyd yn marw.
(1, 0) 341 Ma popeth yn mynd i farw Sosban.
(1, 0) 342 Pob stori, pob can yn
(1, 0) 343 mynd i ddiflannu...
(Alff) Olreit, chi'ch dau yn mynd i farw...
 
(Alff) Rwbeth hyfryd iawn.
(1, 0) 357 Rwbeth hyfryd...
(1, 0) 358 I fyta?
(Alff) Tri peth hyfryd.
 
(Sosban a Patshyn) Briwsion!
(1, 0) 366 Dyw briwsion ddim yn swper...
(Sosban) Dyw briwsion ddim yn ddigon o fwyd i ddyn mawr fel fi...
 
(Alff) Pan ma nhw'n friwsion o fwrdd... y cewri!
(1, 0) 370 Briwsion mawr...?
(Sosban) Briwsion cawr?
 
(Sosban) O fara... mmm.
(1, 0) 375 Bara...
(1, 0) 376 W!
(Alff) Briwsion o gaws...
 
(Sosban) O gaws... mmmm.
(1, 0) 379 Caws...
(1, 0) 380 W!
(Alff) Briwsion o gacen...
 
(Sosban) Mmmm.
(1, 0) 384 Cacen...
(1, 0) 385 W!
(Sosban) Wy'n mwynhau gymaint, ma nghalon i'n mynd bwm-bwm-bwm...
 
(Sosban) Wy'n mwynhau gymaint, ma nghalon i'n mynd bwm-bwm-bwm...
(1, 0) 389 Y nghalon i hefyd.
(1, 0) 390 Bwm-bwm-bwm.
(Alff) A nghalon i.
 
(Sosban) Bwm-bwm-bwm!
(1, 0) 396 A nghalon i...
(Alff) A nghalon i...
 
(Alff) A nghalon i...
(1, 0) 399 Fel swn...
(Alff) Fel swn...
 
(Sosban) Ma nhw wedi nghlywed i'n canu!
(1, 0) 404 Ma nhw wedi nghlywed i'n adrodd straeon!
(Alff) Cwatwch y pethe ma...
 
(Sosban) Cer di, i ymladd ag e!
(1, 0) 420 Cer di – ti yw'r mwya...
(Sosban a Patshyn) {Wrth Alff.}
 
(Sosban) Gwed rwbeth!
(1, 0) 430 Gweud beth?
(Sosban) Tria edrych yn cwl...
 
(1, 0) 434 Hello.
(1, 0) 435 Nice weather for the time of year...
(Sosban) O'dd hwnna'n rybish.
 
(Sosban) I had a toothache last year.
(1, 0) 440 O'dd hwnna'n rybish, rybish!
(Sosban) O'n i'n trio dechre sgwrs fach...
 
(Sosban) Hy!
(1, 0) 455 O'n i'n gwbod hefyd.
(1, 0) 456 Hy, hy!
(Alff) Get down and show us who you are!
 
(Sosban) Trying to scare us...
(1, 0) 462 Not that we were scared.
(Sosban) Exactly.
 
(Y Ferch) I wanted to travel with you and help to keep songs and stories alive.
(1, 0) 470 Ond siwd o'dd hi'n gwbod bod ni fan hyn?
(Y Ferch) Oh you're quite famous.
 
(Y Ferch) somewhere.
(1, 0) 474 Said to who?
(1, 0) 475 Said to you?
(Y Ferch) Oh no, not me.
 
(Y Ferch) I wouldn't dare speak to a giant...
(1, 0) 478 Celwydd!
(1, 0) 479 Sbei yw hi.
(1, 0) 480 Y cewri sy wedi hala hi lan ma.
(Y Ferch) {Mewn Cymraeg ansicr.}
 
(Alff) Ma hi'n siarad yr un iaith a ni...
(1, 0) 488 Ond ble ddysgodd hi'n iaith ni?
(Y Ferch) Cofio...
 
(Y Ferch) Tipyn bach...
(1, 0) 491 Rybish!
(1, 0) 492 Ma hi'n gweud celwydd.
(1, 0) 493 A beth y'n ni'n neud a sbeis, eh?
(Sosban) O Patshyn...
 
(Alff) Patshyn, Sosban – pan ddes i atoch chi o'dd neb o ni yn siarad am ladd pobol.
(1, 0) 499 Os yw hi'n sbei, rhaid crogi hi.
(Sosban) Alff, ti'n rhy ifanc i ddiall.
 
(Y Ferch) Stori i helpu fi i gysgu...
(1, 0) 515 Celwydd!
(Alff) Patshyn – rho'r rhaff 'na lawr.
 
(Y Ferch) Ceffyl... a dyn...
(1, 0) 522 Pah...
(Y Ferch) Yn rhedeg ras...
 
(Y Ferch) Mwy ffast na bwlet...
(1, 0) 528 Hyh!
(1, 0) 529 Rybish...
(Y Ferch) Y dyn ifanc...
 
(Alff) Guto Nyth Bran...
(1, 0) 541 Pah!
(Y Ferch) Ie... Guto.
 
