a1

Sibrwd yn y Nos (1998)

Noël Greig
add. Siôn Eirian

Ⓗ 1998 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1
Alff

Patshyn! Sosban! Ble y'ch chi? Patshyn! Sosban!



Daw Alff i'r llwyfan. Mae hi ar goll. Mae hi'n cario siwtces mawr, sy'n achosi cryn drafferth iddi. Mae hi'n syrthio'n swp, wedi blino, ond yna mae'n cofio am rywbeth sy yn y siwtces. Mae'n ei agor, a thynnu allan – siwtces arall, ychydig yn llai, gan fwynhau'r joc. Wedyn allan o hwnnw mae hi'n tynnu siwtces arall llai fyth, ac yna un arall eto sy hyd noed yn llai. O'r siwtces ola, bach, mae hi'n tynnu rhywbeth gwahanol iawn.

Llyfr – un hen, un hardd, a chywrain. Mae hi'n trysori hwn, yn ei ddal yn dynn, ac ebychu'n hapus wrth ei fwytho. Wedyn mae hi'n syllu arno, mewn penbleth, heb fod yn sicr beth yw'r trysor rhyfedd.

Maen ei lyfu, yn cnoi mymryn ar ei glawr. Ond mae'n amlwg nad yw e'n flasus iawn.

Alff

(Yn dyfynnu rhywbeth o'i chof.) "Allwch chi dim 'i fwyta fe – ond ma hwn yn rhoi bwyd i'r meddwl... "



Dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr iddi. Mae hi'n treio rhywbeth arall, gan roi'r llyfr ar ei phen, fel het. Ond mae'r llyfr yn mynnu syrthio oddiar ei chorun.

Alff

(Yn dyfynnu.) "Alwch chi ddim 'i wisgo fe – ond ma hwn yn twymo'r galon... " Dyw hyn ddim yn gwneud synnwyr chwaith. Felly mae hi'n dal y llyfr at ei chlust ac yn treio gwrando arno. Dim byd. (Yn dyfynnu.) "Allwch chi ddim 'i glywed e, ond yn hwn ma lleisie'r holl fyd..."



Mae hi'n ochneidio, ac yn syllu'n drist ar y llyfr heb ddeall ystyr yr hen ddyfyniadau. Wedi ymladd nawr, mae hi'n dylyfu gen, ac ar ol galw unwaith eto ar Patshyn a Sosban, mae hi'n ochneidio a gorwedd lawr i gysgu.

Yn sydyn mae hi'n eistedd fyny, wedi cael syniad gwych. Mae hi'n gafael yn y llyfr, ac yn ei osod o dan ei phen, fel pebai hi nawr yn gwybod yn union beth yw ei swyddogaeth.

Alff

Gobennydd!



Mae'n chwerthin yn hapus. Dyna beth yw e!

Alff

Gobennydd hyfryd!



Mae'n cwtsho lawr a chwympo i gysgu.

Daw Patshyn i'r llwyfan. Mae e'n gwisgo cot fawr. Mae e'n edrych ar goll ac yn ofnus. O weld Alff gwelwn ryddhad mawr ar ei wyneb.

Patshyn

Alff! O'n i'n meddwl bo ni wedi colli ti! Ma'i mor dywyll fan hyn, lan yn y mynyddoedd... A mor beryglus.



Mae'n diosg ei got. O dan hon mae clogyn rhyfedd o batshus a lluniau, sy'n frodwaith o straeon amrywiol. Mae rhai patshus yn newydd a llachar, eraill wedi pylu ac yn dreuliedig. Mae'n taenu'r got fawr dros Alff.

Patshyn

Cysga di'n dawel nawr, Alff. Fydd Patshyn yn edrych ar dy ol di, a cadw'r bleiddied bant.



Swn blaidd yn udo. Mae Patshyn yn llawn ofn. Swn udo eto. Mae Patshyn yn crynu fel deilen, ac yn treio ad-ennill ei hunan-feddiant.

Patshyn

(yn gweiddi.) Watsha di, yr hen flaidd! Fi yw Patshyn. A ma pob un patshyn ar y clogyn 'ma yn adrodd stori. Y cwbwl all blaidd neud yw codi ofon ar bobol, a'u lladd nhw, ond ma Patshyn yn gallu adrodd straeon!



Mae'n eistedd yn ymyl Alff, a thynnu'r got yn dynnach o'i hamgylch.

Patshyn

Weda i stori, ble ma'r blaidd yn ca'l 'i ladd.



Swn udo eto.

Patshyn

(Yn uchel.) Wedyn fydd y bleiddied ma's fanna ddim yn codi siwd ofon arnon ni! Wy'n mynd i adrodd stori Hugan Goch Fach.



O un o bocedi'r got mae e'n tynnu dol mewn hugan goch, ac yna trwyn blaidd, gan eu defnyddio wrth adrodd y stori.

Patshyn

O'dd hi'n gwisgo cap coch, a clogyn coch, a o'dd hi'n byw gyda'i mam ar ymyl y goedwig. Un dywrnod, wedodd 'i mam hi: "Wy ishe i ti fynd a basged o fwyd at mamgu. Rhaid i ti gerdded trwy'r goedwig, and paid a crwydro, ne ddaw'r bleiddied ar dy ol di. Cofia di nawr". "O.K. mam", wedodd Hugan Goch Fach. Ond yn y goedwig dywyll welodd Hugan Goch Fach flode o bob lliw... blode rhyfedd, blode pinc a blode melyn a blode coch, coch, coch – yr un lliw a'r clogyn a'r cap o'dd hi'n wisgo... blode yn tyfu rhwng y coed mawr... a'th hi i grwydro trwy'r coed, a'n sydyn... ro'dd hi ar goll! Wedyn fe glywodd hi lais o'r tywyllwch... "Ble wyt ti'n mynd Hugan Goch Fach?" A'r cwbl alle hi weld o'dd dau lygad mawr gwyrdd... "At mamgu, yr ochor arall i'r goedwig" wedodd Hugan Goch Fach... "Ddangosa i'r ffordd i ti" wedodd y ddau lygad mawr gwyrdd... "Diolch syr" wedodd Hugan Goch Fach... A ddechreuodd hi gerdded ar hyd y llwybr at dy mamgu. Ond welodd hi ddim beth o'dd tu ol y ddau lygad gwyrdd – blaidd mawr llwyd, a dannedd fel cyllyll bara. A ro'dd y blaidd yn rhedeg o flaen Hugan Goch Fach, rhedeg drw dywyllwch y goedwig fawr... A wedyn...



Mae'n stopio, a chrafu ei ben mewn penbleth.

Patshyn

A wedyn...



Mae'n stopio eto, yn ansicr iawn o'i hunan.

Patshyn

A wedyn...



Ond ddaw hi ddim.

Patshyn

O diar, wy wedi anghofio diwedd y stori. Wy erio'd wedi angofio hon o'r bla'n...!



Mae'n dal ei ben yn ei ddwylo ac yn dechrau crio. Mae hyn yn dihuno Alff, sy'n mynd ati i gysuro Patshyn.

Alff

Patshyn! Be sy'n bod? Paid a llefen.

Patshyn

Wy wedi anghofio'r diwedd. Wy wedi anghofio tair stori wythnos hyn yn barod! Edrych faint o'r hen batshus straeon ma sy'n dechre diflannu. Diflannu o'r clogyn, a diflannu o mhen i.



Mae e'n crio mwy fyth. Mewn ymgais i godi ei galon mae Alff yn pigo'r llyfr fyny..

Alff

Edrych! Wy'n gwybod beth yw hwn nawr.



Gan wneud sioe fawr o feimio cysgu a'r llyfr o dan ei phen mae hi'n dangos i Patshyn beth all swyddogaeth y llyfr fod.

Alff

Gobennydd yw e!

Patshyn

Llyfyr yw e

Alff

Gobennydd yw e!

Patshyn

Llyfyr yw e!

Alff

Gobennydd yw e!

Patshyn

Llyfyr!

Alff

Gobennydd!

Patshyn

Ond sdim defnydd iddo fe!

Alff

O's. Ma defnydd. Hwn yw'r peth mwya gwerthfawr yn y wlad i gyd.

Patshyn

Ie ie ie... wy'n gwybod. Allwch chi ddim 'i fwyta fe, allwch chi ddim 'i wisgo fe, allwch chi ddim 'i glywed e... bla bla bla...

Alff

A mi o'dd dege ohonyn nhw. Cannoedd ohonyn nhw... Miloedd ohonyn nhw... Ond o'dd hynny sbel sbel yn ol... a nawr dim ond un sy ar ol. Hwn.

Patshyn

Ond siwd all e fwydo ni, siwd all e gadw ni'n dwym, siwd all e siarad a ni?

Alff

Sai'n gwybod.

Patshyn

A pam wyt ti'n gweud mai gobennydd yw e nawr? Llyfyr o't ti'n galw fe bore ma.

Alff

Llyfyr o'dd mamgu yn glaw fe. Pan roiodd hi fe i fi. Fel anrheg. Jyst cyn iddi farw.

Patshyn

'Na fe!

Alff

'Na fe beth?

Patshyn

Y famgu! Yn marw... Yn ca'l 'i bwyta yn fyw...!

Alff

Naddo – na'th hi ddim!

Patshyn

Dim dy famgu di Alff, ond y famgu yn y stori, mamgu Hugan Goch Fach. Redodd y blaidd mawr llwyd trwy'r goedwig, bwyta'r famgu, gwisgo'i ffroc hi, gorwedd yn 'i gwely hi...

Alff

A ma Hugan Goch Fach yn dod miwn...

Patshyn

A ma hi'n dweud, "Ma'ch llyged chi mor fawr... "

Alff

"A'ch trwyn chi mor fawr... "

Patshyn

"A'ch clustie chi... "

Alff a Patshyn

(Gan roi braw ofnadwy i'w gilydd.) A'ch dannedd chi!!



Ar hyn daw Sosban i fewn yn ddirybudd.

Sosban

Fan hyn y'ch chi!



Maen nhw'n amlwg yn hapus o'i weld, ac yn teimlo rhyddhad mawr.

Alff a Patshyn

Sosban!

Patshyn

Ni wedi bod yn poeni'n ofnadw amdanot ti Sosban, y'n do fe Alff?

Sosban

Hy! Chi ddim yn edrych fel se chi'n poeni. Chi'ch dou yn whare gems fan hyn, a'r hen Sosban druan ar goll yn y tywyllwch ma's fanna.

Patshyn

(Gan roi ei freichiau o'i amgylch.) Yr hen Sosban druan.

Sosban

(Efelychu yn watwarus.) Yr hen Sosban druan. Chi ddim yn poeni amdano i.

Alff

Ni wedi ffeindio lle da i'r tri o ni gwato. Dan y creigie mawr, i gadw'r gwynt ma's... Dan y coed mawr i gadw'r glaw ma's...

Sosban

Ond sdim byd mor fawr a cawr – o's e?

Alff a Patshyn

Cawr?

Sosban

Cewri yw'r pethe mwya yn y byd i gyd. Sdim un man yn saff wrthyn nhw.

Patshyn

Wy ddim eishie siarad am gewri

Sosban

Weles i nhw

Alff

Pryd?

Sosban

Wrth i'r haul fynd lawr, dros ochor y mynydd. Rhyw filltir bant. Mor fawr a coed derw. Tri ohonyn nhw. Pan o'n nhw'n cerdded o'dd y ddaear yn ysgwyd a'r creigie yn crynu. Cysgodion mawr du, draw yn y pellter.