(Sosban) Wy ishe llefen...
(1, 0) 571 Stori a diwedd iddi.
(1, 0) 572 Diwedd da.
(1, 0) 573 Bravo!
(Alff) Chi'n gweld.
 
(1, 0) 578 Wwwwww!
(Alff) Be sy nawr Patshyn?
 
(Alff) Be sy nawr Patshyn?
(1, 0) 580 Diwed y stori... y diwedd hyfryd 'na.
(1, 0) 581 Wy wedi anghofio fe'n barod!
(Sosban) {Wrthon ni ac wrth y dieithryn.}
 
(Alff) {Mae hithe'n cysgu.}
(1, 0) 620 Alff!
(1, 0) 621 Sosban!
(1, 0) 622 Help!
 
(1, 0) 625 Y clogyn straeon!
(Sosban) Yr offerynne!
 
(Sosban) Yr offerynne!
(1, 0) 628 Wedes i bod hi'n gweud celwydd....
 
(1, 0) 631 Sbei yw hi.
(1, 0) 632 Sbei y cewri!
(Alff) Y gobennydd!
 
(Sosban) Ne fydden i wedi colli yr holl offerynne hyfryd ma.
(1, 0) 637 A finne wedi colli'r clogyn straeon hyfryd 'ma.
(Alff) {Yn cwrso a gweiddi.}
 
(Sosban) Mae'n olreit, ma'n offerynne i'n saff.
(1, 0) 641 A nghlogyn straeon i.
(Alff) Ond beth am y ngobennydd i!
 
(Alff) Ond beth am y ngobennydd i!
(1, 0) 643 Dim ond llyfyr yw e.
(1, 0) 644 Hen lyfyr anobeithiol.
(Sosban) Geith hi gadw hwnna.
 
(Y Ferch) One more step and I'll destroy it.
(1, 0) 660 Paid credu hi...
(Sosban) All hi ddim...
 
(Sosban) Ond pam mae e mor werthfawr?
(1, 0) 669 Dyw e ddim...
(1, 0) 670 Sdim defnydd iddo fe.
(Y Ferch) Yn hwn...
 
(Y Ferch) Yn y byd.
(1, 0) 675 Hwnna?
(1, 0) 676 Amhosib...
(Y Ferch) Olreit...
 
(Y Ferch) Geirie sy'n dweud storis...
(1, 0) 685 Y marce bach hyn ar y papur sy'n gweud straeon?
(Y Ferch) Dim ond os chi yn gallu darllen.
 
(Y Ferch) But you'll never learn to read now because I've got the last book.
(1, 0) 698 Sai'n credu ti.
(Sosban) A beth yw darllen, eh?
 
(Y Ferch) "Y stori am y cewri yn cymeryd fy... {yn baglu dros y gair}... wy-r-es... fach i.
(1, 0) 706 Wyres – grand-daughter...
(1, 0) 707 Merch i ferch mamgu.
(Alff) Wyres fach mamgu.
 
(Y Ferch) "A Beth."
(1, 0) 809 Wy'n gwbod siwd ma'r stori 'ma yn gorffen!
(1, 0) 810 Wy'n gwbod y diwedd!
(1, 0) 811 Ar ol i mamgu farw ma Alff yn gadel y cartre, gyda'r peth mwya gwerthfawr yn y wlad.
(1, 0) 812 A ma hi'n cwrdd a storiwr...
(Sosban) A canwr, a ma hi'n teithio gyda nhw, i hepu nhw gyda'u gwaith...
 
(Sosban) A canwr, a ma hi'n teithio gyda nhw, i hepu nhw gyda'u gwaith...
(1, 0) 814 Ond o'dd dim straeon na caneuon gyda Alff.
(Sosban) Dim ond y peth 'ma, y peth rhyfedd 'ma "llyfyr", a o'dd neb yn siwr beth o'dd i ddefnydd e...
 
(Sosban) Dim ond y peth 'ma, y peth rhyfedd 'ma "llyfyr", a o'dd neb yn siwr beth o'dd i ddefnydd e...
(1, 0) 816 Ond o'dd hi'n anghywir.
(1, 0) 817 Achos yn y llyfyr ro'dd pob can a pob stori...
(Sosban) A un diwrnod ma hi'n cwrdd a cawr...
 
(Sosban) A un diwrnod ma hi'n cwrdd a cawr...
(1, 0) 819 O'dd ddim yn gawr...
(Sosban) Ond o'dd yn sbei...
 
(Sosban) Ond o'dd yn sbei...
(1, 0) 821 O'dd yn gweud bod hi'n ffrind...
(Sosban) Ond o'dd eishe dwgyd y llyfyr...
 
(Sosban) Ond o'dd eishe dwgyd y llyfyr...
(1, 0) 823 Ond o'dd, wedir cwbwl, yn chwa'r...
(Sosban) I Alff.
 
(Sosban) Dim gwely cynnes hyfryd i gysgu'r nos...
(1, 0) 852 Ni'n cysgu ar y creigie, a gorfod hela am fwyd.
(Beth) {Yn dal y llyfr i fyny.}
 
(Beth) Fi ishe gwybod popeth sy yn hwn!
(1, 0) 855 A wy ishe adrodd pob stori sy yn hwn!