Patshyn

Yn cerdded aton ni fan hyn?

Sosban

Sai'n siwr. Ond heno, lawr yn y cwm, bydd y bobol fach i gyd yn cloi 'u dryse, cau 'u ffenestri a'n cuddio wrth y cewri... "Is there anyone in there telling stories," fydd y cewri'n holi... "Is there anyone in there singing songs?" A fydd y bobol yn gweud...

Alff a Patshyn

"No, we never do that sort of thing, we obey your law. No songs, no stories".

Sosban

Ie, na beth fyddan nhw'n weud.

Alff

Ond pam nad yw'r cewri yn gadel i ni adrodd straeon a canu caneuon?

Sosban
Sbel yn ol... Fe dda'th y cerwi i'n gwlad ni. Un o'r pethe wnethon nhw o'dd stopo'n pobol ni adrodd straeon, a canu a dysgu. On ma rhai o ni'n cario mla'n. Heb gael y'n dala. Heb i'r cewri allu y'n ffindio ni... (Can.)

Ry'n ni'n dod at y'n gilydd
Yn dawel dawel bach
I wrando ar yr awel
A sibrwd yn y nos

Adenydd bach yn curo
Calonne bach yn curo
Calonne bach llawn ofon
Yn curo yn y nos

Achos draw fan 'na yn y pellter
Ry'n ni'n gweld rhyw gysgod mawr
Yn symud yng ngole'r lleuad
Dod yn nes mae cysgod cawr...

Ma'r cewri mawr yn gwrando
Yn gwrando ar yr awel
Tra bo ni yn adrodd straeon
A chanu yn dawel, dawel

Tra bo ni yn sibrwd yn y nos...

Ry'n ni'n dod at y'n gilydd
Yn dawel dawel bach
I wrando ar yr awel
A sibrwd yn y nos



Mae Alff yn neidio ar ei thraed, yn ddig, ac yn gweiddi allan at y nos.

Alff

Grandawch 'ma, yr hen gewri mawr – wy ddim y'ch ofon chi! Newch chi byth y'n rhwystro ni rhag adrodd straeon a canu caneuon!

Patshyn

Hisht Alff, fyddan nhw'n clywed ti...

Alff

Sdim ots da fi. Ma'r bobol yn y cwm eishe clywed y straeon a'r caneuon. Y'n pobol ni... Sdim ots am gyfreithie yr hen gewri cas...

Patshyn

Ie, ti'n iawn.

Sosban

Wrth gwrs bod hi'n iawn.

Patshyn

Fory, ewn ni lawr i'r cwm...

Alff

I adrodd straeon...

Sosban

I ganu caneuon

Patshyn

Wy eishe adrodd... Stori'r deryn bach, a'r gath wyllt. Stori ddysgodd dadcu i fi.

Sosban

Reit. Ewn ni i'r pentre cynta yn y cwm... Sefyll ar y sgwar... A dweud...

Alff

Dyma i chi stori'r deryn bach... Pwy dderyn Patshyn?

Patshyn

Titw Tomos. Titw Tomos Las... Yr aderyn bach perta a mwya lliwgar yng Nghymru...



Mae Sosban wedi casglu ei offer creu cerddoriaeth. Gall Alff ddefnyddio aderyn papur ar ddarn o bren fel y titw. Ac fe all Patshyn ddefnyddio amrywiaeth o bropiau fel nyth a wyneb cath y mae e'n eu tynnu o'i got. Bydd canu yn plethu drwy'r adrodd stori.

Patshyn

Ma'r Titw Tomos bach yn hedfan dros y gerddi, yn gwrando, yn chwilio. (Can.)

Gwrando ar adenydd
Adenydd bach yn curo
Calon fach yn curo
Mewn gobaith a llawenydd

Ma'r titw bach yn ffindio'i nyth. Mewn gardd fawr. Mewn coeden dal. Yn y nyth ma gyda hi ddwy o adar bach. Dwy ferch. Yn cysgu yn dawel yn y nyth fach dwym... Ma'r nos yn dod...

Alff

A wedyn?

Patshyn

A wedyn, yn y nos, ma'r Titw Tomos yn gweld dau lygad melyn mawr. Yn edrych lan ar y nyth. Cath wyllt, yn sefyll lan ar i tra'd ol, yn mestyn 'i pawen at y nyth fach... A ma'r Titw Tomos yn... (Can.)

Gwrando ar adenydd
Adenydd bach yn curo
Calonne bach yn curo
Mewn ofon a nerfusrwydd

Ma'r hen gath yn gweud, "Paid bod ofon, y Titw Tomos bach, wy ddim eishe dy fwyta di. Ishe cwmni ydw i, ishe ffrind bach. Rhywun i ganu can i fi, i neud i'n hapus. Ma dwy o ferched bach gyda ti fanna. Gad i fi ga'l un. Y ferch leia. Fydd hi'n hapus gyda fi, yn canu trw'r dydd, a fydda inne, o, mor hapus gyda'n ffrind bach newydd...

Alff

Na! Dyw'r gath ddim yn mynd a hi! Dyw'r Titw Tomos ddim yn gadel i'r deryn bach lleia i fynd!



Mae'r adrodd stori a'r canu yn dod i ben yn ddirybudd.

Patshyn

Odi ma hi Alff. Fel 'na ma'r stori'n mynd...

Alff

Wy ddim eishe i'r gath fynd a'r aderyn!

Patshyn

Wel 'na'r stori....

Alff

Oce, fydd rhaid i ni newid y stori. Wy'n casau'r stori, casau hi!

Sosban

Dim ond stori yw hi. Hen stori dwp. Stori stiwpid.

Alff

Ond o'dd gyda fi chwar fach. A'th rhywun a hi bant. Pan o'n i'n ferch fach.

Sosban

Y cewri?

Alff

Ie – y cewri. 'Na ni... "Give us your youngest one. We will not harm her..." A mi a'th y cewri a hi bant.

Sosban

Ti wedi gweld hi wedyn?

Alff

Rhyw ddwyrnod, fydda i'n ffindio hi. Wy'n gwybod.

Sosban

Byddi Alff. Wy'n siwr byddi di.

Alff

Ond siwd fydda i'n nabod hi? Ma gymint o amser wedi mynd... Sbel hir o amser. Wy ddim yn cofio 'i wyneb hi. Siwd fydda i'n nabod hi, Sosban?

Sosban
Wrth wrando ar dy galon, Alff. (Can.)

Gwrando ar dy galon
Ar swn yr hen ganeuon
Ar sibrwd dy atgofion
Sy'n adrodd yr hen straeon
Pryd hynny falle y ffeindi
Yr hyn wyt ti wedi golli
A falle hefyd y gweli
Wynebe coll dy deulu – ond
Ma rhaid i ti ddibynnu
Ar dy gof a dy galon di...

Alff

Ewn ni a'n straeon a'n caneuon at bawb yn y cwm – rownd y tai, lan at y ffatri, draw at y pwll glo, i'r ysgolion a'r capeli... A rhyw ddwyrnod fydd hi 'na yn gwrando arnon ni, a fydd y nghalon i'n nabod hi. Pwy straeon arall allwn ni adrodd fory Patshyn?

Patshyn

O na! Ma'i wedi mynd!

Sosban

Y? Be sy wedi mynd?

Patshyn

Diwedd stori y Titw Tomos Las a'r gath. Ma stori arall yn dechre diflannu o mhen i nawr.

Sosban

Pan wyt ti'n marw Patshyn, bydd y straeon i gyd yn marw. A pan fydda i'n marw, bydd y caneuon i gyd yn marw.

Patshyn

Ma popeth yn mynd i farw Sosban. Pob stori, pob can yn mynd i ddiflannu...



Does gan Alff ddim amynedd i wrando ar yr hunan dosturi yma. Mae hi'n meddwl am rywbeth arall ac mae golwg heriol ar ei hwyneb nawr.

Alff

Olreit, chi'ch dau yn mynd i farw...

Sosban a Patshyn

Odyn...

Alff

Wel, bw–hw... Fyddech chi ddim eishe swper 'te. Sdim ishe wasto swper ar bobol sy bron a marw.

Sosban a Patshyn

Swper?

Alff

Fyta i'r swper i gyd y'n hunan.

Sosban

Ond wy'n starfo!

Alff

Pan o'n i'n cerdded o'r cwm, lan i fan hyn... Ffindies i rwbeth. Rwbeth hyfryd iawn.

Patshyn

Rwbeth hyfryd... I fyta?

Alff

Tri peth hyfryd.

Sosban a Patshyn

Beth y'n nhw? Alff? Tri beth? Oh Alff...!

Alff

Briwsion.

Sosban a Patshyn

Briwsion!

Patshyn

Dyw briwsion ddim yn swper...

Sosban

Dyw briwsion ddim yn ddigon o fwyd i ddyn mawr fel fi...

Alff

O, odyn ma nhw yn ddigon. Pan ma nhw'n friwsion o fwrdd... y cewri!

Patshyn

Briwsion mawr...?

Sosban

Briwsion cawr?



O blygion ei chot mae Alff yn tynnu tri briwsionyn anferth.

Alff

Briwsion o fara...

Sosban

O fara... mmm.

Patshyn

Bara... W!

Alff

Briwsion o gaws...

Sosban

O gaws... mmmm.

Patshyn

Caws... W!

Alff

Briwsion o gacen...

Sosban

O gacen... Mmmm.

Patshyn

Cacen... W!



Ceir portread drwy ystum o'r tri yn rhannu bwyd wrth i'r briwsion gael eu taflu gan y naill at y llall mewn cylch. Mae'r tri yn mwynhau'r ddefod a'r bwyta yn fawr iawn, ac yn gorffen sglaffio yr un pryd.

Sosban

Wy'n mwynhau gymaint, ma nghalon i'n mynd bwm-bwm-bwm...

Patshyn

Y nghalon i hefyd. Bwm-bwm-bwm.

Alff

A nghalon i. Bwm-bwm-bwm.

Sosban

Chi'n clywed y nghalon i'n curo nawr... Bwm-bwm-bwm!



Clywir rhythm trwm yn atseinio, fel traed cawr yn yn taro'r ddaear.

Patshyn

A nghalon i...

Alff

A nghalon i...



Mae'r swn yn chwyddo.

Patshyn

Fel swn...

Alff

Fel swn...

Y Tri

Cewri!!!!!



Panic cyffredinol.

Sosban

Ma nhw wedi nghlywed i'n canu!

Patshyn

Ma nhw wedi nghlywed i'n adrodd straeon!

Alff

Cwatwch y pethe ma... Cwatwch bopeth... Glou!



Maen nhw'n treio cuddio'r offerynau a'r propiau gan fynd i strach ofnadwy, tra ar yr un pryd yn treio cuddio rhag pwy bynnag sy'n agoshau. Daw'r swn yn nes ac yn nes.

Daw'r cawr i'r llwyfan. Mae'n horwth o beth yn cerdded ar sgidiau uchel mawr, a'i gorff dan glogyn du gyda dwylo anferth yn gwthio drwodd. Ar ei ben mae het uchel fawr, a lliain yn cuddio'r wyneb. Mae'r tri yn cuddio ac yn crynu.

Llais

Clump clump clump, here I come. I'm a giant, I'm a killer I've come for the storyteller.

Sosban

(Yn llawn ofn.) Cer di, i ymladd ag e!

Patshyn

Cer di – ti yw'r mwya...

Sosban a Patshyn

(Wrth Alff.) Yyyyy... Cer di!

Alff

Fi yw'r lleia... Fi yw'r un sy a mwya o ofon...!

Llais

Clump clump clump, here I am. I'm a giant, I'm a killer I've come for the songsinger.



Tro Patshyn yw hi nawr i fod yn llawn ofn.

Sosban

Gwed rwbeth!

Patshyn

Gweud beth?

Sosban

Tria edrych yn cwl... Felse dim ofon arnot ti...

Patshyn

(Heb argyhoeddi o gwbwl.) Hello. Nice weather for the time of year...

Sosban

O'dd hwnna'n rybish. Gad i fi drio. Evening. I had a toothache last year.

Patshyn

O'dd hwnna'n rybish, rybish!

Sosban

O'n i'n trio dechre sgwrs fach...



Maen nhw'n dechrau dadlau ymysg ei gilydd. Ar yr un pryd mae Alff yn mentro at y cawr ac yn sbecian o dan arffed ei glogyn. Ar dop y sgidiau anferth mae par o goesau tenau iawn.

Alff

Dim cawr yw e... Ma gydag e goese bach fel matshus! Drychwch!

Llais

I am a terrible giant...

Alff

No you're not! (Wrth y lleill.) Drychwch!

Sosban

Wrth gwrs mai ddim cawr yw e. O'n i'n gwbod 'na trwy'r amser. Hy!

Patshyn

O'n i'n gwbod hefyd. Hy, hy!

Alff

Get down and show us who you are!



Mae'r dieithryn yn raddol yn diosg y clogyn ac yn camu lawr oddi ar y sgidiau uchel. Merch ifanc yw hi, yn edrych fel doli, yn bert ond yn sinistr.

Alff

Why were you dressed as a giant?

Sosban

Trying to scare us...

Patshyn

Not that we were scared.

Sosban

Exactly. Not that we were scared.

Alff

Well?

Y Ferch

I... I'd heard there were giants up here in the mountains, and I thought if I looked like one, they'd leave me alone...

Alff

But why are you up here anyway?

Y Ferch

I... I... I wanted to come and join you. I wanted to travel with you and help to keep songs and stories alive.

Patshyn

Ond siwd o'dd hi'n gwbod bod ni fan hyn?

Y Ferch

Oh you're quite famous. The giants hate you like you're poison, and they said you were up in these mountains somewhere.

Patshyn

Said to who? Said to you?

Y Ferch

Oh no, not me. I wouldn't dare speak to a giant...

Patshyn

Celwydd! Sbei yw hi. Y cewri sy wedi hala hi lan ma.

Y Ferch

(Mewn Cymraeg ansicr.) Na... Dim sbei... Ond ffrind.

Alff

Wy'n credu hi. Ma hi'n gweud y gwir. Ma hi'n siarad yr un iaith a ni...

Patshyn

Ond ble ddysgodd hi'n iaith ni?

Y Ferch

Cofio... Tipyn bach...

Patshyn

Rybish! Ma hi'n gweud celwydd. A beth y'n ni'n neud a sbeis, eh?



Mae ganddo ddarn o raff yn ei ddwylo. Mae Sosban yn cuddio ei lygaid gyda'i ddwylo.

Sosban

O Patshyn... Ti ddim yn mynd i ladd rhywun eto, plis...

Alff

Patshyn, Sosban – pan ddes i atoch chi o'dd neb o ni yn siarad am ladd pobol.

Patshyn

Os yw hi'n sbei, rhaid crogi hi.



Dechreua symud yn agosach at y dieithryn.

Sosban

Alff, ti'n rhy ifanc i ddiall. Ma rhaid neud pethe ofnadw withe...



Mae Patshyn yn codi'r rhaff. Yn sydyn mae Alff yn llamu rhyngddo fe a'r dieithryn.

Alff

Na! Paid! Walle bod hi yn ffrind i ni. Plis Patshyn!



Mae'r tri yn syllu ar y dieithryn.

Y Ferch

Fi'n gweud stori i chi. Stori glywes i... Stori yn cael 'i sibrwd yn y nos...

Alff

Ti'n gweld Patshyn...

Y Ferch

Stori i helpu fi i gysgu...

Patshyn

Celwydd!

Alff

Patshyn – rho'r rhaff 'na lawr. Nawr!

Sosban

Patshyn!



Mae e'n gwneud hynny.

Alff

Beth yw'r stori?

Y Ferch

Ceffyl... a dyn...

Patshyn

Pah...

Y Ferch

Yn rhedeg ras... Dyn yn byw yn y cwm nesa... Dyn yn gallu rhedeg... Mwy fast na whipet... Mwy ffast na bwlet...

Patshyn

Hyh! Rybish...



Adrodda'r dieithryn y stori, ac yn raddol mae rhywbeth yn ystwyrian yng nghof Alff, nes ei bod yn ymuno yn y stori gan actio'r rhannau. Mae hyn yn denu Sosban, sy'n llai gelyniaethus na Patshyn, i ymuno hefyd.

Y Ferch

Y dyn ifanc... Ma fe yn cymryd bet... Bod e yn gallu rhedeg mwy ffast na ceffyl. Bet i ennill arian, i briodi 'i gariad, prynu ty iddyn nhw... Crowd mawr o bobol yn dod i weld ras... Lan o'r cwm, lan dros y mynydd... Gweld y dyn yn erbyn ceffyl... Rhedeg ras...

Alff

Guto Nyth Bran...

Patshyn

Pah!

Y Ferch

Ie... Guto. Enw y dyn, yw Guto... A'r dyn a'r ceffyl, yn rhedeg, rhedeg... mor ffast...

Alff

Rhedeg fel y gwynt... Rhedeg fel dau filgi...

Y Ferch

Lan y cwm... Dros y mynydd... i'r cwm nesa... A reit ar y diwedd... Crowd mawr ar y lein...

Alff

Reit ar diwedd y ras...

Y Ferch

Guto yn ennill...

Alff

Guto Nyth Bran!

Y Ferch

Cariad Guto...

Alff

Y ferch berta yn y cwm...

Y Ferch

Yn gweud hwre wrth Guto... rhoi breichie rownd gwddw Guto... slap ar gefn Guto...

Alff

Llongyfarchiade cariad! Ti wedi ennill y ras, Guto!

Y Ferch

Ond ma calon Guto... Mae'n stopo. Ma Guto'n mynd lawr...

Alff

Cwmpo lawr ar y llawr...

Y Ferch

Yn farw!



Erbyn hyn mae Patshyn yntau wedi ei rwydo i fewn i'r chwarae.

Alff

A ma'r bobol i gyd yn llefen. Ma nhw wedi colli y rhedwr gore yng Nghymru. A ma'r ferch wedi colli 'i chariad... Dim priodas, dim cartre newydd...

Sosban

O – 'na stori drist... Wy ishe llefen...

Patshyn

Stori a diwedd iddi. Diwedd da. Bravo!

Alff

Chi'n gweld. Ma hi yn gallu adrodd straeon. Ma hi yn ffrind i ni.

Patshyn

(Yn ofidus iawn.) Wwwwww!

Alff

Be sy nawr Patshyn?

Patshyn

Diwed y stori... y diwedd hyfryd 'na. Wy wedi anghofio fe'n barod!

Sosban

(Wrthon ni ac wrth y dieithryn.) Fel hyn ma Patshyn. Fel ma'r patshus yn diflannu o'i got e, ma'r streaon yn dechre diflannu o'i ben e. 'Ny pam ma rhaid i ni gael pobol fel Alff a ti i ddysgu y straeon a'r caneuon. Ne fyddan nhw i gyd yn marw gyda Patshyn a fi...

Alff

A bydd byd cyfan wedi diflannu. Bydd y cyfan wedi golli i ni. Ma's on gafael ni....



Can.

Y Ferch
The most wonderful place in the world
They say
Is over the hills and far away
Where the grass gets greener every day,
That's what they say, that's what they say.

Alff
Y lle gore o bell yn y byd
I gyd
Ble ma'r wlad yn wyrdd a llawn o hud
Ble ma'r galon yn hapus drwy y dydd
Yw'r byd ble alla i deimlo'n rhydd.

Corws
Pan ma'r cymyle'n llwyd
A ninne heb fwyd
Ry'n ni'n gallu cofio –
Pwy alle anghofio –
Bod gwlad sy wedi 'i cholli
Yn dala'i berthyn i ni
Mond i ni chwilio amdani... gyda'n gilydd.



Maen nhw wedi blino ar ol y chwarae egniol. Patshyn a Sosban sy'n cwympo i gysgu gyntaf. Mae Alff yn dylyfu gen, yna'n cymryd ei llyfr o'r siwtces a'i ddangos i'r dieithryn.

Alff

Ti ishe'r gobennydd ma? Ddim gobennydd yw e wir, ond llyfyr – ond wy ddim yn gwybod siwd i ddefnyddio llyfyr, felly wy'n defnyddio fe fel gobennydd. Wy mor falch i ga'l frind newydd! (Mae hithe'n cysgu.)



Cogio cysgu a wna'r dieithryn. Mae'r lleill yn mwmial a thuchan yn eu cwsg. Pan fo'r dieithryn yn siwr eu bod yn cysgu'n sownd mae hi yn gafael yn y llyfr, yna'r clogyn straeon, yna'r offerynnau cerdd ac yn dechrau cilio i'r tywyllwch yn slei bach. Ond mae Patshyn yn dihuno'n sydyn ac yn gweld beth sy'n digwydd.

Patshyn

Alff! Sosban! Help!



Mae'r lleill yn dihuno.

Patshyn

(Yn pwyntio.) Y clogyn straeon!

Sosban

Yr offerynne!



Mae nhw'n treio corneli'r dieithryn...

Patshyn

Wedes i bod hi'n gweud celwydd....



Yn ystod y cwrso mae'r dieithryn yn gollwng y clogyn, yna'r offerynnau ac mae Patshyn a Sosban yn cipio'r rhain yn ol. Mae nhw allan o bwff yn lan.

Patshyn

Sbei yw hi. Sbei y cewri!

Alff

Y gobennydd!



Mae Alff yn dal i gwrso ar ol y dieithryn.

Sosban

O diolch i ti Patshyn... Ne fydden i wedi colli yr holl offerynne hyfryd ma.

Patshyn

A finne wedi colli'r clogyn straeon hyfryd 'ma.

Alff

(Yn cwrso a gweiddi.) Sosban, Patshyn, helpwch fi!

Sosban

Mae'n olreit, ma'n offerynne i'n saff.

Patshyn

A nghlogyn straeon i.

Alff

Ond beth am y ngobennydd i!

Patshyn

Dim ond llyfyr yw e. Hen lyfyr anobeithiol.

Sosban

Geith hi gadw hwnna. Ni ddim ishe fe!



Mae Alff wedi hanner dal y diethryn, sy'n troi arni yn fygythiol ac yn ffyrnig.

Y Ferch

Wrong! This (yn dal y llyfr i fyny) is the most precious object in the whole world!

Alff

(Wrthi ei hun.) Y peth mwya gwerthfawr yn y byd i gyd...

Y Ferch

Cewri eishe hwn... Cewri eishe y llyfyr. The book.



Mae clywed hyn yn sioc i'r tri teithiwr. Mae Alff yn treio cipio'r llyfr eto.

Alff

Wel ni eishe fe nol!

Y Ferch

Aros! One more step and I'll destroy it.

Patshyn

Paid credu hi...

Sosban

All hi ddim...

Y Ferch

Wel, watshwch!



Mae hi'n agor y llyfr yn ofalus, yna'n fwriadus ac yn filain mae hi'n rhwygo'r dudalen gynta allan ohono. Mae hi'n gwasgu'r dudalen yn belen a'i thaflu at Alff. Gyda sgrech fach o boen mae Alff yn pigo'r dudalen fyny. Mae Patshyn a Sosban yn ei chysuro.

Alff

Mamgu roiodd hwn i fi....

Sosban

Ond pam mae e mor werthfawr?

Patshyn

Dyw e ddim... Sdim defnydd iddo fe.

Y Ferch

Yn hwn... Pob stori... A pob can... Yn y byd.

Patshyn

Hwnna? Amhosib...

Y Ferch

Olreit... Beth yw hwnna?



Mae hi'n pwyntio. Mae nhw'n agor y belen bapur a syllu ar y dudalen.

Y Ferch

Page – tudalen... Writing – ysgrifen... Words – geirie... Geirie sy'n dweud storis...

Patshyn

Y marce bach hyn ar y papur sy'n gweud straeon?

Y Ferch

Dim ond os chi yn gallu darllen. Ma geirie yn dweud storis, os chi yn gallu darllen.

Alff

(Yn ofidus.) Ond wy ddim yn gallu darllen!

Y Ferch

Ond ma'r cewri yn. Nhw wedi dysgu fi. Dysgu darllen. But you can't because the giants don't want you to.

Alff

Pam nad yw'r cewri eishe fi i ddarllen?

Y Ferch

(Yn ansicr.) Ddim yn gwybod... But you'll never learn to read now because I've got the last book.

Patshyn

Sai'n credu ti.

Sosban

A beth yw darllen, eh? O's unrhywun yn gwbod beth yw darllen?

Y Ferch

Fi yn. (Gan agor y llyfr.) I shall read from the last story in the book, for it is called... (yn araf.) "Y stori am y cewri yn cymeryd fy... (yn baglu dros y gair)... wy-r-es... fach i.

Patshyn

Wyres – grand-daughter... Merch i ferch mamgu.

Alff

Wyres fach mamgu. Fel fi.

Y Ferch

Reit. Y stori... Fi ishe hwnna.



Mae hi'n pwyntio at glogyn straeon Patshyn. Dyw e ddim am ollwng ei afael arno.

Y Ferch

Nawr! Ne bydda i'n...



Mae'n paratoi i rwygo tudalen arall o'r hen lyfr. Mae e'n dal yn gyndyn.

Alff

Plis Patshyn. Rho'r clogyn straeon iddi. Plis...



Mae Patshyn yn mynd ati a rhoi'r clogyn lawr yn ei hymyl, yn anfoddog iawn.

Y Ferch

(Wrth Sosban.) A ti. Y pethe miwsic!



Mae Sosban yn gwneud yr un peth, dan brotest.

Y Ferch

Reit! (Darllen yn araf eto.) "Un tro roedd pawb yn y wlad yn hapus, yn adrodd straeon, yn canu caneuon, yn cadw ein hanes ni yn fyw. Mae'r holl hanesion a straeon yn y llyfyr yma, i gadw i'n plant... Wedyn daeth y cewri i'r wlad. Fe ddwedon nhw wrth y bobol: 'We are your masters now. You must forget everything that has ever happened to your people: your happiness and your sadness, your battles and your festivals, your customs and your ways, your births and your deaths and the lives of all your ancestors. It will be as if these things never happened... ' "

Alff

'Na pam dyw'r cewri ddim eishe i fi darllen!

Y Ferch

"Fe wnaeth y cewri basio cyf... reith... iau... "

Alff

Cyfreithiau... Laws...

Y Ferch

"Cyf-reith-iau newydd... "

Alff

New laws. They passed new laws...

Y Ferch

"Yn gwneud y storiwyr a'r cantorion yn... dro - se - ddw -... "

Alff

(Yn helpu.) Troseddwyr. Criminals...

Y Ferch

"Yn Droseddwyr, oedd yn cael eu hela, fel anifeiliaid gwyllt... Fe gafodd pob llyfyr ei ddistriwio, ar wahan i'r llyfyr yma, y llyfyr ola..." Eishe fi gario mlaen?



Maent yn nodio, yn bryderus.

Y Ferch

"A dyma ran fwya trist fy stori i. Cyn i fi farw, ma rhaid i fi ddweud wrthoch chi am fy wyres i. Unwaith, roedd gen i ddwy wyres fach..."

Alff

Stori mamgu yw hon. Mamgu fi!

Y Ferch

"Enw un oedd Alffa. Hi oedd yr hena... "

Alff

Fi yw honno!

Y Ferch

"A'i chwaer fach hi, yr wyres ienga, oedd Beth."

Alff

Y'n chwaer fach i!

Y Ferch

"Alffa a Beth, ar ol dwy lythyren gynta y wyddor. Yr alffabet. Ond un diwrnod daeth y cewri i gymryd Beth bant, gan ddweud: 'It is our law that the youngest child is taken into our keeping to sleep on fine feather beds andeat the richest food...' "



Mae hi'n oedi am ennyd, fel pe'n cofio rhywbeth, yna'n cario mlaen ond yn llai hyderus.

Y Ferch

"'And we will make her forget her childhood. Then she will know only what we want her to know... ' "



Unwaith eto mae hi'n oedi, fel pe'n ymdrechu i gofio rhywbeth eto.

Alff

Caria mla'n!

Y Ferch

"'And we will teach her to lie and to spy and to steal from her own people. Teach her to help us hunt down the storytellers and the songsingers. That is what we will do to all your youngest. Teach them to help us crush their own people.' Dyna beth ddwedodd y cewri wrtho i pan aethon nhw a Beth fach bant."



Y tro yma mae hi yn stopio, ac yn cael anhawster wrth geisio darllen ymlaen.

Alff

Caria mla'n!

Y Ferch

Ddim eishe.

Alff

Ond pam?

Y Ferch

Achos... Achos fi'n cofio fe nawr.

Alff

Beth?

Y Ferch

The riddle. Y pos...

Alff

Pos?

Y Ferch

Yr un ddysgodd...

Alff

Mamgu i ti!

Y Ferch

Hwn yw'r peth... Mwya gwerthfawr...

Alff

(Wedi cyffroi.) Allwch chi ddim i fwyta fe – ond ma hwn...

Y Ferch

... yn rhoi bwyd i'r meddwl... Allwch chi ddim 'i wisgo fe –

Alff

– ond ma hwn yn twymo'r galon... Allwch chi ddim 'i glywed e, ond yn hwn...

Y Ferch

... ma lleisie'r holl fyd... A nawr wy'n cofio rwbeth arall...



Mae'r lleill yn ymwybodol nawr fod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd, ac mae'r dieithryn yn gafael yn y dudalen a rwygwyd ganddi o'r llyfr.

Y Ferch

Ar y dudalen gynta yn y llyfyr... Ma e'n dweud... "Mae hwn i'm dwy wyres fach...."



Mae Alff yn edrych ar y dudalen ac yn pwyntio at y gair.

Alff

"Alffa"... Fi! Wy'n darllen y'n enw i!

Y Ferch

"A Beth."



Mae Alff yn syllu ar y dieithryn dan deimlad mawr.

Patshyn

Wy'n gwbod siwd ma'r stori 'ma yn gorffen! Wy'n gwbod y diwedd! Ar ol i mamgu farw ma Alff yn gadel y cartre, gyda'r peth mwya gwerthfawr yn y wlad. A ma hi'n cwrdd a storiwr...

Sosban

A canwr, a ma hi'n teithio gyda nhw, i hepu nhw gyda'u gwaith...

Patshyn

Ond o'dd dim straeon na caneuon gyda Alff.

Sosban

Dim ond y peth 'ma, y peth rhyfedd 'ma "llyfyr", a o'dd neb yn siwr beth o'dd i ddefnydd e...

Patshyn

Ond o'dd hi'n anghywir. Achos yn y llyfyr ro'dd pob can a pob stori...

Sosban

A un diwrnod ma hi'n cwrdd a cawr...

Patshyn

O'dd ddim yn gawr...

Sosban

Ond o'dd yn sbei...

Patshyn

O'dd yn gweud bod hi'n ffrind...

Sosban

Ond o'dd eishe dwgyd y llyfyr...

Patshyn

Ond o'dd, wedir cwbwl, yn chwa'r...

Sosban

I Alff. Chwa'r fach o'r enw Beth!

Alff

Ti yw y'n chwa'r i! O'n i'n gwbod, o'n i'n gwbod! O'n i'n gwbod o'r dechre!

Y Ferch

Gwbod?

Alff

All Sosban weud wrthot ti, gweud siwd o'n i'n gwbod.

Sosban

Yn 'i chalon. O'dd 'i chalon hi yn nabod ti.

Y Ferch

Pam o'dd calon fi... Ddim yn nabod hi?

Sosban

Achos bod y cewri wedi dwgyd dy gof di, dwgyd dy feddwl di... (Yn ffugio llais brawychus.) Sugno popeth ma's o dy ben di. Dy neud di yn sbei, am byth.



Mae'n codi ei law ac yn pwyntio fel pe'n gorchymyn Beth i adael. Mae Alff a Patshyn yn edrych yn brudd. Dechreua Beth gerdded i ffwrdd. Ond all Sosban ddim cynnal y ffugio, ac mae'n prysuro i alw Beth yn ol.

Sosban

Ond os wyt ti ishe aros, allu di ddysgu ni i ddarllen.

Alff

A fydden i byth yn anghofio diwedd y straeon wedyn. Fydden nhw yn y llyfyr i fi ddarllen nhw!

Sosban

(Yn garedig.) Wy'n hen ddyn nawr Beth. Ond alla i ddysgu. Ti ishe aros gyda ni, i ddysgu ni?

Alff

Mae e'n fywyd peryglus, Beth...

Sosban

Dim gwely cynnes hyfryd i gysgu'r nos...

Patshyn

Ni'n cysgu ar y creigie, a gorfod hela am fwyd.

Beth

(Yn dal y llyfr i fyny.) Fi ishe gwybod popeth sy yn hwn!

Patshyn

A wy ishe adrodd pob stori sy yn hwn!

Sosban

A wy ishe canu pob can sy yn hwn!

Alff

A wy ishe rhannu gyda'r wlad i gyd popeth sy yn hwn!

Beth

A gyda help hwn, falle...

Alff

Rhyw ddywrnod...

Beth

Rhyw bryd...

Sosban

Cyn bo hir... Allwn ni.... Falle gallwn ni...



Mae'r pedwar yn edrych ar ei gilydd, yna gyda gobaith a hyder maen nhw'n sibrwd yn gryf:

Pawb

Ga'l gwared y cewri!!!



Llawenydd. Maen nhw'n dechrau pacio eu pethau wrth iddyn nhw ganu y gan olaf.

Pawb
(Can.)
Gwrando ar dy galon
Ar swn yr hen ganeuon
Ar sibrwd dy atgofion
Sy'n adrodd yr hen straeon
Pryd hynny falle y ffeindi
Yr hyn wyt ti wedi golli
A falle hefyd y gweli
Wynebe coll dy deulu – ond
Ma rhaid i ti ddibynnu
Ar dy gof a dy galon di... a ti... a ti... a ti...



Erbyn diwedd y gan maen nhw wedi gadael y llwyfan – ag eithrio Alff. Clywn Patshyn yn galw arni o'r pellter. Mae hi'n gafael yn y siwtces ac yn prysuro i ffwrdd ar eu hol. Y DIWEDD

a1